Deilliannau Dysgu’r Modiwl
Dechrau arni gyda Deilliannau Dysgu Modiwl
Ar ôl datblygu deilliannau dysgu eich rhaglen a nodi eich dull rhaglennol o asesu, byddwch nawr yn gallu meddwl yn fwy ymarferol am sut i roi’r strategaeth hon ar waith trwy ddatblygu deilliannau dysgu lefel fodiwlaidd a thasgau asesu.

Mae modiwl yn cynrychioli ‘uned astudio hunangynhwysol, strwythuredig ffurfiol, gyda set gydlynol ac eglur o ddeilliannau dysgu a meini prawf asesu’ (QAA, 2018). Fodd bynnag, dim ond un darn o bos y rhaglen yw pob modiwl. Dylai pob modiwl gyfuno i sicrhau bod myfyrwyr ar draws rhaglen yn gallu cyflawni deilliannau dysgu’r rhaglen. Trwy gyfres o dasgau asesu modiwlaidd, dylai myfyrwyr fod wedi dangos eu bod wedi cyflawni deilliannau’r rhaglen trwy’r asesiadau rhaglen a fwriedir.
Dylid strwythuro Deilliannau Dysgu Modiwlaidd i gefnogi Deilliannau Dysgu’r Rhaglen. Mewn geiriau eraill, dylai Deilliannau Dysgu Modiwlaidd nodi sut y maent yn cefnogi un (neu fwy) o Ddeilliannau Dysgu’r Rhaglen.
I’ch atgoffa, yng Nghaerdydd mae’r Deilliannau Dysgu Rhaglen hyn wedi’u strwythuro yn y categorïau canlynol:
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth
- Sgiliau Deallusol
- Sgiliau Ymarferol a Phroffesiynol, ac yn olaf,
- Sgiliau Trosglwyddadwy.
Yr hyn sy’n hanfodol yw’r ffyrdd y mae’r modiwlau gyda’i gilydd yn galluogi casglu gwybodaeth a sgiliau i fodloni deilliannau dysgu’r rhaglen, a’u rhesymoli. Mae’n well gwneud hyn ar ffurf map Deilliannau Dysgu Rhaglen i Fodiwlau.
Dylai Deilliannau Dysgu’r Modiwl ystyried lefel astudio’r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch sy’n briodol i gam perthnasol y dyfarniad: gweler yr adran awgrymiadau myfyriol am ragor o arweiniad. Efallai y byddwch yn sylwi bod rhai o’r canllawiau yn debyg ar y dudalen Deilliannau Dysgu’r Rhaglen a Deilliannau Dysgu’r Modiwl – mae hyn oherwydd bod llawer o debygrwydd wrth ysgrifennu Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Deilliannau Dysgu Modiwlau, ac er mwyn darparu ar gyfer amrywiaeth o ddefnyddwyr y pecyn cymorth, rydym wedi ei ddarparu ar y ddwy dudalen. Fel arfer, mewn modiwl semester o hyd, ni fyddai mwy na phedwar neu bump o Ddeilliannau Dysgu Modiwl. Bydd y berfau a ddefnyddir ar gyfer Deilliannau Dysgu’r Modiwl hyn yn llywio Gweithgareddau Dysgu’r Modiwl (gweler yr adran Dylunio Dysgu am ragor am hyn).
Yn union fel y mae Deilliannau Dysgu Rhaglen yn cael eu mapio i rinweddau graddedigion, dylai staff gymryd rhan mewn mapio Rhinweddau Graddedigion ar lefel modiwl.
Sut i ysgrifennu Deilliannau Dysgu Modiwl
Nid yw’n wyddoniaeth eoced… neu ydy hi?
Mae rhai enghreifftiau o ddeilliannau dysgu modiwlau o’n rhaglen Gwyddoniaeth Roced ffuglennol i’w gweld isod fel enghreifftiau cychwynnol i’w harchwilio. Sylwch ar lefel gynyddol yr her ar draws y lefelau.

- Lefel 4 – Trafod diwydiant Gwyddoniaeth Roced mewn adroddiad
- Lefel 5 – Dehongli goblygiadau masnachol datblygu rocedi
- Lefel 6 – Dewis ymchwil Gwyddoniaeth Roced berthnasol i’w datblygu’n gynnig busnes
- Lefel 7 – Llunio ymchwil sydd o fudd i faes Gwyddoniaeth Roced
Ysgrifennu Deilliannau Dysgu Modiwl effeithiol
Er mwyn sicrhau bod eich deilliannau dysgu yn canolbwyntio ar y myfyriwr, gall fod yn ddefnyddiol ceisio rhoi eich hun yn esgidiau’r myfyriwr a meddwl sut y gallech ymateb i’r rhain fel myfyriwr. Mae deilliannau dysgu fel arfer yn cynnwys tair elfen.

- A Berf i ddiffinio’r weithred benodol y mae myfyrwyr yn ei gwneud i ddangos eu dysgu.
- Pwnc, i nodi’r deunydd pwnc yr ydych am i’r dysgu ei gwmpasu.
- Cyd-destun y dysgu. Er nad oes angen i ddeilliannau dysgu gyfeirio’n benodol at ddulliau asesu penodol, dylent gynnwys arwydd o safon y perfformiad a fydd yn dangos bod y dysgu diffiniedig wedi’i gyflawni. Felly, dylai fod yn glir beth sydd angen i fyfyriwr ei ddysgu / ei wneud i gyrraedd y deilliant dysgu hwnnw.
Gadewch i ni weld hynny mewn termau ymarferol:
- Gweithred y gellir ei gwirio’n empirig, gan ‘dystiolaeth eich llygaid a’ch clustiau’;
- Cyd-destun: yr hyn a roddir;
- Meini prawf perfformiad (gall fod ymhlyg).
Enghraifft: Dadansoddwch y berthynas rhwng iaith dychan a ffurf lenyddol trwy archwilio’n fanwl nifer ddethol o destunau’r ddeunawfed ganrif mewn traethawd ysgrifenedig. Dylid gallu asesu’r deilliannau a fwriedir bob amser, felly mae angen i’w geiriad adlewyrchu’r sgiliau a’r ymddygiadau y dylai myfyrwyr allu eu dangos ar ôl cwblhau’r rhaglen/modiwl yn llwyddiannus.
Rhestr eirio Deilliannau Dysgu Modiwl
Mae Prifysgol Sheffield Hallam (2015) yn cynnig rhestr wirio ar gyfer deilliannau dysgu effeithiol, yr ydym wedi’i golygu rhywfaint. Gallwch chi ei darllen isod.
Ysgrifennu Deilliannau Dysgu Modiwl gwell: Gweithgaredd
Gweithgaredd
Awydd hogi eich sgiliau ysgrifennu Deilliannau Dysgu Modiwl? Gellir cwblhau’r hwn o fewn yr amser y mae’n ei gymryd i orffen paned! (yn Saesneg)
Lefelau Astudio Gwahanol
Daw’r ferf yn y deilliant dysgu bwriadedig yn gyswllt cyffredin y gellir ei ddefnyddio i sicrhau aliniad rhwng y deilliant dysgu a fwriedir, y gweithgareddau addysgu/dysgu, a’r tasgau asesu. Byddai rhai deilliannau dysgu bwriadedig yn gofyn am ferfau lefel isel fel “disgrifiwch”, “rhifwch”, “rhestrwch”; rhai eraill lefel ganolig, megis “esboniwch”, “cymhwyswch i barthau cyfarwydd”, “datryswch broblemau safonol”; tra ar lefel uwch, byddai berfau priodol yn cynnwys “damcaniaethwch”, “myfyriwch”, “cymhwyswch i barthau neu broblemau nas gwelwyd”.
Mae’r ddogfen rhestr ferf ganlynol yn debygol o fod yn amhrisiadwy wrth osod berfau ar y lefel gywir ar gyfer eich rhaglen.
Gweithgaredd
Dyma weithgaredd arall i chi ei fwynhau – y tro hwn, casglwch rai berfau defnyddiol wedi’u categoreiddio yn ôl lefel dysgu a chadarnhewch eich dealltwriaeth o barthau dysgu.
Deilliannau Dysgu Modiwl ac Aliniad Adeiladol
Mae aliniad adeiladol yn fath o addysg sy’n seiliedig ar ddeilliannau sy’n nodi sut y gellir alinio addysgu ac asesu â’r deilliannau dysgu a fwriedir, gan roi disgrifiad Shuell o addysgu effeithiol ar waith (Biggs a Tang, 2011).
Er mwyn cyflawni aliniad adeiladol, mae angen inni wneud y canlynol:
✅ Disgrifio’r deilliannau dysgu bwriadedig ar ffurf berf sy’n dynodi sut i ymdrin â’r cynnwys neu’r testunau ac ym mha gyd-destun.
✅ Creu amgylchedd dysgu gan ddefnyddio gweithgareddau addysgu/dysgu sy’n mynd i’r afael â’r ferf honno ac sydd felly’n fwy tebygol o sicrhau’r deilliant a fwriedir.
✅ Defnyddio tasgau asesu sydd hefyd yn cynnwys y ferf honno, gan alluogi rhywun i farnu pa mor dda y mae myfyrwyr wedi cyflawni’r deilliannau dysgu bwriadedig yn seiliedig ar feini prawf neu gyfarwyddiadau a osodwyd ymlaen llaw.
✅ Trawsnewid y dyfarniadau hyn yn feini prawf graddio safonol gan ddefnyddio cyfarwyddiadau.

Aliniad adeiladol: Gweithgaredd
Darperir gweithgaredd paru byr yma i chi ddod yn fwy cyfarwydd â geiriau Biggs (1996) ar aliniad adeiladol. Her egwyl goffi arall (yn Saesneg)!
Isod, mae rhai awgrymiadau wrth geisio cyflawni aliniad adeiladol yn ystod y broses ysgrifennu deilliannau dysgu.
Archwilio’n adyfnach
Map templed cyfannol
Dyma pa mor bell rydym wedi mynd ymlaen wrth lenwi ein map cynllunio. I'ch atgoffa, nid dogfen sicrhau ansawdd yw hon, dim ond offeryn ar gyfer cynllunio.
Os byddai un gwag yn ddefnyddiol i chi ar gyfer cynllunio, cliciwch yma.
Yn adran 1, fe wnaethom gwmpasu: |
Yn adran 2, fe wnaethom gwmpasu: |
Yn yr adran hon, fe wnaethom gwmpasu hyn: |
Yn yr adran nesaf, fe wnawn gwmpasu: |
|||
Categori deilliannau dysgu |
Deilliannau Dysgu Rhaglen Enghreifftiol |
Prif Rinweddau Graddedigion |
Dulliau asesu rhaglennol bwriadedig |
Rhai Deilliannau Dysgu Modiwl dangosol posibl |
Rhai asesiadau modiwlaidd a awgrymir |
Rhinweddau Graddedigion posibl y modiwl yr eir i’r afael â nhw |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth |
DD 1 – Deall a chymhwyso damcaniaethau, cysyniadau a thechnegau craidd sydd ar flaen y gad mewn Gwyddoniaeth Roced. |
Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol |
Arholiad
Traethawd
|
Lefel 4 – esbonio cysyniadau sylfaenol disgyrchiant a gofod |
|
|
Lefel 5 – archwilio hanes teithio yn y gofod |
|
|
||||
Lefel 6 – gwerthuso’n feirniadol y gwahanol dechnegau gwyddoniaeth roced mewn ystod o senarios penodol |
|
|
||||
Lefel 7 – cymhwyso theori Gwyddoniaeth Roced briodol i heriau mawr yr 21ain ganrif |
|
|
||||
DD 2 – Cymhwyso ymchwil sylfaenol a throsiadol Gwyddoniaeth Roced mewn amrywiaeth o leoliadau proffesiynol, yn ymwneud â hedfan gofod dynol. |
Arloesol, Mentrus ac yn Fasnachol Ymwybodol
|
Adroddiad |
Lefel 4 – trafod diwydiant Gwyddoniaeth Roced |
|
|
|
Lefel 5 – dehongli goblygiadau masnachol datblygu rocedi |
|
|
||||
Lefel 6 – dewis ymchwil Gwyddoniaeth Roced berthnasol i'w datblygu'n gynnig busnes |
|
|
||||
Lefel 7 – llunio ymchwil sydd o fudd i faes Gwyddoniaeth Roced |
|
|
||||
Sgiliau Deallusol |
DD 3 – Y gallu i ddewis a chymhwyso technegau mathemategol priodol i ddatrys problemau rocedi. |
Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol |
Arholiad
Gwaith cwrs ysgrifenedig |
Lefel 4 – deall hanfodion mathemateg mewn Gwyddoniaeth Roced |
|
|
Lefel 5 – cymhwyso datrysiadau mathemategol i broblemau penodol |
|
|
||||
Lefel 6 – ymarfer dulliau mathemategol a ddefnyddir yn y diwydiant gofod |
|
|
||||
Lefel 7 – adeiladu datrysiadau mathemategol gan ddefnyddio technoleg sy'n dod i'r amlwg |
|
|
||||
DD 4 – Llunio a gweithredu ystod o arbrofion yn ymwneud â datblygiad hedfan gofod dynol. |
Ymwybyddiaeth Foesegol, Gymdeithasol ac Amgylcheddol |
Arbrawf ymarferol |
Lefel 4 – dangos sgiliau sylfaenol |
|
|
|
Lefel 5 – asesu theori disgyrchiant |
|
|
||||
Lefel 6 – cyflawni’r gweithdrefnau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer hedfan i’r gofod mewn sefyllfa prototeip |
|
|
||||
Lefel 7 – gweithredu technoleg arbenigol sy'n ymwneud â datblygu hedfan gofod dynol |
|
|
||||
Sgiliau ymarferol a phroffesiynol |
DD 5 – Gweithio'n effeithiol o fewn ystod o dimau ymchwil ryngddisgyblaethol. |
Gydweithredol
|
Prosiect Grŵp |
Lefel 4 – adolygu deinameg grŵp |
|
|
Lefel 5 – cyfathrebu mewn tîm amlddisgyblaethol |
|
|
||||
Lefel 6 – cychwyn agwedd tîm at ddatrys her fawr |
|
|
||||
Lefel 7 – creu atebion i her fawr, gan weithio gyda chymunedau lleol |
|
|
||||
DD 6 – Cyflwyno data gwyddonol yn ymwneud ag adeiladu rocedi mewn modd clir a phroffesiynol. |
Cyfathrebwyr Effeithiol |
Cyflwyniad |
Lefel 4 – crynhoi hanfodion Gwyddoniaeth Roced i gynulleidfa gyfarwydd |
|
|
|
Lefel 5 – dehongli syniadau cymhleth i'w cyflwyno i gynulleidfa anwyddonol |
|
|
||||
Lefel 6 – syntheseiddio hanfodion Gwyddoniaeth Roced |
|
|
||||
Lefel 7 – trosi cynigion adeiladu Gwyddoniaeth Roced yn bolisi |
|
|
||||
Sgiliau trosglwyddadwy |
DD 7 – Ymarfer menter a chyfrifoldeb personol o fewn ystod o gyd-destunau proffesiynol. |
Myfyrio a gwydnwch |
Portffolio |
Lefel 4 – nodi eich lle yn y proffesiwn Gwyddoniaeth Roced |
|
|
Lefel 5 – myfyrio ar fod yn weithiwr proffesiynol Gwyddoniaeth Roced |
|
|
||||
Lefel 6 – dangos menter mewn amgylchedd proffesiynol |
|
|
||||
Lefel 7 – llunio dealltwriaeth glir o sut mae eich datblygiad proffesiynol wedi llywio eich ymarfer |
|
|
||||
DD 8 – Dewis a defnyddio dulliau ac adnoddau ymchwil priodol er mwyn paratoi prosiect ymchwil o'ch dewis. |
Ymwybyddiaeth Foesegol, Gymdeithasol ac Amgylcheddol |
Prosiect ymchwil |
Lefel 4 – lleoli adnoddau priodol i'w defnyddio wrth baratoi prosiect ymchwil |
|
|
|
Lefel 5 – cymharu a chyferbynnu gwahanol ddulliau ymchwil er mwyn dewis y dull gorau |
|
|
||||
Lefel 6 – amddiffyn eich dewis o ddulliau ymchwil |
|
|
||||
Lefel 7 – llunio papur ymchwil sy’n cwmpasu ystod eang o fethodoleg ac adnoddau perthnasol |
|
|
Ymagwedd VASCULAR at lunio Deilliannau Dysgu Modiwl
Mae'r ffeithlun canlynol yn cynnig gwybodaeth am y gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng Deilliannau Dysgu Rhaglen a Modiwl. Mae VASCULAR yn cyfeirio at ymagwedd flaengar at ysgrifennu Deilliannau Dysgu a gynigir gan Sally Brown: mae croeso i chi ddarllen hwn er mwyn datblygu eich dealltwriaeth ymhellach a chysylltu ag Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Lefelau, tacsonomi SOLO a heriau Tacsonomeg Bloom
Pam mae lefelau mor bwysig wrth ysgrifennu Deilliannau Dysgu Modiwl?
Yn ogystal ag arwain myfyrwyr at yr hyn y mae angen iddynt ei ddangos trwy asesiad, mae deilliannau dysgu modiwl hefyd yn rhoi arwydd pwysig o safonau academaidd y modiwl hwnnw. Er mai dim ond yn y gwaith y mae myfyrwyr yn ei gynhyrchu y bydd y safonau academaidd gwirioneddol, fel mesur ‘allbwn’, yn cael eu dangos, mae paneli dilysu ac arholwyr allanol (ac eraill) yn dilysu’r ‘safonau ansawdd’, sef y mesurau mewnbwn, sy’n cynnwys dogfennau mewnol megis disgrifiadau o fodiwlau. Fel y cyfryw, mae angen i ddisgrifiadau modiwl fapio ar y disgrifyddion lefel sy'n gweithredu ar draws addysg uwch y DU; mae'r rhain wedi'u nodi yn Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ) QAA. Mae diffyg aliniad â'r fframweithiau hyn, yn enwedig ar y cam dilysu, yn aml yn achosi gwaith pellach a gall achosi oedi wrth gyflwyno modiwl. Bydd gwneud pethau'n iawn y tro cyntaf yn helpu i osgoi oedi o'r fath.
Wedi'i ddatblygu'n wreiddiol yn y 1950au a'i adolygu a'i ailddatblygu'n helaeth ers hynny, mae tacsonomeg Bloom yn aml yn un o'r pwyntiau cyfeirio cyntaf y mae staff yn ei ddefnyddio wrth ddatblygu deilliannau dysgu, ac mae’r model hierarchaidd y mae'n seiliedig arno yn helpu i ddosbarthu cymhlethdod a phenodoldeb modiwl.
Fodd bynnag, er ei fod yn darparu fframwaith defnyddiol, gall nifer o faterion godi o'i ddefnyddio. Mae'r rhain yn cynnwys diffyg dealltwriaeth gyffredin o'r disgrifyddion sy'n codi o'i ddefnydd: gan nad oes gan dermau fel 'dadansoddiad beirniadol' ystyr diffiniadwy sy'n hawdd ei rannu, maent yn gallu bod yn agored i wahanol ddehongliadau. Mae defnyddio Bloom hefyd yn golygu y gallwch chi symud ymlaen i fyny'r hierarchaeth mewn dilyniant.
Nid oes rhaid i chi gyfyngu eich hun i'r lefelau is yn rhan gyntaf modiwl neu raglen, nac i'r lefelau uwch yn ddiweddarach. Er enghraifft, gallwch gyflwyno cysyniadau newydd o hyd mewn modiwl Lefel 6, a fydd yn gofyn i'ch myfyrwyr 'ddeall' cyn iddynt 'syntheseiddio' a 'gwerthuso'.

Mae Collis a Biggs (1982) yn cynnig tacsonomeg gyflenwol ar gyfer dosbarthu dysgu sy'n canolbwyntio ar ba mor gysylltiedig ac integredig y mae defnydd myfyrwyr o wybodaeth. Gall hwn fod yn arf defnyddiol i weithio gydag ef ochr yn ochr â thacsonomeg Bloom, a ddefnyddir yn gyffredin.

Mae’r adnodd hwn gan Education in Chemistry yn archwilio’r berthynas rhwng ffyrdd cynyddol soffistigedig o wybod a’r sgiliau a’r asesiadau sy’n cynorthwyo myfyrwyr i ddangos tystiolaeth o’r dealltwriaethau hyn.
Rhannwch eich adborth
Y camau nesaf
Rydych chi ar dudalen 3 o 4 o'r broses pedwar cam ar gyfer Datblygu Rhaglen.
Y tudalennau nesaf yw:
❗ Argymhellir yn gryf, os ydych yn dylunio rhaglen newydd neu'n ailddilysu rhaglen, eich bod yn archwilio'r tudalennau canlynol wrth i chi adeiladu eich dogfennaeth ansawdd. Maent mewn trefn benodol:
Neu fe allech chi ddychwelyd i’r dudalen Datblygu Rhaglen ac ymweld â'r tudalennau eraill dro arall.