Skip to main content

Amrywiaeth myfyrwyr

Dylunio Tudalennau Cynwysoldeb

Mae'r holl dudalennau Cynwysoldeb wedi'u cynllunio gan ddilyn egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Fe welwch gyfuniad o destun, fideo a delweddau, ynghyd â rhai pwyntiau ar gyfer myfyrio, enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos.

Gallwch ddewis darllen y testun, neu gael mynediad at fideo o'r un deunydd. Mae'r recordiad ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd fynychu gweithdy ar y pwnc: i gael gwybod mwy gweler y blwch DPP ar waelod y dudalen hon.

Amrywiaeth ein Myfyrwyr 

Mae mwy o amrywiaeth mewn Addysg Uwch nag erioed o’r blaen. Fel y gwelwn yn y graff isod, mae cyfranogiad mewn Addysg Uwch ymhlith pobl sy’n hanu o’r DU wedi codi’n ddramatig ers 1950, pan oedd llai na 5% o’r boblogaeth yn mynd i’r Brifysgol. Mae ehangu’r system addysg uwch i oddeutu 50% o’r rhai sy’n gadael ysgol a cholegau wedi arwain at lawer mwy o amrywiaeth ymhlith myfyrwyr.  

Mae hyn, yn rhannol, hefyd wedi cael ei yrru gan gynlluniau ehangu mynediad a chyfranogiad yn holl genhedloedd y DU, a deddfwriaeth cydraddoldeb. Ar yr un pryd, mae cynlluniau i ryngwladoli wedi arwain at fwy o myfyrwyr yn dod i astudio mewn addysg uwch yn y DU, gan godi o 226,270 yn 2012/3 i 314,790 yn 2021/2, ac o ganlyniad i’r cynnydd hwnnw yn 23.8% o boblogaeth myfyrwyr y DU yn y flwyddyn honno (Universities UK, 2023). At ei gilydd, mae’r tueddiadau cymdeithasol hyn wedi arwain at fwy o amrywiaeth yng nghymuned y brifysgol. 

Figure 1: Higher Education Participation rates in the UK 1950-2010 (TES 2013)

Mae’n bwysig deall, ymateb i, a dathlu amrywiaeth ein myfyrwyr, ac mae hyn “yn gofyn am roi sylw i’r hunaniaethau cymhleth, deinamig, a chroestoriadol y mae pob dysgwr ac athro yn dod gyda nhw i’r profiad addysgegol” (Lawrie et al. 2017). 

Rydym yn defnyddio diffiniad eang wrth ystyried amrywiaeth, sef cysyniadaeth Thomas a May (2010) o bedwar dimensiwn eang o amrywiaeth, lle gall pob myfyriwr (ac aelod o staff) amrywio: yn addysgol, o ran cymeriad, yn ôl eu hamgylchiadau ac yn ddiwylliannol. 

Diversity dimensions  Educational: Level/type of entry qualifications; skills; ability; knowledge; educational experience; life and work experience; learning approaches.  Dispositional: Identity; self-esteem; confidence; motivation; aspirations; expectations; preferences; attitudes; assumptions; beliefs; emotional intelligence; maturity; learning styles; perspectives; interests; self-awareness; gender; sexuality.  Circumstantial: Age; disability; paid/voluntary employment; caring responsibilities; geographical location; access to IT and transport services; flexibility; time available; entitlements; financial background and means; marital status.  Cultural: Language; values; cultural capital; religion and belief; country of origin/residence; ethnicity/race; social background. 

Ffigur 3: Dimensiynau Amrywiaeth (Thomas a May 2010: 8)

Er bod rhai o’r nodweddion hyn yn cael eu cydnabod yn Neddf Cydraddoldeb 2010 fel rhai gwarchodedig, ac y gallai rhai fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol gan wasanaethau prifysgol penodol (megis anabledd), maen nhw oll yn gofyn i ni ystyried dyluniad ein haddysgu a’n harferion, er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael profiad teg 

Mae Deddf Cydraddoldeb (2010) yn ei gwneud yn ofynnol i ni fod yn ragweledol yn ein darpariaeth addysgol: felly, ddylwn ni ddim aros nes bod myfyriwr yn cyflwyno angen neu nodwedd ddysgu benodol. Yn hytrach, rhaid inni ddylunio ein haddasiadau o’r cychwyn cyntaf, i ddarparu ar gyfer mwyafrif yr anghenion. 

Felly sut rydym yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddeall pwy yw ein dysgwyr, a darparu cyfleoedd dysgu sy’n ddilys, yn ystyrlon ac yn berthnasol i bawb? Gall deall nodweddion myfyrwyr Prifysgol Caerdydd fod o gymorth, ac felly, gall astudio’r data ein helpu i fod yn ymwybodol faint o amrywiaeth sydd yn ein dosbarthiadau. Mae data Prifysgol Caerdydd ar amrywiaeth ar gael i staff yma. 

Gweithgaredd Myfyriol: Eich Ymarfer o ran Amrywiaeth ac Addysgu

Gan ddefnyddio tabl Thomas a May uchod, ystyriwch yr awgrymiadau myfyriol canlynol: 

A oes gennych chi syniadau rhagdybiedig am y myfyriwr delfrydol neu'r myfyriwr nodweddiadol, a sut mae hyn yn dylanwadu ar eich cynllun addysgu a'ch ymarfer, neu’r modd rydych chi’n cefnogi myfyrwyr? 

Meddyliwch am eich profiadau addysgol, eich cymeriad, eich amgylchiadau a'ch cefndir diwylliannol eich hun. Ydy eich cefndir a'ch profiadau eich hun yn dylanwadu ar yr hyn rydych chi'n ei ddisgwyl gan fyfyrwyr, a’r modd rydych chi'n eu haddysgu a/neu eu cefnogi?

Astudiaeth Achos Prifysgol Caerdydd: Myfyrio ar eich cefndir a'ch ymarfer addysgu

“Mae fy mhrofiadau dysgu yn systemau addysg uwch Tsieina a Phrydain wedi siapio fy nghredoau ac arferion addysgu yn fwy na dim arall. O'm safbwynt i, rôl athrawon yn Tsieina yw cyflwyno gwybodaeth yn bennaf. Hynny yw, mae athrawon yn defnyddio'r dull 'sy'n canolbwyntio ar yr athro' yn bennaf yn yr ystafelloedd dosbarth. Felly, maent yn treulio llai o amser yn helpu myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol ac yn hwyluso eu dysgu eu hunain.

O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn Tsieina yn dda iawn am gofio gwybodaeth a gwneud synnwyr ohoni. Ar y llaw arall, maent yn debygol o fod yn dawel yn y dosbarth; nid ydynt wedi arfer rhyngweithio ag athrawon. O'u cymharu ag athrawon yn Tsieina, mae athrawon yn y Deyrnas Unedig yn canolbwyntio mwy ar y dysgwr - maen nhw’n treulio mwy o amser yn sylwi ar wahaniaethau unigol mewn gallu i ddysgu ac yn hwyluso dysgu yn nulliau dysgu dewisol y myfyrwyr. O ganlyniad i hyn, mae myfyrwyr Prydain yn cael mwy o le i ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol.” (Darlithydd Busnes 2023)

 


Ble Nesaf?

Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau 

Rydych chi ar dudalen 2 o 9 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd

2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu 
7. Hygyrchedd Digidol

8. Anabledd a Dyslecsia

9. Myfyrwyr Rhyngwladd