Cyflwyniad
Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
Gellir ymdrin ag addysg gynhwysol drwy ystyried y dull Cynllunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL), gan mai bwriad y ddau yw creu amgylchedd dysgu wedi’i gynllunio ar gyfer amrywiaeth o ddysgwyr, yn hytrach na gwneud addasiadau’n ôl-weithredol i ddarparu ar gyfer myfyrwyr penodol (Advance HE 2018).
Mae Cynllunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) yn set o egwyddorion ar gyfer datblygu’r cwricwlwm sy’n rhoi cyfle cyfartal i bob unigolyn ddysgu. Nod UDL yw sicrhau galluogedd pwrpasol, myfyriol, dyfeisgar, dilys a strategol sy’n canolbwyntio ar weithredu (CAST 2024). Mae UDL yn darparu glasbrint ar gyfer creu nodau hyfforddi, dulliau, deunyddiau ac asesiadau sy’n gweithio i bawb – nid un datrysiad sy’n addas i bawb ond yn hytrach ymagwedd hyblyg sy’n golygu y gellir addasu dysgu ar gyfer unigolion ac anghenion unigol (UDL on Campus, 2022).
Felly, mae UDL yn fframwaith ar gyfer sicrhau amgylcheddau dysgu sy’n hygyrch, yn gynhwysol, yn deg ac yn heriol i bob dysgwr. Yn y bôn, nod UDL yw cefnogi galluogedd ymhlith dysgwyr: y gallu i fynd ati i wneud penderfyniadau er mwyn cyflawni nodau dysgu. Nod UDL yw newid sut mae’r amgylchedd wedi’i gynllunio yn hytrach na thybio mai diffyg yng ngallu’r dysgwr yw’r broblem. Mae’r tabl yn y Ffigur isod yn cyflwyno amlinelliad o Ganllawiau Cynllunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu 3.0.

Ffigur: Canllawiau UDL 3.0. (Mae fersiwn o’r tabl uchod y gellir ei ddarllen ar sgrîn ar gael ar y dudalen CAST hon.)
Mae Canllawiau UDL wedi’u trefnu’n llorweddol ac yn fertigol. Yn fertigol, trefnir y Canllawiau yn ôl tair egwyddor UDL: ymgysylltu, cynrychioli, a gweithredu a mynegi. Mae’r egwyddorion wedi’u rhannu’n Ganllawiau, ac mae i bob un o’r Canllawiau hyn ystyriaethau cyfatebol sy’n gwneud awgrymiadau manylach.
Mae’r Canllawiau hefyd wedi’u trefnu’n llorweddol.
- Mae rhes ‘Mynediad’ yn cynnwys y canllawiau sy’n awgrymu ffyrdd o wella mynediad i’r nod dysgu drwy gynllunio opsiynau ar gyfer: croesawu diddordebau a hunaniaethau, canfyddiad, a rhyngweithio.
- Mae rhes ‘Cymorth’ yn cynnwys y canllawiau sy’n awgrymu ffyrdd o gefnogi’r broses ddysgu drwy gynllunio opsiynau ar gyfer: ymdrech a dyfalbarhad, iaith a symbolau, a mynegi a chyfathrebu.
- Yn olaf, mae rhes ‘Swyddogaeth Weithredol’ yn cynnwys y canllawiau sy’n awgrymu ffyrdd o gefnogi swyddogaeth weithredol dysgwyr drwy gynllunio opsiynau ar gyfer: gallu emosiynol, meithrin gwybodaeth, a datblygu strategaethau (CAST 2024).
Mae datblygu addysg gynhwysol drwy UDL hefyd yn golygu bod angen rhoi sylw i addysgeg sy’n cynnal diwylliant, sy’n ystyried yr angen i amrywio a dad-drefedigaethu’r cwricwlwm, er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn adnabod eu hunain yn y cwricwlwm ac yn cael eu cefnogi i fod yn nhw eu hunain a gwireddu eu potensial.
Mae UDL yn awgrymu ei bod yn hanfodol ystyried sut mae deinameg strwythurol yn dylanwadu ar galluogedd dysgwyr. Mae cynllunio amgylcheddau dysgu sy’n cefnogi galluogedd dysgwyr yn golygu bod angen ystyried deinameg pŵer yn barhaus, drwy herio strwythurau sy’n barnu mai’r addysgwr yw’r unig awdurdod a chreu lle i ddysgwyr wneud synnwyr o gynnwys yn unigol ac ar y cyd drwy ryngweithio a myfyrio. At hynny, mae cefnogi galluogedd dysgwyr yn golygu bod angen cydnabod dimensiynau diwylliant a hunaniaeth ac ystyried ym mhle y gallai rhagfarn atal dysgwyr rhag gallu rhoi eu galluogedd ar waith yn llawn (CAST 2024).
Cofiwch: Mae cynhwysiant yn broses. Ni fydd pob un o’r pwyntiau bwled yn berthnasol i’n disgyblaeth, ein haddysgu, neu ein nodweddion amrywiaeth myfyrwyr. Gall hyd yn oed un newid bach, megis sicrhau cynrychiolaeth amrywiol yn eich adnoddau, trefnu bod deunyddiau ar gael 48 awr ymlaen llaw, darparu geirfa, neu ddarparu deunyddiau dal i fyny a recordiadau ar gyfer y rhai sy’n colli cyfleoedd i ddysgu mewn ffordd gymdeithasol, newid profiad ein myfyrwyr. Cynlluniwch ar gyfer enillion cyflym a nodau tymor hwy!
Ble Nesaf?
Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd
2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu
7. Hygyrchedd Digidol