Cydweithio ac Adeiladu ar y Cyd
Mae’r dudalen hon yn eich cyflwyno i gysyniadau cydweithio a chyd-adeiladu, sydd wedi’u cysylltu’n annatod ag ymgysylltiad myfyrwyr. Pan fydd gan fyfyrwyr gyfleoedd ystyrlon i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau a gwelliannau addysgol, maen nhw’n datblygu ymdeimlad dyfnach o berthyn, asiantaeth a chysylltiad â’u cymuned academaidd.
Nod y dudalen hon yw archwilio sut gall cydweithio, partneriaeth ac adeiladu ar y cyd gryfhau llais y myfyrwyr a chefnogi gwelliannau addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd. Fe’i cynlluniwyd ar gyfer cydweithwyr sy’n arwain, cyflwyno, cefnogi a gwella dysgu ac addysgu, gan gynnwys Arweinwyr Rhaglenni a Modiwlau, staff sy’n ymwneud â phrosesau Adolygu a Gwella, a chydweithwyr sy’n gweithio gyda Chynrychiolwyr Myfyrwyr, Partneriaid Profiad Myfyrwyr, a 100 Caerdydd.
Wedi’i alinio â’r Fframwaith Safonau Proffesiynol: V1, V2, V5, K1, K2, K5, A5
Gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth drwy gymryd rhan yn ein gweithdai cysylltiedig ar Gydweithio, Ymgysylltu â Myfyrwyr a Gwerthuso. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen DPP Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.
Pa leisiau sydd ar goll?
Mae hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd partneriaethau ystyrlon â myfyrwyr. Ni ddylid cyfyngu ar gyfleoedd i fyfyrwyr sydd eisoes yn hyderus, yn hynod weladwy neu sy’n gyfarwydd â phrosesau’r brifysgol i gyfrannu. Yn hytrach, dylid dylunio gweithgareddau partneriaeth fel eu bod yn chwalu rhwystrau, yn gwerthfawrogi safbwyntiau amrywiol, ac yn cynnig sawl ffordd y gall myfyrwyr ymgysylltu a chyfrannu.
Wrth i chi symud drwy’r dudalen hon, ystyriwch y canlynol:
Pa leisiau sy’n cael eu clywed ar hyn o bryd? Safbwyntiau pwy all fod ar goll o bosibl? Sut gall cyfleoedd partneriaeth ddod yn fwy hygyrch, gweladwy a chynhwysol drwy gydol y daith i fyfyrwyr?
Er ei bod hi’n bosibl bod cyfleoedd i gymryd rhan ar gael, nid yw pob myfyriwr yn gallu neu’n fodlon cyfrannu yn yr un ffordd. Gall ffactorau megis hyder, pwysau amser, cyfrifoldebau gofalu, anabledd, ymrwymiadau cyflogaeth, cymudo, gwahaniaethau ieithyddol a phrofiadau addysgol blaenorol i gyd ddylanwadu ar y ffordd y mae myfyrwyr yn ymgysylltu.
O ganlyniad, mae’n bosibl nad yw’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau adborth a chynrychiolaeth yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned fyfyrwyr ehangach yn llawn.
Beth yw Partneriaeth Myfyrwyr?
Yn draddodiadol, mae sefydliadau addysg uwch wedi ystyried myfyrwyr yn rhai sy’n cael eu haddysgu, neu fel ffynonellau goddefol o adborth. Fodd bynnag, mae datblygiad addysgol cyfoes yn cydnabod myfyrwyr fel cyfranwyr gweithredol sy’n dod ag arbenigedd gwerthfawr drwy eu profiadau go iawn o ddysgu.
Mae Healey, Flint a Harrington (2014) yn disgrifio partneriaeth fel:
“…proses gydweithredol a dwyochrog lle mae staff a myfyrwyr yn cydweithio i lunio, datblygu a gwella dysgu ac addysgu”.
Pŵer Arbenigedd Ategol
Mae partneriaeth yn llwyddo gan ei fod yn dwyn ynghyd dau fath unigryw o arbenigedd, sydd ill dau yr un mor werthfawr:
| Arbenigedd Staff | Profiad y Myfyrwyr |
| Gwybodaeth ddisgyblaethol a gwybodaeth am addysgeg | Profiad byw o amgylcheddau dysgu cyfredol |
| Mewnwelediadau sefydliadol a phroffesiynol | Profiad uniongyrchol o lwyth gwaith asesu a rhwystrau |
| Safonau ledled y sector a sicrwydd ansawdd | Safbwyntiau gan gymheiriaid a datrysiadau newydd i heriau cyson |
Dengys ymchwil bod partneriaeth rhwng myfyrwyr a staff yn gwella lefelau ymgysylltu myfyrwyr, yr ymdeimlad o berthyn, hyder ac asiantaeth. Mae hefyd yn cefnogi arferion addysgol mwy ymatebol a chynhwysol drwy wneud yn siŵr bod penderfyniadau’n cael eu dylunio gan y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf.
Cydweithio, Partneriaeth a Gwella
Mae cydweithio ac adeiladu ar y cyd yn gysylltiedig iawn â gwella. Er bod modd i adborth gan fyfyrwyr helpu i adnabod meysydd i’w gwella, mae angen deialog a dehongli ar y cyd er mwyn deall achosion cyffredinol problemau a phennu ymatebion iddynt.
Er enghraifft, gall data o’r NSS, Holiaduron Gwella Modiwlau, neu ddulliau adborth eraill nodi pryderon ynghylch asesu, cyfathrebu neu drefnu rhaglenni. Er hyn, go brin y bydd data meintiol yn unig yn esbonio achosion y problemau hyn. Mae dulliau cydweithredol yn galluogi myfyrwyr a staff i archwilio tystiolaeth gyda’i gilydd, datblygu dealltwriaeth a rennir o brofiad y myfyrwyr a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella.
Mae’r dull hwn yn newid y broses o wella:
- ymateb i sylwadau unigol tuag at adnabod themâu a phatrymau ehangach.
- ddehongliad a arweinir gan staff tuag at ddealltwriaeth a rennir.
- ddatrysiadau a gynlluniwyd gan staff tuag at weithredu ar sail cydweithio.
Drwy ddod â thystiolaeth sefydliadol a phrofiad y myfyrwyr ynghyd, gall cydweithio gefnogi gwelliant seiliedig ar dystiolaeth sy’n fwy tryloyw, ac sy’n ymateb i anghenion dysgwyr.
O Ymgynghoriad i Adeiladu ar y Cyd
Ymgynghoriad
Yn aml, ymgynghori yw’r man cychwyn ar gyfer ceisio llais y myfyrwyr a gweithgareddau ymgysylltu. Mae’n cynnwys ceisio barn y myfyrwyr drwy arolygon, arfarniadau modiwlau, grwpiau ffocws, ffurflenni adborth a sgyrsiau anffurfiol. Mae ymgynghoriad yn rhoi mewnbwn gwerthfawr i brofiadau myfyrwyr, a gall helpu i adnabod meysydd ar gyfer gwella. Er hyn, mae’r myfyrwyr fel arfer yn ymateb i arferion sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na helpu i’w llunio nhw.
Cwestiynau i’w hystyried:
- Pa gyfleoedd sy’n bodoli i fyfyrwyr fynegi barn?
- Sut caiff adborth ei gasglu, ei ddadansoddi a’i weithredu?
- Sut mae canlyniadau’n cael eu rhannu â myfyrwyr?
- Ydy myfyrwyr yn deall sut mae’r adborth yn cyfrannu at newid?
Cydweithio
Mae cydweithio yn golygu staff a myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd i archwilio problemau a llywio’r broses o wneud penderfyniadau. Mae myfyrwyr yn cyfrannu eu safbwyntiau a’u profiadau drwy gydol y broses, gan helpu i feithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o brofiad y myfyrwyr. Gall enghreifftiau gynnwys gweithgareddau 100 Caerdydd, grwpiau ffocws, Paneli Myfyrwyr-Staff, gweithdai myfyrwyr a phrosiectau gwella. Trwy gynnwys myfyrwyr mewn trafodaethau a gwaith archwilio, mae cydweithio yn cefnogi penderfyniadau mwy seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth, a chynhwysfawr.
Cwestiynau i’w hystyried:
- Sut mae myfyrwyr yn cymryd rhan wrth archwilio a deall problemau?
- Ble mae safbwyntiau myfyrwyr yn dylanwadu ar benderfyniadau?
- Sut mae canlyniadau yn cael eu cyfleu a’u rhannu â myfyrwyr?
- Sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu drwy gydol y broses?
Adeiladu ar y Cyd
Mae adeiladu ar y cyd yn cynrychioli ffurf dyfnach ar bartneriaeth lle mae staff a myfyrwyr yn cydweithio i ddatblygu dealltwriaeth a rennir ac adnabod datrysiadau. Nid yn unig y mae myfyrwyr yn rhannu eu profiadau, ond hefyd yn helpu i ddehongli tystiolaeth, adnabod blaenoriaethau a llywio gweithredu i’r dyfodol.
Dyma rai enghreifftiau:
- Dadansoddiad ar y cyd o ganlyniadau NSS.
- Cyd-ddehongli canfyddiadau arolygon.
- Trafodaethau adolygu a gwella a rennir.
- Cyd-ddatblygu cynlluniau gwella.
Mae adeiladu ar y cyd yn hyrwyddo deialog ystyrlon, perchnogaeth a rennir a synnwyr cryfach o bartneriaeth rhwng staff a myfyrwyr.
Cwestiynau i’w hystyried:
- Sut mae myfyrwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o ddehongli tystiolaeth ac adnabod blaenoriaethau?
- A yw myfyrwyr yn cyfrannu at ddatrysiadau yn ogystal ag amlygu problemau?
- Ble mae myfyrwyr yn cael cyfle i ddylanwadu ar weithgareddau gwella?
- Sut mae penderfyniadau a gweithredoedd yn cael eu rhannu a’u cyfleu?
Gwrando’n weithredol ac ymateb i bob llais
Mae cyd-greu profiadau dysgu gyda myfyrwyr yn cynyddu perchnogaeth a pherthyn. Mae dulliau addysgu a dysgu cydweithredol yn caniatáu i fyfyrwyr gyfrannu eu cefndiroedd a’u safbwyntiau unigryw, gan gyfoethogi ein cymuned academaidd. Er mwyn creu amgylchedd cynhwysol, mae angen i ni gymhwyso strategaethau addysgu diwylliannol ymatebol, megis cydnabod a gwerthfawrogi cefndiroedd a phrofiadau unigryw myfyrwyr, ac effaith hyn ar eu dysgu.
Mae gwerthoedd partneriaeth addysg uwch yn arbennig o ddefnyddiol wrth ystyried manteisio ar amrywiaeth y gymuned:

Ffigur 2: Gwerthoedd partneriaeth Advance HE (Advance HE 2019)
Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ymgysylltu â myfyrwyr o ran cynyddu lefelau rheolaeth myfyrwyr, fel y nodir gan Healey a Healey (2019):

Ffigur 3: Lefelau Asiantaeth mewn Gweithgareddau Ymgysylltu â Myfyrwyr (Healey a Healey 2019, o Student Voice Australia)
Mae gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr yn galluogi staff i ddefnyddio ystod o ddulliau, gan weithio gydag unigolion ag anghenion penodol, grwpiau o fyfyrwyr sy’n profi rhwystrau penodol i ddysgu, neu garfanau cyfan o fyfyrwyr i ddatblygu ymarfer. Mae’r ffigur isod yn rhoi enghreifftiau o wahanol fathau o bartneriaethau myfyrwyr-staff mewn perthynas â dylunio, addysgu ac asesu’r cwricwlwm.
Cydweithio ac Adeiladu ar y Cyd o fewn y Model Gwella Llais y Myfyrwyr
Mae cydweithio ac adeiladu ar y cyd yn egwyddorion craidd ym Model Gwella Llais y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Yn hytrach na chyfyngu ar lais y myfyrwyr i arolygon a metrigau gwerthuso, mae’r Model yn hyrwyddo diwylliant o ddeialog, partneriaeth a chyfrifoldeb ar y cyd drwy’r canlynol:
- Cynrychiolaeth a chyfranogiad myfyrwyr.
- Paneli Myfyrwyr a Staff.
- Prosesau adolygu a gwella.
- Dehongli a gwerthuso adborth gan fyfyrwyr.
- Mentrau gwella dan arweiniad partneriaeth.
Drwy roi’r dulliau hyn ar waith, byddwn yn symud gweithgareddau gwella:
- ymateb i gwynion unigol tuag at nodi themâu a phatrymau systemig.
- staff yn dehongli’n bennaf tuag at ddealltwriaeth gydweithredol a rennir.
- ddatrysiadau a grëwyd gan staff tuag at ddatrysiadau cynaliadwy a grëwyd ar y cyd.
Dolenni i Dudalennau Pecynnau Cymorth Eraill
-
- Ymgysylltu â Myfyrwyr Creu Cyfleoedd Ystyrlon i Fyfyrwyr Gymryd Rhan, Teimlo fel eu bod yn Perthyn a Llwyddo. Mae’r dudalen hon yn archwilio’r berthynas sylfaenol rhwng ymdeimlad o berthyn, llwyddiant myfyrwyr a dimensiynau ymgysylltu.
- Archwilio sut i gynnwys llais y myfyrwyr wrth Ddylunio Dysgu, Dulliau Addysg, Asesu ac Adborth ac arferion Adolygu a Gwella.
Ble nesaf?
Dolenni i Dudalennau Pecyn Cymorth Eraill
Darllenwch ragor ar dudalen Ymgysylltu â Myfyrwyr: Creu Cyfleoedd Ystyrlon i Fyfyrwyr Gymryd Rhan, Teimlo eu Bod yn Perthyn a Llwyddo. Mae’r dudalen hon yn archwilio’r berthynas sylfaenol rhwng ymdeimlad o berthyn, llwyddiant myfyrwyr a dimensiynau ymgysylltu. Dysgwch sut i gynnwys llais y myfyrwyr wrth Ddylunio Dysgu, Dulliau Addysg, Asesu ac Adborth ac arferion Adolygu a Gwella.
Adnoddau a Chyfeiriadau Ychwanegol
- Healey, M., Flint, A. a Harrington, K. (2014) Ymgysylltu drwy Bartneriaeth: Myfyrwyr fel Partneriaid mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch. Efrog: Yr Academi Addysg Uwch. [Ar gael ar-lein].
Adnoddau Prifysgol Caerdydd