Skip to main content

Trosolwg o’r themâu

Y themâu ysgogol ar gyfer y pecyn cymorth hwn yw cynwysoldeb, cyflogadwyedd a chynaliadwyedd, sy’n flaenoriaethau canolog yn yr Is-Strategaeth Addysg a Myfyrwyr.

Isod, fe welwch ddetholiad cynhwysfawr o dudalennau sydd wedi’u llunio i hybu eich dealltwriaeth o’r themâu hyn a pham y maent yn hanfodol i ddatblygiad addysg.

Ar y dudalen hon, mae yna ddewislen tudalen ar gyfer pob un o’r themâu. Mae trefn y tudalennau yn adlewyrchu dyfnder cynyddol. Os ydych chi’n dechrau ar y thema, mae’n debyg y byddwch chi’n cael y gorau o’r tudalennau hyn trwy roi nod tudalen ar yr adnodd hwn, ei ddarllen yn ei dro, a dychwelyd ato pan fydd amser yn caniatáu. Fel arall, neidiwch i dudalen sy’n gweddu i’ch gofynion presennol.

Yn ogystal â hyn, rydym wedi gweu’r nodiadau gwybodaeth isod (mewn lluniau), a ysgrifennwyd gan arbenigwyr sefydliadol, i dudalennau eraill ein pecyn cymorth: mae hyn yn golygu bod gennych arbenigwr wrth eich ochr o’r cychwyn cyntaf!

Awgrym Cynwysoldeb

Darlun o flwch glas gyda delwedd o bedair llaw mewn cylch.

Awgrym Cyflogadwyedd

Darlun o flwch coch gyda saeth yn pwyntio i'r gogledd-ddwyrain.

Awgrym Cynaliadwyedd

Darlun o flwch melyn gyda mantol.

Cynwysoldeb

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod diffiniad Hockings (2010, t1) o addysg gynhwysol, sy’n ‘cyfeirio at y ffyrdd y mae addysgeg, cwricwla ac asesu yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb.

Cyflogadwyedd

Rydym yn ystyried cyflogadwyedd megis galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r wybodaeth, sgiliau, profiadau, ymddygiadau, rhinweddau, cyflawniadau ac agweddau sy’n galluogi graddedigion i bontio’n llwyddiannus mewn ffyrdd sydd o fudd iddyn nhw, yr economi a’u cymunedau.

Cynaliadwyedd

Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn galluogi pobl i ddatblygu'r wybodaeth, y gwerthoedd a'r sgiliau i gymryd rhan mewn penderfyniadau am y ffordd yr ydym yn gwneud pethau'n unigol ac ar y cyd, yn lleol ac yn fyd-eang, a fydd yn gwella ansawdd bywyd nawr heb niweidio'r blaned ar gyfer y dyfodol.


Dewislen y dudalen Cynwysoldeb

  1. Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Caerdydd
  2. Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
  3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr
  4. Grymuso myfyrwyr i wireddu eu potensial
  5. Datblygu Meddyliau Cynhwysol
  6. Dylunio cyffredinol ar gyfer dysgu
  7. Hygyrchedd digidol
  8. Anabledd a Dyslecsia

Dewislen y dudalen Cyflogadwyedd

  1. Prif dudalen Cyflogadwyedd
  2. Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr
  3. Rhinweddau graddedigion
  4. Cymeradwyo ac ail-ddilysu rhaglenni
  5. Mewnosod Cyflogadwyedd o fewn y cwricwlwm

Dewislen y dudalen Cynaliadwyedd

  1. Prif dudalen cynaliadwyedd
  2. Addysgegau cynaliadwy
  3. Asesiadau cynaliadwy
  4. Astudiaethau achos cynaliadwyedd
  5. Cynaliadwyedd, Cyflogadwyedd a Menter: Partneriaethau mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy

Archwilio’n ddyfnach