Asesu Rhaglen
Dechrau arni
Rydym bellach yn y cam o ddatblygu dull rhaglennol o asesu.

Pam cynllunio Asesiadau Rhaglen?
Mae cynllunio ar lefel rhaglen yn ein galluogi i sicrhau bod profiad dysgu myfyrwyr yn un sy’n adeiladu drwy gydol y rhaglen, gyda dulliau asesu yn cyd-fynd â deilliannau dysgu a gweithgareddau dysgu. Mae cymryd golwg rhaglennol yn hyrwyddo arferion asesu da a gall gyfrannu at ddatblygu strategaeth asesu gydlynol a chynhwysol.

Mae dylunio asesu yn effeithiol yn sicrhau bod deilliannau dysgu rhaglenni (sydd eu hunain yn cyflawni gofynion y disgrifyddion lefel perthnasol yn y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch a Datganiadau Meincnodi Pwnc QAA) yn cael sylw trwy asesu’r cwrs a’i unedau neu fodiwlau cyfansoddol. Yn y pecyn cymorth hwn, rydym yn canolbwyntio ar hanfodion dull rhaglennol o asesu. Yn y bôn, ein hymagwedd ni yw:
Mae dull rhaglennol cydlynol o asesu yn un lle mae holl elfennau asesu ac adborth (ffurfiannol a chrynodol) yn gysylltiedig yn strategol â’r bwriad o gyflawni deilliannau dysgu’r rhaglen.
Fodd bynnag, i gydnabod dehongliadau amrywiol o asesu rhaglennol, rydym yn archwilio lefelau mwy ‘integreiddiol’ ac ‘arloesol’ yn yr adran ‘archwilio’n ddyfnach’. Mae’r adran archwilio’n ddyfnach hefyd yn darparu cyfres o awgrymiadau myfyriol a gwybodaeth ychwanegol i chi eu hystyried.

Pwyntiau I Fyfyrio Arnynt
Yn gryno, pan fyddwch yn ceisio cynllunio ar gyfer dulliau asesu ar lefel rhaglen, dylech fod yn glir sut yr ydych yn bwriadu gwneud hyn. Mae’r cwestiwn cyntaf yn fwy o sylfaen i addysg o safon, tra bo’r ail a’r trydydd yn cynrychioli dulliau cynyddol arloesol y bydd angen eu hystyried yn ofalus.
- A ydych chi’n mynd i sicrhau bod yna ledaeniad, cydbwysedd a dilyniant da mewn asesu ar draws eich rhaglen?
- A fyddwch chi’n dangos dysgu o bob modiwl mewn asesiad arbennig, fel asesiad capfaen?
- A wnewch chi ddylunio dull arloesol o gefnogi ac olrhain dysgu?
Hanfodion Asesu Rhaglennol
Ar ôl pennu a chytuno ar y deilliannau dysgu arfaethedig fel sylfaen, y cam nesaf yw dechrau datblygu dull o asesu ar draws y rhaglen gyfan.
Bydd yn bosibl newid unrhyw beth y byddwch yn ei wneud ar y cam hwn, ond trwy gwblhau’r ymarferion isod gallwch ddatblygu fframwaith i lywio’r broses o ddylunio asesiadau ar draws y rhaglen, sef rhywbeth y dylech ailedrych arno a cheisio ei ddilysu wrth i chi symud drwy’r broses hon.
Cydbwyso Diben Gweithgareddau Asesu
Mae’n bwysig pennu’r cydbwysedd rhwng gweithgareddau asesu sydd naill ai ‘gyfystyr â dysgu’, ‘ar gyfer dysgu’ ac ‘yn rhan o ddysgu’. I ddysgu mwy am y rhain, archwiliwch yr adran asesu ar y dudalen Datblygu Rhaglen.
Trwy ddylunio dull sy’n cydbwyso’r tri phrif ddiben asesu, byddwch yn gallu:
- Sicrhau bod myfyrwyr yn deall sut mae asesu’n gweithio a pha safonau y dylent roi tystiolaeth ohonynt mewn gwahanol ddarnau o waith, deall yn well beth mae marciau’n eu golygu ac yn eu cynrychioli, a deall sylwadau adborth yn well – ASESU SY’N GYFYSTYR Â DYSGU;
- Profi eu dealltwriaeth a’u sgiliau mewn tasgau ffurfiannol, a defnyddio’r adborth a gânt o dasgau o’r fath yn fwy effeithiol – ASESU AR GYFER DYSGU; a
- Sicrhau eu bod wedi paratoi’n well ac yn gallu cyflwyno gwaith sy’n cynrychioli eu sgiliau a’u cyflawniadau mewn tasgau crynodol – ASESU DYSGU.
Gweithgaredd
Dewch ynghyd fel tîm rhaglen i drafod sut y gallech gynllunio cydbwysedd o’r mathau gwahanol hyn o asesiad yn eich rhaglen.
Mapio dulliau asesu yn erbyn Deilliannau Dysgu Rhaglen
Ail gam y broses yw creu’r dulliau asesu y gellid eu defnyddio i gefnogi arddangosiad myfyrwyr o ddeilliannau dysgu’r rhaglen.
Ar hyn o bryd, mae’r dulliau asesu rhaglennol bwriadedig wedi’u gosod ar lefel uchel, gan ddefnyddio categorïau o asesiadau sydd i’w cael yn y Templed Cyfannol yn yr adran Archwilio’n Ddyfnach. Mae dulliau’n cynnwys arholiadau, gwaith cwrs, cyflwyniad, gwaith grŵp a mwy. Mae pennu’r cymysgedd o ddulliau sy’n gweddu orau i’r gwahanol ddeilliannau dysgu yn dangos bod dull cynhwysol o ddylunio asesu wedi’i ymgorffori yn y rhaglen.
Bydd yr allbynnau o’r cam hwn yn eich galluogi i nodi sut y gellir cynnwys cynnydd myfyrwyr tuag at gyflawni’r canlyniadau mewn rhaglenni ar draws y gwahanol lefelau astudio. Er enghraifft, mewn rhaglen israddedig, os oes gennych ddeilliant dysgu rhaglen sy’n canolbwyntio ar grynhoi ac arddangos sgiliau cyfathrebu, gallwch nodi cyflwyniad fel asesiad rhaglennol bwriadedig addas. Wrth wneud hyn, byddai’n gwneud synnwyr i fyfyrwyr gael eu cyflwyno i gyflwyniadau fel dull asesu ar Lefel 4, cael cyfle pellach i ymarfer y sgiliau hyn a defnyddio adborth a gafwyd eisoes ar Lefel 5, ac yna i wneud cyflwyniad mwy a asesir yn grynodol ar Lefel 6.
Bwriad y dull rhaglennol yw galluogi cydlyniant ond hefyd hyblygrwydd ac arloesedd, felly wrth i chi ddatblygu eich strategaethau asesu modiwl ymhellach, byddwch yn gallu nodi is-fathau penodol o asesu a fyddai’n gweddu orau i’r canlyniadau ar lefel modiwl. Bydd hyn eto’n gwella amrywiaeth yr asesu ac yn ymgorffori cynwysoldeb yn nyluniad eich asesu.
Ystyriaethau strategaeth asesu
Mae dylunio asesu’n effeithiol yn seiliedig ar set o Egwyddorion ac Ymrwymiadau Asesu ac Adborth Caerdydd, sydd ar gael yma (yn Saesneg). Mae’r rhain yn nodi canllawiau a chyngor ar sut y caiff asesu ac adborth eu llunio a’u cynnal ar draws y Brifysgol. Eu nod yw amlygu nodweddion cyffredin asesu ac adborth effeithiol a’r camau gweithredu a’r prosesau sy’n sicrhau profiad da a chyson i fyfyrwyr.
Ar ôl ystyried y dulliau asesu rhaglennol bwriadedig a chydbwysedd asesu dysgu, asesu ar gyfer dysgu ac asesu sy’n gyfystyr â dysgu, byddech wedyn yn gallu mapio strategaeth asesu rhaglennol ddangosol, un sy’n ystyried sut y gall y prif asesiadau arfaethedig fod yn berthnasol ar draws y lefelau astudio.
I gael rhai awgrymiadau ymarferol ar gyfer strategaeth asesu gydlynol ar lefel rhaglen, rydym yn awgrymu bod rhaglenni’n cynllunio’u hasesiad i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â deilliannau dysgu, annog amrywiaeth asesu, mynd i’r afael â maint a sicrhau cydbwysedd llwyth gwaith, croesawu asesu ffurfiannol ac adborth fel proses, a sicrhau bod asesiadau’n cael eu sgaffaldio oddi fewn ac ar draws lefelau astudio a’u bod yn ddilys. Wrth wraidd asesu rhaglennol mae ymagwedd gynhwysol.

Cliciwch yma am fwy o gymorth ar ddylunio asesu effeithiol
Aliniad:
- Adolygwch yr aliniad rhwng deilliannau dysgu'r rhaglen a deilliannau dysgu eich modiwl (gweler ein hadran mapio deilliannau dysgu am ragor o wybodaeth)
- Ystyriwch sut mae eich tasg asesu yn bodloni deilliannau dysgu unigol y rhaglen
Amrywiaeth:
- Sicrhewch amrywiaeth o ddulliau asesu ar draws y rhaglen – gweler ein crynodeb o fathau o asesu
- Lle bo modd, defnyddiwch Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu i gynllunio eich asesiadau
Maint a Chydbwysedd:
- Anelwch at sicrhau bod maint eich asesiad o fewn canllawiau Tariff Prifysgol Caerdydd, sydd ar gael yma. Fel enghraifft fer, gweler isod y canllawiau ar gyfer mathau traddodiadol o asesu a gymerwyd o’r Canllawiau ar Natur a Maint Asesu mewn Modiwlau ar Raglenni Astudio a Addysgir (yn Saesneg)
- Anelwch at un dasg asesu grynodol fesul modiwl 10 credyd i leihau baich gorasesu ar fyfyrwyr a staff fel ei gilydd. Gall hyn gynyddu i ddau asesiad crynodol am 20 credyd er enghraifft.
- Ystyriwch asesu synoptig ar draws modiwlau i gyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen trwy gydweithio (e.e. yn hytrach na bod pob modiwl yn asesu trwy arholiad, ystyriwch un arholiad i asesu gwybodaeth a dealltwriaeth ar draws ystod o fodiwlau)

Adborth Ffurfiannol:
- Sicrhewch fod gan bob asesiad crynodol gydran asesu ffurfiannol
Sgaffaldiau:
- Sicrhewch fod sgaffaldiau mewn tasgau asesu. Er enghraifft, os ydych yn asesu trwy waith grŵp ar lefel israddedig, lluniwch dasgau gwaith grŵp ar draws lefelau 4, 5 a 6)
Dilysrwydd:
- Cynhwyswch ddilysrwydd mewn tasgau asesu (e.e. alinio asesiadau â phrofiadau ac ymrwymiadau go iawn, lleoliadau ac ati).
Ai gwyddoniaeth roced ydyw?
Templed cynllunio cyfannol

Wrth ystyried ein henghraifft o MSc mewn Gwyddoniaeth Rocedi, rydym yn dangos isod ddyfyniad at ddibenion enghreifftiol o sut olwg allai fod ar ymarfer mapio asesiadau rhaglennol ar gyfer nifer ddethol o ddeilliannau dysgu’r rhaglen:
Cliciwch yma i weld y mapiau asesu rhaglen.
Yn adran 1, fe wnaethom gwmpasu: |
Yn yr adran hon, fe wnaethom gwmpasu: |
Yn yr adran nesaf, fe wnawn gwmpasu: |
Yn y bedwaredd adran a'r olaf, fe wnawn gwmpasu: |
|||
Categori deilliannau dysgu |
Deilliannau Dysgu Rhaglen Enghreifftiol |
Prif Rinweddau Graddedigion |
Dulliau asesu rhaglennol bwriadedig |
Potential Deilliannau Dysgu Modiwl posibl |
Asesiadau Modiwlaidd posibl |
Rhinweddau Graddedigion posibl y modiwl yr eir i’r afael â nhw |
Gwybodaeth a Dealltwriaeth |
DD 1 – Deall a chymhwyso damcaniaethau, cysyniadau a thechnegau craidd sydd ar flaen y gad mewn Gwyddoniaeth Roced. |
Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol |
Arholiad
Traethawd
|
|
|
|
|
|
|
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
DD 2 – Cymhwyso ymchwil sylfaenol a throsiadol Gwyddoniaeth Roced mewn amrywiaeth o leoliadau proffesiynol, yn ymwneud â hedfan gofod dynol. |
Arloesol, Mentrus ac yn Fasnachol Ymwybodol
|
Adroddiad |
|
|
|
|
|
|
|
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
Sgiliau Deallusol |
DD 3 – Y gallu i ddewis a chymhwyso technegau mathemategol priodol i ddatrys problemau rocedi. |
Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol |
Arholiad
Gwaith cwrs ysgrifenedig |
|
|
|
|
|
|
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
DD 4 – Llunio a gweithredu ystod o arbrofion yn ymwneud â datblygiad hedfan gofod dynol. |
Ymwybyddiaeth Foesegol, Gymdeithasol ac Amgylcheddol |
Arbrawf ymarferol |
|
|
|
|
|
|
|
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
Sgiliau ymarferol a phroffesiynol |
DD 5 – Gweithio'n effeithiol o fewn ystod o dimau ymchwil ryngddisgyblaethol. |
Gydweithredol
|
Prosiect Grŵp |
|
|
|
|
|
|
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
DD 6 – Cyflwyno data gwyddonol yn ymwneud ag adeiladu rocedi mewn modd clir a phroffesiynol. |
Cyfathrebwyr Effeithiol |
Cyflwyniad |
|
|
|
|
|
|
|
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
Sgiliau trosglwyddadwy |
DD 7 – Ymarfer menter a chyfrifoldeb personol o fewn ystod o gyd-destunau proffesiynol. |
Myfyrio a gwydnwch |
Portffolio |
|
|
|
|
|
|
||||
|
|
|
||||
|
|
|
||||
DD 8 – Dewis a defnyddio dulliau ac adnoddau ymchwil priodol er mwyn paratoi prosiect ymchwil o'ch dewis. |
Ymwybyddiaeth Foesegol, Gymdeithasol ac Amgylcheddol |
Prosiect ymchwil |
|
|
|
|
|
|
|
||||
|
|
|
||||
|
|
|
Cymorth?
Arhoswch! Mae angen mwy o amser arna’ i o hyd i feddwl am asesu rhaglennol!
Cliciwch yma i archwilio ein hadran Archwilio’n Ddyfnachn, sy’n cynnwys llu o fanylion, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am ystyriaethau rhaglennol ac awgrymiadau hunanfyfyriol i’ch arwain.
Ble nesaf?

Bydd deall ble a phryd y caiff asesiadau eu lleoli orau ar draws y rhaglen yn helpu i lywio cam nesaf y broses pedwar cam: Deilliannau Dysgu’r Modiwl.
Archwilio’n ddyfnach
Dehongliadau gwahanol o asesu rhaglennol
Soniodd yr adran hon am ddehongliadau amrywiol o asesu rhaglennol. Beth yw’r rhain?
Mae gan y term asesu rhaglennol lawer o ddehongliadau, yn amrywio yn ôl 'lefelau' integreiddio.
Gweler er enghraifft y diagram hwn o’r prosiect PASS (yn Saesneg), lle gall strategaethau asesu amrywio o lefelau isel o integreiddio a phwysoli rhaglenni i asesiadau o bwys mawr sy’n integreiddio holl ddeilliannau dysgu’r rhaglen yn llawn:

Mae rhagor o wybodaeth am asesu rhaglennol a’r prosiect PASS ar gael yn y fideo hwn.
Pwy ddylai feddwl yn rhaglennol?
Dylai meddwl yn rhaglennol gael ei wreiddio ym mhob gweithgaredd dysgu ac addysgu, a dylai pob parti sy’n ymwneud â thaith y myfyriwr, yn ddelfrydol, feddwl yn gyfannol o ran asesu, o Gyfarwyddwyr Rhaglen i arweinwyr modiwlau unigol.
Wrth feddwl am strategaethau asesu, arloesiadau, newidiadau, dulliau adborth, meini prawf asesu, a phopeth sy’n ymwneud ag asesu ac adborth, dylem bob amser feddwl yn y cyd-destun rhaglennol ehangach. Dangosir enghreifftiau o feddwl rhaglennol isod.
Fel Cyfarwyddwr Rhaglen

- A oes ystod eang o asesiadau ar draws y rhaglen i asesu deilliannau dysgu'r rhaglen yn ddigonol?
- A yw'r llwyth gwaith ar draws y rhaglen yn hylaw ac yn gyraeddadwy ar gyfer staff a myfyrwyr?
- A oes digon o gyfleoedd ar gyfer asesu ffurfiannol ac adborth – o fewn modiwlau ac ar draws modiwlau?
- A yw'r rhaglen yn cefnogi myfyrwyr i lwyddo mewn gweithgareddau asesu modiwlaidd ac yn darparu llythrennedd asesu ac adborth fel bod myfyrwyr yn deall y tasgau?
- A oes clystyru asesu ar draws y rhaglen?
- A oes cyfleoedd i fyfyrwyr ddewis ym maes asesu ar draws y rhaglen?
Fel Arweinydd Modiwl

- A yw fy ngweithgareddau asesu yn cyd-fynd â'r deilliannau dysgu rhaglennol a rhinweddau graddedigion Caerdydd?
- A yw asesiadau wedi'u sgaffaldio drwy gydol y rhaglen, fel bod myfyrwyr yn barod ar gyfer fy asesiad?
Sut olwg allai fod ar asesiad rhaglennol?

Gan ddefnyddio ein hesiampl Gwyddoniaeth Roced, mae’r map isod yn dangos sampl o sut y gall y rhaglen ddelweddu ei mathau o asesiadau rhaglennol arfaethedig yn ôl lefel astudio.
Ar gyfer MSc, gallwch ddefnyddio Cyfnodau 1, 2 a 3 i ddynodi tair uned neu gam o'r cymhwyster, yma o ran delweddu sut ‘olwg’ y gallai fod ar yr asesiadau ar draws taith y myfyriwr. Rydym wedi defnyddio blynyddoedd 1, 2 a 3, a allai gynrychioli lefelau 4, 5 a 6 ar gyfer gradd israddedig.

Mae'r ddogfen Word lawn yma ac mae'n ymestyn dros nifer o flynyddoedd ac yn cynnwys elfennau ffurfiannol ac adborth wedi'u hychwanegu yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer asesu rhaglennol mwy arloesol.
Beth yw manteision asesu rhaglennol?
- Atal gorasesu ac yn osgoi asesu
- Sicrhau aliniad rhwng deilliannau dysgu ar lefel rhaglen a modiwlau
- Hyrwyddo amrywiaeth mewn mathau o asesu
- Annog asesiadau sy'n hygyrch i bob myfyriwr ac yn datblygu ystod o sgiliau
- Caniatáu i weithgareddau dysgu gael eu cydgysylltu ar draws rhaglen (gweler y dull ABC (yn Saesneg)o ddeall gweithgareddau dysgu ar raglen)
- Cyfrannu at ddatblygu sgiliau graddedigion
- Bodloni gofynion proffesiynol neu reoleiddiol
A oes unrhyw anfanteision i asesu rhaglennol?
- Mae dulliau rhaglennol yn gofyn am gydweithredu, cydweithio a cholegoldeb er mwyn sicrhau meddwl cydgysylltiedig ar draws yr hyn a all fod yn rhaglenni mawr, cymhleth a rhyngddisgyblaethol o bosibl. Gall hyn achosi pwysau o ran amser ac adnoddau.
- Mae angen data a gwybodaeth ar ddulliau rhaglennol i sicrhau ymwybyddiaeth o fathau o asesu ar draws rhaglen
Beth am adborth rhaglennol?
Dylai adborth gael ei wreiddio mewn meddylfryd asesu a'i ystyried fel 'proses' yn hytrach na chynnyrch (Carless, 2016). Yn y modd hwn, mae asesu rhaglennol yn cynnwys ystyriaeth o adborth rhaglennol. Mae dulliau rhaglennol yn helpu i benderfynu sut a phryd y bydd myfyrwyr yn creu neu'n cael adborth ar raglen. Dylai strategaeth adborth ar gyfer y rhaglen ystyried:
- Nifer y cyfleoedd pan fydd myfyrwyr yn cael adborth ffurfiannol a chrynodol ar eu rhaglen;
- Pa bryd y bydd adborth ar gael a gweithgareddau adborth yr ymgymerir â hwy;
- Sut y gall myfyrwyr greu, derbyn ac, yn bwysicaf oll, defnyddio adborth a pha fecanweithiau cymorth sydd ar gael i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cau'r cylch adborth
Rhannwch eich adborth
Y camau nesaf
Rydych chi ar dudalen 2 o 4 o'r broses pedwar cam ar gyfer Datblygu Rhaglen.
Y tudalennau nesaf yw:
3) Deilliannau Dysgu Modiwlau
4) Asesu Modiwlau
❗ Argymhellir yn gryf, os ydych yn dylunio rhaglen newydd neu'n ailddilysu rhaglen, eich bod yn archwilio'r tudalennau canlynol wrth i chi adeiladu eich dogfennaeth ansawdd. Maent mewn trefn benodol:
Neu fe allech chi ddychwelyd i’r dudalen Datblygu Rhaglen ac ymweld â'r tudalennau eraill dro arall.