Skip to main content

Profiad Gwaith, Lleoliadau a Gweithio gyda Chyflogwyr

Tudalen Thema Cyflogadwyedd

Dechrau Arni gyda Lleoliadau Gwaith

Beth yw Lleoliad Gwaith?

Mae’r Brifysgol yn ystyried nodweddion allweddol lleoliad gwaith fel:

  1. Gweithgaredd a gefnogir gan y Brifysgol (h.y. dim ond i’r myfyriwr yn rhinwedd bod yn fyfyriwr yng Nghaerdydd y mae’r lleoliad ar gael)
  2. Profiad sy’n cynnwys elfen o waith allanol (h.y. bydd gofyn i’r myfyriwr ymwneud â sefydliad sy’n allanol i’r Brifysgol neu ymgymryd â gweithgaredd sydd y tu allan i’w raglen astudio).
  3. Gweithgaredd sy’n cynnwys ymrwymiad gan y myfyrwyr am o leiaf 35 awr

Pam mae Dysgu Seiliedig ar Waith o Bwys?

Mae’r Brifysgol yn cydnabod bod profiad a enillir drwy ddysgu yn y gwaith yn cefnogi myfyrwyr i bontio i fyd gwaith, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau bod o leiaf 50% o fyfyrwyr israddedig yn gwneud lleoliad gwaith yn ystod eu hastudiaethau. Gellir ymgymryd â lleoliadau a dysgu ehangach yn y gwaith ar sail gwricwlaidd ac allgyrsiol.

Mewn gwirionedd, yn ‘Is-Strategaeth Addysg a Myfyrwyr 2018-2023 (wedi’i hail-lunio yn ystod COVID-19), mae’r Brifysgol yn ymrwymo i wneud y canlynol:

Dod o hyd i ystod eang o gyfleoedd am leoliadau domestig a rhyngwladol ym mhob sector, ar gael mewn fformatau traddodiadol, rhithwir a chymysg. Bydd hyn yn cynnwys cynnal lleoliadau myfyrwyr a graddedigion yn y Brifysgol, ehangu ein cyfleoedd mentora a lleoli cynfyfyrwyr, a darparu cyfleoedd lleoli gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru i gefnogi’r economi leol a sicrhau bod sgiliau graddedigion yn cael eu cadw yng Nghymru.

Gall staff Dyfodol Myfyrwyr weithio gydag Ysgolion i drafod ymgorffori lleoliad yn y cwricwlwm ac mae amrywiaeth o waith papur a chymorth ar gael ar gyfer y broses o ymgorffori wedi’u creu gan y Gofrestrfa ar y Fewnrwyd.


Creu Lleoliadau Gwaith ar gyfer Fy Myfyrwyr

Gall staff Dyfodol Myfyrwyr gydweithio â chi i ragweld y lleoliad gorau ar gyfer eich rhaglen.  Gallwn gysylltu â chyflogwyr i ymgorffori gweithgarwch cyflogwyr o fewn y cwricwlwm, gan wella dysgu ac addysgu, a chyflogadwyedd myfyrwyr.  Mae ymgysylltu â chyflogwyr yn weithgarwch hynod amrywiol, ac yn amrywio o ddysgu yn y gwaith, interniaethau a lleoliadau gwaith, i gyflogwyr sy’n darparu astudiaethau achos, siaradwyr gwadd, mentoriaid, cyfnewid gwybodaeth, prosiectau ymgynghori a chynnig gwybodaeth am yrfaoedd.  Gall cyflogwyr gynnig enghreifftiau o’r byd go iawn, prosiectau ymchwil a chyfleoedd i gynnal asesiadau dilys o fewn y cwricwlwm, gan alluogi myfyrwyr i gael gwell dealltwriaeth o sut mae eu pwnc a’i ddulliau yn cael eu cymhwyso’n ymarferol.

Gall cyflogwyr a chynfyfyrwyr gynnig arbenigedd amhrisiadwy am yr ystod o lwybrau gyrfa sydd ar gael i fyfyrwyr, y wybodaeth a’r sgiliau fydd eu hangen ar fyfyrwyr wrth bontio i fyd gwaith, a rhai o’r tueddiadau a’r heriau allweddol sy’n wynebu diwydiannau penodol.

Yn gynyddol, mae cyflogwyr yn ceisio cynyddu amrywiaeth eu gweithlu ac yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phrifysgolion mewn ffordd fwy pwrpasol.  Mae gan Ddyfodol Myfyrwyr rwydwaith eang o gyflogwyr a chynfyfyrwyr, yn ogystal â thîm ymgysylltu ymroddedig sydd â chyfoeth o arbenigedd i gefnogi ysgolion i ymgorffori gweithgarwch cyflogwyr o fewn y cwricwlwm.

Yn ogystal â chael blas ar fyd gwaith ac interniaethau byr y gellir eu cwblhau yn ystod pob semester, gall myfyrwyr gael eu mentora gan gyflogwr neu gynfyfyriwr a chynnal lleoliad gwaith cyflogedig yn rhan-amser neu’n amser llawn.  Mae mwy o brofiad gwaith hyblyg ac wedi’i deilwra ar gael ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr sydd wedi’u tangynrychioli a allai wynebu rhwystrau, neu sydd heb y sgiliau neu’r rhwydweithiau cyflogadwyedd.

Globe

Astudiaeth Achos: Profiad Gwaith Cynhwysol

Rydw i wedi cefnogi myfyriwr sy’n niwroamrywiol drwy gynllun Hyder o Ran Gyrfa (cynllun GOWales gynt). Fe wnaeth Hyder o ran Gyrfa anfon e-bost cyffredinol yn gofyn i staff gynnig lleoliadau profiad gwaith. Ces i gyfarfod â chydlynydd y rhaglen i weld beth oedd ei angen a'r hyn y gallwn i ei gynnig. Fe weithion ni mewn modd sensitif â’r myfyriwr, a chytunodd y myfyriwr gwrdd i weld a oedd modd iddyn nhw weithio gyda fi. Trafodon ni opsiynau nes bod gennyn ni rywbeth yr oedden ni’n hapus i gymryd rhan ynddo. Mae'r rhan fwyaf o fy nhîm yn gweithio rhan-amser a dydyn nhw ddim yn gweithio ar ddydd Gwener, felly dewisodd y myfyriwr y diwrnod hwnnw i ddod i’r gwaith, gan fod y gweithle yn dawelach. Fe wnes i gadw un o'r labordai llai er mwyn i'r myfyriwr allu gweithio ar eu pen ei hun, yn dawel a heb oleuadau. Fe wnes i yn siŵr fy mod i ar gael, a bob amser yn rhoi cymorth pan oedd y myfyriwr yn gofyn amdano. Dr Sarah Youde

Ewch i dudalennau'r Fewnrwyd Astudio Dramor, i ddod o hyd i'r dogfennau polisi a'r gwaith papur a ganlyn:

  • Polisi Astudio Dramor
  • Asesiad Risg o’r Ddarpariaeth ar y Cyd ar gyfer Cyflwyno Astudio Dramor
  • Templed Disgrifiad o Fodiwlau Astudio Dramor
  • Ffurflen Gais Partner Astudio Dramor
  • Cytundeb Dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhaglenni Cyfnewid Rhyngwladol

Ewch i'r tudalennau Mewnrwyd Lleoliadau, i ddod o hyd i'r dogfennau polisi a'r gwaith papur a ganlyn

Mae hyn yn cynnwys dolenni i:

  • Polisi Darpariaeth Gydweithredol
  • Ffurflen Asesu Risg ar gyfer cyflwyno Lleoliadau Lawrlwytho'r ddogfen
  • Canllawiau ar Asesu Risg Lawrlwytho'r ddogfen

Gweithio gyda Chyflogwyr ar gyfer Gwella’r Cwricwlwm

Mae cyflogwyr yn awyddus i weithio gydag Ysgolion i ddatblygu cwricwlwm ac maent hefyd yn aml yn hapus i gymryd rhan yn y cwricwlwm trwy gynnal darlithoedd neu ddigwyddiadau panel. Mae’r Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr yn Dyfodol Myfyrwyr yn fan cyswllt cyntaf da wrth feddwl am gysylltu â chyflogwyr. Fel arall, yn aml mae gan Ysgolion eu cysylltiadau eu hunain sy’n eu helpu i ddatblygu cynnwys.

Isod, mae rhai enghreifftiau o’r ffyrdd amrywiol y gall cyflogwyr gefnogi gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol mewn Ysgolion. Trefnwch drafodaeth gyda Phartner Busnes Dyfodol Myfyrwyr eich coleg os ydych am ddatblygu’r meddylfryd hwn wrth lunio rhaglen neu drwy ailddilysu.

  • Mae Bwrdd Cynghori Dyfodol Myfyrwyr yn gweithio ar lefel strategol i drafod datblygu cyflogadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd
  • Gall Partneriaethau Strategol Prifysgol Caerdydd gyda sefydliadau, neu brosiectau Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol, ddarparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cyd-gwricwlaidd neu allgyrsiol amrywiol.

Enghreifftiau o fewnbwn gan gyflogwyr i weithgarwch y cwricwlwm:

⭕ENGIN: Mae Babcock International yn rhedeg canolfan asesu ffug i fyfyrwyr (a drefnir gan Dyfodol Myfyrwyr).

⭕CHEMY: Mae’r BSc newydd mewn Cemeg Feddyginiaethol yn gobeithio cyrchu data gan gwmni fferyllol i fyfyrwyr ei ddefnyddio i weithio ar gyfrifiadau’r byd go iawn mewn pwll tywod (mae hwn yn waith ar y gweill, ond mae’r cysyniad o ddefnyddio data cyflogwyr go iawn yn y cwricwlwm yn tyfu mewn poblogrwydd).


Astudiaethau Achos

Mae tîm y Parth Cyfleoedd yn yr Ysgol Busnes yn rhan o Ddyfodol Myfyrwyr ac mae’n cynnwys tîm lleoliadau sy’n canfod, rheoli a hyrwyddo lleoliadau yn yr Ysgol, gan gefnogi cyfleoedd cwricwlaidd ac allgyrsiol ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae'r cyfleoedd yn cynnwys lleoliad gwaith integredig am bum mis a blwyddyn ar leoliad ar gyfer israddedigion ac ôl-raddedigion, yn ogystal â phrosiectau busnes byw. Mae asesiadau wedi'u cyd-greu pan fo’r cyfleoedd hyn yn rhai cwricwlaidd.

Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cydweithio ag Arweinydd Academaidd yn JOMEC i gyflwyno modiwl Blwyddyn 2 dewisol, ‘Cyflogadwyedd: Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad’, MC2634.  Mae'r modiwl hwn yn cynnwys lleoliad gorfodol y mae myfyrwyr yn ei gyrchu eu hunain, gyda chefnogaeth y tîm Dyfodol Myfyrwyr.  Cyflwynir yr addysgu yn yr hydref ac mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn cwblhau lleoliad gwaith yn ystod semester y gwanwyn.  Mae llawlyfr y modiwl yn cynnwys canllawiau i fyfyrwyr ar sut i fynd ati i ddod o hyd i leoliad, a chynhelir clinig lleoliadau gyda’r tîm Dyfodol Myfyrwyr yn un o’r seminarau i amlygu’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.  Mae cymorth ychwanegol ar gael i unrhyw fyfyrwyr a allai wynebu rhwystrau rhag cael manteisio ar brofiad gwaith.

Mae'r tîm lleoliadau yn yr Ysgol Seicoleg yn cadw cronfa ddata o gyflogwyr i gefnogi myfyrwyr i ddod o hyd i leoliadau ar gyfer y flwyddyn ar leoliad yn y cwrs Seicoleg Gymhwysol. Mae myfyrwyr yn cael llawlyfr lleoliadau gyda rhestr o gysylltiadau cyflogwyr blaenorol myfyrwyr ar leoliad o Brifysgol Caerdydd. Mae mewnbwn gan Dyfodol Myfyrwyr yn cynnwys gweithdai ar geisiadau a chyfweliadau a chlinigau CV ar adegau allweddol o'r flwyddyn academaidd.


Archwilio’n Ddyfnach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Phartner Busnes Dyfodol Myfyrwyr eich coleg:

  • Jon Forbes, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, AHSS
  • Llinos Carpenter, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, PSE
  • Joanne Jenkins, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, BLS

Rydych chi ar dudalen 6 o 6 ar y thema Cyflogadwyedd. Archwiliwch y lleill yma:

Prif Dudalen Cyflogadwyedd

Rhinweddau Graddedigion<

Datblygu Gyrfa

Menter ac Entrepreneuriaeth

Symudedd Rhyngwladol

Neu beth am thema arall?

Cynwysoldeb

Cynaliadwyedd