Crynodeb o Ddulliau Asesu

Dechrau arni
Mae’r adran hon yn darparu rhestr ddangosol, anghyflawn o rai o’r gwahanol ddulliau asesu a ddefnyddir yn gyffredin mewn addysg uwch yn y DU.
Ar gyfer pob dull asesu, mae’r crynodeb yn cynnwys:
- Disgrifiad byr o’r sgiliau a ddatblygwyd ym mhob asesiad a sylwadau cryno ar ddilysrwydd yr asesiad yn ogystal ag ystyried y rhinweddau graddedigion a gyflawnwyd.
- Syniad o’r risg o gamymddwyn academaidd sydd ynghlwm wrth bob dull, ac awgrymiadau ar ffyrdd o leihau’r risg hon.
- Sylwadau cryno ar y rhwystrau rhag dysgu ar gyfer pob asesiad, ac ystyriaethau o ran mynd i’r afael â chynwysoldeb.
Ar ddiwedd y crynodeb hwn, gallwch hefyd ddysgu mwy am asesu cynhwysol a sut y gallwn feddwl yn ddigidol am ddylunio asesu.
Crynodeb o Ddulliau Asesu
Asesiad cynhwyso
Meddwyl yn ddigidol: offer yn helpu asesu
Crynodeb o Ddulliau Asesu
Mae’r Crynodeb canlynol o Ddulliau Asesu yn seiliedig ar Brown, S. and Race, P. 2021 Using Effective Assessment and Feedback to Promote Learning. Yn Hunt, L. and Chalmers, D. University Teaching in Focus: A Learning-centred Approach. Llundain: Routledge. tt.135-162.
Arholiadau wyneb yn wyneb
Arholiadau ysgrifenedig traddodiadol, nas gwelwyd ymlaen llaw, â chyfyngiad amser, sy’n defnyddio cwestiynau traethawd yn bennaf.
Mae arholiadau yn fath traddodiadol iawn o asesu nad yw'n adlewyrchu gweithgareddau yn y gweithle, sy’n profi'r hyn y mae myfyrwyr wedi'i ddysgu ar gof; fodd bynnag, gellir dadlau bod arholiadau'n profi galluoedd myfyrwyr i weithio dan bwysau.
Gellir osgoi camymddwyn academaidd a chamddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol.
Gall cyflymder ac eglurdeb y llawysgrifen effeithio ar berfformiad; bydd rhai grwpiau, fel myfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu fyfyrwyr sy'n dioddef gorbryder ynghylch arholiadau, dan anfantais.
Arholiad llyfr agored
Mae myfyrwyr yn mynd â nodiadau, neu ddyfeisiau electronig i mewn i arholiad.
Llai o ffocws ar gof a chofio, a mwy o ffocws ar yr hyn y gall myfyrwyr ei wneud gyda'r wybodaeth a ddarperir iddynt.
Mwy o ddilysrwydd oherwydd efallai y bydd angen i fyfyrwyr ddadansoddi a gwerthuso dogfennau i lunio adroddiad mewn lleoliad gweithle.
Bydd angen cynllunio'r mathau o nodiadau neu destunau, neu'r defnydd y caniateir i fyfyrwyr ei wneud o adnoddau ar-lein a'u cyfleu'n glir. Bydd hyn hefyd yn anodd ei fonitro.
Mae'r un ystyriaethau cynwysoldeb yn berthnasol i raddau helaeth i arholiadau traddodiadol a rhai llyfrau agored (cyflymder ysgrifennu â llaw neu deipio, Saesneg fel iaith ychwanegol, gorbryder), ond gall y dull llyfr agored weddu i ystod o anghenion sydd ychydig yn ehangach.
Darparu testunau a welwyd ymlaen llaw
Rhoddir testunau i fyfyrwyr cyn arholiad neu ddyddiad cau tynn (e.e. wythnos ymlaen llaw) fel bod ganddynt amser i baratoi eu hymatebion.
Gall fod elfen o ddilysrwydd yn yr ystyr y gall gwaith mewn rhai meysydd, megis y gyfraith, addysgu, neu arweinyddiaeth, ddigwydd o dan bwysau amser, gydag allbynnau perfformiad megis cyflwyniadau, darlithoedd neu areithiau.
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ofyn am help neu i gydgynllwynio wrth baratoi.
Gall myfyrwyr sydd ag ymrwymiadau fel gwaith neu ddibynyddion fod o dan anfantais annheg.
Traethodau
Dadl ysgrifenedig estynedig, a ddefnyddir yn helaeth ar gyrsiau'r dyniaethau.
Mae traethodau yn fath o asesu annilys i raddau helaeth, gan nad yw'r dull hwn o ysgrifennu yn cael ei ddefnyddio mewn lleoliadau gwaith y tu allan i'r byd academaidd; fodd bynnag, mae datblygu sgiliau ysgrifennu traethodau yn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion: 'meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol'.
Yn draddodiadol, mae ysgrifennu traethodau yn agored i twyllo contract, ac erbyn hyn hefyd i gamddefnyddio AI cynhyrchiol; gall annog ffyrdd amgen o gefnogi myfyrwyr, megis ysgrifennu adrannau o draethawd i sawl dyddiad cau cyn cyflwyno’n grynodol, neu gefnogaeth gan gymheiriaid drwy 'gyfeillion beirniadol', helpu i leihau'r risgiau hyn.
Gall deall confensiynau academaidd y DU fod yn her i rai myfyrwyr, a bydd angen esbonio meini prawf neu gyfarwyddiadau marcio iddynt yn glir; efallai y bydd angen cyfeirio myfyrwyr â dyslecsia, neu nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, at gymorth ychwanegol, neu efallai y bydd addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar gyfer cyflyrau academaidd sy'n effeithio ar fynegiant ysgrifenedig.
Adroddiadau
Gall adroddiad fod yn seiliedig ar ymchwil eilaidd, ond gall hefyd gynnwys ymchwil wreiddiol a gwaith maes.
Dilysrwydd: gall ysgrifennu adroddiadau fod yn sgil bwysig mewn sefyllfaoedd yn y gweithle yn y dyfodol, a gall gefnogi myfyrwyr i ddatblygu'r rhinwedd graddedigion: 'cyfathrebwyr effeithiol'.
Gall ysgrifennu adroddiadau fod yn llai agored i gamymddwyn academaidd na thraethodau, yn enwedig pan fydd ymchwil wreiddiol neu brosiect wedi'i wneud, neu pan fydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ar adroddiad.
Os bydd ymchwil yn cynnwys gwaith grŵp, bydd angen cynllunio'n ofalus sut y caiff myfyrwyr eu dyrannu i grwpiau a rheoli'r grwpiau, gan ystyried anghenion unigol.
Rhowch ddisgwyliadau o strwythur ac iaith adroddiad, gydag enghreifftiau, os yw’n bosibl, gan efallai na fydd rhai myfyrwyr yn gwybod elfennau'r math hwn o ysgrifennu.
Ymarferol/Perfformiad
Mae'n hanfodol mewn rhai disgyblaethau asesu sgiliau ymarferol a pherfformiad myfyrwyr.
Mae dilysrwydd a magu hyder yn fanteision clir asesiadau sy'n seiliedig ar berfformiad.
Nid oes llawer o risg o gamymddwyn academaidd mewn asesiad ymarferol neu berfformiad.
Gall perfformiad ar y diwrnod gael ei effeithio gan nerfau a phryder, neu bwysau amgylchiadol, ac efallai na fydd aildrefnu yn syml. Mae galluogi cyfleoedd i ymarfer cyn unrhyw asesiad lle bydd llawer yn y fantol.
Blog/Blog fideo
Gellir ei ddefnyddio ar gyfer asesu lle nad oes llawer yn y fantol, ac ar gyfer trafodaeth gydweithredol anffurfiol.
Gall blog/blog fideo helpu myfyrwyr i ddatblygu ymdeimlad o hunaniaeth ac ymgysylltiad â'u disgyblaeth, a allai eu helpu i weithio tuag at ymdeimlad o hunaniaeth broffesiynol yn eu dewis faes; mae arfer da yn caniatáu nifer diderfyn o gyflwyniadau i fforwm, gydag adborth gan gymheiriad yn ogystal â thiwtor trwy sylwadau, a dewis y darn gorau ar gyfer asesu crynodol.
Os yw blogiau/blogiau fideo yn cael eu postio ar fforwm agored, mae potensial ar gyfer llên-ladrad gan gyfoedion.
Gan fod blogiau yn ddarnau byrrach o ysgrifennu na thraethodau, a gall arddull iaith fod yn anffurfiol, gall blogiau a blogiau fideo fod yn ddefnyddiol, asesiadau heb lawer yn y fantol sy'n cael myfyrwyr i arfer â'r broses ysgrifennu neu fyfyrio, a gallant helpu i greu cymunedau dysgu. Yn yr un modd ag adroddiadau, eglurwch strwythur ac arddull ysgrifennu i'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r math hwn o ysgrifennu.
Cwestiynau amlddewis
Defnyddir y rhain yn aml ar gyfer profi deunydd ffeithiol yn gyflym.
Yn gyffredinol, mae cwestiynau amlddewis yn ffordd effeithiol o adolygu dealltwriaeth myfyrwyr a’u gallu i gadw gwybodaeth ac anaml y maent yn cefnogi sgiliau ymarferol neu drosglwyddadwy.
Gall profion amlddewis fod yn agored iawn i gamymddwyn academaidd. Er y gallai cyfyngiad amser helpu i gyfyngu'r risgiau, dylid ystyried yn ofalus a yw cyflymder yn rhan o'r canlyniadau dysgu ai peidio.
Gall cael myfyrwyr i gymryd rhan mewn cyd-greu cwestiynau amlddewis fod yn ffordd wych o nodi bylchau mewn gwybodaeth a dealltwriaeth, gan gyd-fynd â'r egwyddor o asesu fel dysgu.
Bydd angen rhoi ystyriaeth ofalus i amserlenni byr i'w cwblhau gan y bydd myfyrwyr â dyslecsia neu Saesneg fel iaith ychwanegol dan anfantais oherwydd gofyniad cyflymder cwblhau.
Arholiadau â chwestiynau ateb byr
Mae'r myfyrwyr yn rhoi atebion byr i nifer fawr o gwestiynau.
Efallai y bydd y ffocws yn fwy ar wneud penderfyniadau nag ar sgiliau cyfathrebu ac ysgrifennu; mae’r sgìl hwn yn bwysig mewn llawer o gyd-destunau gweithle, megis gofal iechyd, gwaith cymdeithasol, y gyfraith neu fusnes.
Gellir osgoi camymddwyn academaidd a chamddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) cynhyrchiol.
Mae'r un ystyriaethau cynwysoldeb yn berthnasol i bob math o arholiad i raddau helaeth (cyflymder ysgrifennu â llaw, ail iaith, gorbryder), ond mae arholiadau atebion byr yn rhoi mwy o ffocws ar y cof a chofio nag ar sgiliau cyfathrebu.
Profion ar gyfrifiadur
Gellir defnyddio’r rhain ar gyfer ystod eang o fathau o gwestiynau, gan gynnwys dewis cwymplen, llusgo a gollwng, clicio ar bwyntiau ar ddiagram ac ati.
Yn debyg i gwestiynau amlddewis, mae profion ar gyfrifiadur yn gyffredinol yn ffordd effeithiol o adolygu dealltwriaeth myfyrwyr a’u gallu i gadw gwybodaeth. Yn dibynnu ar y pwnc, mae myfyrwyr yn datblygu ac yn arddangos nifer o sgiliau/priodoleddau trosglwyddadwy megis llythrennedd digidol, datrys problemau, rheoli amser a sgiliau ymchwil, i gyd yn berthnasol i gyflogaeth yn y dyfodol.
Gall profion ar gyfrifadur fod yn agored iawn i gamymddwyn academaidd, ond gall cyfyngiad amser a chwestiynau beirniadol / myfyriol a luniwyd yn ofalus helpu i gyfyngu'r risgiau.
Gall llythrennedd digidol amrywio.
Gall y rhai sydd â nam ar eu golwg neu ddyslecsia, neu sydd â phroblemau symudedd mewn perthynas â defnyddio llygoden gael trafferth mewn sefyllfaoedd cyflymder.
Sicrhewch eich bod yn dylunio nodweddion hygyrch fel maint ffont, a chyferbyniad lliw, er mwyn galluogi darllenwyr sgrin ar gyfer unigolion â nam ar eu golwg, a llwybrau byr bysellfwrdd i'r rhai sydd â heriau symudedd gael mynediad i'r deunydd. Dilynwch egwyddorion UDL.
Portffolios
Gall portffolios ddangos tystiolaeth o sgiliau, neu gallant fod yn gasgliad o allbynnau a myfyrdodau.
Gall hyn roi cyfle i fyfyrwyr greu portffolio proffesiynol, neu gasgliad o waith y gellir ei gyflwyno i ddarpar gleientiaid a chyflogwyr; gall myfyrwyr ennill ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy.
Gall gwaith portffolio fod yn hynod unigol, sy’n ei wneud yn llai agored i gamymddwyn academaidd.
Gall cyflwyno gwaith ar draws amrywiaeth o ddulliau ganiatáu i fyfyrwyr fanteisio ar eu cryfderau, er y gall hyn fod yn llethol i rai myfyrwyr.
Arholiad llafar (viva voce)
Caiff ei ddefnyddio’n eang ar hyn o bryd ar gyfer asesiad â llawer yn y fantol ar lefelau doethuriaeth a meistr.
Gall llawer o yrfaoedd a phroffesiynau ddibynnu ar sgiliau wyneb yn wyneb wrth ateb cwestiynau a rhoi esboniadau perswadiol.
Mae achos o blaid mwy o ddefnydd o asesiadau llafar ar y cyd ag ysgrifennu ffurf hir yng ngoleuni cyd-destunau AI cynhyrchiol heddiw.
Gall deall a chyrchu cwestiynau fod yn broblemus. Ystyriwch faterion sy'n ymwneud â nam ar y clyw a/neu leferydd, a gorbryder neu gyflyrau iechyd meddwl. Darparwch gwestiynau ymlaen llaw, a/neu ganiatáu mynediad at ddeunyddiau neu nodiadau, os yw’n bosibl.
Cyflwyniadau
Unigol neu grŵp, ac i gynulleidfa sy’n cynnwys cyfoedion ac aseswyr, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau (arddull PowerPoint traddodiadol/poster/cyflwyniad busnes ac ati).
Mae myfyrwyr yn dangos sgiliau cyfathrebu, ochr yn ochr â gwybodaeth graidd am eu pwnc. Mae sgiliau cyflwyno yn ddefnyddiol mewn cyflogaeth yn y dyfodol. Gall fod yn unigol neu'n gydweithredol a darparu cyfleoedd ar gyfer asesu gan gymheiriaid a hunan-fyfyrio. Gall y sgiliau hyn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion; 'Myfyriol a chydnerth' a 'Cyfathrebwyr effeithiol'.
Gellir cynnal cyflwyniadau mewn lleoliad byw neu leoliad wedi'i recordio ymlaen llaw. Gall fod yn agored i ddefnydd genAI, ond os caiff ei fonitro a'i ddefnyddio'n briodol gellir lleihau'r risgiau hynny. Gall cynnwys y gallu i ymateb i gwestiynau digymell yn y meini prawf asesu leihau'r risgiau hyn ymhellach.
Fel arfer, mae'n dibynnu ar gyfleu syniadau ar lafar mewn amser real, gan roi'r rhai sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol neu nam ar y lleferydd dan anfantais. Gall achosi gorbryder. Eglurwch y sgiliau cyflwyno penodol sy’n cael eu hasesu (gweithredu a mynegiant). Darparwch ymarfer ffurfiannol wedi’i sgaffaldio: mewn parau/grwpiau bach/y dosbarth cyfan, gydag adborth gan gymheiriaid ac yna adborth gan y tiwtor gan ddefnyddio meini prawf asesu. Rhowch opsiynau ar gyfer ei wneud yn fyw neu wedi’i recordio a’i wneud wyneb-yn-wyneb neu ar-lein (gweithredu a mynegiant).
Posteri
Yn aml yn cael eu harddangos ar gyfer cymheiriaid ac aseswyr mewn arddangosfa; ddefnyddiol i'w cadw fel enghreifftiau ac ar gyfer cyfarwyddyd ar gyfer carfannau'r dyfodol.
Mae'n cynnig cyfle i arddangos sgiliau cyfathrebu, ochr yn ochr â gwybodaeth graidd am y pwnc. Mae myfyrwyr yn cyflwyno eu gwaith i eraill ac yn cael adborth cyflym gan ystod ehangach o bobl, sy'n datblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol. Mae cyflwyno posteri yn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion: 'Cyfathrebwyr effeithiol'.
Mae risgiau cyfyngedig yn gysylltiedig ag asesiadau poster.
Gall dibynnu ar ffurf weledol yn unig herio'r rhai â nam ar eu golwg.
Efallai y bydd staff hefyd yn dymuno dylunio fersiwn testun anweledol o'r aseiniad hwn gyda meini prawf marcio amgen, fel asesiad amgen.
Prosiectau
Defnyddir prosiectau'n aml i helpu myfyrwyr i ddatblygu ac ymarfer sgiliau sy'n berthnasol i waith ymchwil.
Mae cryn gyfle trwy waith prosiect i fyfyrwyr weithio tuag at y rhinweddau graddedigion: 'ymwybyddiaeth foesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol', ac, 'arloesol, mentrus ac yn fasnachol ymwybodol'.
Mae gwaith prosiect yn aml yn caniatáu creadigrwydd a gwreiddioldeb, a allai gadw’r defnydd o AI cynhyrchiol dan reolaeth.
Mae prosiectau'n aml yn cynnwys gwaith grŵp, felly bydd angen cynllunio'n ofalus sut mae myfyrwyr yn cael eu dyrannu i grwpiau a sut mae’r grwpiau’n cael eu rheoli, gan ystyried anghenion unigol.
Traethawd Hir/traethawd ymchwil
Gwaith ysgrifenedig estynedig, gan gynnwys trafodaeth fanwl a dadansoddiad, a ddefnyddir yn gyffredinol ar Lefel 6 ac uwch.
Mae ysgrifennu traethawd hir neu draethawd ymchwil yn dangos gwybodaeth fanwl am faes ymchwil penodol lle mae myfyrwyr yn dangos sgiliau dadansoddi, ymchwil, meddwl beirniadol ac ysgrifennu lefel uchel. Gall sgiliau o'r fath fod yn berthnasol i gyflogaeth yn y dyfodol.
Yn debyg i ysgrifennu traethodau, gall traethodau hir fod yn agored i gamymddwyn ac erbyn hyn, i gamddefnyddio AI cynhyrchiol, hefyd; mae annog ffyrdd amgen o gefnogi myfyrwyr, drwy adborth ac arweiniad effeithiol ar ysgrifennu traethodau ymchwil yn hanfodol yma.
Gall myfyrwyr sy'n gweithio tuag at brosiectau mawr deimlo'n ynysig neu'n unig. Mae deialogau adborth yn bwysig yma, lle mae arweiniad ac anogaeth wyneb yn wyneb yn hanfodol. Dylid rhoi ystyriaeth feddylgar i ffactorau fel hygyrchedd, arweiniad a hyblygrwydd.
Efelychiadau
Defnyddir y rhain mewn disgyblaethau proffesiynol fel gofal iechyd i brofi cymhwysedd mewn cyd-destunau diogel.
Mae'r rhain yn hynod o ddilys wrth ymwneud â phroffesiynau a chyd-destunau penodol.
Gall yr asesiadau hyn fod yn gymharol wrthsafol i gamymddwyn academaidd.
Gall achosi gorbryder. Gall nerfau ddod i’r brig ac effeithio ar berfformiad 'ar y diwrnod'. Sicrhewch fod cyfleoedd ar gyfer ymarfer ac adborth yn cael eu darparu cyn yr asesiad crynodol.
OSCEs (Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol) / ISCEs (Arholiadau Clinigol Strwythuredig Integredig)
Defnyddir y rhain mewn addysg feddygol, ond gellir eu defnyddio hefyd mewn busnes, a'r gyfraith.
Ystyrir y rhain yn ddilys ac yn ddibynadwy (e.e. Dehongli pelydrau-X, cyfweld â chleifion, dehongli nodiadau achos, gwneud diagnosis, penderfynu ar bresgripsiynau).
Gall yr asesiadau hyn fod yn gymharol wrthsafol i gamymddwyn academaidd.
Gall nerfau ddod i’r brig ac effeithio ar berfformiad 'ar y diwrnod'. Sicrhewch fod cyfleoedd ar gyfer ymarfer ac adborth yn cael eu darparu cyn yr asesiad crynodol.
Dyddiaduron myfyriol
Gall myfyrdodau ddilyn fframwaith, megis cylch myfyriol Gibbs.
Gall llunio dyddiadur myfyriol adlewyrchu Cynllunio Datblygiad Personol (PDP) yn y gweithle, lle defnyddir myfyrio ar berfformiad a dysgu i gynllunio hyfforddiant a datblygiad gyrfaol yn y dyfodol; mae’n cefnogi datblygu’r rhinwedd graddedigion: 'myfyriol a chydnerth'.
Awgrymwyd dyddiaduron myfyriol fel ffordd o osgoi camddefnyddio AI gan eu bod yn dibynnu ar brofiad personol; fodd bynnag, efallai na fydd myfyrdodau yn gallu gwrthsefyll y defnydd o AI. Cewch ragor o fanylion yma.
Ystyriwch ganiatáu cyflwyno dyddiaduron myfyriol ysgrifenedig a llafar (fideo) gan y dylai'r naill fformat neu'r llall fodloni deilliannau dysgu.
Cyfrifon o ddigwyddiadau argyfyngus
Adolygu ffeithiau a manylion digwyddiad argyfyngus.
Mae cyfrifon o ddigwyddiadau argyfyngus yn caniatáu i fyfyrwyr ddangos creadigrwydd a sgiliau datrys problemau; maent yn ddilys ac yn datblygu sgiliau a phriodoleddau sy'n ofynnol ar gyfer datrys problemau'r byd go iawn.
Ar hyn o bryd mae'r sgiliau creadigrwydd a datrys problemau sy'n ofynnol ar gyfer dadansoddi digwyddiadau argyfyngus yn llai agored i gamddefnyddio AI cynhyrchiol.
Yn creu gorbryder
Mae deialog adborth a chyfle i ymarfer cyn yr asesiad crynodol yn bwysig yma.
Seminarau wedi'u hasesu
Caiff cyfraniadau unigol myfyrwyr i seminar eu hasesu, gan gynnwys rhyngweithio â chymheiriaid, a thystiolaeth o baratoi, yn ogystal ag ansawdd y dadleuon.
Mae seminarau'n datblygu sgiliau cyfathrebu myfyrwyr a'r gallu i ateb cwestiynau trwy drafodaeth grŵp. Mae'n darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddangos gwybodaeth fanwl am elfen o'r cwricwlwm. Mae seminarau'n helpu i ddatblygu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinweddau graddedigion; "Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol".
Gall fod yn anodd marcio seminarau 'yn fyw', ac efallai y byddai’n well eu cyflwyno mewn fformat a recordiwyd ymlaen llaw. Gall myfyrwyr ddibynnu ar genAI mewn lleoliad anghysbell i greu sgriptiau wedi'u paratoi ymlaen llaw ar bwnc penodol cyn yr asesiad.
Gall myfyrwyr â gorbryder, anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, ADHD, nam ar eu clyw neu eu lleferydd neu sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol wynebu anawsterau gyda'r math hwn o asesiad llafar. Gall dosbarthu pynciau hygyrch i grŵp mawr o fyfyrwyr fod yn heriol.
Llyfryddiaeth anodedig
Crynodebau o ffynonellau gyda sylwadau ar berthnasedd a chyfraniadau i ymchwil.
Yn yr un modd â thraethodau, nid yw'r math hwn o asesiad yn adlewyrchu tasgau yn y gweithle y tu allan i'r byd academaidd.
Yn aml gall offer AI gynhyrchu crynodebau clir ac effeithiol o destunau.
Gall hyn fod yn fath anghyfarwydd iawn o asesu i'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, a bydd angen egluro disgwyliadau a’r broses yn glir.
Ymarferion e-fasged neu fewnfasged
Ymarferion efelychu busnes sy'n gofyn am wneud penderfyniadau, blaenoriaethu llwyth gwaith, dirprwyo tasgau ac argymhellion gweithredu yn seiliedig ar e-byst, memos cwmni, adroddiadau ac ati. Cewch fwy o wybodaeth am sut mae'r rhain yn gweithio yma (saesneg).
Mae ymarferion mewnfasged yn cael eu defnyddio’n aml gan gyflogwyr fel rhan o'r broses recriwtio, ac mae ymarfer yn aml yn cael ei ddarparu gan wasanaethau gyrfaoedd prifysgolion.
Mae'r math hwn o asesiad yn gymharol wrthsafol i gamymddwyn academaidd gan ei fod yn dibynnu'n helaeth ar fyfyrio a gwneud penderfyniadau.
Mae'r asesiadau hyn yn gofyn am weithio dan bwysau amser gyda llawer o wybodaeth i'w rheoli ac ymateb iddi, a gallant achosi lefelau uchel o bryder mewn rhai myfyrwyr.
Arteffactau
Cerfluniau, paentiadau, dylunio pensaernïol, modelau peirianneg.
Yn paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau y byddant yn eu hwynebu mewn sefyllfaoedd 'yn y byd go iawn' a datblygu sgiliau fel creadigrwydd, hyblygrwydd a blaengaredd, nad yw dulliau asesu traddodiadol yn ei wneud. Mae ymateb yn gyflym ac yn effeithiol mewn cyd-destunau dysgu seiliedig ar waith yn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion: ‘Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol’ ac ‘arloesol, mentrus ac yn fasnachol ymwybodol’.
Mae dysgu seiliedig ar waith yn asesu gwybodaeth ddamcaniaethol yn ogystal â chymhwyso sgiliau mewn senarios ymarferol, sy'n cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer camymddwyn academaidd.
Yn creu gorbryder;
Dylid cynllunio asesiadau gyda hyblygrwydd i ddiwallu anghenion amrywiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dangos ei sgiliau a'i wybodaeth yn effeithiol.
Dysgu seiliedig ar waith
Asesiad yn seiliedig ar berfformiad mewn lleoliadau gwaith.
Yn paratoi myfyrwyr ar gyfer heriau y byddant yn eu hwynebu mewn sefyllfaoedd 'yn y byd go iawn' a datblygu sgiliau fel creadigrwydd, hyblygrwydd a blaengaredd, nad yw dulliau asesu traddodiadol yn ei wneud. Mae ymateb yn gyflym ac yn effeithiol mewn cyd-destunau dysgu seiliedig ar waith yn helpu myfyrwyr i weithio tuag at y rhinwedd graddedigion: ‘Meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol’ ac ‘arloesol, mentrus ac yn fasnachol ymwybodol’.
Mae dysgu seiliedig ar waith yn asesu gwybodaeth ddamcaniaethol yn ogystal â chymhwyso sgiliau mewn senarios ymarferol, sy'n cyfyngu ar gyfleoedd ar gyfer camymddwyn academaidd.
Yn creu gorbryder;
Dylid cynllunio asesiadau gyda hyblygrwydd i ddiwallu anghenion amrywiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gallu dangos ei sgiliau a'i wybodaeth yn effeithiol.
I gael rhagor o wybodaeth am AI ac asesu, gallwch weld yr adran archwilio’n ddyfnach sy’n cynnwys adnodd defnyddiol iawn ar syniadau asesu ar gyfer byd sy’n galluogi AI.
Asesiad cynhwyso
Gweler ystyriaethau UDL am ragor o arweiniad ar ddylunio cynhwysol, yn ogystal â’r graffig isod, sy’n cynrychioli Fframwaith UDL a ddatblygwyd gan CAST, sy’n dangos 3 egwyddor a all eich cynorthwyo yn eich taith i greu asesiadau cynhwysol.

Wrth feddwl am y mathau o asesiadau yn y crynodeb, efallai y byddwch hefyd am ystyried Rhinweddau Asesu Cynhwysol yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA) (a ddangosir isod) i’ch helpu i adolygu, cynllunio ar gyfer a gwerthuso polisïau, mentrau ac ymyriadau asesu cynhwysol a arweinir gan welliant. Edrychwch yma i gael rhagor o wybodaeth (Saesneg).

Mae’r adnodd defnyddiol hwn gan MLANG ar Gynhwysiant Niwro mewn Asesu Iaith yn edrych ar sut y gallwn wneud asesiadau’n fwy cynhwysol trwy:
- greu tasgau dilys
- creu ymdeimlad o gynulleidfa/darllenwyr y tu hwnt i’r marciwr
- rhoi pwrpas i’r asesiad
- mapio asesiadau i sgiliau’r dyfodol/priodeleddau graddedigion
Asesiad Cynaliadwy
Meddwl yn ddigidol: offer i helpu asesu
Gall y ddewislen Asesu Addysg Ddigidol hefyd eich helpu i ystyried manteision, peryglon a materion gonestrwydd academaidd mathau o asesu. Mae’r Academi Dysgu ac Addysgu (LTA) hefyd wedi paratoillyfr e-asesu.
Archwilio’n Ddyfnach
Cloc Un Llaw – Cyfaddawdau
Rhaid i system asesu gydbwyso dilysrwydd, dibynadwyedd a hydrinedd. Cyfeiriodd Stobart (2008) at y cloc un llaw (gweler y llun isod).
Eglurodd Stobart (2021) hyn yn nhermau:
“dim ond mewn un lle y gall y llaw fod, sy'n dangos natur anochel cyfaddawdau. … Ar ôl 10 munud, mae gennym asesiad dilys a dibynadwy a all fod angen prosesau costus a drud – er enghraifft, hyfforddi peilot cwmni hedfan; ar ôl 50 munud, efallai y bydd gennym asesiad athro dilys a hylaw sydd â dibynadwyedd cyfyngedig. Yr hyn sydd i’w osgoi yw bod ar 30 munud – prawf hylaw, wedi’i farcio â pheiriant (dibynadwy) sy’n hawdd ac yn ddibynadwy i’w asesu ond nad oes ganddo fawr o berthynas â’r lluniad – er enghraifft, prawf amlddewis o greadigrwydd…
Mae'r cyfaddawdau hyn hefyd yn berthnasol i systemau asesu. Lle mae amrywiaeth o feysydd yn cyfrannu at ddeilliannau myfyrwyr, yna bydd y cyfaddawdau hyn yn amrywio a gallant arwain at system gyffredinol fwy dibynadwy a chadarn y gellir ymddiried ynddi.”

Adnoddau Pellach
Syniadau asesu ar gyfer byd sy’n cael ei alluogi gan AI: mae’r adnodd JISC hwn yn ffynhonnell ragorol ar gyfer ysbrydoliaeth asesu AI.
Gweler y ddogfen Advance HE ddefnyddiol hon sy’n rhoi manteision ac anfanteision ar gyfer gwahanol fathau o asesiadau: https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/different-forms-assessment
Gweler y crynodeb defnyddiol hwn o wahanol fathau gan Brifysgol Caeredin, gan gynnwys graddio sgoriau ar gyfer ‘Cymhlethdod’, ‘Gofyniad Adnoddau’ a ‘Gwrthsefyll Camymddwyn’: https://www.ed.ac.uk/institute-academic-development/learning-teaching/staff/assessment/online-remote/types (Saesneg).
Enghreifftiau o arfer da
Mae'r Templed Crynodeb Asesiad hwn gan MLANG yn darparu enghraifft ddefnyddiol o'r mathau o wybodaeth am asesiadau y dylid eu rhoi i fyfyrwyr.
Enghreifftiau pellach gan MLANG o grynodebau asesiad ynghyd â datganiad o bwrpas pob asesiad a'r priodoleddau graddedig y maent wedi'u cynllunio i'w hasesu.
Cyfeiriadau
Bloxham, S., a Boyd, P. (2007) Developing Effective Assessment in Higher Education: A Practical Guide. Maidenhead: Gwasg y Brifysgol Agored
Stobart, G., 2008. Testing times: The uses and abuses of assessment. Routledge.
Stobart, G., 2021. Upper-secondary education student assessment in Scotland: A comparative perspective.
Allan, S., 2021. Assessment workload and equivalency – practice guide. Educational Development v1 August 2021 Ar gael yn:
Race, P (1998) The Lecturer's Toolkit 2il Argraffiad Llundain: Kogan Page Ltd
UOE (2021) Assessment types & their pros & cons Ar gael yn: https://www.ed.ac.uk/institute-academic-development/learning-teaching/staff/assessment/online-remote/types
Rhannwch eich Adborth
Ble Nesaf?
Dewiswch un o’r tudalennau hyn sy’n gysylltiedig â’r un hon:
Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu