Skip to main content

Gwaith Tîm

Dechrau Arni

Globe

“Mae grwpiau yn aml yn fwy deallus na'r bobl fwyaf craff ynddynt.”

Surowiecki (2004)

Datblygwyd y pecyn cymorth hwn ar y cyd gan dîm rhyngddisgyblaethol o addysgwyr PC, sydd â phrofiad o gefnogi gwaith tîm cynhyrchiol yn eu hymarfer dros gyfnod parhaus gyda deilliannau cadarnhaol i fyfyrwyr. Gan gydnabod y gellir defnyddio gwaith tîm mewn sawl cyd-destun addysgol, mewn gwahanol ffyrdd ac am wahanol resymau, ein nod yw trosglwyddo yn hytrach nag ailadrodd dulliau arfer gorau. Bwriedir i’r cynnwys canlynol fod yn gyfres o ysgogiadau, p’un a ydych yn newydd i addysgeg gwaith tîm neu’n myfyrio ar arfer presennol a’i fireinio. Rydym yn croesawu rhagor o ddatblygiadau arloesol a dealltwriaeth gan gymuned ehangach PC.

A process wheel showing the 5 key areas of devleoping teamwork assessments covered in this page.

1. Gwaith tîm 101

2. Cynllunio’r dasg gwaith tîm

3. Monitro a chefnogaeth

4. Datrys problemau

5. Adborth a chau’r ddolen

 

 

 

 

Globe

Myfyrio

Pa weithgareddau gwaith grŵp ydych chi wedi'u defnyddio gyda myfyrwyr mewn cyd-destunau nad ydynt yn rhai asesu?

Beth yw gwerth y gweithgareddau gwaith grŵp hyn?


Gwaith tîm 101

Prif Bwyntiau

  1. Datblygu sgiliau trosglwyddadwy: asesu a fydd gwaith tîm yn meithrin sgiliau allweddol yn effeithiol, megis cydweithio, cyfathrebu, meddwl yn feirniadol, datrys gwrthdaro, ac ymwybyddiaeth fyfyriol, sydd oll yn werthfawr mewn addysg uwch a thu hwnt.
  2. Gwella profiad y myfyriwr: penderfynu a fydd gwaith tîm yn cyfoethogi’r amgylchedd dysgu trwy hyrwyddo ymgysylltiad rhwng cymheiriaid a’i gilydd, dysgu dyfnach, a datblygiad personol, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a chymorth cilyddol o fewn y gymuned ddysgu.
  3. Rheoli llwyth gwaith: ystyried safbwyntiau staff a myfyrwyr ynghylch llwyth gwaith. Gwerthuso a all gwaith tîm arwain at ddosbarthu’r llwyth gwaith yn gytbwys ymhlith myfyrwyr ac a yw’n gofyn am ymdrech sylweddol gan staff o ran cynllunio a rheoli.
  4. Deinameg a strwythur tîm: sicrhau cyfathrebu clir o ran rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau’r tîm. Cynllunio ar gyfer cyfathrebu rheolaidd mewn tîm i gynnal momentwm a mynd i’r afael â heriau fel pobl sy’n cymryd mantais neu’n gor-gyfrannu.
  5. Ystyriaethau asesu: myfyrio ar sut mae gwaith tîm yn cyd-fynd â’r rhesymeg addysgegol a’r deilliannau dysgu. Ystyried ymgorffori asesu cymheiriaid a fformatau asesu amgen er mwyn sicrhau tegwch a thryloywder.
  6. Addasrwydd cyd-destunol: gwerthuso addasrwydd gwaith tîm yn y cyd-destun addysgol penodol, gan gynnwys parodrwydd a phrofiad y garfan o ran gweithio ar y cyd, a chyd-fynd ag amcanion dysgu’r cwrs.

Gellir diffinio gwaith tîm fel proses sy'n cynnwys dau fyfyriwr neu fwy yn gweithio tuag at nodau cyffredin, yn rhyng-ddibynnol, gydag atebolrwydd unigol (Riebe et al 2016). Mewn gwaith grŵp, mae aelodau'n tueddu i ganolbwyntio ar gryfderau a nodau unigol i gyflawni’r gwaith. Yn ei hanfod, mae gwaith tîm yn annog myfyrwyr i weithio'n gydweithredol ar y dasg yn hytrach na chydweithio.

Gellir defnyddio gwaith tîm mewn amrywiaeth o ffyrdd a sefyllfaoedd, a gymhellir gan ystod o ysgogyddion mewnol ac allanol. Mae addysgeg sy'n ymgorffori gwaith tîm yn cynnwys:

  • Dysgu mewn tîm ar sail profiad, lle mae myfyrwyr yn dysgu drwy ryngweithio rhwng cymheiriaid a'i gilydd, a thrwy weithredu. Mae hyn yn pwysleisio dysgu trwy weithredu a myfyrio.
  • Dysgu drwy gydweithio, sy'n blaenoriaethu ymgysylltu â’i gilydd mewn ymdrech gydlynol i ddatrys problemau gyda'i gilydd.
  • Dysgu'n seiliedig ar broblemau, lle mae myfyrwyr yn dysgu trwy weithredu, yn aml yn gweithio ar broblemau'r byd gwaith.
  • Dysgu'n seiliedig ar brosiectau, lle mae timau'n gweithio ar brosiectau dros gyfnodau estynedig, gan gyfuno sgiliau a disgyblaethau amrywiol.
  • Efelychu ymarfer cydweithio dilys, e.e. dysgu'n seiliedig ar broblemau neu'n seiliedig ar senario sy'n adlewyrchu diwydiant neu rolau ac arferion proffesiynol.
  • Addysgu sgiliau cydweithredu/cydweithio tîm yn eglur, megis 'Addysg Entrepreneuriaeth ar sail Profiad'.

Mae deall y gwahaniaethau rhwng gwaith grŵp a gwaith tîm yn hanfodol i staff a myfyrwyr mewn lleoliadau addysgol; mae'r cyntaf yn golygu bod unigolion yn cwblhau tasgau ar wahân, tra bod yr ail yn galw am ymdrechion cydlynol, rhyngddibynnol. Mae gwahaniaeth clir yn hanfodol er mwyn atal myfyrwyr rhag ymgymryd yn ddiofyn â rolau ynysig sy'n adlewyrchu gwaith grŵp yn hytrach na gwir waith tîm. Rhaid i addysgwyr bwysleisio cyfrifoldeb cyfunol mewn asesiadau er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn ymgysylltu â llwyddiant integredig y tîm ac yn ei werthfawrogi'n fwy na chyflawniadau unigol.

Mae'r adran nesaf yn trafod y sail resymegol dros ddefnyddio gwaith tîm mewn cyd-destunau academaidd, gan amlygu ei fanteision penodol dros ddulliau gwaith grŵp mwy segmentedig.

Datblygu sgiliau trosglwyddadwy

“(Mae gwaith tîm) wedi fy helpu i ehangu fy safbwynt ac wedi fy nysgu i weithio gyda'n gilydd, gwneud mwy mewn grŵp, a dysgu gan y rhai o'm cwmpas. Ond hyd yn oed y tu hwnt i ymarfer, pan fydd rhywun yn gadael y brifysgol ac yn camu i'r byd go iawn, mae'n bosibl mai gweithio gydag eraill yw'r sgil bwysicaf yn eich meddiant. Mae'r byd yn llawn 'unigolion eraill' y bydd angen i chi allu meithrin perthynas gyda nhw, dysgu ganddynt, a thrin eich ymatebion iddynt.” (Myfyriwr PC, 2021)

Nid dewis addysgegol yn unig yw gwaith tîm; mae'n offeryn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol sydd â gwerth mawr mewn addysg uwch a thu hwnt.

  • Y gallu i weithio ar y cyd ac yn gydweithredol mewn timau — wyneb yn wyneb ac o bell
  • Y gallu i wrando ar eraill a rhoi adborth adeiladol
  • Meddwl yn greadigol er mwyn adeiladu ar syniadau sydd eisoes yn bodoli
  • Datrys gwrthdaro i gyfryngu anghytundebau
  • Sgiliau rheoli amser a phrosesau
  • Ymwybyddiaeth fyfyriol

Drwy gymryd rhan mewn tasgau gwaith tîm, gall myfyrwyr wella eu sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys meddwl yn feirniadol, cyfathrebu, arweinyddiaeth a datrys problemau wrth annog ymdeimlad o gyfrifoldeb ac atebolrwydd.

Awgrym Cyflogadwyedd:

Adlewyrchir y priodoleddau a ddatblygwyd drwy waith grŵp yn rhinweddau graddedigion Prifysgol Caerdydd.

Gwella Profiad y Myfyriwr

Mae amgylchedd tasg tîm yn:

yn hyrwyddo ymgysylltu rhwng cymheiriaid a dysgu gan gymheiriaid, ac ers tro mae wedi'i gydnabod fel offeryn llawer mwy pwerus ar gyfer dysgu na chyfarwyddyd academaidd (Mazur 1996; Vygotsky 1978) gan arwain at lefel ddyfnach o ddysgu a datblygu personol yn seiliedig ar gyfarfyddiadau a phrofiadau rhwng cymheiriaid a'i gilydd.

 

yn cryfhau'r gymuned ddysgu, gan ennyn ymdeimlad o berthyn a chynnal cefnogaeth gilyddol barhaus mewn dysgu ac addysgu grwpiau bach a gall strwythuro a chefnogi integreiddio cymdeithasol mewn carfanau newydd.

 

yn gallu gwella deilliannau fel cynhyrchu arteffactau gwaith cwrs o safon. “... gallu taflu syniadau gyda'n gilydd, gan adael i syniadau gael eu gwthio a'u haddasu'n barhaus i greu'r canlyniad gorau. Roedd rhannu syniadau yn caniatáu i'r prosiect fentro i le na fyddai o bosibl wedi myndwrth weithio ar eich pen eich hun.” (Myfyriwr PC, 2021)

“Roedd (... gwaith tîm) yn fuddiol i ddod i adnabod ein cymheiriaid, a chyfuno ein sgiliau'n fanteisiol i gyrraedd canlyniad mwy effeithlon. Roedd gennym ni ddulliau tebyg, ond dysgais ffyrdd newydd o ddatrys problemau. ” (Myfyriwr CU, 2022)

Lleihau'r Llwyth Gwaith.

Safbwynt y staff:

Gall gweithio mewn tîm ynddo'i hun fod yn ddull o reoli carfannau mawr a all arwain at ostyngiad yn y llwyth asesu cyffredinol. Er y gellir defnyddio gwaith tîm yn gynhyrchiol fel offeryn i sgaffaldio dysgu dan arweiniad cymheiriaid (annibynnol), a thrwy hynny leihau oriau cyswllt addysgu, gall fod llwyth gwaith ychwanegol sylweddol wrth gynllunio a rheoli tasgau gwaith tîm effeithiol. Mae gwaith tîm yn grymuso myfyrwyr i fod yn atebol a dod o hyd i ffyrdd o reoli tasgau ar y cyd, a gall hyn fod yn anrhagweladwy ac yn anodd ei reoli a gall arwain at lwyth gwaith ychwanegol i staff/addysgwyr wrth gyfryngu rhwng unigolion neu fynd ar drywydd unigolion. Mae'r pecyn cymorth hwn yn awgrymu ffyrdd o strwythuro senarios gwaith tîm llyfn(ach) o'r cychwyn cyntaf.

Safbwynt y Myfyriwr:


Bydd rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i fyfyrwyr feithrin amgylchedd gwaith tîm cydweithredol o’r dechrau un, ynghyd â dyrannu tasgau priodol, a chyfrifoldebau cyffredin, yn gwella cymhelliant ac atebolrwydd. Gallai hyn olygu dangos i fyfyrwyr sut i weithio fel tîm, sut i strwythuro a rheoli timau, a beth i'w wneud pan fydd pethau'n mynd o'i le.

Gall timau myfyrwyr gymryd perchnogaeth drwy feddwl sut i reoli'r dasg; dadansoddi'r gweithgaredd, gosod terfynau amser interim, nodi sgiliau unigol, canfod anghenion, argaeledd a chydbwyso'r llwyth gwaith, a chreu gofod sy'n gefnogol gyda chyfathrebu agored.

Mae ystyried, yn gynnar, sut y byddwch chi yn cyfathrebu'n rheolaidd o fewn y tîm(au) yn hollbwysig i gynnal momentwm a mynd i'r afael ag unrhyw heriau posibl yn gynnar. Gall pobl sy’n cymryd mantais neu rai sy’n gor-gyfrannu amharu ar ddeinameg y tîm. Gall fod yn ddefnyddiol cynnwys myfyrwyr mewn trafodaethau ar sut i reoli sefyllfaoedd o'r fath o'r dechrau. Bydd gwneud hynny yn ddiweddarach yn fwy anodd.

Un dull a all helpu i liniaru problemau o'r fath yw defnyddio asesu cymheiriaid ar gyfer tasgau tîm. Beth bynnag yw canlyniad y dasg, mae asesu cymheiriaid yn rhoi llais i bob myfyriwr yn y tîm, a gall gael effaith ar yr asesiad terfynol. Opsiwn arall a all redeg ar yr un pryd yw cynnig asesiad amgen o'r dechrau. Gellir defnyddio hyn ar gyfer datrys unrhyw broblemau yn y tîm yn brydlon a/neu gellir ei ystyried yn aml fel opsiwn llai deniadol.

Nid yw'n bosibl rhagweld yr holl ddeilliannau. Dylid sicrhau bod tasgau tîm yn cael eu cyfleu'n glir a bod timau yn gwybod beth sy'n ddisgwyliedig ganddynt - fel tîm ac fel unigolion. Paratowch ar gyfer dadansoddi tasgau'r tîm yn gynnar, gan gynnal cyfathrebu agored gyda'r timau, ond byddwch yn glir ar eu rolau a'u cyfrifoldebau.

“Mae myfyrwyr yn aml yn ystyried bod gwaith tîm yn annheg neu'n anoddach nag aseiniadau unigol, ac yn bendant mae hynny'n gallu bod yn wir. Mae bron yn sicr yn haws gweithio'n unigol i gynhyrchu darn o waith, ond mae myfyrwyr yn colli allan ar y sgiliau beirniadol trosglwyddadwy y mae cyflogwyr yn eu disgwyl gan raddedigion modern.” (Ffransis, 2022).

Ar y llaw arall, yn aml gall ansawdd y gwaith a gynhyrchir gan dîm fod yn well (o lawer) na gwaith unigolion. Mae marciau ar gyfer aseiniadau tîm a'r deilliannau dysgu yn aml yn uwch nag ar gyfer tasgau tebyg a gyflawnir gan unigolyn (Yorke and Knight, 2006).

Right quote

Dealltwriaeth: Aled Davies, ENGIN

Mae gwaith tîm yn sicr yn caniatáu i wahanol safbwyntiau a gwerthoedd myfyrwyr gael eu hymgorffori yn eu cyflwyniad. Felly yn nodweddiadol mae'n amgylchedd dysgu llawer mwy aeddfed sy'n cynnwys dadlau, trafod ac, yn bwysig, gwerthuso. Pan fydd gwaith tîm yn gweithio'n dda, mae marciau'n gwella am fod tystiolaeth o ddeilliannau dysgu lefel uwch.

Os oes gennych ddiddordeb mewn edrych ar hyn ymhellach: https://www.advance-he.ac.uk/news-and-views/i-love-group-worksaid-no-student-ever.

Mae rhoi asesiadau tîm ar waith yn galw am ystyriaeth a chynllunio er mwyn gwella gwybodaeth bynciol myfyrwyr, datblygu sgiliau trosglwyddadwy hanfodol, a chyd-fynd ag amcanion addysgol ehangach. Mae llwyddiant y tasgau hyn yn dibynnu ar ba mor dda y cânt eu llunio, gan fynnu sylw i wahanol agweddau megis cynllunio tasgau, deinameg grŵp y tîm, a meini prawf asesu. Yn yr adran hon, byddwn yn edrych ar yr ystyriaethau allweddol y dylai academyddion eu cadw mewn cof i sicrhau bod tasgau tîm yn effeithiol, yn gyfiawn, ac yn arwain at ddysgu.

Er mwyn i waith tîm fod yn effeithiol, dylech ystyried:

Cymhellion a sail resymegol dros gynnal gwaith tîm

  • Mae gennyf garfan fawr ac ni allaf farcio'r nifer hwnnw o asesiadau
  • Nid wyf wedi defnyddio gwaith tîm yn fy modiwl o'r blaen ac rwyf am archwilio hyn er mwyn gwella profiad y myfyrwyr o ran fy addysgu a'm dysgu
  • Rwyf i am gynnwys mwy o briodoleddau graddedigion yn fy addysgu a chredaf y bydd gwaith tîm yn fy helpu i wneud hyn
  • Rwyf i am ymgorffori mwy o waith ymarferol/asesu dilys a bydd angen i fyfyrwyr weithio mewn timau i gwblhau'r ymarfer
  • Rwyf i am gryfhau'r gymuned ddysgu ac integreiddio cymdeithasol o fewn carfan newydd neu garfan bresennol a byddai gwaith tîm yn cynnig strwythur i gyflawni hyn.

Ydy pob cyd-destun addysgol yn addas ar gyfer gwaith tîm?

  • Beth yw'r sail resymegol addysgegol - e.e. gwella dysgu, profiad a datblygiad y myfyriwr?
  • Sut mae/Ydy hyn yn ymwneud â deilliannau dysgu presennol?
  • Pa mor brofiadol, gwybodus ac abl yw'r garfan i weithio gyda'i gilydd?
  • Ydych chi wedi defnyddio gwaith tîm o'r blaen? Os nad ydych chi, rydych chi yn y lle iawn!
  • (cysylltiedig) faint o sgaffaldio sydd ei angen i gefnogi gwaith tîm effeithiol?
  • Pam gwaith tîm?
  • Beth yw nod y dasg gwaith tîm?
  • Beth sydd angen ei drefnu er mwyn i waith tîm lwyddo?
  • Ydy myfyrwyr yn gwybod SUT i weithio mewn timau?
  • Beth yw lefel y garfan myfyrwyr?
  • A fydd myfyrwyr yn gweithio fel timau yn/y tu allan i'r dosbarth, neu'r ddau?
  • A oes ots os yw timau mewn gwahanol seminarau?
  • Beth ydych chi'n gobeithio ei gyflawni drwy waith tîm (sy'n wahanol i ddulliau eraill o ddysgu)?

Globe

Gweithgaredd

Ystyriwch ddeilliannau dysgu'r modiwl (MLOs) ar gyfer modiwl rydych wedi gweithio arno.  Ystyriwch a oes lle ar gyfer gwaith grŵp wrth asesu sy'n cyd-fynd â'r MLOs.



Cynllunio’r dasg gwaith tîm

 

Prif Bwyntiau

  1. Strategaethau ffurfio tîm: aseswch y gwahanol ddulliau ar gyfer ffurfio tîm, megis timau a neilltuwyd gan hyfforddwyr neu hunan-ddewis myfyrwyr, gan ystyried ffactorau fel cydbwysedd, amrywiaeth, a rolau penodol o fewn y tîm.
  2. Cynllun a ffocws y tasgau: diffiniwch ffocws tasg y tîm, gan gynnwys hyd y prosiect, cyflawniadau disgwyliedig, adnoddau angenrheidiol, a oes credydau’n gysylltiedig â’r dasg neu a yw’n allgyrsiol. Sicrhewch fod y dasg yn cyd-fynd ag amcanion dysgu ac yn gosod her glir a dichonadwy i fyfyrwyr.
  3. Rheoli maint y grŵp: penderfynwch ar y maint gorau posibl i’r grŵp yn seiliedig ar faint y garfan a’r gallu i’w rheoli, gan ystyried ffactorau fel sut mae’r garfan yn rhannu’n dimau a nifer y timau y gallwch eu goruchwylio’n effeithiol.
  4. Fframwaith asesu: sefydlwch strategaeth asesu glir a theg, gan benderfynu a ddylid asesu’r cynnyrch terfynol, y broses gwaith tîm, neu gyfuniad o’r ddau. Ystyriwch gynnwys asesu cymheiriaid, cyfraniadau unigol, a sut y caiff marciau eu dyrannu.
  5. Monitro a chefnogi deinameg y tîm: cynlluniwch ar gyfer strategaethau i fonitro a chefnogi deinameg y tîm, yn enwedig mewn tasgau anghydamserol. Gallai hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i dimau gadw cofnodion cyfarfodydd neu gael pwyntiau asesu ffurfiannol i roi adborth ar berfformiad y tîm.
  6. Asesu cymheiriaid: ystyriwch ymgorffori asesu cymheiriaid yn rhan o’r broses werthuso, gan benderfynu ar ei bwysau yn yr asesiad cyffredinol a sut y caiff ei weithredu er mwyn sicrhau tegwch a chynnwys myfyrwyr yn y broses asesu.

Os nad ydych wedi ystyried pam eich bod yn defnyddio gwaith tîm, ystyriwch ddarllen yr adran “Pryd a pham y dylid defnyddio gwaith tîm?

Wrth gynllunio tasg tîm gall y rhestr wirio ganlynol ysgogi rhywfaint o ystyriaeth:

  • Beth yw'r dasg tîm?
  • Pam ydym ni'n ei chyflawni?
  • Ble fydd y dasg tîm yn digwydd?
  • Erbyn pryd mae angen cwblhau'r gwaith?
  • Sut caiff gwaith tîm ei reoli a'i asesu?
  • Hyd y prosiect/profiad a'r disgwyliad/gallu i ymgysylltu.
  • Ffocws briff a chyflawniadau'r dasg*
  • Ble fydd hyn yn digwydd?
  • Pa adnoddau/cefnogaeth/cyfleusterau sydd eu hangen - Ydy hyn yn ymarferol?
  • Ydy'r dasg yn allgyrsiol neu â chredydau'n gysylltiedig â hi - os felly, pa %?
  • Os caiff ei asesu, a fydd yr allbwn yn cael ei gyd-gynhyrchu neu e.e. yn fyfyrdod unigol ar waith tîm?

Asesu Gwaith Tîm

Os ydych chi’n bwriadu asesu eich myfyrwyr ac yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gyflwyno tystiolaeth i'w marcio'n electronig, a chynnwys asesu gan gymheiriaid drwy Buddycheck, cadwch at y canllawiau canlynol.

Os nad oes angen yr adroddiad ar debygrwydd a gynigir yn TurnItIn arnoch, argymhellir yn gryf eich bod yn creu eich aseiniad gwaith tîm gan ddefnyddio Aseiniadau Blackboard Ultra ac NID TurnItIn.

Bydd defnyddio Aseiniadau Ultra yn caniatáu i un myfyriwr uwchlwytho'r gwaith tîm ar ran y grŵp, (yn yr un modd â TurnItIn). Fodd bynnag, pan gaiff y gwaith hwnnw ei farcio, bydd y radd yn cael ei rhannu'n awtomatig gyda holl aelodau’r grŵp. Gyda TurnItIn, nid yw hyn yn digwydd ac mae angen mewnbynnu â llaw, fydd yn broses ailadroddus, yn cymryd llawer o amser ac yn peri risg uchel o wneud camgymeriad wrth drin y data.

Mae defnyddio porth aseiniadau Blackboard Ultra hefyd yn symleiddio'r broses o ychwanegu graddau myfyrwyr i'r Llyfr Graddau. Er mwyn i Buddycheck allu gweithio’n iawn a rhoi sgorau unigol yn seiliedig ar werthusiadau gan gymheiriaid i chi, rhaid i bob myfyriwr gael ‘gradd grŵp’ wrth ymyl ei enw yn y Llyfr Graddau.

Right quote

Dealltwriaeth: Caroline Almond, ARCHI

Mewn Pensaernïaeth, mae'n gyffredin i fyfyrwyr gydweithio ar broblemau dylunio creadigol, sy'n adlewyrchu'r ffordd y mae timau dylunio mewnol yn gweithio mewn practis pensaernïol.  Fodd bynnag, rwyf wedi canfod bod gosod tasgau'n seiliedig ar ymchwil gyda chyflawniadau wedi'u diffinio'n glir yn arwain at lai o densiynau yn y tîm ac mae myfyrwyr yn cyflwyno cyfraniadau mwy teg, cadarnhaol a chynhyrchiol yn gyffredinol. 

Awgrym Cynwysoldeb

Wrth benderfynu ar feintiau grwpiau a dulliau o ddyrannu myfyrwyr i'r grwpiau hyn bydd sicrhau bod amrywiaeth y myfyrwyr yn cael ei barchu yn golygu bod pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan a chyflawni eu potensial.

Nid mater o ddyrannu myfyrwyr i dimau yn unig yw hyn, ac mae gofyn iddynt weithio ar y cyd heb arweiniad yn gallu creu tensiynau a phryderon o’r dechrau. Efallai mai dyma'r profiad tîm cyntaf i rai myfyrwyr, efallai iddynt gael profiad gwael blaenorol, gallai fod pryderon ynghylch aelodau'r grŵp, neu anawsterau wrth weithio gydag eraill. Mae llawer i'w ystyried ond yn gyntaf mae angen eu gosod mewn grwpiau. Gall fod yn ddefnyddiol meddwl am rai o'r heriau wrth i chi edrych ar y rhestr o opsiynau isod (mae mwy wrth gwrs):

  • Chi sy'n dewis (grwpiau a ddewiswyd ymlaen llaw): Caiff myfyrwyr eu gosod mewn grwpiau gan arweinydd y cwrs. Mae ffyrdd amrywiol o wneud hyn: dewis ar hap (dulliau amrywiol o wneud hyn), yn ôl diddordebau (datganedig), neu nodweddion y tybir eu bod yn berthnasol i greu cydbwysedd ac amrywiaeth.
  • Nhw sy'n dewis: Myfyrwyr yn hunanddewis. Gellir gwneud hyn yn ôl pwy maent yn dymuno gweithio gyda nhw neu faes diddordeb efallai.
  • Dyrannu timau yn ôl rolau. Er enghraifft gallai gwaith tîm gynnwys prosiect sydd â sawl rôl allweddol. Gall myfyrwyr eu cynnig eu hunain i ymgymryd â rôl benodol. Gan adeiladu ar hyn, bydd rhai prosiectau'n cylchdroi rolau, fel bod pob person yn chwarae rhan mewn unrhyw rôl benodol.
  • Efallai y bydd opsiynau eraill ar gael! Rydym yn croesawu eich enghreifftiau o ymarfer, a fyddech cystal â rhannu drwy'r Ffurflen Microsoft hon.

Does dim ffordd 'gywir' o wneud hyn - gall hefyd fod yn ddefnyddiol rhoi cynnig a myfyrio ar y gwahanol ddulliau i weld sut mae pob un yn gweithio'n ymarferol. I gael cymorth pellach ar sut i greu grwpiau o fewn Blackboard Ultra, ewch i'r dudalen hon: Cyfathrebu - Hanfodion Ultra (cardiff.ac.uk)

Right quote

Dealltwriaeth: Caroline Almond, ARCHI

Ym maes Pensaernïaeth, mae'n ofynnol i fyfyrwyr ddewis rolau 'Tîm Dylunio' ymlaen llaw a defnyddir hyn i ddyrannu'r timau. Mae gan bob rôl 'arbenigedd' a chyfrifoldeb wedi'u diffinio o fewn proses ac allbwn y prosiect, sy'n galluogi myfyrwyr i ganolbwyntio'n fanwl ar un agwedd, a thrwy hynny rannu'r llwyth gwaith yn effeithiol ac adlewyrchu ymarfer cydweithredol dilys.  Mae mabwysiadu rolau yn herio unigolion i gynrychioli eu harbenigedd mewn trafodaethau prosiect yn wrthrychol, gan arwain at benderfyniadau tîm cyfannol sydd wedi'u hystyried yn drylwyr, a datblygu gwerthfawrogiad o flaenoriaethau cystadleuol mewn cyd-destunau diwydiant.

Right quote

Dealltwriaeth: Naomi Dunstan, JOMEC

Yn JOMEC mae myfyrwyr yn cydweithio'n rheolaidd ar brosiectau cyfryngau sydd wedi'u cynllunio i efelychu ymarfer diwydiant. Yn aml mae'r rolau hyn yn cylchdroi i roi cyfle i bawb brofi pob rôl. Pan nad yw hyn yn ymarferol, oherwydd niferoedd, rwyf i wedi canfod y gall dyrannu timau i rolau fod yn heriol, oherwydd poblogrwydd rhai rolau dros eraill. Pan all hyn ddigwydd, mae gofyn i fyfyrwyr nodi dewis cyntaf, ail a thrydydd dewis yn ddatrysiad da ac yn un mae'r myfyrwyr yn ei dderbyn yn gadarnhaol.

Gall gweithio mewn tîm ynddo'i hun fod yn ddull o reoli carfan fawr ond wrth greu neu ddyrannu timau bydd angen i chi ystyried niferoedd y grwpiau. Efallai y bydd penderfynu sut i wneud hyn yn dibynnu ar faint eich carfan a'r hyn sy'n ymarferol.

  • Pa mor fawr yw'r garfan?
  • Ydy hi'n hawdd rhannu'n grwpiau o 4 neu 5?
  • Faint o grwpiau fydd hyn yn golygu y bydd angen i chi eu rheoli?
  • Ydy hyn yn ymarferol?
  • Oes gennych chi unrhyw gefnogaeth?

Maint y timau

  • Gweithio mewn parau
  • Y maint gorau ar gyfer grwpiau
  • Pa mor fawr sy'n dderbyniol?
  • Sut i reoli grwpiau mawr

Mae llawer o staff academaidd yn osgoi defnyddio gwaith tîm fel offeryn asesu oherwydd yr anhawster canfyddedig o greu marc teg ac unigol. Fodd bynnag, os caiff ei sefydlu'n gywir, mae manteision dysgu yn llawer mwy na'r heriau hyn. Am y rhesymau hyn, mae'r gallu i greu marc teg ac unigol sy'n cydnabod cyfraniadau unigol yn allweddol i ategu asesiad da o waith tîm.

Awgrym cynwysoldeb:

Mae'n bwysig cydnabod y gall myfyrwyr gyfrannu mewn gwahanol ffyrdd mewn tasg gwaith grŵp, gan ddod â sgiliau a chefndiroedd gwahanol, a fydd yn effeithio ar eu cyfraniad.  Efallai y bydd myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf yn teimlo eu bod dan anfantais

Marcio

  • Beth fydd yn cael ei asesu?
  • Pryd fydd yn cael ei werthuso? Ydy hwn yn gynnyrch/prosiect terfynol neu a fydd yn cael ei asesu dros gyfnod o amser?
  • Ydy'r myfyrwyr yn mynd i gael eu hasesu ar y cynnyrch terfynol, y broses gwaith tîm, neu gyfuniad o'r ddau (Dijkstra et al., 2016; Kennedy 2005)?
  • Sut fydd marciau’n cael eu dyrannu? A fydd yn farc tîm a rennir, cyfartaledd tîm neu farciau ar gyfer rhannau unigol gwahanol?
  • Ydy eich dull yn gyfiawn ac yn deg?

Asesu cymheiriaid yw'r broses lle mae myfyrwyr yn gwerthuso cyfraniadau a pherfformiad eu cymheiriaid mewn tasg grŵp neu dîm. Mae'r dull hwn yn annog myfyrwyr i ymgysylltu'n feirniadol â gwaith eu cydweithwyr, gan feithrin dealltwriaeth ddyfnach o'r pwnc a datblygu sgiliau gwerthuso ac adborth.

  • A fyddwch chi'n defnyddio asesu cymheiriaid fel rhan o'r broses asesu?
  • Pa ganran fyddwch chi'n ei defnyddio ar gyfer asesu cymheiriaid?
  • A fyddwch chi'n cynnwys myfyrwyr yn y broses o wneud penderfyniadau?

Mae ystyried sut y caiff y dasg gwaith tîm ei hasesu yn elfen allweddol o gynllunio'r dasg. Un o'r heriau cyntaf yw penderfynu a yw'r myfyrwyr yn mynd i gael eu hasesu ar y cynnyrch terfynol, y broses gwaith tîm, neu gyfuniad o'r ddau (Dijkstra et al. 2016; Kennedy, 2005). Rhaid i chi hefyd ystyried sut y bydd marciau'n cael eu dyrannu – ai marc tîm a rennir, cyfartaledd tîm neu farciau ar gyfer rhannau unigol?

Y cwestiynau allweddol y bydd myfyrwyr yn canolbwyntio arnynt yw beth fydd yn cael ei asesu, pryd a sut y caiff ei werthuso, a phwy fydd yn ei asesu. Gall bod yn glir am y cwestiynau hyn fynd yn bell i leddfu nifer o beryglon posibl gwaith tîm a sicrhau ein myfyrwyr y byddant yn derbyn marc dilys a theg am eu cyfranogiad mewn tasgau gwaith tîm.

Dylech hefyd ystyried pwy fydd yn cymhwyso'r meini prawf asesu – gallai fod yn fyfyrwyr, tiwtoriaid, neu'r ddau. Gellir ystyried cyfraniadau unigol trwy farc wedi'i bwysoli trwy werthusiad gan gymheiriaid, neu drwy i bob aelod gyfrannu adran unigol at y dasg gwaith tîm. Ond sut y gallwch chi fesur cyfraniadau unigol i'r cynnyrch terfynol?

Yn achos tasgau cydamserol, mae hyn efallai'n llai heriol oherwydd gall tiwtoriaid arsylwi ar ryngweithio a deinameg tîm a monitro cyfraniadau myfyrwyr. Mae'r her yn cynyddu pan fydd gwaith yn cael ei wneud yn anghydamserol, a gall hyn fod yn anodd ei fonitro, ac os felly gall asesu cyfraniad gan gymheiriaid fod yn strategaeth fwy priodol. Fodd bynnag, ceir ffyrdd amgen ar gyfer cofnodi cyfraniadau anghydamserol. Gellir gofyn i dimau gadw cofnodion o gyfarfodydd a'u cyflwyno fel rhan o'r asesiad yn rheolaidd. Mae hyn yn arbennig o effeithiol wrth fonitro cyfranogiad myfyrwyr gyda'r dasg a gall fod yn fodd i geisio cynorthwyo neu ail-ymgysylltu â myfyrwyr nad ydynt yn cyfrannu. Gall hefyd fod yn ddefnyddiol cael dau bwynt asesu, un ffurfiannol hanner ffordd drwy'r dasg ac un crynodol ar ddiwedd y dasg, i roi adborth i aelodau'r tîm ar sut maent yn cael eu gweld o fewn y tîm. Fodd bynnag, y myfyrwyr sy'n gweithio mewn tîm yn aml sydd yn y sefyllfa orau i asesu'r cyfraniadau o fewn eu tîm, a gellir harneisio hyn trwy werthuso eu cyfraniad gan gymheiriaid (Hanrahan ac Isaacs, 2001).

Gyda thasgau gwaith tîm anghydamserol, gall y tiwtor gyfyngu eu marcio i ansawdd y cynnyrch yn hytrach na'r broses a'r cyfraniadau. Mae'r opsiwn hwn, sydd fwy na thebyg yn adlewyrchu'r byd go iawn yn fwyaf agos, yn rhoi un i holl aelodau'r tîm; fodd bynnag, gall greu problemau o ran tegwch o fewn y tîm, lle gall myfyrwyr fod yn anfodlon rhannu marciau gyda myfyrwyr y maent yn credu eu bod wedi cyfrannu llai o amser ar dasg. Fel arall, gellir dyrannu marciau unigol i bob aelod, ond byddai hynny'n gofyn am nodi cyfraniad pob aelod yn glir.

Gall cynnwys elfen o asesu gan gymheiriaid o fewn tasg tîm helpu myfyrwyr i gymryd rhan mewn tasgau tîm a chyfrannu at fwy o ymdeimlad o degwch o ran marcio. Mae BuddyCheck wedi cael ei dreialu ym Mhrifysgol Caerdydd i gefnogi asesu tasgau tîm gan gymheiriaid, lle cafodd myfyrwyr farciau unigol yn seiliedig ar farc tîm cychwynnol ynghyd â gwerthusiadau cymheiriaid. Cytunodd 72% o fyfyrwyr fod cael marc unigol yn decach na marc tîm yn unig.

Yn dilyn y treial llwyddiannus, mae'r system hon bellach ar gael i bawb ac yn cael ei chefnogi'n llawn. Mae rhagor o wybodaeth am yr offeryn hwn ar gael drwy'r fewnrwyd.

I ddarparu marc unigol tecach i fyfyrwyr, mae BuddyCheck yn cymryd marc cychwynnol y tîm a nodir i’r myfyriwr ac yn cyfuno hwn â sgoriau hunanwerthuso a gan gymheiriaid mewn sawl maes allweddol yn seiliedig ar fframwaith CATME, a/neu gwestiynau pwrpasol a gynlluniwyd gan y tiwtor. Unwaith y bydd y gwerthusiadau gan gymheiriaid wedi'u cwblhau, mae BuddyCheck yn cynnig ffactor addasu i roi eu sgoriau a'u hadborth personol eu hunain i fyfyrwyr unigol, sy'n cysylltu'n uniongyrchol â GradeBook o fewn Dysgu Canolog.

Ar ben hynny, mae'r offeryn yn cynnig ystod o swyddogaethau y gellir eu defnyddio i helpu i sicrhau bod marciau'n cael eu hystyried yn deg. Er enghraifft, mae'n caniatáu i diwtoriaid liniaru yn erbyn rhagfarn bosibl, naill ai o blaid neu yn erbyn aelodau eraill o'r grŵp, gan fod darlithwyr yn gallu gweld canlyniadau, sylwadau a labeli adborth yn gysylltiedig â phob myfyriwr er mwyn gallu cymedroli'r gwerthusiad gan gymheiriaid. Yn yr un modd, mae'n cynnig y gallu i diwtoriaid ganfod gwrthdaro yn y tîm trwy ei nodwedd ‘Labeli Adborth’, sy'n caniatáu i diwtoriaid nodi gwrthdaro yn well o fewn deinameg y tîm, gan dynnu sylw at unrhyw sgiwiau yn y canlyniadau gwerthuso gan gymheiriaid.



Monitro a chefnogaeth

 

Prif Bwyntiau

  1. Monitro ymgysylltu a chyfraniadau: sefydlwch ddulliau i olrhain ymgysylltiad a chyfraniad unigolion o fewn y tîm, gan ystyried rôl y metrigau hyn wrth asesu.
  2. Cymorth deinameg tîm: cynlluniwch ar gyfer cefnogi timau lle nad yw myfyrwyr yn ymgysylltu a phenderfynwch ar y goblygiadau ar gyfer diffyg ymgysylltu. Cynhwyswch fesurau wrth gefn ar gyfer amgylchiadau esgusodol sy’n effeithio ar aelodau’r tîm.
  3. Integreiddio cynllunio tasgau a modiwlau: sicrhewch fod tasg y grŵp yn cyd-fynd â deilliannau dysgu modiwlau a phriodoleddau graddedigion. Gwiriwch degwch a chyfiawnder y dasg o’i chymharu â thasgau unigol.
  4. Datblygu sgiliau gwaith tîm: paratowch y myfyrwyr ar gyfer gwaith tîm drwy weithdai rhagarweiniol, trafodaethau am ddeinameg tîm, ac arweiniad ar ymdrin â heriau mewn gwaith tîm.
  5. Adborth ac anogaeth i fyfyrio: Cyflwynwch weithgareddau myfyrio rheolaidd a threfniadau adborth gan gymheiriaid i hyrwyddo gwelliant parhaus ac atebolrwydd o fewn timau.
  6. Darparu adnoddau a hygyrchedd: sicrhewch fod pob myfyriwr, waeth beth fo’u cefndir neu sefyllfa, yn gallu cyrchu’r dasg gwaith tîm ac elwa ohoni, gan ddarparu hyfforddiant ac adnoddau angenrheidiol.

Yr ystyriaeth gyntaf yw a yw hyn am fod yn rhan o'r elfen o'r dasg a gaiff ei hasesu. Os felly,

  • Sut fyddwch chi'n gwybod os nad yw myfyrwyr yn ymgysylltu? Beth yw eich rôl/gallu i reoli hyn?
  • Sut fyddwch chi'n cefnogi timau lle nad yw myfyriwr/myfyrwyr yn ymgysylltu? Beth yw canlyniad peidio ag ymgysylltu?
  • Beth os oes gan unigolion amgylchiadau esgusodol? Sut fydd hyn yn effeithio ar allbynnau crynodol?
  • Beth os na all myfyrwyr ymgysylltu? Oes dewis arall ar gael?

Ydych chi'n barod i fod yn hyblyg a gwneud addasiadau yn seiliedig ar y garfan benodol, yr adborth parhaus a'r heriau y mae timau yn eu hwynebu?

  • Ydych chi'n gallu mapio'r deilliannau dysgu i'ch tasg?
  • Ydych chi wedi creu meini prawf asesu ar gyfer y dasg tîm?
  • Ydych chi'n gallu defnyddio meini prawf marcio generig, neu oes angen i chi greu rhai penodol i'r dasg?
  • Sut mae'r dasg yn mapio i'r priodoleddau graddedigion?

Ydy'r deilliannau dysgu a meini prawf asesu yn cysylltu â chynnyrch a/neu broses y dasg gwaith tîm ac ydy'r rhain yn cael eu cyfleu'n glir? Wrth gynllunio gwaith tîm, ystyriwch:

  • Ydy'r dasg yn deg ac yn gydradd o'i chymharu â thasgau y gellid gofyn i fyfyrwyr eu cwblhau yn realistig fel unigolion?
  • A eillir cydlynu Deilliannau Dysgu'r Modiwl* yn gydlynol /adeiladol â thasg gwaith tîm, yn enwedig o ran asesu?
  • Beth sydd i'w asesu fel allbynnau gwaith tîm; arteffact neu fyfyrdod cydweithredol neu unigol, neu'r prosesau, sgiliau, a'r cyfraniad at waith tîm ei hun?
  • A fydd gwaith tîm yn gwella'r dasg neu'r deilliant dysgu penodol?
  • Oes gan y garfan brofiad/gwybodaeth/sgiliau digonol i gydweithio'n effeithiol ar dasg y tîm?
  • Ydy'r dasg tîm yn rhoi cyfle i bob myfyriwr gyflawni'r deilliannau dysgu penodol, waeth beth fo'u sefyllfa neu gefndir?
  • A fydd y senario gwaith tîm yn cynnig profiad dilys o gydweithio i gynorthwyo myfyrwyr i sicrhau sgiliau trosglwyddadwy hanfodol e.e. cynllunio, trafod a chyfathrebu?

[*SYLWER: Os yw datblygu sgiliau gwaith tîm yn ddeilliant dysgu yna dylid darparu hyfforddiant a chyfarwyddyd perthnasol mewn gwaith tîm.]

Trwy ystyried y ffactorau hyn cyn cyflwyno'r dasg a bod yn ymatebol tra bo'r dasg ar waith, gellir pontio'n effeithiol neu gyflwyno asesiadau tîm, gan sicrhau eu heffeithiolrwydd, a chreu amgylchedd dysgu ffafriol i'r holl fyfyrwyr.

Mae sgaffaldio'r dasg tîm yn hanfodol, nid yw'n ddigon i neilltuo myfyrwyr i dimau yn unig a disgwyl iddynt ddeall sut i weithio'n effeithiol mewn amgylchedd tîm oherwydd efallai nad oes ganddynt y sgiliau i weithio'n effeithiol mewn tîm cyn dechrau'r dasg (Shimazoe and Aldrich 2010).

Mae dysgu effeithiol yn seiliedig ar dîm yn golygu bod angen addysgu myfyrwyr sut i weithio ar y cyd, sy'n sgil ynddo'i hun. Mae'r broses hon yn golygu eu harwain trwy wahanol gamau datblygu tîm, o 'ffurfio a herio' i 'normaleiddio a pherfformio'. Mae'r canllawiau hyn yn gam hanfodol, boed deinameg y tîm yn cael ei hasesu'n ffurfiol ai peidio.

Ceir canllawiau ar y fewnrwyd y gellir eu defnyddio i strwythuro sesiwn ragarweiniol Mae angen i fyfyrwyr baratoi ar gyfer gwaith tîm. Ceir llawer o resymau pam y gallai myfyrwyr deimlo'n bryderus ac yn ansicr am waith tîm. Efallai mai dyma'r tro cyntaf i rai myfyrwyr. Bydd rhai yn pryderu am weithio mor agos gydag eraill. Efallai y bydd eraill yn pryderu am elfennau ymarferol neu'r effaith ar eu marciau. Bydd gan rai myfyrwyr ofynion eraill ar eu hamser, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall hyn arwain at deimladau o bryder wrth wynebu gweithio mewn tîm.

Sut fyddwch chi'n paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith tîm?

  • Cyflwynwch y myfyrwyr i waith tîm
  • Trafodwch heriau a manteision gwaith tîm
  • Cyfeiriwch at arweiniad ar fewnrwyd y myfyrwyr Gweithio mewn grwpiau - Gweithio mewn grwpiau (cardiff.ac.uk)
  • Eglurwch ddisgwyliadau'r tîm yn glir
  • Sicrhewch fod myfyrwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau unigol
  • Trafodwch beth i'w wneud pan fydd pethau'n mynd o'i le
  • Trafodwch beth i'w wneud pan fydd angen amgylchiadau esgusodol
  • Cyflwynwch y dasg a gwahoddwch gwestiynau

Wrth sgaffaldio'r dasg tîm ystyriwch rai neu bob un o'r canlynol:

  • Gweithdai cychwynnol
    • trefnwch sesiynau ar ddeinameg tîm, sgiliau cyfathrebu, a datrys gwrthdaro.
    • tynnwch sylw at adnoddau eraill ar gyfer gwella sgiliau gwaith tîm (adnoddau prifysgol eraill ac ati.)
  • Canllawiau dyrannu rôl:
    • Esboniwch y rhesymeg dros y dull o ddewis timau
    • darparwch fframweithiau ar gyfer neilltuo rolau yn seiliedig ar gryfderau ac anghenion dysgu.
  • Ystyriwch sut y byddwch yn tystio cyfraniadau neu gyfranogiad
    • Meddalwedd rheoli prosiectau/asesu gan gymheiriaid

Right quote

Dealltwriaeth: Naomi Dunstan, JOMEC

Yn JOMEC defnyddiais ddarn o feddalwedd i drefnu, monitro cyfranogiad, a thystio i gyfraniadau tim. Addaswyd y rhyngwyneb i gynnwys camau rheoli prosiect yn gysylltiedig â'r dasg. Defnyddiodd myfyrwyr y feddalwedd i gadw eu prosiectau ar y trywydd iawn, aseinio tasgau, a rhannu asedau'r prosiect. Rhoddodd y feddalwedd ffordd i mi fonitro gwaith tîm a chyfranogiad pob tîm. Roedd yn caniatáu i dimau myfyrwyr wneud yr un peth â'i gilydd, a hefyd yn eu cynnwys yn weithredol mewn proses rheoli prosiect, ochr yn ochr â'u tasg tîm.

  • Hyfforddiant rheoli prosiect: addysgwch sgiliau rheoli prosiect sylfaenol, gan gynnwys rheoli amser a dirprwyo tasgau.
  • Gweithgareddau myfyrio rheolaidd: anogwch y myfyrwyr i fyfyrio ar eu profiadau fel tîm a dysgu ohonynt.
    • Angen canllawiau ar sut i fyfyrio
  • Contractau tîm: hwyluswch greu contractau tîm i sefydlu rheolau a disgwyliadau sylfaenol (Pokorny a Warren 2016).
  • Trefniadau adborth gan gymheiriaid: rhowch adborth strwythuredig gan gymheiriaid ar waith er mwyn hyrwyddo atebolrwydd a gwella parhaus
  • Trafodaethau grŵp wedi'u hwyluso: cynhaliwch drafodaethau wedi'u cymedroli i helpu timau i ymdrin â heriau a dathlu eu llwyddiannau.
  • Offer monitro cynnydd: defnyddiwch offer fel siartiau Gantt neu restrau tasgau i olrhain cynnydd ac addasu cynlluniau yn ôl yr angen.
  • Strategaethau i reoli gwrthdaro: Addysgwch a darparwch adnoddau ar gyfer rheoli gwrthdaro yn effeithiol mewn tîm, gan gynnwys sut a phryd i ofyn am gymorth.

Drwy ymgorffori'r strategaethau hyn, gall academyddion sgaffaldio tasgau gwaith tîm yn effeithiol, gan sicrhau bod myfyrwyr nid yn unig yn cyflawni amcanion y dasg ond hefyd yn sicrhau sgiliau gwerthfawr mewn gwaith tîm a chydweithio. Dylid nodi nad oes un fframwaith sy'n addas i bawb gan y bydd pob tasg tîm yn wahanol a bydd gan bob grŵp ddeinameg wahanol, a bydd angen ystyried hynny.

A fydd pob myfyriwr yn cael cyfle i gyfrannu'n gyfartal?

  • Beth sy'n pennu maint y tîm a'i gyfansoddiad?
  • Pa mor brofiadol, gwybodus, ac abl yw'r garfan i weithio gyda'i gilydd/heb oruchwyliaeth agos?
  • Pa gymorth a/neu hyfforddiant sydd ei angen (ar y dechrau ac yn barhaus)?
  • A fydd mewnbynnau myfyrwyr unigol yn weladwy (i addysgwyr)?
  • Sut fydd myfyrwyr yn cael eu dal yn atebol? A fydd rheoli a threfniant y timau ar ffurf strwythurau hunan-arweiniol neu sy'n cael eu rheoli e.e. rolau neu ymarfer cydweithiol hunan-gyfarwyddedig

Cyhoeddir canllawiau ar reoli'r polisïau Addasiad Rhesymol ac Amgylchiadau Esgusodol ar gyfer myfyrwyr sy'n gweithio mewn timau, ac ar weithredu rheoliadau ar fethu ac ailsefyll asesiadau crynodol sy'n cynnwys gweithio mewn tîm, yn ddiweddarach yn y flwyddyn academaidd gyfredol, bellach wedi'i gymeradwyo gan ASQC.

Canllawiau ar gymhwyso rheoliadau a pholisïau i waith tîm/grŵp

Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu gan gyfeirio at y rheoliadau a’r polisïau canlynol:

  • Amgylchiadau esgusodol
  • Ailsefyll
  • Methu ag ymgysylltu
  • Addasiadau rhesymol

Dylid cymhwyso'r canllawiau hyn i'r sefyllfaoedd canlynol:

  • Lle caiff tîm o fyfyrwyr ei asesu ar un darn o waith a gynhyrchir ar y cyd gan y tîm neu'r grŵp, beth bynnag y bo'r fformat. Mae hwn yn fath mwy dilys o asesu nag asesu myfyrwyr ar waith tîm neu grŵp yn unigol ond mae'n golygu ei bod yn ofynnol i dimau myfyrwyr gael cefnogaeth effeithiol.
  • Lle caiff myfyrwyr eu hasesu drwy aseiniadau unigol sy'n dangos dysgu sydd wedi dod o waith a wnaed fel rhan o dîm neu grŵp ffurfiol, a lle bydd effeithiolrwydd y gwaith a wneir gan y tîm yn ei gyfanrwydd (e.e. gwaith labordy cydweithredol; casglu data) yn effeithio ar ansawdd allbynnau myfyrwyr unigol.


Datrys problemau

Fe roddais gynnig arni ond doedd e ddim yn gweithio!

Nid yw dod ar draws anawsterau wrth weithredu asesiad tîm am y tro cyntaf yn anghyffredin, ac mae’n bwysig ystyried y profiadau hyn fel cyfleoedd dysgu gwerthfawr. Dyma rai strategaethau defnyddiol i fynd i’r afael â pheryglon cyffredin:

  • Myfyrio a Nodi Problemau: Cymerwch amser i fyfyrio ar yr hyn nad oedd yn gweithio a pham. Ai deinameg grŵp, cyfarwyddiadau aneglur, neu heriau asesu oedd yn gyfrifol?
  • Gofyn am adborth: Gofynnwch i’r myfyrwyr am eu mewnbwn ar yr hyn oedd yn heriol iddynt a’r hyn y gellid ei wella.
  • Addasu’r Dull: Yn seiliedig ar adborth, gwnewch unrhyw addasiadau angenrheidiol i gynllun y dasg, y meini prawf asesu, neu’r strwythurau cymorth.
  • Dechrau gyda Chamau Bach: Ystyriwch leihau cymhlethdod y dasg neu leihau pwysau’r asesiad tîm yn y radd gyffredinol.
  • Gwella Canllawiau a Chymorth: Cynigiwch ganllawiau manylach, adnoddau ychwanegol, neu weithdai ar sgiliau gwaith tîm.
  • Dysgu gan Gymheiriaid: Anogwch rannu arferion gorau ymhlith cydweithwyr sydd wedi cyflawni asesiadau tîm yn llwyddiannus.

Cofiwch, mae rhwystrau yn rhan o’r daith i weithredu’n llwyddiannus. Gyda phob iteriad, bydd eich dull yn esblygu, gan arwain at brofiadau dysgu tîm mwy effeithiol a gwerth chweil.

Problemau posibl

Wrth gyflwyno tasgau tîm, mae dod ar draws heriau yn gwbl naturiol, ond gellir goresgyn y rhain yn effeithiol gyda’r strategaethau cywir ac ymagwedd gadarnhaol. Cofiwch fod pob her yn cynnig cyfle dysgu i fyfyrwyr a staff, a fydd yn eich helpu i fireinio gwaith tîm ar gyfer carfanau yn y dyfodol.

Dyma restr nad yw’n gynhwysfawr o rai heriau a strategaethau posibl i’w lliniaru:

Heriau Strategaeth
Methiant o ran Cyfathrebu Ewch ati i feithrin cyfathrebu agored a darparu hyfforddiant mewn sgiliau cyfathrebu effeithiol
Dosbarthiad Gwaith Anwastad Cyflwynwch drefniadau i gymheiriaid gynnig adborth a gwiriadau rheolaidd i hyrwyddo cyfranogiad cytbwys
Gwrthdaro Ymhlith Aelodau’r Tîm Arfogwch y myfyrwyr â sgiliau datrys gwrthdaro a sefydlwch brotocolau clir ar gyfer rheoli gwrthdaro
Diffyg Ymgysylltu neu Gymhelliant Defnyddiwch adborth cefnogol a dathlwch lwyddiannau’r tîm i hybu cymhelliant
Anhawster Addasu i Ddeinameg y Tîm Cynhaliwch weithdai ar ddeinameg tîm ac anogwch systemau cymorth cymheiriaid
Y Dasg ddim yn Cyd-fynd â’r Amcanion Adolygwch ac addaswch dasgau’n rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd ag amcanion dysgu
Sgiliau Datrys Problemau Annigonol Darparwch hyfforddiant datrys problemau a thasgau sgaffaldio i ddatblygu’r sgiliau hyn
Asesu gwaith tîm lle mae aelodau’n adrodd bod myfyriwr arall yn gwneud yn wael neu ddim yn ymgysylltu* Addaswch gyfanswm y marc a rennir drwy bwysoli asesu gan gymheiriaid e.e. 20%. Gellid cyd-greu maint y pwysoli hwn gyda’r myfyrwyr ar y cychwyn cyntaf. Gellid cefnogi myfyrwyr hefyd i gyd-greu cod ymddygiad i nodi disgwyliadau ar gyfer ymgysylltu

* Oni bai bod cynlluniau marcio’n dyrannu marciau yn benodol ar gyfer presenoldeb mewn cyfarfodydd grŵp ac yn nodi marcwyr mesuradwy ar gyfer ymgysylltu mewn gweithgareddau grŵp, ni ddylid didynnu marciau oddi wrth fyfyrwyr nad ydynt wedi ymgysylltu (yn llawn) heblaw trwy’r broses asesu cymheiriaid. 

Drwy fynd i’r afael â’r materion hyn yn rhagweithiol gyda’r strategaethau cyfatebol, gall staff drawsnewid rhwystrau posibl yn brofiadau dysgu pwerus, gan wella effeithiolrwydd cyffredinol tasgau tîm.


Adborth a chau’r ddolen


Yn yr un modd â mathau eraill o asesu, mae adborth gan fyfyrwyr (a staff) yn offeryn hanfodol ar gyfer mireinio a gwella’r broses gwaith tîm. Dylid defnyddio adborth yn strategol i nodi meysydd i’w gwella a gwneud addasiadau gwybodus i gynllunio tasgau, trefniadau cymorth, a strategaethau asesu. Drwy gau’r ddolen yn effeithiol, gall addysgwyr sicrhau bod pob iteriad o’r broses gwaith tîm yn cyd-fynd yn well ag amcanion addysgol, yn ymateb i anghenion cyfranogwyr, ac yn arwain at brofiad dysgu cyfoethocach. Mae’r canlynol yn cynnig camau ymarferol ar gyfer defnyddio adborth i wella iteriadau gweithgaredd tîm yn y dyfodol, gan feithrin amgylchedd addysgol sy’n gyd-greadigol ac sy’n esblygu’n ddeinamig.

Prif Bwyntiau

  1. Casglu adborth: sut caiff adborth gan fyfyrwyr a staff ei gasglu? Gallai hyn gynnwys arolygon, grwpiau ffocws neu sesiynau myfyrio, gyda’r nod o nodi safbwyntiau amrywiol ar y broses gwaith tîm.
  2. Myfyrio a dadansoddi: annog a hwyluso myfyrio ar weithgareddau’r tîm, yn ystod ac ar ôl cwblhau. Dadansoddi adborth i nodi themâu cyffredin, llwyddiannau, a meysydd sydd angen eu gwella.
  3. Cynllunio yn y dyfodol: defnyddio’r ddealltwriaeth a gafwyd drwy adborth i lywio cynllunio gweithgareddau tîm yn y dyfodol. Gallai hyn olygu adddasiadau wrth gynllunio tasgau, trefniadau cymorth a dulliau asesu i ddiwallu anghenion a dewisiadau cyfranogwyr yn well.
  4. Cyd-greu: ennyn diddordeb myfyrwyr a staff mewn proses o gyd-greu, lle mae eu hadborth yn dylanwadu’n uniongyrchol ar gynllunio a chyflawni tasgau tîm.

  1. Nodi meysydd i'w gwella: defnyddiwch adborth i nodi agweddau penodol ar y broses gwaith tîm sydd angen eu mireinio, megis sianeli cyfathrebu, dosbarthu rolau, neu ddulliau asesu.
  2. Ymgorffori dealltwriaeth myfyrwyr (a staff): integreiddio dealltwriaeth y myfyrwyr a'r staff i gael dealltwriaeth gynhwysfawr o'r profiad gwaith tîm o nifer o safbwyntiau. Rhannwch adborth rhwng carfanau i'w helpu i baratoi ar gyfer y dasg sydd o'u blaenau.
  3. Addasu cynllun ac amcanion tasgau: addaswch gynllun ac amcanion tasgau tîm ar sail yr adborth er mwyn cyd-fynd yn well â deilliannau dysgu a galluoedd myfyrwyr.
  4. Gwella cymorth ac adnoddau: yn seiliedig ar adborth, rhowch gymorth ac adnoddau ychwanegol lle bo angen, megis gweithdai ar sgiliau gwaith tîm neu ganllawiau cliriach ar gyfer prosiectau tîm.
  5. Mireinio strategaethau asesu: ewch ati i deilwra strategaethau asesu i ddelio ag unrhyw broblemau a godwyd yn yr adborth, gan sicrhau tegwch a thryloywder wrth werthuso cyfraniadau'r tîm.
  6. Hwyluso cyd-greu: anogwch gyd-greu gweithgareddau tîm gyda myfyrwyr, gan ganiatáu iddynt gyfrannu at y modd y caiff tasgau tîm eu strwythuro a'u hasesu.

Mae cyd-greu cydweithredol yn harneisio arbenigedd addysgegol staff a safbwyntiau amrywiol myfyrwyr. Trwy gyfnewid syniadau, adborth, a dulliau arloesol, gall cyd-greu wella cynllunio, gweithredu ac asesu tasgau tîm yn barhaus. Mae'r pwyntiau canlynol yn cynnig rhai ffyrdd posibl y gellir harneisio persbectif y myfyrwyr.

  1. Cyd-greu amcanion dysgu yn weithredol: cynhwyswch staff a myfyrwyr gan osod amcanion dysgu tasgau’r tîm ar y cyd er mwyn sicrhau eu bod yn berthnasol, yn gyraeddadwy, ac yn cyd-fynd â nodau addysgol ehangach.
  2. Trefniadau adborth: cynhaliwch sesiynau adborth rheolaidd a strwythuredig lle gall myfyrwyr fynegi eu profiadau a'u hawgrymiadau, ac y gall staff roi adborth adeiladol ar brosesau a deilliannau gwaith tîm.
  3. Arferion myfyriol: anogwch y myfyrwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau myfyriol, fel cyfnodolion myfyriol neu drafodaethau grŵp, i rannu dealltwriaeth am eu profiadau gwaith tîm, y gall staff eu defnyddio i helpu gyda chynllunio tasgau yn y dyfodol.
  4. Cyfleoedd dysgu rhwng cymheiriaid a'i gilydd: hwyluswch amgylcheddau lle gall myfyrwyr ddysgu o'u profiadau a strategaethau ei gilydd mewn gwaith tîm, o bosibl drwy weithdai neu fforymau trafod a arweinir gan gymheiriaid.
  5. Cynllunio tasgau ailadroddol: cydweithiwch gyda'r myfyrwyr i gynllunio a mireinio tasgau tîm yn ailadroddol, gan sicrhau bod pob iteriad yn ystyried yr adborth a'r dysgu o brofiadau blaenorol.
  6. Datblygu asesu ar y cyd: gweithiwch gyda'r myfyrwyr i gyd-ddatblygu meini prawf a dulliau asesu ar gyfer tasgau gwaith tîm, gan sicrhau tryloywder a dealltwriaeth gyffredin o ddisgwyliadau a chanlyniadau.
  7. Os yw cynllun tasg yn cael ei seilio ar ymarfer y diwydiant, esboniwch hynny’n glir i’r myfyrwyr. Ystyriwch ffyrdd y mae cyd-greu yn cael ei ddefnyddio i fyfyrio ar arferion gwaith presennol ac yn y dyfodol.


Archwilio’n Ddyfnach

O ymgais gyntaf aflwyddiannus hyd at asesiad cyfiawn

Yn ystod fy ymgais gyntaf i gyflwyno gwaith tîm, fe wnes i bob camgymeriad posibl, fel academydd newydd ei benodi doeddwn i ddim yn gwybod dim gwell a doedd dim canllaw fel hwn yn bodoli i helpu. Felly dilynais y “Dull Nike”, gan osod y myfyrwyr mewn grwpiau, rhoi eu pynciau iddyn nhw a dweud wrthyn nhw i “Fynd amdani". Eisteddais yn ôl a chael fy arswydo gan y nifer o negeseuon ebost gan fyfyrwyr yn cwyno am ddiffyg eglurder y dasg, eu cyd-aelodau yn y tîm, neu'r ffaith fod eu cymheiriaid yn dylanwadu ar eu marciau.

Dros sawl blwyddyn, es ati i wneud newidiadau bach, cynyddol, yn gwrando ar adborth y myfyrwyr i gyrraedd y pwynt lle yn ystod y ddwy flynedd olaf o redeg yr asesiad tîm, dim ond un waith y tynnwyd sylw at fyfyriwr oedd ddim yn cymryd rhan yn y dasg. Wedi ymchwilio ymhellach, gwelwyd bod y myfyriwr yn cael trafferth gydag iechyd meddwl, ac roedd hyn yn caniatáu ymyriad cymorth cynharach.

Y newid cyntaf oedd cyflwyno elfen unigol i'r marc asesu, felly roedd 60% o'r marc ar gyfer y cyfraniad unigol a 40% ar gyfer deinameg gyffredinol y grŵp. Fel sgil-gynnyrch o'r newid hwn roedd y broses a'r cynnyrch yn cael eu hasesu, felly cyflwynwyd gweithdai cyn y dasg i ddysgu myfyrwyr sut i weithio'n effeithiol mewn timau a sut i reoli gwrthdaro. Fel rhan o'r gweithdy hwn gofynnwyd i dimau drafod contract tîm, oedd yn amlinellu ymddygiadau disgwyliedig (Whatley 2009).

O ystyried bod y broses bellach yn cael ei hasesu roedd angen trefn ar gyfer cofnodi cyfranogiad a chyfraniadau. Yr ymgais gyntaf i gofnodi hyn oedd gofyn i dimau gadw dyddiadur o gyfarfodydd gyda phresenoldeb a chyfraniadau y cytunwyd arnynt. Yna anfonwyd y dyddiadur drwy ebost gan aelod o'r tîm bob pythefnos. Un pryder gyda'r dull hwn oedd mai dim ond un aelod o'r tîm oedd yn anfon y dyddiadur, felly doedd dim ffordd o ddilysu a oedd y fersiwn ebost yr un fath â'r hyn a gytunwyd gan y tîm. Felly, newidiwyd y dyddiadur ebost am wiki tîm, oedd yn golygu bod modd olrhain yn ôl drwy'r cofnodion i fapio cyfraniadau'r myfyrwyr.

Mewn byd delfrydol, byddai myfyrwyr yn gallu rheoli gwrthdaro, fodd bynnag, ar adegau, gallai fod angen ymyrraeth academaidd. Awgrymodd Lejk, Wyvill a Farrow (1996) system cardiau melyn a choch, lle'r oedd aelodau'r tîm yn gallu gofyn am roi cerdyn melyn i aelod nad oedd yn cymryd rhan. Yna gall yr academydd adolygu cyfraniad y myfyriwr a enwir, trefnu cyfarfod â'r myfyriwr i ganfod unrhyw resymau lliniarol dros beidio â chymryd rhan ac os caiff ei gadarnhau, rhoi cerdyn melyn fel rhybudd i'r myfyriwr. Os rhoddir cerdyn melyn i fyfyriwr, yna mae perygl y bydd yn colli canran o'r marciau ar gyfer y dasg; fodd bynnag, os bydd y myfyriwr yn gwneud cyfraniad teg i'r dasg, yna gellir diddymu'r cerdyn i ganiatáu cyflawni marciau llawn. Os yw'r tîm yn nodi nad oes newid o ran perfformiad, gellir rhoi cerdyn coch, yn dilyn ymchwiliad academaidd, gan arwain at  dynnu'r myfyriwr nad yw'n cymryd rhan o'r tîm a derbyn marc o sero. Mae hyn yn golygu nad oes anfantais i aelodau'r tîm sy'n weddill yn y dasg derfynol gan fod modd i'r tîm a'r academyddion drafod ffyrdd o oresgyn colli aelod o'r tîm.

Yn olaf, ymgorfforwyd gwerthuso rhwng cymheiriaid a'i gilydd. Mae myfyrwyr sy'n gweithio yn y tîm mewn sefyllfa dda i farnu cyfraniadau aelodau eu tîm (Hanrahan ac Isaacs 2001). Cyflwynwyd WebPA i ganiatáu i aelodau'r tîm sgorio'r aelodau eraill yn ddienw ac mae'n offeryn pwerus i roi cipolwg ar ddeinameg y tîm a hefyd annog myfyrwyr i fyfyrio ar y broses gwaith tîm yn ei chyfanrwydd (Gordon 2010). Nid oedd BuddyCheck ar gael ar y pryd ond bydd hyn yn awtomeiddio llawer o'r prosesau a gyflawnwyd â llaw yn defnyddio WebPA.

Hoffem wahodd cyd-staff i rannu gwybodaeth am unrhyw brofiadau o ddefnyddio Gwaith Tîm o fewn eu hymarfer dysgu ac addysgu. Defnyddiwch y Ffurflen Microsoft isod i rannu crynodeb ac unrhyw ddogfennau ategol perthnasol.

Dijkstra, J., Latijnhouwers, M., Norbart, A., & Tio, R. A. (2016). Assessing the “I” in group
work assessment: State of the art and recommendations for practice. Medical Teacher,
38(7), 675–682. https://doi.org/10.3109/0142159X.2016.1170796

Francis, N.J., Allen, M, and Thomas, J. (2022). Using group work for assessment – an academic’s perspective. Advance HE.

Gordon, N. A. (2010). Group working and peer assessment — using WebPA to encourage
student engagement and participation. Innovation in Teaching and Learning in Information and Computer Sciences, 9(1), 20–31.
https://doi.org/10.11120/ital.2010.09010020

Hanrahan, S. J., & Isaacs, G. (2001). Assessing self- and peer-assessment: The students’
views. Higher Education Research & Development, 20(1), 53–70.https://doi.org/10.1080/07294360123776

Kennedy, G. J. (2005). Peer-assessment in Group Projects: Is It Worth It? In Proceedings of
Australia Computing Education Conference. Newcastle, Australasia.

Lejk, M., Wyvill, M., & Farrow, S. (1996). A survey of methods of deriving individual grades
from group assessments. Assessment and Evaluation in Higher Education, 21(3), 267–280.https://doi.org/10.1080/0260293960210306

Mazur, E. (1996). Peer Instruction: A User’s Manual. New Jersey: Prentice Hall.

Pokorny, H., & Warren, D. (2016). Enhancing teaching practice in higher education. London: Sage Publishing Ltd.

Riebe, Linda & Girardi, Antonia & Whitsed, Craig. (2016). A Systematic Literature Review of Teamwork Pedagogy in Higher Education. Small Group Research. 47. 10.1177/1046496416665221. Shimazoe, J., & Aldrich, H. (2010). Group Work Can Be Gratifying: Understanding & Overcoming Resistance to Cooperative Learning. College Teaching, 58(2), 52–57. https://doi.org/10.1080/87567550903418594

Vygotsky, L. S. (1978). Mind in Society. The development of higher psychological processes. Mind in Society. Cambride, MA: Harvard University Press. https://doi.org/10.1007/s13398- 014-0173-7.2

Whatley, J. (2009). Ground Rules in Team Projects: Findings from a Prototype System to Support Students. Journal of Information Technology Education: Research, 8(1), 161–176. https://doi.org/10.28945/165

Yorke, M., & Knight, P. T. (2006). Embedding Employability into the Curriculum. https://www.qualityresearchinternational.com/esecttools/esectpubs/Embedding employability into the curriculum.pdf. Accessed 21 April 2021

Ganllaw i Staff BuddyCheck

Sgiliau Astudio: Gweithio mewn grwpiau

Archwiliwch y dudalen 'Cyrsiau a gweithdai ar gyfer staff dysgu ac addysgu' i ddarganfod ac archebu lle ar gyrsiau fel, 'Cynllunio a rheoli tasgau gwaith grŵp gan gynnwys cyflwyniad i BuddyCheck'.