Skip to main content

Cydweithio ac Adeiladu ar y Cyd

Datblygu Partneriaethau Ystyrlon rhwng Myfyrwyr

Mae cydweithio a phartneriaethau yn rhan annatod o ymgysylltu â myfyrwyr. Pan fydd gan fyfyrwyr gyfleoedd ystyrlon i gyfrannu at y broses o wneud penderfyniadau a gwelliannau addysgol, maen nhw’n datblygu ymdeimlad dyfnach o berthyn, asiantaeth a chysylltiad â’u cymuned academaidd. 

 Nod y dudalen hon yw archwilio sut gall cydweithio, partneriaeth ac adeiladu ar y cyd gryfhau llais y myfyrwyr a chefnogi gwelliannau addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ar gyfer cydweithwyr sy’n arwain, cyflawni, cefnogi a gwella dysgu ac addysgu, gan gynnwys y canlynol: 

  • Arweinwyr Rhaglenni a Modiwlau 
  • Staff sydd ynghlwm wrth brosesau Adolygu a Gwella 
  • Unrhyw un sydd â chyfrifoldebau ehangach dros brofiadau myfyrwyr 

Mae’r dudalen yn archwilio’r canlynol: 

  • Egwyddorion sylfaenol partneriaethau rhwng myfyrwyr a staff ac adeiladu ar y cyd. 
  • Pam mae cydweithio â myfyrwyr yn hanfodol ar gyfer dysgu, perthyn a llwyddiant myfyrwyr. 
  • Y berthynas rhwng partneriaeth, llais y myfyrwyr a gwelliannau addysgol. 
  • Rhwystrau sy’n cael effaith ar gyfranogiad, a nodi’r lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed o bosibl. 
  • Symud ar hyd y continwwm, o ymgynghori i gydweithio ac adeiladu ar y cyd. 

Alinio â Dimensiynau a Disgrifiadau’r Fframwaith Safonau Proffesiynol 

Mae’r adnodd hwn wedi’i alinio’n agos â’r Fframwaith Safonau Proffesiynol (PSF 2023): 

  • Meysydd Gweithgarwch: A1-A4 (cefnogi dysgwyr, meithrin cyfranogiad a chydweithio i wella’r addysgu). 
  • Gwerthoedd Proffesiynol: V1, V2 a V3 (parchu dysgwyr amrywiol, hyrwyddo cyfranogiad teg a rhoi dulliau gwella seiliedig ar dystiolaeth ar waith). 

Mae’n hynod berthnasol i gydweithwyr sy’n gweithio tuag at gydnabyddiaeth Cymrodoriaeth (D2) neu Uwch-gymrodoriaeth (D3) drwy Advance HE. 

Cysoni Strategol

Mae’r dudalen hon yn cefnogi ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i gynnig profiad addysgol ardderchog drwy bartneriaeth, ymdeimlad o berthyn a chymuned. Drwy gydweithio â myfyrwyr, gall cydweithwyr gael mewnbwn clir i brofiadau myfyrwyr, cryfhau llais y myfyrwyr a datblygu gwelliannau ar sail tystiolaeth sefydliadol a phrofiadau go iawn myfyrwyr. 

Hygyrchedd a Chynhwysiant: Pa leisiau sydd ar goll? 

Mae hygyrchedd a chynhwysiant wrth wraidd partneriaethau ystyrlon â myfyrwyr. Ni ddylid cyfyngu ar gyfleoedd i fyfyrwyr sydd eisoes yn hyderus, yn hynod weladwy neu sy’n gyfarwydd â phrosesau’r brifysgol i gyfrannu. Yn hytrach, dylid dylunio gweithgareddau partneriaeth fel eu bod yn chwalu rhwystrau, yn gwerthfawrogi safbwyntiau amrywiol, ac yn cynnig sawl ffordd y gall myfyrwyr ymgysylltu a chyfrannu. 

 Wrth i chi symud drwy’r dudalen hon, ystyriwch y canlynol: 

 Pa leisiau sy’n cael eu clywed ar hyn o bryd? Safbwyntiau pwy all fod ar goll o bosibl? Sut gall cyfleoedd partneriaeth ddod yn fwy hygyrch, gweladwy a chynhwysol drwy gydol y daith i fyfyrwyr? 

 Er ei bod hi’n bosibl bod cyfleoedd i gymryd rhan ar gael, nid yw pob myfyriwr yn gallu neu’n fodlon cyfrannu yn yr un ffordd. Gall ffactorau megis hyder, pwysau amser, cyfrifoldebau gofalu, anabledd, ymrwymiadau cyflogaeth, cymudo, gwahaniaethau ieithyddol a phrofiadau addysgol blaenorol i gyd ddylanwadu ar y ffordd y mae myfyrwyr yn ymgysylltu. 

 O ganlyniad, mae’n bosibl nad yw’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau adborth a chynrychiolaeth yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned fyfyrwyr ehangach yn llawn. 

Beth yw Partneriaeth Myfyrwyr?

Yn draddodiadol, mae sefydliadau addysg uwch wedi ystyried myfyrwyr yn rhai sy’n cael eu haddysgu, neu fel ffynonellau goddefol o adborth. Fodd bynnag, mae datblygiad addysgol cyfoes yn cydnabod myfyrwyr fel cyfranwyr gweithredol sy’n dod ag arbenigedd gwerthfawr drwy eu profiadau go iawn o ddysgu.

Mae Healey, Flint a Harrington (2014) yn disgrifio partneriaeth fel:

“…proses gydweithredol a dwyochrog lle mae staff a myfyrwyr yn cydweithio i lunio, datblygu a gwella dysgu ac addysgu”.

Pŵer Arbenigedd Ategol

Mae partneriaeth yn llwyddo gan ei fod yn dwyn ynghyd dau fath unigryw o arbenigedd, sydd ill dau yr un mor werthfawr:

Arbenigedd Staff  Profiad y Myfyrwyr 
Gwybodaeth ddisgyblaethol a gwybodaeth am addysgeg  Profiad byw o amgylcheddau dysgu cyfredol 
Mewnwelediadau sefydliadol a phroffesiynol  Profiad uniongyrchol o lwyth gwaith asesu a rhwystrau 
Safonau ledled y sector a sicrwydd ansawdd  Safbwyntiau gan gymheiriaid a datrysiadau newydd i heriau cyson 

Dengys ymchwil bod partneriaeth rhwng myfyrwyr a staff yn gwella lefelau ymgysylltu myfyrwyr, yr ymdeimlad o berthyn, hyder ac asiantaeth. Mae hefyd yn cefnogi arferion addysgol mwy ymatebol a chynhwysol drwy wneud yn siŵr bod penderfyniadau’n cael eu dylunio gan y rhai sy’n cael eu heffeithio fwyaf. 

Cydweithio, Partneriaeth a Gwella

Mae cydweithio ac adeiladu ar y cyd yn gysylltiedig iawn â gwella. Er bod modd i adborth gan fyfyrwyr helpu i adnabod meysydd i’w gwella, mae angen deialog a dehongli ar y cyd er mwyn deall achosion cyffredinol problemau a phennu ymatebion iddynt. 

 Er enghraifft, gall data o’r NSS, Holiaduron Gwella Modiwlau, neu ddulliau adborth eraill nodi pryderon ynghylch asesu, cyfathrebu neu drefnu rhaglenni. Er hyn, go brin y bydd data meintiol yn unig yn esbonio achosion y problemau hyn. Mae dulliau cydweithredol yn galluogi myfyrwyr a staff i archwilio tystiolaeth gyda’i gilydd, datblygu dealltwriaeth a rennir o brofiad y myfyrwyr a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. 

Mae’r dull hwn yn newid y broses o wella: 

  • ymateb i sylwadau unigol tuag at adnabod themâu a phatrymau ehangach. 
  •  ddehongliad a arweinir gan staff tuag at ddealltwriaeth a rennir. 
  • ddatrysiadau a gynlluniwyd gan staff tuag at weithredu ar sail cydweithio. 

Drwy ddod â thystiolaeth sefydliadol a phrofiad y myfyrwyr ynghyd, gall cydweithio gefnogi gwelliant seiliedig ar dystiolaeth sy’n fwy tryloyw, ac sy’n ymateb i anghenion dysgwyr. 

O Ymgynghoriad i Adeiladu ar y Cyd 

Ymgynghoriad 

Yn aml, ymgynghori yw’r man cychwyn ar gyfer ceisio llais y myfyrwyr a gweithgareddau ymgysylltu. Mae’n cynnwys ceisio barn y myfyrwyr drwy arolygon, arfarniadau modiwlau, grwpiau ffocws, ffurflenni adborth a sgyrsiau anffurfiol. Mae ymgynghoriad yn rhoi mewnbwn gwerthfawr i brofiadau myfyrwyr, a gall helpu i adnabod meysydd ar gyfer gwella. Er hyn, mae’r myfyrwyr fel arfer yn ymateb i arferion sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na helpu i’w llunio nhw. 

 Cwestiynau i’w hystyried: 

  1. Pa gyfleoedd sy’n bodoli i fyfyrwyr fynegi barn? 
  2. Sut caiff adborth ei gasglu, ei ddadansoddi a’i weithredu? 
  3. Sut mae canlyniadau’n cael eu rhannu â myfyrwyr? 
  4. Ydy myfyrwyr yn deall sut mae’r adborth yn cyfrannu at newid? 

Cydweithio 

Mae cydweithio yn golygu staff a myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd i archwilio problemau a llywio’r broses o wneud penderfyniadau. Mae myfyrwyr yn cyfrannu eu safbwyntiau a’u profiadau drwy gydol y broses, gan helpu i feithrin dealltwriaeth fwy cynhwysfawr o brofiad y myfyrwyr. Gall enghreifftiau gynnwys gweithgareddau 100 Caerdydd, grwpiau ffocws, Paneli Myfyrwyr-Staff, gweithdai myfyrwyr a phrosiectau gwella. Trwy gynnwys myfyrwyr mewn trafodaethau a gwaith archwilio, mae cydweithio yn cefnogi penderfyniadau mwy seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth, a chynhwysfawr.

Cwestiynau i’w hystyried:

  1. Sut mae myfyrwyr yn cymryd rhan wrth archwilio a deall problemau?
  2. Ble mae safbwyntiau myfyrwyr yn dylanwadu ar benderfyniadau?
  3. Sut mae canlyniadau yn cael eu cyfleu a’u rhannu â myfyrwyr?
  4. Sut mae myfyrwyr yn ymgysylltu drwy gydol y broses?

Adeiladu ar y Cyd

Mae adeiladu ar y cyd yn cynrychioli ffurf dyfnach ar bartneriaeth lle mae staff a myfyrwyr yn cydweithio i ddatblygu dealltwriaeth a rennir ac adnabod datrysiadau. Nid yn unig y mae myfyrwyr yn rhannu eu profiadau, ond hefyd yn helpu i ddehongli tystiolaeth, adnabod blaenoriaethau a llywio gweithredu i’r dyfodol.

Dyma rai enghreifftiau:

  • Dadansoddiad ar y cyd o ganlyniadau NSS.
  • Cyd-ddehongli canfyddiadau arolygon.
  • Trafodaethau adolygu a gwella a rennir.
  • Cyd-ddatblygu cynlluniau gwella.

Mae adeiladu ar y cyd yn hyrwyddo deialog ystyrlon, perchnogaeth a rennir a synnwyr cryfach o bartneriaeth rhwng staff a myfyrwyr.

Cwestiynau i’w hystyried:

  1. Sut mae myfyrwyr yn cymryd rhan yn y gwaith o ddehongli tystiolaeth ac adnabod blaenoriaethau?
  2. A yw myfyrwyr yn cyfrannu at ddatrysiadau yn ogystal ag amlygu problemau?
  3. Ble mae myfyrwyr yn cael cyfle i ddylanwadu ar weithgareddau gwella?
  4. Sut mae penderfyniadau a gweithredoedd yn cael eu rhannu a’u cyfleu?

Gwrando’n weithredol ac ymateb i bob llais 

Mae cyd-greu profiadau dysgu gyda myfyrwyr yn cynyddu perchnogaeth a pherthyn. Mae dulliau addysgu a dysgu cydweithredol yn caniatáu i fyfyrwyr gyfrannu eu cefndiroedd a’u safbwyntiau unigryw, gan gyfoethogi ein cymuned academaidd. Er mwyn creu amgylchedd cynhwysol, mae angen i ni gymhwyso strategaethau addysgu diwylliannol ymatebol, megis cydnabod a gwerthfawrogi cefndiroedd a phrofiadau unigryw myfyrwyr, ac effaith hyn ar eu dysgu. 

Safbwynt y Myfyrwyr

Mae'n bwysig esbonio'n glir i fyfyrwyr bod staff academaidd yn eu dysgu ond ar ben hynny eu bod yn gweithio gyda nhw mewn partneriaeth. Pan ddeallais i hyn (pan eglurwyd bod fy mewnbwn yn cael ei werthfawrogi go iawn, newidiodd y ffordd ro’n i’n ymdrin â’r dysgu yn llwyr). Yn hytrach na rhoi atebion generig am arolygon na chadw'n dawel yn ystod trafodaethau, dyma fi’n ymateb yn ystyriol oherwydd fy mod i'n gwybod eu bod yn bwysig. Ro’n i'n teimlo bod pobl yn gwrando ar fy marn, ac roedd hynny'n fy annog i gymryd rhan amlycach yn academaidd ac yn y profiad dysgu. Mae'r math hwn o gydweithio gonest ac agored yn helpu’r staff hefyd. Pan fydd myfyrwyr yn teimlo'n ddigon diogel a’u bod yn cael eu parchu i allu rhoi adborth ystyrlon, mae’r staff yn cael cipolwg go iawn ar yr hyn sy'n gweithio a’r hyn y gellid ei wella. Mae'n creu synnwyr cyffredin o berchnogaeth ac mae hyn yn arwain at gymunedau dysgu cryfach a gwell canlyniadau i bawb sy'n rhan o’r broses.

Myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, 2025

Mae gwerthoedd partneriaeth addysg uwch yn arbennig o ddefnyddiol wrth ystyried manteisio ar amrywiaeth y gymuned: 

Advance HE values of partnership

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 2: Gwerthoedd partneriaeth Advance HE (Advance HE 2019) 

Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ymgysylltu â myfyrwyr o ran cynyddu lefelau rheolaeth myfyrwyr, fel y nodir gan Healey a Healey (2019): 

Healey's model of increasing student agency in partnerships

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Ffigur 3: Lefelau Asiantaeth mewn Gweithgareddau Ymgysylltu â Myfyrwyr (Healey a Healey 2019, o Student Voice Australia) 

Mae gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr yn galluogi staff i ddefnyddio ystod o ddulliau, gan weithio gydag unigolion ag anghenion penodol, grwpiau o fyfyrwyr sy’n profi rhwystrau penodol i ddysgu, neu garfanau cyfan o fyfyrwyr i ddatblygu ymarfer. Mae’r ffigur isod yn rhoi enghreifftiau o wahanol fathau o bartneriaethau myfyrwyr-staff mewn perthynas â dylunio, addysgu ac asesu’r cwricwlwm. 

Cydweithio ac Adeiladu ar y Cyd o fewn y Model Gwella Llais y Myfyrwyr 

Mae cydweithio ac adeiladu ar y cyd yn egwyddorion craidd ym Model Gwella Llais y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Yn hytrach na chyfyngu ar lais y myfyrwyr i arolygon a metrigau gwerthuso, mae’r Model yn hyrwyddo diwylliant o ddeialog, partneriaeth a chyfrifoldeb ar y cyd drwy’r canlynol: 

  • Cynrychiolaeth a chyfranogiad myfyrwyr. 
  • Paneli Myfyrwyr a Staff. 
  • Prosesau adolygu a gwella. 
  • Dehongli a gwerthuso adborth gan fyfyrwyr. 
  • Mentrau gwella dan arweiniad partneriaeth. 

Drwy roi’r dulliau hyn ar waith, byddwn yn symud gweithgareddau gwella: 

  •  ymateb i gwynion unigol tuag at nodi themâu a phatrymau systemig. 
  • staff yn dehongli’n bennaf tuag at ddealltwriaeth gydweithredol a rennir. 
  • ddatrysiadau a grëwyd gan staff tuag at ddatrysiadau cynaliadwy a grëwyd ar y cyd. 

Llais y Myfyrwyr ar waith: Astudiaethau Achos Caerdydd

Astudiaeth Achos 1:Defnyddio 100 Caerdydd i Archwilio Profiadau'r Myfyrwr

“Mae ymgysylltiad y myfyrwyr â’r arolygon Gwella ar Ddiwedd Modiwl (EM) yn amrywio’n helaeth ar draws modiwlau. Bues i’n gweithio mewn partneriaeth â myfyrwyr o 100 Caerdydd i ddeall yn well y rhesymau dros yr anghysondeb hyn, a chasglu adborth gan y rheiny sydd â phrofiad uniongyrchol o’r broses EM yng Nghaerdydd. Ymysg y manteision o ddefnyddio llais rhai o’r myfyrwyr 100 Caerdydd oedd eu bod yn herio rhai o dybiaethau’r staff, yn amlygu rhwystrau allweddol a chymhellion dros lenwi’r EM, ac yn adnabod cyfleoedd ymarferol ar gyfer gwella. Roedd y mewnwelediadau hyn yn llywio gwelliannau peilot, gan gynnwys newidiadau i amseriad arolygon, cyfathrebu a gwelededd o ran sut mae adborth y myfyrwyr yn cael ei weithredu.”

- Meryl Stone, Swyddog Llais y Myfyrwyr

 

Astudiaeth Achos 2: Model Cyd-gynhyrchu Myfyrwyr

“Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwneud mwy na chynllunio ar gyfer y dyfodol. Rydyn ni’n cyd-greu’r dyfodol.”

- Raven Hope ac Yaseen Rehman, Uwch Bartneriaid Profiad Myfyrwyr

Mae’r prosiect hwn yn cynnig Model Cyd-gynhyrchu Myfyrwyr ar gyfer prosiectau Prifysgol Caerdydd, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynnwys fel partneriaid gweithredol yn hytrach nag ymgynghoreion yn unig, a hynny drwy gydol cyfnod y prosiect. Yn unol â’r strategaeth Ein dyfodol, gyda’n gilydd, mae'r fframwaith yn ymgorffori llais y myfyrwyr ar dri cham allweddol:

  1. Cyn y prosiect: Cynnwys myfyrwyr yn y camau cynllunio cynnar, recriwtio a diffinio blaenoriaethau.

  1. Cyfnod Cyflawni’r Prosiect: Cynnwys myfyrwyr wrth wneud penderfyniadau ac adborth parhaus.

  1. Ar ôl y prosiect: Gwerthuso effaith, nodi’r gwersi a ddysgwyd a defnyddio adborth gan fyfyrwyr i wella mentrau i’r dyfodol.

 

Gweithgaredd Myfyrio: Symud tuag at Bartneriaeth

Ystyriwch fodiwl, rhaglen, prosiect neu weithgaredd gwella rydych chi’n ei arwain ar hyn o bryd. Myfyriwch ynghylch sut mae myfyrwyr yn cael eu cynnwys yn y broses: 

 

Mapio’r Continwwm: Ym mha adran mae eich gweithgaredd ar hyn o bryd (Ymgynghori, Cydweithio neu Adeiladu ar y Cyd)? A fyddai modd cynnwys myfyrwyr yn gynt er mwyn helpu i gyd-greu datrysiadau? 

 

Gwerthuso Cynhwysiant: Pa leisiau sydd fwyaf amlwg fan hyn? Safbwyntiau pwy sydd ar goll, a sut allech chi chwalu rhwystrau cyfranogiad? 

 

Manteisio ar Adnoddau: A fyddai modd defnyddio Partneriaid Profiad Myfyrwyr (SEP) neu 100 Caerdydd er mwyn cyd-greu’r gwelliannau hyn gyda chi? 

 

 

Cofiwch: Nid yw partneriaeth yn golygu bod angen i fyfyrwyr fod ynghlwm wrth bob penderfyniad, waeth os ydyn nhw’n fach neu fawr. Yn hytrach, mae'n ymwneud â bod yn fwriadol, yn dryloyw ac yn barchus o'r arbenigedd a rennir rhwng y ddau barti. emember: Partnership does not mean students must be involved in every single micro-decision. Rather, it is about being intentional, transparent and respectful of the shared expertise both parties bring to the table.

Dolenni i Dudalennau Pecynnau Cymorth Eraill 

    • Ymgysylltu â Myfyrwyr Creu Cyfleoedd Ystyrlon i Fyfyrwyr Gymryd Rhan, Teimlo fel eu bod yn Perthyn a Llwyddo. Mae’r dudalen hon yn archwilio’r berthynas sylfaenol rhwng ymdeimlad o berthyn, llwyddiant myfyrwyr a dimensiynau ymgysylltu. 
    • Archwilio sut i gynnwys llais y myfyrwyr wrth Ddylunio Dysgu, Dulliau Addysg, Asesu ac Adborth ac arferion Adolygu a Gwella. 

Adnoddau a Chyfeiriadau Ychwanegol 

  • Healey, M., Flint, A. a Harrington, K. (2014) Ymgysylltu drwy Bartneriaeth: Myfyrwyr fel Partneriaid mewn Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch. Efrog: Yr Academi Addysg Uwch. [Ar gael ar-lein]. 

Adnoddau Prifysgol Caerdydd