Dulliau gwahanol o asesu
I bwy mae’r dudalen hon?
Mae’r canllawiau hyn yn darparu offer ac ystyriaethau ymarferol i gefnogi unrhyw staff sy’n ymwneud â dylunio, cwblhau a marcio ar gyfer asesiadau ac adborth. Mae wedi’i drefnu yn ôl yr adrannau canlynol:
- Adran 1: Cyd-greu mewn asesiadau
- Adran 2: Asesiadau dilys
- Adran 3: Gwaith tîm fel asesiad
- Adran 4: Dulliau asesu unigol
Fe’i bwriedir ar gyfer yr holl staff sy’n ymwneud ag asesiadau ac adborth, boed yn wasanaethau academaidd neu broffesiynol, a boed y datblygiad dan sylw yn rhaglen newydd neu’n welliannau i raglenni neu fodiwlau presennol.
Gyda’i gilydd, nod yr adnoddau hyn yw eich cefnogi i gydweithio â myfyrwyr a staff wrth greu a gwerthuso asesiadau ac adborth, pwysleisio pwysigrwydd gweithio ar y cyd â chydweithwyr ac ymgysylltu â myfyrwyr fel partneriaid. Bydd yr adran nesaf yn eich helpu i greu asesiad dilys, sy’n ystyried anghenion dysgu presennol myfyrwyr a’u rhai yn y dyfodol. Mae adran tri yn ystyried gwaith tîm, ac adnoddau cysylltiedig i gefnogi’r math hwn o asesiad. Mae’r adran olaf yn cyflwyno’r amrywiaeth eang o ddulliau asesu unigol a’r ffyrdd gwahanol y maen nhw’n darparu ar gyfer cynhwysiant ac ymarfer effeithiol a chynhwysol.
1. Cyd-greu mewn asesiadau
Mewnwelediadau Gwerslyfrau
“Mae cyd-greu dysgu ac addysgu yn digwydd pan fydd staff a myfyrwyr yn cydweithio â’i gilydd i greu cydrannau o gwricwla a/neu ddulliau addysgegol.” (Bovill et al, 2016: 196)

Mae cymryd rhan mewn deialog gyda myfyrwyr am asesu yn hwyluso cyd-ddealltwriaeth o asesu. Mae’n amlwg, wrth weithio ar brosiectau asesu ac adborth wedi’u creu ar y cyd â myfyrwyr, fod hyn yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr leisio eu dealltwriaeth o asesu a rhannu yn y penderfyniadau a wneir ynghylch pwrpas a dyluniad asesu, gan wella llythrennedd trwy gyd-drafod safonau, meini prawf ac adborth.
Gall myfyrwyr ennill dealltwriaeth well o’r broses asesu – dod yn lythrennog mewn asesu yn y broses ac addasu eu ffocws i fod yn fwy ar eu dysgu yn hytrach na dim ond eu graddau. Mae hefyd yn amlwg ei fod yn gwella datblygiad eu sgiliau a’u perfformiad asesu yn gyffredinol.

Ffyrdd o Feithrin Cyd-greu yn eich Asesiadau
Gall cyd-greu asesiad gyda myfyrwyr gynnwys amrywiaeth o ffyrdd o weithio’n agosach gyda myfyrwyr mewn meysydd a all wella ymgysylltiad myfyrwyr. Mae rhai o’r meysydd hyn wedi’u rhestru yma:
- Dylunio cyfarwyddiadau marcio: gall myfyrwyr gymryd perchnogaeth o’u dysgu trwy ddiffinio safonau. Gweler yr adran Plymio’n Ddyfnach isod i gael rhagor o wybodaeth am gyd-greu meini prawf marcio rhwng staff a myfyrwyr.
- Dylunio MCQs (Cwestiynau amlddewis): mae myfyrwyr sy’n ymgymryd â menter Peerwise mewn 12 ysgol ar draws y Brifysgol yn cael cyfle i ofyn cwestiynau enghreifftiol y mae eu cyd-fyfyrwyr yn eu hateb yn ddienw; rhoddir marciau i gwestiynau a gall y myfyrwyr weld pa mor effeithiol a chywir y gall eu cwestiynau fod.
- Cyd-asesu cyflwyniadau: mae myfyrwyr yn dyfarnu gradd iddynt eu hunain ac mae’r tiwtor hefyd yn dyfarnu gradd iddynt. Yna, mae’r tiwtor yn cyfarfod â’r holl fyfyrwyr yn unigol i gytuno ar radd derfynol. Mae hyn yn annog y myfyrwyr i drafod a mynegi sail resymegol dros eu perfformiad. Os na allant ddod i gytundeb ar y radd, mae’r tiwtor yn parhau i fod yn gyfrifol am ddyfarnu gradd derfynol, ond mae’n dryloyw ac yn agored gyda’r myfyrwyr ynghylch y sail resymegol dros y penderfyniadau.

Archwilio’n Ddyfnach
Darllen mwy
- Mae'r dudalen hon, gan Brifysgol Bournemouth, yn disgrifio'r cyd-greu tasgau asesu a gymhwyswyd i ddau o'u modiwlau, yn ogystal â'r gwersi a ddysgwyd o hyn - gan gynnwys nad oes dull 'un maint i bawb' yn bosibl!
- Darllenwch yma am brosiect ym Mhrifysgol Cumbria lle’r oedd staff a myfyrwyr yn cyd-greu meini prawf asesu, gan ddod i’r casgliad bod y fersiwn staff yn rhy gymhleth, gan ddefnyddio disgwrs academaidd, a fersiwn y myfyrwyr yn rhy syml, a bod angen gwneud y meini prawf yn hygyrch i fyfyrwyr - gan ystyried y cwestiwn, 'Ar gyfer pwy mae'r [meini prawf] hyn wedi'u creu?'
- Mae dull cyd-greu o wella asesu ac adborth yn strategol mewn Nyrsio a Bydwreigiaeth o Gynhadledd Addysgu a Dysgu AdvanceHE 2019 ar gael yma.
- Mae'r fideos canlynol yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol am ddefnyddio myfyrwyr fel partneriaid wrth gyd-greu asesu.
Cathy Bovill – Partneriaethau Myfyrwyr mewn Asesu: Sesiwn 1A
Cathy Bovill – Partneriaethau Myfyrwyr mewn Asesu: Sesiwn 1B
Sesiwn 2: Kelly Matthews
Cyfeiriadau
Bovill, C. (2020). Co-creation in learning and teaching: the case for a whole-class approach in higher education. Higher Education 79 (1).
Prifysgol Northumbria (2019). A co-creation approach to strategic enhancement of assessment and feedback in nursing and midwifery: designing assessment support materials with students. Available at: Teaching and Learning Conference 2019: A co-creation approach to strategic enhancement of assessment and feedback in Nursing and Midwifery | Advance HE (advance-he.ac.uk) [Accessed:18 July 2022].
Astudiaeth achos- Yr Ysgol Deintyddiaeth
Pa broblemau y rhoddwyd sylw iddyn nhw?
Mae ymarfer myfyriol wrth wraidd gwybodaeth a chymhwysedd proffesiynol. Mae athrawon clinigol ar bob lefel (israddedig ac ôl-raddedig) yn wynebu'r her o ddatblygu ac asesu'r sgil pwysig hwn. Mae cyfarwyddiadau strwythuredig, gwrthrychol ar gyfer asesu myfyrio yn bodoli; fodd bynnag, nid oes unrhyw gyfarwyddyd unigol wedi'i fabwysiadu'n eang, o bosibl oherwydd eu bod nhw’n gymhleth.
Beth a gafodd ei brofi?
Hwylusodd adolygiad llenyddiaeth â ffocws ddatblygiad tri pharth ymarfer myfyriol ac ysgrifennu myfyriol pwysig; cafodd y rhain eu cynnwys mewn matrics asesu 4-parth
Gofynnwyd i fyfyrwyr deintyddiaeth, a hylendid a therapi cam 2 ysgrifennu adroddiad myfyriol clinigol. Cyhoeddwyd y matrics graddio ymlaen llaw a gofynnwyd i fyfyrwyr raddio eu gwaith cyn ei gyflwyno. Cafodd yr adroddiadau eu marcio ar y cyd gan dîm o chwe aelod o staff.
Y parthau oedd:
Lefel myfyrio: byddai adroddiad gwael yn ddisgrifiadol ac ni fyddai’n rhesymu, gan ddisgrifio digwyddiadau yn y modd hwn: 'Gofynnais i'r derbynnydd aildrefnu gyda’r claf.' Byddai adroddiad sy’n methu yn cynnwys myfyrdod disgrifiadol yn unig ac yn cynnig rhesymau ond mewn modd adroddiadol yn unig, megis: ‘Gofynnais i'r derbynnydd aildrefnu gyda’r claf oherwydd fy mod i’n hwyr.’ Byddai adroddiad boddhaol hefyd yn cynnwys myfyrdod deialogaidd lle mae'r awdur yn myfyrio ar y rhesymau ac yn ystyried dewisiadau eraill, gan ddefnyddio ymadroddion megis 'efallai…', 'tybed...' ac 'efallai…'. Yn olaf, byddai adroddiad teilwng yn cynnwys myfyrdod beirniadol yn bennaf, gan ystyried cyd-destun cymdeithasol y digwyddiadau a'r penderfyniadau a wnaed. Byddai'n sôn, er enghraifft, am rolau, perthnasoedd, rhyw ac ethnigrwydd.
Lefel ymchwilio: byddai adroddiad gwael yn ddisgrifiadol yn unig ac ni fyddai'n ystyried ffactorau eraill. Byddai adroddiad sy’n methu yn or-ddisgrifiadol neu'n rhy hirfaith ar draul ffactorau dylanwadol a ffactorau eraill. Byddai adroddiad boddhaol yn cynnwys disgrifiad byr ac yn ystyried ffactorau dylanwadol ac amgen. Byddai adroddiad teilwng yn gwneud yr un peth, ond byddai hefyd yn ystyried pwyntiau dysgu clir ac eglur.
Fframiau cyfeirio: ni fyddai adroddiad gwael yn ystyried fframiau cyfeirio eraill ac ni fyddai'n cymryd cam yn ôl o'r sefyllfa. Byddai'n cael ei ysgrifennu o safbwynt yr arsylwr yn unig. Byddai adroddiad sy'n methu yn rhoi mân ystyriaeth i fframiau cyfeirio yn unig. Byddai adroddiad boddhaol yn ystyried fframiau cyfeirio ar gyfer y rhan fwyaf o’r digwyddiadau, a byddai adroddiad teilwng yn dangos yn glir bod fframiau cyfeirio wedi cael eu hystyried ar gyfer yr holl ddigwyddiadau yn ystod y cyfarfod clinigol.
Gwellodd sgoriau Kappa rhwng graddau myfyrwyr a staff bob blwyddyn, gan gyrraedd 0.677 ar gyfer y garfan ddiwethaf (n = 110; gwall safonol 0.093; p < 0.000).
Pa wersi a gafodd eu dysgu?
Dywedodd myfyrwyr a staff fod y matrics wedi eu helpu i ddeall y broses fyfyrio. Pan gyhoeddwyd y matrics ymlaen llaw, gostyngodd cyfraddau methiant o tua 15% i 2%. Rhoddodd yr holl unigolion a fethodd ag ysgrifennu adroddiad boddhaol radd ‘boddhaol’ iddyn nhw eu hunain; rhaid i’r myfyrwyr hyn gael eu nodi ar gyfer tiwtora pellach. Roedd athrawon clinigol a hyfforddwyr clinigol ôl-raddedig o'r farn bod y matrics yn ddefnyddiol ar gyfer datblygu sgiliau myfyriol ac asesu lefel y myfyrio mewn adroddiad yn gyflym. Dangoswyd bod y matrics graddio yn offeryn dilys a dibynadwy.
Dyma'r Matrics asesu
Astudiaeth achos- ARCHI
Cyd‑greu cyfarwyddiadau asesu i wella llythrennedd asesu a galluedd proffesiynol ym maes Pensaernïaeth
Dros gyfnod o bum mlynedd, rwy wedi bod yn cyd-greu asesiadau mewn cylchoedd ailadroddol yn fy modiwlau Dylunio Pensaernïol Lefel 6 a 7 (gyda charfan o tua 100 o fyfyrwyr bob blwyddyn). Fy nod oedd gwella llythrennedd asesu a chynnig y cyfle i fyfyrwyr ddangos galluedd ystyrlon i fynd i’r afael â blaenoriaethau proffesiynol newidiol, gan gynnwys cynaliadwyedd, diogelwch a chynhwysiant.
Ysgogwyd y gwaith hwn yn 2021, pan gawsom ein herio’n uniongyrchol gan fyfyriwr: “A yw prosiectau dylunio anghynaliadwy yn haeddu’r marciau uchaf?” Roedd y cwestiwn hwn wedi tynnu sylw at ddiffyg cysondeb rhwng gwerthoedd proffesiynol myfyrwyr a sut mae’n ymddangos bod cyflawniad yn cael ei wobrwyo mewn meini prawf asesu sy’n bodoli eisoes.
Yn sgil hynny, datblygais weithgaredd ymsefydlu effaith uchel,mewnbwn isel, anghydamserol i grwpiau o 5/6 sydd bellach yn cael ei ddefnyddio bob blwyddyn. Mae’r myfyrwyr yn gwylio dadl amserol wedi’i recordio sy’n ymwneud ag ymarfer bensaernïol gyfoes yn eu hamser eu hunain ac yna’n cwrdd mewn grwpiau i werthuso’n feirniadol sut mae cyfarwyddyd marcio’r modiwl yn cyfleu, rhoi gwerth neu ddiystyru’r problemau hyn. Mae’n rhaid i bob grŵp roi ymateb ar fwrdd trafod Dysgu Canolog, a allai gynnwys diwygiadau i’r cyfarwyddyd marcio. Mae’r ymarfer hwn yn cael ei gynnal yn wythnos 1 ac nid yw’n cael ei asesu, gan roi’r cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu’n rhydd heb bwysau i berfformio.
Mae ehangder ac ansawdd cyfraniad y myfyrwyr yn drawiadol! Mae fframio’r arfarniad gan ddefnyddio pryderon proffesiynol cyffredin yn golygu bod y dasg yn ddilys ac yn berthnasol y tu hwnt i ymarfer llythrennedd asesu. O’r sylwadau mae’n dangos bod ymgysylltiad dwfn, beirniadol gyda’r cyfarwyddyd marcio a gyda’i gilydd, sydd yn aml yn mynd y tu hwnt i friff y dasg, gan ddangos tystiolaeth o sgiliau gweithio mewn tîm ac adnabod safbwyntiau gwahanol. Mae amrywiaeth mewn barn yn gallu bod yn heriol wrth chwilio am gonsensws myfyrwyr, pwynt pwysig rwy’n tynnu sylw ato pan fyddaf yn rhoi adborth i’r dosbarth.
Mae’r broses hon wedi cael effaith glir ar lythrennedd asesu. Dangosodd y myfyrwyr ddealltwriaeth soffistigedig o sut i gymhwyso’r meini prawf, gan gynnwys sut i fynegi ac asesu cymwyseddau proffesiynol. Ers cyflwyno’r gweithgaredd hwn, ni chafwyd unrhyw honiadau gan fyfyrwyr eu bod nhw ddim yn ymwybodol o’r cyfarwyddyd marcio cyn cyflwyno! Mae adborth y myfyrwyr wedi arwain at newidiadau i iaith y meini prawf, sut mae cymwyseddau penodol yn cael eu hasesu a chyflwyno pwysoliadau ledled y meini prawf.
Yn bwysicaf oll, mae terminoleg amwys neu broblematig wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i gyd‑greu. Gwnaeth hyn fy ysgogi i fyfyrio’n feirniadol ar gynhwysiant a phriodoldeb iaith, ac ategu pwynt dysgu allweddol: nid yw’n ddigonol i fyfyrwyr ymarfer cymhwyso’r meini prawf – dylai dehongliad yr asesydd fod yn glir hefyd. Fe wnes i fynd i’r afael â hyn drwy gynnal gweithdy dilynol i ymhelaethu ar iaith amlddisgyblaethol, disgrifyddion lefel yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) a tharddiad termau allweddol, gan gefnogi datblygu cyd-ddealltwriaeth.
Mewn rhai cylchoedd, mae wedi bod yn heriol cael consensws ar newidiadau yn ystod y flwyddyn, ond roedd syniadau, gwybodaeth ac ystyriaethau critigol y myfyrwyr yn parhau i fod yn werthfawr i ddatblygu’r cyfarwyddyd marcio’n ailadroddol ar gyfer y garfan nesaf. Yn fy swydd bresennol fel Arweinydd Asesu ac Adborth, rwy’n ymgorffori’r ‑egwyddorion a gynhyrchwyd gan fyfyrwyr i feini prawf cyffredinol a chyfarwyddiadau marcio modiwl newydd ac wedi ail-ddefnyddio’r gweithgaredd ymsefydlu i’w profi nhw. Byddwn ni’n annog cydweithwyr i edrych ar gyd‑greu asesiadau nid i ollwng gafael ar safonau academaidd, ond fel mecanwaith pwerus i wneud gwelliannau gwerthfawr wedi’u targedu i arferion asesu ac i gefnogi myfyrwyr i gymryd rhan weithredol wrth ystyried sut mae asesiadau’n ymwneud â’u dysgu a’u gwerthoedd personol a phroffesiynol.
Caroline Almond ARB SFHEA
Uwch-ddarlithydd
Arweinydd Asesu ac Adborth (Archaeoleg)
Arweinydd y modiwl ART901 Dylunio ar Waith (60 credyd, Lefel 7)
2. Asesiadau Dilys
Yn ogystal â darparu cyd-destunau dilys sy’n adlewyrchu’r ffordd y bydd gwybodaeth yn cael ei defnyddio mewn bywyd go iawn, a darparu tasgau a gweithgareddau dilys, mae Harrington et al. (2014) yn awgrymu y bydd asesu dilys yn:
- Darparu mynediad at berfformiadau arbenigol
- Darparu rolau a safbwyntiau lluosog
- Cefnogi adeiladu cydweithredol o wybodaeth
- Hyrwyddo myfyrio i alluogi ffurfio haniaethau
- Hyrwyddo mynegiant i alluogi gwybodaeth dawel i ddod yn amlwg
- Darparu hyfforddiant a chefnogaeth
Mae’r egwyddorion hyn yn ein hannog i ystyried gwaith grŵp (gweler Tîm Gwaith), tasgau myfyriol, a chynnwys rhanddeiliaid allanol.
Manteision asesiad dilys
- Mae gwneud asesu yn fwy dilys yn annog myfyrwyr i ymgysylltu mwy ag asesu ac iddynt ddatblygu set sgiliau well na trwy ddulliau mwy traddodiadol
- Gallant fodloni gofynion rhanddeiliaid allanol fel diwydiant a’r cyrff proffesiynol ar gyfer addysg uwch i gynnig cyrsiau mwy perthnasol a gwella cyflogadwyedd grad dedigion gan gynnwys datblygu sgiliau trosglwyddadwy
- Ar y cyfan, maent yn dangos aliniad clir rhwng y deilliannau dysgu dymunol, cynnwys y cwricwlwm, a gwybodaeth ac ymwybyddiaeth sy’n seiliedig ar yrfa yn y dyfodol, e.e. byddai asesiad dilys ar gyfer cwrs peirianneg yn dangos gallu myfyriwr i feddwl a datrys problemau mewn ffyrdd sy’n debyg i sut y byddai arbenigwyr ym maes peirianneg yn meddwl ac yn gweithredu
- Gall asesu sy’n adlewyrchu sut y gall myfyrwyr ddefnyddio gwybodaeth ddisgyblaethol, neu ‘asesiad dilys’, neu sut y byddant yn ei defnyddio, helpu i ‘ddileu’ llên-ladrad yn ystod y broses gynllunio
Pedwar ystyriaeth wrth greu dilysrwydd mewn asesu
Ystyriaeth 1
Efallai y byddwch am ystyried sut mae'ch asesiad yn ymgorffori unrhyw/holl rinweddau graddedigion neu sut mae'n cyd-fynd â Deilliannau Dysgu eich Rhaglen mewn perthynas â nodau dysgu gydol oes.
Ystyriaeth 2
Ystyriwch sefyllfaoedd gwaith go iawn neu sefyllfaoedd go iawn – gall y rhain weithredu fel dirprwy ar gyfer perfformiad proffesiynol.
Ystyriaeth 3
Ystyriwch gyfranogiad trydydd parti ar ffurf cleientiaid, cyflogwyr, cydweithwyr o’r un proffesiwn neu o broffesiwn arall, a/neu athrawon allanol sy’n adolygu ac yn gwerthuso perfformiad y myfyrwyr.
Ystyriaeth 4
Ystyriwch sut y gellir defnyddio asesu dilys i ddatblygu gallu gwybyddol myfyrwyr i farnu, penderfynu, beirniadu, awgrymu, dylunio, arloesi, cynnig neu ddyfeisio.
Dylunio dysgu ac asesiad dilys
Hyd yn oed os yw eich asesiadau eisoes wedi’u pennu ymlaen llaw, gallwch barhau i’w hannog i fod yn fwy dilys yn ystod y cam Dylunio Dysgu. Hyd yn oed os ydych eisoes wedi ystyried wrth ddatblygu eich rhaglen sut y bydd eich dewis asesu yn caniatáu dilysrwydd, mae gwaith i’w wneud o hyd ar y cam hwn i sicrhau eich bod yn dod ag ef yn fyw mewn ffordd ystyrlon.
Cliciwch ar y dewisiadau isod i archwilio sut y gallech chi wthio asesiadau presennol tuag at fod yn fwy dilys, ac am rai awgrymiadau ymarferol ar gyfer dod â’r dilysrwydd hwnnw’n fyw yn eich addysgu.
Rwyf am i'm hasesiad gynnwys elfennau o'r byd go iawn
Gall traethodau traddodiadol sy’n seiliedig ar gynnwys fod yn dargedau hawdd i felinau traethodau, generaduron testun AI, llên-ladrad, a chydweithio. Mae hefyd yn bwysig cofio eu bod yn darparu ychydig o sgiliau trosglwyddadwy i fyfyrwyr y tu allan i’r byd academaidd. Felly, gall newid ffocws asesiad i rywbeth cymhwysol, lleol ac adfyfyriol sicrhau bod myfyrwyr a staff yn cael y gorau o’r darn.
Isod mae enghraifft o sut y gellir trawsnewid asesiadau ysgrifenedig, o waith Sally Brown a Kay Sambell:
Cwestiwn arholiad / traethawd traddodiadol nodweddiadol
Beth yw’r prif agweddau ymarferol y mae angen eu hystyried yn ystod cam cynllunio arolwg geoffisegol alltraeth ar gyfer datblygiad peirianneg alltraeth arfaethedig?
Dewis arall ar gyfer asesiad dilys – Ymarfer Dogfen Dendro Dechnegol
Amcan yr ymarfer hwn yw llunio'r ddogfen dechnegol y gallai cwmni arolwg alltraeth ei chyflwyno i gleient (cwmni ynni) er mwyn ceisio ennill contract. Rydych chi'n cymryd rôl y cwmni arolygu. Byddai’r ddogfen dechnegol fel arfer yn rhan o “ddogfen dendro” ehangach a fyddai hefyd yn cynnwys rhannau ariannol a chontractiol, fel arfer. Nid yw'r rhannau olaf hyn yn rhan o'r ymarfer asesu.
Bydd llawer o'r gwaith a wneir yn y dosbarth yn ymwneud â helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau byd go iawn i ddechrau gweithio tuag at eu hasesiad: gyda sgaffaldiau, trafodaeth am sut beth yw ‘da’ yn seiliedig ar enghreifftiau o'r byd go iawn, ac adborth.
Rwyf am gynnwys cyflogwyr/rhanddeiliaid wrth ddylunio dysgu
Gellid cynnwys cyflogwyr/rhanddeiliaid mewn nifer o ffyrdd yn ystod y cyfnod dylunio dysgu, gan gynnwys:
- Helpu i ddylunio’r asesiad (gan gynnwys rhoi cyd-destun lleol neu roi briff go iawn ar gyfer rhywbeth sydd ei angen ar eu cwmni)
- Helpu i ddylunio'r meini prawf asesu
- Darparu enghreifftiau go iawn
- Darparu deunyddiau dysgu, fel astudiaethau achos neu fyfyrdodau fideo ar bwnc
- Darparu darlithoedd neu gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb
- Rhoi adborth ffurfiannol
- Bod yn bresennol yn ystod asesiadau crynodol – er enghraifft, gofyn cwestiynau yn ystod cynnig neu gyflwyniad
Bydd pa rai, os o gwbl, o'r rhain a ddewiswch yn dibynnu ar natur y ddisgyblaeth a ph'un a oes rhaid i chi feithrin perthynas newydd â rhanddeiliaid. Ar gyfer disgyblaethau sy’n llai cysylltiedig â llwybr cyflogaeth penodol, bydd yn werth archwilio sut y gellid cymhwyso’r sgiliau a ddatblygir i lwybrau eraill: mae darparu adborth a chyfleoedd i fyfyrwyr fyfyrio ar ddatblygiad parhaus eu rhinweddau graddedigion yn darparu ffordd ystyrlon o wneud hyn.
Rwyf am ailddylunio asesiadau presennol i fod yn fwy dilys:
Mae Lydia Arnold wedi datblygu gêm arddull ‘Top Trumps’ hynod ddifyr, werthusol a hwyliog yn seiliedig ar waith Ashford-Rowe, Herrington a Brown (2014) fel y meini prawf ar gyfer disodli’r mathau eraill o asesiadau dilys. Nid yn unig y mae'r rhain yn hwyl, mae yna enghreifftiau diriaethol o asesiadau dilys ynddynt. Mae yna gardiau gwag hefyd, felly gallwch chi roi eich asesiadau eich hun i'r testun yn erbyn yr enghreifftiau.
Rwyf am annog dulliau mwy gweithredol a dilys
- Os nad ydych mewn sefyllfa i ailddylunio dull asesu cyfan, yna symudwch tuag at asesiadau dilys trwy newid un dasg ar y tro neu agwedd ar dasg
- Dyfeisiwch dasg a fydd yn rhoi ‘prosiect’ realistig i'ch myfyrwyr a gwnewch yn siŵr bod ganddynt amser i gynllunio, casglu'r wybodaeth angenrheidiol, adolygu a hunanasesu
- Sicrhewch bob amser fod myfyrwyr yn glir ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt o ran y prosesau a'r canlyniadau
- Gallech hefyd gynnwys myfyrwyr wrth ddatblygu'r meini prawf asesu.
Pwyntiau Myfyrio
Cymhwyswyd yr wyth cwestiwn critigol yn effeithiol i ffurfio fframwaith hewristig i arwain dyluniad a datblygiad gweithgaredd asesu dilys gan Ashford-Rowe, K., Herrington, J., a Brown, C. (2014). Efallai y gallent eich helpu i gynllunio neu werthuso dilysrwydd eich asesiadau eich hun a’r gweithgareddau dysgu y mae myfyrwyr yn eu cyflawni wrth iddynt weithio tuag atynt.
Astudiaethau achos ac ysbrydoliaeth asesiad dilys
Enghreifftiau Prifysgol Caerdydd

Mae’r asesiad yn cynnwys Erthygl Beirniadaeth Gêm a Phortffolio Grŵp Cysyniad Gêm, sy’n galluogi myfyrwyr i ymgysylltu â gemau’n feirniadol a datblygu cysyniadau gêm ddigidol yn seiliedig ar ymchwil hanesyddol. Mae’r modiwl yn integreiddio gweithdai theori ac ymarferol, gan annog myfyrwyr i gymhwyso fframweithiau damcaniaethol i’w hymdrechion creadigol.
Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys ymgorffori meddalwedd dylunio gemau sylfaenol i alluogi myfyrwyr i brototeipio eu cysyniadau tra’n cynnal ffocws ar ymchwil. Yn ogystal, mae ymdrechion ar y gweill i integreiddio dulliau seiliedig ar hanes a threftadaeth â dylunio gemau ar lefelau cwricwlaidd ac allgyrsiol, gan adeiladu ar fentrau cydweithredol fel Jam Treftadaeth Caerdydd.
Mae Esther yn cynghori, ‘ystyriwch a oes ffyrdd o ddylunio modiwlau fel hyn sy’n caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau ymchwil a dadansoddi mwy traddodiadol mewn ffyrdd creadigol’.
Darllenwch fwy am ‘Gemau Digidol ac Arfer Hanes’.
Enghraifft 4 Prifysgol Caerdydd
Archwilio’n Ddyfnach
Cyfeiriadau
Armstrong, C.M. (2011). Implementing Education for Sustainable Development: The Potential Use of Time-Honored Pedagogical Practice from the Progressive Era of Education. Journal of Sustainability Education, 2.
Herrington, J., Parker, J. & Boase-Jelinek, D. (2014). Connected authentic learning: Reflection and intentional learning. Australian Journal of Education, 58(1), pp. 23–35.
Landorf, H., Doscher, S., & Rocco, T. (2008). Education for sustainable human development. Theory and Research Education, 6(2), 221-236.
Adnoddau Pellach
Rhagor o wybodaeth ddefnyddiol:
- https://www.plymouth.ac.uk/uploads/production/document/path/10/10105/AUTHENTIC-ASSESSMENT_adapted_.pdf (Saesneg)
- https://www.keele.ac.uk/kiite/curriculumdesignframework/authenticassessment/#reflective-prompt-questions:-authentic-assessment (Saesneg)
- https://www.liverpool.ac.uk/centre-for-innovation-in-education/curriculum-resources/authentic-assessment/ (Saesneg)
- https://kaysambell.wordpress.com/supporting-the-rapid-switch-to-emergency-remote-teaching-assessment-issues/ (Saesneg)
- The Coronavirus assessment collection – Sally Brown a Kay Sambell 20/21 (Saesneg)
Rhannwch eich Adborth
3. *** couldn’t find Welsh
4. Dulliau asesu unigol
Yn rhan o waith trawsnewidiad Prifysgol Caerdydd i gynllunio asesiadau ar lefel rhaglen Prifysgol Sydney a’r dull dwy lôn, bydd dewislen newydd ar waith ym mis Medi 2027. Bydd hyn yn cyflwyno ystod o fathau o asesiadau ac yn nodi sut mae pob dull yn cefnogi cynhwysiant a dilysrwydd, yn galluogi defnydd cyfrifol o ddeallusrwydd artiffisial (DA), ac yn cyd-fynd â dibenion asesu Lôn 1 neu Lôn 2. Bydd llais y myfyriwr yn rhan annatod drwyddi draw, ynghyd ag astudiaethau achos esboniadol o bob rhan o’r sector addysg uwch ac o ymarfer ym Mhrifysgol Caerdydd.
Tan hynny, cyfeiriwch at y ddewislen asesu isod sy’n cynnig rhestr ddangosol, anghyflawn o rai o’r gwahanol ddulliau asesu a ddefnyddir yn gyffredin ym maes addysg uwch yn y DU. Yn hytrach na phwysleisio manteision ac anfanteision cymharol, mae’r ddewislen bresennol wedi’i gynllunio i helpu ysgolion a thimau rhaglen i wneud penderfyniadau bwriadol a gwybodus ynglŷn â chynllunio asesiadau sy’n cyd-fynd a dull strategol Caerdydd o wella Asesiad ac Adborth 2023-27 ac yn hyrwyddo asesiad o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ar draws rhaglenni.

Crynodeb o Ddulliau Asesu
Arholiadau wyneb yn wyneb
Arholiadau ysgrifenedig traddodiadol, nas gwelwyd ymlaen llaw, â chyfyngiad amser, sy’n defnyddio cwestiynau traethawd yn bennaf.
Mae arholiadau yn fath traddodiadol iawn o asesu nad yw'n adlewyrchu gweithgareddau yn y gweithle, sy’n profi'r hyn y mae myfyrwyr wedi'i ddysgu ar gof; fodd bynnag, gellir dadlau bod arholiadau'n profi galluoedd myfyrwyr i weithio dan bwysau.
Gellir osgoi camymddwyn academaidd a chamddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol.
Gall cyflymder ac eglurdeb y llawysgrifen effeithio ar berfformiad; bydd rhai grwpiau, fel myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu fyfyrwyr sy'n dioddef gorbryder ynghylch arholiadau, dan anfantais.
Arholiad llyfr agored
Mae myfyrwyr yn mynd â nodiadau, neu ddyfeisiau electronig i mewn i arholiad.
Llai o ffocws ar gof a chofio, a mwy o ffocws ar yr hyn y gall myfyrwyr ei wneud gyda'r wybodaeth a ddarperir iddynt.
Mwy o ddilysrwydd oherwydd efallai y bydd angen i fyfyrwyr ddadansoddi a gwerthuso dogfennau i lunio adroddiad mewn lleoliad gweithle.
Bydd angen cynllunio'r mathau o nodiadau neu destunau, neu'r defnydd y caniateir i fyfyrwyr ei wneud o adnoddau ar-lein a'u cyfleu'n glir. Bydd hyn hefyd yn anodd ei fonitro.
Mae'r un ystyriaethau cynwysoldeb yn berthnasol i raddau helaeth i arholiadau traddodiadol a rhai llyfrau agored (cyflymder ysgrifennu â llaw neu deipio, Saesneg fel iaith ychwanegol, gorbryder), ond gall y dull llyfr agored weddu i ystod o anghenion sydd ychydig yn ehangach.
Darparu testunau a welwyd ymlaen llaw
Rhoddir testunau i fyfyrwyr cyn arholiad neu ddyddiad cau tynn (e.e. wythnos ymlaen llaw) fel bod ganddynt amser i baratoi eu hymatebion.
Gall fod elfen o ddilysrwydd yn yr ystyr y gall gwaith mewn rhai meysydd, megis y gyfraith, addysgu, neu arweinyddiaeth, ddigwydd o dan bwysau amser, gydag allbynnau perfformiad megis cyflwyniadau, darlithoedd neu areithiau.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ofyn am help neu i gydgynllwynio wrth baratoi.
Gall myfyrwyr sydd ag ymrwymiadau fel gwaith neu ddibynyddion fod o dan anfantais annheg.
Traethodau
Dadl ysgrifenedig estynedig, a ddefnyddir yn helaeth ar gyrsiau'r dyniaethau.
Mae traethodau yn fath o asesu annilys i raddau helaeth, gan nad yw'r dull hwn o ysgrifennu yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau gwaith y tu allan i'r byd academaidd; fodd bynnag, mae datblygu sgiliau ysgrifennu traethodau yn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion: 'meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol'.
Yn draddodiadol, mae ysgrifennu traethodau yn agored i twyllo contract, ac erbyn hyn hefyd i gamddefnyddio AI cynhyrchiol; gall annog ffyrdd amgen o gefnogi myfyrwyr, megis ysgrifennu adrannau o draethawd i sawl dyddiad cau cyn cyflwyno’n grynodol, neu gefnogaeth gan gymheiriaid drwy 'gyfeillion beirniadol', helpu i leihau'r risgiau hyn.
Gall deall confensiynau academaidd y DU fod yn her i rai myfyrwyr, a bydd angen esbonio meini prawf neu gyfarwyddiadau marcio iddynt yn glir; efallai y bydd angen cyfeirio myfyrwyr â dyslecsia, neu nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, at gymorth ychwanegol, neu efallai y bydd addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar gyfer cyflyrau academaidd sy'n effeithio ar fynegiant ysgrifenedig.
Adroddiadau
Gall adroddiad fod yn seiliedig ar ymchwil eilaidd, ond gall hefyd gynnwys ymchwil wreiddiol a gwaith maes.
Dilysrwydd: gall ysgrifennu adroddiadau fod yn sgil bwysig mewn sefyllfaoedd yn y gweithle yn y dyfodol, a gall gefnogi myfyrwyr i ddatblygu'r rhinwedd graddedigion: 'cyfathrebwyr effeithiol'.
Gall ysgrifennu adroddiadau fod yn llai agored i gamymddwyn academaidd na thraethodau, yn enwedig pan fydd ymchwil wreiddiol neu brosiect wedi'i wneud, neu pan fydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ar adroddiad.
Os bydd ymchwil yn cynnwys gwaith grŵp, bydd angen cynllunio'n ofalus sut y caiff myfyrwyr eu dyrannu i grwpiau a rheoli'r grwpiau, gan ystyried anghenion unigol.
Rhowch ddisgwyliadau o strwythur ac iaith adroddiad, gydag enghreifftiau, os yw’n bosibl, gan efallai na fydd rhai myfyrwyr yn gwybod elfennau'r math hwn o ysgrifennu.
Ymarferol/Perfformiad
Mae'n hanfodol mewn rhai disgyblaethau asesu sgiliau ymarferol a pherfformiad myfyrwyr.
Mae dilysrwydd a magu hyder yn fanteision clir asesiadau sy'n seiliedig ar berfformiad.
Nid oes llawer o risg o gamymddwyn academaidd mewn asesiad ymarferol neu berfformiad.
Gall perfformiad ar y diwrnod gael ei effeithio gan nerfau a phryder, neu bwysau amgylchiadol, ac efallai na fydd aildrefnu yn syml. Mae galluogi cyfleoedd i ymarfer cyn unrhyw asesiad lle bydd llawer yn y fantol.
Blog/Blog fideo
Gellir ei ddefnyddio ar gyfer asesu lle nad oes llawer yn y fantol, ac ar gyfer trafodaeth gydweithredol anffurfiol.
Gall blog/blog fideo helpu myfyrwyr i ddatblygu ymdeimlad o hunaniaeth ac ymgysylltiad â'u disgyblaeth, a allai eu helpu i weithio tuag at ymdeimlad o hunaniaeth broffesiynol yn eu dewis faes; mae arfer da yn caniatáu nifer diderfyn o gyflwyniadau i fforwm, gydag adborth gan gymheiriad yn ogystal â thiwtor trwy sylwadau, a dewis y darn gorau ar gyfer asesu crynodol.
Os yw blogiau/blogiau fideo yn cael eu postio ar fforwm agored, mae potensial ar gyfer llên-ladrad gan gyfoedion.
Gan fod blogiau yn ddarnau byrrach o ysgrifennu na thraethodau, a gall arddull iaith fod yn anffurfiol, gall blogiau a blogiau fideo fod yn ddefnyddiol, asesiadau heb lawer yn y fantol sy'n cael myfyrwyr i arfer â'r broses ysgrifennu neu fyfyrio, a gallant helpu i greu cymunedau dysgu. Yn yr un modd ag adroddiadau, eglurwch strwythur ac arddull ysgrifennu i'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r math hwn o ysgrifennu.
Cwestiynau amlddewis
Defnyddir y rhain yn aml ar gyfer profi deunydd ffeithiol yn gyflym.
Yn gyffredinol, mae cwestiynau amlddewis yn ffordd effeithiol o adolygu dealltwriaeth myfyrwyr a’u gallu i gadw gwybodaeth ac anaml y maent yn cefnogi sgiliau ymarferol neu drosglwyddadwy.
Gall profion amlddewis fod yn agored iawn i gamymddwyn academaidd. Er y gallai cyfyngiad amser helpu i gyfyngu'r risgiau, dylid ystyried yn ofalus a yw cyflymder yn rhan o'r canlyniadau dysgu ai peidio.
Gall cael myfyrwyr i gymryd rhan mewn cyd-greu cwestiynau amlddewis fod yn ffordd wych o nodi bylchau mewn gwybodaeth a dealltwriaeth, gan gyd-fynd â'r egwyddor o asesu fel dysgu.
Bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i amserlenni byr i'w cwblhau gan y bydd myfyrwyr â dyslecsia neu Saesneg fel iaith ychwanegol dan anfantais oherwydd gofyniad cyflymder cwblhau.
Arholiadau â chwestiynau ateb byr
Mae'r myfyrwyr yn rhoi atebion byr i nifer fawr o gwestiynau.
Efallai y bydd y ffocws yn fwy ar wneud penderfyniadau nag ar sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu; mae’r sgìl hwn yn bwysig mewn llawer o gyd-destunau gweithle, megis gofal iechyd, gwaith cymdeithasol, y gyfraith neu fusnes.
Gellir osgoi camymddwyn academaidd a chamddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol.
Mae'r un ystyriaethau cynwysoldeb yn berthnasol i bob math o arholiad i raddau helaeth (cyflymder ysgrifennu â llaw, ail iaith, gorbryder), ond mae arholiadau atebion byr yn rhoi mwy o ffocws ar y cof a chofio nag ar sgiliau cyfathrebu.
Profion ar gyfrifiadur
Gellir defnyddio’r rhain ar gyfer ystod eang o fathau o gwestiynau, gan gynnwys dewis cwymplen, llusgo a gollwng, clicio ar bwyntiau ar ddiagram ac ati.
Yn debyg i gwestiynau amlddewis, mae profion ar gyfrifiadur yn gyffredinol yn ffordd effeithiol o adolygu dealltwriaeth myfyrwyr a’u gallu i gadw gwybodaeth. Yn dibynnu ar y pwnc, mae myfyrwyr yn datblygu ac yn arddangos nifer o sgiliau/priodoleddau trosglwyddadwy megis llythrennedd digidol, datrys problemau, rheoli amser a sgiliau ymchwil, i gyd yn berthnasol i gyflogaeth yn y dyfodol.
Gall profion ar gyfrifadur fod yn agored iawn i gamymddwyn academaidd, ond gall cyfyngiad amser a chwestiynau beirniadol / myfyriol a luniwyd yn ofalus helpu i gyfyngu'r risgiau.
Gall llythrennedd digidol amrywio.
Gall y rhai sydd â nam ar eu golwg neu ddyslecsia, neu sydd â phroblemau symudedd mewn perthynas â defnyddio llygoden gael trafferth mewn sefyllfaoedd cyflymder.
Sicrhewch eich bod yn dylunio nodweddion hygyrch fel maint ffont, a chyferbyniad lliw, er mwyn galluogi darllenwyr sgrin ar gyfer unigolion â nam ar eu golwg, a llwybrau byr bysellfwrdd i'r rhai sydd â heriau symudedd gael mynediad i'r deunydd. Dilynwch egwyddorion UDL.
Portffolios
Gall portffolios ddangos tystiolaeth o sgiliau, neu gallant fod yn gasgliad o allbynnau a myfyrdodau.
Gall hyn roi cyfle i fyfyrwyr greu portffolio proffesiynol, neu gasgliad o waith y gellir ei gyflwyno i ddarpar gleientiaid a chyflogwyr; gall myfyrwyr ennill ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy.
Gall gwaith portffolio fod yn hynod unigol, sy’n ei wneud yn llai agored i gamymddwyn academaidd.
Gall cyflwyno gwaith ar draws amrywiaeth o ddulliau ganiatáu i fyfyrwyr fanteisio ar eu cryfderau, er y gall hyn fod yn llethol i rai myfyrwyr.
Arholiad llafar (viva voce)
Caiff ei ddefnyddio’n eang ar hyn o bryd ar gyfer asesiad â llawer yn y fantol ar lefelau doethuriaeth a meistr.
Gall llawer o yrfaoedd a phroffesiynau ddibynnu ar sgiliau wyneb yn wyneb wrth ateb cwestiynau a rhoi esboniadau perswadiol.
Mae achos o blaid mwy o ddefnydd o asesiadau llafar ar y cyd ag ysgrifennu ffurf hir yng ngoleuni cyd-destunau AI cynhyrchiol heddiw.
Gall deall a chyrchu cwestiynau fod yn broblemus. Ystyriwch faterion sy'n ymwneud â nam ar y clyw a/neu leferydd, a gorbryder neu gyflyrau iechyd meddwl. Darparwch gwestiynau ymlaen llaw, a/neu ganiatáu mynediad at ddeunyddiau neu nodiadau, os yw’n bosibl.
Cyflwyniadau
Unigol neu grŵp, ac i gynulleidfa sy’n cynnwys cyfoedion ac aseswyr, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau (arddull PowerPoint traddodiadol/poster/cyflwyniad busnes ac ati).
Mae myfyrwyr yn dangos sgiliau cyfathrebu, ochr yn ochr â gwybodaeth graidd am eu pwnc. Mae sgiliau cyflwyno yn ddefnyddiol mewn cyflogaeth yn y dyfodol. Gall fod yn unigol neu'n gydweithredol a darparu cyfleoedd ar gyfer asesu gan gymheiriaid a hunan-fyfyrio. Gall y sgiliau hyn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion; 'Myfyriol a chydnerth' a 'Cyfathrebwyr effeithiol'.
Gellir cynnal cyflwyniadau mewn lleoliad byw neu leoliad wedi'i recordio ymlaen llaw. Gall fod yn agored i ddefnydd genAI, ond os caiff ei fonitro a'i ddefnyddio'n briodol gellir lleihau'r risgiau hynny. Gall cynnwys y gallu i ymateb i gwestiynau digymell yn y meini prawf asesu leihau'r risgiau hyn ymhellach.
Fel arfer, mae'n dibynnu ar gyfleu syniadau ar lafar mewn amser real, gan roi'r rhai sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol neu nam ar y lleferydd dan anfantais. Gall achosi gorbryder. Eglurwch y sgiliau cyflwyno penodol sy’n cael eu hasesu (gweithredu a mynegiant). Darparwch ymarfer ffurfiannol wedi’i sgaffaldio: mewn parau/grwpiau bach/y dosbarth cyfan, gydag adborth gan gymheiriaid ac yna adborth gan y tiwtor gan ddefnyddio meini prawf asesu. Rhowch opsiynau ar gyfer ei wneud yn fyw neu wedi’i recordio a’i wneud wyneb-yn-wyneb neu ar-lein (gweithredu a mynegiant).
Posteri
Yn aml yn cael eu harddangos ar gyfer cymheiriaid ac aseswyr mewn arddangosfa; ddefnyddiol i'w cadw fel enghreifftiau ac ar gyfer cyfarwyddyd ar gyfer carfannau'r dyfodol.
Mae'n cynnig cyfle i arddangos sgiliau cyfathrebu, ochr yn ochr â gwybodaeth graidd am y pwnc. Mae myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith i eraill ac yn cael adborth cyflym gan ystod ehangach o bobl, sy'n datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Mae cyflwyno posteri yn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion: 'Cyfathrebwyr effeithiol'.
Mae risgiau cyfyngedig yn gysylltiedig ag asesiadau poster.
Gall dibynnu ar ffurf weledol yn unig herio'r rhai â nam ar eu golwg.
Efallai y bydd staff hefyd yn dymuno dylunio fersiwn testun anweledol o'r aseiniad hwn gyda meini prawf marcio amgen, fel asesiad amgen.
Prosiectau
Defnyddir prosiectau'n aml i helpu myfyrwyr i ddatblygu ac ymarfer sgiliau sy'n berthnasol i waith ymchwil.
Mae cryn gyfle trwy waith prosiect i fyfyrwyr weithio tuag at y rhinweddau graddedigion: 'ymwybyddiaeth foesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol', ac, 'arloesol, mentrus ac yn fasnachol ymwybodol'.
Mae gwaith prosiect yn aml yn caniatáu creadigrwydd a gwreiddioldeb, a allai gadw’r defnydd o AI cynhyrchiol dan reolaeth.
Mae prosiectau'n aml yn cynnwys gwaith grŵp, felly bydd angen cynllunio'n ofalus sut mae myfyrwyr yn cael eu dyrannu i grwpiau a sut mae’r grwpiau’n cael eu rheoli, gan ystyried anghenion unigol.
Traethawd Hir/traethawd ymchwil
Gwaith ysgrifenedig estynedig, gan gynnwys trafodaeth fanwl a dadansoddiad, a ddefnyddir yn gyffredinol ar Lefel 6 ac uwch.
Mae ysgrifennu traethawd hir neu draethawd ymchwil yn dangos gwybodaeth fanwl am faes ymchwil penodol lle mae myfyrwyr yn dangos sgiliau dadansoddi, ymchwil, meddwl beirniadol ac ysgrifennu lefel uchel. Gall sgiliau o'r fath fod yn berthnasol i gyflogaeth yn y dyfodol.
Yn debyg i ysgrifennu traethodau, gall traethodau hir fod yn agored i gamymddwyn ac erbyn hyn, i gamddefnyddio AI cynhyrchiol, hefyd; mae annog ffyrdd amgen o gefnogi myfyrwyr, drwy adborth ac arweiniad effeithiol ar ysgrifennu traethodau ymchwil yn hanfodol yma.
Gall myfyrwyr sy'n gweithio tuag at brosiectau mawr deimlo'n ynysig neu'n unig. Mae deialogau adborth yn bwysig yma, lle mae arweiniad ac anogaeth wyneb yn wyneb yn hanfodol. Dylid rhoi ystyriaeth feddylgar i ffactorau fel hygyrchedd, arweiniad a hyblygrwydd.
Efelychiadau
Defnyddir y rhain mewn disgyblaethau proffesiynol fel gofal iechyd i brofi cymhwysedd mewn cyd-destunau diogel.
Mae'r rhain yn hynod o ddilys wrth ymwneud â phroffesiynau a chyd-destunau penodol.
Gall yr asesiadau hyn fod yn gymharol wrthsafol i gamymddwyn academaidd.
Gall achosi gorbryder. Gall nerfau ddod i’r brig ac effeithio ar berfformiad 'ar y diwrnod'. Sicrhewch fod cyfleoedd ar gyfer ymarfer ac adborth yn cael eu darparu cyn yr asesiad crynodol.
OSCEs (Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol) / ISCEs (Arholiadau Clinigol Strwythuredig Integredig)
Defnyddir y rhain mewn addysg feddygol, ond gellir eu defnyddio hefyd mewn busnes, a'r gyfraith.
Ystyrir y rhain yn ddilys ac yn ddibynadwy (e.e. Dehongli pelydrau-X, cyfweld â chleifion, dehongli nodiadau achos, gwneud diagnosis, penderfynu ar bresgripsiynau).
Gall yr asesiadau hyn fod yn gymharol wrthsafol i gamymddwyn academaidd.
Gall nerfau ddod i’r brig ac effeithio ar berfformiad 'ar y diwrnod'. Sicrhewch fod cyfleoedd ar gyfer ymarfer ac adborth yn cael eu darparu cyn yr asesiad crynodol.
Dyddiaduron myfyriol
Gall myfyrdodau ddilyn fframwaith, megis cylch myfyriol Gibbs.
Gall llunio dyddiadur myfyriol adlewyrchu Cynllunio Datblygiad Personol (PDP) yn y gweithle, lle defnyddir myfyrio ar berfformiad a dysgu i gynllunio hyfforddiant a datblygiad gyrfaol yn y dyfodol; mae’n cefnogi datblygu’r rhinwedd graddedigion: 'myfyriol a chydnerth'.
Awgrymwyd dyddiaduron myfyriol fel ffordd o osgoi camddefnyddio AI gan eu bod yn dibynnu ar brofiad personol; fodd bynnag, efallai na fydd myfyrdodau yn gallu gwrthsefyll y defnydd o AI. Cewch ragor o fanylion yma.
Ystyriwch ganiatáu cyflwyno dyddiaduron myfyriol ysgrifenedig a llafar (fideo) gan y dylai'r naill fformat neu'r llall fodloni deilliannau dysgu.
Cyfrifon o ddigwyddiadau argyfyngus
Adolygu ffeithiau a manylion digwyddiad argyfyngus.
Mae cyfrifon o ddigwyddiadau argyfyngus yn caniatáu i fyfyrwyr ddangos creadigrwydd a sgiliau datrys problemau; maent yn ddilys ac yn datblygu sgiliau a phriodoleddau sy'n ofynnol ar gyfer datrys problemau'r byd go iawn.
Ar hyn o bryd mae'r sgiliau creadigrwydd a datrys problemau sy'n ofynnol ar gyfer dadansoddi digwyddiadau argyfyngus yn llai agored i gamddefnyddio AI cynhyrchiol.
Yn creu gorbryder
Mae deialog adborth a chyfle i ymarfer cyn yr asesiad crynodol yn bwysig yma.
Seminarau wedi'u hasesu
Caiff cyfraniadau unigol myfyrwyr i seminar eu hasesu, gan gynnwys rhyngweithio â chymheiriaid, a thystiolaeth o baratoi, yn ogystal ag ansawdd y dadleuon.
Mae seminarau'n datblygu sgiliau cyfathrebu myfyrwyr a'r gallu i ateb cwestiynau trwy drafodaeth grŵp. Mae'n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth fanwl am elfen o'r cwricwlwm. Mae seminarau'n helpu i ddatblygu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinweddau graddedigion; "Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol".
Gall fod yn anodd marcio seminarau 'yn fyw', ac efallai y byddai’n well eu cyflwyno mewn fformat a recordiwyd ymlaen llaw. Gall myfyrwyr ddibynnu ar genAI mewn lleoliad anghysbell i greu sgriptiau wedi'u paratoi ymlaen llaw ar bwnc penodol cyn yr asesiad.
Gall myfyrwyr â gorbryder, anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, ADHD, nam ar eu clyw neu eu lleferydd neu sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol wynebu anawsterau gyda'r math hwn o asesiad llafar. Gall dosbarthu pynciau hygyrch i grŵp mawr o fyfyrwyr fod yn heriol.
Llyfryddiaeth anodedig
Crynodebau o ffynonellau gyda sylwadau ar berthnasedd a chyfraniadau i ymchwil.
Yn yr un modd â thraethodau, nid yw'r math hwn o asesiad yn adlewyrchu tasgau yn y gweithle y tu allan i'r byd academaidd.
Yn aml gall offer AI gynhyrchu crynodebau clir ac effeithiol o destunau.
Gall hyn fod yn fath anghyfarwydd iawn o asesu i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, a bydd angen egluro disgwyliadau a’r broses yn glir.
Ymarferion e-fasged neu fewnfasged
Ymarferion efelychu busnes sy'n gofyn am wneud penderfyniadau, blaenoriaethu llwyth gwaith, dirprwyo tasgau ac argymhellion gweithredu yn seiliedig ar e-byst, memos cwmni, adroddiadau ac ati. Cewch fwy o wybodaeth am sut mae'r rhain yn gweithio yma (saesneg).
Mae ymarferion mewnfasged yn cael eu defnyddio’n aml gan gyflogwyr fel rhan o'r broses recriwtio, ac mae ymarfer yn aml yn cael ei ddarparu gan wasanaethau gyrfaoedd prifysgolion.
Mae'r math hwn o asesiad yn gymharol wrthsafol i gamymddwyn academaidd gan ei fod yn dibynnu'n helaeth ar fyfyrio a gwneud penderfyniadau.
Mae'r asesiadau hyn yn gofyn am weithio dan bwysau amser gyda llawer o wybodaeth i'w rheoli ac ymateb iddi, a gallant achosi lefelau uchel o bryder mewn rhai myfyrwyr.
Arteffactau
Cerfluniau, paentiadau, dylunio pensaernïol, modelau peirianneg.
Yn paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau y byddant yn eu hwynebu mewn sefyllfaoedd 'yn y byd go iawn' a datblygu sgiliau fel creadigrwydd, hyblygrwydd a blaengaredd, nad yw dulliau asesu traddodiadol yn ei wneud. Mae ymateb yn gyflym ac yn effeithiol mewn cyd-destunau dysgu seiliedig ar waith yn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion: ‘Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol’ ac ‘arloesol, mentrus ac yn fasnachol ymwybodol’.
Mae dysgu seiliedig ar waith yn asesu gwybodaeth ddamcaniaethol yn ogystal â chymhwyso sgiliau mewn senarios ymarferol, sy'n cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer camymddwyn academaidd.
Yn creu gorbryder;
Dylid cynllunio asesiadau gyda hyblygrwydd i ddiwallu anghenion amrywiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dangos ei sgiliau a'i wybodaeth yn effeithiol.
Dysgu seiliedig ar waith
Asesiad yn seiliedig ar berfformiad mewn lleoliadau gwaith.
Yn paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau y byddant yn eu hwynebu mewn sefyllfaoedd 'yn y byd go iawn' a datblygu sgiliau fel creadigrwydd, hyblygrwydd a blaengaredd, nad yw dulliau asesu traddodiadol yn ei wneud. Mae ymateb yn gyflym ac yn effeithiol mewn cyd-destunau dysgu seiliedig ar waith yn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion: ‘Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol’ ac ‘arloesol, mentrus ac yn fasnachol ymwybodol’.
Mae dysgu seiliedig ar waith yn asesu gwybodaeth ddamcaniaethol yn ogystal â chymhwyso sgiliau mewn senarios ymarferol, sy'n cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer camymddwyn academaidd.
Yn creu gorbryder;
Dylid cynllunio asesiadau gyda hyblygrwydd i ddiwallu anghenion amrywiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dangos ei sgiliau a'i wybodaeth yn effeithiol.
Ble nesaf?
- https://www.plymouth.ac.uk/uploads/production/document/path/10/10105/AUTHENTIC-ASSESSMENT_adapted_.pdf
- https://www.keele.ac.uk/kiite/curriculumdesignframework/authenticassessment/#reflective-prompt-questions:-authentic-assessment
- https://www.liverpool.ac.uk/centre-for-innovation-in-education/curriculum-resources/authentic-assessment/
- https://kaysambell.wordpress.com/supporting-the-rapid-switch-to-emergency-remote-teaching-assessment-issues/
- The Coronavirus assessment collection – Sally Brown and Kay Sambell 20/21
Cyfeiriadau
Armstrong, C.M. (2011). Implementing Education for Sustainable Development: The Potential Use of Time-Honored Pedagogical Practice from the Progressive Era of Education. Journal of Sustainability Education, 2.
Bovill, C. (2020). Co-creation in learning and teaching: the case for a whole-class approach in higher education. Higher Education 79 (1).
Cook-Sather, A., Bovill, C., Felten, P. (2014) Engaging students as partners in learning and teaching: a guide for faculty. San Francisco: Jossey Bass.
Deeley, S. J. (2014) Summative Co-Assessment: A Deep Learning Approach to Enhancing Employability Skills and Attributes. Active Learning in Higher Education 15 (1) 39–51.
Deeley, S. J., & Bovill, C. (2017) Staff-student partnership in assessment: enhancing assessment literacy through democratic practices. Assessment and Evaluation in Higher Education 42(3) 463–477.
Delpish, A, Holmes, A, Knight-McKenna, M, Mihans, R, Darby, A, King, K and Felten, P (2010) Equalizing Voices: Student-Faculty Partnership in Course Design, in Werder C and Otis M (eds) Engaging Student Voices in The Study of Teaching and Learning. Sterling: Stylus.
Denny, P., Luxton-Reilly, A. & Hamer, J. (2008) The Peer-wise system of student contributed assessment questions. Paper presentation, Australasian Computing Education Conference (ACE2008), Wollongong, Australia, January. Conferences in Research and Practice in Information Technology (CRPIT), Vol. 78. Simon and Margaret Hamilton, Eds.
Dijkstra, J., Latijnhouwers, M., Norbart, A., & Tio, R. A. (2016). Assessing the “I” in group
work assessment: State of the art and recommendations for practice. Medical Teacher,
38(7), 675–682. https://doi.org/10.3109/0142159X.2016.1170796
Francis, N.J., Allen, M, and Thomas, J. (2022). Using group work for assessment – an academic’s perspective. Advance HE.
Gordon, N. A. (2010). Group working and peer assessment — using WebPA to encourage
student engagement and participation. Innovation in Teaching and Learning in Information and Computer Sciences, 9(1), 20–31.
https://doi.org/10.11120/ital.2010.09010020
Hanrahan, S. J., & Isaacs, G. (2001). Assessing self- and peer-assessment: The students’
views. Higher Education Research & Development, 20(1), 53–70.https://doi.org/10.1080/07294360123776
Hardy, J., Bates, S.P., Casey, M.M., Galloway, K.W., Galloway, R.K., Kay, A.E., Kirsop, P. and McQueen, H. (2014). Student-Generated Content: Enhancing Learning through Sharing Multiple Choice Questions. International Journal of Science Education 36 (13) 2180–2194.
Herrington, J., Parker, J. & Boase-Jelinek, D. (2014). Connected authentic learning: Reflection and intentional learning. Australian Journal of Education, 58(1), pp. 23–35
Kennedy, G. J. (2005). Peer-assessment in Group Projects: Is It Worth It? In Proceedings of
Australia Computing Education Conference. Newcastle, Australasia.
Landorf, H., Doscher, S., & Rocco, T. (2008). Education for sustainable human development. Theory and Research Education, 6(2), 221-236.
Lejk, M., Wyvill, M., & Farrow, S. (1996). A survey of methods of deriving individual grades
from group assessments. Assessment and Evaluation in Higher Education, 21(3), 267–280.https://doi.org/10.1080/0260293960210306
Mazur, E. (1996). Peer Instruction: A User’s Manual. New Jersey: Prentice Hall.
Meer, N. & Chapman, A. (2015) Co-creation of Marking Criteria: Students as Partners in the Assessment Process, Business & Management Education in HE. Online: https://www.tandfonline.com/doi/full/10.11120/bmhe.2014.00008
Northumbria University (2019). A co-creation approach to strategic enhancement of assessment and feedback in nursing and midwifery: designing assessment support materials with students. Available at: Teaching and Learning Conference 2019: A co-creation approach to strategic enhancement of assessment and feedback in Nursing and Midwifery | Advance HE (advance-he.ac.uk) [Accessed:18 July 2022].
O’Neill, G (Ed) (2011) A Practitioner’s Guide to Choice of Assessment Methods within a Module Dublin: UCD Teaching and Learning https://www.ucd.ie/teaching/t4media/choice_of_assessment.pdf
Pokorny, H., & Warren, D. (2016). Enhancing teaching practice in higher education. London: Sage Publishing Ltd.
Riebe, Linda & Girardi, Antonia & Whitsed, Craig. (2016). A Systematic Literature Review of Teamwork Pedagogy in Higher Education. Small Group Research. 47. 10.1177/1046496416665221.
Sambell, K., and Graham, L. (2011) Towards an Assessment Partnership Model? Students’ Experiences of being Engaged as Partners in Assessment for Learning (AfL) Enhancement Activity. In S. Little (Ed) Staff–Student Partnerships in Higher Education
Shimazoe, J., & Aldrich, H. (2010). Group Work Can Be Gratifying: Understanding & Overcoming Resistance to Cooperative Learning. College Teaching, 58(2), 52–57. https://doi.org/10.1080/87567550903418594
Vygotsky, L. S. (1978). Mind in Society. The development of higher psychological processes. Mind in Society. Cambride, MA: Harvard University Press. https://doi.org/10.1007/s13398- 014-0173-7.2
Whatley, J. (2009). Ground Rules in Team Projects: Findings from a Prototype System to Support Students. Journal of Information Technology Education: Research, 8(1), 161–176. https://doi.org/10.28945/165
Yorke, M., & Knight, P. T. (2006). Embedding Employability into the Curriculum. https://www.qualityresearchinternational.com/esecttools/esectpubs/Embedding employability into the curriculum.pdf. Accessed 21 April 2021