Egwyddor 1: Profiadau Dysgu Diddorol

Beth yw Profiad Dysgu Diddorol?
Mae dysgu ‘diddorol’ yn canolbwyntio ar roi’r myfyriwr wrth wraidd y profiad dysgu. Mae’n ymwneud â chreu profiadau dysgu sy’n ddiddorol ac yn ysgogol, ac sy’n dal sylw myfyrwyr.
Gallai rhai o’r ffyrdd y gellid cyflawni hyn gynnwys:
- defnyddio ystod amrywiol o weithgareddau dysgu, gan gynnwys y rhai lle gall dysgwyr greu, trafod a darganfod;
- helpu myfyrwyr i ddeall perthnasedd tymor byr a hirdymor yr hyn y maent yn ei ddysgu;
- creu cysylltiadau creadigol neu arloesol rhwng cynnwys newydd a gwybodaeth bresennol myfyrwyr.
Un o gonglfeini dysgu diddorol yw sicrhau bod ein gweithgareddau, deunyddiau a dulliau gweithredu yn hygyrch i bob myfyriwr. Mae hefyd yn gyfle i sicrhau bod ein rhaglenni a’n modiwlau yn paratoi myfyrwyr ar gyfer eu hastudiaethau neu gyflogaeth yn y dyfodol.
Gall profiadau dysgu diddorol godi o’r hyn a elwir yn ‘Addysgeg Adeileddol’ gymdeithasol, lle mai prif rôl yr athro yw hwyluso dysgu fel proses weithredol a chymdeithasol. Cyflawnir hyn trwy ddefnyddio gweithgareddau ystyrlon sy’n galluogi myfyrwyr i (1) ddysgu trwy gymryd rhan mewn deialog â chyfoedion a chydweithwyr, a (2) datblygu eu dysgu a’u dealltwriaeth eu hunain trwy ymgymryd â gweithgareddau ymarferol, yn hytrach na thrwy wrando neu ddarllen. Gelwir hyn yn ddysgu gweithredol, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn dysgu trwy wneud, yn wahanol i ddysgu goddefol, sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr sy’n derbyn gwybodaeth. (Gweler hefyd Awgrymiadau Ymarferol i Ymgorffori Cynaliadwyedd.)
Dylai cynllunio ar gyfer dylunio cwricwlwm ganolbwyntio ar y ffordd orau o sicrhau bod y profiad dysgu yn weithgar ac yn gymdeithasol, a dylai bob amser sicrhau aliniad clir rhwng deilliannau dysgu a’r dulliau asesu arfaethedig ar gyfer modiwl neu raglen.
Archwiliad Dyfnach o Brofiadau Dysgu Diddorol
Dulliau o Greu Profiadau Dysgu Diddorol
Mae nifer o ffyrdd y gallech ddewis defnyddio dysgu gweithredol i greu profiad diddorol i’ch myfyrwyr, gan gynnwys:
- Dysgu sy’n Seiliedig ar Broblemau (PBL) – lle mae myfyrwyr yn cymhwyso eu gwybodaeth a'u sgiliau i fynd i'r afael â phroblemau yn y byd go iawn neu yn y byd damcaniaethol.
- Dysgu sy’n Seiliedig ar Ymholiad (EBL) – lle mae myfyrwyr yn gwneud ymchwil i ymateb i gwestiynau(au), a all gael eu gosod gan yr athro/hwylusydd neu a nodwyd gan ddysgwyr.
- Dysgu drwy brofiad – lle mae myfyrwyr yn cael eu trochi mewn lleoliadau yn y byd go iawn, neu gyd-destunau sy'n efelychu lleoliadau'r byd go iawn, gan ganiatáu iddynt gymhwyso a gwneud cysylltiadau rhwng eu dysgu a'r byd y tu allan i'r ystafell ddosbarth neu'r labordy. Gallai enghreifftiau gynnwys lleoliadau profiad gwaith, teithiau maes ac ymweliadau safle.
- Gweithgareddau creadigol neu weithgareddau sy’n seiliedig ar adeiladu, lle mae myfyrwyr yn cynhyrchu rhyw fath o gynnyrch neu allbwn i ddangos neu roi tystiolaeth o'u dysgu. Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys posteri, cyflwyniadau, fideos neu adnoddau dysgu, ond mae'r rhestr yn ddiddiwedd!
- Gweithgareddau dysgu cydweithredol, lle mae myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd neu gydag aelodau'r cyhoedd, cyrff proffesiynol neu asiantaethau sector cyhoeddus/preifat i gynhyrchu allbwn a rennir neu i gyrraedd nod penodol.
- Creu gêm a dysgu chwareus – lle defnyddir elfennau sy'n gysylltiedig â gêm fel strategaeth i ennyn diddordeb dysgwyr a chynyddu'r mwynhad canfyddedig o ddysgu. Er bod llawer o waith ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnyddio gemau fideo, gall dulliau ar sail gemau hefyd gynnwys yr hyn a elwir yn ddulliau ‘technoleg isel’, megis gemau bwrdd, cwisiau a phosau
Mae Toda et al. (2019) yn defnyddio tacsonomeg i ddangos y gwahanol elfennau o gemau y gellir eu hymgorffori mewn dysgu; mae'r rhain yn cynnwys adrodd straeon/naratif, cystadleuaeth, amcanion, pwyntiau, gwobrau a byrddau arweinwyr.

Astudiaethau Achos o Brofiadau Dysgu Diddorol
- Ffug dreialon cyfreithiol mewn Ffarmacoleg (Yr Athro Derek Lang, MEDIC)
Yn y gweithgaredd hwn, mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ffug dreial cyfreithiol, gan roi triniaethau cyffuriau dadleuol 'ar brawf'. Mae myfyrwyr yn cael eu grwpio i dimau erlyn ac amddiffyn ac yn paratoi ac yn cyflwyno eu hachosion ar gyfer treial. Mae ymgysylltiad a chanlyniadau myfyrwyr yn rhagorol yn yr enghraifft hon o ddysgu gweithredol, a adlewyrchir mewn adborth cadarnhaol cryf megis: "Roedd y dull addysgu hwn yn hynod arloesol ac yn ffordd hwyliog iawn o integreiddio gwybodaeth wrth ddysgu sut i ddehongli llenyddiaeth a dod i gasgliad cytbwys yn seiliedig ar y dystiolaeth"
Darllenwch fwy am y ffug dreialon cyfreithiol yma (yn Saesneg).
- Gêm gardiau wedi'i chreu ar y cyd ar gyfer yr economi gylchol (Dr Marianna Marchesi, ARCHI)
Mae'r gweithgaredd dysgu gafaelgar hwn yn defnyddio gêm gardiau a ddatblygwyd gan Dr Marchesi yn yr Ysgol Pensaernïaeth, ac mae'n dangos manteision cadarnhaol 'creu gêm'. Gyda'r gêm 'Teuluoedd Cylchol', mae myfyrwyr a'r cyhoedd ehangach yn cael eu cyflwyno i arferion cynhyrchu a defnyddio sy'n angenrheidiol ar gyfer economi gylchol, ac mae ganddynt rôl weithredol wrth archwilio effaith dinasoedd ar yr amgylchedd.
Darllenwch fwy am gêm gardiau Teuluoedd Cylchol yma (yn Saesneg).
- Dysgu gan gymheiriaid a chyfnewid rolau (Dr Stephanie Slater, CARBS)
Gyda dylunio meddylgar, gall creu cyfleoedd dysgu cyfoedion yn y cwricwlwm fod yn hynod effeithiol. Yn yr Ysgol Busnes, cafodd caniatáu lle i archwilio profiadau rhyngwladol amrywiol myfyrwyr trwy waith prosiect 'cyfnewid rolau' effaith gadarnhaol iawn ar fyfyrwyr.
Darllenwch fwy am y prosiect a'i effaith gadarnhaol ar ddysgu myfyrwyr yma (yn Saesneg).
Goresgyn Heriau i Greu Profiadau Dysgu Diddorol
Sut alla i oresgyn heriau i greu profiad dysgu diddorol?
Mae profiad dysgu diddorol yn dibynnu ar greu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chynhwysol a gall nifer o ffactorau effeithio arno:
- Nifer fawr o fyfyrwyr
- Mannau dysgu heriol, e.e. darlithfeydd gyda seddau sefydlog
- Dysgwyr anghyfforddus neu bryderus neu rai y mae eu sylw wedi cael ei dynnu
- Athrawon a myfyrwyr yn cael eu llethu gan y defnydd o dechnoleg nad ydynt yn gyfarwydd â hih
- Colli ymdeimlad o gymuned ehangach os yw myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau bach
- Ffactorau diwylliannol sy'n rhwystro mynediad at ddysgu
Er mwyn ymateb i’r heriau hyn, mae Petersen a Gorman (2014) yn cynghori’r dull gweithredu canlynol:
Cyn Eich Sesiwn (yn ystod y cam dylunio)
- Cynlluniwch weithgareddau sy'n bodloni'ch deilliannau dysgu a manteisiwch ar y gofod. Gall hyn gynnwys cynllunio ar gyfer gweithgareddau wrth gefn neu benderfynu sut y byddwch yn ymateb i newidiadau megis grŵp llai na'r disgwyl o ddysgwyr, neu newid ystafell yn annisgwyl.
- Penderfynwch ba dechnoleg y byddwch ac na fyddwch yn ei defnyddio.
- Cymerwch agwedd gynyddol at newidiadau mewn addysgu.
Diwrnod Cyntaf Eich Sesiwn
- Cyfleuwch eich athroniaeth am rolau athrawon a myfyrwyr;
- Mynegwch eich disgwyliadau ar gyfer rhyngweithio myfyriwr-hyfforddwr a myfyriwr-myfyriwr;
- Rhowch wybod i fyfyrwyr y byddwch yn gofyn am eu hadborth.
Yn ystod Sesiynau Dosbarth
- Llywiwch sylw myfyrwyr yn ystod sesiynau;
- Neilltuwch amser ar gyfer rhyngweithio mewn grŵp mawr;
- Gofynnwch am adborth myfyrwyr yn gynnar yn y semester.
Bydd sicrhau bod paramedrau clir yn cael eu sefydlu yn ystod y cam dylunio hefyd yn eich galluogi i gynllunio eich gweithgareddau dysgu ac asesu yn fwy effeithiol. Hefyd, sicrhewch eich yn gwneud cynlluniau wrth gefn ('beth fyddaf yn ei wneud os…?'), gan gynnwys methiant technoleg, grwpiau mwy neu lai, neu newid ystafelloedd.
Cyfeiriadau
Petersen, C.I. a Gorman, K.S. (2014) Strategies to Address Common Challenges When Teaching in an Active Learning Classroom. New Directions for Teaching and Learning, 2014, 63-70. https://doi.org/10.1002/tl.20086
Bligh, D. A (2000) What’s the Use of Lectures? San Francisco: Jossey-Bass
Rhannwch eich Adborth
Where Next?
Ydych chi'n barod i archwilio rhai tudalennau proses?
Os ydych yn cynllunio rhaglen newydd, neu ar gyfer ailddilysu, efallai y bydd y tudalennau canlynol yn ddefnyddiol yn y drefn hon:
Neu, efallai, os ydych chi eisoes yng nghanol addysgu, efallai y bydd un o'r tudalennau canlynol yn ddefnyddiol i chi: