Dylunio Dysgu a pharatoi i addasu
Croeso
Yn y fideo dwy funud canlynol, mae Mike yn cyflwyno’r tudalennau hyn trwy ddiffinio Dylunio Dysgu ac egluro pwysigrwydd ‘dylunio am yn ôl’ wrth gynllunio’ch modiwlau.
Dechrau arni
Mae’r cyfnod Dylunio Dysgu yn canolbwyntio ar y gweithgareddau dysgu modiwl y byddwn yn eu datblygu er mwyn cefnogi ein Hasesiadau Modiwl a’n Deilliannau Dysgu Modiwl. Mae’r rhain yn eu tro yn cyd-fynd yn ôl â’n Hasesiadau Rhaglen Bwriadedig a Deilliannau Dysgu’r Rhaglen.

Mae’r cyfnod Dylunio Dysgu yn gweld nodau a chynlluniau’r cyfnodau Cwmpasu a Dylunio’r Rhaglen yn cael eu troi’n gamau gweithredu pendant. Beth yw’r ffordd orau i chi sicrhau bod myfyrwyr yn gallu dangos y wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i lwyddo? Er enghraifft, os ydych wedi dewis cyflwyniad fel asesiad, pa gamau y bydd eich myfyrwyr yn eu cymryd yn eu dysgu o ddydd i ddydd i gael y siawns orau o lwyddo?
Mae Dylunio Dysgu yn faes sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ‘wneud’: mae’n gofyn i ni beth fydd myfyrwyr a staff yn ei wneud i wneud i ddysgu ddigwydd.
Mae’r tasgau dan sylw ar y cam hwn yn cynnwys:
- Datblygu mapiau modiwl a chynlluniau gwersi
- Gweithredu asesiadau, meini prawf asesu ac adborth yn ymarferol
- Creu a churadu deunyddiau dysgu
- Drafftio a/neu amserlennu cyfathrebiadau gyda myfyrwyr am eu dysgu
Bydd deilliannau dysgu eich modiwl ac, os yn bosibl, eich cynllun llinell yn ddefnyddiol i chi gadw ffocws a chynllunio’ch amser chi a’ch myfyrwyr yn eich modiwl orau.
Cynllunio ar gyfer dysgu – Egwyddor arweiniol
Wrth i chi gynllunio, mae yna elfennau a ddylai arwain eich penderfyniadau ar faterion ymarferol. Defnyddiwch y rhestr wirio hon cyn cynllunio cynlluniau gwaith, modiwlau neu sesiynau.
- Penderfynwch ar eich dull o gael myfyrwyr i gyd-greu ar y lefel ymarferol hon
- Archwiliwch y Fframwaith Dysgu Cyfunol i sefydlu sut y byddwch yn cydbwyso dysgu myfyrwyr ar y campws ac oddi ar y campws yn ogystal â’r dysgu cydamserol ac anghydamserol.
- Darllenwch am Ddylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu [SAP] i gynllunio gweithgareddau cynhwysol, asesiadau a chyfathrebu.
- Trafodwch fel tîm rhaglen y wybodaeth neu gysyniadau craidd y bydd myfyrwyr eisoes wedi’u dysgu. Penderfynwch sut rydych chi’n bwriadu adeiladu ar hyn yn eich gwersi a’ch deunyddiau.
Yn yr un modd â phob rhan o’r cwricwlwm, mae alinio’r tasgau rydych yn eu cynllunio mewn modiwl yn adeiladol â’r hyn rydym am i fyfyrwyr ei wneud yn eu hasesiadau (a thu hwnt, fel graddedigion) yn rhoi myfyrwyr ar y trywydd iawn i lwyddo. Fodd bynnag, mae’n hawdd syrthio i’r fagl o ganolbwyntio’n unig ar gynnwys a’r deunyddiau y byddwn yn eu cyflwyno i fyfyrwyr.
Wedi i chi bennu’r sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr i lwyddo yn eich asesiadau, gallwch ddechrau meddwl am y mathau o weithgareddau dysgu y dylent fod yn eu gwneud yn eich modiwl. Offeryn sy’n seiliedig ar Fframwaith Sgwrsio Laurillard yw ABC a all ein helpu i sicrhau bod myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth mewn ffyrdd sydd wedi’u halinio’n dda.
Yn y fideo pedair munud hwn, mae Punsisi yn rhoi trosolwg o’r dull ABC, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau dysgu i lunio teithiau dysgu deniadol.
Isod, mae delwedd o’r chwe cherdyn sy’n cael eu defnyddio i gynrychioli’r gwahanol fathau o weithgareddau dysgu yn y dull ABC. Mae’r ochr flaen yn rhoi diffiniad byr o’r math o weithgaredd dysgu tra bod y cefn yn darparu gweithgareddau enghreifftiol y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Oeddech chi’n gwybod? Mae myfyrwyr y mae eu modiwlau â lefelau uwch o weithgareddau cymathu (darllen, gwylio neu wrando goddefol) yn cyflawni canlyniadau gwaeth na’r rhai mewn cyrsiau mwy egnïol (Toetenel a Rienties, 2016).
Dylunio cyfuniad
Yn y fideo dwy funud a hanner canlynol, mae Mike yn diffinio Dysgu Cyfunol ac yn cynnig rhai enghreifftiau cyflym, hawdd i chi eu defnyddio yn eich addysgu.
&nsbp;
Mae Fframwaith Dysgu Cyfunol Prifysgol Caerdydd yn cynnig arweiniad a chymorth i staff sy’n llunio gwaith dysgu myfyrwyr yn eu modiwlau. Mae’n werth trafod fel rhaglen sut rydych yn bwriadu gwneud y gorau o ddysgu myfyrwyr gan ddefnyddio darpariaeth ar y campws ac oddi ar y campws. Dylai’r berthynas rhwng dysgu cydamserol (myfyrwyr yn dysgu gyda’i gilydd ar yr un pryd) ac anghydamserol (myfyrwyr yn dysgu ar eu cyflymder eu hunain) hefyd gael ei lunio a dylid ei chyfleu i fyfyrwyr.
Gall fod yn anodd gwneud penderfyniadau am yr hyn sydd orau pan fydd dewisiadau o’ch cwmpas. Darperir egwyddorion y Fframwaith Dysgu Cyfunol i helpu i wneud y penderfyniadau hyn yn haws.
Ar gyfer pob un o’r egwyddorion a restrir yn y Fframwaith Dysgu Cyfunol, penderfynwch sut y byddwch yn eu hymgorffori yn eich modiwl (byddai’r gweithgaredd hwn hyd yn oed yn well pe bai’n cael ei wneud ar lefel rhaglen yn gyntaf er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad gwastad). Rhoddir enghreifftiau er mwyn i chi ddechrau arni.
Egwyddor | Disgrifiad | Enghraifft/Enghreifftiau |
Cadw pethau’n syml | Mae hyn yn golygu sicrhau bod y pethau sylfaenol yn iawn. Wedyn, cewch ychwanegu elfennau mwy soffistigedig fel y bo’n briodol. | Darparwch ddolenni i fideos/deunyddiau darllen ar-lein (mae’n iawn defnyddio fideos sy’n bodoli eisoes fel y rhai ar YouTube cyn belled â bod y cynnwys yn dda) a gofynnwch i fyfyrwyr rannu eu syniadau ar fwrdd trafod.
Dros amser, gall hyn esblygu i fod yn ‘bartïon gwylio’ wedi’u trefnu a chael myfyrwyr i greu’r fideos ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn nesaf. |
Canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio mewn cyd-destun cyfunol | Cydnabod pa weithgareddau dysgu sy’n gweithio orau mewn amgylcheddau a dulliau gwahanol ar gyfer eich disgyblaeth. | Cynigiwch dasgau dysgu cymathol fel gweithgareddau ar-lein ac yna amser rhyngweithiol a gweithredol ar y campws e.e. darparwch ddolenni i fideos a deunyddiau darllen i’w cwblhau cyn dosbarth, yna defnyddiwch amser y dosbarth ar gyfer dysgu gweithredol megis trafodaethau a dadleuon. |
Sicrhau eglurder a strwythur | Rhoi arweiniad clir a strwythurau cyfarwydd i fyfyrwyr er mwyn lleihau llwyth gwybyddol sy’n amharu ar ddysgu. | Defnyddiwch fapiau modiwl a chyhoeddiadau i helpu myfyrwyr i ddeall sut mae eu dysgu yn cyd-fynd.
Defnyddiwch un templed ar draws modiwlau ar gyfer Dysgu Canolog. Dewiswch un feddalwedd pleidleisio a glynu wrthi ar draws eich modiwl(au). Amlygwch pan fydd pwnc yn cysylltu â dysgu blaenorol trwy ei ddweud mewn dosbarth neu drwy ddarparu dolenni yn ôl i’r pynciau cynharach ar-lein. Bydd hyn yn helpu myfyrwyr i adnabod sut mae testunau’n cysylltu â’i gilydd, gan eu grymuso i adolygu deunyddiau perthnasol os ydynt yn ddryslyd. |
Canolbwyntio ar safon | Canolbwyntio ar brofiadau dysgu pwrpasol, dan arweiniad, yn hytrach na theimlo bod ‘mwy’ yn well. | Darparwch ddolenni i bennod benodol o lyfr y mae angen i fyfyrwyr eu darllen ac i gyd-fynd â chwestiynau yn hytrach na llyfr cyfan.
Recordiwch fideos byr (llai na deg munud), pwrpasol wedi’u halinio i’r canlyniadau dysgu. Ychwanegwch gyd-destun i bynciau a gweithgareddau trwy amlygu’r canlyniadau dysgu y maent yn eu bodloni. Gellir ychwanegu’r rhain yn gyflym fel dechreuad e.e. DD1 – Deilliant Dysgu 1 DRh1 – Deilliant Rhaglen 1 |
Hygyrchedd | Mae hyn yn golygu sicrhau, pryd bynnag y bo modd, fod y gwaith o ddylunio modiwlau a dewis adnoddau dysgu yn gynhwysol o’r cychwyn cyntaf yn hytrach na gwneud addasiadau i rai myfyrwyr yn nes ymlaen. | Sicrhewch fod gweithgareddau dysgu’n hygyrch yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn ddigidol.
Gallwch wneud hyn trwy gynnig adnoddau i fyfyrwyr mewn fformatau amgen e.e. ffont mawr ar daflenni gwaith. Fodd bynnag, bydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr systemau ar waith i addasu adnoddau cyn belled ag y gallant eu cael o flaen llaw, felly ychwanegwch nhw at yr ADRh cyn amser. Darparwch ar gyfer sawl dull o ymgysylltu gan fyfyrwyr (wyneb yn wyneb, ar-lein, cydamserol neu anghydamserol); darparwch ddulliau lluosog o gynrychioli gwybodaeth; a darparwch ddulliau lluosog o weithredu a mynegiant i fyfyrwyr. I wneud hyn, ystyriwch lle byddai amrywiaeth o fudd i’ch myfyrwyr e.e. os oes gennych chi nifer o fyfyrwyr sy’n colli dosbarthiadau’n gyson am resymau dilys, cynigiwch fwrdd trafod ar-lein iddynt sgwrsio â’i gilydd tra byddant yn dal i fyny yn eu hamser eu hunain. Mae hyn yn cynnig lle diogel iddynt gyfrannu’n weithredol fel y gwnaeth y rhai yn yr ystafell ddosbarth, tra’n eich galluogi i olrhain dealltwriaeth a’u cywiro yn ôl y gofyn. |
Dyma rai taflenni ymarferol i helpu i ddylunio eich cyfuniad:
- Mapiau modiwl
- Tasgau yn ôl math o ddysgu
- Syniadau ar gyfer asesiadau digidol ac e-lyfr cynhwysfawr ar gynllunio asesiad digidol (Saesneg) (fel y gwelir mewn rhan arall o’r pecyn cymorth)
- Rhestr wirio ar gyfer eich modiwl Amgylchedd Dysgu Digidol (Blackboard)
Yn ogystal, efallai y bydd y fideo hwn ar sgaffaldio dysgu mewn mannau ar-lein gan Gilly Salmon yn ddefnyddiol.
Un o’r ffyrdd o drefnu dysgu cyfunol yw trwy greu model ‘ystafell ddosbarth wrthdro’. Dyma lle mae myfyrwyr yn cyrchu cynnwys dysgu cyn darlithoedd, gan ryddhau amser yn eich sesiynau i chi lunio sesiynau dysgu gweithredol. Os ydych yn bwriadu datblygu eich defnydd o ddulliau dysgu gwrthdro, gweler y dudalen hon ar Ddysgu Gwrthdro.
Strwythur modiwl neu uned ddysgu
Yn y fideo dwy funud hwn, mae Andre yn cynnig arweiniad ar strwythuro modiwl, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer creu taith ddysgu ddeniadol ac effeithiol i’ch myfyrwyr.
Byddech eisoes wedi datblygu Deilliannau Dysgu Modiwlau a’ch Map/Strategaeth Asesu Modiwlau; o’r fan hon, bydd tasgau pellach i ddiffinio Strwythur Modiwl:
- Mapiwch fodiwl ar gyfer myfyrwyr (i’w rannu trwy Ddysgu Canolog)
- Dyluniwch gynlluniau gwersi unigol
- Cynlluniwch neu lluniwch eich cyfathrebiadau â myfyrwyr ymlaen llaw, gan gynnwys eich map modiwl
- Wrth weithio o fewn Blackboard Ultra, cynlluniwch eich modiwlau dysgu mewn modd clir, cronolegol.
Paratoi ar gyfer a Chynnal Asesiadau
Ar ôl datblygu’r strategaeth asesu ar gyfer eich modiwl, mae nifer o faterion i’w hystyried wrth i’r modiwl fynd rhagddo. Lle bo modd, dylech geisio cynnwys eich myfyrwyr yn y rhain, yn anad dim er mwyn helpu eich myfyrwyr i wella eu llythrennedd asesu ac adborth. Nid yn unig y gall hyn gynorthwyo o ran cynllunio llwyth gwaith, ond gall hefyd helpu myfyrwyr i lunio gwaith gwell ac arwain at brofiad dysgu gwell.
Felly, mae’n ddefnyddiol ystyried ymlaen llaw:
- Sut bydd yr asesiad yn cefnogi datblygiad myfyrwyr wrth baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Gall helpu i gymell myfyrwyr os ydynt yn deall bod yr asesiad yn datblygu eu sgiliau gwaith tra hefyd yn profi eu gwybodaeth.
- Sut rydych chi am i’ch myfyrwyr ymgysylltu â thasgau ffurfiannol; y manteision sy’n deillio o hyn, y sylwadau adborth y byddant yn eu cael, a’r ffyrdd yr hoffech i’ch myfyrwyr ddefnyddio’r sylwadau hyn
- P’un a oes ffyrdd y gall eich myfyrwyr gymryd rhan bellach wrth gefnogi’r tasgau ffurfiannol (e.e. trwy weithgareddau hunanasesu a/neu asesu cymheiriaid);
- Sut yr ymgymerir â marcio’r tasgau crynodol. E.e.
- P’un a yw’r rhain yn dasgau penagored sy’n cael eu marcio orau trwy gymhwyso a dehongli meini prawf asesu ac, os felly, p’un a yw’r meini prawf generig a ddefnyddir ar draws y rhaglen yn briodol ac yn ddigon clir ar gyfer y dasg hon, neu p’un a ddylech ddatblygu meini prawf penodol i’w defnyddio gyda’r asesiad hwn (a chynnwys eich myfyrwyr wrth ddatblygu’r rhain?); NEU
- P’un a oes angen ateb sefydlog ar gyfer y cwestiynau a ddefnyddir yn yr asesiad, ac felly mae angen i’r dasg gael ei hategu gan gynllun marcio manwl i arwain staff a myfyrwyr ar sut y caiff marciau eu dyfarnu;
Pa bynnag ddulliau asesu sy’n cael eu defnyddio, mae angen i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth asesu ac adborth berthnasol ar gael i fyfyrwyr ac yn hygyrch iddynt, a bod gan farcwyr a myfyrwyr ddealltwriaeth gyffredin o sut y caiff y marcio ei wneud a’r safonau academaidd y mae angen iddynt roi tystiolaeth ohonynt mewn gwaith a asesir.
Mae’n werth meddwl am y posibilrwydd o unrhyw ‘hunllefau’ asesu posibl cyn cynnal yr asesiad. Mae Sambell yn rhoi rhestr o hunllefau asesu a dulliau o’u hosgoi.
Mae cymorth pellach i helpu i baratoi ar gyfer asesiadau a’u cynnal ar gael gan yr Academi Dysgu ac Addysgu.
Trefn modiwl
Gall fod yn anodd dychmygu siâp modiwl, hyd yn oed gyda dogfennau, calendrau a thracwyr o’n blaenau. Mae Robert Farmer (2019) wedi defnyddio dull newydd i’n hysbrydoli ni a’n myfyrwyr wrth iddynt wynebu dylunio a deall profiad byw ein modiwlau, yn seiliedig ar strwythur llenyddol ‘taith arwr’. Efallai y gwelwch fod hyn yn eich helpu i gysyniadu a dychmygu taith eich myfyrwyr, gyda gelynion (rhwystrau rhag dysgu), brwydrau i ddysgu oddi wrthynt (asesiadau ffurfiannol) a’r Hen Arweinwyr Doeth (chi, eich tîm modiwl, a chydweithwyr o’r Gwasanaethau Proffesiynol!).
Defnyddiwch y daith ganlynol i ddychmygu sut y gellid strwythuro taith eich modiwl er mwyn cyflawni deilliannau dysgu eich modiwl. Gallech ddefnyddio eich Cynllun Llinell Rhaglen i weld pa gam y gallai myfyrwyr fod wedi cyrraedd ar draws y rhaglen drwy nodi rhifau taith yn y celloedd.
Taith yr Arwr ar gyfer Dylunio Modiwlau

Fersiwn testun Taith yr Arwr
Taith yr Arwr ar gyfer Dylunio Modiwl.
Ail-gread Prifysgol Caerdydd o waith Robert Farmer (2019).
Mae'r Modiwl yn dechrau...
1) CYFLWYNIR YR ARWR YN Y BYD CYFFREDIN.
Sefydlu'r sylfeini y gellir adeiladu dysgu arnynt. Cyfleoedd dylunio ar gyfer dod i adnabod ei gilydd mewn amgylchedd dysgu diogel a chefnogol.
2) Yr Alwad i antur.
Gwahodd myfyrwyr i astudio a gwerthu'r modiwl. Ceisio ymrwymiad gan fyfyrwyr a rhoi gwybod iddyn nhw beth i'w ddisgwyl. Helpu nhw i ddeall nodau a strwythur y modiwl. Trafod asesiadau'r modiwl.
3) MAE'R ARWR YN BETRUSGAR I DDECHRAU.
Gwrando ar obeithion ac ofnau myfyrwyr am y modiwl. Anogwch nhw i ofyn cwestiynau ac archwilio eu gwybodaeth a'u sgiliau blaenorol.
4) Mae'r ARWR yn cwrdd â'r hen dywyswr/tywyswyr doeth.
Ysgogi myfyrwyr drwy galonogi ac annog - rhoi sicrwydd y gallant gyflawni. Ystyried y defnydd o bresenoldeb neu ganlyniadau cyfoedion (carfan flaenorol).
5) Mae'r arwr yn croesi'r trothwy yn gyntaf.
Dechrau'r addysgu a dysgu o ddifrif.
6) Mae'r arwr yn dod ar draws profion, gelynion, a phobl i roi cymorth.
Yn gyflym iawn, cyflwyno tasgau ffurfiannol. Profion, cwisiau, heriau a chyfleoedd ar gyfer cymorth o ran adnoddau, rhwng myfyrwyr a chydag athrawon. Annog myfyrwyr i ystyried yr hyn maen nhw'n ei ystyried yn fwyaf pleserus a mwyaf heriol.
7) Agosáu at yr ogof fewnol.
Dechreuwch baratoi ar gyfer eich gweithgaredd ffurfiannol canol modiwl.
8) Mae'r arwr yn dioddef yr her fwyaf.
Annog myfyrwyr i gwblhau'r asesiad ffurfiannol. Cynllunio iddyn nhw dderbyn adborth amserol, a fydd yn eu helpu i daclo asesiadau crynodol.
9) Mae'r arwr yn gafael yn y cleddyf.
Dylunio tasgau sy'n golygu bod angen i'r myfyriwr ddefnyddio'r adborth i wella. Er enghraifft, cynnwys llwybrau dysgu personol, ail-ddrafftio cyfleoedd neu ymarfer.
10) Y ffordd yn ôl.
Dylunio gweithgareddau sy'n golygu bod angen i fyfyrwyr gynllunio ar gyfer yr asesiad crynodol. Gosod sylfeini ar gyfer ymreolaeth myfyrwyr, sgiliau astudio a defnydd annibynnol o'r gwersi a ddysgwyd hyd yma.
11) Atgyfodiad.
Mae myfyrwyr yn cwblhau eu hasesiad crynodol ac yn dechrau dychwelyd i fywyd myfyrwyr 'normal' wrth iddynt aros am eu hadborth.
12) Mae'r arwr yn dychwelyd gyda'r elicsir.
Rhowch adborth i fyfyrwyr ar eu hasesiad crynodol, a'r adborth i ymgymryd â'r modiwl(au) nesaf a'u dysgu gydol oes. Dylid sicrhau ei fod yn hyblyg ac yn drosglwyddadwy, ac yn dymuno'n dda iddynt!
Wythnos | Cam(au) Taith yr Arwr | Beth fydd yn digwydd |
Y Glas | 1 – 4 | Cynhaliwch ddigwyddiad croesawu gyda darlithwyr a myfyrwyr yr ail flwyddyn yn bresennol. |
Trefnwch fod gennych wal nodiadau gludiog er mwyn i fyfyrwyr allu nodi’n ddienw yr hyn y maent yn gobeithio ei gael o’r cwrs | ||
Trefnwch fod gennych fwrdd o liniaduron er mwyn i fyfyrwyr allu ychwanegu eu pryderon at Padlet | ||
Darparwch fwrdd te a choffi, gydag erthyglau amserol yn ymwneud â’r pwnc arno i helpu myfyrwyr i dorri’r iâ a dechrau siarad â’i gilydd. Darlithwyr i helpu i arwain y trafodaethau, gan amlygu pryd y bydd pynciau perthnasol yn cael eu trafod yn y dosbarth. | ||
Arddangoswch bosteri sy’n amlinellu strwythur y cwrs a’r dulliau asesu yn glir. | ||
1 | 5 | Dosbarthiadau/darlithoedd yn dechrau |
Bydd pob sesiwn gyntaf yn canolbwyntio ar weithio mewn tîm, gyda lefelau uchel o ddysgu gweithredol i osod y naws ar gyfer gweddill y cwrs. | ||
Unrhyw ddarlithoedd ar raddfa fawr i ymgorffori trafodaethau mewn parau a gofyn am gyfraniadau i arolygon barn Menti. | ||
2 – 6 | 6 | Gosodwch un dasg asesu ffurfiannol gyflym fesul sesiwn ddysgu, gan gynnwys: Cwis dechrau gwers Tasg creu mewn tîm (posteri, blogiau, cyflwyniadau ac ati) Taflenni gwaith wedi’u marcio gan gymheiriaid |
Darlithwyr i roi arweiniad ar ddulliau astudio er mwyn osgoi gwallau cyffredin a nodwyd yn ystod yr asesiadau ffurfiannol. | ||
4 | 7 | Rhowch wybod i fyfyrwyr y bydd asesiad canol modiwl ymhen pythefnos. Eglurwch strwythur yr asesiad a sut y caiff ei farcio a’i raddio. Rhowch drosolwg o gamgymeriadau cyffredin a sut i’w hosgoi. Darparwch gynllun astudio a awgrymir i gynnwys adnoddau penodol ac annog astudio mewn tîm. |
6 | 8 | Cynhaliwch yr asesiad ffurfiannol canol modiwl. |
7 | 5 – 6 | Parhewch i addysgu gydag arfer da, fel cyn yr asesiad. |
Asesiadau i’w marcio (mae marcio cymheiriaid yn iawn os caiff ei ddilysu gan y darlithydd) | ||
Myfyrwyr i gael y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae’r marcio’n mynd ac unrhyw dueddiadau o ran gwybodaeth ac arferion asesu da/gwael. | ||
9 | 8 | Myfyrwyr i gael adborth personol sy’n cynnig cipolwg da ar sut y gallant wella ar gyfer yr asesiad crynodol. |
10 – 11 | 10 | Tueddiadau allweddol o’r adborth i’w grwpio i dri chategori a gweithgareddau dysgu wedi’u gwahaniaethu fel bod myfyrwyr yn gallu ymarfer y sgiliau gofynnol wrth baratoi ar gyfer yr asesiad crynodol e.e. Sgiliau ysgrifennu – mae myfyrwyr a gafodd adborth ar eu hysgrifennu yn cwblhau tasgau ar ffurf ysgrifenedig gyda chymorth dechreuwyr brawddegau a chanllaw strwythur traethawd (mae’n iawn dod o hyd i enghreifftiau a grëwyd ymlaen llaw ar-lein); Sgiliau dadansoddi – myfyrwyr a gafodd adborth ar eu dadansoddiad i weithio mewn parau i gwblhau gweithgareddau. Dylent gwblhau’r dasg trwy ddadansoddi testun y gweithgaredd gyda’i gilydd. Sgiliau gwerthuso – Mae myfyrwyr a gafodd adborth ar eu gwerthusiadau yn cwblhau’r gweithgaredd trwy ysgrifennu paragraff sy’n crynhoi’r testun, gan amlygu’r themâu cyffredinol a’r awgrymiadau. |
12 | 11 | Myfyrwyr yn cwblhau eu hasesiadau crynodol |
Ar ôl y modiwl | 12 | Darlithwyr i farcio a rhoi adborth amserol (cyn pen 40 diwrnod yn unol â Pholisi Prifysgol Caerdydd) ar yr asesiadau crynodol. |
Adborth i gynnig arweiniad clir ar eu gwybodaeth am y pwnc. | ||
Dylai adborth hefyd nodi’r hyn y mae’r myfyriwr yn ei wneud yn dda a’r hyn nad yw’n ei wneud cystal o ran ei astudio a sgiliau meddal ehangach, fel gweithio mewn tîm a chyfathrebu. | ||
I gael rhagor o gymorth ar farcio ac adborth, cliciwch ar y frawddeg hon i lawrlwytho rhywfaint o ganllawiau. | ||
Ar ôl yr asesiad crynodol | Adolygwch y modiwl. Ystyriwch pa mor dda y gwnaeth myfyrwyr ymgysylltu, cyflawni a faint o’r garfan a gadwyd. Lle bo modd, gofynnwch i fyfyrwyr roi adborth i arwain eich meddyliau. |
Amseroedd modiwl
Wrth gynllunio modiwl, mae’n werth bod yn benodol am sut y bydd myfyrwyr yn treulio eu horiau dysgu. Fel rheol gyffredinol, dylai myfyrwyr dreulio 100 awr yn dysgu fesul 10 credyd. Mae’n debygol y bydd hyn yn gyfuniad o:
- Oriau a addysgir;
- Oriau astudio ar y cyd;
- Oriau astudio dan arweiniad (yn aml yn anghydamserol ac ar-lein);
- Astudio’n annibynnol a pharatoi ar gyfer asesiadau;
- Paratoi ar gyfer asesiadau (sy’n debygol o gymryd tua 25% o amser dysgu myfyriwr).
Gallwch ddefnyddio’ch map modiwl i gyfleu’r disgwyliadau hyn i’ch myfyrwyr.
Wrth ddylunio tasgau ar draws y moddau hyn, rhowch gynnig ar y dasg lle bo’n bosibl er mwyn i chi gael syniad o faint o amser y mae’r gweithgaredd yn ei gymryd, gan gofio y bydd deall y dasg a gweithio gyda syniadau a gwaith llywio anghyfarwydd yn golygu bod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gweithio’n llawer arafach na chi! Hyd yn oed os nad oes gennych amser i gwblhau’r dasg, mae’n werth cofio bod staff a myfyrwyr fel ei gilydd yn tueddu i danamcangyfrif pa mor hir y bydd tasg yn ei gymryd (Kahneman a Tversky, 1979).
Gallwch roi amseroedd dangosol gyda’ch tasgau i helpu myfyrwyr i gynllunio eu hamser. Gallech hefyd ofyn i’ch myfyrwyr ddweud wrthych faint o amser a gymerodd y gweithgaredd iddynt fel y gallwch chi fireinio ar gyfer carfannau’r dyfodol. Mae’n bwysig i les staff a myfyrwyr, yn ogystal â chynhwysiant, fod y gweithgareddau rydych yn eu cynnig yn gyfyngedig o ran amser ac yn rhesymol. Gallai sgwrsio â staff eraill, neu archwilio cynllun llinell eich rhaglen, eich helpu i weld lle mae pwyntiau cyfyng ar gyfer asesu fel y gellir ad-drefnu disgwyliad llwyth gwaith cyffredinol myfyriwr ar gyfer lles, ymgysylltiad a deilliannau myfyrwyr gorau.
Mae’r dull hwn o fyfyrio yn cyd-fynd â chysyniadau craidd Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Cliciwch ar y frawddeg hon i ddysgu mwy am UDL.
Er mwyn sicrhau bod rhediad da i’ch modiwl a’i fod yn rhoi’r cyfleoedd sydd eu hangen ar fyfyrwyr i ymarfer cyn eu hasesiad, mae’n werth cynllunio eich ‘cynllun gwaith’, sy’n esbonio o wythnos i wythnos pa sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau rydych chi’n bwriadu ymdrin â nhw drwy dasgau ac adnoddau wrth i chi nesáu at eich asesiadau ffurfiannol a chrynodol. Gallech hyd yn oed ddefnyddio eich map modiwl i helpu i gynllunio hyn.
Cynlluniau Gwersi Gweithredol a Chynhwysol i Gefnogi Dysgu
Mewn mannau eraill yn y pecyn cymorth, rydym wedi archwilio sut y gallwn fod yn athrawon rhagorol a chreu profiadau dysgu diddorol. Dylai’r tudalennau hyn eich helpu i gynllunio’ch amser cyswllt.
Mae cynlluniau gwersi unigol hefyd yn ddefnyddiol iawn i egluro eich ymagwedd at yr amser sydd gennych ar yr un pryd â myfyrwyr, boed wyneb-yn-wyneb neu ar-lein. Maent hefyd yn helpu eich cwricwlwm i fod yn fwy cynaliadwy ac i’r tîm gynllunio gyda’i gilydd o amgylch yr hyn y mae myfyrwyr yn ei ddysgu i wneud y mwyaf o effeithlonrwydd ac effaith ar lefel rhaglen.
Templed cynllun gwers Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd
Mae’r fideo saith munud canlynol yn gweld Ada Huggett-Fieldhouse o’r Academi Dysgu ac Addysgu yn cynnig arweiniad ac yn esbonio sut mae’n cynllunio ei sesiynau gan ddefnyddio templed cynllun gwers, gan gofio egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu. Gallwch ddefnyddio’r gweithgareddau dysgu uchod i ystyried pa sgiliau y mae myfyrwyr yn eu hymarfer a’u haliniad sut maent yn cyd-fynd â’ch asesiad.
Gweler yma am ein cynghorion ar gynllunio darlithoedd mawr (Saesneg).
Deunyddiau dysgu
Mae deunyddiau dysgu rhagorol yn hygyrch, yn rhyngweithiol ac wedi’u llunio â’r dysgwyr mewn golwg. Gwyliwch y fideo saith munud canlynol gan gydweithiwr y llyfrgell, Joe Nicholls, ar ddeunyddiau dysgu.
Dylunio gweithgaredd dysgu – capsiynau gan Joe Nicholls ar Vimeo.
Mae datblygu deunyddiau dysgu yn cymryd amser. Cyn dechrau o’r dechrau, gofynnwch i chi’ch hun:
- A oes deunyddiau dysgu perthnasol eisoes yn bodoli y gellid eu haddasu neu eu coladu?
- Ai mater o greu, addasu, lleoli neu goladu deunyddiau dysgu yn gynrychioliad ystyrlon i fyfyrwyr yw hyn (fel yn achos creu rhestr ddarllen)?
- A allai fod rhywbeth yn Open Education Commons neu gronfa ddata adnoddau pwnc-benodol arall? Siaradwch â’ch cydweithwyr os nad ydych chi’n siŵr.
- A allai gwasanaeth proffesiynol fel Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd, y Gwasanaethau Llyfrgell neu Sgiliau Academaidd helpu?
- A allai cydweithiwr, neu finnau, fod gyda rhywbeth y gallaf ei addasu?
- Os ydw i’n defnyddio technoleg newydd, a fyddai modd i mi gael budd o hyfforddiant?
Gweithredoli asesiadau
Datblygu meini prawf asesu
Mewn adrannau blaenorol, fe’i gwnaed yn glir mai deilliannau dysgu yw’r hyn y bydd myfyrwyr llwyddiannus wedi’i gyflawni ac yn gallu ei wneud ar ddiwedd rhaglen neu fodiwl. Meini prawf asesu yw pan fydd myfyrwyr yn cael eu herio i ddangos tystiolaeth o ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau trwy gwblhau modiwl neu raglen. Mae datblygu meini prawf asesu yn broses y dylid ei thrafod â thîm y rhaglen i sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gwella o asesiad o asesiad.
Er mwyn helpu myfyrwyr i anelu at sut beth yw llwyddiant iddyn nhw, mae angen iddynt ddeall sut olwg sydd ar ansawdd y gwaith ar bob lefel. I helpu, rhowch enghreifftiau iddynt o waith blaenorol sydd wedi ennill ystod o raddau ac anogwch y myfyrwyr i ddadansoddi’r gwahaniaethau rhyngddynt fel y gallant addasu eu dulliau asesu eu hunain. Amser da i wneud hyn yw ar ôl asesiad ffurfiannol pan fydd gan fyfyrwyr y diddordeb mwyaf yn yr hyn y gallant ei wneud i wella.
Er mwyn pennu pa mor ddeallus y mae eich modiwl o ran asesu, mae llawer o ymyriadau ar raddfa fach y gellir eu cyflawni drwy ddefnyddio’r Fframwaith EAT. Mae’r fframwaith yn llawn o gamau arweiniol ar gyfer llunio modiwlau newydd ac mae’n darparu offeryn mapio gwerthusol a all ein helpu i ystyried pa gamau fydd yn cael yr effaith fwyaf ar ddealltwriaeth ein myfyrwyr o asesu a’u hymgysylltiad ag ef.
Mae’n werth meddwl am y posibilrwydd o unrhyw ‘hunllefau’ asesu posibl cyn cynnal yr asesiad. Mae Sambell yn rhoi rhestr o hunllefau asesu a dulliau o’u hosgoi.
Cynllunio ar gyfer Marcio
Er ei bod yn ymddangos yn wrthreddfol i feddwl sut y byddwch yn marcio aseiniad cyn i chi feddwl am sut y gallech fynd ati i’w addysgu, mae’n hollbwysig eich bod yn gwneud hyn er mwyn gallu esbonio i fyfyrwyr sut y gallant gyflawni.
Erthygl Phil Race o’r teitl ‘Defnyddio Adborth i Helpu Myfyrwyr i Ddysgu’ yn darparu gweithgaredd grŵp ar gyfer gwerthuso gwahanol ffyrdd o farcio yn ôl effeithiolrwydd a gweithredoldeb.
Mae’n bosibl cyd-greu dull marcio gyda myfyrwyr: er enghraifft, a fyddai dull marcio ysgafnach ar asesiadau crynodol yn ddigon pe bai digon o adborth ffurfiannol yn cael ei roi ar aseiniad ffurfiannol ffurfiol?
Cynllunio ar gyfer Asesiad(au) Ffurfiannol
Er mwyn helpu i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr asesiad crynodol, dylai pob modiwl gynnwys asesiad ffurfiannol sydd naill ai’n edrych fel yr asesiad crynodol neu’n rhan ohono (dull clytwaith). Fodd bynnag, er mwyn i hyn fod yn effeithiol, mae angen i fyfyrwyr gael eu hadborth mewn da bryd i ddysgu ohono cyn eu hasesiad crynodol.
Cynllunio ar gyfer Adborth Ffurfiannol
Gellir rhoi adborth ffurfiannol trwy gydol modiwl ac nid yw’n offeryn i’w ddefnyddio ar ôl tasg asesu yn unig. Cynlluniwch ryngweithiadau’n bwrpasol lle mae myfyrwyr yn gwneud ac yn rhoi neu’n cael adborth, ar draws ffurfioldebau a moddau. Ceisiwch beidio â thanbrisio pŵer adborth llafar yn ystod gweithgaredd dysgu. Wrth i fyfyrwyr weithio, cerddwch o gwmpas a rhowch adborth llafar:
- Cwestiynau ymestyn a herio e.e. “Pam ydych chi’n meddwl hynny?” neu “Allwch chi roi enghraifft o sut byddai hynny’n gweithio yn y maes?”
- Anogwch ddadansoddi â myfyrwyr/grwpiau eraill e.e. “ewch i siarad â’r grŵp draw fanna, mae gan eu trafodaeth nhw safbwynt gwahanol i’ch un chi.”
- Atgyfnerthwch bwysigrwydd tystiolaeth e.e. “Dw i heb glywed hynny o’r blaen, beth yw eich ffynonellau (caniateir ffynonellau anacademaidd fel man cychwyn)?”
- Atgoffwch fyfyrwyr am wallau nodweddiadol mewn asesiadau neu wybodaeth e.e. “Byddwch yn ofalus i beidio â syrthio i fagl ‘x’. Mae’n gamgymeriad cyffredin nad ydych chi am ei wneud yn yr asesiad.”
Yna, cymerwch y cam nesaf a chynlluniwch weithgareddau myfyriol a thrafodol o amgylch sut y gellir defnyddio’r adborth hwn i wella. Ystyriwch sut mae myfyrwyr yn casglu ac yn defnyddio’r adborth hwn: er enghraifft, a fydd myfyrwyr yn gwneud newidiadau i gynlluniau neu’n cadw cofnod myfyriol? Anogwch y myfyrwyr i egluro’r hyn y maent yn ei ddysgu a ble y byddant yn ei ddefnyddio.
🎯 Gweithgaredd
- Edrychwch ar y ffynonellau adborth canlynol. Ystyriwch sut y gellid cynllunio’r rhain fel gweithgareddau yn eich modiwl.
Rhyngweithio rhwng myfyrwyr ac adnoddau Rhyngweithio rhwng myfyrwyr Rhyngweithio rhwng myfyrwyr ac athrawon Cwestiynau Amlddewis Cwisiau
Ystyried testunau academaidd / fideo
Edrych ar ffynonellau eraill
Archwilio aseiniadau enghreifftiol
Gweithgareddau adolygu gan gymheiriaid Marcio cwisiau ei gilydd
Gweithgaredd cyfarwyddo cymheiriaid
Gweithgaredd gwaith pâr neu tîm
Adborth llafar yn y dosbarth Adborth ysgrifenedig
Adborth sain
Adborth grŵp cyfan yn y dosbarth neu drwy Amgylchedd Dysgu Digidol
- Ystyriwch sut y gallai pob un o’r elfennau hyn ryngweithio er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn berchen cymaint â phosibl ar adborth ac i leihau llwyth gwaith staff.
Enghraifft: Yn yr enghraifft hon, mae angen i fyfyrwyr ddangos eu bod yn deall llif gwaith proses. Gall gweithgaredd dysgu gydag asesiad ffurfiannol wedi’i gynnwys ynddo edrych fel hyn:
- Cyn gwers – Mae myfyrwyr yn cynhyrchu siart llif yn unigol ar gyfer proses y mae angen iddynt ei deall ar gyfer eu haseiniad. Maent yn ei gymharu â siart lif academaidd ar destun tebyg, yn manteisio ar yr hyn sy’n dda, ac yn gwneud gwelliannau.
- Yn y dosbarth – Mae myfyrwyr yn gweithio mewn timau bach (3 – 5 myfyriwr fesul tîm) i gymharu eu gwaith a chynhyrchu siart llif tîm. Mae’r athro yn edrych ar y rhain ac yn rhoi adborth tîm cyfan trwy fideo yn yr Amgylchedd Dysgu Digidol.
Archwilio’n ddyfnach
Cynllunio Gwersi
Nid yw Templed Academi Dysgu ac Addysgu Caerdydd i chi? Beth am archwilio'r adnodd canlynol sy'n rhoi dewisiadau eraill.
Dogfen QAA ar Dwyllo
Contracting to Cheat in Higher Education (Saesneg yn unig)
Mae QAA, ochr yn ochr â Phrifysgol Derby, wedi datblygu offeryn mapio awtomatig o fewn Excel ar gyfer timau modiwlau a rhaglenni i ddelweddu eu cwrs, yn ogystal â gallu egluro taith eu myfyrwyr yn well. Cysylltwch â'r Academi os hoffech gael sesiwn wedi'i hwyluso ar ddefnyddio'r offeryn hwn.
Cynhyrchu Adborth Mewnol
Podlediad Beyond the Technology
Gwrandewch ar ein cyfres ar ailfeddwl asesu ac adborth o bodlediad Beyond the Technology:
Ailfeddwl asesu ac adborth – datgloi pŵer adborth ar sail cymhariaeth
Cyfeiriadau
Hinchcliffe, T. 2021 The Hidden curriculum of Higher Education [Ar-lein]. Ar gael yn: https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/hidden-curriculum-higher-education [Cyrchwyd 30/8/22]
KAHNEMAN, D., A TVERSKY, A. (1979). Intuitive prediction: Biases and corrective procedures. TIMS Studies in Management Science, 12, 313–327.
Rienties, Bart a Toetenel, Lisette (2016). The impact of learning design on student behaviour, satisfaction and performance: a cross-institutional comparison across 151 modules. Computers in Human Behavior, 60 tt. 333–341.