Cyflogadwyedd
Croeso i'r brif dudalen ar gyfer cyflogadwyedd.
Cliciwch ar y Cyflwyno Trawsgrifiad fideo Dyfodol Myfyrwyr yma.
Edrychwch ddim pellach, mae Dyfodol Myfyrwyr, arbenigwyr ym mhob peth sy’n ymwneud â Chyflogadwyedd, yma i chi. Rydyn ni’n grŵp niferus o arbenigwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gallu bod yn gefn ichi wrth ddatblygu yn eich rhaglen, yn eich modiwlau, ac yn eich dysgu ac addysgu.
A ninnau’n meddu ar gefndir amlddisgyblaethol a enillwyd drwy wybodaeth academaidd, cyflogaeth a phrofiadau byw, rydyn ni wedi bod yn cydweithio i gynhyrchu ystod o adnoddau sy’n ymwneud â chyflogadwyedd er mwyn cefnogi a gwella profiad y myfyrwyr.
Yn y thema hon, cewch chi hyd i gyngor, arweiniad ac adnoddau fydd o gymorth wrth ichi geisio gwireddu’r nodau sydd gennych chi o fewn eich rhaglen neu’ch modiwl.
Gan adlewyrchu’r broses o weithio a chydweithio at ddiben ail-ddilysu, rydyn ni wedi rhannu ein hadnodd a’n canllawiau i’r categorïau a ganlyn:
-
- Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr
- Rhinweddau Graddedigion
- Cymeradwyo ac Ail-ddilysu Rhaglenni (PAR)
- Mewnosod Cyflogadwyedd o fewn y cwricwlwm
Y categori cyntaf yw’r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr, sy’n amlinellu dull Prifysgol Caerdydd o fewnosod cyflogadwyedd ym mhrofiad y myfyrwyr. Mae’n egluro sut gall Dyfodol Myfyrwyr roi cymorth pellach drwy fentrau a gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol.
Mae’r ail gategori yn cyflwyno Rhinweddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd, beth ydyn nhw, pam cawson nhw eu creu, a sut gallwch chi ddefnyddio’r rhinweddau i wella a mewnosod cyfleoedd cyflogadwyedd i mewn i’ch rhaglen.
Mae’r trydydd a’r pedwerydd categori yn efelychu’r dull y byddwch chi’n ei gymryd wrth Gymeradwyo ac ail-ddilysu rhaglenni (PAR). Unwaith y bydd y dyluniad, yr ethos a’r cynnwys trosfwaol wedi’u nodi ar gyfer eich rhaglen, fe allwn ni (Dyfodol Myfyrwyr) fynd ati i gefnogi ymhellach â’r pedwerydd categori, sef Mewnosod Cyflogadwyedd yn y Cwricwlwm.
Bydd pob categori yn rhoi trosolwg byr i chi o’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan Ddyfodol Myfyrwyr, yn ogystal ag enghreifftiau o’r arferion gorau. Ar gyfer pob categori, mae gennyn ni arbenigwyr a thimau o weithwyr proffesiynol wrth law i roi cyngor ac arweiniad i chi.
P’un a ydych chi eisiau cynllunio digwyddiad rhwydweithio yng nghwmni cyflogwyr, cystadleuaeth entrepreneuraidd, datblygu rhaglenni cyfnewid myfyrwyr â phrifysgolion partner, creu dysgu sy’n canolbwyntio ar y diwydiant ac/neu efelychu ymarfer yn y diwydiant, gallwn ni fod yn gefn ichi wrth geisio gwireddu nodau o’r fath.
Ni yw Dyfodol Myfyrwyr; a ninnau’n wasanaeth sy’n delio â myfyrwyr sy’n awchus i osod cyflogadwyedd yn rhan o’r cwricwlwm. Ein prif nod yw ceisio eich cefnogi wrth ichi geisio gwneud eich rhaglen yn gynaliadwy ar gyfer y byd gwaith at y dyfodol. Rydyn ni am i’ch myfyrwyr graddedig bontio’n llwyddiannus i’r byd gwaith, yn llawn hyder ac yn medru llwyddo i gael y swyddi i raddedigion y byddan nhw’n gwneud cais ar eu cyfer.
Er mwyn cyflawni hynny, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn darparu’r addysg orau bosibl sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
A hithau’n un o dair thema, mae cyflogadwyedd yn gysylltiedig â’r ddwy thema arall a gaiff eu cyflwyno yn y pecyn cymorth. Nid yw’n bosibl ystyried cyflogadwyedd heb dalu sylw at gynwysoldeb a chynaliadwyedd.
Wrth fynd i’r afael â pha thema bynnag, mae’n ymarfer gwerth chweil i dreiddio’n ddwfn i un thema, a’r ffyrdd y mae hynny’n cyd-gysylltu’n naturiol â’r themâu eraill.
Gan fewnosod cyflogadwyedd i mewn i fodiwl/rhaglen, bydd yn rhaid ichi ystyried os yw hynny’n rhywbeth y gall pob myfyriwr ei gyflawni. Ydy’r cyfle yn gydradd ac yn gynhwysol?
Ydy mewnosod cyflogadwyedd yn brosiect cynaliadwy (a hylaw) i’ch tîm a’r rheiny fydd yn arwain y modiwl? E.e., a allwch chi roi cymorth priodol i fwy na 300 o fyfyrwyr i ddod o hyd i leoliad gwaith, gan sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol wedi’u cwblhau a’u cyflwyno cyn iddyn nhw gychwyn ar eu lleoliad gwaith?
Ar gyfer myfyrwyr nad ydyn nhw’n gallu sicrhau lleoliad gwaith yn eu modiwl/astudiaeth; a oes modd iddyn nhw ennill yr un math o sgiliau, gwybodaeth ac arferion perthnasol mewn ffordd arall? A oes darpariaeth ar waith i gefnogi’r myfyrwyr hynny?
Awgrym CyflogadWwyedd
A hithau’n un o dair thema, mae cyflogadwyedd yn gysylltiedig â'r ddwy thema arall a gaiff eu cyflwyno yn y pecyn cymorth. Nid yw’n bosibl ystyried cyflogadwyedd heb dalu sylw at gynwysoldeb a chynaliadwyedd.
Wrth fynd i’r afael â pha thema bynnag, mae’n ymarfer gwerth chweil i dreiddio’n ddwfn i un thema, a’r ffyrdd y mae hynny’n cyd-gysylltu’n naturiol â’r themâu eraill.
Gan fewnosod cyflogadwyedd i mewn i fodiwl/rhaglen, bydd yn rhaid ichi ystyried os yw hynny’n rhywbeth y gall pob myfyriwr ei gyflawni. Ydy’r cyfle yn gydradd ac yn gynhwysol?
Ydy mewnosod cyflogadwyedd yn brosiect cynaliadwy (a hylaw) i'ch tîm a'r rheiny fydd yn arwain y modiwl? E.e., a allwch chi roi cymorth priodol i fwy na 300 o fyfyrwyr i ddod o hyd i leoliad gwaith, gan sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol wedi’u cwblhau a’u cyflwyno cyn iddyn nhw gychwyn ar eu lleoliad gwaith?
Ar gyfer myfyrwyr nad ydyn nhw’n gallu sicrhau lleoliad gwaith yn eu modiwl/astudiaeth; a oes modd iddyn nhw ennill yr un math o sgiliau, gwybodaeth ac arferion perthnasol mewn ffordd arall? A oes darpariaeth ar waith i gefnogi'r myfyrwyr hynny?
I gael rhagor o wybodaeth, cymorth ac arweiniad, cysylltwch â Phartner Busnes Dyfodol Myfyrwyr eich Coleg:
AHSS Jon Forbes ForbesJ3@cardiff.ac.uk
BLS Joanne Jenkins JenkinsJ6@cardiff.ac.uk
PSE Llinos Carpenter CarpenterL1@cardiff.ac.uk