Cymeradwyo ac ail-ddilysu rhaglenni
Yn rhan o’r broses o gymeradwyo ac ail-ddilysu rhaglenni, mae gofyn i ysgolion amlygu sut y mae rhaglenni newydd neu rai sydd wedi’u hail-ddilysu yn ceisio datblygu sgiliau cyflogadwyedd, rhinweddau graddedigion, a rhagolygon eu myfyrwyr at y dyfodol. Gellir cyflawni hyn drwy’r dysgu, addysgu ac asesu sy’n cael eu darparu yn y cwricwlwm, yn ogystal â thrwy gyfeirio myfyrwyr at weithgareddau allgyrsiol, ochr yn ochr â’u hastudiaethau.
Bydd gofyn i dimau’r rhaglen gwblhau adolygiad o Gyflogadwyedd a Rhinweddau Graddedigion yn rhan o’r broses hon. A hwythau’n aelodau o’r Is-bwyllgor Rhaglenni ac Ail-ddilysu (PARSC), mae Dyfodol Myfyrwyr yn gweithio gydag Ysgolion a thimau’r rhaglen er mwyn adolygu eu darpariaeth o ran cyflogadwyedd a chwblhau’r templed adolygu.
Gwyliwch y fideo rhagarweiniol byr i gael esboniad manwl o sut y gall Busnes Partnerscan eich cefnogi yn hyn o beth.
Mae gwefan neilltuol wedi’i chreu er mwyn cefnogi academyddion sy’n mynd drwy’r broses hon, a’u helpu i sicrhau bod pob agwedd ar gyflogadwyedd wedi’u cynnwys yn y dogfennau cyflwyno.
Mae’r wefan yn cynnwys y canlynol:
- Cyrchu’r Templed Adolygu Cyflogadwyedd a Rhinweddau Graddedigion
- Canllawiau ar sut i gynnal adolygiad cyfannol o’ch darpariaeth o ran cyflogadwyedd
- Gwybodaeth am Rinweddau Graddedigion
- Arweiniad a Chanllawiau ar sut i greu Map Rhinweddau Graddedigion fydd ar gael i fyfyrwyr ar ôl y broses gymeradwyo