Egwyddor 3: Partneriaeth a Chyd-greu

Rhaid i ni gydweithio â myfyrwyr fel partneriaid i gyd-greu profiad myfyrwyr, gyda mewnbynnau a mewnwelediadau gwahanol staff a myfyrwyr yn cael eu gwerthfawrogi’n gyfartal. Dylai gweithgarwch partneriaeth fod yn bwrpasol ac yn canolbwyntio ar welliant; dylai fod gan bob myfyriwr lais i’w alluogi i fod yn gyd-grëwr profiad addysgol gwell, boed hynny trwy gynrychiolaeth neu fecanweithiau adborth eraill, a dylai myfyrwyr ddeall sut mae eu hadborth yn cael ei ddefnyddio a’i werthfawrogi. Yn ymarferol, mae partneriaeth yn golygu ymgysylltu â myfyrwyr trwy gydol proses fel y gallant fod yn rhan o’r gwaith o lunio problemau a chanfod atebion. Mae hyn yn cyferbynnu â dulliau lle mae atebion i adborth myfyrwyr yn cael eu creu gan staff ac yna’n cael eu cyflwyno i fyfyrwyr fel fait accompli. Mae’r Cynllun Cynrychiolwyr Myfyrwyr yng Nghaerdydd yn cefnogi staff i gymryd rhan mewn deialog gyson gyda myfyrwyr, i gasglu mewnbwn ar syniadau ac atebion.
Ar gyfer datblygu addysg, dylech ystyried pa fath o bartneriaeth sy’n mynd i gael ei sefydlu yn dibynnu ar y dasg dan sylw. Dylai Paneli Staff Myfyrwyr weithio mewn partneriaeth wrth edrych ar weithgarwch gwella, data ar lais myfyrwyr, a chynlluniau gweithredu.
Rhaid i newidiadau mawr i raglenni a chynigion am raglenni newydd gynnwys myfyrwyr o ddechrau’r broses. O ystyried yr amser y gall y prosesau hyn ei gymryd a chymhlethdod y ddogfennaeth, efallai y byddai’n synhwyrol sefydlu panel cynrychioliadol llai o fyfyrwyr i fod yn rhan o’r broses, yn hytrach na defnyddio grŵp mwy fel Panel Staff Myfyrwyr. Yn ogystal, mae’r Cynllun Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn cynnig cymorth i bob rhan o’r brifysgol i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn prosiectau a thasgau (gweler isod).
Archwiliad Dyfnach Bach o Bartneriaeth a Chyd-greu
Hyrwyddwyr Myfyrwyr
Mae’r Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn grŵp o fyfyrwyr amrywiol cyflogedig sy’n cael eu recriwtio o bob lefel astudio a disgyblaeth ac sy’n gweithio mewn partneriaeth â staff ar draws y brifysgol ar amrywiaeth o dasgau a phrosiectau trwy gydol y flwyddyn academaidd i lunio a gwella profiad y myfyriwr.
I sicrhau bod Hyrwyddwyr Myfyrwyr yn hollol gymwys i siapio profiad y myfyriwr, maent yn cael hyfforddiant ar gasglu data, strategaethau cyfathrebu, ymgysylltu â myfyrwyr, creu fideos a dadansoddi data.
Sut gall yr Hyrwyddwyr Myfyrwyr weithio mewn partneriaeth â mi?
Gall hyrwyddwyr myfyrwyr weithio gyda chi trwy’r dulliau canlynol:
• creu a datblygu adnoddau mewn amrywiaeth o feysydd mewn ysgolion a’r gwasanaethau proffesiynol
• cefnogi'r gwaith o gasglu data drwy greu a hwyluso arolygon i fyfyrwyr a grwpiau ffocws
• cynnig safbwynt personol a gwybodaeth am brofiadau yn y brifysgol er mwyn llywio'r broses o wneud penderfyniadau a datblygu adnoddau
• helpu i ddatblygu cwricwlwm a meddalwedd drwy dreialu mentrau newydd a gweithio gyda staff i adolygu a gweithredu argymhellion ar gyfer gwella
• gweithio â chydweithwyr ar strategaethau a thactegau cyfathrebu, gan gynnwys presenoldeb yn y cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu fideos
I ymgysylltu â’r cynllun, cysylltwch â cardiffstudentchampions@caerdydd.ac.uk