Dylunio Tu Hwnt i Ddysgu Cyfunol: Defnyddio’r Chwe Piler ar gyfer Dylunio Cwricwlwm a Dysgu
Dylunio gan ddefnyddio dull Beyond Blended: Defnyddio’r Chwe Philer ar gyfer Dylunio’r Cwricwlwm a Dysgu
Pam mae’n bwysig
Mae’r fframwaith Jisc Beyond Blended yn annog addysgwyr i symud y tu hwnt i feddwl am ddarpariaeth ar-lein vs. wyneb yn wyneb yn unig. Yn hytrach, mae’n canolbwyntio ar ddylunio profiadau dysgu o amgylch chwe philer allweddol: Lle, Platfform, Cyflymder, Cyfuniad, Hyblygrwydd a Chymorth. Mae’r pileri hyn yn helpu timau’r cwricwlwm wneud penderfyniadau pwrpasol ynghylch ble, pryd a sut mae’r dysgu’n digwydd, gan wneud yn siŵr bod profiadau dysgu yn ystyrlon o ran addysgeg, yn gynhwysol ac yn ymateb i anghenion myfyrwyr.
Awgrymiadau ymarferol
- Ystyriwch a yw’r gweithgareddau fwyaf effeithiol wyneb yn wyneb, ar-lein, neu drwy gyfuniad o’r ddau.
- Dewiswch blatfformau digidol sy’n cefnogi’r deilliannau dysgu yn hytrach nag ychwanegu technoleg heb fod angen.
- Byddwch yn eglur ynglŷn â chyflymder, gan helpu myfyrwyr i ddeall sut mae gweithgareddau cydamserol ac anghydamserol yn cyd-fynd â’i gilydd.
- Dyluniwch y cyfuniad o weithgareddau dysgu yn fwriadol, gan gydnabod bod gwahanol ddulliau yn cefnogi gwahanol fathau o ymgysylltu.
- Ceisiwch gynnwys hyblygrwydd priodol tra’n cynnal disgwyliadau academaidd clir.
- Rhowch arweiniad i helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus ynghylch cyfranogiad ac ymgysylltu.
- Sicrhau bod myfyrwyr yn deall gwerth cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a chymryd rhan mewn rhai gwahanol.
- Dyluniwch weithgareddau anghydamserol yr un mor fanwl â sesiynau byw.
- Casglwch adborth myfyrwyr ar sut mae gwahanol ddulliau o gyfranogiad yn cefnogi eu dysgu.
- Adolygwch fodiwlau o bryd i’w gilydd yn erbyn pob piler i adnabod cyfleoedd ar gyfer gwella.
Adnodd
Lawrlwytho: Pileri Beyond Blended: elfennau strategol, awgrymiadau a chwestiynau
Myfyrio a Chymhwyso
Dewiswch fodiwl neu raglen rydych chi’n ei addysgu ar hyn o bryd.
Gofynnwch i chi’ch hun:
- Ble mae’r myfyrwyr yn dysgu, ac a yw’r lleoedd yn cael eu defnyddio’n effeithiol?
- I ba raddau mae’r platfformau digidol yn cefnogi dysgu ac ymgysylltiad?
- A yw’r myfyrwyr yn deall y cydbwysedd rhwng dysgu byw ac annibynnol?
- Ble gallai rhagor o hyblygrwydd neu gefnogaeth wella’r profiad i fyfyrwyr?
Nodwch un agwedd ar y chwe philer a allai gael eu cryfhau, a rhowch newid bach ar waith yn eich cylch addysgu nesaf.
Archwilio’n Ddyfnach
Chwe Philer Dylunio Beyond Blended
Mae’r fframwaith Beyond Blended yn cynnig chwe philer sy’n gysylltiedig â’i gilydd sy’n helpu addysgwyr i feddwl yn strategol am ddylunio’r cwricwlwm a dysgu. Yn hytrach na dechrau gyda thechnoleg neu ddull cyflawni, mae’r fframwaith yn annog timau i ystyried sut mae myfyrwyr yn cyfrannu at eu dysgu mewn lleoedd, amseroedd a chyd-destunau gwahanol.
Lle
Ystyriwch ble mae dysgu’n digwydd, a gwerth addysgiadol y mannau dysgu amrywiol. Mae amgylcheddau wyneb yn wyneb ac ar-lein yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer ymgysylltu, rhyngweithio a chyfranogiad.
Platfform
Yn fwy nag erioed, mae myfyrwyr yn defnyddio sawl amgylchedd digidol gwahanol. Mae angen penderfyniadau ystyrlon ar ddylunio effeithiol ynghylch pa blatfformau a ddefnyddir, sut maen nhw’n cysylltu a sut mae myfyrwyr yn cael mynediad i ddeunyddiau a gweithgareddau dysgu.
Cyflymder
Mae’r dysgu yn digwydd ar ffurf cydamserol ac anghydamserol. Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ar fyfyrwyr i reoli dysgu annibynnol yn effeithiol, sy’n golygu bod disgwyliadau eglur a llwybrau dysgu strwythuredig yn hanfodol.
Cyfuniad
Mae dull Beyond Blended yn ystyried y berthynas rhwng dulliau dysgu a gweithgareddau gwahanol. Nid yw’r pwyslais ar efelychu addysgu wyneb yn wyneb ar-lein, ond yn hytrach ar gyfuno dulliau mewn ffyrdd sy’n manteisio i’r eithaf ar werth dysgu.
Hyblygrwydd
Mae gan fyfyrwyr amgylchiadau, dewisiadau ac anghenion amrywiol. Gall cynnig hyblygrwydd priodol o ran cyfranogiad, mynediad a llwybrau dysgu wella ymgysylltiad a chefnogi llwyddiant myfyrwyr.
Cymorth
Mae angen arweiniad clir, cyfathrebu effeithiol, adnoddau hygyrch ac adborth amserol ar fyfyrwyr. Dylai strwythurau cymorth helpu dysgwyr i lywio’r cwricwlwm a’r dewisiadau sydd ar gael iddyn nhw.
Gyda’i gilydd, mae’r chwe philer hyn yn cynnig geirfa a rennir ar gyfer trafod dylunio’r cwricwlwm, ac yn helpu addysgwyr i greu profiadau dysgu ymatebol, fydd yn ennyn sylw ac sy’n addas ar gyfer amgylchedd addysg uwch sy’n newid yn gyflym.