Skip to main content

Egwyddor 3: Partneriaeth a Chyd-greu

Graffeg o bedair llaw wedi'u gosod ar ben ei gilydd, i’w weld oddi uchod.

Rhaid i ni gydweithio â myfyrwyr fel partneriaid i gyd-greu profiad myfyrwyr, gyda mewnbynnau a mewnwelediadau gwahanol staff a myfyrwyr yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal. Dylai gweithgarwch partneriaeth fod yn bwrpasol ac yn canolbwyntio ar welliant; dylai fod gan bob myfyriwr lais i’w alluogi i fod yn gyd-grëwr profiad addysgol gwell, boed hynny trwy gynrychiolaeth neu fecanweithiau adborth eraill, a dylai myfyrwyr ddeall sut mae eu hadborth yn cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi. Yn ymarferol, mae partneriaeth yn golygu ymgysylltu â myfyrwyr trwy gydol proses fel y gallant fod yn rhan o’r gwaith o lunio problemau a chanfod atebion. Mae hyn yn cyferbynnu â dulliau lle mae atebion i adborth myfyrwyr yn cael eu creu gan staff ac yna’n cael eu cyflwyno i fyfyrwyr fel fait accompli. Mae’r Cynllun Cynrychiolwyr Myfyrwyr yng Nghaerdydd yn cefnogi staff i gymryd rhan mewn deialog gyson gyda myfyrwyr, i gasglu mewnbwn ar syniadau ac atebion.

Awgrym Cynaliadwyedd

Mae’n bwysig deall cyd-greu fel rhywbeth cyfranogol, gweithredol a myfyriol – mae’n rhywbeth a fydd yn esblygu gyda’r broses ddysgu a gall arwain at ystod o ganlyniadau. Mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn teimlo bod eu barn yn cael ei gwerthfawrogi a'i bod yn cael effaith. Mae hyn yn cefnogi dysgwyr i ddod yn hyderus wrth gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain ac yn hyrwyddo galluedd. Mae hyn yn ei dro yn cynorthwyo dysgwyr i ddatblygu’r egwyddorion cynaliadwyedd trwy eu gweithredoedd ac yn cefnogi datblygiad tuag at gyflawni’r ddwy nod ar bymtheg o les.

Ar gyfer datblygu addysg, dylech ystyried pa fath o bartneriaeth sy’n mynd i gael ei sefydlu yn dibynnu ar y dasg dan sylw. Dylai Paneli Staff Myfyrwyr weithio mewn partneriaeth wrth edrych ar weithgarwch gwella, data ar lais myfyrwyr, a chynlluniau gweithredu.

Awgrym Cynwysoldeb

Byddwch yn ymwybodol yn eich strategaeth ar gyfer partneriaeth myfyrwyr neu gyd-greu. Mae cyfres o ymchwil yn awgrymu fel a ganlyn: ‘mae'r ffaith bod myfyrwyr yn cael eu hethol/dewis yn cynnwys tueddiad i gynnwys myfyrwyr sydd eisoes yn ymgysylltu neu'n cael mantais mewn rhyw ffordd, gan waethygu'r anghydraddoldebau presennol o bosibl a pheidio â mynd i'r afael â lefelau is o ymgysylltiad myfyrwyr. Mae hyn yn peri'r risg o greu “elît” bach o fyfyrwyr sy'n ymgysylltu'n fawr a phrosiectau cyd-greu yn cael eu gweld fel rhai ar gyfer myfyrwyr breintiedig yn unig’ (Bovill, 2020).

Rhaid i newidiadau mawr i raglenni a chynigion am raglenni newydd gynnwys myfyrwyr o ddechrau’r broses. O ystyried yr amser y gall y prosesau hyn ei gymryd a chymhlethdod y ddogfennaeth, efallai y byddai’n synhwyrol sefydlu panel cynrychioliadol llai o fyfyrwyr i fod yn rhan o’r broses, yn hytrach na defnyddio grŵp mwy fel Panel Staff Myfyrwyr. Yn ogystal, mae’r Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn cynnig cymorth i bob rhan o’r brifysgol i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn prosiectau a thasgau (gweler isod).

Archwiliad Dyfnach Bach o Bartneriaeth a Chyd-greu

Mae’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn grŵp o fyfyrwyr amrywiol cyflogedig sy’n cael eu recriwtio o bob lefel astudio a disgyblaeth ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â staff ar draws y brifysgol ar amrywiaeth o dasgau a phrosiectau trwy gydol y flwyddyn academaidd i lunio a gwella profiad y myfyriwr.

I sicrhau bod Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn hollol gymwys i siapio profiad y myfyriwr, maent yn cael hyfforddiant ar gasglu data, strategaethau cyfathrebu, ymgysylltu â myfyrwyr, creu fideos a dadansoddi data.

Sut gall yr Hyrwyddwyr Myfyrwyr weithio mewn partneriaeth â mi?

Gall hyrwyddwyr myfyrwyr weithio gyda chi trwy’r dulliau canlynol:
• creu a datblygu adnoddau mewn amrywiaeth o feysydd mewn ysgolion a’r gwasanaethau proffesiynol
• cefnogi'r gwaith o gasglu data drwy greu a hwyluso arolygon i fyfyrwyr a grwpiau ffocws
• cynnig safbwynt personol a gwybodaeth am brofiadau yn y brifysgol er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau a datblygu adnoddau
• helpu i ddatblygu cwricwlwm a meddalwedd drwy dreialu mentrau newydd a gweithio gyda staff i adolygu a gweithredu argymhellion ar gyfer gwella
• gweithio â chydweithwyr ar strategaethau a thactegau cyfathrebu, gan gynnwys presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu fideos

I ymgysylltu â’r cynllun, cysylltwch â cardiffstudentchampions@caerdydd.ac.uk