Skip to main content

Cymhwyso ymarfer

Dylunio Tudalennau Cynwysoldeb

Mae'r holl dudalennau Cynwysoldeb wedi'u cynllunio gan ddilyn egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Fe welwch gyfuniad o destun, fideo a delweddau, ynghyd â rhai pwyntiau ar gyfer myfyrio, enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos.

Gallwch ddewis darllen y testun, neu gael mynediad at fideo o'r un deunydd. Mae'r recordiad ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd fynychu gweithdy ar y pwnc: i gael gwybod mwy gweler y blwch DPP ar waelod y dudalen hon.

Ysbrydoli myfyrwyr i ddod yn hyrwyddwyr cynwysoldeb, gan roi’r sgiliau iddynt feithrin a chefnogi amgylcheddau cynhwysol

Mae gan bob un ohonom rôl i’w chwarae wrth greu a chynnal cymuned brifysgol barchus, amrywiol a chynhwysol, a thrwy hynny mae cymryd rhan mewn pynciau cynhwysiant, trafodaethau a materion byd-eang ehangach yn hanfodol mewn amgylchedd dysgu cynhwysol.
Fodd bynnag, mae ymchwil yn awgrymu mai anaml y bydd adrannau academaidd yn trafod cynhwysiant, oni bai ei fod yn ganolbwynt i’r ddisgyblaeth (Perez ac eraill, 2020). Heb hyfforddiant penodol neu gynefino mewn Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a sgwrs barhaus ar oblygiadau hynny, gall myfyrwyr sydd â hunaniaethau lleiafrifol deimlo eu bod ar y cyrion ac yn symbolaidd, os nad wedi’u targedu’n amlwg, ar sail eu hunaniaethau.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i ymgorffori arferion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad. Enghraifft yw’r modiwl ‘Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Myfyrwyr’, y mae gan bob aelod o staff academaidd fynediad iddo, ac amserlennir i bob myfyriwr newydd ei gwblhau yn ystod wythnosau cyntaf eu profiad prifysgol. Mae dwy fersiwn, ar gyfer myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Gallwch weld fideo rhagflas yma:

I gwblhau EDIAware, mewngofnodwch ar Dysgu Canolog ac, yn ‘Sefydliadau’, dewch o hyd i’r modiwl israddedig EDIAware-ORG-UG (cyfrwng Saesneg) neu EDIAware-ORG-UG-Cymraeg (cyfrwng Cymraeg).
Fel arall, cyrchwch y modiwl ôl-raddedig a addysgir EDIAware-ORG-UG-PGT (cyfrwng Saesneg) neu EDIAware-ORG-UG-PGT-Cymraeg (cyfrwng Cymraeg). Os oes angen mynediad arnoch, cysylltwch â’r tîm Addysg Ddigidol.

Mae’r modiwl cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn rhoi man cychwyn ar gyfer ymwybyddiaeth myfyriwr o egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Fodd bynnag, mae angen i adrannau academaidd ddarparu cyfleoedd bwriadol yn gyson i unigolion ddysgu am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn eu disgyblaethau a’u meysydd os ydym am greu amgylcheddau dysgu cynhwysol a pharatoi myfyrwyr i gyfrannu at gymdeithas fyd-eang gymhleth a chyd-ddibynnol (Parsons ac eraill, 2020: 133).

Gweithgaredd Myfyrio

• A oes cyfleoedd ar gyfer trafodaethau uniongyrchol ar agweddau ar amrywiaeth a hunaniaeth?

• A oes cyfleoedd i greu parch a gwerthfawrogiad o werth gwahaniaeth?

 

Nid yw darparu datblygiad a hyfforddiant mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn golygu sicrhau bod ein prifysgol yn darparu amgylchedd cynhwysol i ddysgu ynddo yn unig; mae hefyd yn ymwneud â darparu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i fyfyrwyr fod yn arweinwyr cynhwysol y dyfodol. Agwedd bwysig ar brofiad myfyrwyr yw’r enillion addysgol ehangach y mae myfyrwyr yn eu cyflawni o addysg uwch. Fel sector, rydym yn cael ein gyrru’n anecdotaidd gan ddata. Fodd bynnag, pan fyddwn yn canolbwyntio ar yr enillion addysgol y mae prifysgol yn eu darparu, nid yw hynny mor hawdd ei fesur. Cyfoeth y profiad ehangach a sgiliau cyfathrebu, gweithio gyda grwpiau amrywiol, trin sgyrsiau anodd, a chroesawu’r anghyfforddus sy’n arfogi myfyrwyr i ddod yn arweinwyr cynhwysol.

Mae nifer o ffyrdd y gallwn ymgorffori cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y cwricwla, ein harferion, y deunyddiau a’r gweithgareddau a ddefnyddir i gefnogi dysgu, a’r diwylliannau ystafell ddosbarth sy’n cael eu meithrin gan ryngweithio myfyrwyr-staff (Advance HE 2018). Mae yna hefyd amrywiaeth o offer defnyddiol i’ch helpu i ymgorffori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn eich addysgu. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd ‘Mannau Dewr’ hwn gyda myfyrwyr.

Globe

Awgrymiadau Gorau ar gyfer rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau cynhwysol:

• Darparwch gyfleoedd ar gyfer trafodaeth agored ac adborth dienw ar eich ymarfer addysgu, deunyddiau, a'r hyn yr hoffai myfyrwyr ei gynnwys mewn perthynas â chynhwysiant ('beth sy'n gweithio / ddim yn gweithio i chi')

• Gosodwch waith rhyngweithiol mewn timau amrywiol a chymysg (newidiwch a chymysgwch dimau mewn sesiynau – symudwch nhw!)

• Anogwch fyfyrwyr i weithredu fel partneriaid yn eu profiad dysgu (gosod disgwyliadau ar gyfer gwaith tîm)

• Rhowch gyfleoedd i fyfyrwyr gysylltu cynnwys cwrs â'u profiadau eu hunain, gan annog rhannu safbwyntiau a dehongliadau amrywiol (dysgu dilys)

• Integreiddiwch themâu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb mewn deunyddiau a gweithgareddau dysgu (ymgorfforwch sgyrsiau am amrywiaeth a dad-drefedigaethu)

 

Fel y trafodwyd yn flaenorol, nid oes gennym ddyletswydd yn unig fel prifysgol i roi gwybodaeth am ein disgyblaeth, ond i arwain myfyrwyr a rhoi’r sgiliau angenrheidiol iddynt ar gyfer eu dyfodol, nid yn unig yn broffesiynol ond hefyd fel dinasyddion byd newidiol wedi’i globaleiddio. Mae ein priodoleddau graddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd yn rhoi ffocws ar sgiliau allweddol sy’n cael eu cydnabod fel rhai na ellir eu gwahanu oddi wrth ryngweithio bob dydd, perthnasoedd, timau a sefydliadau, waeth beth fo’r sector neu’r yrfa. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael eu hymgorffori fwyfwy yn y gweithle.

Priodoleddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd

I gael gwybod mwy am ein gwaith ar gyflogadwyedd, darllenwch ein tudalennau Cyflogadwyedd yn y Pecyn Cymorth.

Mae cysylltiadau clir rhwng priodoleddau graddedigion a’r gwerthoedd a’r sgiliau sy’n seiliedig ar gynhwysiant. Er enghraifft, gellir datblygu sgiliau craidd: bod yn gymwys yn ddiwylliannol er mwyn gweithio mewn grwpiau amrywiol a gallu ymgysylltu ac ymateb i bynciau anghyfforddus a dadleuol gyda meddylfryd agored a chynhwysol gyda gwerthoedd empathi a pharch.
Wrth feddwl am ddatblygu arweinwyr cynhwysol effeithiol, mae angen i ni ganolbwyntio ar yr ymddygiadau a’r nodweddion y mae angen iddynt eu harddangos. Felly, po fwyaf yr ydym yn cefnogi myfyrwyr i ymarfer yr ymddygiadau hyn ac yn eu hamlygu i sefyllfaoedd cadarnhaol yn ein hamgylchedd, y mwyaf y gallwn fireinio a meithrin ymddygiadau yr hoffem eu croesawu. Pan fyddwn yn ystyried ein cwricwlwm, mae angen i ni felly fyfyrio ar sut rydym yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ymarfer a gwella’r sgiliau hyn mewn amgylchedd sy’n ddiogel i bob myfyriwr.

Astudiaeth Achos

Rhaglen yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Ryngbroffesiynol (ISLA)

Mae'r Ysgol Gofal Iechyd mewn cydweithrediad â'r Ysgol Ddeintyddiaeth yn darparu cyfleoedd cwricwla ychwanegol i fyfyrwyr ddatblygu fel arweinwyr yn y dyfodol sy'n dangos egwyddorion cynhwysol arweinyddiaeth dosturiol yn benodol.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n hadran archwiliad dyfnach.

 

Globe

Gweithgaredd Myfyrio

1. A yw myfyrwyr yn cael eu cefnogi i allu adnabod ac ymarfer y sgiliau mewn cyfathrebu a chydweithio cynhwysol mewn gweithgareddau a thasgau?

2. A yw myfyrwyr yn cael cymorth i ddeall amrywiaeth wrth weithio gyda'i gilydd?

 

Archwilio’n Ddyfnach

ADDYSGEGAU EMPATHETIG: Defnyddio’r celfyddydau perfformio, dulliau ethnograffig a dylunio cyfranogol i ddatblygu ffyrdd cynhwysol o feddwl.
Crynodeb o'r Prosiect
Roedd Addysgegau Empathetig yn brosiect gan Academi Addysgu a Dysgu Prifysgol Caerdydd yn y thema 'Datblygu Ffyrdd Cynhwysol o Feddwl', ac yn brosiect a ariannwyd gan y Gronfa Arloesedd Addysg.
Yn gyffredinol, eir ar drywydd hygyrchedd ym maes dylunio adeiladau am ei fod gyfystyr â chydymffurfio â rheoliadau adeiladu, ac felly hefyd y’i dehonglir, ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar anableddau corfforol. Mae anghenion defnyddwyr ag anableddau gweladwy ac anweledig yn aml yn cael eu hanwybyddu. Mae dylunio cynhwysol yn aml yn ôl-ystyriaeth yn y broses ddylunio, yn enwedig mewn gofodau celfyddydau perfformio.
Yn y prosiect hwn, gwahoddwyd y myfyrwyr i archwilio'n uniongyrchol anghenion perfformwyr ag anableddau corfforol a/neu ddysgu trwy gymryd rhan mewn gemau ac arbrofion yn ymwneud â chelfyddydau perfformio. Bu iddynt weithio ar friff byw, ymgysylltu â grŵp drama cynhwysol, a chynnig dyluniadau llwyfan ar gyfer sgript lle roedd mynediad a chynhwysiant yn offer creadigol ac yn ysgogi symudiadau ar y llwyfan.
Roedd y prosiect yn dadlau o blaid integreiddio strategaethau dysgu perfformio mewn addysg dylunio fel modd o gyflawni dealltwriaeth empathetig ymhlith rhanddeiliaid dylunio, ond hefyd fel cyfrwng addysgegol dros greu ffyrdd o feddwl cynhwysol mewn addysg dylunio a thu hwnt.

Roedd y prosiect yn ymhelaethu ar ymchwil blaenorol ac sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan y 2 ymgeisydd allweddol, ar bwnc creadigrwydd fel math o newidoldeb mewn dysgu dylunio (Ntzani 2020, Ntzani a Banteli 2023) ac roedd yn ymhelaethu ar arbrawf addysgegol Amalia Banteli yn uned Stiwdio Fertigol Ysgol Pensaernïaeth Cymru 2020. : Mynediad a Chynhwysiant.

Canlyniadau ac effaith
Mae'r prosiect Addysgegau Empathetig, yn ogystal â’r Stiwdio Fertigol Mynediad a Chynhwysiant, wedi dangos bod creu cysylltiadau empathetig rhwng myfyrwyr ac aelodau o gymunedau anabl yn gwneud i fyfyrwyr fyfyrio'n feirniadol ar gynwysoldeb fel gwerth yn eu disgyblaeth. Bu i fyfyrwyr pensaernïaeth a gymerodd ran yn y prosiect ganfod bod eu hethos dylunio yn mynd y tu hwnt i’r cysyniad o bwrpas pensaernïol ac estheteg, tuag at greu gofod a ffurfiau o gyfathrebu sy'n cynnwys pawb. Fe wnaeth y cydweithrediad ar brosiect byw a’r cynllun cyfnewid adnoddau creadigol ganslo agweddau nawddoglyd tuag at ddylunio cyfranogol ac ymgysylltu â'r cyhoedd, a chaniatáu i'r holl aelodau oedd yn gysylltiedig â’r prosiect gyfrannu'n hyderus at wahanol rannau ohono.
Fideo: Myfyrdodau myfyrwyr ar y prosiect Addysgeg Empathetig
Mae’n ddiddorol nodi bod y myfyrwyr wedi ehangu eu hystyriaethau ynghylch cynwysoldeb y tu hwnt i anableddau’r grŵp drama y buont yn gweithio ag ef, i gynnwys anableddau eraill nad oedd ganddynt brofiad ohonynt, yn ogystal ag ystyriaethau diwylliannol ac ieithyddol. Amlygwyd hyn trwy ychwanegu cyfieithiadau Cymraeg i’r testun a ddefnyddiwyd yn eu setiau llwyfan awgrymedig, ac ychwanegu Braille ar wrthrychau a grëwyd ganddynt yn rhan o'u dyluniad set lwyfan.
.
Nid trwy ddod â'r ddau grŵp at ei gilydd yn unig (y myfyrwyr a'r grŵp drama) y ffurfiwyd cysylltiadau empathetig, ond trwy brofiadau cyfnewid creadigol rhwng y ddau grŵp. Ymunodd y myfyrwyr â'r perfformwyr mewn ymarferion cynhesu ac ymarferion llawn, a chafodd y perfformwyr gymryd rhan mewn ymarferion dylunio a braslunio. Nod yr ymarferion 'rho dy hun yn fy esgidiau i' oedd meithrin dealltwriaeth pob unigolyn creadigol a hwyluso’r broses o gyfnewid gwybodaeth a rhannu heriau dechrau mentrau creadigol. Creodd yr arferion hyn gysylltiad empathetig, gan atgoffa pawb oedd yn cymryd rhan am natur ryfedd ac anghyfforddus cyfarfyddiadau creadigol.

Adeiladu Empathi trwy ddylunio cyfranogol: Ymarferion braslunio lle bu myfyrwyr ac aelodau Hijinx Odyssey yn ymchwilio i ffatrïoedd, gwahanol hunaniaethau ysbrydion a mannau cysurus i weithwyr ffatrïoedd gael seibiant.

Meithrin Empathi trwy ddylunio cyfranogol: Ymarferion braslunio lle bu myfyrwyr ac aelodau Hijinx Odyssey yn ymchwilio i ffatrïoedd, gwahanol hunaniaethau ysbrydion a mannau cysurus i weithwyr ffatrïoedd gael seibiant.

Meithrin Empathi trwy waith byrfyfyr theatrig: Ymarferion byrfyfyr gyda Hijinx Odyssey yn ymchwilio i ffatrïoedd.

Fideo: Meithrin Empathi trwy waith byrfyfyr theatrig gyda Hijinx Odyssey

 

Meithrin Empathi trwy ddylunio cyfranogol: Myfyrwyr yn cyflwyno eu syniadau cychwynnol ar ddyluniad y set i aelodau Hijinx Odyssey i gael eu hadborth.

Heriau

Rheoli Ymgysylltiad y Myfyrwyr ac Amseru gweithgareddau'r prosiect
Y brif her oedd yn ein hwynebu yn ystod y prosiect oedd ymgysylltiad y myfyrwyr ac amseru’r gweithgareddau gan ystyried eu llwyth gwaith academaidd. Nid oedd y prosiect yn rhan o'r cwricwlwm; roedd cyfraniad y myfyrwyr yn ddewisol ac nid oedd asesiad yn gysylltiedig â'r prosiect. O ganlyniad i hyn, roedd angen cynllunio amser gweithgareddau'r prosiect yn ofalus er mwyn osgoi cyfnodau prysur i'r myfyrwyr.
Pwysigrwydd Hyblygrwydd mewn Prosiectau Briff Byw gyda Phartneriaid Allanol
Roedd gweithio ar friff byw a chyda phartneriaid allanol yn wers werthfawr iawn i fyfyrwyr, ond roedd gofyn am hyblygrwydd wrth addasu gofynion y prosiect wrth i'r prosiect fynd rhagddo. Mae hyn yn rhywbeth sydd angen ei bwysleisio fel rhan o’r broses ddysgu wrth weithio ar friff byw a gyda phartneriaid allanol, fel bod y myfyrwyr yn gwybod y gall hyn fod yn her. Serch hynny, bydd yn ychwanegu at y dysgu trwy’r prosiect.

Prif gasgliadau a'r camau nesaf

Er bod manteision uniongyrchol amlwg i bensaernïaeth fel cwrs creadigol/yn seiliedig ar ddylunio, ceir buddion trosglwyddadwy a mesuradwy i gyrsiau eraill ag elfennau tebyg o ymarfer. Wrth i’r prosiect ehangu i ymchwilio i berfformio a chyfryngau addysgeg creadigol fel ffyrdd o hybu dylunio empathetig a chynhwysol, gall yr allbynnau fod o fudd i gyrsiau ledled y brifysgol sy’n dymuno rhoi profiad dysgu mwy creadigol, arloesol a chynhwysol ar waith i fyfyrwyr.
O gymryd rhan gyda’i gilydd, ac o gyfnewid gwybodaeth rhwng myfyrwyr a rhanddeiliaid anacademaidd mewn gweithgareddau creadigol, mae modd cynnig profiad dysgu boddhaus ac atyniadol iawn i bawb. Gall ymdreiddio i’r ffordd rydym yn rhannu ac yn dadlau gwerthoedd gyda’n myfyrwyr, a chreu newid sylweddol yn y ffordd y gallwn feithrin meddylfryd cynhwysol at ddibenion addysg ac ymarfer.
Mae’r prosiect Addysgeddau Empathetig eisoes wedi ein hysbrydoli i ailgynllunio ein rhaglenni. Mae myfyrwyr wedi cynnig y dylid cynnwys gwerthoedd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yn glir yn Amcanion Dysgu ein modiwlau newydd. Mae’n sbarduno sgwrs ar rwymedigaethau dinesig a chymdeithasol addysg uwch a phroffesiynau achrededig. Mae hefyd wedi rhoi bywyd i dîm ifanc o ymchwilwyr sy'n gweithio ar grantiau ymchwil a cheisiadau ariannu gyda’r nod o ledaenu gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y tu hwnt i ffiniau diogel addysg ddylunio a’r maes ymarfer cysylltiedig.

Ambell awgrym defnyddiol

1. Gweithio gyda gwerthoedd ac offer addysgegol clir
Un peth allweddol yw peidio â gweithio gydag amcanion dysgu mewn golwg, ond gyda gwerthoedd ac egwyddorion addysgeg pan fyddwch chi'n dewis neu'n llunio prosiect neu weithgaredd tebyg. Gall hyn eich helpu i weithio neu ddyfeisio prosiect sy'n cynnig mewnwelediadau a gwerth y tu hwnt i ffiniau eich disgyblaeth.
Ar yr un pryd, mae'n bwysig bod y gwerthoedd a'r egwyddorion hynny â ffocws penodol ac yn glir, yn hytrach na bod yn rhai cyffredinol ac eang. Mae'n anodd cael cydbwysedd, ond yn aml mae'r dewis o offer yn help i wneud pethau'n fanwl gywir. Er enghraifft, i ni, gwerthoedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac addysgeg perfformio oedd yr egwyddorion i ddylunio’n effeithiol.
2. Cynllunio Astudiaethau Achos Cynhwysol i gael Aelodau Amrywiol ar y Prosiect
Mae angen i astudiaethau achos gynnwys staff a myfyrwyr sydd â dyheadau academaidd ac anghenion gyrfa amrywiol. Mae hyn yn gofyn i chi ddatblygu’r briff yn ofalus ac amserlennu'r prosiect i sicrhau bod holl aelodau'r prosiect yn deall ac yn gallu ymgysylltu â'r prosiect yn ôl eu gallu.
3. Ymgysylltu â Chymunedau Allanol i Wella Effaith y Prosiect ac Adeilad Empathi
Dylech ystyried y cymunedau allanol sy'n ymwneud â gwerthoedd y prosiect. Mae angen i chi ddiffinio a yw'r prosiect yn berthnasol i gynulleidfaoedd gwahanol, ac os nad ydyw, mae angen i chi ystyried pwy rydych chi'n dymuno i elwa o’r prosiect a sut bydd yn cael effaith gadarnhaol. Mae cynnwys cymunedau yr effeithir arnynt yn y prosiect yn cynyddu effaith y prosiect yn fawr, ac yn galluogi adeiladu cysylltiadau empathetig rhwng y cymunedau hyn a'r myfyrwyr.
4. Croesawu Dysgu Trwy Ganlyniadau Anfwriadol
Cofiwch fod prosiectau/gweithgareddau o'r fath yn gyfrwng dysgu i bawb, hyd yn oed pan nad yw'r canlyniadau a ragwelir yn rhai delfrydol. Roedd hyn yn sicr yn wir i ni pan welsom uchelgais ein myfyrwyr ym maes dylunio yn newid i greu lle ar gyfer moeseg a pholisi cyfranogiad.
5. Creu Amgylchedd Diogel ac Agored
Sicrhewch fod gofod ac amser eich prosiect/gweithgaredd yn un diogel i bawb dan sylw; i fynegi barn, i ymyrryd yn y broses a thrafod y targedau – yn enwedig wrth weithio gyda briff byw a phartneriaid allanol. Mae hyn yn gofyn am berthnasoedd dysgu sy’n seiliedig ar ddidwylledd a gonestrwydd. Pe tawn ni’n gwybod yn iawn ar beth rydym yn gweithio, fyddai dim rhaid i ni arbrofi arno.

Prif Ymchwilydd: Amalia Banteli, Darlithydd yn ARCHI
Cyd-arweinydd y prosiect: Dimitra Nzani, Uwch Ddarlithydd yn ARCHI
Cydweithiwr ar y prosiect: Ed Green, Uwch Ddarlithydd yn ARCHI

Prosiect ISLA – Rhaglen yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Ryngbroffesiynol

Crynodeb o'r Prosiect

Beth oedd pwnc y prosiect?

Roedd gwerthuso effeithiolrwydd rhaglen yr Academi Arweinyddiaeth Myfyrwyr Ryngbroffesiynol (ISLA) yn brosiect a ariennir gan Arloesedd Addysg gan Academi Addysgu a Dysgu Prifysgol Caerdydd o fewn y thema 'Datblygu Meddyliau Cynhwysol'. Mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd mewn cydweithrediad â'r Ysgol Ddeintyddiaeth wedi datblygu academi arweinyddiaeth ryngbroffesiynol ar gyfer myfyrwyr ar draws rhaglenni gofal iechyd a deintyddiaeth israddedig. Y nod yw darparu cyfleoedd allgyrsiol cynhwysol i fyfyrwyr ddatblygu fel arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol a bod yn hyderus wrth ddangos egwyddorion arweinyddiaeth dosturiol. Datblygwyd y rhaglen mewn cydweithrediad â phartneriaid clinigol, myfyrwyr, cleifion a defnyddwyr cleifion, ac academyddion a chafodd ei harwain gan yr Athro Teena Clouston a Dr Alison H. James, Darllenydd mewn Arweinyddiaeth Gofal Iechyd.
Dechreuodd y prosiect ym mis Hydref 2023 ac fe'i cwblhawyd ym mis Gorffennaf 2024 ym mlwyddyn beilot y rhaglen. Ar ddechrau’r rhaglen ISLA, roedd saith myfyriwr wedi gwneud cais a chael eu derbyn ar y rhaglen a chwblhaodd pum myfyriwr. Gofynnwyd i fyfyrwyr gwblhau holiaduron adborth ar ddechrau, canol a diwedd y rhaglen, felly tra cafodd saith eu cwblhau i ddechrau, cwblhawyd yr holiaduron diwedd a chanol gan bum myfyriwr. Cyflwynwyd yr holl adborth yn ddienw a'i gasglu gan y cynorthwyydd gwerthuso cyflogedig, Anaxia Uthaya Kumar, a gyflogwyd trwy'r siop swyddi myfyrwyr.
Nod y prosiect gwerthuso oedd dal data er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn brofiad dysgu effeithiol i fyfyrwyr, gan alluogi a chefnogi eu datblygiad arweinyddiaeth gynhwysol. Darparwyd siaradwyr gwadd, Setiau Dysgu Gweithredu a hyfforddi unigol, yn ogystal â dulliau creadigol ar gyfer myfyrio a strategaethau dysgu, rhwng mis Hydref 2023 a mis Mehefin 2024. Trefnwyd hyfforddi gan y myfyriwr unigol a'i hyfforddwr, tra oedd sesiynau eraill yn cael eu cyflwyno ar y campws dros bedwar hanner diwrnod, gyda phrynhawn wedi’i neilltuo ar gyfer cyflwyniad terfynol prosiectau. Yr amcanion oedd casglu adborth gan fyfyrwyr ar wahanol bwyntiau o'r rhaglen, coladu ac adolygu'r data, ei ledaenu drwy gyflwyniad cynhadledd ac astudiaeth achos i'r brifysgol ac yn ehangach, a chymhwyso dysgu trwy adolygu cynnwys, cyflenwi a strwythur y rhaglen ar gyfer carfanau yn y dyfodol. Y canlyniadau a ddymunir a osodwyd ar ddechrau'r rhaglen oedd y byddai myfyrwyr yn datblygu ac yn dangos:

Mwy o ymwybyddiaeth o adnoddau a chyfleoedd i ddatblygu hunanymwybyddiaeth, hunanweithrediad a rhinweddau arweinyddiaeth unigol
Mwy o ymwybyddiaeth o nodau personol ar gyfer datblygu arweinyddiaeth
Hunanymwybyddiaeth uwch a deallusrwydd emosiynol/cymdeithasol
Gwerthfawrogiad uwch o effeithiolrwydd gweithio rhyngbroffesiynol a chydweithredol
Mwy o hyder wrth gymhwyso dulliau arweinyddiaeth tosturiol a seiliedig ar werthoedd yn ymarferol

Yr edau sy'n rhedeg trwy gydol y canlyniadau a ddymunir yw datblygu sgiliau arwain cynhwysol a thosturiol a fydd yn arfogi myfyrwyr yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol wrth weithio mewn cymunedau cleifion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol amrywiol.

Canlyniadau ac effaith

Beth oedd yr effaith?
Beth welsoch chi'n digwydd i ymgysylltiad, canlyniadau, cyrhaeddiad neu werthusiadau myfyrwyr? Beth weithiodd yn dda a beth oedd yn gweithio'n llai da?

Dechreuodd y rhaglen ym mis Hydref 2023 ac fe'i cwblhawyd ym mis Gorffennaf 2024. Gan ddefnyddio model New World Kirkpatrick (2021), offeryn a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gwerthuso a dadansoddi canlyniadau rhaglenni addysgol, ystyriwyd pedair lefel werthuso: Adwaith, Dysgu, Ymddygiad, a Chanlyniadau.  Gan gymhwyso dull Bowen (2017), datblygwyd y rhaglen gan ddefnyddio'r 'dyluniad am yn ôl'.

Casglwyd adborth ar ddechrau, canol a diwedd y rhaglen. Cwblhaodd saith myfyriwr yr holiadur cyntaf ond pump yn unig a gwblhaodd yr holiadur canol a diwedd. Cyflwynwyd yr holl adborth yn ddienw, a dyluniwyd holiaduron i gasglu adborth mewn dau faes.

Yn gyntaf, gofynnwyd i fyfyrwyr roi sylwadau ar berthnasedd ac ymgysylltiad cynnwys a dulliau cyflwyno'r sesiynau a bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i adolygu'r rhaglen ar gyfer y garfan nesaf. Adolygwyd holl gynnwys sesiwn yn gadarnhaol, ond gwnaeth myfyrwyr sylwadau buddiol ar hyd a chyflwyniad rhai sesiynau, a bydd ymateb i hyn wrth ddylunio rhaglenni yn y dyfodol.

Yn ail, gofynnwyd i fyfyrwyr adborth ar eu hyder, eu dysgu a'u datblygiad mewn arweinyddiaeth drwy'r rhaglen.

O adborth a gafodd ei gasglu ar y pwynt canol, disgrifiodd pob myfyriwr drawsnewidiad yn eu safbwyntiau ar eu harweinyddiaeth bersonol trwy gydol y rhaglen, gan adrodd am dwf personol a chynnydd mewn hyder. Roedd hyn yn aml yn cael ei briodoli i bwyslais y rhaglen ar hunan-gred a sylweddoli bod arweinyddiaeth yn digwydd ar bob lefel o sefydliad, yn hytrach na safle hierarchaidd. Adroddodd myfyrwyr yn ymwneud ag arweinyddiaeth fel sgìl a chysyniad hygyrch, yn hytrach na rhywbeth pell, na ellir ei chyflawni neu a gedwir ar gyfer unigolion dethol.

Yn gyffredinol, adroddodd pob myfyriwr a gwblhaodd y rhaglen brofiad dysgu a datblygu cadarnhaol. Mae'r prosiect gwerthuso wedi darparu adborth gwerthfawr gan fyfyrwyr ar eu profiad, eu dysgu a'u heffaith wrth symud ymlaen fel myfyrwyr gofal iechyd a gweithwyr proffesiynol yn y dyfodol. Mae'r data hefyd wedi caniatáu inni ymateb i awgrymiadau myfyrwyr ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol.

Mae'r prosiect wedi darparu data gwerthfawr sy'n dangos profiadau dysgu myfyrwyr ar flwyddyn beilot y rhaglen ISLA ac mae'r data yn ei sefydlu fel profiad dysgu gwerthfawr i fyfyrwyr.

Adborth gan fyfyrwyr:

“Mae'r rhaglen wedi gwneud y cysyniad o 'fod yn arweinydd' yn llawer mwy hawdd ei ddeall, gan bwysleisio'r agwedd ddynol. Trwy hyn, rwyf wedi cael mewnwelediad i amrywiol ymddygiadau arweinyddiaeth a'r heriau sy'n gynhenid mewn rolau arweinyddiaeth. O ganlyniad, rwyf bellach yn teimlo'n fwy sicr am fy nghyfraniadau posibl, mewn theori ac ymarfer.”

“Roedd cymryd rhan ym mhrosiect ISLA wedi atgyfnerthu'n sylweddol fy hyder mewn cysyniadu a meithrin syniadau effeithiol.”

“Mae’r prosiect ISLA wedi bod yn gyfle gwych i dreulio amser ar hunanddatblygiad, ystyried syniadau newydd gyda phobl o’r un anian, a chlywed siaradwyr ysbrydoledig o wahanol feysydd gofal iechyd! Rydw i wedi mwynhau gwneud cysylltiadau personol a phroffesiynol gyda myfyrwyr a staff o wahanol ddisgyblaethau y gwn y byddant yn darparu rhwydwaith cefnogi anhygoel wrth i ni ddechrau ein gyrfaoedd yn y dyfodol.”

Heriau

Ar y cyfan, cyflawnwyd y prosiect yn llwyddiannus o fewn yr amserlen. Roedd meysydd cyfyngu yn cynnwys dau fyfyriwr a roddodd y gorau i’r prosiect, a oedd yn lleihau ein sampl i bum myfyriwr, ac ymddeoliad aelod o staff, gan leihau faint o amser cwblhau a lledaenu. Fodd bynnag, mae'r prosiect wedi'i gwblhau, cyflwynwyd crynodebau i'w lledaenu, ac mae cynlluniau i'w gyflwyno i'w gyhoeddi erbyn diwedd 2024

Prif gasgliadau a'r camau nesaf

Mae canfyddiadau'r prosiect yn hawdd eu trosglwyddo ar draws disgyblaethau gan fod y prosiect wedi'i gynllunio ar theori a thystiolaeth a methodolegau addysgol cydnabyddedig megis dysgu drwy brofiad a myfyrio. Mae’r cefndir damcaniaethol i ddatblygiad ISLA yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol ar ddatblygu arweinyddiaeth, pwysigrwydd hyn o fewn y gweithlu gofal iechyd, a gofynion rheoleiddio ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (James, 2021; James ac eraill, 2022; West ac eraill, 2022). Gan adeiladu ar ymchwil Clouston (2017) a James (2021), mae'n cydnabod profiadau myfyrwyr o arweinyddiaeth, a gall y rhesymu emosiynol sy'n deillio o hynny lunio sut mae unigolion yn gweld eu datblygiad arweinyddiaeth eu hunain ac yn canolbwyntio ar fyfyrio a chysyniadoli.  Mae Setiau Hyfforddi a Dysgu Gweithredu (Revens, 1980) yn cefnogi myfyrwyr ac yn mynd i'r afael â'r meysydd canlynol, y canfuwyd eu bod yn ddylanwadol (James, 2021):

Disgwyliadau a nodweddion diffiniol arweinyddiaeth

Gwerthoedd proffesiynol a heriau arwain mewn diwylliannau gofal iechyd

Hunanymwybyddiaeth, deallusrwydd emosiynol ac atgyrchedd

Dwyn cyd-destunau dysgu ynghyd – clinigol a damcaniaethol

Patrymau ymddygiad a chynrychioli arweinyddiaeth

Cyd-destunau diwylliannol a chymdeithasol sefydliadau

I wneud y profiad dysgu yn ystyrlon ac yn newydd, anogir myfyrio i ddealluso a chreu dysgu trwy gysyniadoli a dadansoddi amodau diwylliannol a chymdeithasol i feithrin dysgu ystyrlon (Clouston, 2018, 2017). Mae pwysigrwydd profiad a dysgu drwy brofiad yn arwyddocaol gan ei fod yn effeithio ar ganfyddiadau myfyrwyr o'u hunan fel arweinwyr gofal cleifion. Gall creu amser ar gyfer gwerthuso a myfyrio ar brofiad gefnogi myfyrwyr i ddatblygu eu dull a'u datblygiad personol ymhellach (Dewey, 1989; James ac eraill, 2022).

Mae datblygu'r Academi Arweinyddiaeth wedi bod yn ychwanegiad gwerthfawr at brofiad myfyrwyr ac mae ymgymryd â'r gwerthusiad wedi caniatáu inni fwrw ymlaen ag adborth myfyrwyr i wella'r Academi ar gyfer myfyrwyr yn y dyfodol. Mae'r garfan 24/25 wedi dechrau ac mae newidiadau a awgrymwyd wedi cael eu gweithredu. Mae allbynnau yn cynnwys cyflwyniadau rhyngwladol o'r gwerthusiad, ac mae myfyrwyr sydd wedi cwblhau'r rhaglen wedi cyflwyno prosiectau mewn cynhadledd. Bydd gwerthusiadau parhaus yn cael eu cwblhau er mwyn parhau i wella'r profiad hwn i fyfyrwyr yn y dyfodol.

 

 


Ble Nesaf?

Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau 

Rydych chi ar dudalen 5 o 9 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd

2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu 
7. Hygyrchedd Digidol

8. Anabledd a Dyslecsia

9. Myfyrwyr Rhyngwladd