Skip to main content

Addysgeg wyllt

Beth yw addysgeg wyllt?

Ffordd o ailystyried ein perthynas â phrofiadau dysgu yw addysgeg wyllt. Eu nod yw cefnogi dysgwyr i ailystyried yn feirniadol ystyr dysgu mewn cyd-destunau gwahanol a sut mae dysgu’n dod i’r amlwg yn y mathau o berthynas rhwng y byd dynol a’r byd y tu hwnt i’r ddynolryw. Mae addysgeg wyllt yn ehangu ar feithrin dysgu o brofiad yng ngwaith John Dewey ond yn pwysleisio natur a phrofiadau byd natur sy’n gyd-athro yn y broses ddysgu, gan ystyried yr hyn mae’n ei olygu i ddysgu yn ein disgyblaethau a sut mae hynny’n ein cysylltu â’r amgylchedd ehangach. Gan ddeillio o’i wreiddiau etymolegol, mae’r term ‘addysgeg wyllt’ yn awgrymu addysgeg sy’n cwmpasu rhyw lun ar hunanewyllys, sef addysgeg sy’n ewyllysio ei hun ac yn deall bod sawl ewyllys eisoes yn cystadlu â’i gilydd bob amser i godi eu llais a gweithredu: gan gynnwys hunanewyllys yr athro, hunanewyllys y myfyrwyr a hunanewyllys y tir, neu fyd natur yn ehangach (Quay a Jensen 2018). Bydd addysgeg wyllt felly yn ymgysylltu’n bwrpasol â’r ewyllysiau hynny y tu

Wrth gysylltu theori ag ymarfer, yn sgil addysgeg wyllt crëwyd chwe maen prawf allweddol (a ddisgrifir isod) i atgoffa, herio a bod yn lle i ddychwelyd ato i addysgwyr sydd â diddordeb mewn arbrofi ag addysgeg wyllt. Maen nhw’n cynnig cwestiynau y gall addysgwyr eu gofyn bob dydd er mwyn atgoffa eu hunain o’r hyn maen nhw’n ceisio ei wneud yn eu gweithgareddau beunyddiol. I rai, bydd addysgeg wyllt yn cydnabod yr hyn y maen nhw eisoes yn ei wneud. I bobl eraill hwyrach y bydd yn ysbrydoli’r broses o wylltio eu harfer, gan roi’r cyfle iddyn nhwthau a’u myfyrwyr fynd i wylltni lleoedd mewn ffordd ddyfnach (Blenkinsop, Morse, a Jickling 2022).

Chwe phrif faen prawf Addysgeg Wyllt yw:

1. Asiantaeth ddynol a rôl byd natur yn gyd-athro

2. Gwylltni a syniadau heriol am reolaeth

3. Cymhlethdod, yr anhysbys a digymhellrwydd

4. Lleoli’r gwyllt

5. Amser ac ymarfer

6. Newid diwylliannol

Yn aml, bydd yr awydd am reolaeth yn dod i’r amlwg yn ein sefydliadau addysgol mewn ffyrdd sy'n gwneud pethau'n fesuradwy, yn arferol, yn gyfanfydol, gan gyfyngu yn y pen draw ar ffyrdd o fod. Mae'n dod i’r amlwg mewn sawl ffordd trwy gydol addysg - gan wthio yn aml arferion addysgol i ffyrdd rhesymolaidd penodol o weld y byd (Morse, Blenkinsop a Jickling, 2021). Mae addysgeg wyllt yn caniatáu ffordd o gwestiynu hyn ac yn cefnogi llwybrau i ddysgwyr ddatblygu sgiliau, mathau o wybodaeth a phrofiadau gwahanol sy'n caniatáu iddyn nhw ddatblygu ffordd amlweddog o weld, gweithredu a bod yn y byd.

Mae addysgeg wyllt yn cefnogi, yn gwella ac yn datblygu’r broses o fyfyrio mewn profiadau dysgu, yn enwedig mewn perthynas â deall a datblygu ein perthynas y tu hwnt i’r ddynolryw. Mae’n cefnogi dealltwriaeth sy'n helpu dysgwyr i ddeall a gweithredu 8 cymhwysedd cynaliadwyedd UNESCO sydd eu hangen er mwyn dysgu a byw yn ystod cyfnod o amlargyfwng.

Ychydig eiriau amdanoch chi eich hun a sut y daethoch chi'n ymwybodol o addysgeg wyllt

Fy enw i yw Dr Kevin Smith, ac rwy’n Ddarllenydd Addysg ac yn arwain y Tîm Addysg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar theori cwricwlwm, dulliau o ailgysyniadu’r cwricwlwm ac ymchwil agos-i’r-ymarferol sy'n dadansoddi profiadau addysgol a'i ddylanwad ar unigolion a chymdeithas. Mae fy modiwl Addysg Radical yn gwahodd myfyrwyr i gamu y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac ystyried sut mae dysgu'n datblygu drwy ein perthynas â lle, ein gilydd a'r byd y tu hwnt i’r ddynolryw. Mae fy niddordeb mewn addysgeg wyllt yn deillio o athroniaeth John Dewey o brofiad, gan gynnwys fy ymchwil barhaus i theori cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar ddysgu seiliedig ar le a dysgu gan ddefnyddio’r corff.

Sut mae addysgeg wyllt wedi cefnogi dysgu eich myfyrwyr? Tystiolaeth o effaith yma – canlyniadau arholiadau/ymgysylltu/sylwadau gan ddysgwyr

Mae sylwadau myfyrwyr mewn adroddiadau ar wella modiwlau’n dangos bod addysgeg wyllt wedi cael effaith drawsnewidiol ar ymgysylltu, dysgu a lles. Roedden nhw’n canmol yn gyson y cyfle i “mynd allan yn yr awyr agored a dysgu’n wahanol,” gan ddisgrifio ein sesiynau ym Mharc Bute yn rhai “anhygoel” a dweud eu bod “yn wahanol i unrhyw fodiwl arall” y maen nhw wedi’i ddilyn. Nododd llawer fod y modiwl wedi creu “amgylchedd dysgu cadarnhaol a chefnogol” lle mae “cysylltiadau go iawn yn ffurfio” a bod addysgeg wyllt wedi helpu i “gwneud addysg yn hwyl eto”. Mae ein holl sesiynau dysgu wedi'u cynllunio i gyd-fynd ag 'asesiadau dilys' y modiwl, ac mae myfyrwyr ac arholwyr allanol wedi gwneud sylw ar natur arloesol yr aseiniadau hyn.

Pa mor heriol oedd addysgeg wyllt i'w gweithredu? Sut y gwnaethoch chi ddechrau arni, a sut rydych chi’n ei defnyddio wrth ymarfer ar hyn o bryd?

Roedd cyflwyno addysgeg wyllt yn heriol i ddechrau. Datblygais i berthynas â Pharc Bute i drefnu lleoliad ar gyfer ein gwaith, a des i’n arweinydd Ysgol Goedwig cymwys gyda chymorth yr Ysgol. Roedd y trefniadau ymarferol yn cynnwys ailystyried amserlenni, rheoli iechyd a diogelwch, ymateb i anghenion myfyrwyr, ac, wrth gwrs, ymdopi â thywydd yr hydref. Yn y sesiynau cynnar ym Mharc Bute, cafodd myfyrwyr eu gwahodd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ‘addysgeg wyllt’ o safbwynt gwyddonwyr cymdeithasol. Drwy brofiadau uniongyrchol, roedd angen iddyn nhw asesu eu profiad a phenderfynu a oedd honiadau sy’n gysylltiedig ag addysgeg wyllt yn amddiffynadwy neu’n ddilys. Dros amser, oherwydd effaith addysgeg wyllt ar ymdeimlad myfyrwyr o les a chymuned, daeth y sesiynau’n ganolog i'r modiwl. Bob blwyddyn ers hynny, mae myfyrwyr wedi disgrifio'r profiadau hyn yn rhai “ysbrydoledig” a “trochol”. Drwy ddatblygu cysylltiadau â phartneriaid cymunedol, creu profiadau cwricwlaidd ar y cyd â myfyrwyr a chynllunio asesiadau’n.

Sut mae addysgeg wyllt wedi newid eich dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu?

Dw i'n dod o Utah yn yr Unol Daleithiau yn wreiddiol, sef lle sy'n enwog am ei olygfeydd rhyfeddol a’i wylltni helaeth. Er pan oeddwn i’n ifanc, cefais fy nenu at yr hyn y gallai byd natur ei ddatgelu y tu hwnt i ddealltwriaeth wybyddol yn unig. A minnau’n addysgwr, rwy wedi ceisio dod o hyd i safbwynt damcaniaethol a allai gyfleu'r profiad hwn o ddysgu yn y byd a’r tu hwnt iddo. Mae addysgeg wyllt, a ddylanwadwyd gan Dewey, Freire a hooks, ynghyd â fy ymchwil agos-i’r-ymarferol ar fyfyrio ar y lle a’r corff—yn cynnig yr union beth hwnnw. Roedd y safbwynt hwn wedi gwella fy nealltwriaeth o sut i hwyluso symud o gwricwlwm sydd o dan ddylanwad epistemoleg (gwybod) i un sydd â'i wreiddiau mewn ontoleg (bod a datblygu i fod). Mae gweithio gyda myfyrwyr i ystyried sut maen nhw'n meddwl, yn ymarfer ac yn datblygu yn eu hamgylcheddau wedi arwain at ddull mwy cyfannol o addysg, un sy'n ymgysylltu â'r person cyfan yn hytrach na thrin dysgu yn broses o drosglwyddo gwybodaeth, a hynny’n unig.

Yn ogystal, mae cipolwg ar waith Laura wedi dyfnhau fy nealltwriaeth o ‘fywydau’ ein myfyrwyr. Roedd y ffordd yr aeth hi ati i fapio hyd a lled ei pherthnasoedd yn dangos y ffyrdd y mae gwybyddiaeth ac ontoleg yn cael eu creu ar y cyd mewn deunyddiau, cyrff, amser a lle. Roedd gweithio gyda’r myfyrwyr hyn i ddeall y perthnasoedd hyn yn well wedi ein helpu i greu addysgeg wirioneddol ddeialogol sydd, yn ein barn ni, yn arwain at brofiadau trawsnewidiol yn yr ystafell ddosbarth (a thu hwnt!)


Dechreuwch drwy fod yn sylwgar, yna symudwch at y bwriad.
Gan ddilyn syniad Dewey o’r “diwedd-mewn-golwg,” gadewch i’r cyfarfyddiad arwain y dysgu yn lle rhagweld ei gasgliad. Canolbwyntiwch ar bresenoldeb, nid cynhyrchiant.

Y byd yn asiant addysgeg.
Nid cynhwysydd i fywyd ddigwydd ynddo yw'r amgylchedd; cyfrwng ydyw y mae bywyd, ac felly, addysg, yn cael ei amlygu drwyddo.

Dylunio’r hyn sy’n anrhagweladwy.
Ewch ati i greu gweithgareddau â digon o strwythur i sicrhau diogelwch, gan ganiatáu amser os bydd pethau’n mynd o chwith, datblygiadau a sypreisys. Weithiau, bydd ansicrwydd yn gynhyrchiol.

Cyfunwch brofiadau ac ymholiadau
Cysylltwch symudiadau a rhyngweithio synhwyraidd a chymdeithasol ag eiliadau strwythuredig o fyfyrio; ysgrifennu, mapio neu sgyrsiau tawel. 

Addysgeg berthynol yw addysgeg wyllt
: Mae’n golygu meithrin gofal a bod yn gyfrifol am ein cydweithwyr, y myfyrwyr, a'r byd y tu hwnt i’r ddynolryw.

Gwnewch y cyfarwydd yn wyllt.
Nid oes rhaid wrth wylltni i fod yn "wyllt". Mae’n bosibl i ardd, cae neu barc fod yn safle i greu addysg berthynol sy’n canolbwyntio ar y corff a’r lle.

Arfer.
Gadewch i theori lywio eich camau, mae camau’n bwydo myfyrdod ac mae myfyrdod yn sail i theori. Fframiwch brofiadau ar ffurf cwestiwn neu syniad arweiniol, yna myfyriwch er mwyn deall a chanfod mewn ffyrdd dyfnach a newydd.

Cydnabod ymarferoldeb.
Cynlluniwch yn gynnar rhag ofn y bydd pethau’n mynd o chwith ac i sicrhau hygyrchedd, cynhwysiant a pholisïau’r sefydliad.

Modelwch fregusrwydd a chwilfrydedd.
Dysgwch ochr yn ochr â’r myfyrwyr; modelwch y ffordd.


• Dechreuwch ar sail bob yn dipyn, gan ddatblygu mewn ffordd glyfar a chwilio am ffrindiau.

Treialwch un sesiwn awyr agored neu synhwyraidd. Cydlynwch y gweithgareddau â deilliannau ac asesiadau modiwlau, ac ewch ati i gydweithio â chydweithwyr i gael eu harbenigedd a’u cefnogaeth.

Dolenni

wildpedagogies.com

Quay, J., Jensen, A. (2018) Wild pedagogies and wilding pedagogies: teacher-student-nature centredness and the challenges for teaching. Journal of Outdoor and Environmental Education21, 293–305 (2018). https://doi.org/10.1007/s42322-018-0022-9

Morse, M., Blenkinsop, S., & Jickling, B. (2021). Wilding educational policy: Hope for the future. Policy Futures in Education, 19(3), 262-268. https://doi.org/10.1177/14782103211006649 (Original work published 2021)

Pedagogy in the Anthropocene: Re-Wilding Education for a New Earth. 2022. Edited by Michael Paulsen, jan jagodzinski, and She M. Hawke. Part of the Palgrave Studies in Educational Futures Collection.

Podcast | wildpedagogies.com