Skip to main content

Marcio a Chymedroli

Dechrau arni

Mae’r adran hon yn cynnig ystod o adnoddau a chyngor i gynorthwyo a chefnogi staff academaidd ac Ysgolion i wella eu dulliau o farcio a chymedroli.

Mae’r adran hon yn cynnig ystod o adnoddau a chyngor i gynorthwyo a chefnogi staff academaidd ac Ysgolion i wella eu dulliau o farcio a chymedroli:

Polisi Marcio a Chymedroli’r Brifysgol

Canllawiau ar daatblygu a defnyddiomeini prawf asesu

Cymedroli a graddnosi cymdeithasol

Cyfarwyddebau

I gefnogi’r gweithgareddau hyn, gellir cael cyngor ac arweiniad pellach gan yr Academi Dysgu ac Addysgu (e-bostLTAcademy@Caerdydd.ac.uk.)

Mae’r adran Archwilio’n Ddyfnach ar waelod y dudalen yn cynnwys darllen pellach ac adnoddau defnyddiol, gan gynnwys meini prawf asesu cyffredinol esiampl a ddatblygwyd yn ddiweddar gan Ysgolion, a Ffurflen Microsoft ar gyfer defnydd gyda gweithgareddau moddiant cymdeithasol.

Archwilio’n Ddyfnach


Polisi Marcio a Chymedroli’r Brifysgol

Fel y’i cymeradwywyd gan y Senedd, Tachwedd 2023

 

 

 

 

 

 

 

 


Canllawiau ar ddatblygu a defnyddio meini prawf asesu

Mae nifer o wahanol ffyrdd y gall Ysgolion/Rhaglenni ddatblygu meini prawf i gefnogi marcio cyson mewn asesiadau ‘goddrychol’.  Mae’r adran hon wedi’i llunio i gefnogi Ysgolion i fodloni’r gofynion sylfaenol a nodir ym Mholisi Marcio a Chymedroli’r Brifysgol, ac i’w harwain pan fydd angen iddynt fynd y tu hwnt i’r rhain. Mae’n cynnwys cyngor ac arweiniad ar ystod o weithgareddau y gall Ysgolion ddewis eu mabwysiadu, sydd wedi’u nodi fel enghreifftiau o arfer effeithiol.

Yn ogystal â’r canllawiau hyn, mae ystod eang o gymorth a chefnogaeth bwrpasol i weithredu’r Polisi Marcio a Chymedroli ar gael gan yr Academi Dysgu ac Addysgu.  Cynghorir staff felly i gysylltu a gweithio gyda chydweithwyr yn yr Academi i gefnogi gweithrediad y Polisi (e-bost LTAcademy@Caerdydd.ac.uk.)

Meini Prawf Cyffredinol Ysgol/Rhaglen

Bydd gan bob Ysgol set o feini prawf asesu generig, a byddant ar gael i fyfyrwyr er mwyn rhoi syniad cyffredinol o'r safonau academaidd y disgwylir i fyfyrwyr eu harddangos mewn gwaith a asesir.

Meini Prawf Cyffredinol

Bydd meini prawf cyffredinol fel arfer yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • gwybodaeth a dealltwriaeth
  • sgiliau gwybyddol
  • sgiliau ymarferol
  • sgiliau trosglwyddadwy
  • chymwyseddau proffesiynol, (lle y bo'n berthnasol)

Gall Ysgolion ddewis y meini prawf sydd fwyaf priodol i'w rhaglenni, yn dibynnu, er enghraifft, a yw'r pwyslais yn fwy academaidd neu’n ymarferol. Gellir datblygu meini prawf gwahanol ar gyfer gwahanol raglenni yn ôl yr angen.

Ar gyfer dyfarniadau israddedig, dylai Ysgolion ddatblygu disgrifyddion ar gyfer y priodoleddau a ddewiswyd ar lefelau 4, 5, a 6, gan gwmpasu:

  • Dosbarth cyntaf uchel (1af): 80%+
  • Anrhydedd dosbarth cyntaf (1af): 70-79%
  • Anrhydedd ail ddosbarth uwch (2:1): 60-69%
  • Anrhydedd ail ddosbarth is (2:2): 50-59%
  • Anrhydedd trydydd dosbarth (3ydd) 40-49%
  • Methu o drwch blewyn: 30-39%
  • Methu: 0-29%
Ar gyfer dyfarniadau israddedig, dylai Ysgolion ddatblygu disgrifyddion ar gyfer y priodoleddau a ddewiswyd, gan gwmpasu:

  • Rhagoriaeth uchel - 80%+
  • Rhagoriaeth: 70-79%
  • Teilyngdod: 60-69%
  • Llwyddo: 50-59%
  • Methu o drwch blewyn: 40-49%
  • Methu: 0-39%
Dylai disgrifyddion ar bob lefel fod gyfochrog a disgrifyddion y dyfarniadau yn  Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau'r DU.

Meini Prawf sy’n Benodol i Dasg 

Mae’n arfer da i staff ddatblygu a sicrhau bod meini prawf asesu tasg benodol ar gael i fyfyrwyr, a mabwysiadu dull cyd-greu at hyn gyda myfyrwyr, i roi syniad o’r safonau academaidd y disgwylir i fyfyrwyr eu harddangos yn yr asesiad hwnnw.  Dylai meini prawf penodol i dasg fod yn gyson â chanlyniadau dysgu'r modiwl sy'n cael eu hasesu yn y dasg honno.
Ar gyfer dyfarniadau israddedig, dylai staff ddatblygu disgrifyddion sy'n briodol i lefel y modiwl hwnnw sy'n cyd-fynd â'r canlyniadau dysgu sy'n cael eu hasesu yn y dasg honno, sy'n cwmpasu: 

  • Methu (0-29) 
  • Methu o drwch blewyn - 30-39% 
  • Anrhydedd trydydd dosbarth (3ydd) - 40-49% 
  • Anrhydedd ail ddosbarth is (2.2) - 50-59% 
  • Anrhydedd ail ddosbarth uwch (2.1) - 60-69% 
  • Anrhydedd dosbarth cyntaf (1af) - 70-79% 
  • Gwaith dosbarth cyntaf uchel (1af) – 80%+
Ar gyfer dyfarniadau ôl-raddedig a addysgir, dylai staff ddatblygu disgrifyddion sy’n cyd-fynd â’r canlyniadau dysgu sy’n cael eu hasesu yn y dasg honno, sy’n cwmpasu: 

  • Methu (0-39) 
  • Methu o drwch blewyn - 40-49% 
  • Llwyddo - 50-59% 
  • Teilyngdod - 60-69%  
  • Rhagoriaeth - 70-79% 
  • Rhagoriaeth uchel - 80%+ 

Mae rhagor o wybodaeth a nifer o astudiaethau achos sy’n trafod cyd-greu wrth asesuar gael yma.

Gwerthfawrogir meini prawf asesu da a chlir gan fyfyrwyr ac maent yn gymorth i sicrhau bod asesiadau'n cael eu hystyried yn deg, yn dryloyw ac yn gyson.

Dylai meini prawf asesu wedi'u cynllunio'n dda fod yn:


Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Pa mor dda y mae’r meini prawf yn cyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen/modiwl? 

 Mae hyn yn golygu:  

Dylai meini prawf cyffredinol yr Ysgol / Rhaglen gyd-fynd â deilliannau dysgu’r rhaglen, tra dylai meini prawf sy’n benodol i dasg gyd-fynd â deilliannau dysgu’r modiwl sy’n cael eu hasesu yn y dasg honno. Mae bod yn gyson wrth gyfateb y deilliannau dysgu i'r meini prawf asesu yn helpu i annog eglurder.  

Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Ydy’r meini prawf yn weladwy ac yn fesuradwy?​ 
  • Os bydd y meini prawf yn cael eu ddefnyddio ar gyfer tasgau tebyg ar draws y rhaglen, a oes cysondeb yn y defnydd o iaith, gan hybu gallu myfyrwyr i hunanasesu ar eu cynnydd? 
  • A fydd y meini prawf ar gael i’w drafod ym mriffiau’r aseiniad? 

Mae hyn yn golygu:  

Dylai'r meini prawf fod yn glir ac yn ddealladwy i fyfyrwyr a rhanddeiliaid eraill. Dylech chi roi ystyriaeth i’r lefel o fanylder: bydd angen i fyfyrwyr ddeall yr hyn y mae disgwyl iddyn nhw wneud, tra eu bod ar yr un pryd yn gallu rheoli’r baich gwybyddol.  Dylech chi gyfyngu ar nifer y meini prawf sydd ynghlwm wrth dasg benodol, er mwyn sicrhau bod y rhain yn glir i fyfyrwyr a bod modd i farcwyr eu rheoli. 

Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Ydy’r nifer o feini prawf yn hawdd ei drin (mae rhwng 3 a 6 meini prawf yn cyrraedd cydbwysedd da i osgoi bod yn rhy gymhleth ac i sicrhau bod gwahaniaethau ystyrlon rhwng y meini prawf)?  
  • A oes gwahaniaeth amlwg rhwng y meini prawf neu ydyn nhw’n gorgyffwrdd? 
  • Ydy’r meini prawf yn berthnasol i natur y dasg/math ac amrywiaeth yr asesiadau ar draws y rhaglen? 

Mae hyn yn golygu:  

Bydd angen i’r meini prawf fod yn ddigon gwahanol i’w gilydd, i sicrhau, eu bod yn caniatáu dull mwy cyfannol o farcio. Mae angen i fyfyrwyr weld y meini prawf fel arwydd o gyflawniad yn hytrach na mesuriad manwl gywir. 

Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Ydy’r meini prawf yn osgoi disgrifyddion goddrychol? (e.e. 'Ardderchog', 'da iawn', 'gweddol')? 
  • Ydy’r meini prawf yn osgoi cyfeirio at ansawdd (e.e. yn rhesymegol, yn effeithiol)? 

Mae hyn yn golygu:  

Lle y bo modd, yn osgoi disgrifyddion cwbl oddrychol, gan fod y rhain yn agored i wahanol ddehongliadau a gallan nhw annog staff i ffitio marciau arfaethedig i feini prawf yn ôl-weithredol. 

Mae hyn yn golygu:  

Dylai’r meini prawf annog myfyrwyr i ddangos creadigrwydd, natur ddigymell a gwreiddioldeb. Yn arbennig o bwysig ar lefelau 6 a 7, gall meini prawf asesu sy'n osgoi'r rhain gyfyngu ar ddysgwyr neu eu hatal. 

Cwestiwn (cwestiynau) i ofyn:  

  • Ydy’r meini prawf yn briodol ar gyfer y lefel astudio?​ 

Mae hyn yn golygu:  

Dylai’r meini prawf gael eu creu trwy ddatblygu'r disgrifydd ar gyfer y marc pasio sylfaenol yn gyntaf. Defnyddiwch hwn i ddangos beth sydd ei angen ar lefel pasio, ond mewn ffordd gadarnhaol.  Ceisiwch osgoi termau fel 'annigonol', 'cyfyngedig', 'anghywir', sydd yn cael eu defnyddio’n fwy nodweddiadol i ddisgrifio gwaith nad yw wedi bodloni'r deilliannau dysgu. 

O safbwynt ymarferol, gall fod yn ddefnyddiol i staff gynllunio meini prawf i ddechrau drwy greu grid gyda chydweithiwr/cydweithwyr.  Gall cymryd rhan mewn trafodaeth helpu rhywun i fynegi syniadau anodd.  Ar ôl drafftio eich set o feini prawf, mae'n ddefnyddiol gofyn y cwestiwn hollbwysig i chi'ch hun: a yw'r meini prawf yn galluogi myfyrwyr i nodi pa mor dda maen nhw wedi gwneud rhywbeth?  Os byddwch yn ei chael hi'n anodd gwneud hyn, efallai y bydd angen rhywfaint o waith pellach ar y meini prawf. 

Sut y gallai hyn weithio:

  • myfyrwyr yn darllen asesiadau sampl ac yn eu defnyddio i benderfynu ar feini prawf marcio
  • pwyllgor o fyfyrwyr yn datblygu meini prawf marcio, a fyddai wedyn yn cael eu cymharu â fersiwn staff, ac fe gaiff fersiwn derfynol ei thrafod
  • meini prawf marcio’r myfyrwyr yn cael eu defnyddio ar gyfer asesu gan gymheiriaid a hunanasesu

Darllenwch yma am brosiect ym Mhrifysgol Cumbria lle’r oedd staff a myfyrwyr yn cyd-greu meini prawf asesu, gan ddod i’r casgliad bod y fersiwn staff yn rhy gymhleth, gan ddefnyddio disgwrs academaidd, a fersiwn y myfyrwyr yn rhy syml, a bod angen gwneud y meini prawf yn hygyrch i fyfyrwyr - gan ystyried y cwestiwn, 'Ar gyfer pwy mae'r [meini prawf] hyn wedi'u creu?'

Mae cael meini prawf clir da yn elfen bwysig o'r cymorth i farcio.  Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig ystyried sut y caiff y rhain eu defnyddio; mae hyn yn allweddol i farcio a chymedroli teg a chyson.  Cyflawnir hyn drwy:

Cyn marcio

  • Sicrhau bod pob marciwr yn rhannu dealltwriaeth o safonau academaidd, trwy gynnal ymarferion cymedroli cymdeithasol a/neu drwy brofi'r meini prawf yn erbyn sampl gychwynnol;
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod lle gellir cyrchu’r meini prawf, a’u hatgoffa o rôl barn academaidd wrth farcio.

Yn ystod y marcio cychwynnol

  • Adolygu'r marciau yr ydych yn bwriadu eu dyfarnu i'r ychydig bapurau cyntaf a farciwyd er mwyn sicrhau bod eich barn yn gyson â'r meini prawf;
  • Pan fyddwch hanner ffordd drwy'r marcio, drwy ddychwelyd at sampl fach ac adolygu'r rhain, sicrhau bod y marcio'n parhau i fod yn gyson â'r meini prawf ac nad yw barnau wedi newid yn ystod y broses farcio;
  • (Wrth farcio fel tîm) adolygu'r canlyniadau a gafwyd ar unrhyw bapurau 'rheoli', naill ai i alluogi cymharu gwahanol farcwyr a/neu i 'ail-raddnodi' dealltwriaeth;
  • Datblygu sylwadau adborth sy'n ymwneud â meini prawf penodol, er mwyn helpu myfyrwyr i ddefnyddio adborth yn well i lwyddo mewn meysydd penodol. (Cofiwch fodd bynnag, na chaiff adborth ei ddarparu ac na ddylid ei ddarparu fel sylwadau sy’n ceisio esbonio a/neu gyfiawnhau’r marc yn unig.)

Ar ôl marcio cychwynnol

  • Cwblhau'r adrannau perthnasol yn y profforma safoni ac yna ei darparu, ynghyd â mynediad i'r sgriptiau sy'n cael eu safoni, i'r safonwr(wyr);
  • Cael y safonwr/cymedrolwyr wedyn i lenwi’r ffurflen ac yna trefnu i gyfarfod a thrafod y canlyniadau o hyn gyda’r marciwr cyntaf, (mae llawer o astudiaethau ymchwil wedi dangos bod bodloni safonau a’u trafod yn agored ac yn onest yn allweddol i ddatblygu’r ddealltwriaeth gyffredin o safonau);
  • Sicrhau bod y ffurflen wedi'i chwblhau ar gael i arholwyr allanol;
  • Bod Byrddau Arholi yn adolygu, a lle bo’n berthnasol, yn diweddaru eu meini prawf yn flynyddol i sicrhau eu bod yn cyfleu disgwyliadau yn gywir, ac yn parhau i fod yn gyson â disgwyliadau’r sector;

[N.B.  Mae llawer o'r ymchwil i gymedroli wedi amlygu'r angen i gynnal cyfarfodydd a thrafodaethau rhwng marcwyr mewn ffordd agored, barchus a thryloyw.  Mae ymchwil wedi dangos ymhellach y gall 'marcio dall dwbl' arwain at amddiffyniad ar ran ail farcwyr; marcwyr yn osgoi marciau uchel iawn neu isel a allai awgrymu marcio nad yw'n cyd-fynd â'r meini prawf.  Fodd bynnag, mae marciau isel iawn neu uchel iawn hefyd yn cael eu hosgoi gan ail farcwyr sydd eisoes yn gwybod y marc cyntaf; bod eu dyfarniad wedi cael ei ddylanwadu gan y dyfarniad gwreiddiol.]

Awgrym Cynwysoldeb

Mae meithrin amgylchedd lle mae myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso'n ddigonol i gyfrannu yn hollbwysig wrth hyrwyddo dysgu cynhwysol.

Awgrym cynaliadwyedd

Gall cynnwys myfyrwyr mewn cyd-adeiladu wella strategaethau dysgu hunan-reoledig sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer datblygu gwybodaeth gynaliadwy a dysgu gydol oes.


Canllawiau ar Gymedroli a Graddnodi Cymdeithasol

“Mae asesu yn dibynnu i raddau helaeth ar farn broffesiynol. Mae hyder mewn barn o’r fath yn gofyn am sefydlu fforymau priodol ar gyfer datblygu a rhannu safonau o fewn a rhwng cymunedau disgyblaethol a phroffesiynol.”

Tenet 6: Price et al (2008)

Globe

Myfyrio

  • Ydych chi wedi profi proses galibro debyg i'r arddangosiad yn y fideo?
  • Beth yw manteision cymryd rhan mewn graddnodi?
  • Allwch chi feddwl am unrhyw rwystrau i gymryd rhan mewn ymarferion graddnodi?

Nod Polisi Marcio a Chymedroli’r Brifysgol yw sicrhau bod gan bob marciwr hyder wrth asesu gwaith myfyrwyr, a’u bod yn deg ac yn gyson yn eu barn.  Mae’n ceisio cyflawni hyn trwy roi mwy o bwyslais ar yr ymarferion a wneir cyn marcio, megis graddnodi a chymedroli cymdeithasol.

Mae’r nodyn hwn yn rhoi gwybodaeth am nifer o wahanol ffyrdd y gellir cynnal gweithgareddau graddnodi a chymedroli cymdeithasol, yn dibynnu ar niferoedd, dulliau asesu, a disgyblaeth.  Yn benodol, mae rhan gyntaf y canllawiau hyn yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut mae digwyddiadau calibradu blynyddol yn gweithredu; mae’r cyfarfodydd hyn yn cael eu hystyried yn rhagflaenydd hanfodol i’r gweithgareddau y mae’r Polisi Marcio a Chymedroli yn gofyn amdanynt ar fodiwlau unigol.  I gefnogi’r holl weithgareddau hyn, gellir cael cyngor ac arweiniad pellach gan yr Academi Dysgu ac Addysgu (e-bost LTAcademy@Caerdydd.ac.uk.)

Ymarferion ‘calibradu strwythuredig’ blynyddol

Er y gellir cynnal yr ymarferion hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd, yn nodweddiadol, mae’r gweithdai hyn yn cynnwys pob marciwr yn gyntaf a nifer fach o gyflwyniadau presennol, yna cydweithio i drafod, cyd-drafod, a (gobeithio) cytuno ar farc ar gyfer pob un o’r asesiadau.  Mae’r rhestr isod yn rhoi rhagor o fanylion am bob un o’r camau a gyflawnir mewn cyfarfod graddnodi strwythuredig.

Er bod cyfarfodydd graddnodi yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel arfer (ac yn elwa o'r rhyngweithio cymdeithasol y maent yn helpu i'w gynhyrchu), gellir ymgymryd â'r rhan fwyaf o'r camau paratoi a'r camau cychwynnol ar-lein.  Yn gyntaf, mae angen i chi nodi'r modiwl a'r sgriptiau yr hoffech eu defnyddio yn y gweithdy.  Er enghraifft, efallai y byddwch am ganolbwyntio ar brosiectau blwyddyn olaf neu draethodau hir, yn yr un modd, gallech ddewis modiwl lefel 4 o flwyddyn 1; yn dibynnu ar ble mae marcio cyson wedi'i nodi fel mater posibl.  Pa fodiwl bynnag a ddewisir, bydd angen i chi gytuno ar hyn ag arweinydd y modiwl a nodi'r sgriptiau penodol y byddwch yn gofyn i gydweithwyr eu hailfarcio.  Rhaid dileu hunaniaeth myfyrwyr o'r sgriptiau cyn i'r rhain gael eu dosbarthu, ynghyd â chanlyniadau dysgu'r modiwl, y briff asesu, meini prawf asesu perthnasol a dogfennau cyfeirio allweddol eraill i gydweithwyr sydd ar fin mynychu'r gweithdy.

SYNIADAU ac AWGRYMIADAU – Mae'r dewis o fodiwlau a sgriptiau yn bwysig; yn yr ystyr y bydd angen i chi sicrhau bod staff yn ddigon cyfarwydd â'r deunydd pwnc i allu marcio'r enghreifftiau a chael amser i gwblhau'r marcio hwn.  Felly, gall fod yn demtasiwn dewis darn byr o waith o fodiwl blwyddyn un.  Fodd bynnag, efallai y bydd llai o werth wrth ddewis gwaith blwyddyn gyntaf, o ystyried nad yw'n cyfrannu at ddosbarthiadau gradd a gallai fod yn llai amrywiol ei natur.  Efallai y byddwch hefyd am ddewis sgriptiau a farciwyd yn wreiddiol mor agos at y marc pasio a/neu ffiniau eraill.  Bydd gwneud hynny yn rhoi cyfle i chi nodi a rhannu'n well y nodweddion sy'n helpu i ddiffinio sgriptiau ar y pwyntiau hyn.  Cynhwyswch ddyddiad cau clir erbyn pryd y bydd yr holl staff yn nodi eu marciau ar gyfer yr asesiadau hyn.

Ar ôl nodi'r sgriptiau a ddefnyddir yn y gweithdy, mae angen dosbarthu copïau o'r rhain i'r holl fynychwyr sydd wedi'u hamserlennu, gyda chais iddynt farcio'r gwaith cyn y digwyddiad a nodi eu marc gyda sylwadau cryno trwy system ar-lein.  Mae enghraifft o ddefnyddio Microsoft Forms (sydd hefyd wedi'i dylunio fel y gellir crynhoi canlyniadau'r ymarfer hwn a'u harddangos ar sgrin) ynghlwm wrth y nodyn canllaw hwn.  Mae croeso i chi ddefnyddio'r patrwm hwn ar gyfer eich digwyddiad graddnodi.

SYNIADAU AC AWGRYMIADAU – Er mwyn sicrhau bod gan staff yr amser sydd ei angen arnynt i gwblhau'r marcio cyn y digwyddiad, gwnewch yn siŵr bod y sgriptiau'n cael eu dosbarthu ymhell cyn amser y gweithdy wyneb yn wyneb.  Dylech hefyd ofyn i staff beidio â thrafod eu marc na'u sylwadau gyda chydweithwyr cyn y digwyddiad, o ystyried y gwahanol ffyrdd y gallai hyn effeithio'n negyddol ar y gweithdy.

Ar ddechrau elfen wyneb yn wyneb y gweithdy, mae hwyluswyr fel arfer yn cyflwyno canlyniadau'r ymarfer marcio yn gyntaf.  O ystyried graddau’r amrywioldeb y mae’r ymarfer hwn yn ei ddangos fel arfer, efallai y byddwch am ddefnyddio hwn hefyd fel cyfle i gyflwyno’r canfyddiadau cryno o ymchwil, canfyddiadau sy’n dangos bod amrywiad yn nodweddiadol ac yn ganlyniad anochel i’r ffordd ‘ddeallus’ y mae cysyniadau unigol o safonau academaidd yn cael eu datblygu.

SYNIADAU AC AWGRYMIADAU – Mae gosod y naws gywir a dod o hyd i ffyrdd y gall ymarferion graddnodi fod yn gynhyrchiol ac yn effeithiol yn allweddol i'w llwyddiant.  Yn benodol, bydd angen i chi ddod o hyd i ffyrdd y gall pob cydweithiwr gyfrannu a mewnbwn cyfartal i hyn.  Efallai y byddwch yn gweld bod rhai cydweithwyr yn amharod i gydnabod neu dderbyn canfyddiadau’r ymchwil sy’n dangos amrywiad sylweddol mewn marcio, a/neu rai sy’n credu eu bod yn gwbl gyson yn eu marcio eu hunain a bod ganddynt ddealltwriaeth well o safonau academaidd nag eraill.  Yn ogystal â defnyddio’r ochrau sydd ynghlwm wrth gyflwyno’r sesiwn, efallai y byddwch hefyd am sefydlu a chytuno ar rai ‘egwyddorion ymgysylltu’, fel bod pawb yn y sesiwn, er enghraifft, yn cael eu hannog i ‘fod yn bresennol, yn gwrtais, yn chwilfrydig ac yn amyneddgar. '.  Mae croeso i chi ddefnyddio'r sleidiau atodedig i gyflwyno'r sesiwn.

Mae cam cyntaf cyfarfod graddnodi yn cynnwys cyfranogwyr yn gweithio mewn nifer o grwpiau bach i drafod ac adolygu eu barn gychwynnol, ac i geisio dod o hyd i ddealltwriaeth gyffredin.  Dylid gofyn i bob grŵp nodi'r gwahanol 'agweddau ar ansawdd' sydd wedi helpu i lywio eu barn, a chofnodi a rhannu'r wybodaeth hon.  Dylai'r wybodaeth hon helpu pob grŵp i ddod o hyd i staff a allai dderbyn yr angen i godi neu ostwng eu marc gwreiddiol, a thrwy hynny ddod i gonsensws fel grŵp bach.  Dylid annog staff i ddefnyddio canlyniadau dysgu'r modiwl a'r meini prawf asesu, i sicrhau bod y dyfarniadau gwreiddiol yn cyd-fynd yn gywir â'r rhain, ac nad oes unrhyw ffactorau ychwanegol wedi'u cyflwyno i lywio'r dyfarniadau hyn.  Ar ddiwedd yr ymarfer hwn, gofynnwch i un aelod o bob grŵp roi adborth cryno ar ganfyddiadau pob grŵp a nodi sut y gallai marc y grŵp fod wedi newid, gyda'r hwyluswyr yn nodi ac yn dal y canlyniadau allweddol hyn ar siart troi neu sgrin.

SYNIADAU AC AWGRYMIADAU – Mae'n bwysig bod yn ofalus i sefydlu grwpiau a fydd yn gweithio'n effeithiol, a lle gall pob aelod unigol o'r grŵp gyfrannu.  Er na ddylech ddisgwyl i bob grŵp gytuno ar farc sengl ar y pwynt hwn, mae'n debygol y bydd ystod y marciau a ddyrennir i sgriptiau unigol wedi culhau, rhywbeth y dylech ei gofnodi ar y sgrin a/neu ddefnyddio siart troi at y diben hwn.

Ar ôl cofnodi'r gwahanol ganlyniadau a marciau amodol a ddyrannwyd gan bob un o'r grwpiau bach, y cam nesaf yw agor trafodaeth rhwng, ac ar draws y gwahanol grwpiau.  Eto, pwrpas yr ymarfer hwn yw ceisio perswadio ac argyhoeddi pob grŵp i ystyried naill ai codi neu ostwng eu marc, gyda'r drafodaeth hon angen tynnu ar y meini prawf dysgu ac asesu ar gyfer yr aseiniad hwnnw.  Er enghraifft, a yw pob un o'r grwpiau eto'n rhannu'r un ddealltwriaeth o'r hyn sy'n gyfystyr â gwaith 'da', neu a oes un grŵp wedi rhoi mwy o bwyslais ar un maen prawf unigol y mae'r lleill yn teimlo sy'n llai pwysig?  fDefnyddiwch y canlyniadau o'r trafodaethau traws-bwrdd i nodi a yw grwpiau unigol yn hapus i symud eu marc ymhellach.  Er ei bod yn bosibl na fyddwch yn gallu sicrhau consensws ystafell gyfan ar farc o hyd, mae’n debygol y byddwch wedi helpu aelodau unigol o staff i ddatblygu ymhellach (ac alinio’n well) eu hymdeimlad personol o safonau academaidd, a all ynddo’i hun leihau amrywioldeb mewn marcio.

SYNIADAU ac AWGRYMIADAU – Mae gwrando’n astud a sicrhau bod cyfleoedd i bawb gyfrannu a chynnig adborth i’r drafodaeth hon yn hanfodol.  Gall cynnal agwedd gadarnhaol a pharchus at y drafodaeth grŵp hefyd wneud cydweithwyr yn fwy parod i addasu eu marc, a gall atal trafodaethau rhag cael eu dominyddu gan unrhyw un sy’n ddogmatig a/neu’n argyhoeddedig o gywirdeb eu marcio eu hunain.

Ar ddiwedd y drafodaeth a rennir, mae'n bwysig darparu rhywfaint o le ac amser i alluogi unigolion i fyfyrio ar yr ymarfer y maent newydd gymryd rhan ynddo, ac i godi unrhyw newidiadau y maent wedi'u nodi i'w harfer marcio unigol eu hunain.  Lle bo modd, gofynnwch i gyfranogwyr rannu'r gwersi a ddysgwyd.

SYNIADAU AC AWGRYMIADAU – Er y gall fod yn demtasiwn ar hyn o bryd i ddod â'r sesiwn i ben, mae llawer o werth i'w gael o staff yn rhannu eu myfyrdodau ar yr ymarfer hwn.  Mae'n syniad da defnyddio 'cwestiynau gweithredol' i annog cydweithwyr i rannu eu myfyrdodau ac atal sylwadau rhy feirniadol a/neu negyddol.

Ar ôl y gweithdy mae'n arfer da rhoi adborth am grynodeb o'r ymarfer hwn i'ch myfyrwyr.  Er nad oes angen i hwn gynnwys manylion y modiwlau, marciau, neu asesiadau unigol y buoch yn edrych arnynt, bydd adborth yn helpu i ddangos i fyfyrwyr y pwysigrwydd yr ydych yn ei roi i safonau academaidd, a gall ddarparu gwybodaeth ddefnyddiol i fyfyrwyr ar y ffyrdd y mae meini prawf penodol yn cael eu defnyddio.

SYNIADAU ac AWGRYMIADAU – Mae angen bod yn ofalus wrth adrodd yn ôl ar ganlyniadau gweithgareddau graddnodi gyda myfyrwyr; sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gwell dealltwriaeth o sut y bydd marcwyr yn defnyddio ac yn dehongli'r meini prawf asesu wrth farcio, ac, ar yr un pryd, yn deall yn well yr amrywioldeb naturiol sy'n cyd-fynd â 'barn academaidd'.

Rheoli’r Broses Gymedroli Cymdeithasol o fewn Modiwlau Unigol

Mae amrywiaeth o offer a thechnegau gwahanol y gellir eu defnyddio i gefnogi safoni rhag-farcio mewn modiwlau unigol.  Felly, nid yw’r isod yn rhestr gyflawn; yr hyn sy’n allweddol yw, pa bynnag ddull a fabwysiedir, bod pob marciwr yn datblygu barn gyffredin ar safonau disgwyliedig, dealltwriaeth gyffredin o’r ystyr a phwysiad a roddir i feini prawf gwahanol, a thrwy hynny ganiatáu i farcwyr raddio asesiadau unigol yn fwy cyson a chydag hyder.  Isod mae rhestr fer o rai o’r ffyrdd y gellir cynnal cymedroli cymdeithasol ar gyfer asesiadau unigol.

Gan ddefnyddio methodoleg debyg i'r un a ddefnyddir yn nodweddiadol mewn digwyddiadau graddnodi Ysgolion (er bod llai o angen cofnodi'r dyfarniadau y mae'r marcwyr yn eu cyrraedd, neu ddechrau gweithio mewn grwpiau bach ac ati), mae'n arfer da i farcwyr a/neu chymedrolwyr gyfarfod cyn i'r marcio ddechrau.  Yn y cyfarfodydd hyn, dylai pob parti farcio nifer o sgriptiau presennol yn gyntaf.  Yna mae angen iddynt gymharu marciau, a thrafod a chyd-drafod marc a rennir, gan ddefnyddio'r meini prawf asesu a'r canlyniadau dysgu ar gyfer y modiwl hwnnw.  Dylid defnyddio'r asesiadau sampl i agor trafodaeth am safonau academaidd a chaniatáu i dîm y modiwl ddatblygu barn gyffredin ar yr agweddau allweddol ar ansawdd a ddisgwylir, cyn dechrau'r modiwl.  Bydd hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd myfyrwyr yn cael cyngor cyson.

In modules with a number of markers, and often used as an extension of initial marking exercises, it can be helpful for a marking team to come together to mark assessments.  Such exercises work well when they allow discussion and comparison of judgements as they are made, to quickly build a shared understanding of academic standards across markers.  Some colleagues have even reported that such events make marking a more enjoyable and collegial exercise, although it can be difficult to find time to mark simultaneously.  It thus requires a commitment to participate from all markers to work well.

Cyn dechrau marcio, yn enwedig os yw'n fodiwl newydd a/neu os nad oes unrhyw enghreifftiau ar gael i'w marcio ymlaen llaw, gall fod yn ddefnyddiol i'r tîm marcio ddod at ei gilydd i drafod y briff asesu a'r meini prawf asesu.  Er y bydd hyn yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd pob marciwr yn datblygu gafael debyg ar y gofynion asesu ac yn rhoi cyngor cyson i fyfyrwyr mewn grwpiau gwahanol am yr asesiad, ni ddylid diystyru gwerth defnyddio enghreifftiau i gefnogi hyn.

Yn aml yn cael ei wneud gan gymedrolwr cyn cyflwyno asesiad, byddeffeithiolrwydd cymharol hyn yn dibynnu ar y math o graffu.  Gall fod yn gadarnhaol os yw'n ysgogi sgyrsiau am ansawdd disgwyliedig y gwaith, ond gallai profforma 'blwch ticio' syml annog craffu arwynebol.  Mae angen bod yn ofalus hefyd bod y safonwr yn cydnabod ei ragdybiaethau ei hun ynghylch ystyr y briff asesu, y meini prawf asesu, a/neu ansawdd disgwyliedig y gwaith.

Gall hyn sicrhau bod arweinwyr modiwl yn gweld sut mae'r asesiad yn eu modiwl yn cyfrannu at gyflawni canlyniadau dysgu rhaglen, yn enwedig lle mae trafodaeth yn cynnwys disgwyliadau am safonau academaidd ar bob lefel o'r cwrs, dilyniant, a'r cydbwysedd rhwng asesu dysgu ac asesu ar gyfer dysgu.

Er mai prin yw’r dystiolaeth sy’n awgrymu bod marcio dwbl ac ail farcio’n arwain at well ymdeimlad o safonau cyffredin, dyma rai senarios lle gallai rhywfaint o farcio dwbl cyfyngedig fod o gymorth:

Marciau ar y ffin: Gall marcio dwbl helpu i egluro achosion ar y ffin lle mae ansicrwydd. Gall hyn helpu i sicrhau nad yw myfyrwyr yn cael eu cosbi na’u gwobrwyo’n annheg.

Asesiadau risg uchel: Ar gyfer asesiadau risg uchel, fel traethodau hir, gall marcio dwbl ddarparu lefel uwch o hyder. Yma dylai’r marciwr sicrhau bod dealltwriaeth gyffredin o safonau a meini prawf cyn marcio.

Cohortau llai: Lle mae maint y sampl/cohort yn llai, gall marcio dwbl fod yn fwy ymarferol. Asesiadau goddrychol: mae rhai disgyblaethau, a rhai mathau o asesiadau, yn cynnwys elfen uchel o oddrychedd. Enghraifft o hyn fyddai cyngherddau cerddorol, lle mae barn oddrychol yn anochel. Mewn achosion o’r fath, mae gan farcio dwbl fanteision clir.

Asesiadau perfformiadol: am resymau heblaw oddrychedd, gall asesiadau sy’n cynnwys perfformiad byw elwa o farcio dwbl lle bo modd. Gall fod arbedion sylweddol mewn amser os yw arholiadau llafar a chyflwyniadau, er enghraifft, yn cael eu marcio dwbl yn fyw, yn hytrach na’u marcio/monitro o recordiadau.

Lle mae myfyrwyr wedi cyflwyno gwaith mewn fformatau gwahanol: Lle mae hyn wedi’i ganiatáu yn unol â’r polisi newydd ar addasiadau rhesymol, mae’n bosibl y gall marcio symud i ffwrdd o’r meini prawf y cytunwyd arnynt. Dylai trafodaethau cymedroli cymdeithasol cyn marcio fynd i’r afael â’r posibilrwydd hwn, ond efallai y bydd achos dros gynnwys gwahanol fformatau cyflwyno mewn sampl wedi’i marcio dwbl i sicrhau cysondeb a chymhwyso priodol y meini prawf asesu.

Cymedroli prosiectau estynedig sydd wedi cael eu marcio’n gyntaf gan oruchwylwyr
Hwyrach y bydd rhywfaint o wrthdaro rhwng y rhagfarn a allai godi ymhlith goruchwylwyr a’r angen am arbenigedd yn y pwnc wrth farcio a chymedroli prosiectau estynedig. Mae rhywfaint o dystiolaeth i ddangos y gall goruchwylwyr farcio ychydig yn uwch na’r academyddion annibynnol (McQuade et al., 2020), ac felly mae hyblygrwydd o fewn y Polisi Marcio a Chymedroli o ran y disgwyliad am farcio dienw. Wrth ddewis cymedrolwyr ar gyfer prosiectau estynedig, bydd ffactorau megis profiad o farcio prosiectau’n bwysig. Ystyriaeth bwysicaf, fodd bynnag, yw arbenigedd yn y pwnc. Mae’n bwysig cofio y gallai marcwyr a chymedrolwyr heb lefel briodol o wybodaeth am y pwnc roi marciau sy’n sylweddol is (McQuade et al., 2020).


Cyfarwyddebau

Globe

Dirnadaethau gwerslyfrau

Yn ôl Pandera a Romero (2014), mae gan gyfarwyddiadau 3 nodwedd:

  • meini prawf asesu
  • strategaeth ar sut i raddio darn o waith
  • safonau/diffiniadau ansawdd

Mae’n bwysig ystyried gwerth pedagogaidd unrhyw declyn rydyn ni’n ei ddefnyddio wrth asesu. Pa werth y bydd yn ei ychwanegu at brofiad a chanlyniadau’r myfyrwyr? Gall fod cryn amrywiaeth o ran defnyddioldeb y cyfarwyddiadau, yn dibynnu ar sut maen nhw’n cael eu cyflwyno a’u rhoi ar waith. Dylid defnyddio’r rhain yn fwy na rhestr wirio at ddibenion marcio yn unig, yn enwedig os ydyn nhw’n mynd i gael effaith gadarnhaol ar hyder a chanlyniadau’r myfyrwyr.

Un diben ynghlwm wrth gyflwyno meini prawf asesu generig ar lefel Ysgol/Rhaglen yn y Polisi Marcio a Chymedroli newydd yw gwella profiad y myfyriwr drwy gynnig cysondeb o ran dull. Mae modd defnyddio meini prawf asesu generig yn fframiau cyfeirio trosfwaol er mwyn llywio cyfarwyddiadau sy’n benodol i dasg. Dengys astudiaeth gan Taylor et al. (2024) fod myfyrwyr yn gwerthfawrogi cysondeb o ran y fformat a’r iaith a ddefnyddir ar draws modiwlau ar yr un lefel. Dylid tawelu meddwl myfyrwyr na chaiff cyfarwyddiadau eu cynllunio gyda hoffterau’r darlithydd unigol mewn golwg.


Ffyrdd o sicrhau bod y cyfarwyddiadau’n ddefnyddiol:

Yn y bôn, bydd cyfarwyddiadau’n edrych yn wahanol iawn yn dibynnu ar y ddisgyblaeth: gall cyfarwyddiadau ar gyfer adroddiad labordy fod yn ‘rhestr hir’ gyfarwyddol iawn, tra bydd lle mewn cyfarwyddiadau Ysgrifennu Creadigol ar gyfer creadigrwydd y myfyriwr a barn academaidd oddrychol.

Mae'n bwysig ystyried sut mae cyfarwyddiadau'n cael eu cyflwyno i fyfyrwyr. Yn hytrach na dim ond postio cyfarwyddiadau ar Dysgu Canolog, ystyriwch neilltuo amser i gyflwyno a thrafod cyfarwyddiadau’r asesu mewn sesiwn ddysgu. Gallai hyn gynnwys

  • esboniadau
  • cyfle am gwestiynau
  • trafodaeth ymysg cyfoedion er mwyn canfod ystyr
  • cyfleoedd i gymhwyso'r cyfarwyddiadau wrth farcio asesiad enghreifftiol
  • cyfeirio myfyrwyr at ffiniau graddau

Mae'n sicr yn werth neilltuo amser i gyflwyno cyfarwyddiadau i fyfyrwyr lle mae hyn yn debygol o hybu hyder y myfyrwyr a chael effaith gadarnhaol ar eu perfformiad (Bolton 2006).
Gallech chi argymell bod myfyrwyr yn ymgysylltu â chyfarwyddebau mewn nifer o ffyrdd i wella eu canlyniadau:

  • cynllunio cymorth yn ystod camau cynnar yr aseiniad
  • rhestr wirio grynodol wrth adolygu aseiniad a gwblhawyd
  • canllaw y cyfeirir ato drwy gydol y broses ysgrifennu
  • adnodd i osod targedau

(gan Taylor et al. 2024)

Un pryder cyffredin i fyfyrwyr yw’r diffyg eglurder a thryloywder yn yr iaith a ddefnyddir mewn cyfarwyddiadau, gyda myfyrwyr yn gofyn am fanylion penodol ynghylch y ffiniau graddau (Taylor et al. 2024). Ceisio osgoi amwysedd yn yr iaith sy’n arwain dilyniant ar draws ffiniau graddau. Efallai na fydd defnyddio llawer o ailadrodd yn ddefnyddiol i fyfyrwyr, hynny yw, drwy newid un neu ddau air yn unig yn y disgrifyddion. Yn lle hynny, ystyriwch:

  • gynnwys cydrannau rhifiadol e.e. nifer y pwyntiau a ddisgwylir ar wahanol ffiniau gradd
  • adnabod geiriau allweddol yn glir e.e. trwy ddefnyddio print trwm neu italig
  • eitemau penodol wedi'u nodi ar gyfer ffiniau graddau gwahanol

Gweler yr enghraifft hon i weld sut y gallai’r cyfeirebau edrych, gan ystyried y tri phwynt uchod.

Cynnwys geiriad sy'n parchu annibyniaeth, creadigrwydd a gwreiddioldeb gwaith y myfyrwyr, yn enwedig lle mae'r elfennau hyn yn berthnasol i'r asesiad. Gallech chi gynnwys ymadroddion megis 'dangos meddwl arloesol', 'cymhwyso cysyniadau mewn ffyrdd unigryw', neu 'ymgysylltu â syniadau cymhleth a heriol'.

Gweler y canllawiau ar Ddefnyddio Cyfeirebau yn Feedback Studio a sut i Greu Cyfeirebau yn Blackboard.

Os mai dim ond un peth rydych chi’n ei wneud…. ceisiwch gynnwys rhywfaint o ddadansoddiad o gyfarwyddiadau yn y sesiwn er mwyn:

  • darparu cyfarwyddyd uniongyrchol ar sut i ddefnyddio cyfarwyddiadau, yn enwedig yn adnodd i ennill graddau uwch
  • dangos sut y gellir cymhwyso ffiniau graddau gwahanol i wahanol ddeilliannau ysgrifenedig


Archwilio’n Ddyfnach

Baume, D., et.al., 2004. What is happening when we assess, and how can we use our understanding of this to improve assessment? Assessment and Evaluation in Higher Education, 29 (4), pp.451–477.

Bloxham S. (2009). Marking and moderation in the UK: false assumptions and wasted resources.
Assessment and Evaluation in Higher Education 34(2), tud. 209-220.

Bloxham, S., Boyd, P. and Orr, S., 2011. Mark my words: the role of assessment criteria in UK higher education grading practices. Studies in Higher Education, 36 (6), pp.655–670.

Bolton, F.C. 2006. Rubrics and Adult Learners: Andragogy and Assessment. Progress Assessment Update 18(3), tud. 5-6.

Grainger, P., Purnell, K. and Zipf, R., 2008. Judging quality through substantive conversations between markers. Assessment and Evaluation in Higher Education, 33 (2), pp.133–42.

Higher Education Academy, 2012. A Marked Improvement: Transforming assessment in higher education. Available at: https://www.advance-he.ac.uk/knowledge-hub/marked-improvement-transforming-assessment-higher-education-assessment-review-tool [Accessed October 2024].

Hunter, K. & Docherty, P., 2011. Reducing variation in the assessment of student writing, Assessment and Evaluation in Higher Education, 36 (1), pp. 109–24.

McQuade, R., Kometa, S., Brown, J., Bevitt, D. and Hall, J., 2020. Research project assessments and supervisor marking: maintaining academic rigour through robust reconciliation processes. Assessment & Evaluation in Higher Education, 45(8), pp.1181-1191.
DOI10.1080/02602938.2020.1726284

Moss, P.A. and Schutz, A. 2001. Educational standards, assessment and the search for consensus. American Educational Research Journal, 38 (1), pp.37–70.

Newstead, S.E. 2002. Examining the examiners; why are we so bad at assessing students? Psychology Learning and Teaching, 2, 70-75.

Norton, L. 2004, Using assessment criteria as learning criteria: a case study in psychology, Assessment and Evaluation in Higher Education, 29 (6) pp. 687-702.

O’Donovan, B., Price, M. and Rust, C., 2004. Know what I mean? Enhancing student understanding of assessment standards and criteria. Teaching in Higher Education, 9 (3), pp.145–158.

Pandero, E. a Romero, M. 2014. To Rubric or Not to Rubric? The Effects of Self-Assessment on Self-Regulation, Performance and Self-Efficacy. Assessment in Education: Principles, Policy and Practice 21(2), tud. 133-148. doi:10.1080/0969594X.2013.877872.

Price, M., 2005. Assessment Standards: The Role of Communities of Practice and the Scholarship of Assessment. Assessment and Evaluation in Higher Education, 30(3), pp.215–230.

Price, M., 2008. The Weston Manor Group. Assessment Standards: a manifesto for change.

Sadler, D. R., 2012. Assuring academic achievement standards: from moderation to calibration. Assessment in Education: Principles, Policy and Practice, 20(1), pp.5–19.

Saunders, M. a Davis, S. (1998). The use of assessment criteria to ensure consistency of marking: some implications for good practice, Quality Assurance in Education, 6(3), tud. 162-171.

Taylor, B., Kisby, S. a Reedy, A. 2024. Rubrics in higher education: an exploration of undergraduate students’ understanding and perspectives. Assessment and Evaluation in Higher Education 49(6), tud. 799-809. doi:10.1080/02602938.2023.2299330

Watty, K., et al., 2013. Social moderation, assessment and assuring standards for accounting graduates. Assessment and Evaluation in Higher Education, 39 (4), pp.461–478.

Cyd-ddatblygwyd y setiau isod o feini prawf enghreifftiol gyda mewnbwn gan grŵp o fyfyrwyr a raddiodd yn ddiweddar.  Dangosodd trafodaeth gyda'r myfyrwyr cyn y dasg hon eu bod, fel llawer, yn aml yn aneglur ynghylch yr hyn a ddisgwylid ganddynt mewn aseiniadau unigol, a bod ystyr llawer o'r meini prawf yn y dogfennau a roddwyd iddynt yn aneglur.  Nododd y myfyrwyr hefyd fod enghreifftiau o waith myfyrwyr blaenorol yn helpu i ddod â'r cymwyseddau goddrychol sy'n gysylltiedig â llawer o setiau o feini prawf yn fyw.  Roedd yn ymarfer a ddangosodd werth Ysgolion yn gweithio gyda'u myfyrwyr wrth ddatblygu meini prawf.

Mae’r enghreifftiau, a gafodd fudd o’r defnydd a wnaeth y myfyrwyr o systemau deallusrwydd artiffisial, yn fan cychwyn i Ysgolion.  Felly, awgrymir y gallai Ysgolion ddymuno defnyddio’r rhain a’u hail-weithio, fel eu bod yn canolbwyntio’n well ar y rhinweddau y disgwylid waith myfyrwyr o fewn eu disgyblaeth.  Argymhellir cynnal yr ymarfer hwn mewn partneriaeth â'ch myfyrwyr.  Dylai ysgolion sy'n ceisio cymorth i ddatblygu meini prawf asesu gysylltu â'r Academi Dysgu ac Addysgu drwy ltacademy@caerdydd.ac.uk.

Meini Prawf Asesu Enghreifftiol, lefelau 4, 5 a 6

Datblygu meini prawf asesu generig i baratoi at roi’r polisi Marcio a Chymedroli ar waith

Yn unol â’r polisi newydd ar farcio a safoni, mae’r Ysgol Pensaernïaeth wedi datblygu meini prawf asesu generig sydd wedi’u rhannu i dri phrif gategori, sef Gwybod, Gweithredu a Bod, sy’n cyd-fynd â’r hyn a ddywed (Barnett a Coate, 2005). Ceir 7 lefel ym mhob categori, ac ar gyfer pob lefel y mae testun esboniadol i helpu myfyrwyr i ddeall y berthynas rhwng y lefel cyflawniad a’r marciau a ddyrennir. Yn dibynnu ar y math o asesiad (e.e. adroddiad, portffolio, traethawd myfyriol, prosiect ac ati), disgwylir i’r pwysoli amrywio o gategori i gategori. Mae'r canllawiau hefyd yn amlinellu’r broses o ddatblygu’r meini prawf a’r cyfarwyddiadau tasg-benodol, a'u grwpio o dan y tri chategori hyn, yn seiliedig ar yr hyn a argymhellir gan (Roberts, 2023). Caiff y rhain eu geirio mewn modd syml, a hynny er mwyn egluro'r math o dystiolaeth y chwilia’r arholwyr amdani yn y gwaith a gyflwynir.

Nid pwrpas y canllawiau hyn yw darparu dull cyffredinol o asesu a chreu cyfarwyddebau, ond yn hytrach, eu nod yw bod yn sylfaen safonol neu bwynt cyfeirio ar gyfer alinio arferion cyfredol. Y gobaith yw y bydd y dull symlach hwn yn caniatáu lefel o gysondeb mewn arferion ledled yr holl raglenni, gan hwyluso rhannu modiwlau heb ddrysu myfyrwyr, a gwella profiad cyffredinol y staff o farcio a safoni. Mae'r canllawiau hefyd yn rhoi cyngor ar y gwiriadau a'r aliniad sydd eu hangen os bydd y meini prawf asesu presennol yn cael eu cynnal, a bydd hynny, yn ei dro, yn ei wneud yn ofynnol i staff gyfrannu at drafodaethau â charfannau er mwyn galluogi cyd-greu.

Eleni Ampatzi. Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig a Addysgir (DPGT) a Chyd-Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (DLT), Ysgol Pensaernïaeth.

ARCHI Meini Prawf Asesu Enghreifftiol lefel 7

Defnyddio AI Cynhyrchiol i greu meini prawf asesu generig

Dyma Dr James Redman, Arweinydd Asesu ac Adborth ar gyfer Cemeg, yn disgrifio’r broses o ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial cynhyrchiol er mwyn creu Meini Prawf Asesu Generig y gellir eu defnyddio ar lefel Ysgol gyfan:

“Yn y fersiynau gwreiddiol a greais i, roedd yna 5 categori, ond hirwyntog oedden nhw mewn gwirionedd, felly roedden nhw’n anodd eu trin ar ffurf tabl. Gwnes i uno rhai o'r categorïau, gan fod y rhain yn gorgyffwrdd yn sylweddol, a gwnaeth hynny leihau’r testun.

Ar gyfer lefel 6 a 7, gwnaeth GPT4 waith eithaf da o ran darparu man cychwyn. Bu’n rhaid i mi olygu'n sylweddol a thynhau lefelau 4 a 5 gan fod gormod o bwyslais ar ymchwil arloesol nad oedd yn briodol.

Yn y bôn, roedd fy awgrym yn cynnwys y testun cyfan sy’n disgrifio 1af a llwyddiant ar lefelau 6 a 7 o Ddatganiad Meincnodi Pwnc ASA ar gyfer Cemeg, y testun o’r golofn berthnasol o’r meini prawf generig, rhywfaint o gyd-destun am y persona y dylai’r model ei ddefnyddio (academydd sy’n gweithio ym maes addysg uwch yn y DU) a chyfarwyddiadau ar gyfer y dasg i’w gyflawni.”

CHEMY Meini Prawf Asesu Enghriefftiol lefel 5

CHEMY Meini Prawf Asesu Enghriefftiol lefel 5 gyda lleoliad