Menter ac Entrepreneuriaeth
Tudalen Thema Cyflogadwyedd
Dechrau Arni gyda Menter ac Entrepreneuriaeth
Beth yw pwysigrwydd Menter ac Entrepreneuriaeth?
Yn yr ‘Is-Strategaeth Addysg a Myfyrwyr, Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Wedi’i hail-lunio yn dilyn COVID-19’ mae’r Brifysgol yn ymrwymo i wneud y canlynol:
- Darparu cyfleoedd estynedig i ddatblygu sgiliau menter ac entrepreneuriaeth, trwy fusnesau newydd a phrosiectau arloesol sy’n defnyddio ymchwil i ddod o hyd i atebion i heriau cymdeithas.
- Creu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu dinesig, sy’n gwella bywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru trwy leoliadau cymunedol, cydweithrediadau â Chaerdydd Creadigol, a chysylltu â mentrau ar raddfa fawr fel Syniadau Mawr Cymru.
I rai myfyrwyr, bydd y newid i fyd gwaith yn golygu cymryd rhan mewn rhaglen fusnes newydd neu fenter gymdeithasol. Mae cyflogwyr yn ystyried meddylfryd entrepreneuraidd hefyd fel un sy’n ychwanegu gwerth at ddatblygiad sefydliad. Felly, mae addysg menter ac entrepreneuriaeth yn rhan allweddol o’r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr. Yn y sector addysg, y diffiniadau sefydledig o addysg menter ac entrepreneuriaeth yw:
“Gellir diffinio menter fel creu a chymhwyso syniadau, sydd wedi’u gosod mewn sefyllfaoedd ymarferol yn ystod prosiect neu ymgymeriad… Mae’n cyfuno creadigrwydd, gwreiddioldeb, menter, creu syniadau, meddwl yn greadigol, ymaddasu, ymatblygaeth, adnabod problemau, datrys problemau, arloesi, mynegi, cyfathrebu a chymryd camau ymarferol.”
“Diffinnir Addysg Entrepreneuriaeth fel cymhwyso ymddygiadau, rhinweddau a chymwyseddau menter i greu gwerth diwylliannol, cymdeithasol neu economaidd. Gall hyn, ond nid bob tro, arwain at greu menter. Mae entrepreneuriaeth yn berthnasol i unigolion a grwpiau (timau neu sefydliadau), ac mae’n cyfeirio at greu gwerth yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector, ac mewn unrhyw gyfuniad o’r tri.”
Pedair Ffrwd Allweddol o Weithgarwch i Gefnogi Entrepreneuriaeth a Menter
Dechrau Busnes, Deori a Rhwydweithio
Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig gwasanaeth cyngor ar ddechrau a deori busnes, a gall hefyd gael ei ddarparu fel opsiwn amgen yn rhan o Flwyddyn ar Leoliad Proffesiynol.
Sgiliau a Meddylfryd Entrepreneuraidd
Mae Dyfodol Myfyrwyr yn cynnig sesiynau sgiliau o fewn y cwricwlwm. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, cysylltwch â'r Partner Busnes sy'n gysylltiedig â'ch Ysgol isod.
Archwilio’n ddyfnach
Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Phartner Busnes Dyfodol Myfyrwyr eich coleg:
- Jon Forbes, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, AHSS
- Llinos Carpenter, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, PSE
- Joanne Jenkins, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, BLS
Rhannwch eich Adborth
Next Steps
Rydych chi ar dudalen 3 o 6 ar y thema Cyflogadwyedd. Archwiliwch y lleill yma:
Profiad Gwaith, Lleoliadau a Gweithio gyda Chyflogwyr
Neu beth am thema arall?