Croeso i’r wefan hon am gyfraith gofal cymdeithasol i blant yng Nghymru. Diben y safle yw helpu pobl ifanc, gweithwyr cymdeithasol, gofalwyr maeth, rhieni, cynghorwyr a’r cyhoedd i ddod o hyd i’r gyfraith gyfredol sy’n ymwneud â gofal cymdeithasol i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Rydym yn defnyddio’r term ‘gofal cymdeithasol i blant’ i ddisgrifio’r gwasanaethau sydd eu hangen ar blant a phobl ifanc. Adrannau gwasanaethau plant awdurdodau lleol sy’n darparu’r rhain fel arfer. Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw pwerau deddfu lles cymdeithasol bellach, mae’r gyfraith bresennol yn gyfuniad o ddeddfau hŷn ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae rhai deddfau ychydig yn wahanol yng Nghymru a Lloegr, a rhai sy’n berthnasol i Gymru yn unig. Rydym yn gobeithio y bydd y safle’n helpu i’ch tywys drwy hyn i ddod o hyd i’r hyn mae arnoch angen ei wybod nawr am wasanaethau plant. Bydd y safle hefyd yn cynnwys gwybodaeth am Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a fydd yn dod i rym yn 2016.
Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth Prifysgol Caerdydd sy’n cynnal y wefan hon ac fe’i cefnogir gan: BAAF Cymru; Cyngor Gofal Cymru; Rhwydwaith Maethu Cymru; a CASCADE. Cewch fwy o wybodaeth yma.
Bwriad y safle yw bod yn fan cyfeirio defnyddiol, ond ni ddylid ei ystyried fel cyngor cyfreithiol penodol ar gyfer achosion penodol. Nid yw’n fwriad ganddo ddisodli cyngor proffesiynol, ac ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw ddibyniaeth a roddir ar gynnwys y safle. Rydym yn gobeithio cadw’r wybodaeth sydd ar y wefan yn gyfredol ac yn gywir, ond ni allwn warantu y caiff ei ddiweddaru’n ddiymdroi pan mae’r gyfraith yn newid, os bydd y wybodaeth yn mynd yn hen neu’n amherthnasol. Rydym wedi rhoi rhywfaint o ddolenni i wefannau eraill defnyddiol, ond nid ydym yn gyfrifol am eu cynnwys, ac nid yw’r ffaith ein bod wedi rhoi dolen yma o reidrwydd yn golygu ein bod yn cymeradwyo cynnwys y safle hwnnw.