Deilliannau Dysgu’r Rhaglen
Dechrau Arni gyda Deilliannau Dysgu’r Rhaglen
Cyflwyniad i’r Broses Pedwar Cam
Cynghorir staff i ddilyn ymagwedd at addysg sy’n seiliedig ar ddeilliannau, hynny yw alinio deilliannau dysgu cwrs astudio (ar lefel rhaglen a modiwlaidd) yn uniongyrchol â thasgau asesu, y gwaith o’u marcio a rhoi adborth arnynt, a gweithgareddau addysgu a dysgu (QAA). Ymgorfforwyd y dull hwn yn yr Academi Dysgu ac Addysgu drwy hyrwyddo’r broses pedwar cam hon i ddatblygu rhaglenni. Yma, rydym yn canolbwyntio ar Ddeilliannau Dysgu’r Rhaglen, sef y cyntaf o’r camau.
Gweler isod am ddiagram sy’n esbonio’r broses.

Agwedd arall ar y dudalen hon i fod yn ymwybodol ohoni yw’r Templed Cyfannol ar gyfer Datblygu Rhaglenni. Byddwn yn ei lenwi fesul cynyddrannau ar draws y pedair tudalen fel rhan o’r broses hon. Mae ar gael yn ei gyfanrwydd yn yr Archwiliad Dyfnach.
Beth yw Deilliannau Dysgu Rhaglen
Mae deilliannau dysgu yn ddisgrifiad clir, cryno o’r hyn y dylai myfyriwr allu ei ddangos o ran gwybodaeth, dealltwriaeth ac ymddygiad ar ddiwedd rhaglen neu fodiwl. Mae deilliannau dysgu yn arwain beth a sut rydym yn addysgu ac yn asesu, ac felly dylent gynrychioli’r pethau craidd y mae myfyrwyr yn eu dysgu. Gelwir y broses alinio hon yn aliniad adeiladol (Biggs, 1996) ac fe’i trafodir ymhellach yn yr Archwiliad Dyfnach.

Aliniad Adeiladol a Deilliannau Dysgu’r Rhaglen
Pam mae Deilliannau Dysgu mor bwysig?
Mae Deilliannau Dysgu yn cyflawni nifer o swyddogaethau hanfodol wrth ddylunio, cyflwyno a marchnata cyrsiau. Maent yn gwneud y canlynol:
- cyfleu disgwyliadau yn glir i ddysgwyr;
- cyfleu sgiliau graddedigion yn glir i ddarpar gyflogwyr;
- diffinio unedau dysgu cydlynol y gellir eu hisrannu neu eu modiwleiddio ymhellach ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer dulliau cyflwyno eraill;
- diffinio’r math o ddysgu a ddyfnder y dysgu y disgwylir i fyfyrwyr eu cyflawni;
- darparu meincnod gwrthrychol ar gyfer asesu ffurfiannol a chrynodol a dysgu blaenorol;
- arwain a threfnu’r hyfforddwr a’r dysgwr.
Yn y pecyn cymorth hwn, rydym yn croesawu ‘dylunio am yn ôl’ – yma gwelwn ddeilliannau dysgu’r rhaglen yn arwain dull asesu rhaglennol. Yna, caiff deilliannau dysgu modiwlau ac asesiadau modiwl eu peiriannu i gefnogi cyflawniad y tasgau asesu hynny ac, yn eu tro, cyflawni Deilliannau Dysgu’r Rhaglen, a gynrychiolir yn weledol isod:

Deilliannau Dysgu Rhaglen a Modiwl
Gosodir Deilliannau Dysgu ar lefel rhaglen a modiwl.
Mae Deilliannau Dysgu Rhaglen yn disgrifio’r hyn y bydd myfyrwyr yn gallu ei wneud (a dod) o ganlyniad i’w rhaglen astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Byddant yn helpu myfyrwyr i ddeall yr hyn a ddisgwylir ganddynt ar lefel y rhaglen. Felly, mae’n bwysig eu bod yn cael eu hysgrifennu AR GYFER eich myfyrwyr, eu bod yn cyd-fynd â’r asesiadau y bydd myfyrwyr yn eu gwneud (i ganiatáu i fyfyrwyr ddangos eu bod wedi cyflawni’r deilliannau) ac nad ydynt yn rhestr o ‘fwriadau addysgu’ yn unig. Mae angen gosod deilliannau dysgu rhaglenni ar lefel y dyfarniad, yn unol â disgrifyddion lefel y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch, a, lle bo’n briodol, eu halinio â’r rhinweddau, y sgiliau a’r galluoedd a ddisgwylir yn y ddisgyblaeth honno, fel y’u diffinnir yn Natganiadau Meincnodi Pwnc perthnasol QAA.
Yn yr un modd, mae deilliannau dysgu modiwlau yn nodi’r canlyniadau (mwy) arwahanol llai y disgwylir i fyfyriwr ddangos eu cyflawniad o fewn modiwl unigol. Mae angen i’r rhain hefyd gael eu halinio (yn adeiladol) â nod y modiwl a’r strategaethau asesu.
Y Berthynas Rhwng Deilliannau Dysgu Rhaglen a Modiwl
Mae’r ffeithlun canlynol yn cynnig gwybodaeth am y gwahaniaethau a’r tebygrwydd rhwng Deilliannau Dysgu Rhaglen a Modiwl. Mae VASCULAR yn cyfeirio at ymagwedd flaengar at ysgrifennu Deilliannau Dysgu a gynigir gan Sally Brown: mae croeso i chi ddarllen hwn er mwyn datblygu eich dealltwriaeth ymhellach a chysylltu ag Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd os hoffech gael rhagor o wybodaeth.

Sut i Ysgrifennu Deilliannau Dysgu’r Rhaglen
Categorïau Deilliannau Dysgu
Fel yr awgrymwyd ym Mhroses Datblygu Rhaglen Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd, ac fel sy’n ofynnol ar gyfer Sicrhau Ansawdd, mae deilliannau dysgu da yn cyfeirio at ystod o wahanol ffyrdd o ddangos cyflawniad:
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth (KU)
- Sgiliau Deallusol (IS)
- Sgiliau Ymarferol Proffesiynol (PS)
- Sgiliau Trosglwyddadwy / Allweddol (KS)
Ysgrifennu Deilliannau Dysgu Rhaglen Effeithiol
Er mwyn sicrhau bod eich deilliannau dysgu yn canolbwyntio ar y myfyriwr, gall fod yn ddefnyddiol ceisio rhoi eich hun yn esgidiau’r myfyriwr a meddwl sut y gallech ymateb i’r rhain fel myfyriwr. Mae deilliannau dysgu fel arfer yn cynnwys tair elfen.

- Berf i ddiffinio’r weithred benodol y mae myfyrwyr yn ei gwneud i ddangos eu dysgu.
- Pwnc, i nodi’r deunydd pwnc yr ydych am i’r dysgu ei gwmpasu.
- Cyd-destun y dysgu. Er nad oes angen i ddeilliannau dysgu gyfeirio’n benodol at ddulliau asesu penodol, dylent gynnwys arwydd o safon y perfformiad a fydd yn dangos bod y dysgu diffiniedig wedi’i gyflawni. Felly, dylai fod yn glir beth sydd angen i fyfyriwr ei ddysgu / ei wneud i gyrraedd y deilliant dysgu hwnnw.
Gadewch i ni weld hynny mewn termau ymarferol:
- Gweithred y gellir ei gwirio’n empirig, gan ‘dystiolaeth eich llygaid a’ch clustiau’;
- Pwnc: y rhoddir;
- Meini prawf perfformiad sy’n rhoi’r dysgu yn ei gyd-destun (gall fod ymhlyg).
Enghreifftiau:
- Dadansoddwch y berthynas rhwng iaith dychan a ffurf lenyddol trwy archwilio’n fanwl nifer ddethol o destunau’r ddeunawfed ganrif mewn traethawd ysgrifenedig.
- Lluniwch bapur ymchwil sy’n cwmpasu ystod eang o fethodoleg ac adnoddau perthnasol.
- Dangoswch ddealltwriaeth feirniadol o agweddau technolegol dulliau delweddu, gan gynnwys y defnydd o gyfryngau ffarmacolegol, i gynorthwyo gyda’r gweithdrefnau.
- Dyluniwch a pharatoi cyflwyniad ysgrifenedig clir a chydlynol am fywgraffiad adeilad neu safle.
- Dangoswch wybodaeth fanwl am roi asesiadau risg ar sail tystiolaeth ar waith, a chynlluniau rheoli risg ac argyfwng, mewn cydweithrediad â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a chydweithwyr o sefydliadau rhyngbroffesiynol a rhyngasiantaethol.
Dylid gallu asesu’r deilliannau a fwriedir bob amser, felly mae angen i’w geiriad adlewyrchu’r sgiliau a’r ymddygiadau y dylai myfyrwyr allu eu dangos ar ôl cwblhau’r rhaglen/modiwl yn llwyddiannus.
Categorïau Deilliannau Dysgu Rhaglen
Gan ddefnyddio’r enghraifft o ddatblygu rhaglen mewn MSc Gwyddoniaeth Roced, llusgwch a gollyngwch y Deilliant Dysgu i mewn i un o’r Rhinweddau Graddedigion y teimlwch fod y deilliannau rhaglen hyn yn cyd-fynd orau â hi. Mewn gwirionedd, bydd llawer mwy nag un o’r Rhinweddau Graddedigion a all fod yn berthnasol i bob Deilliant Dysgu, ond mae’r gweithgaredd hwn at ddibenion enghreifftiol, felly dewiswch yr hyn rydych chi’n credu yw’r ffit amlycaf.
Cliciwch yma i chwarae yn y modd sgrin lawn (yn Saesneg).
I wneud fersiwn arall yn Word y gall darllenydd sgrin ei ddarllen, cliciwch yma (yn Saesneg).
Archwilio’n Ddyfnach
Rhannwch eich sdborth
Y camau nesaf
Rydych chi ar dudalen 1 o 4 o'r broses pedwar cam ar gyfer Datblygu Rhaglen.
Y tudalennau nesaf yw:
2) Asesu Rhaglen
3) Deilliannau Dysgu Modiwlau
4) Asesu Modiwlau
❗ Argymhellir yn gryf, os ydych yn dylunio rhaglen newydd neu'n ailddilysu rhaglen, eich bod yn archwilio'r tudalennau canlynol wrth i chi adeiladu eich dogfennaeth ansawdd. Maent mewn trefn benodol:
Neu fe allech chi ddychwelyd i’r dudalen Datblygu Rhaglen ac ymweld â'r tudalennau eraill dro arall.