Skip to main content

Egwyddorion Allweddol

Poster o 5 Egwyddor Allweddol Datblygiad Addysgol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae rhif 5 mawr lliw porffor ar y chwith. 1. Profiadau Dysgu Diddorol 2. Rhagoriaeth mewn Addysgu 3. Partneriaeth a Chyd-greu 4. Amgylcheddau Dysgu Effeithiol 5. Asesiadau sy’n Gyfystyr â Dysgu

 

Egwyddor 1: Profiadau Dysgu Diddorol

Mae dysgu 'diddorol' yn canolbwyntio ar roi'r myfyriwr wrth wraidd y profiad dysgu. Mae'n ymwneud â chreu profiadau dysgu sy'n ddiddorol ac yn ysgogol, ac sy'n dal sylw myfyrwyr.

Egwyddor 2: Rhagoriaeth mewn Addysgu

Bydd meithrin eich gwybodaeth eich hun, a’r sgiliau yn eich tîm, yn rhoi’r cyfle gorau i chi lwyddo, gyda chymorth addysgu a dysgu cynhwysol ardderchog yn helpu myfyrwyr a staff i ffynnu.

Egwyddor 3: Partneriaeth a Chyd-greu

Rhaid i ni gydweithio â myfyrwyr fel partneriaid i gyd-greu profiad myfyrwyr, gyda mewnbynnau a mewnwelediadau gwahanol staff a myfyrwyr yn cael eu gwerthfawrogi'n gyfartal.

Egwyddor 4: Amgylcheddau Dysgu Effeithiol

Fel ymarferwyr addysgu, mae gennym y pŵer i ddylunio, meithrin a phlethu amgylcheddau dysgu er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad dysgu effeithiol a diddorol.

Egwyddor 5: Asesu sy’n Gyfystyr â Dysgu

Bydd datblygu dulliau asesu sy'n cynnwys tasgau blaendirol y gall myfyrwyr eu defnyddio fel ‘asesu SY’N GYFYSTYR Â dysgu’, ac sy’n annog ‘asesu AR GYFER dysgu’, yn cael effaith fuddiol ar fyfyrwyr: ar eu hymgysylltiad ac ar ansawdd y canlyniadau a gyflawnir yn nodweddiadol.