Llythrennedd Asesu ac Adborth

Dechrau arni
Mae myfyrwyr yn aml yn gweld asesu yn y brifysgol yn heriol i ddechrau, ac mae’r adborth maen nhw’n ei dderbyn ar dasgau yn anodd ei dreulio a’i ddefnyddio, yn enwedig os nad oes ganddyn nhw ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n cael ei ddisgwyl ganddyn nhw a sut olwg fydd ar lwyddiant. Mae’n werth helpu myfyrwyr i ddod i adnabod ‘rheolau’r gêm’, gan wella boddhad a dysgu myfyrwyr. Mae paratoi pob myfyriwr ar gyfer asesiadau, gan gynnwys myfyrwyr sydd â anghenion penodol, yn golygu eu helpu i ddeall:
- sut y byddant yn cael eu hasesu
- y meini prawf a’r cynlluniau marcio a fydd yn cael eu defnyddio
- yr adborth y bydd myfyrwyr yn ei gael, pryd y byddant yn ei gael, a sut y dylent ei ddefnyddio i wella
- y prosesau a ddefnyddir o fewn eu Hysgol i reoli derbyn, marcio, a dychwelyd gwaith
Isod, ceir rhestr wedi’i chrynhoi o ‘ymyriadau byr’ a ddangosir i helpu myfyrwyr i gael dealltwriaeth well o’r ffyrdd y mae asesu’n gweithio, sut y caiff eu gwaith ei farcio, a sut y gallant wneud y defnydd gorau o’r adborth a gânt ar aseiniadau. Mae’r ymyriadau wedi’u rhannu’n grwpiau ac mae pob un ohonynt yn ymdrin â gwahanol agweddau ar lythrennedd asesu ac adborth. Gellir naill ai eu mabwysiadu’n uniongyrchol fel ymarferion yn eich addysgu neu eu haddasu yn ôl yr angen i fodloni anghenion unigol a disgyblaeth-benodol yn well.
Defnyddio enghreifftiau
Dangoswyd mai enghreifftiau yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o roi gwell ymdeimlad a dealltwriaeth i fyfyrwyr o feini prawf, gofynion tasgau a chaniatáu iddynt lunio eu barnau eu hunain am ansawdd. Mae nifer o ffyrdd y gellir gwneud hyn.
- Rhowch enghreifftiau o aseiniadau i fyfyrwyr (e.e. defnyddio casgliad o gyflwyniadau’r flwyddyn gynt i helpu i ddiogelu anhysbysrwydd myfyrwyr) a gofynnwch iddynt drafod ac adrodd yn ôl ar pam mae rhai yn well nag eraill (e.e. trwy ddefnyddio fforwm trafod).
- Gan ddefnyddio sampl tebyg o gyflwyniadau blaenorol, dangoswch sut mae brig, canol a gwaelod yr ystod o farciau yn edrych, a thrafodwch yr hyn a wnaethpwyd yn dda a pha wallau a allai golli marciau iddynt, gan ddefnyddio’r meini prawf asesu lle bo’n briodol.
- Eglurwch safonau trwy farcio darn o waith yn ‘fyw’ a siarad drwy’r broses, gan nodi’r pethau sy’n dangos lle mae’r darn hwn yn bodloni’r meini prawf asesu a’r hyn rydych chi’n ei nodi fel gwaith o ansawdd da.
- Darparwch atebion dangosol neu enghreifftiol, yn enwedig ar gyfer tasgau asesu lle bydd un ateb cywir.
- Os mai dim ond un peth cyflym y gwnewch chi… Rhowch enghreifftiau o waith gan fyfyrwyr blaenorol i fyfyrwyr mewn fforwm trafod agored (byw neu rithwir), gan gynnwys myfyrwyr mewn deialog fer ynghylch yr hyn sy'n gwneud yr enghraifft yn un dda.
Darparu eglurder ar ddyluniad tasg asesu
Mae myfyrwyr mewn llawer o ysgolion wedi adrodd eu bod yn cael y wybodaeth gryno a ddarperir iddynt pan osodir aseiniadau yn ddryslyd ac aneglur. Gellir mynd i’r afael â hyn trwy:
- Darparu briff clir a phenodol ar gyfer pob asesiad, gan gynnwys dyddiadau cyflwyno ac adborth, a manylion y meini prawf
- Helpu myfyrwyr i ddod yn gyfarwydd â ‘jargon’ asesu: cael myfyrwyr i siarad am dermau fel ‘meini prawf’, ‘pwysoli’, ‘asiantaeth’ ac yn y blaen, neu eu cael i chwarae gêm sydd wedi’i dylunio i egluro terminoleg o’r fath, fel ‘Gêm Bisged Brown’s'
- Esbonio mathau newydd o dasgau asesu crynodol cyn eu defnyddio. Wrth gyflwyno math newydd o asesiad (e.e. poster) dylid briffio myfyrwyr ar hyn, rhoi cyfle iddynt ymarfer a chael adborth ar hyn fel tasg ffurfiannol
- Gan ddefnyddio pum munud mewn darlith i roi esboniad o'r hyn y byddwch yn chwilio amdano yn y dasg honno, gan wahodd myfyrwyr i bostio unrhyw ymholiadau sydd ganddynt o hyd. Yn hytrach nag ateb yr ymholiadau hyn yn unigol, defnyddiwch fforwm trafod ar-lein neu bum munud arall ar y cyfle nesaf sydd ar gael i fynd drwy’r ymholiadau a godwyd a’u hateb
- Os mai dim ond un peth cyflym a wnewch… Wrth gyflwyno aseiniad/prosiect mawr, peidiwch â gofyn yn amwys a oes, "Unrhyw gwestiynau?" Yn lle hynny, gofynnwch i'r myfyrwyr weithio mewn grwpiau i nodi
- pa brofiad sydd ganddynt o gwblhau aseiniadau tebyg
- sut mae llwyddo yn yr aseiniad hwnnw
- pa heriau allai godi wrth gwblhau’r aseiniad
Darparu eglurder ar feini prawf asesu
Dywed llawer o fyfyrwyr eu bod yn gweld meini prawf asesu yn aneglur a bod y ffordd y cânt eu defnyddio yn ddryslyd ac yn amrywiol. Pan gaiff myfyrwyr eu cyflwyno i feini prawf fel arweiniad bras neu fel fframwaith, yn hytrach na chynllun marcio manwl, mae ymchwil wedi canfod eu bod yn fwy tebygol o fod yn fodlon â’u defnyddio. Mae ffyrdd o gefnogi hyn yn cynnwys:
- Esbonio ac egluromeini prawf e-asesu i'r grŵp cyfan mewn darlithoedd pan osodir tasg
- Sicrhau bod adborth ar gyflwyniadau ffurfiannol yn nodi’r meini prawf ar gyfer gwella, a bod myfyrwyr yn cael cyfleoedd i egluro sut y gellir gweithredu’r adborth hwn
- Gweithiwch gyda’ch myfyrwyr i ddylunio’r meini prawf asesu ar gyfer tasg benodol. Gellir gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, megis
- drwy addasu meini prawf presennol
- adolygu aliniad â'r canlyniadau dysgu
- ysgogi trafodaeth ar yr hyn y dylech fod yn chwilio amdano
- rhannu a thrafod y gwahanol fathau o feini prawf y gellir eu cymhwyso i wahanol dasgau
Gall yr holl dasgau hyn helpu myfyrwyr i werthfawrogi goddrychedd meini prawf yn well hefyd a’u rôl fel arweiniad, yn hytrach na thempled. Mae profiad hefyd wedi dangos bod myfyrwyr yn aml yn gallu meddwl am meini prawf asesu gwell na’r rhai rydyn ni’n eu llunio.
- Anogwch y myfyrwyr i gymhwyso’r meini prawf asesu i’w helpu i fewnoli sut i’w cyflawni yn eu gwaith eu hunain. Gellir cyflawni hyn yn gymharol gyflym. Er enghraifft, gallech roi’r canlynol i’r myfyrwyr: darn byr, fel paragraff o draethawd, neu adrannau o adroddiad a gofyn iddynt drafod mewn grwpiau bach (a lle bo’n briodol pwysoli’r gwahanol feini prawf) ac yna datblygu marc ar gyfer y darn hwnnw o waith. Yna gall grwpiau rannu ac adolygu'r marciau y byddent yn eu dyfarnu
- Os mai dim ond un peth cyflym y byddwch yn ei wneud… Eglurwch beth yw’r marc llwyddo a beth mae’n ei gynrychioli (meincnod i’w gyflawni neu ragori arno, yn hytrach na sgôr o atebion cywir neu anghywir), yn enwedig ar gyfer myfyrwyr sydd efallai wedi arfer â chael marciau A neu marciau yn y 90au
Defnyddio hunanasesu ac asesu gan gyfoedion
Er efallai na fydd rhai myfyrwyr yn awyddus i ddechrau hunanasesu neu asesu gan gyfoedion, gan naill ai deimlo’n anghyfforddus yn cymryd rhan ynddynt neu’n credu y dylai pob asesiad fod yn gyfrifoldeb y tiwtor, mae sylfaen ymchwil helaeth sy’n dangos bod y sgiliau y byddant yn eu datblygu drwy ymarferion hunanasesu ac asesu gan gyfoedion yn werthfawr ar gyfer aseiniadau yn y dyfodol ac yn cael eu hystyried yn hanfodol i’w dyfodol.
- Ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau taflen hunanasesu, ynghlwm wrth aseiniadau a gyflwynwyd, wedi'i strwythuro o amgylch y meini prawf, fel bod yn rhaid iddynt fyfyrio ar eu gwaith eu hunain yn erbyn y meini prawf cyn iddynt gael adborth
- Defnyddio ffurflenni adborth cyfoedion ar gyfer asesiadau ffurfiannol, gan ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr roi adborth wedi'i dargedu wedi'i fapio i'r meini prawf asesu; er enghraifft, ar gyfer cyflwyniad ffurfiannol, gallai myfyrwyr unigol ganolbwyntio ar un maen prawf yr un, megis cynnwys a strwythur, cyflwyniad, neu ddeunydd gweledol
- Ystyried annog myfyrwyr i ddefnyddio AI cynhyrchiol i gynhyrchu adborth ar aseiniadau ysgrifenedig, gan roi rhywfaint o arweiniad iddynt ar ysgogiadau effeithiol yn ymwneud â meini prawf asesu
- Os mai dim ond un peth cyflym y gwnewch chi…Cynhaliwch ymarferion lle mae myfyrwyr yn marcio aseiniadau, ac yna trafodwch eu beirniadaethau a'u marciau gyda rhai myfyrwyr eraill
Gwella dealltwriaeth myfyrwyr o sut i ddefnyddio adborth i wella
Mae'r ffyrdd y mae myfyrwyr yn defnyddio'r sylwadau adborth a wnaed ar asesiadau (neu fel arall) wedi bod yn destun rhwystredigaeth i staff academaidd ers tro. Mae helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn o gymorth i bawb.
- Gall adborth ffurfiannol cynnar helpu myfyrwyr i ddysgu rheoli eu hymatebion emosiynol i adborth ac ymateb yn adeiladol.
- Gofynnwch i fyfyrwyr fyfyrio ar feini prawf neu ddewis y meysydd yr hoffent gael adborth arnynt wrth gyflwyno aseiniadau (adborth dewisol). Ychwanegwch flwch bach at daflenni cyflwyno gwaith cwrs y gall myfyrwyr eu defnyddio i nodi'r meysydd y byddent yn croesawu adborth arnynt fwyaf
- Crëwch gyfleoedd yn y dosbarth i fyfyrwyr drafod yr adborth a gawsant mewn grwpiau. Gofynnwch iddynt bostio crynodebau mewn fforwm drafod o'r pwyntiau allweddol a godwyd mewn trafodaethau
- Defnyddiwch adborth ffurfiannol yn y camau cynnar i sefydlu safon y gwaith sydd ei angen. Gall hyn fod ar ffurf sylwadau tiwtoriaid ar gynlluniau neu ddetholiadau, neu drafodaethau ar y cyd yn y dosbarth, ond swyddogaeth allweddol asesu ffurfiannol yw hysbysu myfyrwyr o'r hyn sydd ar y trywydd iawn a beth sydd angen ei wella. Darparwch ddigon o gyfleoedd deialog, fel y gellir chwalu pryderon ynghylch asesu
- Os mai dim ond un peth cyflym y gwnewch chi... Cyn i sylwadau adborth gael eu darparu ar asesiad, atgoffwch y myfyrwyr o'r meini prawf asesu a/neu gyfarwyddiadau marcio, gan ddangos gwerth ymgysylltu â'r adborth y byddant yn ei dderbyn
Bydd cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ymarfer a datblygu sgiliau allweddol trwy asesiadau ffurfiannol hefyd yn helpu i sicrhau y gallant gynhyrchu eu gwaith gorau yn y dasg grynodol. Mae tasgau ffurfiannol hefyd yn hwyluso cynhyrchu adborth (boed wedi’i gynhyrchu a’i asesu gan eich hunan/cymheiriaid neu gan diwtor) er mwyn llwyddo yn y dasg grynodol (gweler y dudalen Dylunio Asesiadau Rhaglennol).
Archwilio’n Ddyfnach
Rhannwch eich Adborth
Ble Nesaf?
Dewiswch un o’r tudalennau hyn sy’n gysylltiedig â’r un hon:
Astudiaeth Achos Prifysgol Caerdydd: Defnyddio Fframwaith EAT er mwyn gwella llythrennedd asesu ac arferion rhoi adborth
Defnyddio Fframwaith EAT er mwyn gwella llythrennedd asesu ac arferion rhoi adborth
Dr Sara Pons-Sanz SFHEA (Darllenydd) a Dr Melody Pattison FHEA (Darlithydd)
Beth a wnaethoch, a pham?
Ar hyn o bryd, mae'r ddau ohonom (Dr Sara Pons-Sanz a Dr Melody Pattison) yn cyd-addysgu ‘Style and Genre’, modiwl israddedig yn yr ail flwyddyn sy'n gysylltiedig ag iaith a llenyddiaeth. Rydym wedi dechrau gwneud rhai newidiadau i'r arferion asesu yn ein modiwl dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r newidiadau hyn yn seiliedig ar Fframwaith EAT (Equity, Agency, Transparency) (Evans, 2016). Mae tair cydran i Fframwaith EAT, sef: Llythrennedd Asesu, Cynllun Asesiadau ac Adborth ar Asesiadau. Yn rhan o'r newidiadau rydym wedi'u gwneud i'r asesiadau sy’n rhan o’r modiwl, rydym wedi ceisio ymdrin â chymaint o'r materion sy'n gysylltiedig â'r tair cydran hyn ag sy'n bosibl. Bu i ni benderfynu gwneud y newidiadau hyn i’r asesiadau sy’n rhan o’r modiwl fel eu bod yn fwy ystyrlon i'r myfyrwyr ac yn uniongyrchol gysylltiedig â'u dysgu eu hunain a llythrennedd asesu gwell.
Roedd y modiwl yn cynnwys tair tasg asesu i ddechrau: tasg adborth gan gyd-fyfyrwyr, dadansoddiad testunol, a thraethawd. Er na wnaethom newid y mathau o dasgau asesu, gwnaethom newid ein dull o ymdrin â nhw:
Roedd y dasg adborth gan gyd-fyfyrwyr yn dasg ddewisol a ffurfiannol i ddechrau. Y broblem gyda hyn oedd bod llawer o fyfyrwyr naill ai'n dewis peidio â gwneud y dasg neu’n cwestiynu pam fod myfyrwyr eraill ac nid arweinwyr y modiwl yn rhoi adborth iddynt. Er mwyn mynd i'r afael â'r materion hyn, gwnaethom ei newid yn dasg grynodol a gofyn i fyfyrwyr fynd i’r afael â phob un o'r tair elfen i ennill marciau llawn: 1) cyflwyno dadansoddiad testunol byr; 2) rhoi adborth ar gyflwyniad cyd-fyfyriwr; 3) hunanwerthuso. Cyn cwblhau'r dasg hon, gwnaethom neilltuo rhan o'r seminar bob wythnos i drafod maen prawf marcio penodol, fel bod myfyrwyr yn gyfarwydd ag ef. Er mwyn cymryd cynwysoldeb a chyfrinachedd i ystyriaeth, roedd yr holl adborth yn ddienw: nid oedd myfyrwyr yn gwybod pwy oedd wedi adolygu eu gwaith nhw nac yn gwybod gwaith pwy roeddent yn ei adolygu eu hunain.
Ar gyfer y dadansoddiad testunol, gofynnwyd i fyfyrwyr ddewis o gyfres o destunau y gallent gymhwyso eu theori ddewisol iddynt. Cawsom wared ar y testunau gosod a rhoi dewis rhydd i fyfyrwyr yn ein hasesiad diweddaredig. Mae myfyrwyr bellach yn cael cyfle i ddewis unrhyw destun o gwbl, ac fe'u hanogir yn arbennig i ddewis testun y gallent fod wedi'i astudio mewn modiwl arall. Y syniad yw y gallant wedyn weld y cysylltiadau rhwng gwahanol ddulliau damcaniaethol sy’n cael eu cymhwyso i'r un testun.
Gofynnwyd i fyfyrwyr hefyd gynnwys paragraff myfyriol ar ddiwedd y dadansoddiad testunol yn amlinellu sut/p’un a oedd y broses adolygu gan gyd-fyfyrwyr yn ddefnyddiol a pharagraff ar ddiwedd y traethawd yn gofyn am adborth ar feini prawf marcio penodol. Bwriad y paragraffau hyn yw helpu'r myfyriwr i fyfyrio ymhellach ar eu gwaith ac i nodi meysydd yr hoffent gael mwy o gefnogaeth ynddynt.
Beth oedd yr effaith?
Ar ddechrau a diwedd y semester, gwnaethom holi myfyrwyr ynghylch eu dealltwriaeth o'r meini prawf marcio a'u hyder wrth werthuso a beirniadu eu gwaith eu hunain. Dangosodd canlyniadau'r arolygon hyn a gynhaliwyd cyn ac ar ôl ymyrryd fod hyder a dealltwriaeth myfyrwyr yn y meysydd hyn wedi gwella yn ystod y semester. Ym mharagraff y dadansoddiad testunol, gan gynnwys mewn arolygon gwerthuso ar ganol ac ar ddiwedd y modiwl, dywedodd myfyrwyr fod y broses yn ddefnyddiol o ran eu helpu i ddeall y meini prawf asesu’n well ac ym mhle y gwnaethant yn dda neu i nodi meysydd ar gyfer arweiniad pellach.
Beth nesaf?
Rydym bellach yn crynhoi ac yn ysgrifennu ein canfyddiadau i'w cyflwyno i gynulleidfa ehangach ac i wneud argymhellion ar lwyddiant cyffredinol gweithredu Fframwaith EAT yn ein harferion asesu. Mae sylwadau myfyrwyr a chanlyniadau’r arolygon yn dangos bod eu llythrennedd asesu wedi gwella a bod y broses adolygu gan gyd-fyfyrwyr yn elfen ddefnyddiol wrth feithrin eu sgiliau a'u hyder wrth hunanwerthuso. Byddwn yn parhau i gasglu gwerthusiadau a sylwadau gan fyfyrwyr i adeiladu ymhellach ar ein harferion asesu dros y blynyddoedd nesaf.