Asesu
Galluogi pob myfyriwr i ddangos eu galluoedd, eu sgiliau a’u gwybodaeth: Asesu a Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
Ystyriaethau Allweddol ar gyfer Asesu Cynhwysol ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae gan Fodel Gwella Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd gyfres o dargedau allweddol ar gyfer gwella asesu, sy’n tynnu ar argymhellion y sector a amlinellir uchod. Gweler mwy am weithredu hyn yn ein hadran Dylunio Rhaglenni isod.
Targedau’r Model Gwella ar gyfer Asesu ar Lefel Sesiwn neu Fodiwl:
- Mae modiwlau’n darparu gweithgareddau dysgu ac asesiadau ffurfiannol sy’n meithrin sgiliau a dealltwriaeth myfyrwyr yn y ddisgyblaeth yn barod ar gyfer asesiadau crynodol.
- Mae tîm(au) modiwl yn dylunio ac adolygu asesiadau er mwyn sicrhau nad oes unrhyw rwystrau amlwg i ddysgu yn cael eu creu ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr ac maent yn rhagweld rhwystrau drwy gymhwyso egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu er mwyn helpu i sicrhau nad yw’r dyluniad yn creu’r angen am addasiadau unigol.
- Mae briffiau aseiniadau, meini prawf a chanllawiau wedi’u dylunio’n dda ac mae pob myfyriwr yn glir o’r gofynion ac yn deall disgwyliadau gradd uchel.
- Mae’r rhan fwyaf o fodiwlau yn cynllunio asesiadau amgen o’r cychwyn cyntaf, gan ddarparu meini prawf asesu a chymhwysedd i bob myfyriwr.
- Mae timau modiwlau yn cytuno ar strategaeth adborth a therminoleg i’w defnyddio mewn adborth. Mae adborth wedi’i bersonoli i’r cynnwys, ac mae’n glir a chryno, yn ymwneud â’r meini prawf asesu, ac yn adeiladol ac yn weithredol.
Ailfeddwl Asesu ym Mhrifysgol Caerdydd
Mae asesu cynhwysol yn ystyriaeth allweddol o’r Prosiect Ailfeddwl Asesu ledled y brifysgol a’r dull strategol ar gyfer asesu, felly mae ystyried hyn hefyd yn ddefnyddiol iawn wrth feddwl am asesu.
Egwyddorion
Er mwyn i sefydliadau addysg uwch gydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, dylent ddylunio asesiadau rhagweledol a chynhwysol wrth ystyried asesu. Mae prosesau asesu cynhwysol a ddyluniwyd yn gyffredinol yn darparu ar gyfer pob myfyriwr wrth ddiwallu anghenion grwpiau penodol hefyd.
Ceir cyfres o argymhellion penodol ar gyfer dylunio asesiad cynhwysol ar lefel rhaglen (Advance HE, 2018; Tai ac eraill, 2019):
- Ystod o ddulliau asesu sy’n hygyrch, yn anwahaniaethol ac yn amserol.
- Ystod o ddulliau adborth sy’n hygyrch, yn rhyngweithiol, yn barhaus ac yn amserol.
- Ymgorffori dewis myfyrwyr mewn arferion asesu.
- Cyfleoedd i ymgysylltu’n feirniadol â themâu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb mewn asesiadau sy’n berthnasol i senarios bywyd go iawn .
- Paratoi myfyrwyr, ymgysylltu â nhw a’u cefnogi trwy gydol y broses asesu sy’n datblygu eu llythrennedd asesu.
- Cyfleoedd i fyfyrwyr weithredu fel partneriaid yn y broses asesu ac adborth.
- Dull ar lefel rhaglen o ddylunio, datblygu, deall a chydlynu arferion asesu ac adborth.
- Monitro, adolygu a rhannu arferion asesu sy’n ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb yn rheolaidd.
Er mwyn ystyried heriau ac atebion mathau penodol o asesu, gweler y dudalen Crynodeb o Ddulliau Asesu.
Asesu a Chynnal Addysgeg yn Ddiwylliannol
Mae gwaith diweddar ar gynhwysiant a dyluniad cyffredinol asesu wedi canolbwyntio ar yr angen i ystyried natur asesu a luniwyd yn gymdeithasol, trwy lens Addysgeg sy’n Cynnal yn Ddiwylliannol (CSP) (Hanesworth et al. 2019). Mae ffurfiau ac arferion asesu yn cael eu creu trwy ddefnydd di-gwestiwn a chyffredin, gan gael eu normaleiddio, a gallant ymyleiddio ac eithrio rhai myfyrwyr a charfannau y mae arferion o’r fath yn anghyfarwydd ac yn anhygyrch iddynt. Gellir gweld bod asesu hefyd yn creu hierarchaeth gwybodaeth: yn ein dewis anochel o gynnwys ar gyfer asesiadau, rydym yn cyfathrebu’n isymwybodol i ddysgwyr pa wybodaeth ddisgyblaethol sy’n bwysig neu’n werthfawr, a beth sydd ddim. Mae asesu yn anwahanadwy oddi wrth farnau unigol ar werth: wedi’i gynllunio a’i werthuso gennym ni, gyda’n holl gefndiroedd cymdeithasol-ddiwylliannol cymhleth, profiadau addysgol, a gwerthoedd deallusol a phersonol. Felly mae’n ddarostyngedig i’n tueddiadau.
Nod UDL, gyda’i egwyddorion dylunio o ddulliau lluosog o gynrychioli, gweithredu/mynegiant ac ymgysylltu, yw gwella hygyrchedd yn bennaf. Yn y cyfamser, mae CSP gyda’i egwyddorion dylunio o ymgorffori plwraliaeth ieithyddol, llythrennedd a diwylliannol yn yr hyn a sut rydym yn addysgu, ac ymgorffori myfyrio beirniadol ar ddiwylliannau, cydraddoldeb ac amrywiaeth, yn anelu yn gyntaf at wella cynwysoldeb ac yn ail i feithrin dealltwriaeth dysgwyr o ddiwylliant a chymdeithas a’u hymgysylltiad â hwy (Hanesworth 2019).
Dysgwch am y defnydd o UDL wrth asesu ym Mhrifysgol Limerick (yn Saesneg yn unig):
Goblygiadau cynhwysiant gwahanol fathau o asesu
I ystyried yr heriau a’r atebion a ddarperir gan fathau penodol o asesiadau, gweler y dudalen Compendiwm Asesu, sy’n manylu ar dros 20 math gwahanol o asesu, gyda sylwadau ar y rhwystrau rhag dysgu ar gyfer pob asesiad, ac ystyriaethau o ran mynd i’r afael â chynhwysiant.
Addasiadau Rhesymol i Fyfyrwyr Anabl
Mae gennym ddyletswydd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb i wneud addasiadau rhesymol i’n hasesiadau, unwaith y cytunwyd arnynt gan yr ysgol. Mae polisi a chanllawiau penodol ar gyfer staff sy’n addysgu myfyrwyr israddedig a myfyrwyr sy’n gwneud ymchwil ôl-raddedig i’ch cefnogi yn hyn.
Ni ddylai addasiadau rhesymol amharu ar safonau academaidd rhaglenni na modiwlau, gan nad yw’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gosod unrhyw ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol i safon cymhwysedd. Mae safon cymhwysedd yn ‘safon academaidd, feddygol neu arall, a gymhwysir at y diben o benderfynu a oes gan berson lefel benodol o gymhwysedd neu allu’. Mae’n rhaid i safon cymhwysedd fod yr un mor berthnasol i bob myfyriwr, yn wirioneddol berthnasol i’r rhaglen, ac yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys.
Fodd bynnag, ceir dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i’r ffordd y caiff safon cymhwysedd ei hasesu fel na fydd myfyrwyr anabl dan anfantais o ganlyniad i’w hanabledd. Mae’n rhaid i addasiadau rhesymol beidio ag effeithio ar ddilysrwydd na dibynadwyedd y deilliannau asesu. Fodd bynnag, gallant gynnwys, er enghraifft, newid y trefniadau neu ddull asesu arferol, addasu deunyddiau asesu, darparu ysgrifennydd neu ddarllenydd yn yr asesiad, ac ad-drefnu’r amgylchedd asesu.
Asesiadau Amgen
Darperir asesiadau amgen pan na all myfyriwr, am ryw reswm, gwblhau’r asesiad a gynlluniwyd ar gyfer y modiwl neu’r rhaglen. Gallai hyn fod oherwydd anabledd, a dyma’r addasiad rhesymol sydd ei angen. Fel arall, gallai fod oherwydd mater tymor byr i’r myfyriwr – er enghraifft, afiechyd sydyn neu brofedigaeth – sy’n gofyn am ateb arall.
Wrth ddylunio’ch modiwl, ystyriwch pa asesiadau amgen allai fod eu hangen yn y senarios hyn, a dyluniwch y rhain o’r cychwyn cyntaf. Mae hyn yn sicrhau bod eich dyluniad yn rhagweld er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Cydraddoldeb. Sicrhewch eich bod yn paratoi canllawiau asesu, meini prawf marcio neu gyfarwyddiadau ar gyfer pob math o asesu, ac yn esbonio’r cymhwysedd ar gyfer asesiadau amgen i fyfyrwyr.
Gall dewis mewn asesu fod ar sawl ffurf: dewis pwnc, dulliau (megis ysgrifenedig, cyflwyniad, amlgyfrwng), neu gwmpas, fel gwaith unigol neu dîm. Er y gallai dewis pwnc fod yn fwy cyfarwydd, ystyriwyd bod yr opsiwn o ddewis o ran dull neu gwmpas yn fwy heriol i’n strwythurau a’n prosesau sefydliadol, er gwaethaf y potensial i ddarparu ar gyfer Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu drwy sawl dull gweithredu a mynegi.
Mae cyhoeddiadau ôl-bandemig mwy diweddar yn cefnogi’r canfyddiadau a’r egwyddorion uchod, gan amlygu sut y gwnaeth newidiadau cadarnhaol a wnaed yn ystod y pandemig alluogi cyflwyno amrywiaeth a dewis wrth asesu, ac archwilio sut y gallai’r rhain fod yn gynaliadwy yn y dyfodol trwy newidiadau i egwyddorion ac arferion asesu, a thrwy gydweithio ar ddull rhaglennol o asesu (Padden ac O’Neil 2021).
Mewn perthynas â dewis myfyrwyr mewn dulliau asesu, mae ymchwil yn tynnu sylw at gymhlethdod y materion sy’n ymwneud â gweithredu dewis myfyrwyr mewn perthynas â: tegwch, canfyddiad o staff a myfyrwyr, aliniad gofalus a thryloyw ac effaith ar ganlyniadau, gofynion rhaglenni a safonau cyrff proffesiynol. Er gwaethaf y cymhlethdodau hyn, amlygodd O’Neil (2017) effaith gadarnhaol dewis cyfyngedig ar gyfer myfyrwyr, gyda chyrhaeddiad graddau uwch na’r rhai a gyflawnwyd gan garfannau blaenorol o fyfyrwyr nad oeddent yn profi dewis. Yn yr un modd awgrymodd adolygiad arloesol Hockings o’r llenyddiaeth (2010: 21) fod cael dewis yn y modd asesu yn galluogi myfyrwyr i gyflwyno tystiolaeth o’u dysgu mewn cyfrwng sy’n addas i’w hanghenion, yn hytrach nag mewn fformat a bennwyd ymlaen llaw a allai roi unigolyn neu grŵp o fyfyrwyr yn y garfan dan anfantais. Amlygodd ymchwil ar ddewis myfyrwyr ym maes asesu ym Mhrifysgol Caerdydd themâu tebyg (Morris, Milton a Goldstone 2019).
Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Caerdydd yn cynnal prosiect peilot ar weithredu dewis asesu, gyda’r bwriad o’i weithredu ym mlwyddyn academaidd 2025/26.
Ble Nesaf?
Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd
2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
7. Hygyrchedd Digidol