Skip to main content

Dylunio Dysgu ar Waith: Paratoi a chynnal asesiadau

Paratoi ar gyfer asesiadau a’u cynnal 

Pam mae’n bwysig 

Nid yw dylunio asesiadau’n dod i ben pan fo’r strategaeth asesu wedi’i gadarnhau. Ar ddechrau modiwl, mae’n bwysig helpu’r myfyrwyr ddeall diben yr asesiad, sut gallent baratoi ar ei gyfer, a sut gall adborth gefnogi eu dysgu. Gall cynnwys myfyrwyr mewn trafodaethau am asesu wella llythrennedd adborth am asesiadau, eu helpu i wneud gwaith gwell, cefnogi cynllunio llwyth gwaith, a chyfrannu at brofiad dysgu mwy positif.  

Awgrymiadau ymarferol 

Mae’n ddefnyddiol ystyried y canlynol ymlaen llaw: 

  • Sut bydd yr asesiad yn cefnogi datblygiad myfyrwyr wrth baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gall helpu i gymell myfyrwyr os ydynt yn deall bod yr asesiad yn datblygu eu sgiliau gwaith tra hefyd yn profi eu gwybodaeth. 
  • Sut rydych chi am i’ch myfyrwyr ymgysylltu â thasgau ffurfiannol; y manteision sy’n deillio o hyn, y sylwadau adborth y byddant yn eu cael, a’r ffyrdd yr hoffech i’ch myfyrwyr ddefnyddio’r sylwadau hyn 
  • P’un a oes ffyrdd y gall eich myfyrwyr gymryd rhan bellach wrth gefnogi’r tasgau ffurfiannol (e.e. trwy weithgareddau hunanasesu a/neu asesu cymheiriaid); 
  • Sut yr ymgymerir â marcio’r tasgau crynodol, e.e. 
  1. P’un a yw’r rhain yn dasgau penagored sy’n cael eu marcio orau trwy gymhwyso a dehongli meini prawf asesu ac, os felly, p’un a yw’r meini prawf generig a ddefnyddir ar draws y rhaglen yn briodol ac yn ddigon clir ar gyfer y dasg hon, neu p’un a ddylech ddatblygu meini prawf penodol i’w defnyddio gyda’r asesiad hwn (a chynnwys eich myfyrwyr wrth ddatblygu’r rhain?); NEU 
  2. P’un a oes angen ateb sefydlog ar gyfer y cwestiynau a ddefnyddir yn yr asesiad, ac felly mae angen i’r dasg gael ei hategu gan gynllun marcio manwl i arwain staff a myfyrwyr ar sut y caiff marciau eu dyfarnu; 

Pa bynnag ddulliau asesu sy’n cael eu defnyddio, mae angen i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth asesu ac adborth berthnasol ar gael i fyfyrwyr ac yn hygyrch iddynt, a bod gan farcwyr a myfyrwyr ddealltwriaeth gyffredin o sut y caiff y marcio ei wneud a’r safonau academaidd y mae angen iddynt roi tystiolaeth ohonynt mewn gwaith a asesir. 

Adnodd 

Osgoi ‘hunllefau’ asesu cyn cynnal yr asesiad gyda rhestr Sambell o hunllefau asesu a dulliau i’w hosgoi.   

Myfyrio a Chymhwyso 

Dewiswch un asesiad ar eich modiwl. Gofynnwch i chi’ch hun: a fyddai myfyriwr yn gallu esbonio sut mae llwyddiant yn edrych, sut bydd y gwaith yn cael ei farcio a sut gall adborth eu helpu i wella? Os na, mae’n bwysig gwneud y disgwyliadau hyn yn fwy eglur. 

Datblygu Arferion Asesu ac Adborth Cynhwysol 

Meini prawf asesu yw’r pont benodol rhwng beth mae’r myfyrwyr yn ei ddysgu a sut maen nhw’n arddangos eu llwyddiant. Bydd symud y tu hwnt i fframweithiau cyffredinol tuag at ddylunio meini prawf asesu penodol yn galluogi timau modiwlau i egluro disgwyliadau, taclo rhwystrau cudd a grymuso cynnydd myfyrwyr yn weithredol. 

Pennu Disgwyliadau a Meini Prawf Clir 

  • Diffinio Llwyddiant: Fel bod myfyrwyr yn bodloni disgwyliadau modiwlau, mae’n rhaid iddynt ddeall sut mae gwaith o safon uchel yn edrych ar draws bandiau perfformio. Bydd dangos enghreifftiau o waith yn y gorffennol ar draws y graddau, a hwyluso gweithgareddau cymharu dan arweiniad y myfyrwyr yn helpu dysgwyr i ddeall safonau, ac addasu eu dulliau eu hunain. 
  • Fframwaith EAT: Gall ymyriadau strategol ar raddfa fach sy'n defnyddio'r Fframwaith EAT (Evans Assessment Tool) helpu i werthuso parodrwydd asesu eich modiwl, gan sicrhau mwy o ymgysylltiad myfyrwyr ac aliniad â disgwyliadau. 
  • Lliniaru ‘Hunllefau’ Asesu: Mae bod yn weithredol a nodi pwyntiau methu posibl neu gamddealltwriaeth cyn cynnal asesiad yn helpu i chwalu rhwystrau diangen i staff a myfyrwyr (Sambell). 

Cynllunio Strategol ar gyfer Marcio a Chyd-greu 

  • Dylunio Cynlluniau Marcio yn gynnar: Bydd pennu sut fydd asesiad yn cael ei farcio cyn dechrau addysgu yn sicrhau y gallwch roi gwybod yn llwyr i fyfyrwyr sut bydd llwyddiant yn cael ei fesur. 
  • Gwerthuso Effeithlonrwydd Marcio: Mae defnyddio gweithgareddau tîm strwythuredig yn caniatáu i addysgwyr asesu dulliau marcio ar gyfer effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y llwyth gwaith. 
  • Cyd-greu gyda’r Myfyrwyr: Ystyriwch gynnwys myfyrwyr wrth ddiffinio dulliau marcio. Er enghraifft, bydd cydbwyso marcio crynodol ysgafn gydag adborth ffurfiannol cadarn yn helpu i sicrhau bod adborth yn amserol a bod modd gweithredu arno. 

Dylunio Cyfleoedd Ystyrlon ar gyfer Adborth Ffurfiannol: 

  • Sgaffaldio trwy Dasgau Ffurfiannol: Mae pob modiwl yn elwa ar dasgau ffurfiannol sydd â’r nod o efelychu neu arwain at yr asesiad crynodol (e.e., defnyddio dull clytwaith). Er mwyn iddo fod yn effeithiol, rhaid rhoi adborth yn ddigon prydlon fel mod myfyrwyr yn gallu cymhwyso’r adborth yn y darn gwaith terfynol. 
  • Adborth Gweithredol ar Lafar yn y Sesiwn: Dylid ymgorffori adborth ffurfiannol yn gyson drwy gydol y broses ddysgu, yn hytrach na’i gadw ar gyfer cyflwyniadau ffurfiol yn unig. Defnyddiwch awgrymiadau ar lafar yn ystod sesiynau byw er mwyn: 
    • Ymestyn a herio: Gofynnwch gwestiynau megis, “Pam ti’n meddwl hynny?” neu “Sut fyddai hynny’n edrych yn ymarferol?” 
    • Atgyfnerthu tystiolaeth: Gofynnwch i fyfyrwyr gyfiawnhau eu honiadau a nodi ffynonellau cyffredinol. 
    • Amlygu trafferthion cyffredin: Rhybuddiwch fyfyrwyr o wallau arferol neu gamddealltwriaeth gysyniadol cyn iddynt gyflwyno gwaith terfynol. 
  • Cymhwyso Myfyriol: Gwnewch yn siŵr bod gan fyfyrwyr ddigon o gyfleoedd strwythuredig, megis cadw logiau myfyriol neu addasu cynlluniau gweithredu i gofnodi, prosesu a chymhwyso’r adborth maen nhw’n ei dderbyn.