Skip to main content

Dysgu Gwrthdro

Diagram yn tynnu sylw at wahaniaethau rhwng gweithgareddau dysgu traddodiadol a dysgu gwrthdro. Cynrychiolir traddodiadol gan aelod o staff ar flaen y dosbarth yn annog myfyrwyr i gwblhau gwaith ar eu pen eu hunain ar ôl y sesiwn. Cynrychiolir dysgu gwrthdro gan ddeunyddiau dysgu a roddir i fyfyrwyr cyn sesiwn, gyda grŵp o fyfyrwyr o amgylch bwrdd yn dangos bod myfyrwyr yn cymhwyso eu gwybodaeth mewn sesiynau dysgu gweithredol.

Cyflwyniad

Yn y fideo canlynol (1funud 40 eiliad), mae’r Dylunydd Dysgu Alex Stewart yn cyflwyno cysyniadau a buddion sylfaenol dysgu gwrthdro. Trwy’r dudalen fe gewch gyngor ac enghreifftiau ymarferol i’ch cefnogi chi wrth fabwysiadu ymagwedd wrthdro at addysgu a dysgu.

Mae penderfynu defnyddio dull dysgu gwrthdro yn eich ystafell ddosbarth yn gyffrous: mae’n eich paratoi ar gyfer ymagwedd bwrpasol at ddysgu cyfunol ac yn rhoi perchnogaeth dysgu yn ôl yn nwylo myfyrwyr. Serch hynny, mae angen rhywfaint o waith meddwl i greu ystafell ddosbarth wrthdro sy’n hyblyg, weithredol a chynhwysol.

 

Bydd yr adran hon yn eich helpu i:

  • Nodi beth yw dull dysgu gwrthdro
  • Gwerthuso pa ddull(iau) dysgu gwrthdro a allai weithio i’ch ystafell ddosbarth

 


Mae rhai o fanteision dysgu gwrthdro yn amlwg. Er enghraifft, mae rhyddhau amser rhag cyflwyno deunyddiau yn golygu y gellir neilltuo mwy o amser i weithgareddau gwerthfawr eraill, megis datblygu sgiliau, datblygu llythrennedd asesu, neu archwilio rhinweddau graddedigion. Gall dysgu gwrthdro hefyd gynnig mwy o gyfleoedd i gael profiadau dysgu cydamserol ystyrlon (e.e. cymdeithasol, cymhwysol, trwy brofiad) – yn syml trwy greu mwy o le yn y cwricwlwm.

Mae profiad dysgu gwrthdro yn dod â myfyrwyr i gysylltiad â llawer o agweddau y profwyd eu bod yn cynorthwyo dysgu, megis amgylchedd dysgu gweithredol ac ymatebol, deunyddiau cyn-dysgu, a chydweithio ac adborth cymheiriaid (Hamden et al., 2013; McLaughlin et al., 2014; Freeman et al., 2014).

Globe

Astudiaethau Achos

Dr Stephen Rutherford

Yn yr astudiaeth achos hon, mae Dr Stephen Rutherford (Ysgol y Biowyddorau) yn amlinellu ei brofiadau o ddefnyddio dulliau dysgu gwrthdro.

 Dr Anna Sydor a Dr Dominic Roche

Yn yr enghraifft ganlynol, mae Dr Anna Sydor a Dr Dominic Roche (Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd) yn rhoi sgwrs Pecha Kucha, lle maent yn esbonio sut y gwnaethant ddefnyddio dulliau dysgu gwrthdro drwy ddarparu eu holl adnoddau dysgu i fyfyrwyr ar ddechrau'r cwrs.


Pedwar Cam ar gyfer Dysgu Gwrthdro Llwyddiannus

Cam 1: Cwmpas y sesiwn/pwnc ac amcanion dysgu

Diffinio amcanion y sesiwn/pwnc a sut mae'n cyd-fynd ag amcanion dysgu cyffredinol y modiwl. Rhai cwestiynau a all arwain hyn:

  • Beth ydych chi eisiau i fyfyrwyr allu ei wneud/ei wybod erbyn diwedd y sesiwn?
  • Beth mae angen iddynt ei wybod cyn y sesiwn fyw?
  • Sut bydd myfyrwyr yn cymhwyso neu'n defnyddio'r deunyddiau cyn y dosbarth?
  • Pa ddulliau addysgu byddwch chi'n eu defnyddio?

Globe

Cam 1 Awgrymiadau Defnyddiol

Diffinio amcanion dysgu yn glir

Dechreuwch trwy ddiffinio'n glir eich amcan dysgu ar gyfer pob sesiwn. Bydd hyn yn helpu i arwain eich dewis ar gyfer yr adnoddau cyn y dosbarth a'r gweithgareddau yn y dosbarth.

 Asesu dealltwriaeth drwy gydol y broses

Rhoi asesiadau ffurfiannol ar waith yn ystod y cyfnodau cyn y dosbarth ac yn y dosbarth i fesur dealltwriaeth myfyrwyr. Defnyddiwch y wybodaeth hon i addasu eich dull addysgu yn ôl yr angen.

 Hyrwyddo annibyniaeth myfyrwyr

Annog myfyrwyr i gymryd perchnogaeth am eu dysgu. Darparu cyfleoedd ar gyfer archwilio ac ymholi hunangyfeiriedig.

Cam 2: Dysgu cyn y dosbarth

Dewiswch adnoddau priodol i fyfyrwyr ymgysylltu â nhw cyn y sesiwn fyw. Rhai cwestiynau i'w hystyried wrth ddewis deunyddiau:

  • Pa fath o adnoddau byddwch chi'n eu defnyddio? (Erthyglau, fideos, podlediadau)
  • Ydych chi wedi darparu amrywiaeth o adnoddau fel y gall myfyrwyr ddewis y fformat sydd orau ganddynt?
  • Sut bydd yr adnoddau'n cael eu rhannu gyda'r myfyrwyr? (Dysgu Canolog, MS Teams, e-bost)
  • Oes angen i fyfyrwyr baratoi unrhyw beth ar gyfer y sesiwn fyw? Sut byddwch chi'n eu hysgogi i wneud hyn?
  • Pa mor hir cyn y sesiwn fyw y byddwch yn sicrhau bod yr adnoddau ar gael? (cynghorir o leiaf 3 diwrnod)
  • Faint o amser y bydd ei angen ar fyfyrwyr ar gyfer cwblhau'r gweithgaredd?
  • Sut bydd y cynnwys yn eu paratoi ar gyfer y gweithgaredd yn y dosbarth?
  • A fydd angen unrhyw gymorth neu arweiniad ar fyfyrwyr gyda'r adnoddau hyn? Sut y byddant yn cael y cymorth hwnnw os oes angen?

Globe

Cam 2 Awgrymiadau Defnyddiol

Ennyn diddordeb myfyrwyr gyda chynnwys o ansawdd uchel cyn y dosbarth

Dewiswch ddeunyddiau cyn y dosbarth sy’n ddeniadol a pherthnasol fel fideos, darlleniadau, neu fodiwlau rhyngweithiol. Sicrhewch fod yr adnoddau hyn yn cyd-fynd â’r amcanion dysgu a’u bod yn paratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithgareddau dysgu gweithredol yn y sesiwn yn y dosbarth.

Darparu cyfarwyddiadau a disgwyliadau clir

Cyflëwch ddisgwyliadau ar gyfer gwaith paratoi cyn y dosbarth a chyfranogiad yn y dosbarth yn glir, yn enwedig pan fyddwch yn defnyddio dysgu gwrthdro gyda grŵp am y tro cyntaf. Darparwch gyfarwyddiadau manwl ar sut y dylai myfyrwyr ymgysylltu â'r cynnwys cyn y dosbarth a byddwch yn barod os nad yw myfyrwyr wedi ymgysylltu â'r deunyddiau cyn y dosbarth (gweler 'Annog ymgysylltiad myfyrwyr' am awgrymiadau ar hyn).

Cam 3: Gweithgareddau yn y Dosbarth

Cynlluniwch y gweithgareddau y bydd myfyrwyr yn eu gwneud yn y sesiwn fyw a ddylai gael eu llywio gan yr adnoddau cyn y dosbarth. Rhai cwestiynau i arwain hyn:

  • Beth yw'r amcanion dysgu ar gyfer y sesiwn hon?
  • Beth yw'r sgiliau/y wybodaeth rydych chi am i'r myfyrwyr eu dangos?
  • Pa fath o weithgareddau dysgu gweithredol y bydd y myfyriwr yn eu gwneud? (Trafodaethau, prosiectau grŵp, dysgu seiliedig ar broblemau, chwarae rôl, efelychiadau)
  • Sut bydd myfyrwyr yn cymhwyso'r wybodaeth o'r gweithgaredd cyn y dosbarth yn y sesiwn hon?
  • Pa dechnoleg y bydd ei hangen ar y myfyrwyr?
  • Sut byddwch chi'n cefnogi'r myfyrwyr yn ystod y gweithgareddau?
  • Pa fath o adborth y byddwch chi'n ei roi i fyfyrwyr yn ystod/ar ôl y gweithgareddau?
  • Sut bydd myfyrwyr yn cymryd rhan yn y sesiwn os nad ydynt wedi gwneud y gweithgareddau cyn y dosbarth?

Globe

Step 3 Top Tips

Cam 3 Awgrymiadau Defnyddiol

Meithrin dysgu gweithredol yn yr ystafell ddosbarth

Dyluniwch weithgareddau yn y dosbarth sy'n hyrwyddo dysgu gweithredol, cydweithio a meddwl beirniadol. Dylai'r gweithgareddau hyn adeiladu ar y cynnwys cyn y dosbarth a helpu i atgyfnerthu cysyniadau allweddol.

Annog rhyngweithio rhwng cymheiriaid

Yn y sesiwn yn y dosbarth (ar-lein neu wyneb yn wyneb), hwyluswch gyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio â'u cymheiriaid. Gall hyn gynnwys trafodaethau ar-lein, prosiectau grŵp, neu ddatrys problemau ar y cyd.

 Creu amgylchedd cefnogol

Sefydlwch amgylchedd dysgu cefnogol lle mae myfyrwyr yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn cwestiynau ac yn ceisio eglurhad. Darparwch adnoddau neu gymorth ychwanegol i'r rhai a all fod ei angen.

Cam 4: Mewnbwn ar ôl y sesiwn

Efallai y byddwch am gynnwys rhai gweithgareddau ar ôl y gweithgareddau dysgu gweithredol neu'r dosbarth i barhau â'r profiad dysgu i'r myfyrwyr. Er enghraifft:

  • Darparwch adborth ar y gweithgareddau cyn y dosbarth ac yn y sesiwn
  • Disgrifiwch sut mae'r sesiwn hon yn berthnasol i'r sesiwn nesaf neu weddill y modiwl
  • Gofynnwch i'r myfyrwyr fyfyrio ar y gweithgareddau dysgu gweithredol a'u paru â'r amcanion dysgu

Globe

Cam 4 Awgrymiadau Defnyddiol

Darparu adborth amserol

Cynigiwch adborth amserol ar aseiniadau cyn y dosbarth a gweithgareddau yn y dosbarth. Mae adborth adeiladol yn helpu myfyrwyr i ddeall eu cynnydd a meysydd i'w gwella.

Myfyrio ac ymateb

Myfyriwch yn rheolaidd ar eich dull dysgu gwrthdro. Dylech ystyried adborth myfyrwyr, asesu effeithiolrwydd cynnwys cyn y dosbarth a gweithgareddau yn y dosbarth, a gwneud addasiadau ar gyfer gwelliant parhaus.


Annog Ymgysylltiad Myfyrwyr

Un o’r problemau posibl gyda dull dysgu gwrthdro yw os nad yw myfyrwyr yn cwblhau’r gweithgareddau cyn y dosbarth sy’n golygu na allant gymryd rhan lawn yn y sesiwn dysgu gweithredol.  Yn gyntaf, mae’n bwysig canfod pam nad oeddent yn gallu cwblhau’r gweithgareddau gan y gallai fod yn broblem o ran cyrchu’r deunyddiau, amser oherwydd gwaith neu gyfrifoldebau gofalu, cael trafferth gyda’r cynnwys, neu fater hygyrchedd y gallai fod angen mynd i’r afael ag ef. Awgrymir mynd i’r afael â’r sefyllfa mewn modd cefnogol ac adeiladol, a gallai’r strategaethau canlynol fod yn ddefnyddiol:

  1. Annog atebolrwydd

Pwysleisiwch bwysigrwydd paratoi cyn y dosbarth a'i gysylltiad â'r gweithgareddau yn y dosbarth. Dylech atgoffa’r myfyrwyr bod eu cyfranogiad gweithredol yn hanfodol ar gyfer eu dealltwriaeth a’u llwyddiant cyffredinol yn y cwrs.

 

  1. Gosod disgwyliadau clir

Cyfathrebwch yn glir y disgwyliadau ar gyfer paratoi cyn y dosbarth a chanlyniadau peidio â chwblhau'r gwaith a osodwyd. Mae ymagwedd dryloyw yn helpu myfyrwyr i ddeall pwysigrwydd ymbaratoi.

 

  1. Neilltuo cymorth cyfaill neu grŵp

Parwch y myfyriwr gyda chyd-fyfyriwr neu grŵp bach sydd wedi cwblhau'r gweithgaredd cyn y dosbarth. Mae hyn yn annog dysgu a chydweithio rhwng cymheiriaid, gan helpu’r myfyriwr nad yw wedi paratoi i ddal i fyny yn ystod y sesiwn yn y dosbarth.

 

  1. Cynllunio gweithgareddau adolygu cyflym

Cynlluniwch weithgareddau adolygu byr ar ddechrau'r dosbarth i atgoffa myfyrwyr am gysyniadau hanfodol cyn y dosbarth. Gallai hwn fod yn gwis byr, yn drafodaeth, neu'n weithgaredd grŵp sy'n trafod y pwyntiau allweddol.

 

  1. Cynnig adnoddau ychwanegol

Darparwch adnoddau ychwanegol neu ddeunyddiau amgen i fyfyrwyr sy'n cael trafferth gyda'r cynnwys cyn y dosbarth. Gall hyn gynnwys dolenni i fideos, erthyglau, neu diwtorialau perthnasol a all fod yn adnoddau atodol.

 

  1. Gweithredu camau cosbi cynyddol

Os daw diffyg paratoi cyn y dosbarth yn fater sy'n codi dro ar ôl tro, ystyriwch roi camau cosbi cynyddol ar waith. Gallai hyn gynnwys aseiniadau ychwanegol, neu drafodaethau un-i-un i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw heriau sylfaenol.

 

  1. Mynd i'r afael â heriau

Os bydd y myfyriwr yn cael trafferth yn gyson gyda gweithgareddau cyn y dosbarth, cynigwich drafodaeth un-i-un i nodi unrhyw heriau y gallai fod yn eu hwynebu. Gallai hyn gynnwys materion rheoli amser, anawsterau gyda'r deunydd, neu heriau personol.

Cofiwch, y nod yw cefnogi dysgu myfyrwyr a’u helpu i lwyddo. Dylech ymdrin â’r sefyllfa gydag empathi, a gweithio ar y cyd â’r myfyriwr i ddod o hyd i atebion sy’n mynd i’r afael â’r materion sylfaenol tra’n atgyfnerthu pwysigrwydd paratoi cyn y dosbarth.


Dulliau Gwrthdro Cyffredin

Mae deunyddiau dysgu ar gael i fyfyrwyr eu hastudio cyn dosbarth/darlith. Gall y deunyddiau dysgu gynnwys fideos byr, podlediadau neu ddeunyddiau darllen a fydd yn rhoi amgyffrediad sylfaenol i fyfyrwyr o’r pwnc dan sylw. Yn ddelfrydol, bydd tasg neu ddwy i helpu myfyrwyr i ymgysylltu'n weithredol â'r dysgu e.e. cyfrannu at fwrdd trafod neu gwblhau cwis byr. Gallant wneud hyn i gyd yn anghydamserol, a fydd yn eu grymuso i ymgysylltu â'r cynnwys ar yr amser sydd orau iddyn nhw.

Yna, mae’r sesiwn yn gweld myfyrwyr yn cymhwyso eu dysgu mewn ffyrdd gweithredol sy'n cyd-fynd â nodau'r modiwl, yn ogystal â rhoi cyfle i staff ymateb i adborth myfyrwyr am y deunyddiau anghydamserol.

I baratoi ar gyfer ystafell ddosbarth wrthdro, defnyddiwch restr wirio Rhwydwaith yr Ystafelloedd Dosbarth Gwrthdro

yn seiliedig ar ‘FLIP – the Four Pillars of Flipped Learning’.

Yn gweithio orau ar gyfer:

Pob disgyblaeth; cwricwla â llawer o gynnwys; Pynciau heriol

Mae dull Addysgu Mewn Union Bryd yn golygu bod yr aelod staff yn defnyddio pleidlais ar-lein, bwrdd negeseuon neu ofod sgwrsio i benderfynu ar y 'pwynt mwyaf aneglur' o gynnwys dysgu ar-lein. Dull cyffredin yw rhoi gweithgaredd ar-lein a dau gwestiwn i chi eu hadolygu cyn y sesiwn, gyda thrydydd cwestiwn myfyriol (y pwynt mwyaf aneglur).

Felly, gallwch bersonoli'r sesiwn sydd gennych gyda myfyrwyr yn seiliedig ar yr hyn y maent yn ei chael yn heriol, sy'n golygu y bydd gan eich sesiynau cydamserol werth amlwg a chynnydd dysgu mesuradwy. Dull arall yw gweithio gyda'r hyn y mae myfyrwyr yn ei weld yn ddiddorol, yn enwedig os yw dewis yn cael ei gynnwys yn eu hasesiad.

Gellid defnyddio'r dulliau hyn o fewn dull ehangach ‘ystafell ddosbarth wrthdro’. Gellid ei wneud hefyd fel dull gwrthdro rhannol, gan gynrychioli ychydig bach o amser yn y dosbarth.

Yn gweithio orau ar gyfer:

Gallu gweithio'n dda ar gyfer pob disgyblaeth, gan gynnwys y rhai sy'n fwy seiliedig ar sgiliau neu’n archwiliadol.

Yn yr un modd, mae cwestiwn pwynt colfach yn gweld aelod o staff yn llunio un cwestiwn amlddewis ar ap pleidleisio fel Menti ac yna'n symud y sesiwn ymlaen mewn ymateb i’r atebion.

 

Mae cwestiynau pwynt colfach yn gweithio orau ar ‘gysyniadau trothwy’ sy'n hanfodol i'ch disgyblaeth ond sydd hefyd yn cael eu camddeall yn eang. Dylent hefyd fod yn seiliedig ar gwestiynau sydd ag un ateb cywir.

Dylid cynllunio pob ateb yn ofalus i gynrychioli math gwahanol o gamddealltwriaeth.

Os yw'r rhan fwyaf wedi cael y cwestiwn yn gywir, yna mae'r athro'n treulio'r amser naill ai'n symud ymlaen i'r pwnc neu’r lefel gymhlethdod nesaf. Os bydd y rhan fwyaf wedi ateb y cwestiwn yn anghywir, mae'r athro'n gweithio gyda'r dosbarth i wrthbrofi'r atebion anghywir neu i ailddysgu cysyniadau perthnasol.

Yn gweithio orau ar gyfer:

Pynciau lle mae ateb cywir neu gysyniad trothwy sydd angen ei feistroli.

Yn debyg i gwestiwn pwynt colfach, mae'r hwylusydd yn darparu cwestiwn gydag atebion posibl trwy ap pleidleisio. Ar gyfer disgyblaethau sy'n seiliedig ar wyddoniaeth, gallai hwn fod yn gwestiwn 'tebyg i arholiad', ond mewn disgyblaethau sy'n seiliedig ar gymhwysedd, gallai gynrychioli penderfyniad proffesiynol.

 

Dylai un ateb fod yn gywir tra dylai'r llall gynrychioli camsyniadau cyffredin neu ddealltwriaeth rannol.

 

Yna, bydd myfyrwyr yn paru â rhywun, yn ddelfrydol rhywun sydd ag ateb gwahanol iddynt. Byddant yn cydweithio â’i gilydd i drafod/dadlau a chytuno pa ateb sy’n gywir. Gallech hyd yn oed gymryd ail bleidlais i weld sut y gallai parau fod wedi dylanwadu ar ei gilydd.

Yn bwysicach fyth, byddant yn myfyrio ar sut y daethant i'r penderfyniad hwnnw ac yn egluro hynny: gan nodi a rhannu'r camau, yr egwyddorion, y rheolau, y llenyddiaeth, y camsyniadau, yr achosion. Y drafodaeth a'r cytundeb sy'n deillio o hyn yw'r canlyniad pwysicaf yn hytrach na 'bod yn gywir'.

Yn gweithio orau ar gyfer:

disgyblaethau sydd â phroblemau ymarferol neu gymwysiadau damcaniaeth haniaethol. Darlithfa fawr, gyda grwpiau mawr, ar yr amod bod digon o ystyriaeth wedi'i rhoi i sut i roi a chael adborth am y dasg.


Technolegau ategol ar gyfer Dysgu Gwrthdro

  • Deunyddiau cyn dosbarth, a gyflwynir yn aml yn yr Amgylchedd Dysgu Digidol (DLE, Blackboard).
  • Fideos cryno rydych naill ai wedi’u paratoi eich hun gan ddefnyddio Panopto, neu wedi’u darganfod (a’u gwirio) ar Youtube.
  • Deunyddiau a grëwyd gan ddisgyblion gan ddefnyddio cyfres lawn o feddalwedd Office 365.
  • Deunydd yn y dosbarthsydd ar gael ar ffurf electronig a chopi caled.
  • Meddalwedd pleidleisio fel polau Mentimeter a Zoom.
  • Mannau gweithiofel Microsoft Whiteboard, OneNote neu Teams Classrooms.
  • Byrddau trafod yn y DLE neu ddefnyddio meddalwedd ar-lein fel Padlet.
Globe

Awgrymiadau Defnyddiol

  1. Rhowch wybod i fyfyrwyr ac esboniwch iddynt yn rheolaidd pam rydych yn defnyddio'r dull ystafell ddosbarth wrthdro. Mae hyn yn cynnwys esbonio'r manteision yn ogystal â chyfrifoldebau athrawon a myfyrwyr.
  2. Byddwch yn ymwybodol y gall ystafelloedd dosbarth bywiog fod yn heriol i rai myfyrwyr. Dylid cynnig gweithgareddau tawelach, fel hunanbrofi a gwaith pâr, ochr yn ochr â gweithgareddau grŵp.
  3. SSgaffaldiwch nid yn unig y cynnwys dysgu ond hefyd y cyfranogiad yn y dosbarth ei hun ar draws eich modiwl. Er enghraifft, ni fyddai’n ddoeth gofyn i fyfyrwyr gyflwyno i’r dosbarth cyfan yn eu sesiwn wrthdro gyntaf, ond efallai y gallent egluro eu hymagwedd at weithgaredd i bâr cyfagos ac yna magu eu sgiliau cyflwyno a’u hyder dros gyfnod.
  4. Defnyddiwch sesiynau ystafell ddosbarth cydamserol i fynd y tu hwnt i ‘ddrilio ac ymarfer’ neu ‘weld pwy sydd wedi gwylio'r fideo’. Gallai mannau ffocws amgen fod yn ymwneud ag ymarfer sgiliau neu ddatblygu llythrennedd asesu, neu ofyn i fyfyrwyr archwilio cymwysiadau ymarferol a phrofiadol o ddeunyddiau anghydamserol a ddysgwyd.
  5. Cynlluniwch eich gwers â deilliannau dysgu clir, mesuradwy y gellir eu dangos wrth gwblhau pob tasg. Adeiladwch amser ar gyfer sesiynau torfol myfyriol sy’n arwain myfyrwyr i fyfyrio ar y dysgu ac ystyried sut y gellir ei gymhwyso yn y dyfodol (yn yr ystafell ddosbarth neu ar lwybrau gyrfa posibl).

Cwestiynau Cyffredin

Cysylltu Dysgu ag Asesu: Pwysleisiwch sut mae'r gweithgareddau cyn y sesiwn a'r rhai yn y dosbarth wedi'u cynllunio i helpu myfyrwyr i berfformio'n dda mewn asesiadau. Mae hyn yn dangos i’r myfyrwyr bod gwerth ymarferol i'w hymdrechion.

Monitro Ymgysylltu Cynnar: Aseswch faint mae myfyrwyr yn ymgysylltu gyda’r deunyddiau cyn-sesiwn cyn i'r dosbarth gyfarfod. Mae hyn yn eich galluogi i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau'n gynnar.

Cyfathrebu: Cyfathrebwch yn rheolaidd gyda'r myfyrwyr, gan rannu cyngor ar sut mae cyfranogi yn y dosbarth yn cyfrannu at berfformiad asesu gwell i'r rhai sy’n bresennol.

Awyrgylch Cadarnhaol yn yr Ystafell Ddosbarth: Crëwch awyrgylch dymunol a chroesawgar yn yr ystafell ddosbarth. Dylech gydnabod pob lefel o ddealltwriaeth ac ymgysylltu heb feirniadaeth, a all annog mwy o gyfranogiad.

Bod ar gael i Gefnogi: Cynigiwch fod ar gael ar gyfer sgyrsiau un-i-un neu i arsylwi sesiwn er mwyn deall heriau'r myfyrwyr, gan ddarparu cefnogaeth bersonol.

Annog meddwl yn feirniadol: Mewn sefyllfaoedd o argyfwng, fel diffyg dealltwriaeth (a elwir yn “senarios Dydd y Farn”), anogwch y myfyrwyr i lunio cwestiynau penodol cyn cynnig crynodeb. Mae hyn yn hybu meddwl beirniadol a dysgu gweithredol.

Dysgu gan Gymheiriaid: Awgrymwch fod myfyrwyr yn ail-wylio’r deunydd ar eu gliniaduron ac yn cydweithio gyda chyd-fyfyrwyr i feddwl am gwestiynau wedi’u llunio'n ofalus, a gwella eu dealltwriaeth trwy ryngweithio â chyfoedion.

Nod y strategaethau hyn yw gwneud yr ystafell ddosbarth wrthdro yn fwy effeithiol trwy sicrhau bod myfyrwyr wedi paratoi ac yn ymgysylltu, sy'n hanfodol ar gyfer llwyddiant y model dysgu. Trwy roi’r dulliau hyn ar waith, gallwch helpu myfyrwyr i weld perthnasedd eu gwaith a’u hysgogi i gymryd rhan fwy gweithredol yn y broses ddysgu.

Gall atebolrwydd fod yn her mewn ystafelloedd dosbarth gwrthdro. Dyma rai strategaethau a ddylai helpu:

Gweithgareddau cyn y dosbarth sy'n hybu ymgysylltiad ac yn gwirio dealltwriaeth:

Cwisiau byr, heb eu graddio: Cynlluniwch gwisiau byr yn gysylltiedig â'r cynnwys a recordiwyd ymlaen llaw. Gall y rhain fod yn asesiadau ffurfiannol i fesur dealltwriaeth a nodi unrhyw feysydd sydd angen eu hegluro.

Gweithgareddau ar-lein rhyngweithiol: Defnyddiwch offer ar-lein fel polau piniwn, cwisiau ag adborth awtomataidd, neu fyrddau trafod lle gall myfyrwyr ateb cwestiynau ac egluro eu rhesymeg. Mae hyn yn meithrin cyfranogiad ac yn eich galluogi i nodi unrhyw feysydd sy'n peri dryswch.

"Tocynnau ymadael" neu fyfyrdodau byr: Gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu myfyrdod byr ar y deunydd a recordiwyd ymlaen llaw. Gall hyn ddatgelu meysydd lle mae angen mwy o gymorth ar fyfyrwyr a chaniatáu i chi addasu gweithgareddau yn y dosbarth yn unol â hynny. Defnyddiwch amodau rhyddhau Dysgu Canolog i reoli eu cynnydd trwy'r deunyddiau a'r tasgau.

Gweithgareddau yn y dosbarth sy’n annog cyfranogiad a chydweithio:

Datrys problemau mewn tîm: Rhannwch y myfyrwyr yn grwpiau llai a neilltuwch broblemau sy'n gofyn iddynt gymhwyso'r deunydd a ddysgwyd ymlaen llaw. Mae hyn yn hyrwyddo dysgu gweithredol ac atebolrwydd cymheiriaid.

"Papurau munud" neu "Meddwl-Paru-Rhannu" gyda pholau piniwn: Yn dilyn pwynt allweddol yn y deunydd a recordiwyd ymlaen llaw, defnyddiwch arolygon barn (Mentimeter) ar gyfer cwestiynau ymateb chwim neu gofynnwch i'r myfyrwyr fyfyrio'n unigol ("Meddwl") ac yna rannu gyda phartner ("Paru"). Gellir dilyn hyn gyda thrafodaeth dosbarth cyfan, sy'n cynyddu cyfranogiad.

"Addysgu Mewn Union Bryd": Ar ddechrau'r dosbarth, gofynnwch i'r myfyrwyr ysgrifennu unrhyw gwestiynau ar y deunydd a recordiwyd ymlaen llaw. Atebwch y cwestiynau hyn cyn symud ymlaen, gan sicrhau bod pawb ar yr un dudalen.

Technoleg sydd o fantais i chi:

Dysgu Canolog: Defnyddiwch Dysgu Canolog i gynnwys gweithgareddau cyn y dosbarth, cwisiau, a dyddiadau cau. Mae hyn yn creu lleoliad canolog i fyfyrwyr ac yn caniatáu anfon nodiadau atgoffa ac adborth awtomataidd.

Adolygu gan Gymheiriaid: Gallwch ddefnyddio Dysgu Canolog ar gyfer aseiniadau neu gyflwyniadau grŵp. Mae hyn yn meithrin atebolrwydd ac yn galluogi myfyrwyr i ddysgu o waith ei gilydd.

Awgrymiadau ychwanegol:

Gosodwch ddisgwyliadau clir a chyfarwyddiadau graddio: Eglurwch yn glir bwrpas y gwaith cyn y dosbarth a sut mae'n cyfrannu at y radd gyffredinol.

Galw myfyrwyr ar hap: Mae hyn yn cadw sylw pawb ac yn ysgogi myfyrwyr i baratoi ar gyfer trafodaethau dosbarth.

Ystyriwch gynnig credyd ychwanegol am gyfranogi cyn y dosbarth: Gall hyn gymell myfyrwyr i gwblhau gweithgareddau cyn y dosbarth a chynnal y ffocws ar ddysgu.

Dylai'r strategaethau hyn helpu i fynd i'r afael â her atebolrwydd gyda charfannau mwy. Cofiwch, canolbwyntiwch ar greu gweithgareddau diddorol cyn y dosbarth, sesiynau rhyngweithiol yn y dosbarth, a defnyddiwch dechnoleg er mantais i chi.

Gall fod yn anodd gyda lefelau ymgysylltu amrywiol, ond dyma rai strategaethau i fynd i’r afael â hyn:

Gweithgareddau cyn y dosbarth gydag opsiynau haenog:

Gallwch gynnig cynnwys mewn gwahanol fformatau: Darparwch ddarlithoedd wedi'u recordio ymlaen llaw ochr yn ochr â chrynodebau fideo byrrach, trawsgrifiadau, neu bodlediadau. Mae hyn yn gweddu i fyfyrwyr ag arddulliau dysgu a chyfyngiadau amser amrywiol.

Cwisiau neu arolygon barn cyn y dosbarth: Mesurwch ddealltwriaeth y myfyrwyr cyn y dosbarth. Mae hyn yn eich galluogi i deilwra gweithgareddau yn y dosbarth i fynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin neu addasu cymhlethdod yr ymarferion.

Aseiniadau haenog: Cynlluniwch yr aseiniadau cyn y dosbarth ar amrywiol lefelau. Gall myfyrwyr ddewis ar sail eu gwybodaeth flaenorol neu yn ôl faint o amser sydd ganddynt.

Gweithgareddau yn y dosbarth sy’n pontio’r bwlch:

Gweithgaredd "Pwynt Mwyaf Amwys": Dechreuwch y dosbarth trwy ofyn i'r myfyrwyr ysgrifennu'n ddienw beth oedd y peth mwyaf dryslyd yn y deunydd a recordiwyd ymlaen llaw (mae Mentimeter yn wych ar gyfer hyn). Rhowch sylw i'r pwyntiau hyn ar ddechrau'r dosbarth, gan sicrhau bod pawb ar yr un dudalen.

"Meddwl-Paru-Rhannu" gydag amrywiadau (Gweler ymateb "sut allaf i hyrwyddo cydweithio..." am ragor o fanylion): Yn y cyfnod "Meddwl", gall myfyrwyr ysgrifennu pwyntiau allweddol yn unigol, gan ganolbwyntio ar y deunydd craidd sydd angen i bawb ei ddeall.

Cylchdroadau gorsaf: Sefydlwch orsafoedd gwahanol gyda gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar wahanol arddulliau dysgu (gweledol, clywedol, cinesthetig). Mae myfyrwyr yn cylchdroi trwy’r gorsafoedd, gan sicrhau bod pawb yn dod i gysylltiad â dulliau dysgu amrywiol.

Ymdrin ag arddulliau ymgysylltu amrywiol:

Ystyriwch grwpiau cymorth neu oriau swyddfa: Cynigiwch gyfleoedd i fyfyrwyr sydd angen cymorth neu eglurhad ychwanegol gael cymorth pwrpasol y tu allan i'r dosbarth.

Tiwtora cyfoedion: Anogwch fyfyrwyr uwch i ddod yn diwtoriaid cyfoedion i'r rhai a gafodd drafferth gyda'r deunydd cyn y dosbarth.

Rolau gwahaniaethol yn y dosbarth: Neilltuwch rolau penodol o fewn gweithgareddau grŵp. Er enghraifft, un person yn gyfrifol am grynhoi pwyntiau allweddol, un arall am gadw ffocws y drafodaeth, ac ati. Mae hyn yn helpu i rannu’r cyfrifoldeb ac yn darparu ar gyfer cryfderau amrywiol.

Awgrymiadau ychwanegol:

Pwysleisiwch bwysigrwydd paratoi cyn y dosbarth: Eglurwch sut mae gweithgareddau yn y dosbarth yn adeiladu ar y deunydd a recordiwyd ymlaen llaw a sut mae cyfranogi o fudd i bob myfyriwr.

Cynigiwch gymhellion ar gyfer ymgysylltu cyn y dosbarth: Dyfarnwch bwyntiau cyfranogi am gwblhau cwisiau neu aseiniadau cyn y dosbarth.

Cofiwch:

Byddwch yn hyblyg ac addaswch eich dull yn seiliedig ar adborth y myfyrwyr a lefelau ymgysylltu.

Ewch ati i feithrin amgylchedd dysgu lle caiff cwestiynau eu hannog a lle mae myfyrwyr yn teimlo'n gyfforddus yn cyfaddef eu bod angen eglurhad.

Dathlwch y safbwyntiau a'r dulliau amrywiol y mae myfyrwyr yn eu cyflwyno i'r ystafell ddosbarth.

Trwy ddefnyddio rhai o'r strategaethau hyn, gallwch wneud eich ystafell ddosbarth wrthdro’n fwy cynhwysol a darparu ar gyfer ystod ehangach o ddulliau ymgysylltu yn eich carfan.

Pileri Dysgu Gwrthdro: Y rhain yw'r pedwar piler sy'n hanfodol ar gyfer dysgu gwrthdro llwyddiannus. Y pileri hyn yw Amgylchedd Hyblyg, Diwylliant Dysgu, Cynnwys Bwriadol, ac Addysgwr Proffesiynol. Mae pob piler yn chwarae rhan hanfodol wrth greu profiad dysgu gwrthdro effeithiol.

Amgylchedd Hyblyg: Mae hyn yn golygu creu gofodau a fframiau amser sy'n galluogi myfyrwyr i ryngweithio a myfyrio ar eu dysgu yn ôl yr angen. Mae hefyd yn golygu bod â disgwyliadau hyblyg o ran llinellau amser dysgu myfyrwyr ac wrth asesu dysgu’r myfyrwyr.

Diwylliant Dysgu: Mae dysgu gwrthdro yn symud yr ystafell ddosbarth o fodel sy'n canolbwyntio ar yr athro i fodel sy'n canolbwyntio ar y dysgwr. Yma, caiff amser ei neilltuo yn y dosbarth i ystyried pynciau’n fanylach a chreu cyfleoedd dysgu cyfoethog.

Cynnwys Bwriadol: Mae addysgwyr yn pennu pa ddeunydd sydd angen iddynt ei addysgu'n uniongyrchol a pha ddeunyddiau y gall myfyrwyr eu dysgu ar eu pen eu hunain. Mae hyn yn sicrhau bod yr amser yn y dosbarth yn cael ei ddefnyddio i'w lawn botensial.

Addysgwr Proffesiynol: Mae addysgwyr dysgu gwrthdro yn arsylwi eu myfyrwyr yn barhaus, gan gyflwyno adborth ac addasu eu strategaethau addysgu yn unol â hynny. Maent hefyd yn agored i dyfu'n broffesiynol ac yn barod i dderbyn adborth gan fyfyrwyr.

Cyfeireb Hunanasesu: Offeryn a grëwyd gan y Rhwydwaith Dysgu Gwrthdro yw’r gyfeireb hunanasesu sy’n helpu addysgwyr i werthuso a yw eu cwrs yn cyd-fynd â phedair egwyddor graidd dysgu gwrthdro.

Ymgysylltu â Recordiadau o Ddarlithoedd: Gwelir bod myfyrwyr yn tueddu i ymgysylltu llai â recordiadau o ddarlithoedd traddodiadol at ddibenion dysgu gwrthdro. I fynd i’r afael â hyn, mae creu recordiadau byr, anffurfiol wedi'u teilwra yn gallu gwella ymgysylltiad myfyrwyr yn sylweddol.

Deunyddiau ar gyfer Gweithgarwch yn y Dosbarth: Dylai'r deunyddiau y byddwch yn eu lanlwytho gyfleu cynnwys a hefyd gyfleoedd i ddysgwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y dosbarth. Gallai hyn fod trwy drafodaethau rhyngweithiol, sesiynau datrys problemau, neu weithgareddau ymarferol.

Dewisiadau heblaw fideos: Er bod fideos yn arf cyffredin mewn dysgu gwrthdro, nid dyma'r unig ddull. Gall deunyddiau eraill fel efelychiadau rhyngweithiol, darlleniadau neu recordiadau sain fod yn effeithiol hefyd. Yr allwedd yw dewis y cyfrwng sydd fwyaf addas ar gyfer y cynnwys ac anghenion y dysgwyr.

I grynhoi, mae dysgu gwrthdro'n ymwneud â chreu amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y dysgwr gyda myfyrwyr yn cymryd rhan weithredol yn y broses ddysgu. Dylai'r deunyddiau a ddarperir annog yr ymgysylltu hwn a darparu ar gyfer anghenion amrywiol y dysgwyr. Cofiwch, y nod yw defnyddio'r amser yn y dosbarth ar gyfer cymhwyso cysyniadau ac ymgysylltu'n greadigol â'r pwnc. Mae fideos yn un o lawer o offerynnau a all hwyluso'r broses hon.

Tra bod myfyrwyr yn dysgu gwybodaeth sylfaenol gartref, mae’r amser yn y dosbarth yn sbardun ar gyfer dysgu rhyngweithiol. Isod ceir syniadau i helpu i hyrwyddo cydweithio rhwng myfyrwyr â dysgu gwrthdro:

Gweithgareddau cyn y dosbarth:

Byrddau Trafod Dysgu Canolog Cyn y dosbarth, holwch gwestiynau trafod yn ymwneud â chynnwys y fideo. Gall myfyrwyr ateb yn unigol, yna ymateb i bostiadau ei gilydd, gan feithrin trafodaeth ac eglurhad.

Anodi/trafod ar y cyd: Defnyddiwch offer ar-lein fel dogfennau a rennir, Padlets neu Mentimeter wedi'u paru â Teams. Gall myfyrwyr wylio'r fideo gyda'i gilydd yn rhithiol mewn grwpiau astudio ac ychwanegu nodiadau, cwestiynau neu fewnwelediadau mewn amser real.

Gweithgareddau yn y dosbarth:

Meddwl-Paru-Rhannu: Yn fyr, gofynnwch i'r myfyrwyr fyfyrio ar gysyniad yn unigol ("Meddwl"), yna eu paru i drafod ac ymhelaethu ("Paru"), ac yn olaf rannu eu canfyddiadau gyda'r dosbarth cyfan ("Rhannu").

Gweithgareddau Jig-so: Rhannwch y deunydd a recordiwyd ymlaen llaw yn adrannau a neilltuwch ran wahanol i bob grŵp o fyfyrwyr. Yn y dosbarth, mae’r myfyrwyr yn dod yn arbenigwyr ar eu hadran neilltuedig ac yn ei dysgu i'w cyfoedion, gan hyrwyddo cydweithio a chyfnewid gwybodaeth. Ystyriwch ddarparu arweiniad ychwanegol i helpu myfyrwyr i gynllunio eu cyflwyniad yn y wers.

Datrys Problemau’n mewn Grŵp: Cyflwynwch broblem gymhleth neu astudiaeth achos yn ymwneud â'r cynnwys gwrthdro. Mae'r myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd mewn grwpiau i ddadansoddi'r sefyllfa, cynnig atebion, a chyflwyno eu canfyddiadau, gan feithrin gwaith tîm a meddwl beirniadol.

Offer Technoleg:

Llwyfannau Cydweithio Ar-lein: Defnyddiwch lwyfannau fel Padlet, dogfen a rennir neu fyrddau gwyn a rennir lle gall myfyrwyr weithio ar brosiectau grŵp, aseiniadau, neu fapiau meddwl yn rhithiol, hyd yn oed y tu allan i amser y dosbarth.

Offer Adolygu Cymheiriaid: Integreiddiwch offer ar-lein lle gall myfyrwyr adolygu gwaith ei gilydd yn ddienw, gan gynnig adborth adeiladol a hyrwyddo dysgu cyfoedion. Gellir gwneud hyn yn hawdd trwy adolygiadau cymheiriaid ar aseiniadau Dysgu Canolog neu fyrddau trafod dienw (i’w cyflwyno’n fuan)

Cofiwch:

Diffiniwch y rolau a'r disgwyliadau ar gyfer y gweithgareddau cydweithio'n glir.

Cynigiwch awgrymiadau a chwestiynau arweiniol i gadw ffocws y grwpiau.

Sicrhewch amgylchedd diogel a pharchus i fyfyrwyr rannu syniadau a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Gall rhagflas difyr fod yn hynod o effeithiol i leddfu pryderon am bresenoldeb myfyrwyr mewn dosbarthiadau gwrthdro, yn enwedig os yw myfyrwyr yn teimlo eu bod eisoes wedi deall digon gan y deunyddiau cyn y dosbarth. Mae rhagflasau cryno munud o hyd yn amlygu pynciau allweddol y sesiwn fyw arfaethedig ac yn cysylltu'r cynnwys yn benodol ag asesiadau arfaethedig, sy’n pwysleisio gwerth dod i'r sesiwn.

Er mwyn cymell presenoldeb ymhellach, gall cynnwys cwisiau rhyngweithiol yn y deunyddiau cyn y sesiwn helpu i wirio gwybodaeth ac ysgogi. Er enghraifft, wrth ddefnyddio llwyfannau fideo fel Panopto, mae gwreiddio cwis MCQ syml hanner ffordd yn sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu'n weithredol â'r cynnwys. Rhaid iddynt gwblhau'r cwis i gael parhau i edrych ar y deunydd, sy'n atgyfnerthu eu dealltwriaeth ac yn ysgogi eu chwilfrydedd am y gweithgareddau yn y dosbarth.

Yn yr amgylchedd dysgu digidol, gallwch ddenu myfyrwyr gyda rhagolwg o'r gweithgareddau yn y dosbarth, fel trafod y 'pwyntiau mwyaf dryslyd' - yr agweddau mwyaf cymysglyd ar y pwnc. Mae hyn yn eu paratoi ar gyfer beth i'w ddisgwyl ac yn arwydd bod eu cyfranogiad yn hanfodol ar gyfer egluro'r meysydd cymhleth hyn a chadarnhau eu dealltwriaeth.

Trwy fabwysiadu'r strategaethau hyn, rydych chi'n creu taith ddysgu ddeinamig a rhyngweithiol sy'n ymestyn y tu hwnt i dderbyn cynnwys yn oddefol. Rydych yn annog myfyrwyr i fod yn bresennol a chymryd rhan lawn yn y sesiynau byw er mwyn cael profiad addysgol mwy cynhwysfawr a chyfoethog. Er bod y rhag-ddeunyddiau yn gosod y sail, yr hyn sy'n allweddol yw ei gwneud yn glir bod y gwir ddysgu yn datblygu trwy'r gweithgareddau cydweithredol a difyr yn amgylchedd byw yr ystafell ddosbarth.


Archwilio’n ddyfnach

Freeman, S., et al. (2014). Active learning increases student performance in science, engineering, and mathematics. Proceedings of the National Academy of Sciences of the United States of America, 111(23), 8410–8415. https://doi.org/10.1073/pnas.1319030111

Hamden, N., et al. (2013). A review of flipped learning. Flipped Learning Network. Upper Saddle River, NJ: Pearson Education, Retrieved 17 August 2023, from: https://www.researchgate.net/publication/338804273_Review_of_Flipped_Learning

McLaughlin, J. E., et al. (2014). The flipped classroom: a course redesign to foster learning and engagement in a health
professions school. Academic Medicine, Vol. 89, No. 2 pp. 236-243.