Skip to main content

Datblygu Addysg ym Mhrifysgol Caerdydd

Ym Mhrifysgol Caerdydd rydym wedi ymrwymo i gynnig profiad addysgol rhagorol i fyfyrwyr o bob cefndir, ac ymrwymiad i ddysgu gydol oes hyblyg sy’n creu newid cadarnhaol (Ein dyfodol, gyda’n gilydd. Ein Llwybr at 2035)

Gallwn helpu i wireddu’r dyheadau hyn drwy weithgareddau datblygu addysg, a all gynnwys datblygu rhaglenni newydd, newidiadau sylweddol, ac ail-ddilysu.

Drwy gymryd agwedd gyfannol at ystyried a phennu hyd a lled rhaglenni a datblygu rhaglenni, gan roi taith ddysgu’r myfyriwr wrth wraidd y broses ddylunio ac ymgorffori themâu addysg trawsbynciol allweddol Prifysgol Caerdydd yn llawn sef cynwysoldebcynaliadwyedd a chyflogadwyedd, gallwn sicrhau bod ein rhaglenni nid yn unig bodloni disgwyliadau sefydliadol y Brifysgol; eu bod yn rhagori ar y rhain.

Yn dilyn cymeradwyaeth gan y Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni, mae’r sylw yn troi at yn ystod y cyfnod hwn mae’r ffocws ar sicrhau bod gweithgareddau. DuYn ystod y cyfnod hwn mae’r ffocws ar sicrhau bod gweithgareddau dysgu ac asesu yn cyd-fynd ag egwyddorion, ddysg Caerdydd, sy’n canolbwyntio ar roi profiadau dysgu sy’n ennyn diddordeb aa chreu amgylcheddau dysgu effeithiol wedi’u datblygu mewn partneriaeth â myfyrwyr ac sy’n cael eu cyflwyno trwy ddulliau dysgu ac addysgu rhagorol. Maent yn helpu i sicrhau bod aasesu yn fecanwaith allweddol ar gyfer dysgu myfyrwyr, bod amrywiaeth o asesiadau creadigol a dilys sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gymhwyso eu dysgu, a bod myfyrwyr hefyd yn datblygu ystod o rinweddau graddedigion.

Wrth gwrs, nid yw’r gwaith o ddatblygu addysg yn dod i ben fyth gan fod angen i ni adolygu a myfyrio’n rheolaidd ar sut mae pethau’n mynd rhagddynt a sut y gallwn wneud gwelliannau ar lefel yr unigolyn sy’n addysgu, lefel modiwlau/unedau a lefel rhaglenni. Mae’r cyfnod gwella dysgu yn ein galluogi i ymateb i adborth gan fyfyrwyr, cefnogi pob myfyriwr yn well i gyflawni eu potensial, a sicrhau bod ein haddysg yn parhau i fod yn gyfredol. Golyga hyn ein bod yn creu dolen gyflawn sy’n cysylltu nôl i’r cyfnodau eraill o ddatblygu addysg, a bod ein themâu a’n blaenoriaethau allweddol yn cael eu hystyried yn feysydd gwella penodol, mewn cylch parhaus o wella.