Skip to main content

Datblygu Rhaglen

Dechrau arni gyda Llunio Rhaglen

Datblygu Rhaglenni

Mae Datblygu Rhaglenni ym Mhrifysgol Caerdydd yn broses gynhwysfawr ac ailadroddol. Mae wedi’i chynllunio i wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael profiadau dysgu o ansawdd uchel sy’n drylwyr yn academaidd, yn gydlynol, ac yn cyd-fynd â safonau cenedlaethol. Mae dyluniad a dull cyflwyno rhaglen yn seiliedig ar yr egwyddor bod dysgu yn daith barhaus: mae myfyrwyr yn symud ymlaen trwy lefelau astudio mewn modd sy’n atgyfnerthu gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau, gan arwain at gyflawni Ddeilliannau Dysgu Rhaglenni (PLOs) a Rhinweddau Graddedigion (GA). Yn yr ystyr hwn, nid trefniant gweinyddol yn unig yw strwythur y rhaglen. Yn hytrach, mae’n fframwaith addysgegol y mae’r Brifysgol yn gweithredu ei chenhadaeth addysgol drwyddo.

Title: Process for Developing New Programmes

Wrth wraidd dylunio rhaglenni mae’r syniad o aliniad adeiladol, sy’n mynnu bod rhaid i addysgu, gweithgareddau dysgu ac asesu i gyd gael eu halinio’n fwriadol â’r deilliannau dysgu mewn golwg (Biggs a Tang, 2011). Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod amcanion y rhaglen, cynnwys y modiwlau, a thasgau asesu yn cael eu datblygu ar yr un pryd, ac mae pob elfen yn atgyfnerthu ei gilydd. Mae aliniad adeiladol yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael eu harwain yn gyson tuag at gyflawniadau y gellir eu dangos, boed hynny’n ymwneud â chaffael gwybodaeth sylfaenol yn gynnar, neu ymgymryd â dadansoddiad cymhleth, annibynnol ar lefelau uwch.

1.Strwythuro, Dylunio a Chyflwyno Rhaglenni: Camau Datblygu Rhaglenni

Llywodraethu a Sicrhau Ansawdd

Mae holl strwythurau a dyluniadau rhaglenni yn destun prosesau llywodraethu a sicrhau ansawdd trylwyr. Dilysir y rhain yn ffurfiol gan  Is-bwyllgor Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni PARSC a’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC).  Mae hyn yn gwneud yn siŵr bod cynigion yn bodloni safonau sefydliadol, yn glynu wrth ddisgrifyddion FHEQ, ac yn alinio â meincnodau’r sector. Mae prosesau adolygu mewnol ac allanol, gan gynnwys craffu gan arholwyr allanol a mapio i ofynion cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRBs) (lle bo’n berthnasol), yn rhoi sicrwydd bod rhaglenni’n drylwyr yn academaidd, yn gydlynol, a bod modd eu cymharu â safonau’r DU. Mae’r dull systematig hwn yn diogelu profiad y myfyrwyr yn ogystal ag uniondeb dyfarniadau Prifysgol Caerdydd.

Mae proses datblygu rhaglenni Prifysgol Caerdydd wedi’i strwythuro’n ffurfiol yn dri cham: Cymeradwyaeth Mewn Egwyddor, Dylunio a Dogfennu, a Chymeradwyaeth Derfynol a Gweithredu. Mae diben penodol i bob cam sy’n cydbwyso ystyriaethau strategol, ansawdd academaidd, a hyfywedd ymarferol.

Cam 1, ar ôl Cwmpasu’r Rhaglen, yw ‘Cymeradwyaeth Mewn Egwyddor’, sy’n canolbwyntio ar y cyfiawnhad strategol dros raglen newydd neu ddiwygiedig. Yma, mae timau’r rhaglen yn mynegi’r rhesymeg dros y rhaglen, gan ddangos sut mae’n cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol, y galw disgwyliedig gan fyfyrwyr, a’i pherthnasedd academaidd a phroffesiynol. Yn y cam hwn rhaid ystyried adnoddau, staffio, safle yn y farchnad a chynaliadwyedd. Mae’r gymeradwyaeth yn gwneud yn siŵr bod y rhaglen yn fuddsoddiad hyfyw o amser ac adnoddau cyn i’r gwaith dylunio manwl ddechrau. Cewch wybod rhagor yn adran Cwmpasu Rhaglenni y pecyn cymorth hwn.

Yr ail gam, Datblygu’r Rhaglen: Dylunio a Dogfennu yw hanfod gwaith datblygu rhaglenni. Mae timau rhaglenni yn llunio dogfennaeth fanwl, gan gynnwys Templed Gwybodaeth y Rhaglen, mapiau asesu, a disgrifiadau o’r modiwlau. Caiff Deilliannau Dysgu Rhaglenni eu drafftio a’u mapio yn erbyn Rhinweddau Graddedigion. Ar yr un pryd, caiff deilliannau dysgu modiwlau a’r asesiadau bwriadol eu halinio’n ofalus fel bod cydlyniant a dilyniant ar draws lefelau. Gwneir penderfyniadau ynghylch strwythur y rhaglen, dilyniant modiwlau, a’r cynnwys craidd neu ddewisol yng nghyd-destun gofynion academaidd, addysgegol a rheoleiddiol. Yn arwyddocaol, mae’r cam hwn hefyd yn cynnwys cynllunio ar gyfer cynhwysiant, hygyrchedd, a phrofiad y myfyriwr, gan ymgorffori elfennau o bontio, ymgysylltu, a dysgu gweithredol ym mhensaernïaeth y rhaglen.

Cymeradwyaeth Derfynol a Gweithredu yw’r cam pan fydd yr Is-bwyllgor Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni (PARSC) a’r Pwyllgor Safonau ac Ansawdd Academaidd (ASQC) yn dilysu’r rhaglen yn ffurfiol. Ar y pwynt hwn, caiff strwythur y rhaglen, y deilliannau dysgu, y strategaeth asesu a’r dulliau cyflwyno eu cymeradwyo’n ffurfiol, a bydd y Gofrestrfa yn paratoi’r rhaglen i’w rhoi ar waith. Mae’r cam hwn yn gwneud yn siŵr bod pob elfen yn cydymffurfio â rheoliadau Prifysgol Caerdydd a’r Fframwaith ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ), gan ddiogelu uniondeb a chymaroldeb y dyfarniad.

Diogelu Uniondeb Dyfarniadau a Mapio Lefelau FHEQ

Un o’r prif bryderon wrth ddylunio rhaglenni yw diogelu uniondeb dyfarniadau. Rhaid mynegi deilliannau dysgu rhaglenni a modiwlau yn glir ar y lefel FHEQ briodol, gan nodi’r wybodaeth, y sgiliau a’r galluoedd y disgwylir i fyfyrwyr eu cyflawni. Mae FHEQ yn rhoi disgrifyddion cyffredinol ar gyfer pob lefel astudio. Ar ben hynny, mae’n gosod egwyddorion cyffredinol sy’n llywio deilliannau ar lefel y rhaglen a safonau asesu (QAA, 2024).

Mae mapio canlyniadau dysgu ar draws lefelau yn gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn gallu symud ymlaen drwy heriau gwybyddol ac ymarferol cynyddol soffistigedig. Mae modiwlau Lefel 4 fel arfer yn pwysleisio gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol. Mae modiwlau Lefel 5 yn datblygu sgiliau cymhwyso a dadansoddi, tra bod gwerthusiad beirniadol, cyfosod ac ymchwil annibynnol yn ofynnol ym modiwlau Lefel 6 neu ôl-raddedig. Mae’r dilyniant atgyfnerthol hwn yn hanfodol er mwyn cynnal safonau academaidd a pharatoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd proffesiynol ac ôl-raddedig.

Strwythur Rhaglenni a’r Asgwrn Cefn Craidd

Mae’r cysyniad o asgwrn cefn craidd yn ganolog i athroniaeth Caerdydd wrth ddylunio rhaglenni. Mae’r asgwrn cefn craidd yn set o fodiwlau hanfodol sy’n sail i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau graddedigion ar draws pob blwyddyn astudio. Drwy strwythuro rhaglenni o amgylch asgwrn cefn gweladwy o fodiwlau craidd, mae’r Brifysgol yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael cynnwys disgyblaethol hanfodol a chyfleoedd i feithrin sgiliau yn gyson drwy gydol cyfnod eu hastudiaethau.

Ategir y modiwlau craidd gan fodiwlau dewisol a modiwlau a ddewisir o dan arweiniad, gan roi hyblygrwydd a rôl i’r myfyrwyr wrth gynnal cydlyniant. Rhaid cynllunio opsiynau’n ofalus i osgoi gwrthdaro yn yr amserlen yn ogystal â gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gallu cyflawni’r deilliannau dysgu ar lefel y rhaglen. Mae Prifysgol Caerdydd yn aml yn defnyddio casgliadau cynnwys, sef setiau strwythuredig o fodiwlau dewisol sy’n caniatáu i fyfyrwyr bersonoli eu haddysg gan ddiogelu dilyniant ac uniondeb dyfarniadau ar yr un pryd. Mae gwahaniaethu yn arbennig o bwysig mewn rhaglenni sy’n rhannu modiwlau, gan wneud yn siŵr bod deilliannau dysgu, asesu ac addysgeg yn parhau i fod yn benodol ar gyfer carfan pob rhaglen.

Dynodi a Dilyniannu Modiwlau

Mae dealltwriaeth o ddynodiad modiwlau yn hanfodol i uniondeb rhaglenni. Gellir dosbarthu modiwlau’n rhai Gofynnol, Craidd, Dewisol, Cyd-ofynnol, Rhagflaenol, neu Ragofynnol, ac mae gan bob un oblygiadau penodol ar gyfer dilyniant myfyrwyr. Rhaid pasio modiwlau gofynnol ac ni ellir eu cydoddef os ydyn nhw’n hanfodol er mwyn cyflawni deilliannau penodol y rhaglen. Er bod modiwlau craidd yn orfodol, gellir eu cydoddef mewn amgylchiadau eithriadol yn dilyn Rheoliadau’r Bwrdd Asesu ac Arholi. Mae modiwlau rhagofynnol neu ragflaenol yn gwneud yn siŵr bod gan fyfyrwyr y sylfaen angenrheidiol ar gyfer dysgu dilynol, gan hwyluso datblygiad cynyddol.

Mae dilyniannu yr un mor hanfodol. Trefnir modiwlau i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau yn systematig, gan roi hwb i hyder ac annibyniaeth myfyrwyr yn ogystal â’u gallu i ddatblygu eu galluoedd. Mae modiwlau lefel gynnar yn gosod y sylfaen, mae modiwlau lefel ganol yn atgyfnerthu ac yn ymestyn yr hyn a ddysgir, ac mae modiwlau lefel uwch yn herio myfyrwyr i integreiddio, gwerthuso a chymhwyso gwybodaeth yn annibynnol.

Profiad Myfyrwyr, Cynhwysiant, a Datblygu Cynaliadwy

Mae dyluniad rhaglenni yng Nghaerdydd yn canolbwyntio’n gadarn ar y myfyriwr. Y tu hwnt i gynnydd academaidd, mae rhaglenni wedi’u cynllunio i feithrin Addysg Gynhwysol. Mae hyn yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, safbwyntiau amrywiol, ac mae’n grymuso myfyrwyr i gymryd rhan lawn yn eu haddysg. Mae’r Brifysgol yn ymgorffori Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy o fewn amcanion y rhaglen hefyd. Drwy wneud hyn, mae’n herio myfyrwyr i ymgysylltu â materion cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd, a chymhwyso’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu mewn modd cyfrifol.

Mae timau rhaglenni yn ymgorffori arferion cynhwysol drwy gwblhau’r Model Gwella Addysg Gynhwysol (2023) . Mae’r model hwn yn cyflwyno cyfres o ddatganiadau myfyriol ar gyfer timau rhaglenni wedi’u mapio yn erbyn Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd . Ar bob cam o’r broses datblygu rhaglenni, bydd timau rhaglenni yn defnyddio hyn i ystyried ehangder amrywiaeth y darpar fyfyrwyr. Maen nhw hefyd yn rhagweld ac yn nodi rhwystrau dysgu i ddarpar fyfyrwyr ar gyfer pob tasg, gweithgaredd, adnodd neu asesiad, ac yn datblygu eu hatebion.

I gael trafodaeth am sut rydym yn gweld amrywiaeth ym maes AU, a sut y gallech chi ddefnyddio egwyddorion addysg gynhwysol a’n Model Gwella i ragweld rhwystrau i ddysgu a datblygu atebion a chynlluniau gweithredu ar gyfer eich rhaglenni, darllenwch y dudalen Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol.

Gallech ystyried atebion drwy ddefnyddio egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu. Mae’r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd wedi datblygu   hefyd i helpu timau rhaglenni i ddatblygu dysgu ac addysgu cynhwysol.

Globe

Gallwch ddefnyddio'r awgrymiadau hyn wrth Ddylunio Rhaglenni i ystyried egwyddorion Dylunio Cyffredinol:

Gallwch ddefnyddio'r awgrymiadau hyn wrth Ddylunio Rhaglenni i ystyried egwyddorion Dylunio Cyffredinol:

• A allwch chi ymgorffori hyblygrwydd a dewis o ran testun, modd (fel ysgrifenedig neu lafar) neu ddewis modiwlau, fel egwyddor sylfaenol yn eich rhaglen?

• A oes cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu mewn sawl ffordd, er enghraifft yn gydamserol, neu'n anghydamserol trwy adnoddau ar-lein?

• A yw staff a myfyrwyr yn cyflwyno deunyddiau a gwybodaeth mewn amrywiaeth o ddulliau?

• A yw myfyrwyr yn gallu mynegi'r hyn y maen nhw’n ei wybod mewn amrywiaeth o ffurfiau?

• Os nad oes modd cynnig dewis neu hyblygrwydd wrth asesu oherwydd gofynion eich corff proffesiynol, statudol a rheoleiddio, neu ofynion eich rhaglen, a ydych yn cynnig dull datblygu sgiliau sy’n atgyfnerthu’r hyn a ddysgwyd yn flaenorol sy’n cynnwys cyfleoedd risg isel i ymarfer ac yn rhoi adborth?

Mae pontio a llais y myfyriwr yn ystyriaethau canolog. Mae prosesau sefydlu, asesiadau ffurfiannol cynnar, a chyfleoedd strwythuredig i roi adborth yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn gallu llywio’r rhaglen yn llwyddiannus. Cewch ragor o wybodaeth am bontio ar y wefan Pontio Myfyrwyr Sharepoint hon.

Mae ymgysylltu’n barhaus â chynrychiolwyr myfyrwyr a mecanweithiau gwerthuso ac adborth yn gwneud yn siŵr bod rhaglenni’n parhau i fod yn ymatebol, yn berthnasol ac yn effeithiol wrth ddiwallu anghenion dysgwyr. Cewch ragor o wybodaeth am Ymgysylltu â Myfyrwyr ar y dudalen Ymgysylltu â Myfyrwyr ar y fewnrwyd.

Integreiddio â Rhinweddau Graddedigion

Er mai modiwlau yw’r prif gyfrwng dysgu, mae’r dyluniad ar lefel rhaglenni yn gwneud yn siŵr bod Rhinweddau Graddedigion wedi’u hymgorffori ar draws profiad y myfyriwr. Mae arferion cydweithredol, myfyriol, ymwybodol o foesoldeb, ac arloesol yn cael eu meithrin nid yn unig drwy weithgareddau dysgu penodol ond hefyd drwy strwythur rhaglenni, dilyniannu, a chynllunio asesiadau. Drwy integreiddio Rhinweddau Graddedigion â chynnwys disgyblaethol, mae rhaglenni’n cynhyrchu graddedigion sydd nid yn unig yn gymwys yn academaidd ond hefyd yn alluog yn broffesiynol ac yn gyfrifol yn gymdeithasol.

Casgliad

Mae dyluniad, strwythur a dull cyflwyno rhaglenni ym Mhrifysgol Caerdydd yn fwriadol, yn gydlynol, ac yn canolbwyntio ar y myfyriwr. O’r rhesymeg gychwynnol y tu ôl iddi hyd at ei chymeradwyo a’i rhoi ar waith yn y pen draw, mae dyluniad y rhaglen yn integreiddio gwybodaeth ddisgyblaethol, Rhinweddau Graddedigion, cynhwysiant, cynaliadwyedd, ac yn alinio asesiadau. Mae’r asgwrn cefn craidd gweladwy, dilyniant gofalus o fodiwlau, a deilliannau sydd wedi’u mapio yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn symud ymlaen drwy gwricwlwm cydlynol ac atgyfnerthol. Drwy ymgorffori Aliniad Adeiladol, meithrin profiadau dysgu dilys, a hyrwyddo graddedigion myfyriol, annibynnol, a chyfrifol yn gymdeithasol, mae Prifysgol Caerdydd yn gwneud yn siŵr bod pob rhaglen yn darparu addysg o ansawdd uchel, a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac sy’n berthnasol yn broffesiynol.

2.Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion

Yn ei hanfod, mae dylunio rhaglen astudio yn ymwneud â diffinio’r galluoedd y dylai myfyrwyr eu dangos ar ôl graddio. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae hyn yn cael ei fynegi drwy Ddeilliannau Dysgu Rhaglenni (PLOs), sy’n gosod y safon ar gyfer yr hyn y disgwylir i fyfyrwyr ei wybod a’i ddeall, ac yn gallu ei wneud erbyn diwedd eu rhaglen. Mae mwy iddyn nhw na datganiadau o’r wybodaeth sydd wedi’i chaffael; maen nhw’n cwmpasu’r sgiliau deallusol, ymarferol a throsglwyddadwy sy’n ffurfio proffil cyfannol myfyriwr graddedig.

Mae Deilliannau Dysgu Rhaglenni (PLOs) yn rhoi’r fframwaith sy’n sail ar gyfer llunio’r cwricwla o’i gwmpas, gan roi eglurder i fyfyrwyr, staff a rhanddeiliaid allanol fel cyrff achredu a chyflogwyr. Maen nhw’n llywio strategaethau addysgu, yn dylunio asesiadau, ac yn gwerthuso rhaglenni. Mae’n gwneud yn siŵr bod y rhaglen yn parhau i fod yn gydlynol, yn flaengar, ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau sefydliadol a safonau cenedlaethol (Biggs a Tang, 2011; Purvis a Winwood, 2023).

Swyddogaeth Deilliannau Dysgu wrth Ddylunio Rhaglenni

Y deilliannau hyn yw’r prif bwynt cyfeirio mewn dull dylunio am yn ôl, sy’n dechrau gyda’r diwedd mewn golwg. Mae’r dull hwn yn gwneud yn siŵr bod pob modiwl, gweithgaredd ac asesiad o fewn y rhaglen yn cyfrannu’n ystyrlon at y deilliannau mewn golwg. Dyma egwyddor sydd wedi’i gwreiddio yn namcaniaeth aliniad adeiladol (Biggs, 1996). Yng Nghaerdydd, anogir timau rhaglenni i ystyried proffil y graddedigion yn gyntaf a gweithio am yn ôl i ddiffinio deilliannau dysgu modiwlau, gweithgareddau dysgu, a strategaethau asesu sydd, gyda’i gilydd, yn galluogi myfyrwyr i gyflawni’r deilliannau hynny.

Mae aliniad adeiladol yn atgyfnerthu cydlyniant y daith ddysgu, gan wneud yn siŵr bod profiadau dysgu myfyrwyr yn bwrpasol ac yn gronnus. Er enghraifft, gall modiwlau cyflwyniadol ganolbwyntio ar wybodaeth sylfaenol, gall modiwlau lefel ganolig bwysleisio elfennau cymhwyso a dadansoddi, ac mae prosiectau i gloi yn integreiddio cyfosod ac arloesedd. Drwy strwythuro dysgu yn y modd blaengar hwn, mae rhaglenni’n meithrin dealltwriaeth ddofn ac yn datblygu sgiliau. Gwneir hyn yn unol â disgrifyddion lefel FHEQ, sy’n diffinio disgwyliadau o ran cymhlethdod, annibyniaeth, a soffistigedigrwydd deallusol ar bob lefel (QAA, 2024) (qaa.ac.uk).

Categoreiddio Deilliannau Dysgu Rhaglenni

Mae Prifysgol Caerdydd yn dosbarthu deilliannau dysgu yn bedwar prif faes: Gwybodaeth a Dealltwriaeth, Sgiliau Deallusol, Sgiliau Proffesiynol/Ymarferol, a Sgiliau Trosglwyddadwy neu Allweddol. Mae’r fframwaith hwn yn rhoi strwythur cyfannol sy’n cydbwyso gwybodaeth ddisgyblaethol â sgiliau sy’n hanfodol ar gyfer cyflogaeth ac ymgysylltiad dinesig.

Mae deilliannau Gwybodaeth a Dealltwriaeth yn disgrifio’r cynnwys disgyblaethol y disgwylir i fyfyrwyr ei ddeall. Mae Sgiliau Deallusol yn cwmpasu dadansoddi, gwerthuso a datrys problemau, gan adlewyrchu gallu myfyrwyr i ymgysylltu’n feirniadol â gwybodaeth a thystiolaeth. Mae Sgiliau Proffesiynol neu Ymarferol yn ymwneud â chymhwyso gwybodaeth ddisgyblaethol mewn cyd-destunau proffesiynol neu ddilys. Mae Sgiliau Trosglwyddadwy yn cynnwys cyfathrebu, cydweithio, myfyrio a hunanreolaeth, gan wneud yn siŵr bod graddedigion yn gallu addasu ac yn wydn.

Deilliannau Graddedigion fel yr Edefyn Integreiddio

Mae datblygu Deilliannau Graddedigion yn rhan annatod o athroniaeth ddylunio cwricwlwm Caerdydd ac mae’n “edefyn aur” sy’n rhedeg drwy brofiad y myfyriwr. Dyluniwyd y rhinweddau hyn—Cydweithredol, Cyfathrebwyr Effeithiol, Ymwybyddiaeth Foesegol, Gymdeithasol ac Amgylcheddol, Meddylwyr Annibynnol a Beirniadol, Arloesol a Mentrus, Myfyriol a Gwydn—mewn cydweithrediad â myfyrwyr, academyddion a chyflogwyr, i adlewyrchu’r galluoedd sydd eu hangen ar raddedigion yn eu bywydau personol, proffesiynol a chymdeithasol.

Nid yw Rhinweddau Graddedigion yn cael eu trin fel elfennau atodol; yn hytrach, maen nhw wedi’u hymgorffori ym mhob agwedd ar y cwricwlwm. Er enghraifft, gall modiwl mewn polisi amgylcheddol ddatblygu ymwybyddiaeth foesegol a chymdeithasol drwy ddadansoddi astudiaethau achos yn feirniadol, meithrin arloesedd drwy ymarferion dylunio polisïau, yn ogystal â datblygu sgiliau cyfathrebu drwy gyflwyniadau grŵp. Drwy fynd ati’n fwriadol i gysylltu Deilliannau Dysgu Rhaglenni â Rhinweddau Graddedigion, mae dylunwyr rhaglenni’n gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn gymwys yn academaidd ac yn meddu ar y cymwyseddau a ddisgwylir gan gyflogwyr a chyrff proffesiynol.

Rhoi’r Aliniad rhwng Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion ar waith

Mae’r aliniad hwn yn cael ei roi ar waith drwy ddefnyddio offer fel Map y Rhinweddau Graddedigion. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr a staff ddelweddu’r cysylltiadau rhwng modiwlau penodol, Deilliannau Dysgu Rhaglenni, a’r rhinweddau y maen nhw’n eu meithrin. Drwy ddefnyddio’r map, gall myfyrwyr weld sut mae dilyniant modiwlau yn datblygu eu harbenigedd pwnc a’u galluoedd trosglwyddadwy, gan ategu dysgu myfyriol a chynllunio datblygiad personol.

Nodweddion Graddedigion Prifysgol Caerdydd yw:

A decorative representation of the Graduate Attributes. Effective Communicators is represented by a student working in augmented reality wearing a black headset. Reflective and resilient is represented by a fingers posed to create a lens through which a field can be seen. Ethically, Socially and Environmentally Aware is represented by a hand holding a small globe against a blue sky. Innovative, Enterprising and Commercially Aware is represented by a low-angle of silver sky-scrapers. Independent and Critical Thinkers is represented by paperclips hanging like light bulbs in rising in height diagonally – the last of the 5 is depicted as a glowing yellow bulb. Collaborative is represented as a low-angled view of 5 smiling students.

Ar ben hynny, mae ymgorffori gweithgareddau myfyrio, portffolios ac asesiadau ffurfiannol yn rhan o fodiwlau yn galluogi myfyrwyr i fynegi sut mae eu profiadau dysgu yn cyfrannu at gyflawni Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion. Mae’r dull hwn nid yn unig yn hyrwyddo metawybyddiaeth, ond mae hefyd yn galluogi myfyrwyr i gymryd perchnogaeth dros eu datblygiad.

Sicrhau Cydlyniant a Chynnydd

Mewn rhaglen sydd â strwythur cydlynol, rhaid ystyried yn ofalus sut mae deilliannau dysgu yn datblygu ar draws lefelau. Ar Lefel 4, gellir disgwyl i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth a sgiliau dadansoddi a gwerthuso sylfaenol. Erbyn Lefel 6 neu 7, dylai deilliannau adlewyrchu sgiliau gwybyddol uwch a mwy cynhwysfawr fel gwerthuso beirniadol, cyfosod, a datrys problemau yn annibynnol, yn unol â’r FHEQ a disgwyliadau mewnol Caerdydd (QAA, 2024).

Mae’r dull atgyfnerthol hwn yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn datblygu meistrolaeth yn raddol, a rhoddir cyfleoedd i atgyfnerthu sgiliau a gwybodaeth cyn mynd i’r afael â thasgau integreiddiol cymhleth. Mae enghreifftiau naratif o fewn modiwlau yn atgyfnerthu’r dilyniant hwn: mae darlithoedd cyflwyniadol yn rhoi’r sylfeini damcaniaethol, mae trafodaethau seminar yn hyrwyddo meddwl beirniadol, mae gwaith labordy neu waith maes yn galluogi cymhwysiad ymarferol, ac mae prosiectau i gloi yn galw am gyfosod, arloesedd a myfyrdod.

Alinio â Sicrhau Ansawdd a Meincnodi

Er bod Caerdydd yn diffinio Deilliannau Dysgu ei Rhaglenni a’i Rhinweddau Graddedigion yn unol â blaenoriaethau sefydliadol, maen nhw’n cael eu meincnodi yn erbyn Datganiadau Meincnod Pwnc yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) hefyd. Mae’r rhain yn amlinellu disgwyliadau ar draws y sector ar gyfer gwybodaeth, sgiliau a chymwyseddau mewn disgyblaethau penodol. Mae alinio deilliannau â’r datganiadau allanol hyn yn gwneud yn siŵr bod y rhaglen yn cyd-fynd â safonau academaidd y DU, gan olygu bod modd cymharu a dilysu’n allanol (QAA, 2024).

Mae’r Templed Gwybodaeth am y Rhaglen yn ddogfen ffurfiol sy’n nodi’r deilliannau hyn ochr yn ochr â strategaethau addysgu, dysgu ac asesu. Mae’n offeryn sy’n galluogi cydlyniant mewnol yn ogystal ag arweiniad tryloyw i fyfyrwyr a rhanddeiliaid allanol, gan ddangos sut mae’r rhaglen yn bodloni disgwyliadau rheoleiddiol, proffesiynol ac addysgegol (QAA, 2024).

Cynhwysiant a Chwarae Teg mewn Deilliannau Dysgu

Un dimensiwn hollbwysig wrth ddatblygu Deilliannau Dysgu Rhaglenni yw gwneud yn siŵr eu bod yn gynhwysol ac yn hygyrch. Mae hyn yn cyd-fynd â Fframwaith Addysg Gynhwysol Caerdydd, sy’n pwysleisio tegwch, chwarae teg, a darparu ar gyfer anghenion dysgu amrywiol. Dylid mynegi deilliannau mewn iaith glir a diamwys. Dylen nhw fod yn hygyrch i fyfyrwyr o gefndiroedd gwahanol, ac wedi’u cynllunio fel bod modd cyflawni mewn gwahanol ffyrdd. Mae ymgorffori cynhwysiant yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr sydd â galluoedd, profiadau a hunaniaethau gwahanol yn gallu ymgysylltu’n ystyrlon â’r cwricwlwm. Cewch ragor o wybodaeth ar y tudalennau am y pecyn cymorth cynhwysiant.

Wrth ddylunio Deilliannau Dysgu Rhaglenni, rydych yn creu’r amodau i asesu pob myfyriwr, beth bynnag fo’i ddimensiynau o ran amrywiaeth neu nodweddion. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn nodi safonau cymhwysedd y rhaglen, a’r safonau academaidd, a’ch bod yn ysgrifennu eich deilliannau dysgu mewn ffordd sy’n cynyddu hyblygrwydd, dewis a thegwch yn eich asesiadau, i osgoi gwahaniaethu sefydliadol anfwriadol.

Gwnewch yn siŵr nad yw eich deilliannau dysgu yn eithrio myfyrwyr yn anfwriadol am resymau nad ydyn nhw’n gwbl angenrheidiol. Dylen nhw felly ymwneud â safonau cymhwysedd y rhaglen neu’r maes disgyblaeth. Er enghraifft, os oes angen i fyfyrwyr ddangos sgiliau penodol mewn llythrennedd, dawn gymdeithasol, cyfathrebu neu ddeheurwydd i weithio gyda’u dwylo, gall rhai o’ch dysgwyr fod dan anfantais. Bydd rhai o’r rhain yn safonau cymhwysedd hanfodol ar gyfer eich rhaglen, ond fel arall, efallai y bydd yn bosibl dylunio’r gofynion hyn, neu wneud addasiadau unigol ar gyfer rhai dysgwyr.

Mae ysgrifennu Deilliannau Dysgu Rhaglenni Cynhwysol yn gwneud yn siŵr bod pob myfyriwr yn gallu dangos yr hyn y mae’n ei wybod, neu’n gallu ei wneud, i’w alluogi i gyflawni’r deilliannau dysgu i’w lawn botensial. Mae’r fideo defnyddiol hwn gan grŵp Cytundeb Bologna yn esbonio ymhellach .

Mae'n hanfodol dylunio ar gyfer ffurfiau amrywiol ar weithredu a mynegi. Er enghraifft, mae pob unigolyn yn ymgymryd â thasgau dysgu mewn ffordd wahanol iawn, ac efallai y byddai'n well ganddyn nhw fynegi eu hunain yn ysgrifenedig yn hytrach nag ar lafar, ac i'r gwrthwyneb. Efallai na fydd bob amser yn ymarferol cynnwys nifer o opsiynau neu ddewisiadau ar gyfer pob gweithgaredd neu asesiad os bydd angen cyrraedd safon cymhwysedd, ond dylai fod dull asesu amrywiol cyn belled ag y bo modd.

Dylid cydnabod hefyd bod gweithredu a mynegi’n gofyn bod yn strategol ac yn drefnus iawn ac ymarfer cryn dipyn, a dyma faes arall lle bydd dysgwyr yn wahanol. Mewn gwirionedd, nid oes un ffordd o weithredu a mynegi a fydd yn gweithio i bob dysgwr; mae opsiynau ar gyfer gweithredu a mynegi’n hanfodol.

  • Galluogi amrywiaeth wrth ryngweithio, ymateb, llywio a symud ac yn galluogi opsiynau rhyngweithio gan ddefnyddio deunyddiau hygyrch a thechnolegau ac offer cynorthwyol a hygyrch
  • Cynnig opsiynau a hyblygrwydd i fyfyrwyr ar gyfer mynegi a chyfleu eu dysgu, drwy gyfryngau ac offer lluosog ar gyfer dehongli, cyfansoddi a bod yn greadigol, gan herio arferion sy’n allgáu
  • Meithrin rhuglder gyda chymorth cynyddol ar gyfer ymarfer a pherfformiad, gan fynd i'r afael â rhagfarnau sy'n gysylltiedig â dulliau mynegi a chyfathrebu
  • Helpu myfyrwyr i ddatblygu strategaeth a gosod nodau ystyrlon, gan alluogi myfyrwyr i ragweld a chynllunio ar gyfer heriau a threfnu gwybodaeth ac adnoddau
  • Dewis neu hyblygrwydd wrth ymateb, rhyngweithio, cyflawni gweithgareddau a chydweithio o fewn sesiynau?
  • Amrywiaeth o adnoddau, offer a thechnolegau hygyrch ar gyfer mynegi dysgu
  • Dewis neu hyblygrwydd yn y modd y gall myfyrwyr ddangos eu gwybodaeth neu sgiliau, megis yn ysgrifenedig, ar lafar neu’n amlgyfrwng?
  • Cymorth atgyfnerthol i fyfyrwyr i arddangos sgiliau hanfodol mewn modd penodol, er enghraifft ymarferion, tasgau ffurfiannol a meini prawf clir ar gyfer sgiliau yn ogystal â chynnwys?
  • Cymorth i osod nodau, cynllunio’n strategol, rheoli amser a rheoli gwybodaeth, megis mapiau modiwlau ac asesiadau, cynlluniau sesiwn a chrynodebau o adnoddau gwybodaeth?

Deilliannau Dysgu Rhaglenni ac Addasiadau Rhesymol

Mae gennych gyfrifoldeb i ddiffinio safonau cymhwysedd y rhaglen yn glir, cyn ysgrifennu’r deilliannau, er mwyn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr ag Addasiadau Rhesymol ar gyfer asesiadau o dan ddarpariaethau’r Ddeddf Cydraddoldeb ar gyfer myfyrwyr anabl yn gallu cyflawni. Ni ddylai addasiadau rhesymol beryglu safonau cymhwysedd rhaglenni neu fodiwlau, gan nad yw’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gosod unrhyw ddyletswydd i wneud addasiad rhesymol i safon cymhwysedd. Mae safon cymhwysedd yn ‘safon academaidd, feddygol neu arall, a gymhwysir at y diben o benderfynu a oes gan berson lefel benodol o gymhwysedd neu allu’. Mae’n rhaid i safon cymhwysedd fod yr un mor berthnasol i bob myfyriwr, yn wirioneddol berthnasol i’r rhaglen, ac yn ffordd gymesur o gyflawni nod dilys.

Fodd bynnag, ceir dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i’r ffordd y caiff safon cymhwysedd ei hasesu fel na fydd myfyrwyr anabl dan anfantais o ganlyniad i’w hanabledd. Mae’n rhaid i addasiadau rhesymol beidio ag effeithio ar ddilysrwydd na dibynadwyedd y deilliannau asesu. Fodd bynnag, gallai’r rhain gynnwys, er enghraifft, newid y trefniadau neu’r dull asesu arferol, addasu deunyddiau asesu, darparu ysgrifennydd neu ddarllenydd yn yr asesiad, ac ad-drefnu’r amgylchedd asesu.

Ceir rhagor o ganllawiau a’r Polisi a’r Weithdrefn ar gyfer Addasiadau Rhesymol ar gyfer Myfyrwyr Anabl ar fewnrwyd Prifysgol Caerdydd . Bu datblygiadau cyfreithiol diweddar yn y maes hwn yn 2024, ac fe gynhyrchwyd arweiniad gan Gomisiwn y Myfyrwyr Anabl (a fabwysiadwyd gan Brifysgol Caerdydd): argymhellir eich bod yn darllen hwn cyn ysgrifennu eich deilliannau

I roi enghraifft, ystyriwch y deilliant dysgu hwn:
• Dadansoddwch y berthynas rhwng iaith dychan a’r ffurf lenyddol drwy edrych yn fanwl ar nifer dethol o destunau'r ddeunawfed ganrif mewn traethawd ysgrifenedig.

Yn gyntaf, byddech yn penderfynu a yw traethawd ysgrifenedig yn safon cymhwysedd ar gyfer y rhaglen hon: A yw hyn yn sgil hanfodol? A allai'r myfyriwr ddangos yr hyn y mae wedi’i ddysgu mewn modd arall, megis cyflwyniad llafar?

Mae'r EHRC yn datgan bod yn rhaid i brifysgolion 'wneud yn siŵr bod y staff academaidd sy'n gosod asesiadau yn gwybod pa agweddau ar eu prawf sy'n safonau cymhwysedd y mae'n rhaid eu bodloni, a pha agweddau yw'r dulliau asesu y gellir eu haddasu'n rhesymol'.

Felly, os gellir cyfiawnhau bod dadansoddiad ysgrifenedig yn gymhwysedd craidd ar gyfer y rhaglen hon, gall y deilliant dysgu aros. Fel arall, gellid aralleirio'r meini prawf perfformiad i alluogi dulliau lluosog o weithredu a mynegi (gan ddefnyddio'r egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ), gyda’r myfyriwr yn gallu cwblhau dadansoddiad llafar neu ysgrifenedig. Efallai y byddwch hefyd yn nodi nifer y testunau, i egluro disgwyliadau ar gyfer myfyrwyr. Er enghraifft:

• Dadansoddwch y berthynas rhwng iaith dychan a’r ffurf lenyddol drwy edrych yn ofalus ar ddeuddeg testun o'r ddeunawfed ganrif gan ddefnyddio'r dull cyflwyno a ffefrir gennych, sef naill ai gyflwyniad llafar wedi'i recordio neu draethawd ysgrifenedig.

Adolygu a Gwerthuso Deilliannau Dysgu

Nid yw Deilliannau Dysgu Rhaglenni yn aros yr un fath. Mae angen eu monitro a’u hadolygu’n barhaus i wneud yn siŵr eu bod yn parhau’n berthnasol ac effeithiol. Mae Prifysgol Caerdydd yn ymgorffori gwerthusiad o ddeilliannau dysgu yn ei chylchoedd Cymeradwyo ac Ailddilysu Rhaglenni, lle mae adborth gan fyfyrwyr, arholwyr allanol, cyflogwyr a staff academaidd yn llywio camau mireinio ailadroddol. Mae’r adolygiad cylchol hwn yn galluogi rhaglenni i barhau’n gyfredol â datblygiadau disgyblaethol, arloesedd addysgegol, yn ogystal â newidiadau mewn arferion proffesiynol, gan wneud yn siŵr bod y dyfarniad yn gywir a chyfredol.

Enghraifft Gymhwysol: Rhaglen Gynaliadwyedd

Er enghraifft, gallai rhaglen Meistr ddamcaniaethol mewn Cynaliadwyedd fynegi ei deilliannau dysgu mewn fformat naratif: bydd graddedigion yn gwerthuso heriau amgylcheddol yn feirniadol mewn cyd-destunau economaidd-gymdeithasol, yn dylunio ymyriadau moesegol ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn ogystal â chydweithio ar draws disgyblaethau i gynnig atebion arloesol. Ar draws y rhaglen, byddai modiwlau’n gweithio tuag at atgyfnerthu’r deilliannau hyn: mae modiwlau sylfaenol yn datblygu gwybodaeth gysyniadol; mae modiwlau lefel ganol yn pwysleisio sgiliau dadansoddol a gwerthuso; ac mae prosiectau i gloi yn integreiddio datrys gwaith problemau ymarferol, cydweithredol. Mae Rhinweddau Graddedigion fel Ymwybyddiaeth Foesegol, Meddwl yn Feirniadol ac Arloesedd ,wedi’u mapio’n glir ym mhob rhan o’r rhaglen, gan wneud yn siŵr bod pob profiad dysgu yn cyfrannu’n ystyrlon at y proffil graddedigion mewn golwg.

Casgliad

Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion ym Mhrifysgol Caerdydd yw’r sylfeini ar gyfer dylunio’r cwricwlwm, Maen nhw’n gwneud yn siŵr bod pob elfen o’r daith ddysgu yn bwrpasol, yn gydlynol, ac yn cyd-fynd â disgwyliadau sefydliadol a chenedlaethol. Drwy ymgorffori dilyniant, cynhwysiant a chynaliadwyedd, yn ogystal â chyfleoedd myfyriol, mae rhaglenni’n meithrin graddedigion sydd nid yn unig yn wybodus, ond sydd hefyd yn alluog, yn gallu addasu, ac yn gyfrifol yn gymdeithasol. Mae integreiddio Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion yn gwneud yn siŵr bod profiad y myfyriwr yn gyfannol a thryloyw, a bod graddedigion yn cael eu grymuso a’u paratoi i ffynnu mewn cyd-destunau proffesiynol a dinesig (Biggs a Tang, 2011; Purvis a Winwood, 2023).

3. Cynllunio, Dylunio a Chyflwyno Asesiadau

Asesu yw conglfaen unrhyw raglen academaidd. Mae’n mesur cyflawniad myfyrwyr yn ogystal â sbarduno dysgu. Ym Mhrifysgol Caerdydd, nid yw asesu’n cael ei ystyried yn fecanwaith ar gyfer dyfarnu graddau yn unig. Mae hefyd yn elfen strategol ac annatod o ddylunio cwricwlwm yn ogystal â dull dysgu sy’n llywio profiad y myfyriwr ac yn meithrin datblygiad Rhinweddau Graddedigion. Ar ben hynny, mae’n cynnal uniondeb a chymaroldeb cymwysterau ar draws y sector. Cewch hyd i ragor o fanylion am asesu ar y dudalen am Asesiad Cynhwysol ym Mhecyn Cymorth Prifysgol Caerdydd.

Rôl Asesu mewn Dysgu

Ym maes addysg uwch, mae asesu’n gweithredu ar draws tair rôl sy’n gorgyffwrdd. Yn gyntaf, mae asesu dysgu yn ardystio cyflawniad myfyrwyr ac yn helpu i wneud penderfyniadau ynghylch dilyniant, gan gyflawni dibenion crynodol sy’n cyd-fynd â deilliannau ar lefel rhaglenni (Biggs a Tang, 2011). Yn ail, mae asesu ar gyfer dysgu yn rhoi adborth ffurfiannol sy’n arwain datblygiad parhaus myfyrwyr, gan eu helpu i nodi cryfderau a meysydd i’w gwella. Yn drydydd, mae asesu fel dull dysgu yn annog myfyrwyr i ymgysylltu â metawybyddiaeth, gan fyfyrio ar eu prosesau dysgu eu hunain, gwella prosesau hunanreoleiddio, a’u paratoi ar gyfer ymarfer proffesiynol a dysgu gydol oes (Boud a Falchikov, 2006).

Mae’r fframwaith cysyniadol hwn yn pwysleisio nad ychwanegiad at addysgu yw asesu effeithiol. Yn hytrach, mae’n fecanwaith canolog ar gyfer adeiladu ac atgyfnerthu dysgu yn ogystal â rhoi tystiolaeth ohono. Felly, mae’r aliniad rhwng Deilliannau Dysgu Rhaglenni, Deilliannau Dysgu Modiwlau, a dulliau asesu yn hollbwysig, gan ei fod yn rhoi cydlyniant rhwng yr hyn a ddysgir, sut y caiff ei ddysgu, a sut y dangosir cyflawniad (Biggs a Tang 2011).

Alinio’n Adeiladol wrth Ddylunio Asesiadau

Mae dull asesu Prifysgol Caerdydd wedi’i wreiddio’n gadarn mewn alinio adeiladol, lle mae prosesau dylunio tasgau asesu yn adlewyrchu deilliannau bwriadol y rhaglen a’r dulliau addysgu a dysgu. Mae’r aliniad hwn yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cael eu gwerthuso ar yr hyn y disgwylir iddyn nhw ei ddysgu, yn hytrach nag ar sgiliau neu gynnwys ymylol. Er enghraifft, os bydd y deilliannau dysgu yn ei gwneud yn ofynnol i raddedigion werthuso tystiolaeth yn feirniadol mewn cyd-destun disgyblaethol, rhaid i dasgau asesu roi cyfleoedd i ddangos y sgil hon, boed drwy ddadansoddiadau ysgrifenedig, gwerthusiadau o astudiaethau achos, neu brosiectau ymchwil cymhwysol.

Mae alinio adeiladol yn cefnogi datblygiad cynyddol hefyd ar draws lefelau. Ar Lefel 4, gall asesiadau ganolbwyntio ar ddeall gwybodaeth sylfaenol a’i chymhwyso. Ar Lefel 5, mae tasgau’n galw fwyfwy am ddadansoddi a chyfosod, ac ar Lefel 6 neu lefelau ôl-raddedig, rhaid gwerthuso’n feirniadol, arloesi ac integreiddio ymchwil annibynnol. Mae’r dull atgyfnerthol hwn yn gwneud yn siŵr bod strategaethau asesu yn meithrin galluoedd cynyddol soffistigedig ochr yn ochr â thwf gwybyddol a phroffesiynol (QAA, 2024) (qaa.ac.uk).

Dylunio ar gyfer Dilysrwydd a Pherthnasedd

Dilysrwydd yw un o egwyddorion canolog athroniaeth asesu Caerdydd. Mae asesiadau wedi’u cynllunio i adlewyrchu heriau’r byd go iawn ac arferion proffesiynol, gan bontio’r bwlch rhwng dysgu academaidd a chyflogadwyedd. Gallai asesiad dilys gynnwys paratoi adroddiadau, briffiau polisi, portffolios proffesiynol, arbrofion labordy, neu gynigion busnes, a bydd pob un wedi’i alinio â’r sgiliau penodol i’r ddisgyblaeth a’r Rhinweddau Graddedigion y mae’r rhaglen yn ceisio eu datblygu.

Mae tasgau dilys yn meithrin ymgysylltiad a chymhelliant, gan ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddod o hyd i’w ffordd drwy gymhlethdod, ansicrwydd a chyd-destunau rhyngddisgyblaethol, a thrwy hynny eu paratoi ar gyfer gofynion y gweithle. Yn arwyddocaol, mae asesu dilys yn annog creadigrwydd ac ymarfer myfyriol hefyd, gan fod yn rhaid i fyfyrwyr gyfiawnhau eu penderfyniadau, gwerthuso deilliannau, ac ystyried goblygiadau moesegol a chymdeithasol (Harden, 2001).

Cynhwysiant, Hygyrchedd, a Chwarae Teg

Rhaid dylunio asesiadau mewn modd cynhwysol a theg, gan ystyried amrywiaeth cefndiroedd, dewisiadau dysgu a galluoedd myfyrwyr. Mae ymrwymiad Prifysgol Caerdydd i Addysg Gynhwysol ac egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL) yn gofalu bod asesiadau’n galluogi myfyrwyr i ddangos cyflawniad mewn sawl ffordd. Gallai hyn gynnwys cynnig fformatau amgen ar gyfer cyflwyniadau, gwaith ysgrifenedig, neu arteffactau digidol, gan gynnal safonau trylwyr.

Mae cynhwysiant hefyd yn cynnwys eglurder cyfarwyddiadau, tryloywder meini prawf marcio, a rhoi adborth amserol ac adeiladol. Mae asesiadau wedi’u strwythuro i osgoi rhagfarn ac anfantais, ac rydym yn ystyried amrywiaeth ein myfyrwyr.

Ystyriaethau ar gyfer Strategaethau Asesu Cynhwysol

Ym Model Gwella’r Fframwaith Addysg Gynhwysol (2023), amlygir cyfres o ystyriaethau at sylw timau rhaglenni ar gyfer asesu ac adborth:

Mae ein tîm rhaglen yn sicrhau’r canlynol:
Mae ein hasesiad wedi’i ddylunio ar lefel rhaglen, gan roi llwyth gwaith asesu hylaw i fyfyrwyr a lleihau gwrthdaro o ran dyddiadau cyflwyno gwaith
Mae ein rhaglen yn defnyddio ystod o fformatau asesu, ac yn galluogi myfyrwyr i ddewis fformat asesu yn bersonol lle bo’n briodol
Mae ein myfyrwyr wedi cael cyfle i ymarfer pob math o asesiad crynodol blwyddyn olaf yn gynharach yn y rhaglen, a deall y berthynas rhwng asesiadau ar wahanol lefelau
Caiff ein hasesiadau eu hesbonio’n glir i fyfyrwyr trwy ddogfennaeth modiwlau, deunyddiau ysgrifenedig a gweithgareddau yn y dosbarth, gan ddefnyddio iaith dryloyw a chyson i wneud gofynion yn glir
Mae ein hasesiadau yn nodi’r angen am ddewisiadau unigol eraill lle bynnag y bo modd (e.e. myfyrwyr yn cael dewis fformatau sain/gweledol fel nad oes angen asesiad unigol arall ar fyfyrwyr ag amhariad ar y clyw/golwg)
Mae ein cynlluniau marcio wedi’u cysylltu’n glir â deilliannau dysgu neu gymwyseddau i wneud yn siŵr bod y marcio’n briodol ac yn cyd-fynd â’r cynllun asesu
Nid yw ein cynlluniau marcio yn cosbi camgymeriadau mewn iaith ysgrifenedig neu gonfensiynau cyfeirnodi yn ormodol
Mae sylwadau adborth marcwyr yn adeiladol, ac yn nodi ffyrdd y gall myfyrwyr wella eu gwaith ar gyfer aseiniadau yn y dyfodol.
Mae marcwyr yn rhoi adborth ffurfiannol perthnasol, â ffocws ac amserol i gefnogi dysgu myfyrwyr
Mae tîm ein rhaglen yn sensitif i bryderon myfyrwyr ynghylch asesu ac adborth, felly maen nhw’n creu diwylliant cefnogol o amgylch asesu, yn rhoi arweiniad clir, ac yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr fynegi pryderon

Cynllunio a Rheoli Llwyth Gwaith ar Lefel Rhaglenni

Y ffordd fwyaf effeithiol o gynllunio asesiadau yw pan gaiff ei ystyried ar lefel y rhaglen, yn hytrach na fesul modiwl. Mae’r dull cyfannol hwn yn gofalu bod cydbwysedd priodol rhwng asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Mae’n osgoi gorasesu, ac mae’n dosbarthu’r llwyth gwaith yn rhesymol ar draws semestrau, i staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Mae Prifysgol Caerdydd yn argymell creu Mapiau Asesu, sy’n manylu ar natur, pwysoliad ac amseriad pob asesiad ar draws modiwlau a lefelau. Mae’r mapiau hyn yn galluogi timau rhaglenni i nodi bylchau, unrhyw orgyffwrdd, neu ddyddiadau cau sydd tua’r un amser a allai roi baich gormodol ar fyfyrwyr neu staff.

Mae cynllunio ar lefel rhaglen hefyd yn gwneud yn siŵr bod asesiadau’n mynd i’r afael â’r holl ddeilliannau dysgu gyda’i gilydd ac yn cyfrannu’n ystyrlon at Rinweddau Graddedigion. Er enghraifft, gall prosiectau grŵp, lleoliadau dysgu yn y gwaith, ac aseiniadau myfyriol ddatblygu cydweithio, ymwybyddiaeth foesegol, a meddwl yn feirniadol mewn ffyrdd na all modiwlau unigol eu gwneud ar eu pen eu hunain.

Methodoleg ac Amrywiaeth Asesu

Anogir amrywiaeth gyfoethog o ddulliau asesu i gofnodi’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr ddangos yr hyn y maen nhw wedi’i ddysgu. Mae Prifysgol Caerdydd yn galluogi’r defnydd o aseiniadau ysgrifenedig, arholiadau, tasgau ymarferol, cyflwyniadau, portffolios ac arteffactau digidol, ymhlith dulliau eraill. Dewisir pob dull yn seiliedig ar sut mae’n cyd-fynd â’r deilliant dysgu mewn golwg a’i allu i roi tystiolaeth ddilys a dibynadwy o gyflawniad.

Mae amrywiaeth mewn dulliau asesu yn gwella ymgysylltiad â myfyrwyr hefyd yn ogystal â darparu ar gyfer gwahanol anghenion dysgu. Er enghraifft, gallai myfyriwr sy’n cael trafferth mewn arholiadau a amserir ragori mewn tasgau prosiect sydd â phwyslais ar sgiliau cymhwysol a dadansoddi myfyriol. Lle bo’n briodol, gall rhaglenni gynnig dewis i fyfyrwyr o ran fformat asesu, ar yr amod nad yw hyn yn amharu ar brosesau cymharu na safonau.

I ystyried cynwysoldeb ac amrywiaeth eich asesiadau:

  • Nodwch unrhyw heriau o ran amrywiaeth: a oes unrhyw fathau penodol o asesu sy'n cael eu gorddefnyddio (er enghraifft yn ysgrifenedig yn erbyn ar lafar, arholiad yn erbyn gwaith cwrs)? (Gweler Mapio Asesiadau Rhaglenni Cynhwysol, isod.)

 

 

    • Gellir creu arferion asesu trwy ddefnyddio 'addysgeg werin', gan ddefnyddio ffurfiau di-gwestiwn a chyffredin, sy'n cael eu normaleiddio ac sy’n gallu ymyleiddio ac allgáu rhai myfyrwyr y mae arferion o'r fath yn anghyfarwydd ac yn anhygyrch iddyn nhw. Dadansoddwch eich asesiadau trwy lens Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu ac Addysgeg sy'n Cynnal Diwylliannau (CSP) (Hanesworth et al. 2019), gan ein bod yn ymwybodol y gallwn ddefnyddio arferion cyfarwydd (fel y ffaith mai’r traethawd ysgrifenedig sydd fwyaf cyffredin ym mhrifysgolion y DU), dros y rhai sy’n fwy cyfarwydd mewn gwledydd eraill (fel arholiad llafar neu waith grŵp). Gallwch ddarllen mwy am hyn ar y tudalennau Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu  a 'Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial'  .

     

     

 

 

Mapio Asesu Rhaglenni Cynhwysol

Er mwyn mapio cynwysoldeb asesiadau ar raglen, mae angen inni gymhwyso egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu i alluogi myfyrwyr i ddefnyddio dulliau lluosog o weithredu a mynegi. Mae nodi’r dulliau asesu ar draws rhaglen yn ein galluogi i ddadansoddi’r ystod o wahanol ddulliau asesu a gynigir, a’r rhwystrau posibl i gyrhaeddiad ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr. Os caiff ei ddadansoddi fel llinell amser ar sail modiwlau â chodau lliw, daw’r defnydd mwyaf cyffredin o’r dulliau asesu i’r amlwg ynghyd â’u llif:

A 3 year map of a programme, showing assessments by mode for each semester. Semester 1 essay exam presentation Practical experiment group project exam. Semester 2 exam essay essay exam portfolio essay.

Llinell amser ar sail modiwlau o ddulliau asesu.

Mae’r dull hwn yn ein galluogi i weld yn yr enghraifft hon fod ystod resymol o ddulliau asesu ar draws y rhaglen, gyda rhai mathau o asesu llafar, digidol ac ymarferol. Fodd bynnag, mae semester 2 ym mlynyddoedd un a dau fel ei gilydd i gyd yn defnyddio dulliau asesu ysgrifenedig: efallai y bydd hyn yn fwy heriol i fyfyrwyr dyslecsig, neu’r rhai y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddyn nhw. Mae dulliau asesu llafar yn creu llai o rwystrau i ddysgu na’r dulliau asesu ysgrifenedig academaidd hyn ar gyfer y myfyrwyr hyn. Felly, byddai newid i un neu ddau o’r dulliau asesu hyn yn decach i’ch myfyrwyr amrywiol.

O ran dilyniant, mae cyflwyniadau’n cael eu cyflwyno – yn ddefnyddiol iawn – yn y flwyddyn gyntaf cyn asesiadau cyflwyno lle mae’r mwyaf yn y fantol yn y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, ni chyflwynir cwestiynau amlddewis ym mlwyddyn 1, a gallai prosiect ymchwil y traethawd hir gael ei gefnogi gan brosiectau ymchwil cynharach a llai ym mlynyddoedd 1 a/neu 2.

Asesu Ffurfiannol ac Adborth

Mae asesu ffurfiannol yn elfen ganolog o addysg myfyrwyr ac mae’n rhoi cyfleoedd i ymarfer, myfyrio a gwella. Mae Prifysgol Caerdydd yn pwysleisio pwysigrwydd adborth amserol ac y gellir ei roi ar waith. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall eu perfformiad mewn perthynas â meini prawf asesu ac yn annog dulliau dysgu hunanreoledig (Nicol a Macfarlane-Dick, 2006). Dylai adborth fod yn adeiladol, yn benodol, ac wedi’i alinio â’r deilliannau dysgu, gan alluogi myfyrwyr i wneud gwelliannau pendant cyn asesiadau crynodol.

Gall cyfleoedd ffurfiannol gynnwys cyflwyniadau drafft, ymarferion adborth gan gyd-fyfyrwyr, cwisiau digidol, dyddiaduron myfyriol, a seminarau rhyngweithiol. Yn arwyddocaol, mae asesu ffurfiannol yn atgyfnerthu Rhinweddau Graddedigion, gan ganiatáu i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau cydweithio, cyfathrebu a gwerthuso beirniadol mewn amgylchedd risg isel cyn cael eu hasesu’n ffurfiol.

Meini Prawf, Marcio, a Chymedroli Asesiadau

Mae cysondeb a thryloywder yn hanfodol wrth asesu. Mae Prifysgol Caerdydd yn rhoi meini prawf asesu cyffredinol ar gyfer pob lefel, gan wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn deall y safonau sy’n ofynnol i gyflawni pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Arweinwyr modiwlau sy’n gyfrifol am ddatblygu cyfarwyddiadau sy’n benodol i dasgau ar gyfer asesiadau goddrychol, egluro disgwyliadau, ac arwain marcwyr i fod yn gyson.

Mae Polisi Marcio a Chymedroli’r Brifysgol yn rhoi tegwch a chwarae teg ar draws modiwlau. Mae marcio dienw yn arfer safonol lle bo’n ymarferol, a chynhelir ymarferion safoni, ailfarcio, a phrosesau cymedroli i wneud yn siŵr bod modd cymharu. Mae arholwyr allanol yn adolygu samplau o waith a aseswyd, gan gadarnhau eu bod yn alinio â safonau cenedlaethol a rhoi tawelwch meddwl bod asesiadau’n deg ac yn ddilys

Technoleg, Asesiad Digidol, a Deallusrwydd Artiffisial

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod rôl esblygol technoleg a deallusrwydd artiffisial (DA) ym maes asesu. Anogir rhaglenni i ddylunio tasgau sy’n rhagweld defnydd cyfrifol o offer DA, megis gofyn i fyfyrwyr werthuso cynnwys a gynhyrchir gan DA, integreiddio offer digidol yn rhan o brosiectau, neu gymryd rhan mewn asesiadau amser real lle mae’r defnydd o DA wedi’i gyfyngu. Mae cyfathrebu disgwyliadau yn glir ynghylch defnyddio DA yn hanfodol, gan gynorthwyo uniondeb academaidd wrth feithrin llythrennedd digidol ac ymgysylltiad beirniadol â thechnolegau sy’n dod i’r amlwg.

Safonau Asesu a Marciau Pasio

Mae safonau asesu yn adlewyrchu gofynion rheoleiddiol a bwriad addysgegol. Mae’r marciau pasio gofynnol wedi’u gosod ar 40% ar gyfer lefelau israddedig (Lefelau FHEQ 3–6) a 50% ar gyfer lefelau ôl-raddedig (Lefel 7 FHEQ), a cheir rheolau penodol sy’n llywodraethu ailasesu, capio a dilyniant. Ni ellir cydoddef modiwlau sydd wedi’u dynodi’n “fethiant critigol” oherwydd goblygiadau proffesiynol neu ddiogelwch, os oes rhaid pasio asesiadau “methiant gorfodol” i symud ymlaen. Mae’r rheolau hyn yn diogelu uniondeb dyfarniadau ac yn gofalu bod pawb sy’n graddio yn bodloni meincnodau academaidd a phroffesiynol hanfodol.

Ymgorffori Rhinweddau Graddedigion Trwy Asesu

Mae pob asesiad yn cynnig y cyfle i ddatblygu Rhinweddau Graddedigion. Er enghraifft, gall adroddiad ymchwil ddatblygu sgiliau meddwl yn annibynnol, trylwyredd dadansoddol, a rhesymu moesegol; mae prosiect grŵp yn meithrin cydweithio, cyfathrebu, a gwydnwch. Drwy fapio asesiadau i rinweddau a deilliannau yn benodol, mae timau rhaglenni’n gwneud yn siŵr nad offeryn mesur yn unig yw asesu, ond ei fod hefyd yn fodd o ddatblygu myfyrwyr. Mae’r Templed Mapio Rhinweddau Graddedigion yn cynorthwyo’r integreiddio hwn, gan gynnig mecanwaith tryloyw ar gyfer dylunio ac adolygu’r cwricwlwm.

Adolygu a Gwella’n Barhaus

Mae strategaethau asesu yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i gynnal aliniad â nodau’r rhaglen, gofynion rheoleiddiol ac arferion gorau ym maes addysgeg. Mae adborth myfyrwyr, adroddiadau arholwyr allanol, ac archwiliadau ansawdd mewnol yn llywio gwelliant ailadroddol, gan ofalu bod asesiadau’n parhau i fod yn deg, yn ddilys, ac yn effeithiol. Ar ben hynny, mae adolygu parhaus yn caniatáu i raglenni ymateb i ddisgwyliadau disgyblaethol sy’n esblygu, technolegau sy’n dod i’r amlwg, a safonau proffesiynol newydd, gan ddiogelu perthnasedd a hygrededd dyfarniadau (QAA, 2024).

Enghraifft esboniadol

Ystyriwch raglen Meistr mewn Dadansoddeg Data. Mae asesiadau wedi’u cynllunio i wneud yn siŵr bod dilyniant a bod rhinweddau’n cael eu datblygu. Ar Lefel 7, mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect i gloi lle mae angen integreiddio technegau ystadegol, ystyriaeth foesegol o ddefnyddio data, cyfleu canfyddiadau i gynulleidfaoedd anarbenigol, ac ymgysylltu â chyd-fyfyrwyr. Mae gwaith ffurfiannol, fel ymarferion cyn-brosesu data a dadansoddiadau drafft, yn helpu i ddatblygu sgiliau ac yn cynnig adborth i fireinio dull a methodoleg. Drwy’r dilyniant asesu hwn sydd wedi’i strwythuro’n ofalus, mae myfyrwyr yn datblygu meistrolaeth ar y pwnc ac yn meithrin Rhinweddau Graddedigion ar yr un pryd, gan gynnwys meddwl yn feirniadol, cydweithio a gwydnwch.

Casgliad

Nid mecanwaith ar gyfer dyfarnu graddau yn unig yw asesu ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n elfen ganolog o waith dylunio rhaglenni a datblygiad myfyrwyr. Drwy alinio asesiadau â Deilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion, ymgorffori cynhwysiant a hygyrchedd, gofalu bod cydbwysedd ffurfiannol a chrynodol, yn ogystal â glynu wrth brosesau marcio a chymedroli trylwyr, mae rhaglenni’n meithrin profiadau dysgu ystyrlon a dilys. Drwy wneud hyn, mae asesu ar yr un pryd yn ardystio cyflawniad, yn hyrwyddo dysgu, ac yn paratoi myfyrwyr i ffynnu’n academaidd, yn broffesiynol, ac yn bersonol mewn sefyllfaoedd cymhleth a deinamig.

4.Dylunio Modiwlau

Modiwlau yw blociau adeiladu sylfaenol unrhyw raglen addysg uwch. Maen nhw’n unedau dysgu arwahanol a chydlynol sydd, gyda’i gilydd, yn galluogi myfyrwyr i gyflawni Deilliannau Dysgu Rhaglenni a datblygu Rhinweddau Graddedigion. Ym Mhrifysgol Caerdydd, mae modiwlau’n cael eu dylunio mewn modd cyfannol, gan integreiddio cynnwys, addysgeg, asesu a datblygu sgiliau mewn modd sy’n adlewyrchu blaenoriaethau sefydliadol, canllawiau QAA ac arferion gorau’r sector.

Diben a Rôl Modiwlau

Mae gan bob modiwl sawl pwrpas o fewn rhaglen. Yn bennaf, mae’n rhoi gwybodaeth ddisgyblaethol a sgiliau ymarferol sy’n cyd-fynd â deilliannau dysgu, gan roi cyfleoedd strwythuredig i fyfyrwyr ymgysylltu, cymhwyso a chydgrynhoi dysgu. Mae modiwlau yn gerrig milltir cynyddol hefyd, gan atgyfnerthu datblygiad deallusol a phroffesiynol myfyrwyr ar draws lefelau FHEQ. Er enghraifft, mae modiwlau lefel gynnar (Lefel 4/5) yn canolbwyntio ar ddealltwriaeth sylfaenol, mae modiwlau lefel ganol (Lefel 5/6) yn rhoi pwyslais ar gymhwyso a dadansoddi, ac mae modiwlau uwch (Lefel 6/7) yn annog gwerthuso beirniadol, cyfosod ac ymchwil annibynnol (Biggs a Tang, 2011).

Ar ben hynny, mae modiwlau’n hollbwysig er mwyn ymgorffori Rhinweddau Graddedigion. Drwy integreiddio strategaethau addysgu a gweithgareddau dysgu ac asesu yn ofalus, mae modiwlau’n meithrin sgiliau cydweithredol, rhesymu moesegol, arloesedd, gwydnwch ac ymarfer myfyriol. Mae’r dull integredig hwn yn gofalu bod myfyrwyr yn datblygu mewn modd cyfannol, a heb fod yn gyfyngedig i ddysgu gwybyddol neu ddisgyblaethol yn unig.

Strwythur y Modiwl a’r Prif Gydrannau

Cynrychiolir modiwl Prifysgol Caerdydd yn ffurfiol mewn disgrifydd modiwl. Mae hwn yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o bwrpas, cynnwys a deilliannau dysgu’r modiwl, ei strategaethau addysgu a dysgu, ei ddulliau asesu, a’r cyfleoedd a gynigir ynddo i ddatblygu sgiliau. Mae disgrifydd y modiwl yn ddogfen ddylunio fewnol ac yn arweiniad i fyfyrwyr, gan wneud yn siŵr bod tryloywder a chysondeb. Mae’n ddogfen ffurfiol, ac ar ôl ei chymeradwyo, ni ellir ei newid heb i Fwrdd Astudiaethau ei hystyried. Ar gyfer newidiadau mwy sylweddol, rhaid cael cymeradwyaeth drwy brosesau Sicrhau Ansawdd.

Mae Manylion y Modiwl yn sefydlu hyd a lled ymarferol yr hyn a ddysgir, gan gynnwys ei werth o ran credyd, oriau astudio, a lefel FHEQ. Mae modiwlau fel arfer yn amrywio o 10 i 40 credyd, ac mae uchafswm o 40 credyd ar gyfer darpariaeth safonol, ac eithrio prosiectau estynedig, lleoliadau gwaith, neu draethodau hir. Mae hyn yn gofalu bod y llwyth gwaith yn hylaw ac yn gymaradwy ar draws y Brifysgol. Mae dynodi’n glir yr oriau astudio, yr amser cyswllt, a’r disgwyliadau o ran dysgu annibynnol gan ganiatáu i fyfyrwyr gynllunio’n effeithiol a helpu i roi cyfleoedd dysgu teg.

Mae Amlinelliad/Disgrifiad y Modiwl yn rhoi crynodeb hygyrch o gynnwys, amcanion a rhesymeg y modiwl. Mae dau ddiben i’r adran hon: cyfleu gwerth unigryw’r modiwl i fyfyrwyr, a rhoi cyd-destun i’r hyn a ddysgir o fewn y rhaglen ehangach. Dylai disgrifiadau fod yn gryno ond yn ddiddorol, gan dynnu sylw at y profiadau dysgu penodol a gynigir a’r cysylltiadau â Rhinweddau Graddedigion. Er enghraifft, gallai modiwl “Cynllunio Trefol Cynaliadwy” amlinellu sut y bydd myfyrwyr yn dadansoddi fframweithiau polisi yn feirniadol, dylunio ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chydweithio mewn timau amlddisgyblaethol, a thrwy hynny’n cysylltu dysgu ag arbenigedd disgyblaethol a sgiliau proffesiynol.

Deilliannau Dysgu Modiwlau

Deilliannau Dysgu Modiwlau yw’r conglfaen ar gyfer dylunio modiwlau’n effeithiol. Maen nhw’n diffinio’r wybodaeth, y sgiliau a’r galluoedd y disgwylir i fyfyrwyr eu dangos ar ôl cwblhau. Mae Prifysgol Caerdydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddeilliannau dysgu modiwlau fod yn gynhwysol, yn benodol, yn arsylladwy, yn fesuradwy, ac iddyn nhw gyd-fynd â’r deilliannau dysgu. Dylai deilliannau dysgu modiwlau gael eu hanelu at y lefel FHEQ briodol, gan adlewyrchu’r cymhlethdod, y dyfnder a’r annibyniaeth a ddisgwylir yn y cam dysgu hwnnw (QAA, 2024).

Mae’r Brifysgol yn rhoi canllawiau ar ddrafftio deilliannau dysgu cadarn ar gyfer modiwlau, gan bwysleisio’r defnydd o ferfau gweithredu a dynnwyd o ddosbarthiad diwygiedig Bloom (Anderson a Krathwohl, 2001). Dylai pob deilliant dysgu mewn modiwl ganolbwyntio ar un deilliant y gellir ei arsylwi, gan osgoi berfau amwys fel “deall”, “gwerthfawrogi” neu “gwybod”. Er enghraifft, yn hytrach na datgan “deall dulliau ymchwil,” byddai deilliant dysgu mewn modiwl yn nodi, “Gwerthuso dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol yn feirniadol yng nghyd-destun y gwyddorau cymdeithasol.”

Mae deilliannau dysgu modiwlau wedi’u mapio’n benodol i ddeilliannau dysgu rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion hefyd gan ddefnyddio templedi mapio’r Brifysgol. Mae’r mapio hwn yn gwneud yn siŵr bod pob modiwl yn cyfrannu’n ystyrlon at ddeilliannau ar lefel rhaglenni yn ogystal â chynnig llwybr datblygiadol cydlynol i fyfyrwyr. Mae mapio o gymorth hefyd o ran sicrhau ansawdd, gan ganiatáu i dimau rhaglenni ac arholwyr allanol wneud yn siŵr bod yr holl ddeilliannau’n cael sylw a’u hasesu’n briodol. Yn yr modd â Deilliannau Dysgu Rhaglenni, dylai Deilliannau Dysgu Modiwlau fod yn gynhwysol, felly dylech wneud yn siŵr nad yw eich deilliannau dysgu yn eithrio myfyrwyr yn anfwriadol am resymau nad ydyn nhw’n gwbl angenrheidiol. Dylen nhw felly ymwneud â safonau cymhwysedd y rhaglen neu’r maes disgyblaeth.

Dulliau Cyflwyno ac Agweddau Addysgegol

Mae cyflwyno modiwlau’n effeithiol yn hanfodol er mwyn cyflawni deilliannau dysgu modiwlau. Mae Prifysgol Caerdydd yn annog dysgu gweithredol, dulliau cyfunol, ac addysgegau dilys fel bod cymaint o ymgysylltiad, cynhwysiant, a datblygu sgiliau â phosibl (Biggs, 1999; Purvis a Winwood, 2023). Gall dulliau cyflwyno gynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau labordy, gweithdai, gwaith maes, gweithgareddau ar-lein, a phrosiectau cydweithredol. Mae’r dulliau a ddewisir yn cael eu harwain gan y cynnwys, y deilliannau bwriadol, ac anghenion amrywiol myfyrwyr.

Mae dysgu cyfunol, sy’n cyfuno elfennau wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn gynyddol safonol, gan ganiatáu hyblygrwydd a hygyrchedd wrth annog myfyrwyr i fod yn annibynnol. Mae Fframwaith Dysgu Cyfunol y Brifysgol yn annog technolegau rhyngweithiol i gael eu hintegreiddio. Mae’r rhain yn cynnwys labordai rhithwir, byrddau trafod, a chwisiau digidol ffurfiannol, i gynorthwyo ymgysylltiad gweithredol a dysgu atgyfnerthol ar draws gwahanol gyd-destunau (sites.cardiff.ac.uk).

Ar ben hynny, dylid cynllunio dull cyflwyno’r modiwlau gan ystyried egwyddorion Addysg Gynhwysol a Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Bydd hyn yn gwneud yn siŵr bod dulliau addysgu yn ystyried anghenion dysgu, cefndiroedd diwylliannol, profiadau a nodweddion amrywiol myfyrwyr. Mae strategaethau sy’n defnyddio egwyddorion UDL, fel cyflwyno cynnwys aml-foddol, cyfarwyddiadau clir, gweithgareddau dysgu amrywiol, a chymorth atgyfnerthol, yn hyrwyddo cydraddoldeb a hygyrchedd, gan alluogi pob myfyriwr i ddangos eu galluoedd.

Bydd cyflwyno modiwlau cynhwysol yn ystyried y materion canlynol o leiaf:

  • datblygu adnoddau (fel yr un strwythur â holl dudalennau modiwlau Dysgu Canolog ar raglen, er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i lywio)
  • darparu adnoddau (fel darparu adnoddau 48 awr ymlaen llaw, a darpariaeth safonol o recordiadau neu nodiadau am sesiynau)
  • cyfleoedd ar gyfer cymorth ac ymholiadau (megis defnyddio dull safonol o ymdrin ag ymholiadau personol, anghydamserol ac anhysbys ynglŷn â phob modiwl).

Gallwch werthuso dull cyflwyno arfaethedig eich modiwl ar gyfer addysg gynhwysol drwy ddefnyddio Model Gwella Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd. Dylai pob aelod o staff sy’n addysgu ar y modiwl fod yn ymwybodol o’r disgwyliadau o ran cynhwysiant yn ystod sesiynau addysgu. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod addysgu’n gwella ymdeimlad myfyrwyr o berthyn a pharch at amrywiaeth, yn ogystal â galluogi cyfleoedd i ddefnyddio sawl dull o gynrychioli ac ymgysylltu.

Ar ben hynny, mae monitro a gwerthuso modiwlau’n rheolaidd yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod yr egwyddorion hyn yn cael eu rhoi ar waith a’u hymgorffori.

Integreiddio Sgiliau

Mae modiwlau ym Mhrifysgol Caerdydd yn integreiddio sgiliau disgyblu, proffesiynol a throsglwyddadwy yn fwriadol. Mae sgiliau penodol i’r pwnc yn datblygu arbenigedd o fewn y maes academaidd, megis technegau arbrofol mewn gwyddoniaeth, dadansoddi polisïau yn y gwyddorau cymdeithasol, neu ddatblygu algorithmau ym maes cyfrifiadura. Mae sgiliau proffesiynol ac ymarferol, fel rheoli prosiectau, diogelwch labordy, ac ymarfer moesegol, yn paratoi myfyrwyr ar gyfer cyd-destunau proffesiynol a gofynion rheoleiddiol. Mae sgiliau trosglwyddadwy, sy’n cwmpasu cyfathrebu, cydweithio, meddwl yn feirniadol a llythrennedd digidol, yn sail i gyflogadwyedd a dysgu gydol oes.

Mae mynegi’r sgiliau hyn yn eglur mewn disgrifyddion modiwlau yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn ymwybodol o’r cymwyseddau y maent yn eu datblygu a’u bod nhw’n gallu eu cysylltu â Rhinweddau Graddedigion. Er enghraifft, gall prosiect grŵp mewn modiwl busnes ddatblygu arbenigedd pwnc (dadansoddi ariannol), sgiliau proffesiynol (ymgysylltu â chleientiaid), a sgiliau trosglwyddadwy (gwaith tîm, cyfathrebu, gwydnwch) ar yr un pryd.

Strategaeth asesu

Mae asesiad modiwl wedi’i gynllunio i roi tystiolaeth ddilys a dibynadwy bod deilliannau dysgu’r modiwl wedi’u cyflawni wrth atgyfnerthu dysgu. Mae pob modiwl yn cynnwys cyfuniad o asesiadau ffurfiannol a chrynodol, ac mae pwysoliadau, dyddiadau cau, a mecanweithiau adborth yn cael eu mynegi’n glir. Mae asesiadau ffurfiannol yn rhoi cyfleoedd i ymarfer a myfyrio, gan alluogi myfyrwyr i fireinio sgiliau a dealltwriaeth cyn cynnal gwerthusiad crynodol. Mae asesiadau crynodol yn tystio cyflawniad ac yn cyfrannu at raddau terfynol, gan sicrhau cymhariaeth a thegwch ar draws modiwlau a rhaglenni.

Caiff asesiadau eu dylunio ar sail egwyddorion dilysrwydd, cynhwysiant, a dysgu sydd wedi’i alinio’n adeiladol. Dewisir tasgau i adlewyrchu heriau’r byd go iawn, confensiynau disgyblu, a disgwyliadau proffesiynol. Er enghraifft, gall modiwlau labordy gynnwys arbrofion ymarferol a asesir trwy adroddiadau labordy, dyddiaduron myfyriol, ac arholiadau llafar. Ar y llaw arall, gall modiwlau gwyddorau cymdeithasol gyfuno traethodau, dadansoddiadau o astudiaethau achos, a chyflwyniadau grŵp.

Mae Polisi Marcio a Chymedroli’r Brifysgol yn sicrhau cysondeb, tegwch a thryloywder. Mae marcio’n cael ei wneud yn ddienw lle bo’n ymarferol. Cynhelir ymarferion safoni cyn-marcio, ac mae camau cymedroli ôl-farcio yn gwneud yn siŵr bod yr holl farcwyr yn gyson. Mae arholwyr allanol yn adolygu samplau o waith a aseswyd i gadarnhau bod modd cymharu safonau â sefydliadau eraill yn y DU, gan roi sicrwydd o drylwyredd academaidd a thegwch (sites.cardiff.ac.uk).

Cynnwys y Maes Llafur ac Integreiddio’r Cwricwlwm

Mae’r maes llafur yn rhoi manylion am yr hyn sydd yn y modiwl, gan gynnwys cysyniadau allweddol, damcaniaethau, technegau ymarferol, a chysylltiadau â gofynion cyrff proffesiynol neu statudol, lle bo’n berthnasol. Dylid cynllunio modiwlau i ategu cydrannau eraill y rhaglen, gan osgoi dyblygu wrth atgyfnerthu gwybodaeth a sgiliau craidd. Mae’r integreiddio hwn yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr yn dilyn llwybr dysgu cydlynol a bod pob modiwl yn cyfrannu’n strategol at Ddeilliannau Dysgu Rhaglenni a Rhinweddau Graddedigion.

Os bydd rhaglenni’n rhannu modiwlau, rhoddir sylw penodol i wahaniaethu er mwyn diogelu uniondeb y dyfarniadau. Hyd yn oed pan fydd y cynnwys yn gorgyffwrdd, mae deilliannau dysgu, gofynion asesu, a dulliau addysgegol wedi’u teilwra i bob rhaglen, gan wneud yn siŵr bod myfyrwyr yn cyflawni’r proffil graddedig bwriadol heb gyfaddawdu.

Dylunio Ailadroddol a Gwella’n Barhaus

Mae dylunio modiwlau yn ei hanfod yn broses ailadroddol ac mae wedi’i llywio gan ymchwil addysgegol, adborth myfyrwyr, a phrosesau sicrhau ansawdd. Mae Prifysgol Caerdydd yn hyrwyddo gwelliant parhaus drwy fecanweithiau megis adolygiadau modiwlau, arolygon myfyrwyr, myfyrdodau staff, a phrosesau ailddilysu. Mae’r dull hwn yn gwneud yn siŵr bod modiwlau’n parhau i fod yn gyfredol, yn berthnasol ac yn effeithiol, gan fynd i’r afael â newidiadau yn y ddisgyblaeth, datblygiadau technolegol a safonau proffesiynol sy’n esblygu.

Er enghraifft, gellir diweddaru modiwl cyfrifiadura yn flynyddol i ymgorffori ieithoedd rhaglennu neu arferion seiberddiogelwch sy’n dod i’r amlwg. Yn yr un modd, gellir mireinio gweithgareddau asesu myfyriol i gynorthwyo ymgysylltiad myfyrwyr, a datblygu Rhinweddau Graddedigion yn well. Mae’r mireinio parhaus hwn yn cynnal uniondeb academaidd a pherthnasedd ymarferol modiwlau.

Wrth fonitro, gwerthuso neu fyfyrio ar eich rhaglen, ystyriwch pa mor gynhwysol yw profiad y myfyrwyr i wneud yn siŵr eich bod yn casglu lleisiau’r holl fyfyrwyr, drwy ystod o dechnegau myfyrio a gwerthuso. Mae gan Advance HE ganllawiau manwl ar gyfer casglu a monitro data am amrywiaeth.  Ystyriwch hefyd sut y byddwch yn casglu gwerthusiadau a barn grwpiau sy’n aml yn cael eu gwthio i’r cyrion neu eu heithrio o werthusiadau myfyrwyr, partneriaethau a gweithgareddau cyd-greu traddodiadol, i wneud yn siŵr eich bod yn parchu ac yn casglu lleisiau pawb. Mae llawer o’n myfyrwyr mwyaf difreintiedig yn brin o amser ac yn cael llai o gyfle i gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau. Felly, gwnewch yn siŵr bod modd cydweithio, cyd-greu a gwerthuso ar wahanol adegau, gan ddefnyddio ystod o ddulliau, megis ar lafar neu’n ysgrifenedig. Gallwch hefyd hunanfyfyrio: monitro a gwerthuso eich rhaglen ar gyfer addysg gynhwysol drwy ddefnyddio’r Model Gwella Addysg Gynhwysol.

Ymgorffori Rhinweddau Graddedigion

Mae pob modiwl yn cyfrannu’n benodol at Rinweddau Graddedigion, gan integreiddio datblygiad gwybyddol, proffesiynol a moesegol mewn gweithgareddau dysgu ac asesiadau. Mae offer mapio ac ymarferion myfyriol yn caniatáu i fyfyrwyr gydnabod a mynegi’r sgiliau a’r rhinweddau a ddatblygwyd ym mhob modiwl. Mae’r broses hon yn hyrwyddo hunanymwybyddiaeth, gwydnwch, a pharodrwydd ar gyfer ymarfer proffesiynol, gan wneud yn siŵr bod galluoedd graddedigion yn gydlynol, yn gronnus, ac yn weladwy ar draws y rhaglen.

Casgliad

Mae dylunio modiwlau ym Mhrifysgol Caerdydd yn ddull bwriadol ac integredig ym maes addysg uwch. Mae’n gwneud yn siŵr bod pob profiad dysgu yn cyfrannu’n ystyrlon at ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau. Drwy gyfuno deilliannau trylwyr, addysgeg ddilys a chynhwysol, aliniad adeiladol, a gwelliant parhaus, y modiwlau yw’r cyfryngau sy’n galluogi Deilliannau Dysgu Rhaglenni i gael eu gwireddu yn ogystal ag integreiddio Rhinweddau Graddedigion. Mae dylunio modiwlau mewn modd meddylgar yn gwneud mwy na gwarantu safonau academaidd ac uniondeb dyfarniadau. Mae hefyd yn grymuso myfyrwyr i ymgysylltu’n ddwfn â’u disgyblaeth, datblygu sgiliau proffesiynol a throsglwyddadwy, a bod yn raddedigion galluog, addasadwy a chyfrifol yn gymdeithasol.

 


Archwilio’n ddyfnach


Mae’r pecyn cymorth hwn gan Brifysgol Caerdydd yn gasgliad o adnoddau sydd â’r nod o’ch cefnogi wrth Ddatblygu Rhaglenni. Mae Cod Ansawdd QAA hefyd yn cynnwys cyngor ac arweiniad a nodir fel 12 thema, a luniwyd i gefnogi SAUau i fodloni gofynion gorfodol y Cod Ansawdd fel y dangosir isod. Mae'r rhain yn ganllawiau defnyddiol i bawb sy'n ymwneud â dylunio rhaglenni eu hystyried.

Mae'r ddelwedd trydydd parti ganlynol yn Saesneg yn unig.

Twelve circular icons are used to represent the 12 themes within the QAA Quality Code. An arrow pointing towards an open book illustrates Admissions, Recruitment and Widening Access. A clipboard is used to highlight the theme Assessment. Speech bubbles represent Concerns, Complaints and Appeals. Three interconnected cogs illustrate Course Design and Development. A mortar board represents Enabling Student Achievement. Five arrows pointing towards a central focal point is used to highlight External Expertise. Three box folders standing in line represent Learning and Teaching. A document with a folded corner is used to illustrate Monitoring and Evaluation. Two hands shaking denotes Partnerships. A magnifying glass hovering over an open book signified Research Degrees. Three human silhouettes represent Student Engagement and two tall buildings illustrate Work-Based Learning.

Arnaud, C, H. 2020. Block plan compresses one class into a few weeks for deeper learning. Chemical and Engineering News. Volume 98, Issue 26. Available at: https://cen.acs.org/education/undergraduate-education/Block-plan-compresses-one-class/98/i26

Black, P., Harrison, C. and Lee, C., 2003. Assessment for learning: Putting it into practice. London: McGraw-Hill Education.

Bowen, R. S. 2017. Understanding by Design. Vanderbilt University Center for Teaching. Available at: https://cft.vanderbilt.edu/understanding-by-design/.

McTighe, J. and Wiggins, G., 2012. Understanding by design framework. Alexandria, VA: Association for Supervision and Curriculum Development.

Lindblome-Ylanne, S., Parpala, A. and Postareff, L. (2018). What constitutes the surface approach to learning in the light of new empirical evidence? Studies in Higher Education, Volume 12 (4).

Schellekens, L.H., Bok, H.G., de Jong, L.H., van der Schaaf, M.F., Kremer, W.D. and van der Vleuten, C.P., 2021. A scoping review on the notions of Assessment as Learning (AaL), Assessment for Learning (AfL), and Assessment of Learning (AoL). Studies in Educational Evaluation, 71, p.101094.

QAA. 2020. Professional, Statutory And Regulatory Bodies. Available at: https://www.qaa.ac.uk/about-us/who-we-work-with/professional-statutory-and-regulatory-bodies

Wiggins, G., and McTighe, J., 2005. Understanding by design.

Yan, Z. and Boud, D., 2021. Conceptualising assessment-as-learning. In Assessment as Learning (pp. 11-24). Routledge.

Rydych chi ar dudalen 2 o 4 o dudalennau'r broses datblygu addysg.

Y tudalennau nesaf yw:

Dylunio Dysgu a Pharatoi i Addysgu (gweler y rhybudd isod cyn symud i'r dudalen hon)

Gwella Dysgu

(oedd y dudalen flaenorol Cwmpasu’r Rhaglen)

Argymhellir yn gryf, os ydych yn dylunio rhaglen newydd neu'n ailddilysu rhaglen, eich bod yn archwilio'r tudalennau canlynol wrth i chi adeiladu eich dogfennaeth ansawdd. Maent mewn trefn benodol:

  1. Deilliannau Dysgu’r Rhaglen
  2. Asesu Rhaglen
  3. Deilliannau Dysgu’r Modiwl
  4. Asesiadau’r Modiwl