Skip to main content

Learning Design in Practice: Designing effective flipped learning (CYM)

Dylunio dysgu gwrthdro effeithiol  

 Pam mae’n bwysig 

Mae dysgu gwrthdro fwyaf effeithiol pan mae’r myfyrwyr yn defnyddio gweithgareddau cyn y dosbarth i baratoi ar gyfer dysgu ehangach yn y dosbarth. Yn hytrach na symud darlithoedd ar-lein, dylid canolbwyntio ar ddylunio tasgau cyn y sesiwn sy’n cyflwyno cysyniadau allweddol, gan ryddhau amser gwerthfawr yn y dosbarth ar gyfer trafod, datrys problemau a chymhwyso. Mae hyn yn helpu myfyrwyr ddod i’r dosbarth wedi paratoi’n well, ac yn creu cyfleoedd ar gyfer dysgu ehangach.  

 Awgrymiadau ymarferol 

  • Gwnewch yn siŵr bod y gweithgareddau cyn y dosbarth yn bwrpasol ac yn rhai y mae modd eu cyflawni (oddeutu 20-30 munud lle bo’n bosibl). 
  • Rhowch ddewis a hyblygrwydd i fyfyrwyr o ran y gweithgareddau cyn y dosbarth. Er enghraifft, darllen erthygl neu wylio fideo i baratoi ar gyfer y sesiwn gydamserol.  
  • Dylid alinio gweithgareddau cyn y dosbarth â’r deilliannau dysgu bwriedig. 
  • Defnyddiwch gwis byr neu gwestiynau myfyriol i wirio dealltwriaeth cyn y dosbarth.  
  • Dyluniwch weithgareddau yn y dosbarth lle mae gofyn i ddysgwyr gymhwyso, trafod neu werthuso’r cynnwys cyn y dosbarth, yn hytrach na’i ailadrodd.  
  • Esboniwch i fyfyrwyr pam fod y dull dysgu gwrthdro ar waith, a sut y bydd o fudd i’w dysgu.  
  • Gosodwch ddisgwyliadau clir ar gyfer gweithgareddau cyn y dosbarth a chyfranogiad yn y dosbarth, yn enwedig pan fyddwch yn defnyddio dysgu gwrthdro gyda grŵp am y tro cyntaf.  

Adnodd 

Yn y fideo canlynol, Alex yn cyflwyno cysyniadau a buddion sylfaenol dysgu gwrthdro.

Lawrlwytho: Rhestr Wirio Cynllunio Dysgu Gwrthdro 

Lawrlwytho: Cwestiynau Cyffredin Dysgu Gwrthdro 

Myfyrio a Chymhwyso 

Dewiswch un sesiwn addysgu rydych chi’n ei chynnal ar hyn o bryd. 

 Gofynnwch i chi’ch hun: 

  • Pa wybodaeth hanfodol allai’r myfyrwyr gael cip arni cyn y sesiwn? 
  • Sut allech chi ail-ddylunio’r amser wyneb yn wyneb i ganolbwyntio ar gymhwyso gwybodaeth? 

 Ceisiwch ddefnyddio dull dysgu gwrthdro gydag un o’ch sesiynau a gwerthuso ymateb eich myfyrwyr. 

Y dystiolaeth dros Ddysgu Gwrthdro 

Mae rhai o fanteision dysgu gwrthdro yn amlwg. Er enghraifft, mae rhyddhau amser rhag cyflwyno deunyddiau yn golygu y gellir neilltuo mwy o amser i weithgareddau gwerthfawr eraill, megis datblygu sgiliau, datblygu llythrennedd asesu, neu archwilio rhinweddau graddedigion. Gall dysgu gwrthdro hefyd gynnig mwy o gyfleoedd i gael profiadau dysgu cydamserol ystyrlon (e.e. cymdeithasol, cymhwysol, trwy brofiad) - yn syml trwy greu mwy o le yn y cwricwlwm. 

Mae profiad dysgu gwrthdro yn dod â myfyrwyr i gysylltiad â llawer o agweddau y profwyd eu bod yn cynorthwyo dysgu, megis amgylchedd dysgu gweithredol ac ymatebol, deunyddiau cyn-dysgu, a chydweithio ac adborth cymheiriaid (Hamden ac eraill, 2013; McLaughlin ac eraill, 2014; Freeman ac eraill, 2014). 

Astudiaethau Achos 

Dr Stephen Rutherford
Yn yr astudiaeth achos hon, mae Dr Stephen Rutherford (Ysgol y Biowyddorau) yn amlinellu ei brofiadau o ddefnyddio dulliau dysgu gwrthdro. 

Dr Anna Sydor a Dr Dominic Roche
Yn yr astudiaeth achos hon, mae Dr Anna Sydor a Dr Dominic Roche (Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd) yn rhoi sgwrs Pecha Kucha, lle maent yn esbonio sut y gwnaethant ddefnyddio dulliau dysgu gwrthdro drwy ddarparu eu holl adnoddau dysgu i fyfyrwyr ar ddechrau'r cwrs.