Skip to main content

Tudalen Lanio Asesu ac Adborth ar gyfer Dysgu

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ar y dudalen hon o’r pecyn cymorth ceir tudalennau i’ch cefnogi gyda’r ffordd y byddwch yn dylunio arferion asesu ac adborth at ddibenion dysgu ac addysgu, boed hynny ar lefel rhaglen, modiwl neu sesiwn. Mae gofyn cael dylunio da i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu arddangos ei sgiliau, ei wybodaeth a’i ddealltwriaeth, a hynny er mwyn cyflawni ei botensial. 

Gallwch ddarllen am ein dull o ddylunio dysgu digidol yn ein hadran gyntaf, dylunio dysgu ar gyfer asesiadau ac adborth, sydd hefyd yn ymdrin â pharatoi a chynnal asesiadau.  

Yna gallwch ymchwilio’n ddyfnach i gefnogi myfyrwyr, trwy ystyried llythrennedd asesu ac adborth, trwy ystyried cynhwysiant ar gyfer eich myfyrwyr amrywiol a thrwy ddarparu asesiadau ac adborth cynhwysol. 

I’r rheini sy’n ymwneud â’r gwaith o ddatblygu rhaglen, neu â diddordeb yn hyn, darllenwch fwy yn yr adran dull lefel rhaglen o gynllunio asesiadau. Mae hyn yn cynnwys y dull lefel rhaglen, fframwaith EAT Prifysgol Caerdydd, Deallusrwydd Artiffisial Cynhyrchiol ac asesiadau ar lefel rhaglen, a datblygu meini prawf asesu. 

Mae’r adran olaf yn mynd i’r afael â dulliau asesu, ac yn trafod cyd-greu mewn asesu, asesu dilys, a gwaith tîm fel offeryn asesu, cyn i ni ystyried yr amrywiaeth eang o ddulliau asesu unigol a’u gwahanol ffyrdd o fod yn gynhwysol ac ar gyfer arfer effeithiol a chynhwysol.  

 

Dysgu Pellach 

Ceir hefyd y themâu a ddylai fod yn sail i asesu ac adborth at ddibenion dysgu ac addysgu yn llwyddiannus (cynhwysiant, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd) yn adran gyntaf y pecyn cymorth 

Ar gyfer staff Prifysgol Caerdydd: gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth o asesu ac adborth drwy gymryd rhan mewn gweithdai cysylltiedig, sydd wedi’u rhestru ar y dudalen Rhaglenni DPP ar y fewnrwyd. Mae’r gweithdai hyn ar gael i’w cymryd yn anghydamserol, yn eich amser eich hun, a gellir mynd ati wedyn i gynnal gweithdy byw (os oes digon o alw), neu gyfarfod pwrpasol gyda’r arweinydd i drafod sut i roi’r egwyddor ar waith yn eich arferion. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen DPP LTA Caerdydd. 

Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024) 

Mae’r thema hon yn gysylltiedig â Fframwaith Safonau Proffesiynol 2024 i ystyried A3: asesu a rhoi adborth ar gyfer dysgu, Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: hyrwyddo ymgysylltiad ym meysydd dysgu a chyfle cyfartal, K1 sut mae dysgwyr yn dysgu, a’r gofynion cyffredinol ar gyfer arddangos ‘Arferion effeithiol a chynhwysol’, ac A3: Asesu a rhoi adborth i ddysgwyr. 

Diagram addurniadol yn nodi dimensiynau cydblethedig y PSF 2023: Gwerthoedd Proffesiynol mewn glas, Gwybodaeth Graidd mewn porffor, a Meysydd Gweithgaredd mewn gwyrdd.
Dimensiynau’r PSF 2023