Skip to main content

Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr

Mae cael y cyfle i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd a diogelu deilliannau i raddedigion ar ôl iddyn nhw orffen yn y brifysgol yn dod yn fwyfwy pwysig i fyfyrwyr. Wrth i’r farchnad swyddi newid i fod yn fwy cymhleth a hyblyg, mae gennyn ni gyfrifoldeb i sicrhau bod gan ein myfyrwyr y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen arnyn nhw i wynebu newid ac ansicrwydd, i bontio i’r gweithle yn effeithiol, a rheoli gyrfa lwyddiannus drwy gydol eu hoes.

Datblygwyd y Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr er mwyn arwain a chefnogi’r broses o integreiddio cyflogadwyedd i brofiad y myfyrwyr, a hynny drwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol sydd ar gael i fyfyrwyr trwy gydol eu cyfnod yn y brifysgol. Mae’n cynnig dull strwythuredig o fewnosod cyflogadwyedd yn y cwricwlwm, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael digon o gyfleoedd i roi hwb i’w cyflogadwyedd a’u paratoi ar gyfer bywyd ar ôl graddio.

Mae’r Fframwaith yn cwmpasu’r canlynol:

  • Y dull sefydliadol o roi hwb i gyflogadwyedd
  • Diffinio ‘cyflogadwyedd’ a thermau eraill sy’n gysylltiedig ag ef
  • Ymgysylltu â’r Fframwaith
  • Gweithgareddau a gefnogir gan Ddyfodol Myfyrwyr

Cyrchu’r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr