Skip to main content

Dulliau Addysgu ar gyfer Ymgysylltu a Dysgu

Mae’r adnodd Xerte isod yn cynnwys 50 o ddulliau addysgu i’w harchwilio. Gall y rhain wella eich dulliau addysgu a chyflwyno amrywiaeth o strategaethau i ddiwallu anghenion, dewisiadau a nodweddion amrywiol eich dysgwyr. Cafodd ei ddylunio drwy ddefnyddio’r egwyddorion allweddol canlynol.  

Dylunio ABC 

ABC cards in rainbow colours sit are depicted. Acquisition, collaboration, discussion, investigation, practice and production are each represented as Laurillard’s 6 learning-teaching activities.

Mae chwe adran y pecyn cymorth hwn yn cyfateb i ‘fathau o ddysgu’ Dylunio Dysgu ABC . Y cymorth sydd ar gael: Mae gweithdai ABC yn cynnig lle i dimau modiwlau osod nodau, gwneud cynlluniau a gwerthuso pa mor agos yw eich cynlluniau i’r hyn rydych yn ceisio ei gyflawni. Gall Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd hwyluso gweithdai ABCi dimau rhaglen: cysylltwch â’r Academi os ydych chi’n credu y byddai eich Tîm Rhaglen yn elwa ar hyn. I gael rhagor o wybodaeth am ABC, gallwch bori drwy’r dudalen ar y fewnrwyd. 

Theori addysgol 

Ategir y dulliau addysgu hyn gan ymchwil helaeth a safbwyntiau damcaniaethol ar ddysgu ac addysgu. I ddarllen crynodeb byr o theori addysgol, i gynorthwyo eich dewis o ddulliau addysgu, ewch i Bennod 1 o University Teaching in Focus gan Hunt and Chalmers, neu darllenwch y crynodeb hwn o dair theori allweddol a’u cymhwysiad. 

Addysg Gynhwysol 

Mae pob dull yn nodi ystyriaethau cynhwysiant y dull. Er mwyn gwella eich dealltwriaeth o’r cyngor a roddir o ran addysg gynhwysol ar gyfer pob dull, efallai yr hoffech ymchwilio ychydig yn ddyfnach i egwyddorion addysg gynhwysol. Ewch i’r dudalen thema Cynhwysiant i ehangu eich dealltwriaeth. Bydd unrhyw ddull addysgu yn rhoi rhai grwpiau o fyfyrwyr dan anfantais: ystyriwch ddefnyddio Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu drwy ddefnyddio mwy nag un dull yn ystod sesiwn. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn gyfforddus gyda rhai dulliau. 

Y Pecyn Cymorth Addysgu: 

I’w agor mewn tudalen newydd, cliciwch ar y ddolen Pecyn Cymorth Addysgu hon.