Chwmpasu Rhaglen
Dechrau arni gyda Chwmpasu Rhaglen

Ar gyfer pwy mae’r dudalen hon?
Mae’r dudalen hon ar gyfer unrhyw un sy’n arwain neu’n cefnogi datblygiad rhaglen newydd. Gall hefyd fod o ddiddordeb yn fwy cyffredinol – er enghraifft, os ydych yn ceisio deall yn well sut mae rhaglenni newydd yn cael eu datblygu a’u cymeradwyo.
Croeso i Gwmpasu Rhaglen
Gobeithir y bydd y cyfnod hwn yn rhoi trosolwg i chi o broses gwmpasu a chymeradwyo Cam 1 ac yn eich arwain wrth ystyried a chynllunio ar gyfer datblygu a chymeradwyo rhaglen lwyddiannus.
Hanfodion Cam 1
Mae sawl ffurflen y mae’n rhaid eu llenwi yng Ngham Un. I gael rhagor o wybodaeth, gweler y dudalen Rhaglenni Newydd gan y Tîm Ansawdd a Safonau.
Rhestr wirio Cam 1
Cymeradwyaeth strategol Cam 1 ar gyfer rhaglenni newydd (Saesneg)
Templed costau cyrsiau (Saesneg)
Ffurflen adnoddau TG/llyfrgell ac amserlennu
Cofrestr risg (Saesneg)
Cymeradwyaeth Cam 1
Beth yw Cam 1?
Cymeradwyaeth Cam 1 yw cam cyntaf y broses gymeradwyo fewnol tri cham ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd yr holl gynigion ar gyfer rhaglenni newydd yn cael eu hystyried yn y lle cyntaf gan Bwyllgor Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 eich Coleg.
Os caiff eich cynnig ei gymeradwyo gan bwyllgor eich coleg, caiff ei argymell i gyfarfod Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 y brifysgol o’r Grŵp Strategaeth Recriwtio a Derbyn Myfyrwyr (RASG) i’w drafod ymhellach a’i argymell i Gam 2 (cam datblygu’r rhaglen).
Rhaid datblygu pob cynnig yn unol â’r gofynion sylfaenol a amlinellir yn y ddogfen Disgwyliadau Sefydliadol gan mai’r rhain yw’r egwyddorion allweddol y mae holl raglenni Caerdydd yn seiliedig arnynt. Cyfeiriwch at hyn yn aml gan y bydd eich cynlluniau yn cael eu profi yn erbyn y rhain.
Ystyriaethau Cam 1
Mae Cam 1 yn mynd i’r afael â’r cwestiwn ‘Mewn egwyddor, pam ydym ni am wneud hyn?’. Gallai ‘ni’ gyfeirio at eich ysgol, eich coleg neu dîm eich rhaglen, felly mae’n werth cofio y gallai fod sawl safbwynt yma. Yr amcan allweddol yw sefydlu a yw’r cynnig yn cyfiawnhau buddsoddi amser ac ymdrech y bydd ei angen yn y camau dilynol ac a fydd yn y pen draw yn darparu’r enillion a ddymunir ar fuddsoddiad i’r Ysgol a’r Brifysgol yn ehangach.
Beth sydd angen i chi ei wneud i gwblhau Cam 1?
Yn y pen draw, erbyn diwedd Cam 1, bydd angen i chi fod wedi llenwi Ffurflen Cymeradwyaeth Strategol Cam 1 (Saesneg) (yn y llun) i’w chyflwyno i’ch coleg (ynghyd â’r templedi costau, adnoddau a chofrestr risg a restrir uchod). Cymerwch amser i ddarllen y ffurflen hon yn drylwyr. Mae’n gofyn i chi fyfyrio a darparu gwybodaeth ar sut y bydd eich rhaglen arfaethedig yn cyd-fynd â disgwyliadau sefydliadol o amgylch meysydd fel cyflogaeth a chyflogadwyedd graddedigion, dysgu cyfunol, y Gymraeg, ac ehangu cyfranogiad, i enwi ond ychydig!

Drwy gynllunio ymlaen yn y cyfnod cynnar hwn, gallwch ddechrau ystyried: :
- Sut y gallai eich rhaglen newydd gael ei strwythuro o ran cyflwyno ac asesu
- Sut yr eir i’r afael â chyflogadwyedd
- Sut y byddwch yn ymgorffori cynwysoldeb a chynaliadwyedd yn eich rhaglen a’ch cwricwla
Nid oes angen i chi gael rhaglen wedi’i pharatoi’n llawn ar hyn o bryd, ond dylech ddechrau ystyried y materion hyn nawr er mwyn dangos sut y bydd eich rhaglen yn bodloni gofynion y brifysgol ac i ganiatáu ar gyfer rhagfynegiadau adnoddau a chostau mwy cywir.
Mae Cyfnod 2 y pecyn cymorth hwn, sy’n cyd-fynd â dogfennaeth Cam 2, yn edrych ar ddatblygu rhaglenni yn fanylach. Bydd rhai o’r adnoddau sydd yno o gymorth wrth gynllunio eich dull strategol lefel uchel ar gyfer Cam 1 hefyd, felly mae croeso i chi edrych ymlaen ar y tudalennau hyn i gael syniad o ble y gallech fod yn mynd ar eich taith datblygu rhaglen!
Mae’n bwysig eich bod yn gweithio gyda Rheolwr Addysg eich coleg a Dadansoddwr Data’r Coleg yn gynnar yn y broses ddatblygu. Gallant eich cefnogi gyda rhywfaint o’r data sector a dadansoddiadau o’r farchnad y bydd eu hangen arnoch er mwyn dangos sylfaen farchnad ar gyfer eich rhaglen ac ati. Maen nhw yno i’ch helpu chi: estynnwch allan atyn nhw. Gall y Tîm Ansawdd a Safonau hefyd roi cyngor a gwybodaeth allweddol i chi wrth i chi baratoi eich dogfennaeth gymeradwyo ar gyfer Cam 1. Wrth gwrs, gallwch hefyd estyn allan i Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd.
Nod, gweledigaeth a phwynt gwerthu unigryw’r rhaglen
Gall datblygu gweledigaeth eich rhaglen a phwynt gwerthu unigryw fod yn heriol. Bydd angen i chi a’ch tîm datblygu dynnu ar eich profiadau a defnyddio adborth gan fyfyrwyr a’ch arbenigedd a’ch gwybodaeth am y maes pwnc a’r sector.
Gallai gweithio drwy’r ystyriaethau isod gyda grŵp ffocws bach o fyfyrwyr presennol a blaenorol roi cipolwg defnyddiol iawn ar y cam hwn. Mae myfyrwyr yn cael profiad byw o’r rhaglen gyfredol a bydd eu barn yn amhrisiadwy wrth helpu i lunio datblygiadau newydd.
Os hoffech redeg grŵp ffocws o’r fath, dyma dempled cynhwysfawr i’ch helpu i’w drefnu a’i redeg.
Cwestiynau Allweddol ar gyfer Cwmpasu Rhaglenni
- Beth sy’n gwneud y rhaglen hon yn nodedig o fewn y sector?
- Pa elfennau o’r rhaglen y byddwch chi’n eu creu ar y cyd â myfyrwyr a sut y gallech chi wneud hyn?
- Sut mae disgrifyddion cymhwyster yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd yn cael eu hadlewyrchu yn eich cwrs? (Cod Ansawdd QAA Pennod A1)
- Beth yw nodweddion arfaethedig graddedigion y rhaglen hon?
- Beth yw’r egwyddorion a’r gwerthoedd pwysig sy’n llywio’r rhaglen hon?
- Pa ddulliau addysgegol a ddefnyddir i sicrhau ymgysylltiad a chyfranogiad gweithredol myfyrwyr?
- Sut mae’r rhaglen yn ystyried datganiadau meincnod pwnc perthnasol?
- Sut mae’r rhaglen yn adlewyrchu gofynion cofrestru proffesiynol (os yw’n berthnasol)?
- Sut mae’r rhaglen yn arfogi myfyrwyr i fodloni gofynion cyflogaeth?
Dylai pob rhaglen ymgorffori egwyddorion cynwysoldeb a chynaliadwyedd er mwyn sicrhau mynediad, parhad, cyrhaeddiad a chyrchfannau teg i bob dysgwr.
Nod y rhaglen
Mae nod y rhaglen ar frig yr hierarchaeth ddisgrifio a ddefnyddir yn gyffredin i ddiffinio profiad dysgu. Ei fwriad yw rhoi dealltwriaeth i’r myfyriwr, yr athro a phartïon eraill â diddordeb o’r datganiadau cyffredinol mwyaf trosfwaol ynghylch canlyniadau arfaethedig profiad dysgu (Fry ac eraill, 2003).
Mae angen ysgrifennu nod rhaglen o safbwynt athro. Dylai grynhoi athroniaeth, gwerthoedd ac unigrywiaeth gyffredinol y rhaglen. Dylai gyfeirio at y sgiliau, y rhinweddau a’r wybodaeth a ddisgwylir gan y myfyriwr graddedig o’r rhaglen honno.
Dylid ysgrifennu’r nod fel naratif a dylai fod tua 100 gair o hyd.
Bydd cael syniad o nod a gwerthoedd craidd eich rhaglen yn ddefnyddiol wrth i chi gwmpasu a pharatoi eich rhaglen ar gyfer cymeradwyaeth Cam 1. Bydd yn rhoi sylfaen i chi i seilio gweddill y rhaglen arni.
Gweithgaredd nod y rhaglen
🎯Ysgrifennwch nod eich rhaglen eich hun fel naratif ac mewn llai na 100 o eiriau. Gellir defnyddio’r penawdau isod fel man cychwyn:
- Rydym yn gwerthfawrogi… Gallai hyn gynnwys dulliau dysgu ac addysgu, cyd-destun y byd go iawn, datblygu cyflogadwyedd, ac ati
- Unigrywiaeth ein rhaglen yw… Yr hyn yr ydym am fod yn adnabyddus amdano
- Mae ein graddedigion yn gallu… Sgiliau, rhinweddau ac agweddau ar raddio, yn gysylltiedig â Rhinweddau Graddedigion Caerdydd
- Bydd ein graddedigion yn gwybod… Gwybodaeth a dealltwriaeth yn arwain at ddysgu gydol oes
– Addaswyd o Birmingham City Rough Guide to Curriculum Design, 2013.
Bydd nod eich rhaglen yn rhan o’r templed gwybodaeth rhaglen y bydd angen i chi ei gwblhau yn nogfennau cymeradwyo Cam 2. Ymdrinnir â hyn yn fanylach yn adran nesaf y pecyn cymorth hwn ar Ddatblygu Rhaglen.
Archwilio’n ddyfnach
Rhannwch eich adborth
Y camau nesaf
Rydych chi ar dudalen 1 o 4 o dudalennau'r broses datblygu addysg.
Y tudalennau nesaf yw: