Skip to main content

Egwyddor 2: Rhagoriaeth mewn Addysgu

Graffigyn haniaethol o fwlb golau yng nghledr llaw

Trosolwg o Ragoriaeth mewn Addysgu

Mae datblygu modiwlau a rhaglenni yn ymdrech tîm, gyda chydweithwyr yn chwarae rolau gwahanol a phob un â’i feysydd arbenigedd ac anghenion datblygiad proffesiynol ei hun. Bydd meithrin eich gwybodaeth eich hun, a’r sgiliau yn eich tîm, yn rhoi’r cyfle gorau i chi lwyddo, gyda chymorth addysgu a dysgu cynhwysol ardderchog yn helpu myfyrwyr a staff i ffynnu.

Fframwaith ar gyfer Addysgu Llwyddiannus

Mae amrywiaeth o ffurfiau ar addysgu rhagorol ac mae Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU yn garreg gyffwrdd ddefnyddiol yma: mae’n fframwaith y cytunwyd arno ar gyfer y sector cyfan sy’n nodi cydrannau addysgu a dysgu llwyddiannus. Mae Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU wedi’i drefnu o ran:

Meysydd Gweithgarwch (fel asesu a rhoi adborth i ddysgwyr)
Gwybodaeth Graidd (er enghraifft, deall sut mae myfyrwyr yn dysgu yn eu maes disgyblaethol)
Gwerthoedd Proffesiynol (sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd parchu amrywiaeth dysgwyr ac ymgysylltu â’r dystiolaeth ar ddysgu ac addysgu).

Gall myfyrio ar eich ymgysylltiad eich hun â’r dimensiynau hyn – a fydd yn amlygu’n wahanol yn ôl eich rôl a’ch profiad – fod yn ffordd ddefnyddiol o adolygu eich ymarfer eich hun a nodi unrhyw feysydd i weithio arnynt.

👉 Ddim yn siŵr ble i ddechrau gyda Fframwaith Safonau Proffesiynol y DU? Oeddech chi’n gwybod bod yna offeryn ar-lein sy’n eich helpu i amcangyfrif eich aliniad i gategorïau Cymrodoriaeth er mwyn pennu eich lefel mynediad orau?

Nodweddion Craidd Addysgu Rhagorol

Mae addysg gynhwysol yn golygu bod yn ymrwymedig i ddatblygu prosesau ac arferion dysgu ac addysgu sy'n gynhwysol, yn rhagweledol, yn ystyrlon, ac yn hygyrch i’n holl ddysgwyr amrywiol, ac i wella gweithdrefnau a gweithgareddau sefydliadol i gefnogi'r nod hwn.

Cyflawnir rhagoriaeth mewn addysgu trwy gefnogi pob myfyriwr i gyflawni ei botensial trwy adnabod rhwystrau rhag dysgu yn systematig, a chael gwared arnynt, yng nghwricwlwm, amgylchedd a strwythurau trefniadol rhaglen, modiwl neu sesiwn ddysgu.

Mae gan bob rhanddeiliad mewn addysg ran i’w chwarae:

(Lawrie et al. 2017)

Cynwysoldeb yn y Pecyn Cymorth hwn

Mwynhau dysgu am gynwysoldeb? Gweler dewislen ein tudalen cynwysoldeb am fwy!

Mae Advance HE yn ystyried cyflogadwyedd megis galluogi myfyrwyr i ddatblygu "gwybodaeth, sgiliau, profiadau, ymddygiadau, rhinweddau, cyflawniadau ac agweddau sy'n galluogi graddedigion i bontio'n llwyddiannus mewn ffyrdd sydd o fudd iddyn nhw, yr economi a'u cymunedau". Gan adlewyrchu'r dull hwn, mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu’r sgiliau a'r rhinweddau i fod yn ddinasyddion byd-eang cymdeithasol, economaidd, ac amgylcheddol ymwybodol.

Un o'r ffyrdd hyn yw trwy wreiddio rhinweddau graddedigion trwy addysgu rhagorol.

Cyflogadwyedd yn y Pecyn Cymorth hwn

Mwynhau dysgu am gyflogadwyedd? Gweler dewislen ein tudalen cyflogadwyedd am fwy!

Mae cynaliadwyedd mewn ymarfer addysgu yn gofyn am ddatblygu ar y cyd gyda dysgwyr i lunio a datblygu profiadau dysgu sy'n tynnu o enghreifftiau amrywiol o'r byd go iawn. Mae arferion yn cefnogi datblygiad meddwl a myfyrio hirdymor ymhlith myfyrwyr ac athrawon. Mae pedwar piler sylfaenol i addysgu ADC (Sobe 2021 UNESCO), sef:

• Dysgu astudio, ymchwilio a datblygu ar y cyd gyda’i gilydd
• Dysgu i symud ar y cyd
• Dysgu byw mewn byd cyffredin
• Dysgu rhoi sylw a gofalu

Cynaliadwyedd yn y Pecyn Cymorth hwn

Mwynhau dysgu am gynaliadwyedd? Gweler dewislen ein tudalen cynaliadwyedd am fwy!

Archwiliad Dyfnach Bach o Ragoriaeth mewn Addysgu

Bydd ymgysylltu â'r ysgoloriaeth ar ddysgu ac addysgu yn helpu i sicrhau bod y dewisiadau a wnewch yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn cyd-fynd â'r wybodaeth sy'n esblygu'n barhaus am ddysgu myfyrwyr. Mae'r llenyddiaeth ar addysgu yn enfawr ac yn rhychwantu'r sbectrwm cyfan o ddamcaniaethau dysgu clasurol i astudiaethau achos ymarferol sy'n canolbwyntio ar ddisgyblaeth. Gall yr Academi Dysgu ac Addysgu helpu i'ch arwain a'ch cyfeirio'n gyflym at ffynonellau ac enghreifftiau perthnasol ag enw da.

Yn fras iawn, bu symudiad amlwg oddi wrth ddulliau athro-ganolog lle mae disgwyl yn gyffredinol i fyfyrwyr gymhathu gwybodaeth trwy ddarlithoedd a darllen, tuag at amrywiaeth lawer ehangach o weithgareddau dysgu wedi'u cynllunio mewn amgylchedd sy'n llawn gwybodaeth. Mae enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys dysgu ar sail ymchwiliad a dysgu ar sail prosiect, cydweithio, gwneud a chreu, neu gymhwyso dysgu mewn lleoliadau dilys fel efelychiadau neu weithio ar senarios byd go iawn.

Ar gyfer llunio rhaglenni, mae hyn wedi arwain at bwyslais ar bwysigrwydd cael gweledigaeth glir ar gyfer nodau eich rhaglen (a fynegir yn y pen draw fel deilliannau dysgu), strategaeth asesu ac adborth sydd wedi’i halinio’n dda, a gweithio am yn ôl oddi yno i lunio gweithgareddau a sgaffaldio cynnydd myfyrwyr. I lawer, bydd hyn yn ffocws i’w datblygiad proffesiynol wrth iddynt ddechrau llunio modiwlau a rhaglenni.

Pwysleisir yn gyson bwysigrwydd myfyrio wrth ddatblygu rhagoriaeth mewn addysgu ond nid yw cymryd yr amser i ddadbacio profiad addysgu, ystyried beth aeth yn dda – neu beidio – a chynllunio ar gyfer y dyfodol yn sgìl cynhenid. Mae modelau a fframweithiau lluosog a all eich helpu i drefnu gweithgareddau myfyriol: o Rolfe et al (2001), “What? So what? Now what?” i gylch myfyriol chwe cham Graham Gibbs (1988). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhain yn y canllaw Arferion Myfyriol i Staff.

Gall ymgymryd â datblygiad proffesiynol ar gyfer addysgu fod yn ffordd werthfawr o ddatblygu addysgu rhagorol, boed i chi neu eich cydweithwyr. Rhaglenni Cymrodoriaeth Addysg Prifysgol Caerdydd yw ein rhaglenni wedi’u hachredu gan AdvanceHE sy’n rhoi’r sgiliau sydd eu hangen ar staff i fod yn addysgwyr effeithiol ac maent wedi'u cynllunio i fod yn ddiddorol, yn ysgafn a chanolbwyntio ar ymarfer. Mae yna nifer o lwybrau ar gael, wedi'u halinio â meincnodau a derbyniadau Cymrawd Cyswllt, Cymrawd ac Uwch-gymrawd ar sawl pwynt yn ystod y flwyddyn.

Mae rhaglen annibynnol ac agored o ddigwyddiadau a gweithdai hefyd yn cael ei chynnal bob blwyddyn a gellir ei defnyddio neu ei dilyn fel rhan o gynllun datblygiad proffesiynol parhaus pwrpasol a allai fanteisio ar ystod o weithdai mewnol, darpariaeth allanol, digwyddiadau, a dysgu hunangyfeiriedig.