Skip to main content

Gwerthusiad Cynhwyso

Gwrando’n astud ac ymateb i bob llais

Mae gwerthuso yn offeryn hanfodol ar gyfer meithrin cynhwysiant ac yn rhan hanfodol o’r cylch addysgu, er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gwella arferion addysgu yn barhaus. Drwy gasglu adborth gan fyfyrwyr amrywiol drwy offer ac arferion gwerthuso ffurfiol ac anffurfiol, gall addysgwyr fynd i’r afael â rhwystrau gwirioneddol yn hytrach na heriau tybiedig (King ac Evans, 2007). 

Mae ymgysylltu o ddifrif â myfyrwyr yn un o Ddisgwyliadau Sefydliadol Prifysgol Caerdydd. Mae gwrando’n astud ar adborth myfyrwyr, gan roi sylw i brofiadau gwahanol grwpiau o fyfyrwyr, yn caniatáu inni fireinio ein dulliau addysgu a chefnogi. Mae hefyd yn datblygu cydweithio a chyd-adeiladu gyda myfyrwyr, ac yn hyrwyddo ymdeimlad cyffredin o gymuned a gwelliant parhaus.  

Ar y dudalen hon byddwch yn darllen am sut y gallwch wella eich dulliau gwerthuso er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn casglu adborth ar eich dulliau addysgu gan eich dysgwyr amrywiol. Dyma’r man cychwyn ar gyfer yr holl adnoddau gwerthuso sydd yn yr adran hon. Mae ar gyfer unrhyw un sy’n addysgu neu’n cefnogi myfyrwyr, mewn unrhyw rôl. 

Gallwch ddatblygu eich dealltwriaeth o Werthuso Cynhwysol drwy gymryd rhan yn ein gweithdai cysylltiedig, sydd ar gael yn anghydamserol, i’w gwneud yn eich amser eich hun. Gallwch fynd ati wedyn i wneud gweithdy byw (os oes digon o alw), neu gyfarfod pwrpasol gyda’r arweinydd i drafod sut i’w  roi ar waith yn eich arferion. Cewch ragor o wybodaeth ar dudalen DPP LTA Caerdydd.

Mae gwerthuso cynhwysol yn cyd-fynd â gofyniad cyffredinol y Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2024) ar gyfer ‘arferion effeithiol a chynhwysol’, ac yn benodol â Gwerthoedd Proffesiynol Fersiwn 1: Parchu dysgwyr unigol a grwpiau o ddysgwyr, a Fersiwn 2: hyrwyddo ymgysylltiad ym meysydd dysgu a chyfle cyfartal. Mae’n ganolog i Wybodaeth Graidd K3: ‘Gwerthuso beirniadol fel sail ar gyfer arferion effeithiol’. Mae hefyd yn galluogi Fersiwn 3: ‘Defnyddio ysgolheictod, neu ymchwil, neu ddysgu proffesiynol, neu ddulliau eraill sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel sail ar gyfer arferion effeithiol’. 

Mae gan Fodel Gwella Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd gyfres o dargedau allweddol ar gyfer gwella gwerthuso yn seiliedig ar argymhellion y sector.

Targedau’r Model Gwella ar gyfer Asesu ac Adborth ar Lefel Sesiwn neu Fodiwl: 

  • Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar y myfyriwr ac mae yna ystod o gyfleoedd i gyd-greu cynnwys a dull cyflwyno’r cwricwlwm. Mae pob myfyriwr yn cael cyfle i gyfrannu at y cwricwlwm, ei gynnwys, y deunydd darllen, neu’r dulliau addysgu. Gofynnir i fyfyrwyr werthuso sesiynau’n rheolaidd, a gwneud yn siŵr bod y ddolen werthuso bob amser wedi’i chau. 
  • Mae prosesau ailddilysu yn cynnwys cyd-greu manwl gyda’r myfyrwyr. 
  • Rhoddir ystyriaeth i sicrhau bod barn pob myfyriwr yn cael ei chlywed a’i fod yn cael cynnig amrywiaeth o ffyrdd o werthuso’r addysgu. Mae arweinwyr y rhaglenni a’r modiwlau yn mynd ati i archwilio a myfyrio ar strategaethau sy’n ennyn diddordeb yr holl fyfyrwyr. 
  • Mae tîm y rhaglen yn gweithio gyda myfyrwyr i sicrhau bod y system cynrychiolwyr myfyrwyr mor gynrychioliadol â phosibl o’r garfan amrywiol o fyfyrwyr.  
  • Mae’r rhaglen hefyd wedi ymgorffori sawl ffordd o ymgysylltu â grwpiau gwahanol o fyfyrwyr, a myfyrio gyda nhw, i rannu eu lleisiau ac adolygu’r adborth a ddaw i law i chwilio am batrymau yn yr adborth sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth. Mae’r dulliau gweithredu hefyd yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i asesu a oes yna unrhyw leisiau ar goll. 

Dull myfyriol o werthuso 

Mae Côd Ansawdd yr ASA ar gyfer Addysg Uwch (2018) yn awgrymu’r canlynol: 

‘Mae gwerthuso darpariaeth yn rheolaidd yn ategu dysgu ac addysgu effeithiol. Mae’n rheoli ac yn gwella eu gweithgareddau dysgu ac addysgu, gan gynnwys cyflawni deilliannau cymwysterau a dyfarniadau’ ac mae ‘dysgu ac addysgu effeithiol yn cael eu llywio drwy arferion myfyriol’. 

Mae myfyrio yn offeryn pwysig wrth wella dysgu ac addysgu ar draws sesiynau unigol, ac ar draws modiwlau a rhaglenni. Mae’n ein galluogi i ddeall sut a ph’un a yw ein haddysgu wedi cefnogi dysgu myfyrwyr, i adolygu tystiolaeth o ansawdd yr addysgu, ac i werthuso sut y gallwn newid ein harferion o ganlyniad. 

A rainbow diagram showing successive steps like a staircase. The title is Methods of evaluation across the lifespan of a module programme. The first stage, module and / or programme development is represented as the lowest step, with cogs inside the mind as a supporting image. It says ‘reflection based on previous experience’. The next step up, ‘module / programme starts’ is represented by a teal television. Beneath this, it says ‘informal student feedback. The next step up is peer feedback represented in lime with discussion clouds. The next step up again is formal student feedback, represented in orange by a group of students. The final and highest step is depicted in red as a checklist, entitled ‘assessment’. Throughout all of this is a ribbon of self-evaluation and reflection in purple.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae llawer o adegau lle gellid ysgogi myfyrio yn y cylch academaidd: 

  • Cyn dechrau’r modiwl neu’r rhaglen; 
  • Cyn, yn ystod neu ar ôl sesiwn addysgu; 
  • Trwy ryngweithio ffurfiol ac anffurfiol gyda myfyrwyr neu gydweithwyr; 
  • Yn dilyn asesiad ffurfiannol neu grynodol o waith myfyrwyr; 
  • Drwy’r broses ADP; 
  • Yn ystod pwyntiau yn y prosesau sicrhau ansawdd (er enghraifft: mewn byrddau arholi, byrddau astudio, ar ôl gwella modiwlau, ar ôl arolygon myfyrwyr, mewn adolygiadau ac ailddilysiadau) 

Mae ystod o fodelau ar gyfer myfyrio, i’ch helpu i werthuso’ch dull addysgu.  Ystyriwch gylch myfyriol Gibbs (1988), sy’n nodi dull 6 cham o fyfyrio ar brofiadau. Fel arall, mae ‘Reflective Teaching in Higher Education’ (Ashwin, 2020) gan Paul Ashwin yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o sut y gall myfyrio gefnogi pob agwedd ar eich rôl fel athro. 

 

 

 

 

 

 

 

Gwerthuso a chydweithio

Mae'n bwysig esbonio'n glir i fyfyrwyr bod staff academaidd yn eu dysgu ond ar ben hynny eu bod yn gweithio gyda nhw mewn partneriaeth. Pan ddeallais i hyn (pan eglurwyd bod fy mewnbwn yn cael ei werthfawrogi go iawn, newidiodd y ffordd ro’n i’n ymdrin â’r dysgu yn llwyr). Yn hytrach na rhoi atebion generig am arolygon na chadw'n dawel yn ystod trafodaethau, dyma fi’n ymateb yn ystyriol oherwydd fy mod i'n gwybod eu bod yn bwysig. Ro’n i'n teimlo bod pobl yn gwrando ar fy marn, ac roedd hynny'n fy annog i gymryd rhan amlycach yn academaidd ac yn y profiad dysgu. Mae'r math hwn o gydweithio gonest ac agored yn helpu’r staff hefyd. Pan fydd myfyrwyr yn teimlo'n ddigon diogel a’u bod yn cael eu parchu i allu rhoi adborth ystyrlon, mae’r staff yn cael cipolwg go iawn ar yr hyn sy'n gweithio a’r hyn y gellid ei wella. Mae'n creu synnwyr cyffredin o berchnogaeth ac mae hyn yn arwain at gymunedau dysgu cryfach a gwell canlyniadau i bawb sy'n rhan o’r broses. Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, 2025

Mae ystyriaethau ar gyfer gwerthusiadau o raglenni a modiwlau, a defnyddio mecanweithiau ffurfiol fel Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ar gyfer gwerthusiadau, ar dudalennau eraill y pecyn cymorth hwn . Yma, byddwn yn ystyried rhai offer gwerthuso anffurfiol ar gyfer dylunio ac addysgu ar lefel sesiynau. 

Mae ystod o offer a strategaethau gwerthuso i gefnogi athrawon i werthuso’r arferion. Mae rhestr ddefnyddiol a grëwyd gan Brifysgol Rhydychen , ac isod mae rhestr o offer gwerthuso anffurfiol a ddefnyddir yn aml: 

  1. 2 Seren a Dymuniad: Dwy agwedd gadarnhaol ac un awgrym ar gyfer gwella. 
  2. Stopio, Dechrau, Parhau: Nodi camau gweithredu i stopio, dechrau a pharhau. 
  3. Papurau Cofnodion: Myfyrdodau cyflym ar ddysgu a chwestiynau heb eu hateb. 
  4. Pwynt Mwyaf Amwys: Nodi agweddau dryslyd i dargedu eglurhad. 
  5. Meddwl-Paru-Rhannu: Trafodaethau cydweithredol sy’n gwella ymgysylltiad. 
  6. Arolygon dienw: Annog gonestrwydd a chynhwysiant drwy gasglu gwybodaeth yn gyfrinachol, drwy Mentimeter neu Padlet 

Mae’n hanfodol nad ydym yn ystyried corff amrywiol y myfyrwyr fel pe bai eu profiad o’ch addysgu yr un fath. Mae’n bwysig gwneud yn siŵr eich bod yn casglu barn gwahanol grwpiau o fyfyrwyr. Ceir argymhellion isod ar gyfer sut i ystyried amrywiaeth mewn gwerthusiadau: 

1.Dylunio cwestiynau cynhwysol: 

  • Gwnewch yn siŵr bod cwestiynau’n benagored ac yn caniatáu ar gyfer safbwyntiau amrywiol. 
  • Casglwch nodweddion myfyrwyr fel bod modd dadansoddi safbwyntiau amrywiol 
  • Peidiwch â defnyddio jargon neu gyfeiriadau diwylliannol penodol na fydd pob myfyriwr yn eu deall o bosibl. 

2. Anhysbysrwydd a Chyfrinachedd: 

  • Defnyddio offer adborth dienw i annog ymatebion gonest gan bob myfyriwr, yn enwedig y rhai o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. 

3. Sianeli adborth lluosog: 

  • Darparu ffyrdd amrywiol i fyfyrwyr roi adborth (e.e. ysgrifenedig, llafar, digidol) i ddarparu ar gyfer gwahanol ddewisiadau a galluoedd cyfathrebu. 

4. Sensitifrwydd Diwylliannol:

  • Bod yn ymwybodol o wahaniaethau diwylliannol mewn arddulliau cyfathrebu a dewisiadau o ran rhoi adborth. 
  • Addasu dulliau gwerthuso i fod yn barchus ac yn gynhwysol o bob cefndir diwylliannol. 

5. Myfyrio ac addasu rheolaidd: 

  • Myfyrio yn barhaus ar yr adborth a dderbyniwyd ac addasu dulliau addysgu er mwyn diwallu anghenion corff myfyrwyr amrywiol yn well. 
  • Cymryd rhan mewn datblygiad proffesiynol ar arferion addysgu cynhwysol 

Myfyrio ar werthuso

Myfyriwch ar yr awgrymiadau hyn:

Sut ydych chi'n gwybod sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu â'ch dulliau addysgu ac yn dysgu ohonyn nhw?

Sut ydych chi'n gwybod bod myfyrwyr amrywiol yn elwa o'r dulliau rydych chi'n eu defnyddio?

Pa ddulliau ydych chi'n eu defnyddio i gael adborth ar eich dulliau addysgu, a sut gellid gwella'r rhain ar gyfer eich amrywiaeth o ddysgwyr?

Ymchwil Weithredol 

Mae ymchwil weithredol yn fethodoleg ar gyfer ymchwil ar raddfa fach. Mae’n seiliedig ar ymchwiliadau ac mae llais y myfyrwyr yn ganolog i’r broses. Felly, mae’n fodel delfrydol ar gyfer chwilio am leisiau amrywiol, gwrando arnyn nhw ac ymateb iddyn nhw, er mwyn gwella arferion.  

Mae Ymchwil Weithredol yn ymchwil ysgolheigaidd sy’n: 

  • Ymarferol gan ei fod yn arwain at newid arferion 
  • Ddamcaniaethol gan ei fod yn cael ei lywio gan theori a gall arwain at fewnwelediadau newydd 
  • Yn ymwneud â newid a gwella. 

Mae ymchwil weithredol yn fethodoleg; neu’n fframwaith ar gyfer troi at brosiect ymchwil. Mae ymchwilwyr gweithredol yn credu, neu’n mabwysiadu safbwynt sy’n eu galluogi nhw ac eraill i weld y byd trwy sawl persbectif gwahanol. Maent yn ceisio deall a gwella ymarfer mewn amgylchedd lle mae llawer o safbwyntiau posib. Nid oes modd ei chyffredinoli, ond gellir ei rhannu ag eraill a allai fod eisiau cymryd rhan mewn newidiadau tebyg i arferion (Boucher a Piderit 2017). 

Mae llais myfyrwyr yn ffurf ganolog o ddata mewn ymchwil weithredol, gyda chyfweliadau lled-strwythuredig, arsylwadau, grwpiau ffocws, cyfweliadau anffurfiol, a holiaduron. Gallwch hefyd fanteisio ar fyfyrio ar eich ymarfer eich hun, data cyrhaeddiad a phresenoldeb, arsylwadau ac arteffactau (megis gwaith asesu myfyrwyr neu drafodaethau fforwm). 

Mae ymchwil weithredol yn cynnwys nifer o gamau penodol, fel y dangosir isod: 

A flowchart of steps of action research. Begins with the researcher. Identify the problem, plan the research intervention, act: conduct the required intervention, reflect - complete an analysis and reflective interpretation of the intervention, change - modify your future practice, ends with an option to start a new cycle, or to end cycle and share your report of the findings.
Camau Ymchwil Weithredol (Boucher a Piderit 2017) 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ble nesaf? 

Dolenni i dudalennau pecynnau cymorth eraill 

Mae ein tri phrif faes ffocws, sef Meithrin Ymdeimlad o Berthyn, Grymuso Myfyrwyr i Gyflawni eu Potensial, a Datblygu Meddylfryd Cynhwysol, yn adran themâu Cynhwysiant y pecyn cymorthhwn. Gallwch ddarllen rhagor am Werthuso, Ymgysylltu â Myfyrwyr, cydweithio a chyd-adeiladu yng ngweddill yr adran hon. 

Adnoddau a chyfeiriadau ychwanegol. 

Ashwin, P (2020) ‘Reflective Teaching in Higher Education’ Llundain: Bloomsbury. Ar gael yn: https://www.vlebooks.com/Product/Index/1826737  

Boucher, Duane a Piderit, Roxanne. (2017). Application of an Action Research Process: Reflections on an Undergraduate Information Systems (IS) Software Development Project (SDP). 

Gibbs G (1988). ‘Learning by Doing: A guide to teaching and learning methods’. Rhydychen: Uned Addysg Bellach Oxford Polytechnic. 

QAA. 2018. Expectations and Practices for Learning and Teaching. (Ar-lein) Ar gael yn: https://www.qaa.ac.uk/the-quality-code/2018/advice-and-guidance-18/learning-and-teaching#  

Prifysgol Rhydychen. 2025. Dulliau gwerthuso eich addysgu. Ar gael yn: https://www.ctl.ox.ac.uk/methods-evaluate-teaching