Gwella Dysgu
Dechrau arni
Mae gwella dysgu yn gylch parhaus sy’n dechrau wrth i chi ddod â myfyrwyr i’ch rhaglen a’ch modiwlau, a dod â’ch cynlluniau a’ch dyluniadau yn brofiadau byw. Y nod cyffredinol yw bod eich rhaglen yn darparu profiad dysgu difyr i fyfyrwyr; mae gwella dysgu yn helpu i sicrhau bod eich rhaglen yn tyfu ac yn darparu profiad rhagorol flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Cwestiynau allweddol i’w gofyn yn y cyfnod Gwella Dysgu:
- Sut ydych chi’n sicrhau eich bod chi’n dod o hyd i le i fyfyrio ar sut mae’r addysgu’n mynd?
- Sut ydych chi’n gweithio gyda myfyrwyr i wrando ac ymateb i’w profiadau o’r rhaglen? Ble gallwch chi weithredu ar y dysgu hwn o fewn eich addysgu?
- Pryd mae angen i chi wneud newidiadau mwy ffurfiol i’ch rhaglen?
Mae yna lawer o opsiynau posibl i wreiddio gwella dysgu yn eich modiwl neu raglen. Mae’r rhain yn cynnwys eich ymgysylltiad â phrosesau sefydliadol yn ogystal ag arferion myfyriol eraill y gallwch eu hymgorffori yn eich addysgu o ddydd i ddydd. Bydd pob un o’r meysydd canlynol yn cael eu harchwilio a’u hegluro’n fanylach yn adrannau’r dudalen hon.
- Mabwysiadu ymagwedd fyfyriol at ddysgu ac addysgu
- Partneriaeth myfyrwyr mewn gwella dysgu
- Ymchwil Weithredol
Dulliau ar lefel Rhaglen (ac Ysgol)
- Ymateb i adborth o arolygon (e.e. NSS/PTES)
- Gwneud newidiadau i fodiwl neu raglen
- Ailddilysu’r rhaglen
Arferion Myfyriol
Mabwysiadu ymagwedd fyfyriol at ddysgu ac addysgu
Mae myfyrio yn arf pwysig ar gyfer datblygu gwelliant dysgu ar draws eich modiwlau a’ch rhaglen. Mae’n ein galluogi i ddeall sut a ph’un a yw ein haddysgu wedi cefnogi dysgu myfyrwyr, i adolygu tystiolaeth o ansawdd yr addysgu, ac i werthuso sut y gallwn newid ein hymarfer o ganlyniad. (Mae’r ddelwedd trydydd parti ganlynol yn Saesneg yn unig.)

Mae yna lawer o eiliadau lle gellid ysgogi myfyrio yn y cylch academaidd:
- Cyn dechrau’r modiwl neu’r rhaglen;
- Cyn, yn ystod neu ar ôl sesiwn addysgu;
- Trwy ryngweithio ffurfiol ac anffurfiol gyda myfyrwyr neu gydweithwyr;
- Yn dilyn asesiad ffurfiannol neu grynodol o waith myfyrwyr;
- Trwy’r broses adolygiad datblygu perfformiad;
- Trwy’r cynllun Gwella Partneriaethau mewn Addysg trwy Rannu Myfyriol (PEERS), neu yn ystod hyfforddiant a datblygiad neu’r Cymrodoriaethau Addysg;
- Yn ystod pwyntiau yn y prosesau sicrhau ansawdd (er enghraifft: mewn byrddau arholi, byrddau astudio, ar ôl gwella modiwlau, arolygon myfyrwyr, mewn AGRh ac ailddilysu)
Er bod llawer o fframweithiau’n bodoli ar gyfer sut y gallech fynd ati i fyfyrio ar eich dysgu a’ch addysgu, byddem yn eich gwahodd i ystyried sut y gallwch ddefnyddio’r pecyn cymorth hwn fel canllaw, yn enwedig drwy themâu Cynwysoldeb, Cyflogadwyedd a Chynaliadwyedd, sy’n hanfodol i’n dull o ddysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd. Meddyliwch er enghraifft am y cwestiynau hyn: sut ydych chi’n defnyddio’r themâu hyn yn eich addysgu? Sut mae’r themâu hyn wedi’u gwreiddio yn y modiwlau a’r rhaglenni rydych chi’n ymwneud â nhw?
Bydd adrannau dilynol y dudalen hon yn rhoi rhai enghreifftiau o sut mae prosesau ac arferion Gwella Dysgu yn y Brifysgol yn cefnogi myfyrio gyda golwg ar wella profiad modiwlau a rhaglenni.
Partneriaeth myfyrwyr mewn Gwella Dysgu
Yn unol â’r ymagwedd tuag at Bartneriaeth Myfyrwyr a Chyd-greu, dylai myfyrwyr fod yn ganolog i’ch dull o wella dysgu. Mae hyn yn golygu y dylech ymgysylltu â Chynrychiolwyr Myfyrwyr ar eich rhaglen ar gam cynnar i sicrhau eich bod yn gallu clywed yn gynnar yr hyn y mae myfyrwyr yn ei werthfawrogi a lle maent yn wynebu heriau gyda’ch rhaglen. Mae’r cylch academaidd yn ffurfio asgwrn cefn taith myfyriwr trwy eu profiad o’r brifysgol. Mae hyn yn golygu ei bod hi’n bosibl paratoi ymlaen llaw ar gyfer adegau o’r flwyddyn lle gallwch chi ymgysylltu â myfyrwyr i drafod pynciau penodol a fydd yn helpu i wreiddio gwella dysgu trwy gydol y flwyddyn. Darllenwch yr adnodd mewnrwyd hwn gan y Tîm Ymgysylltu â Myfyrwyr, sy’n nodi sut y gallwch chi feddwl am daith y myfyriwr drwy eich rhaglen, ac adeiladu llinell amser ymgysylltu.
Gallwch siarad â’r Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn eich ysgol i sefydlu’r ffordd orau o gydweithio â’ch cynrychiolwyr.
Ymchwil Weithredol
Mae Ymchwil Weithredol yn ymchwil ysgolheigaidd sy’n:
- Ymarferol gan ei fod yn arwain at newid arferion
- Damcaniaethol gan ei fod yn cael ei lywio gan theori a gall arwain at fewnwelediadau newydd
- Yn ymwneud â newid a gwella.
Mae ymchwil weithredol yn fethodoleg; neu’n fframwaith ar gyfer troi at brosiect ymchwil. Mae ymchwilwyr gweithredol yn credu, neu’n mabwysiadu safbwynt sy’n eu galluogi nhw ac eraill i weld y byd trwy sawl persbectif gwahanol. Maent yn ceisio deall a gwella ymarfer mewn amgylchedd lle mae llawer o safbwyntiau posib. Nid yw’n bosib cyffredinoli, ond gellir ei rannu ag eraill a allai fod eisiau cymryd rhan mewn newidiadau tebyg i arfer (Boucher a Piderit 2017).
Mae llais myfyrwyr yn ffurf ganolog o ddata mewn ymchwil weithredol, gyda chyfweliadau lled-strwythuredig, arsylwadau, grwpiau ffocws, cyfweliadau anffurfiol, a holiaduron. Gallwch hefyd fanteisio ar fyfyrio ar eich ymarfer eich hun, data cyrhaeddiad a phresenoldeb, arsylwadau ac arteffactau (megis gwaith asesu myfyrwyr neu drafodaethau fforwm).
Mae nifer o gamau penodol ar gyfer ymchwil weithredol, fel y dangosir isod. (Mae’r ddelwedd trydydd parti ganlynol yn Saesneg yn unig.)

Ymagweddau ar lefel modiwlau at Wella Dysgu
Y cylch adborth
Mae cylchoedd adborth yn helpu i nodi meysydd i’w gwella. Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu gwrando ar fyfyrwyr, myfyrio ar unrhyw faterion y gallent eu codi, ymateb gyda gweithredoedd, a chyfleu’r canlyniad i’ch myfyrwyr.
Mae’r Rhwydwaith Llais a Phrofiad Myfyrwyr wedi datblygu cyfres o adnoddau i arweinwyr modiwlau a thiwtoriaid personol eu defnyddio a’u haddasu, a all helpu gydag ‘agor y cylch’ – h.y. gosod disgwyliadau ar gyfer camau cynnar modiwl, a gwneud myfyrwyr yn ymwybodol eich bod yn agored i adborth – a ‘chau’r cylch’, h.y. cyfathrebu newidiadau a wnaed yn ôl i fyfyrwyr.
Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys:
- Sleidiau, cardiau post a sesiynau torri’r iâ ar gyfer sesiwn gyntaf gyda myfyrwyr ar thema cysylltu a meithrin cydberthnasau: 1. Cysylltu â Myfyrwyr a Meithrin Cydberthnasau
- Pecyn cymorth i staff o amgylch adnoddau (cyflwyniad, negeseuon e-bost a baneri) i helpu i gyfleu newidiadau a wnaed (cau’r cylch). 2. Rhannu Diweddariadau a Llwyddiannau
- Set lawn o negeseuon e-bost y gellid eu defnyddio trwy gydol gweithrediad modiwl i wrando a chyfleu newid: Pecynnau Cymorth Negeseuon E-bost
Mae myfyrwyr yn gwerthfawrogi clywed am newidiadau sydd wedi’u gwneud yn seiliedig ar eu hadborth, a deall y rhesymau pam na ellir gwneud newidiadau – mae hyn yn eu helpu i ddeall bod y Brifysgol yn gwrando ac yn cymryd adborth o ddifrif.
Y tu allan i lwybrau ffurfiol, gallwch gasglu adborth gan fyfyrwyr a chymryd rhan mewn sgyrsiau gan ddefnyddio nifer o offer y Brifysgol, er enghraifft: Gallech ddefnyddio Mentimeter yn ystod darlith neu amgylchedd grŵp mawr i gasglu adborth neu i wirio dealltwriaeth ffurfiannol o bwnc, a all eich galluogi i lunio eich cyflwyniad yn unol â dealltwriaeth myfyrwyr (mae enghreifftiau ymarferol a chanllawiau ar gael yma: Cymorth Mentimeter – Mewnrwyd – Prifysgol Caerdydd). Yn yr un modd, mae’r Fframwaith Dysgu Cyfunol yn nodi sut y gallwch chi ymgorffori dulliau ymgysylltu ac adborth myfyrwyr yng ngweithrediad modiwl a gyflwynir wyneb-yn-wyneb ac ar-lein: Cefnogi taith y myfyriwr trwy’ch modiwl – Mewnrwyd – Prifysgol Caerdydd.
Gwella Modiwlau
Mae Gwella Modiwlau (a elwir yn flaenorol yn werthusiad modiwl) yn galluogi staff i gasglu adborth gan fyfyrwyr trwy’r system ‘Blue’, sydd wedi’i hymgorffori yn Dysgu Canolog – a bydd yn ymddangos i fyfyrwyr fel naidlen pan fydd yr holiadur yn mynd yn fyw. Mae’r Brifysgol yn disgwyl i wella modiwlau gael ei gynnal ar gyfer pob modiwl. Dylai arweinwyr modiwlau hyrwyddo gwella modiwlau i’w myfyrwyr. Pan ddaw’r gwerthusiad i ben, gall fyfyrwyr fanteisio ar adroddiad pennawd ar gyfer y modiwl a grëwyd gyda’r data meintiol, a bydd arweinwyr modiwl yn cael neges e-bost â dolenni i’r adroddiad llawn ar gyfer eu modiwl.
Mae’r cwestiynau a ofynnir yr un fath ar draws y Brifysgol: Set o gwestiynau.
Mae ymateb i adborth myfyrwyr yn bwysig er mwyn dangos i fyfyrwyr ein bod yn gwerthfawrogi eu barn a’n bod yn gweithredu ar adborth yn y Brifysgol. Mae Gwella Modiwlau hefyd yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i ystyried newidiadau y gallwch eu gwneud i’ch addysgu, neu i’r dull a ddefnyddir mewn modiwl. Mae sicrhau bod myfyrwyr yn gwybod beth sy’n digwydd o ganlyniad i’w hadborth yn annog ymgysylltu yn y dyfodol wrth i fyfyrwyr weld y gwerth mewn rhannu mewnwelediadau.
Mae cyfathrebu clir a gonest yn hanfodol i annog myfyrwyr i rannu eu barn. Dylai pob modiwl roi gwybod i’r myfyrwyr am brif ganlyniadau unrhyw gamau sy’n cael eu cymryd o ganlyniad. Mae’r un mor bwysig rhoi adborth am unrhyw feysydd na allant newid, a pham, ac mae profiad wedi dangos bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi hyn hefyd.
Disgwylir i adborth Gwella Modiwlau fod yn eitemau safonol ar yr agenda i Fyrddau Astudio eu hystyried a thrafod unrhyw gamau gofynnol.
Adolygu modiwlau a’r Bwrdd Astudiaethau
Yn flynyddol, dylai arweinwyr modiwlau fyfyrio ar sut y cynhaliwyd y modiwl y flwyddyn honno cyn adolygiad yn y Bwrdd Astudiaethau.
Mae’r meysydd i’w hystyried sy’n bwydo i mewn i adolygiad modiwl yn cynnwys:
- Adborth myfyrwyr (e.e. data gwella modiwlau, sylwadau a chamau gweithredu, nodiadau panel staff a myfyrwyr, neu gamau gweithredu o weithio gyda chynrychiolwyr)
- Canlyniadau unrhyw waith ysgoloriaeth neu arloesi sy’n berthnasol i’r modiwl
- Sylwadau’r arholwr allanol
- Deilliannau rhannu myfyriol
- Deilliannau cymedroli asesiadau
- Cyrhaeddiad myfyrwyr ar y modiwl, gan gynnwys proffiliau marciau a thueddiadau.
Mae’r dudalen we hon yn nodi rhai cwestiynau defnyddiol a allai fod o gymorth i ysgogi eich meddyliau wrth i chi adolygu modiwlau a sut rydych chi’n cyflwyno canlyniadau i’r Bwrdd Astudiaethau.
Pan fyddwch yn nodi newidiadau yr hoffech eu gwneud i’r modiwl, mae’n bwysig nodi p’un a ydynt yn dod o fewn y trothwyon newid y gall y Bwrdd Astudiaethau eu cymeradwyo, neu p’un a allai fod angen newid ar lefel y Brifysgol ar y rhain. Yn gyffredinol, gellir cymeradwyo newidiadau arferol i fodiwlau (e.e. mân ddiweddariadau i gynnwys, dull asesu a phwysoliad asesu, a gwybodaeth gyffredinol am ddisgrifiadau modiwlau) yn y Bwrdd Astudiaethau, ond efallai y bydd angen craffu ymhellach ar newidiadau eraill, yn enwedig pan fyddant yn ymwneud â modiwlau craidd neu ofynnol.
Dulliau o Wella Dysgu ar lefel rhaglen ac Ysgol
Ymateb i adborth o arolygon
Yn yr un modd â gwella modiwlau ar lefel modiwl, mae arolygon lefel rhaglen yn darparu ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth am brofiad myfyrwyr o raglen a’r profiad ehangach yn y Brifysgol a all lywio gwelliant dysgu ar draws rhaglen. Mae arolygon Caerdydd gyfan fel a ganlyn:
- Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr ar gyfer israddedigion blwyddyn olaf (cynhelir o fis Ionawr–Ebrill, canlyniadau ym mis Gorffennaf)
- Arolwg Ôl-raddedigion a Addysgir Prifysgol Caerdydd (CUPTS) (cynhelir yn y gwanwyn, canlyniadau ym mis Mehefin)
- Arolwg Profiad Ymchwil Ôl-raddedigion (PRES) (cynhelir ddwywaith y flwyddyn yn y gwanwyn, canlyniadau ym mis Mai)
- Arolwg Hynt Graddedigion (canlyniadau mis Mehefin, arolwg o raddedigion 15 mis ar ôl cwblhau’r cwrs)
- Cipolwg Caerdydd (arolygon â thema rheolaidd ledled y brifysgol drwy gydol y flwyddyn academaidd)
Ac eithrio Cipolwg Caerdydd, mae arolygon yn fesurau canlyniadau yn gyffredinol, sy’n dweud wrthym ‘pa mor dda y gwnaethom’ gyda grŵp penodol o fyfyrwyr. Serch hynny, gellir defnyddio’r canlyniadau i wneud gwahaniaeth sylweddol i fyfyrwyr presennol lle gallant lywio gwelliannau i ddysgu ac addysgu. I gael ysbrydoliaeth, gweler yr enghraifft hon gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL), lle cafodd sgoriau asesu ac adborth eu gwella 26% mewn tair blynedd: How we raised our NSS feedback and assessment scores by 26% in three years | Teaching & Learning – UCL student engagement – London’s Global University (Saesneg).
Mae Cipolwg Caerdydd, sy’n gweithredu yn ystod y flwyddyn, yn cynnig canlyniadau a all lywio ‘sut rydym yn dod yn ein blaenau’, gan wneud newidiadau a all wneud gwahaniaeth i fyfyrwyr presennol.
Adolygu’r rhaglen a’r Bwrdd Astudiaethau
Yn ogystal ag adolygu a newidiadau ar lefel modiwl, dylai’r Bwrdd Astudiaethau edrych ar draws rhaglenni astudio i ganfod gwelliannau a allai wella profiad y myfyriwr ar draws y rhaglen.
Mae gan y fewnrwyd ddigonedd o wybodaeth am fyrddau astudiaethau a’r hyn y gallant ei gymeradwyo a’u rôl yma. Edrychwch ar y dudalen i gael y wybodaeth ddiweddaraf os ydych yn arweinydd modiwl, arweinydd rhaglen neu gadeirydd byrddau astudiaethau. Pwynt hollbwysig i’w nodi yw y dylai bwrdd astudiaethau ystyried yr effaith y bydd unrhyw newidiadau i fodiwlau unigol yn ei chael ar y rhaglen gyfan, yn ogystal ag effaith gronnus unrhyw newidiadau blaenorol. Lle rhennir modiwlau gan raglenni neu ysgolion eraill (fel rhan o radd gydanrhydedd er enghraifft), bydd angen ystyried effeithiau newidiadau ar gyfer y rhain hefyd a rheoli a lliniaru risgiau. Ni ddylai newidiadau i fodiwlau byth gael eu hadolygu na’u cymeradwyo ar eu pen eu hunain, ond ystyried yr effaith ar y rhaglen bob amser. Rhai meysydd i’w hystyried wrth edrych ar y rhaglen yn ei chyfanrwydd fyddai (nid yw’n rhestr gynhwysfawr):
- A fydd symud dyddiad asesu yn arwain at glystyru asesiadau o fodiwlau eraill?
- A fydd newid dull asesu yn golygu bod gormod o un math o asesu?
- A yw’r newidiadau yn effeithio ar ddeilliannau dysgu’r rhaglen? (Byddai hyn yn gofyn am newid mawr)
- A fyddai newidiadau i bwysoliad neu gredydau yn effeithio ar strwythur y rhaglen ar gyfer rhaglenni cydanrhydedd neu raglenni eraill sy’n defnyddio’r modiwl?
- A yw’r newidiadau’n effeithio ar unrhyw gymeradwyaeth gan Gorff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio?
- Pa newidiadau sydd eisoes wedi’u cymeradwyo ar gyfer y rhaglen yn ystod ei hoes? Beth yw’r effaith gronnus?
- Pa fyfyrwyr neu grwpiau o fyfyrwyr a allai gael eu heffeithio gan y newidiadau, a sut bydd tegwch o ran profiad a deilliannau yn cael ei sicrhau?
Newidiadau mawr
Bydd angen proses gymeradwyo fwy helaeth a ffurfiol ar gyfer unrhyw newidiadau gofynnol i fodiwlau sydd y tu allan i’r rhai y caniateir eu cymeradwyo drwy fyrddau astudiaethau, yn debyg i’r hyn a ddefnyddir ar gyfer cymeradwyo rhaglen newydd. Mae’r broses yn dilyn y broses tri cham fel y’i hamlinellir yn y tudalennau ‘cwmpasu rhaglen‘ a ‘datblygu rhaglen‘ . Dylech ystyried yn ofalus a oes angen newidiadau mawr. A allech chi neu a ddylech chi aros nes bod yr ysgol yn cael ei hailddilysu? A ellid defnyddio mân newidiadau i fodloni’r materion a nodwyd gennych yn lle hynny?
Ailddilysu
Mae ailddilysu’n gyfle i’r holl ysgolion adolygu eu portffolio o raglenni er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas i’r diben yn strategol ac yn academaidd.
O’i weithredu ar amserlen dreigl, mae ailddilysu yn caniatáu ar gyfer adolygiad cyfannol o bortffolio ysgol a chyfle i fyfyrio ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn sydd angen ei wella. Y cyfnod cyntaf yw adolygiad cychwynnol o bortffolio’r ysgol ac yna adolygiad o raglenni a strwythurau unigol, a gynhelir gan yr ysgol a’r coleg.
Bydd yr adolygiad cychwynnol o bortffolio ysgol yn pennu pa raglenni fydd yn symud ymlaen i gyfnod dau a pha rai y gellir eu cyflwyno i’w dirwyn i ben os bydd angen.
Yng nghyfnod dau, bydd rhaglenni unigol yn cael eu hadolygu. Mae hwn yn gyfle i wneud newidiadau ar raddfa fawr i raglenni os oes angen, neu rai llai. Dylech adolygu perfformiad y rhaglen yn y gorffennol, data recriwtio, adborth myfyrwyr ac ati. Ymgynghorwch â myfyrwyr presennol a chynfyfyrwyr.
- Beth sy’n gweithio’n dda? Beth sydd angen ei wella neu ei ddiweddaru?
- A oes angen diweddaru’r rhaglen i gynnwys datblygiadau diweddar yn y ddisgyblaeth?
- A yw adborth myfyrwyr neu’r NSS wedi amlygu meysydd i’w datblygu neu eu gwella?
- A yw rhinweddau graddedigion yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y cwricwlwm?
- A allech chi wneud y rhaglen yn fwy cynhwysol?
- A oes cydymffurfedd â’r Gymraeg?
Mae’n bosibl iawn mai canlyniad ailddilysu cyfnod dau fydd ail-lunio rhaglen neu newid mawr – gweler adran un o’r pecyn cymorth ar gwmpasu rhaglen i gael rhagor o wybodaeth am y broses hon ac adran dau ar lunio rhaglen am ragor o gymorth ar y pynciau hyn.
Archwilio’n ddyfnach
Cyfeiriadau
Ashwin, P (2020) ‘Reflective Teaching in Higher Education’ London: Bloomsbury. Available at: https://www.vlebooks.com/Product/Index/1826737 [Accessed 14/10/2922]
Boucher, Duane a Piderit, Roxanne. (2017). Application of an Action Research Process: Reflections on an Undergraduate Information Systems (IS) Software Development Project (SDP).
Gibbs G (1988). ‘Learning by Doing: A guide to teaching and learning methods’. Oxford: Further Education Unit. Oxford Polytechnic.
Rhannwch eich adborth
Y camau nesaf
Rydych chi ar dudalen 4 o 4 o dudalennau'r broses datblygu addysg.
Y tudalennau blaenorol oedd Cwmpasu Rhaglen, Datblygu Rhaglen and Dylunio Dysgu a Pharatoi i Addysgu.
Archwiliwch dudalennau sy'n ymwneud â'r pynciau ar y dudalen hon: