Skip to main content

Trosolwg o’r Pecyn Cymorth a Sut i’w Ddefnyddio

Logo for the Education Development Toolkit | Logo ar gyfer y Pecyn Cymorth Datblygu Addysg

Sut i ddefnyddio’r Pecyn Cymorth

Nid yw’r pecyn cymorth wedi’i gynllunio fel deunydd darllen ‘o glawr i glawr’! Llywiwch i’r adran(nau) sydd o fwyaf o ddiddordeb neu ddefnydd i chi – fel themâu addysg trawsbynciol Prifysgol Caerdydd (cynwysoldeb, cynaliadwyedd a chyflogadwyedd) a’r egwyddorion addysg allweddol (e.e. profiadau dysgu difyr, asesu ac adborth, ac amgylcheddau dysgu effeithiol) neu i dudalennau sy’n canolbwyntio ar bedwar cyfnod (ail)gynllunio’r rhaglen, lle mae’r themâu a’r egwyddorion wedi’u hymgorffori’n llawn a’u cynrychioli gan ddefnyddio eiconau unigryw.


Dull y Pecyn Cymorth

Bwriad y fformat a’i destunau byr, blychau testun, rhestrau a dolenni yw eich galluogi i fynd at y pynciau a’r adnoddau sydd eu hangen arnoch yn gyflym ac yn hawdd ac i gyfuno negeseuon allweddol a phethau i’w cofio wrth eich cefnogi i wneud cysylltiadau rhwng y pynciau a’r themâu a gwmpesir yn yr adnodd. Mae’r cysyniadau, y syniadau, y modelau a’r cwestiynau trafod a gyflwynir yn y pecyn cymorth yn ddangosol, ac ni fwriedir iddynt fod yn rhagnodol nac yn gynhwysfawr mewn unrhyw ffordd. Gellir defnyddio’r ‘awgrymiadau defnyddiol’, y cwestiynau allweddol a’r nodiadau gwybodaeth fel ysgogiad i fyfyrio ac fel ffordd o amlygu arferion effeithiol y gallech fod am eu haddasu neu eu mabwysiadu.


Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer defnyddio’r Pecyn Cymorth

Globe

Awgrymiadau Defnyddiol ar gyfer Defnyddio’r Pecyn Cymorth

  • Ystyriwch pam rydych yn edrych ar y pecyn cymorth.Efallai fod gennych dasg benodol i’w chyflawni neu faes o ddiddordeb yr hoffech ddarllen amdano, neu efallai eich bod yn cymryd peth amser i ystyried eich datblygiad proffesiynol.
  • Rhowch nod tudalen i’r pecyn cymorth i ddod yn ôl ato yn nes ymlaen.
  • Cadwch lygad am batrymau yn iaith weledol y pecyn cymorth – caiff lliwiau, codau a chysyniadau eu hailadrodd i’ch helpu.
  • Mae adrannau archwilio’n ddyfnach yn rhai ‘clicio a datgelu’ – mae hyn yn golygu y gallwch chi gael mwy o fanylion pan fydd yn gyfleus i chi.
  • Chwiliwch am y botymau ‘Brig’ coch – bydd y rhain yn mynd â chi yn ôl i frig y dudalen i weld y brif ddewislen.

Cymeriadau’r Pecyn Cymorth

Cyfres o wynebau cartŵn mewn lliwiau llachar sy’n cynrychioli gwahanol ffyrdd o ddefnyddio’r pecyn cymorth. Mae’r testun yn darllen fel a ganlyn: SUT ALLA I DDEFNYDDIO’R PECYN CYMORTH? MAE ERIN YN DATBLYGU RHAGLEN NEWYDD Gallai Erin roi nod tudalen ar y dudalen hon. Gallai ddarllen y themâu a’r egwyddorion cyn dechrau. Yn ddiweddarach, gallai gyfeirio at y tudalennau ynghylch proses fel canllaw i hybu ei hyder. MAE ALI EISIAU GWELLA EI ARFERION ADDYSGU Gallai Ali archwilio egwyddorion datblygu addysg, neu'r dudalen themâu, i ystyried ble y gallai ganolbwyntio ei ymdrechion. Yna gallai edrych ar y tudalennau Dylunio Dysgu a Gwella Dysgu i ystyried ble i ddechrau. MAE DYLAN YN ADOLYGU CYNWYSOLDEB EI RAGLEN Gallai Dylan ddarllen y tudalennau cynwysoldeb. Wedi iddo wneud hyn, efallai yr hoffai fras ddarllen y tudalennau ynghylch proses i weld sut y gellir ymgorffori cynwysoldeb ar draws rhaglen er mwyn myfyrio ar ei raglen ei hun. Gellid gwneud hyn ar gyfer cynaliadwyedd a chyflogadwyedd hefyd. MAE FRANKIE YN CWBLHAU EU CYMRODORIAETH Gallai Frankie gyfeirio at hyn yn eu portffolio Cymrodoriaeth fel adnodd datblygiad proffesiynol parhaus y maent wedi rhyngweithio ag ef. Gallant naill ai ddarllen yn eu hamser eu hunain neu archwilio’r cod matrics i ddatblygu meysydd o ddiddordeb neu’r rhai sydd angen eu datblygu yn eu barn nhw.

Iteriadau o’r Pecyn Cymorth yn y dyfodol

Nid yw’r pecyn cymorth yn adnodd sefydlog: caiff ei ddatblygu a’i wella dros amser. Gallwch helpu gyda hyn trwy rannu eich barn am yr hyn sy’n gweithio’n dda, yr hyn y gellid ei wella, a pha feysydd eraill yr hoffech eu gweld yn y pecyn cymorth trwy’r ffurflen sydd wedi’i hymgorffori ar waelod pob tudalen (rydym wedi ei nodi’n uwch ar y dudalen hon fel eich bod chi’n gwybod beth rydych chi’n chwilio amdano!). Bydd hyn yn ein helpu i wneud gwelliannau a fydd o fudd i bawb.