Skip to main content

CVs

Creu CV effeithiol sydd wedi'i deilwra, wedi'i strwythuro ac sy’n berthnasol.

Mae CV (curriculum vitae) yn ddogfen tua 2 ochr A4 fel arfer. Defnyddir CV i wneud cais am swyddi, profiad gwaith a chyrsiau ôl-raddedig, ac mae’n amlinellu eich addysg, eich profiad gwaith a’ch sgiliau. Rydym yn argymell eich bod yn meddwl am eich CV, nid yn unig fel trosolwg ffeithiol o’r hyn rydych wedi’i wneud, ond yn fwy fel offeryn marchnata gyda phwrpas clir – sef hyrwyddo eich addasrwydd ar gyfer y swydd benodol rydych wedi gwneud cais amdani. Felly, mae’n bwysig iawn eich bod yn treulio amser ac yn gwneud ymdrech wrth ysgrifennu eich CV, gan sicrhau ei fod wir yn dangos eich potensial a’i fod wedi’i deilwra’n briodol ar gyfer pob cyfle.

Sylwch fod y cyngor ar y dudalen hon yn berthnasol i’r DU – mae confensiynau CV yn amrywio ledled y byd. Os ydych chi’n fyfyriwr cyfredol ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwch gyrchu platfform GoinGlobal ar gyfer templedi CV ar gyfer gwahanol wledydd.

Mathau o CVs

Gellir dadlau mai CV cronolegol yw'r CV mwyaf traddodiadol a’r un sy’n cael ei ddefnyddio’n fwyaf cyffredin. Yn syml, cyflwynir gwybodaeth mewn trefn gronolegol o chwith. Felly ym mhob adran, eich addysg, profiad gwaith, cyflawniadau ac ati diweddaraf sy'n dod yn gyntaf ac yna'r cynharaf yn olaf. Addysg sy’n ymddangos gyntaf fel arfer, ac yna profiad, yna sgiliau a diddordebau.

Mae'n well defnyddio CV cronolegol pan fydd gennych brofiad sy'n berthnasol i'r hyn rydych yn gwneud cais amdano neu pan fyddwch yn gwneud cais am rôl neu gyfle sydd yn yr un maes â phwnc eich gradd.

Mae CV am sgiliau yn debyg iawn i CV cronolegol, ond y gwahaniaeth allweddol yw ei fod yn canolbwyntio mwy ar eich sgiliau.

Os ydych chi'n gwneud cais am rôl lle nad oes gennych chi brofiad perthnasol neu rôl sydd mewn maes gwahanol i'ch pwnc gradd, yna mae CV am sgiliau yn fwy addas i chi. Canolbwyntiwch ar ddangos tystiolaeth o’r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer y rôl – o ganlyniad, bydd eich adran sgiliau yn hirach nag mewn CV cronolegol a bydd yn debygol o ymddangos cyn adrannau eraill.

Mewn rhai diwydiannau, mae eich CV hefyd yn gyfle i dynnu sylw at eich creadigrwydd yn weledol, yn ogystal â'ch sgiliau digidol, dylunio a brandio.

Mae CVs creadigol yn dod yn fwyfwy cyffredin ar gyfer y rolau canlynol:

  • Y cyfryngau – gan gynnwys cynhyrchwyr, ysgrifenwyr sgript, gwneuthurwyr ffilmiau, ffotograffwyr a pheirianwyr
  • Awduron cynnwys a newyddiadurwyr
  • Hysbysebu digidol, cysylltiadau cyhoeddus, gwerthu a marchnata
  • Pensaernïaeth
  • Rolau TG – gan gynnwys datblygu a dylunio gwe, pensaernïaeth gwybodaeth, dylunio profiad defnyddiwr, datblygu rhyngwyneb gweithredu
  • Arbenigwyr dillad – gan gynnwys steilyddion, technolegwyr dillad, gwerthwyr gweledol a gwerthwyr ffasiwn
  • Dylunwyr – ffasiwn, tecstilau, 3D, dylunio mewnol
  • Darlunwyr a bywddarlunwyr
  • Artistiaid, gwneuthurwyr a pherfformwyr

Ystyriwch pa mor briodol fyddai CV anhraddodiadol ar gyfer eich dewis sector a'r cyflogwr penodol rydych yn cyflwyno cais iddo. Gallai CV hynod weledol a chreadigol greu argraff ar gwmni darlunio neu asiantaeth hysbysebu ddigidol ond i’r gwrthwyneb ar gyfer cwmni cyfreithiol!

Defnyddiwch adnoddau fel CV Parade, Guru, The Guardian  a’r Creative CV Guide i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich CV creadigol.

Defnyddir CV academaidd i ymgeisio am swyddi yn y byd academaidd ar ôl cwblhau PhD. Mae’n debygol y bydd yn hirach na’r CV a ddefnyddir i ymgeisio am y rhan fwyaf o swyddi eraill – mae hyd at 4 tudalen yn iawn ar gyfer CV academaidd, ond yn hollol anaddas ar gyfer y rhan fwyaf o swyddi.

Bydd CV academaidd yn rhoi mwy o bwyslais ar ymchwil, profiadau academaidd ac addysgu a gallai gynnwys adrannau ychwanegol fel profiad addysgu, profiad ymchwil, cyhoeddiadau, cynadleddau a chyllid, gwobrau ac ysgoloriaethau. Mae hefyd yn syniad da cynnwys eich geirdaon yn eich CV academaidd, yn enwedig gan eu bod yn debygol o fod yn gyd-academyddion yn eich dewis faes.

Mae gan Vitae gyngor rhagorol ar greu CVs academaidd.

Er mwyn sefyll allan, gallwch ddewis cyflwyno CV fideo ochr yn ochr â'ch cais wrth ymgeisio am rôl. Mae'n fideo byr sy'n amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y swydd, gan ddangos eich personoliaeth i'r cyflogwr hefyd.

Yn yr un modd â CVs creadigol, dylech ystyried pa mor briodol yw'r math hwn o CV ar gyfer y math o rôl rydych yn gwneud cais amdani. Bydd yn fwy addas ar gyfer rolau creadigol sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chwsmeriaid er enghraifft.

Darllenwch gyngor Prospects ac Indeed ar greu CV fideo.

Beth i’w gynnwys yn eich CV

Mae eich CV yn debygol o gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Manylion personol – rhowch eich enw, eich rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost. Efallai y byddwch hefyd am gynnwys dolen i’ch proffil LinkedIn neu broffiliau ar-lein perthnasol eraill sy’n tynnu sylw at eich sgiliau a’ch gwaith. Nid oes rhaid i chi gynnwys eich cyfeiriad, eich dyddiad geni na’ch llun
  • Addysg – cynhwyswch fanylion eich TGAU (neu gyfwerth), eich Safon Uwch (neu gyfwerth) a’ch gradd gyfredol. Ar gyfer cymwysterau a enillwyd y tu allan i’r DU, gall fod yn ddefnyddiol nodi yn eich CV y cymhwyster yn y DU y mae’n gyfwerth ag ef
  • Gwaith a phrofiad gwaith – rhowch fanylion unrhyw swyddi a phrofiad gwaith rydych wedi’u gwneud neu’n eu gwneud ar hyn o bryd. Tynnwch sylw at yr hyn rydych wedi’i gyflawni, yn ogystal â dyletswyddau a chyfrifoldebau
  • Sgiliau – rhowch enghreifftiau o ble rydych wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y rôl benodol. Defnyddiwch y disgrifiad o’r rôl i’ch helpu i wneud hyn
  • Diddordebau – mae cyflogwyr yn awyddus i ddeall pwy ydych chi y tu allan i’r gwaith. Felly cynhwyswch enghreifftiau o hobïau a diddordebau, ac eglurwch sut mae’r rhain wedi eich helpu i ddatblygu rhinweddau a sgiliau sy’n berthnasol i’r rôl a’r cyflogwr
  • Geirdaon – mae’n gyffredin nodi ‘Geirdaon ar gael ar gais’ ar waelod eich CV, ond efallai y byddwch yn dewis darparu manylion y sawl sy’n rhoi geirda i chi (enw, teitl swydd a gwybodaeth gyswllt) os ydynt yn amlwg yn eich maes (gyda’u caniatâd wrth gwrs!)

Awgrymiadau ardderchog ar gyfer creu eich CV

Cofiwch yr acronym TEC i greu CV effeithiol:

  • T – Teilwra eich CV
  • E – Edrychiad – fformatiwch eich CV yn effeithiol
  • C – Cryno – defnyddiwch iaith gryno

Cewch ragor o wybodaeth am hyn isod:

Er ein bod yn awgrymu datblygu templed meistr o'ch CV yn gynnar yn eich gradd, dylech bob amser ei deilwra i'r swydd benodol rydych wedi gwneud cais amdani. Bydd cyflogwr yn adolygu eich CV gan ystyried ei ofynion penodol, felly gwnewch hi'n hawdd iddo weld bod gennych chi'r sgiliau, y profiad a’r cymwysterau mae'n chwilio amdanynt. Gall recriwtwyr profiadol sylwi ar CV cyffredinol heb ei deilwra’n hawdd. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi’r amser a’r sylw y mae’n ei haeddu os ydych am symud ymlaen i gam nesaf y recriwtio.

Gallwch wneud hyn trwy:

  • Yr iaith a’r geiriau a ddefnyddiwch – cynhwyswch y geiriau a ddefnyddir yn y disgrifiad o’r rôl
  • Sut rydych chi'n cyflwyno gwybodaeth – cyflwynwch eich CV yn nhrefn pwysigrwydd a gwnewch yn siŵr bod cyflogwr yn gweld profiadau perthnasol yn gyntaf
  • Cynnwys proffil personol – dylai eich proffil personol fod yn grynodeb sy’n canolbwyntio’n benodol ar amlygu sut rydych chi’n addas ar gyfer y rôl a mynegi nod (neu nodau) gyrfa clir sy’n cyd-fynd â’r rôl
  • Sgiliau – rhowch enghreifftiau clir o ble rydych wedi dangos y sgiliau penodol y mae’r cyflogwr yn chwilio amdanynt mewn adran Sgiliau

Mae rhai cyflogwyr hefyd yn defnyddio Meddalwedd Olrhain Ymgeiswyr (ATS), sef meddalwedd electronig sy'n sganio'ch CV, fel arfer ochr yn ochr â gofynion y swydd. Bydd yn canfod pa mor addas ydych chi ar gyfer y rôl, yn seiliedig ar yr wybodaeth a gyflwynir yn eich CV. Mae’n bwysig iawn bod eich CV wedi’i deilwra’n dda i’r rôl, boed y sawl sy’n recriwtio’n berson go iawn neu’n system ATS.

Dylai eich CV fod yn hawdd i gyflogwr ei sganio'n gyflym oherwydd efallai mai dim ond ychydig eiliadau fydd gennych i greu argraff dda. Mae CV sydd wedi’i osod yn glir ac yn effeithiol yn ei gwneud hi'n hawdd i'r cyflogwr ddarllen a phrosesu'r wybodaeth fwyaf perthnasol.

  • Anelwch at 2 ochr A4, a dim mwy na hynny (oni bai eich bod yn defnyddio CV academaidd). Gallech ddefnyddio 1 ochr A4 os yw cyflogwr yn gofyn am hynny neu os nad oes gennych lawer o brofiad eto
  • Defnyddiwch dempled clir, fel un o'r rhai rydym wedi'u cynnwys isod. Mae fformat syml yn well, oni bai eich bod yn gwneud cais mewn diwydiant lle mae eich templed CV yn gyfle i arddangos sgiliau dylunio (gweler ein cyngor ar CVs creadigol uchod). Wrth ddefnyddio templed, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n personoli'r holl wybodaeth
  • Defnyddiwch ffont syml ac anelwch at faint ffont o ddim mwy nag 11
  • Osgowch ddefnyddio tablau – maent yn anodd eu dilyn ac mae’n anodd i systemau ATS eu prosesu
  • Defnyddiwch bwyntiau bwled i dorri brawddegau, fel nad oes gan gyflogwyr baragraffau hir o destun i'w darllen

Defnyddiwch iaith gadarnhaol a gweithredol i arbed lle ac amlygu beth rydych wedi’i gyflawni a pha effaith rydych wedi’i chael. Gwnewch hyn trwy ddechrau brawddegau gyda berfau (fel datblygu, dadansoddi, creu, adrodd, ymchwilio, gweithredu, newid, cyflawni).

Mae’n gyffredin ysgrifennu eich CV heb unrhyw ragenwau personol – er enghraifft, yn lle dweud ‘Datblygais fy sgiliau ymchwil trwy gynnal adolygiad llenyddiaeth trylwyr’, gallech ysgrifennu ‘Datblygu sgiliau ymchwil rhagorol trwy gynnal adolygiad llenyddiaeth trylwyr’.

Fel gyda phob cais, gwnewch yn siŵr nad oes gan eich CV unrhyw gamgymeriadau sillafu na gramadeg!

Templedi

Defnyddiwch y templedi CV a’r enghreifftiau isod i gael ysbrydoliaeth ar gyfer eich CV, ond cofiwch mai eich dogfen chi yw eich CV! Newidiwch yr holl eiriau ac addaswch y templed i weithio i chi.

CV Cemeg – Lleoliad diwydiannol CV Gwleidyddiaeth – Polisi

Cael adborth ar eich CV

  • Defnyddiwch ein gwiriwr CV ar-lein i gael adborth ar eich CV os ydych chi’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd neu wedi graddio o Brifysgol Caerdydd yn ddiweddar
  • Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd trwy eich Cyfrif Dyfodol Myfyrwyr i gael adborth ar eich CV

 

Cwestiynau Cyffredin am CV

Peidiwch â phoeni! Mae hyn yn gyffredin, yn enwedig os ydych ar ddechrau eich gradd. Cofiwch fod y brifysgol yn amser gwych i gael profiadau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau pwysig, yn ogystal â datblygu eich CV.

Mae hefyd yn hanfodol ar gyfer rolau cystadleuol, fel interniaethau a swyddi i raddedigion. Darllenwch ein cyngor ar sut i ddatblygu sgiliau pan fyddwch yn y brifysgol, yn ogystal â sut mae cael profiad gwaith, ac ystyriwch ymuno â Gwobr Caerdydd i wella eich cyflogadwyedd.

Yn y cyfamser, ystyriwch ddefnyddio CV am sgiliau, lle gallwch ymhelaethu ar y sgiliau rydych wedi’u hennill trwy eich gradd a’ch diddordebau, tra byddwch yn cael rhagor o brofiad.

Mae'n bwysig peidio â gadael unrhyw beth yn amwys yn eich CV - gwnewch yn siŵr nad oes bylchau neu fod unrhyw fylchau'n cael eu hegluro a hynny mewn ffordd mor gadarnhaol â phosibl. Peidiwch â phoeni am wyliau haf a chyfnodau bach o amser rhwng gwahanol gyrsiau addysg, er enghraifft, rhwng gorffen eich cwrs Safon Uwch a dechrau eich gradd prifysgol - nid yw'r rhain yn cael eu hystyried yn fylchau! Mae gennym gyngor ychwanegol am hyn os oes gennych fwlch yn eich CV oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd.

Weithiau nid ydych chi'n cael llawer o wybodaeth am rôl i'ch helpu i deilwra'ch CV. Defnyddiwch y proffiliau swydd ar wefannau fel Prospects a TargetJobs i gael syniad am y sgiliau sydd eu hangen yn aml ar gyfer y rôl honno. Gallech hefyd chwilio am rolau tebyg ar wefannau swyddi a gweld beth mae hysbysebion eraill yn ei ddweud am yr hyn sydd ei angen.


Adnoddau pellach

Defnyddiwch yr adnoddau isod i archwilio'r pwnc hwn ymhellach: