Skip to main content

International students – transition and induction deeper dive-cy

26 Medi 2024

Mae pontio’n gallu digwydd trwy gydol taith y myfyriwr a phan fydd yn llwyddiannus mae’n gallu arwain at ddatblygu hunaniaeth a ffyrdd newydd o wybod (Beach 1999, yn Ecochard a Fotheringham 2017:101). Mae Ploner (2018) yn trafod lletygarwch academaidd sy'n canolbwyntio ar y cyfnewid cilyddol rhwng 'gwesteiwr' a 'gwestai'. Pan fyddwch yn cymhwyso'r cysyniad hwn i fyfyrwyr rhyngwladol, rydych yn ail-fframio'r naratif diffygion ac yn symud tuag at y syniad o werthfawrogi a dysgu o ddifri o wahanol ddiwylliannau.

Bydd gan fyfyrwyr sy'n mynd i'r brifysgol brofiadau a disgwyliadau cymysg. Mae myfyrwyr rhyngwladol sy'n teithio i astudio wedi dangos ymrwymiad eisoes i astudio mewn gwlad arall. Fodd bynnag, gall y realiti fod yn wahanol iawn i'r disgwyliad. I fyfyriwr brodorol, mae’r broses o fynd i mewn i gyd-destun newydd fod yn heriol mewn sawl ffordd. Mae dimensiynau ychwanegol addasu i ddiwylliant newydd o fewn y broses bontio yn creu her ychwanegol i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae angen ystyried y rhain wrth gynllunio prosesau sefydlu a throsglwyddo. Nid yw pontio’r bwlch rhwng profiad blaenorol a disgwyliadau i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu perfformio i’w botensial yn golygu newid yr hyn a ofynnwn i fyfyrwyr, ond mae’n golygu cydnabod graddfa’r pontio y mae rhai myfyrwyr yn ei wynebu (Scudamore 2013).

(Scudamore 2013: 10) yn nodi bod sawl cam i’r broses bontio sy’n gallu para dros ychydig fisoedd. Gaallai rhai neu bob un fod yn brofiadau gan fyfyrwyr:

4 blue rectangles flow map. 1. Euphoria. 2. Disorientation 3. Rejection by and/or of the new culture. 4. Reintegration.

Ffigur: Camau pontio (Scudamore 2013, t10)

Dimensiynau addasu

Yn fras, mae'r llenyddiaeth yn cyflwyno 3 dimensiwn addasu ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol:

3 overlapping circles venn diagram: Academic, Linguistic and Socio-cultural

Dyma enghraifft o rai heriau y gall myfyrwyr rhyngwladol eu hwynebu wrth addasu i'r brifysgol:

Academaidd Ieithyddol Cymdeithasol-ddiwylliannol
Arferion addysgu Cyfathrebu â siaradwyr brodorol (cyflymder, acen, cywair, iaith y corff a llafaredd ac ati) Dod o hyd i’w ffordd o gwmpas dinas newydd, ymgyfarwyddo â’r system drafnidiaeth gyhoeddus, dod o hyd i lety
Deinameg ystafell ddosbarth Diffyg cyfatebiaeth rhwng profion hyfedredd safonol a realiti Gwneud cylch ffrindiau newydd
Traddodiadau craidd dysgu ac addysgu (e.e. dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr) Deall a chynhyrchu testunau academaidd Ymuno â'r system gofal iechyd
Gwerthoedd craidd (e.e. cysyniadau llwyddiant) Addasu i fwyd, tywydd, confensiynau cymdeithasol
Aseiniadau a dulliau asesu Delio â phwysau ariannol

 

Mae'r adnodd canlynol yn dangos dimensiynau Bell (2016) o'r model cymorth rhyngwladol yn tynnu sylw at y math o gymorth y mae prifysgolion yn ei gynnig, ac yn nodi arferion allweddol i helpu i gefnogi'r broses bontio.

3 overlapping circles venn diagram. 2 arrows circling the image and 3 boxes next to each circle. Top circle (purple): pre-sessional language classes sessional language classes informal language groups English for Specific Purposes courses Subject related language preparation. Right side rectangle: English Language Ability ( Language shock, group work, reading intensity, misaligned expectations and understandings) Bottom left circle (green): prearrival academic preparation academic writing/study skills support targeted learning resources pathway preparation embedded academic support. left green rectangle: Academic expectations and integration ( learning shock, misaligned expectations, critical thinking; independent learning; academic writing conventions and cultures; teachers' roles' performance impacts; assessments and gradings. bottom right circle ( blue): prearrival engagement orientation guides dedication induction campus tours dedicated student advisers student services buddy/ peer mentors social/cultural events bottom rectangle (blue); socio-cultural integration. (Culture shock; loss of 'identity'; making friends with home students; orientation of new environment; feelings of homesickness and loneliness) Green and purple circle overlap: C academic integration Blue and purple circles overlap: B socio-cultural All 3 circles overlap: A English language

 

This component is used in the following posts and pages: