Adborth
Dechrau arni

Diffinnir Adborth Academaidd fel ‘proses lle mae dysgwyr yn gwneud synnwyr o wybodaeth o wahanol ffynonellau ac yn ei defnyddio i wella eu gwaith neu eu strategaethau dysgu’ (Carless a Boud, 2018).
Rhannwyd y dudalen hon yn bedair adran, lle bydd staff yn dod o hyd i ddolenni, awgrymiadau, myfyrdodau ac enghreifftiau defnyddiol gan gyfoedion mewn pedwar prif faes sy’n canolbwyntio ar wella ymarfer adborth academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd:
1. Yr wybodaeth am adborth academaidd a ddarperir i’n myfyrwyr;
2. Yr hyn y mae angen i fyfyrwyr ei wybod am adborth academaidd a sut i’w ddefnyddio;
3. Natur a naws yr adborth academaidd y mae’r myfyrwyr yn ei gael; ac
4. Y modd y mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi i ddefnyddio eu hadborth academaidd yn effeithiol.
Wrth i chi weithio eich ffordd trwy’r dudalen hon, cyfeiriwch hefyd at yr adnoddau canlynol:

- Polisi Adborth Academaidd Prifysgol Caerdydd
- Dull Strategol Prifysgol Caerdydd o Wella Asesu ac Adborth ar gyfer 2023-2027
- Yr adran Archwilio’n Dyfnach ar gyfer darllen pellach, a Templed Strategaeth Adborth Bwrdd Astudiaethau.
Yr wybodaeth am adborth academaidd a ddarperir i’n myfyrwyr
Ddechrau’r flwyddyn academaidd, bydd pob myfyriwr yn cael gwybodaeth am yr adborth academaidd y bydd yn ei gael. Bydd yr wybodaeth hon yn nodi beth, pryd, a sut o ran yr adborth academaidd y bydd y myfyrwyr yn ei gael, yn adborth a ddarperir ar asesiadau crynodol, ac yn adborth a ddarperir i fyfyrwyr yn barhaus, e.e. trwy diwtorialau, gan oruchwylwyr, ar asesiadau ffurfiannol, ac ati.
Beth?
Argymhellir bod y myfyrwyr yn cael o leiaf yr wybodaeth isod ar gyfer pob tasg asesu.
- Enw'r asesiad a disgrifiad byr ohono
- Cyfraniad canrannol (lle bo hynny'n berthnasol) y dasg i ganlyniad y modiwl
- Y fformat(au) i'w defnyddio ar gyfer cyflwyno'r asesiad
- Pa un a yw’n dasg grynodol a/neu ffurfiannol a beth yw’r marc pasio
- Pa mor hir y bydd yr asesiad yn para a/neu ei faint (os yw’n berthnasol)
- Y meini prawf asesu
- Dyddiad rhyddhau’r asesiad
- Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
- Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd sylwadau adborth
- Y cyfleoedd sy’n bodoli i drafod yr adborth
Yn ogystal â darparu’r wybodaeth hon i’r myfyrwyr (a thynnu eu sylw at pryd y bydd ar gael, lle y mae wedi’i lleoli, a sut y gellir ei defnyddio), mae’n arfer da cefnogi a dilyn hyn trwy drafodaeth yn y dosbarth. Mae siarad â'ch myfyrwyr am adborth academaidd yn rhoi cyfle i chi sicrhau bod y myfyrwyr yn fwy ymwybodol o’r cyfrifoldebau sydd ganddynt i ddefnyddio adborth i wella eu dysgu.
Mae hefyd yn bwysig i Ysgolion ddarparu gwybodaeth i’r myfyrwyr am fformat adborth academaidd, unrhyw wahaniaethau rhwng yr adborth academaidd sydd i'w ddarparu ar asesiadau ffurfiannol a chrynodol, ac unrhyw gyfleoedd i gael adborth academaidd ychwanegol (e.e. trwy'r system Tiwtor Personol).
Pryd?
Bydd gwybodaeth am adborth academaidd yn cael ei darparu i fyfyrwyr ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, yn ddelfrydol yn ystod sesiynau briffio yr Wythnos Groeso.
Sut?
Rhaid egluro i’r myfyrwyr lle y gellir dod o hyd i wybodaeth am adborth academaidd (Dysgu Canolog, Llawlyfr y Myfyrwyr, ac ati), a pha un a fydd cymorth ychwanegol ar gael ai peidio.
Yr hyn y mae angen i fyfyrwyr ei wybod am adborth academaidd a sut i’w ddefnyddio
Gall fod yn rhwystredig i staff ganfod nifer o fyfyrwyr nad ydynt fel pe baent yn defnyddio sylwadau adborth mewn modd effeithiol. Yn yr un modd, gall myfyrwyr ddigio o gael sylwadau sy’n aneglur ac nad ydynt yn eu helpu i nodi’r modd y gallant wella. Mae’r anawsterau hyn, ynghyd â nifer o’r materion a’r problemau eraill sy’n ymwneud ag adborth academaidd, yn deillio i raddau helaeth o fodel adborth sy’n seiliedig ar drosglwyddo gwybodaeth mewn un cyfeiriad o’r staff i’r myfyrwyr. Nid yw hyn yn cael ei ystyried yn fodel effeithiol mwyach.
Er mwyn i’r sylwadau a ddarperir i’r myfyrwyr ar asesiadau fod yn effeithiol, mae angen i adborth fod yn ‘broses ddeialog’. Felly, gellir dadlau nad yw sylwadau o’r fath yn adborth hyd nes iddynt gael eu defnyddio gan y myfyrwyr i’w helpu i wella eu dysgu. Yn y modd hwn, rydym yn symud tuag at batrwm newydd (mwy effeithiol) o adborth, gan ystyried adborth yn broses ac nid yn gynnyrch (Boud a Molloy, 2013).
Mae ymchwil hefyd wedi nodi bod rhan o’r ‘broses’ hon yn cynnwys meithrin llythrennedd adborth ymhlith staff a myfyrwyr.
“Mae llythrennedd adborth yn dynodi’r dealltwriaethau, y galluoedd a’r awydd sy’n ofynnol i wneud synnwyr o wybodaeth a’i defnyddio i wella strategaethau gwaith neu ddysgu” (Winstone a Carless, 2018).
Nodwyd bod llythrennedd adborth yn meddu ar y pedwar dimensiwn isod (addaswyd o Carless a Boud, 2018):
Y gallu i wneud y canlynol:
Cydnabod a bod yn ymwybodol o adborth:
A yw eich myfyrwyr yn cydnabod yr holl ffyrdd gwahanol y gallant gael adborth? A ydynt yn gwybod beth i'w wneud â’r adborth y maent yn ei gael? Os nad ydynt, efallai yr hoffech ddefnyddio un o’r ‘ymyriadau’ byr isod.
Rhowch enghraifft i’r myfyrwyr o’r adborth a roesoch y llynedd – a naill ai eglurwch neu nodwch y modd y gallai’r myfyrwyr ddefnyddio hwn ... yna gofynnwch i’r myfyrwyr weithio mewn grwpiau bach a chofnodi (trwy Mentimeter) y modd y byddent yn defnyddio’r adborth, gan drafod eu hymatebion. |
Gofynnwch i’r myfyrwyr gofnodi (trwy Mentimeter) enghreifftiau o'r adborth y maent eisoes wedi’i gael (yn arbennig o ddefnyddiol mewn disgyblaethau lle mae myfyrwyr yn aml yn cael adborth llafar parhaus – e.e. mewn labordai, mewn tiwtorialau datrys problemau, gan gyd-weithwyr ar leoliad a/neu gyd-weithwyr eraill â ffocws clinigol). |
Gofynnwch i’r myfyrwyr gofnodi (trwy Mentimeter) eu diffiniadau eu hunain o’r hyn y mae adborth yn ei olygu, ac yna trafodwch a dadansoddwch eu hymatebion i’w helpu i ddeall e.e. nad yw marciau yn adborth, mai dim ond pan weithredir arnynt y daw sylwadau’n adborth, ac ati. |
Rheoli ei effaith:
Gall cael adborth ennyn amrywiaeth o emosiynau a all ryngweithio ag ymgysylltiad gwybyddol ac felly allu ein myfyrwyr i ddefnyddio adborth i ddysgu. Felly, efallai yr hoffech wneud y canlynol:
Gofyn i’r myfyrwyr drafod yr adborth y maent wedi’i gael mewn parau, a gofyn i bob pâr drafod y cwestiynau canlynol: Sut yr oedd sylwadau negyddol wedi gwneud iddynt deimlo? Sut y gallant wrthdroi sylwadau negyddol a’u defnyddio i wella? Pam y mae’n bwysig i adborth gynnwys sylwadau negyddol? |
Cyfeirio myfyrwyr at ffynonellau gwybodaeth, cymorth a chyngor sydd ar gael, os byddwch yn teimlo bod adborth yn risg i lesiant. |
Sicrhau bod sylwadau adborth (yn enwedig i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf lle gall hyder fod yn fregus) yn cydbwyso beirniadaeth adeiladol, sylwadau cadarnhaol a chyfarwyddiadau i wella. |
Rhowch ‘ganiatâd i’r myfyrwyr fethu’ trwy sicrhau nad oes i dasgau datblygiadol lawer o bwys (os o gwbl) ar gyfer canlyniadau modiwlau. |
Gweithredu:
Er na allwch orfodi myfyrwyr i ddefnyddio sylwadau adborth, gallwch eu cefnogi i wneud gwell defnydd o’r sylwadau hyn, a’u hannog i weithredu, trwy fabwysiadu un o’r ymarferion isod.
Rhowch enghraifft i’r myfyrwyr o’r adborth a roesoch y llynedd – a naill ai eglurwch neu nodwch y modd y gallai’r myfyrwyr ddefnyddio hwn ... trwy ofyn iddynt weithio mewn grwpiau bach a chofnodi (trwy Mentimeter) y modd y byddent yn defnyddio hyn ac yna drafod eu hymatebion. |
Trwy gynnwys dolenni i adnoddau ar-lein defnyddiol yn yr adborth yr ydych yn ei roi – cyfarwyddo’r myfyrwyr i ddefnyddio’r rhain. |
Trwy sicrhau y gall adborth roi blaenborth effeithiol ar gyfer y dasg nesaf – e.e. trwy ofyn i’r myfyrwyr nodi’r modd y maent wedi defnyddio adborth blaenorol ar dudalen glawr eu haseiniad nesaf, neu drwy ddyfarnu marciau am sylwadau sy'n esbonio’r modd y maent wedi defnyddio adborth blaenorol. |
Trwy ganiatáu i’r myfyrwyr gael adborth ar ddrafftiau a’i ddefnyddio cyn cyflwyno’r aseiniad hwnnw’n derfynol. |
Gwneud dyfarniadau gwerthusol
“Dyfarniad gwerthusol yw'r gallu i wneud penderfyniadau ynghylch ansawdd eich gwaith eich hun a gwaith eraill” (Tai, 2018).
Trwy ddarparu enghreifftiau i’r myfyrwyr ochr yn ochr â'r meini prawf asesu cytunedig, a gofyn i’r myfyrwyr (mewn grwpiau bach) raddio’r enghreifftiau, gan gymhwyso'r meini prawf asesu cytunedig. Trwy fynd ati wedyn i drafod y marciau a'r ymatebion gwahanol (gwneud y myfyrwyr yn fwy ymwybodol o'r cymhlethdod sy'n gysylltiedig â graddio gwaith a darparu adborth) (Asesu cymheiriaid). |
Trwy ofyn i’r myfyrwyr hunanasesu eu gwaith eu hunain yn unol â meini prawf cytunedig, gan gyflwyno taflen glawr sy’n cynnwys eu marc disgwyliedig eu hunain yn unol â’r meini prawf. Trwy fynd ati wedyn i ddarparu rhywfaint o adborth i'r myfyrwyr sy'n rhoi sylwadau ar eu marciau, gan helpu i fireinio eu barn werthusol (Hunanasesu). |
Trwy ofyn i’r myfyrwyr weithio gydag asesiad cymheiriad cyn ei gyflwyno, gan roi adborth ar waith sydd ar y gweill yn unol â meini prawf graddio. (Noder: Mae adolygiad gan gymheiriaid yn fwyaf effeithiol pan fydd yn canolbwyntio ar feini prawf y mae cymheiriaid yn y sefyllfa orau i roi sylw arnynt, megis eglurder y cyfathrebu neu gryfder y ddadl.) (Asesiad gan gymheiriaid). |
Trwy helpu’r myfyrwyr i ddeall meini prawf asesu yn well trwy ddefnyddio'r meini prawf generig i ddatblygu meini prawf aseiniad-benodol awgrymedig. Trwy fynd ati wedyn i ofyn i’r myfyrwyr weithio mewn grwpiau a thrafod ystyr meini prawf a mynegi nodweddion gwahaniaethol gwaith ar bob lefel. |
Ni ddylech ddisgwyl i lythrennedd adborth academaidd ddatblygu dros nos.
Os gwnewch chi un peth cyflym yn unig … darllenwch trwy’r adborth yr ydych wedi’i ddarparu ar asesiad sampl diweddar a’i ystyried o safbwynt y myfyriwr. Sut y byddai’r adborth hwn yn gwneud i chi deimlo? A fyddai gennych syniad clir o’r camau y gallech eu cymryd i wella eich gwaith mewn asesiadau yn y dyfodol?
Natur a naws yr adborth academaidd y mae’r myfyrwyr yn ei gael
Mae’r adran hon o’r pecyn cymorth yn ymwneud â natur y sylwadau sy’n cael eu darparu i’r myfyrwyr yn yr adborth. Er ei bod yn bosibl na fydd rhai myfyrwyr yn defnyddio’r sylwadau hyn heb gymorth a chefnogaeth ychwanegol, serch hynny mae’n bwysig sicrhau bod ein sylwadau’n cael eu fframio mewn ffyrdd a fydd yn ddefnyddiol i fwy o fyfyrwyr.
Bydd dilyn y ‘saith nodwedd ar gyfer rhoi adborth effeithiol’ (Wiggins, 2012) yn helpu i sicrhau bod eich sylwadau’n briodol ac yn ddefnyddiadwy. Caiff y rhain eu nodi a’u hesbonio isod.
Canolbwyntio ar amcanion
Mae sylwadau o adborth academaidd yn aml yn ategu’r ystyr pan fydd y rhain yn ymwneud â’r deilliannau dysgu a’r meini prawf addysgu ar gyfer y dasg honno. Er bod llawer o fyfyrwyr yn cytuno bod sylwadau sydd yn amlwg yn gysylltiedig â rhannau penodol o waith y myfyriwr yn ddefnyddiol, mae hefyd yn ddefnyddiol i roi crynodeb byr (fel arfer ar ddiwedd darn o waith) sy’n dangos meysydd allweddol i wella a’r adnoddau sydd ar gael i gyflawni hyn.
Examples of effective practice:
CYMRAEG: Ceisio rhoi 'llai o adborth sy’n fwy penodol i fyfyrwyr...paragraff a chrynodeb byr sy’n cynnwys tri amcan’ Mae Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI): ‘yn gofyn i fyfyrwyr beth yw eu hamcanion nhw - cynllunio amcanion ar y cyd’ |
Canolbwyntio ar bwyntiau allweddol
Dylai adborth fod yn gryno ac yn canolbwyntio ar ddau neu dri phwynt, gan gynnwys y meysydd sy’n gryf a lle gall yr unigolyn wella/ddatblygu. Bydd adborth cryno yn haws i fyfyrwyr ei ddeall a bydd myfyrwyr yn fwy tebygol o weithredu arno. Ceisiwch sicrhau i roi'r un maint o adborth i wahanol fyfyrwyr.
Pwyntiau y mae modd eu rhoi ar waith
Yn ogystal â chynnwys dolenni i unrhyw adnoddau y dylai myfyrwyr eu defnyddio i roi camau dilynol ar waith, dylai aelodau o staff drafod sut y maen nhw’n disgwyl iddyn nhw ddefnyddio a rhoi’r adborth ar waith. Pan fydd asesiadau yn gysylltiedig â’i gilydd, dylai aelodau o staff roi gwybod i fyfyrwyr beth yw’r disgwyliadau ar gyfer y tro nesaf. Mae llawer o gydweithwyr yn defnyddio tudalen glawr, ble mae myfyrwyr yn nodi’r maes (meysydd) y byddai sylwadau o adborth yn ddefnyddiol (adborth dewisol) iddyn nhw.
Ystyriol i fyfyrwyr
Byddai’n ddefnyddiol i wneud adborth academaidd yn bersonol (gan ddefnyddio’r person cyntaf neu’r ail berson) i helpu myfyrwyr i fynd i’r afael â’r rhain. Dylai sylwadau fod yn feirniadol ond hefyd yn gadarnhaol, a lle bo modd, dewis naws sy’n gadarnhaol ac yn gefnogol. Tra bydd sylwadau’n cael eu deall yn well pan fydd iaith eglur a syml yn cael ei defnyddio, dylai aelodau o staff hefyd roi rhagor o wybodaeth i fyfyrwyr am y cyfleoedd sydd ar gael i drafod y sylwadau.
Examples of effective practice:
Mae PHYSX: (Ffiseg a Seryddiaeth) yn cynnal tiwtorialau grŵp yn wythnosol cyn ac yn dilyn yr asesiad. Enghreifftiau, defnydd o farcio gan gymheiriad. Mae’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd (SHARE): yn defnyddio system tiwtoriaid personol – dydy myfyrwyr ddim angen help i ddeall yr adborth rhan amlaf, ond bydd eraill angen ychydig o gymorth i ddeall y derminoleg a gaiff ei defnyddio. Mae’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio (GEOPL:) yn defnyddio fideo byr, (mae angen manylion Prifysgol Caerdydd i fewngofnodi), wedi’i lunio gan Dr Neil Harris, yn cynnig cyngor ar ‘eirio a mynegi’ adborth. |
Ar waith
I fod yn effeithiol, rhaid i adborth hefyd fod yn barhaus, yn gyson ac yn amserol. Mae hyn yn golygu bod angen digon o gyfleoedd ar fyfyrwyr i ddefnyddio’r adborth, a bod yr adborth yn gywir, yn ddibynadwy ac yn sefydlog. Os na fydd adborth yn amserol, bydd myfyrwyr yn cael trafferth ymrwymo ac yn colli eu hawch i weithio. Athrawon sy’n gyfrifol am gynnwys dolenni adborth rheolaidd yn eu harfer. Y rhai sy’n rhoi graddau sy’n gyfrifol am fodloni'r holl derfynau amser ac am roi adborth cyson wedi’i fesur.
Annog trafodaethau parhaus ynghylch yr adborth a chyfleoedd i wella ei lythrennedd a’i effaith.
Cyson
Dilyn safonau sydd wedi’u gosod, rhoi adborth sy’n ddibynadwy, teg a chywir.
Examples of effective practice:
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru (ARCHI): yn dangos y math o adborth sydd ar gael ar gyfer pob asesiad ar y modiwl, a fydd yr adborth yn ffurfiannol neu’n grynodol, ar lafar neu’n ysgrifenedig, a ble bydd yr wybodaeth ar gael ac ati. |
Yn amserol
Sicrhau glynu wrth derfynau amser a gafodd eu cytuno, gan feithrin ymddiriedaeth a dibynadwyedd yn y broses adborth.
Os gwnewch chi un peth cyflym yn unig … gofynnwch i’r myfyrwyr edrych trwy’r adborth y maent wedi’i gael ar asesiad diweddar. A allant nodi cysylltiadau rhwng yr adborth a gawsant a deilliannau dysgu’r modiwl/rhaglen?
Adborth ar lefel y garfan
Manteision adborth academaidd ar lefel y garfan
- Yn addas ar gyfer asesiadau mwy ‘gwrthrychol’, e.e. cwestiynau amlddewis lle gall gwallau cyffredin ymddangos
- Yn arbennig o ddefnyddiol wrth addysgu grwpiau mawr, lle mae rhoi adborth unigol, ystyrlon, y gellir gweithredu arno yn cymryd llawer o amser
- Yn gallu rhoi adborth academaidd mwy amserol i’r myfyrwyr
- Gellir ei deilwra i bob carfan, ond gall hefyd gael ei lywio gan adborth academaidd carfanau blaenorol, a llywio adborth academaidd carfanau yn y dyfodol (lle gellir rhoi adborth academaidd carfan flaenorol i garfanau'r dyfodol cyn asesiad)
- Yn gallu ategu a darparu cyd-destun ar gyfer adborth unigol trwy roi ymwybyddiaeth i’r myfyrwyr o feysydd gwendid cyffredin, ynghyd ag enghreifftiau o berfformiad llwyddiannus
Ystyriaethau wrth roi adborth ar lefel y garfan:
- Darparwch broffil ystadegol fel y gall y myfyrwyr weld eu safle o gymharu ag erail
- Rhowch sylwadau ar sut olwg oedd ar gyflawni gradd dosbarth cyntaf – beth oedd y myfyrwyr a gyflawnodd orau wedi’i wneud yn dda?
e.e. ‘Roedd yr atebion gorau yn syntheseiddio sawl ffynhonnell wrth adeiladu dadl, yn mynd i'r afael â gwrthddadleuon posibl, ac yn defnyddio astudiaethau achos.’ |
- Rhowch sylwadau ar y methiannau – ble yr aeth y myfyrwyr a fethodd o'i le?
e.e. ‘Cafwyd methiannau pan roedd yr atebion yn rhy fyr, neu le nad oedd dadleuon yn cael eu cefnogi gan ffynonellau priodol.’ |
- Rhowch sylwadau ar hepgoriadau arwyddocaol cyffredin.
e.e. ‘Ni chyfeiriodd llawer o fyfyrwyr at y cyfraddau uchel o farwolaethau babanod yn y cyfnod ...’ |
- Rhowch sylwadau ar ba mor dda y bu i’r myfyrwyr wneud defnydd o ddeunydd y modiwl – cynnwys darlithoedd a thestunau allweddol.
e.e. ‘Cyfeiriwyd at ddiwygio addysg yn y ddarlith gyntaf, ond nid aeth nifer o’r myfyrwyr i'r afael â hyn yn eu hymatebion.’ |
- Rhowch sylwadau ar yr ymatebion i’r tasgau – a atebwyd y cwestiynau’n dda?
e.e. ‘Methodd nifer o fyfyrwyr y prif ffactor yr oedd angen mynd i'r afael ag ef, sef ...’ |
- Rhowch flaenborth – sut y gellir defnyddio’r adborth academaidd hwn i wella perfformiad mewn asesiadau crynodol ac asesiadau eraill yn y dyfodol?
e.e. ‘Bydd diffinio termau allweddol yn y cyflwyniad i’r traethawd yn rhoi eglurder mewn asesiadau traethodau yn y dyfodol.’ |
- Ystyriwch gynnwys nifer o ddyfyniadau, neu enghreifftiau (gyda chaniatâd) o sgriptiau unigol a gyflawnodd y marciau uchaf.
Y modd i gyfleu adborth ar lefel y garfan:
- Postiwch yn Blackboard Ultra (efallai na fydd y myfyrwyr yn ymgysylltu)
- Ewch trwyddo yn un o sesiynau’r modiwl ar ôl yr asesiad (yn fwy effeithiol?)
- Ei ddarparu i’r garfan nesaf o fyfyrwyr cyn eu hasesiad (gall fod yn effeithiol iawn)
- Crëwch gronfa adborth ar gyfer asesiadau unigol (yn ddefnyddiol ac yn arbed amser)
Adborth gan gymheiriaid
Mae cynnwys myfyrwyr mewn adborth gan gymheiriaid yn meithrin amgylchedd dysgu cydweithredol a rhyngweithiol, gan wella ymarfer addysgu a dysgu. Gweler y dudalen ar Llythrennedd Asesu ac Adborth i gael rhagor o syniadau ynghylch adborth gan gymheiriaid. Dylid rhoi gwybod i’r myfyrwyr am unrhyw ddefnydd y bwriedir ei wneud o adborth gan gymheiriaid, neu’r defnydd o BuddyCheck ar gyfer asesiadau sy’n dibynnu ar Teamwork.
Y modd mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi i ddefnyddio eu hadborth academaidd yn effeithiol.
Mae yna nifer o ffyrdd y gellir cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio eu hadborth academaidd yn effeithiol.
Myfyrdod
Sut allech chi ddefnyddio'r offer hyn i wella dealltwriaeth a defnydd eich myfyrwyr o adborth academaidd?
- gweithdai neu sesiynau gwybodaeth ar thema adborth
- y system Tiwtoriaid Personol
- Blackboard Ultra
Defnyddio Offer Adborth Blackboard Ultra
Mae’n bwysig ystyried fformat yr adborth yr ydych yn ei roi. Gall adborth fod yn ysgrifenedig, ar ffurf sain neu fideo, neu’n gyfuniad o fathau. Gall y fformat adlewyrchu dewis y myfyrwyr neu’r staff, y math o adborth sy’n fwyaf addas i’r modiwl neu’r ddisgyblaeth, ac ystyriaethau o ran cynwysoldeb.
Ysgrifenedig
- Adborth testun, er enghraifft QuickMarks
- Sylwadau wrth yr ymyl
- Adborth cryno ysgrifenedig
- Adborth awtomatig i gwis
Sain/fideo
- Adborth sain yn Turnitin
- Adborth sain a fideo ar Blackboard Ultra
- Cyfarfod wyneb yn wyneb
Dangosodd adolygiad systematig diweddar o 58 o astudiaethau ynghylch adborth fideo ei fod: “yn fanylach, yn gliriach, ac o ansawdd cyfoethocach” a bod hyn wedi arwain at “well dealltwriaeth a sgiliau meddwl lefel uwch, a chyfathrebu mwy personol, dilys a chefnogol” (Bahula a Kay, 2021). Yn hollbwysig, gall defnyddio sain a fideo i gynhyrchu sylwadau adborth arbed amser staff hefyd, felly mae’n werth buddsoddi peth amser i ddysgu sut i wneud hynny.
Gellir defnyddiol dulliau adborth gwahanol ar wahân neu ar y cyd i ddarparu adborth cyfoethocach i’r myfyriwr.
Yn y fideo byr hwn, mae Dr Jonathan Kirkup, darlithydd mewn Gwleidyddiaeth, yn sôn am ei brofiad o ddefnyddio adborth sain.
Gwyliwch y fideo byr hwn gyda chanllawiau ar ddefnyddio Blackboard Ultra i roi adborth mewn amrywiaeth o fformatau, yn cynnwys adborth ysgrifenedig, sain a fideo.
Cyd-ddylunio dulliau asesu ac adborth â’ch myfyrwyr
Gall cytuno ar ddull o roi adborth academaidd â’ch myfyrwyr ar ddechrau modiwl unigol gael effaith gadarnhaol mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, gall cyflwyno asesiadau ffurfiannol y dyfernir marc iddynt, ac sydd wedi’u cysylltu’n glir â pherfformiad asesu crynodol leihau eich llwyth marcio. Gall hefyd eich galluogi i ganolbwyntio ar roi sylwadau blaenborth ar y tasgau ffurfiannol hyn, a gall y myfyrwyr gymryd rhan mewn adborth gan gymheiriaid ar yr adeg hon. Mae yna fwy o werth i’r sylwadau blaenborth hyn nag sydd i sylwadau ar ddiwedd modiwl sy’n annhebygol o gael eu defnyddio gan y myfyrwyr.
Os gwnewch chi un peth cyflym yn unig … dechreuwch sgwrs â chyd-weithwyr am eu profiadau o roi adborth sain neu fideo os nad ydych erioed wedi rhoi cynnig ar hyn.
Helpu Myfyrwyr i Ddod yn Lythrennol mewn Adborth
Er mwyn defnyddio sylwadau adborth yn effeithiol, mae angen i fyfyrwyr wybod beth mae’r sylwadau hyn yn ei ddweud wrthynt, lle maent yn eu gosod, a sut y dylent eu defnyddio. Nid yw llythrennedd adborth yn digwydd dros nos ond mae’n sylfaen sy’n cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio sylwadau adborth yn effeithiol. Gellir cael mynediad at wybodaeth ar-lein am amrywiaeth o fentrau ymarferol byr y gallwch eu defnyddio i gefnogi asesu myfyrwyr a llythrennedd adborth yma.
Efallai y dymunwch hefyd ystyried sut y gall myfyrwyr eu hunain gynhyrchu adborth mewnol (Nicol, 2022) neu sut y gall taflenni myfyriol ymarferol hefyd helpu (gweler yr adran Deeper Dive am fwy o wybodaeth).

Archwilio’n Ddyfnach
Templed Strategaeth Adborth Bwrdd Astudiaethau
Gweler y Templed Strategaeth Adborth Bwrdd Astudiaethau yma.
Adborth Mewnol
Adnodd defnyddiol i helpu myfyrwyr i ddatblygu llythrennedd adborth academaidd yw Pecyn Cymorth Adborth Gweithredol Nicol (2022).
Mae Nicol yn dadlau y caiff ystyr adborth academaidd ei gamddehongli i olygu’r sylwadau y mae darlithwyr yn eu hysgrifennu ar waith y myfyrwyr. Yn hytrach, gall myfyrwyr gael eu cefnogi i alw i gof adborth mewnol o ffynonellau heblaw’r sylwadau hynny a wnaed ar eu gwaith - gan gynnwys o ddogfennau, deunyddiau darllen, darlithoedd, deilliannau dysgu, cyfarwyddyd, a thrwy arsylwi eraill - drwy broses o gymharu eu hunain â'r ffynonellau allanol hyn. Gall adborth academaidd mewnol ar ran y myfyrwyr yn ei dro leihau llwyth gwaith y darlithwyr o ran rhoi sylwadau adborth.
Mae'r broses o greu adborth mewnol yn effeithiol pan fydd y myfyrwyr yn gwneud rhywfaint o waith i ddechrau, cyn mynd ati i gymharu hynny ag adnodd allanol, a thrwy hynny, creu allbynnau clir ar sail y cymariaethau hynny.
Isod, ceir rhai enghreifftiau o sut gallai hynny weithio'n ymarferol:

Taflenni Clawr Myfyriol
Gall staff feddwl am daflen glawr adborth myfyriol neu ffurflen gais adborth myfyriwr. Mae'r rhain yn galluogi myfyrwyr i ddangos hunanasesu a chymhwyso adborth trwy daflen glawr aseiniad. Gallant helpu i greu deialog mewn adborth ar asesiadau (gweler Bloxham, Sue, a Liz Campbell, 2010 Generating dialogue in assessment feedback: Exploring the use of interactive cover sheets. Assessment & Evaluation in Higher Education 35 (3).) Maent hefyd yn sicrhau bod pwyslais wedi'i roi ar sut mae myfyrwyr wedi ymgysylltu ag adborth blaenorol.
Mae Canolfan ar gyfer Addysg Seiliedig ar Ymchwil UCL Arena wedi creu'r enghraifft isod y gellir ei lawrlwytho o becyn cymorth addysgu UCL Arena: Defnyddio ffurflenni (profformas) ar gyfer adborth.
Enghraifft o ffurflen gais adborth myfyrwyr
Mae'r cyfrifoldeb am ddarparu adborth defnyddiol yn cael ei rannu rhyngoch chi a'ch aseswyr. Helpwch i wneud yr adborth a gewch mor ddefnyddiol â phosibl trwy lenwi'r ffurflen ganlynol a'i hatodi i'ch cyflwyniad.
Enw:
Teitl y modiwl:
Dyddiad cau:
Hoffwn gael adborth ar y canlynol yn arbennig (e.e. sut rwyf wedi gosod y problemau ac ati):
Rwy’n ymwybodol fy mod wedi gwneud y camgymeriadau canlynol a hoffwn / ni hoffwn gael adborth ar eu cywiro (dilëwch fel y bo’n briodol):
Sylwer: Dylai myfyrwyr wneud pob ymdrech i ofyn am gymorth pan fyddant yn ymwybodol o gamgymeriadau yn eu gwaith cyn ei gyflwyno. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol nad yw hyn bob amser yn bosibl.
Rwyf wedi cael yr adborth canlynol yn flaenorol:
Rwyf wedi ei ddefnyddio yn y darn hwn o waith fel a ganlyn:
Llofnod:
Dyddiad:
Cyfeiriadau
Bahula , T, & Kay, R. (2021). Exploring Student Perceptions of Video-Based Feedback in Higher Education: A Systematic Review of the Literature . Journal of Higher Education Theory and Practice, 21(4). https://doi.org/10.33423/jhetp.v21i4.4224
Boud, David & Elizabeth Molloy (2013) Rethinking models of feedback for learning: the challenge of design, Assessment & Evaluation in Higher Education, 38:6, 698-712, DOI: 10.1080/02602938.2012.691462
Carless, David, & David Boud (2018) The development of student feedback literacy: enabling uptake of feedback, Assessment & Evaluation in Higher Education, 43:8, 1315-1325, DOI: 10.1080/02602938.2018.1463354
Nicol, David (2010) From monologue to dialogue: improving written feedback processes in mass higher education, Assessment & Evaluation in Higher Education, 35:5, 501-517, DOI: 10.1080/02602931003786559
Nicol, David (2022): "Turning Active Learning into Active Feedback", Introductory Guide from Active Feedback Toolkit, Adam Smith Business School. https://doi.org/10.25416/NTR.19929290
Rhannwch eich Adborth
Ble Nesaf?
Dewiswch un o’r tudalennau hyn sy’n gysylltiedig â’r un hon:
Cyd-greu mewn Asesiadau
Asesiadau Dilys
Crynodeb o Ddulliau Asesu
Llythrennedd Asesu ac Adborth
Dylunio Dysgu a Pharatoi i Addysgu
Gwella Dysgu