Rhinweddau Graddedigion
Archwilio Priodoleddau Graddedigion y brifysgol a pham eu bod yn bwysig i lwyddiant ein myfyrwyr yn y dyfodol.
Mae’r Priodoleddau Graddedigion:
- Wedi’u comisiynu gan y Rhag Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr yn rhan o’r gwaith o ddatblygu Egwyddorion Llunio Rhaglenni.
- Wedi’u datblygu gan weithgor Grŵp Strategaeth Profiad Myfyrwyr (SESG), yn seiliedig ar rinweddau Gwobr Caerdydd, wedi’i ddiweddaru mewn ymgynghoriad ag Ysgolion.
- Wedi’u hymgorffori yn y Disgwyliadau Sefydliadol ar gyfer strwythur, dyluniad a darpariaeth y rhaglen.
Wrth ddatblygu rhaglenni newydd a gwneud newidiadau i raglenni presennol, bydd gofyn i ysgolion ddangos sut y maent wedi integreiddio’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu’r priodoleddau hyn trwy ddylunio eu rhaglenni.
Beth yw’r Priodoleddau Graddedigion?
Set o sgiliau a galluoedd trosglwyddadwy yw’r Priodoleddau Graddedigion y mae Prifysgol Caerdydd wedi’u datblygu mewn partneriaeth â myfyrwyr, academyddion a chyflogwyr. Bwriedir i’r priodoleddau hyn fod yn llinyn aur sy’n rhedeg trwy amser pob myfyriwr yng Nghaerdydd a gellir eu datblygu trwy eu hastudiaethau a thrwy gyfleoedd allgyrsiol yn eu Hysgol, ac ar draws y brifysgol ehangach. Trwy ddatblygu’r priodoleddau, byddwch yn cynyddu eich siawns o sicrhau cyflogaeth ar lefel graddedig fel dinasyddion byd-eang cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ymwybodol.
Mae’r fideo hwn yn rhoi cyflwyniad byr i’r Priodoleddau Graddedigion:
Mae trawsgrifiad fideo priodweddau graddedigion yma.
Priodoleddau Graddedigion Prifysgol Caerdydd yw:
![]() Cydweithredol |
![]() Cyfathrebwyr Effeithiol (CE) |
![]() Ymwybyddiaeth o Faterion Moesegol, Cymdeithasol ac Amgylcheddol (YoFMCA) |
![]() Meddwl yn Annibynnol a Beirniadol (MAB) |
![]() Bod yn Arloesol, Mentrus a Masnachol Ymwybodol (AMMY) |
![]() Myfyriol a Gwydn (MG)
|
Cyrchwch y delweddau eicon fel ffeiliau png yma os hoffech eu hychwanegu at unrhyw ddeunydd gwybodaeth, hyrwyddo neu farchnata ee llawlyfr modiwl
Cydweithredol
C1 Cyfrannu’n gadarnhaol ac yn effeithiol wrth weithio mewn tîm, a gwneud gwahaniaeth o’r cychwyn cyntaf
C2 Dangos brwdfrydedd a’r gallu i ysgogi eu hunain a dylanwadu’n gadarnhaol ar bobl eraill yn unol â chyfrifoldebau y cytunir arnynt yn dilyn cyfarfod
C3 Dangos parch at rôl pobl eraill a chydnabod cyfyngiadau eu sgiliau/profiad eu hunain

Cyfathrebwyr Effeithiol (CE)
CE1 Gwrando ar bobl eraill ac ystyried eu safbwyntiau
CE2 Cyfleu syniadau cymhleth yn effeithiol i amryw o gynulleidfaoedd
CE3 Cyfrannu at drafodaethau, negodi a chyflwyno’n effeithiol
CE4 Rhoi, derbyn a gweithredu ar adborth adeiladol
CE5 Cyfathrebu’n broffesiynol, gan gynnwys drwy eu proffiliau ar-lein a’u proffiliau cyfryngau cymdeithasol, a bod yn ymwybodol o sut y gallai eraill ddehongli geiriau a gweithredoedd

Ymwybyddiaeth o Faterion Moesegol, Cymdeithasol ac Amgylcheddol (YoFMCA)
YoFMCA1 Ystyried eu cyfrifoldebau moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol personol a phroffesiynol
YoFMCA2 Dangos gonestrwydd, dibynadwyedd a gallu personol a phroffesiynol
YoFMCA3 Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid a'u heffaith ar y gymuned. Cymryd cyfrifoldeb yn weithredol am hyrwyddo hawliau dynol, dathlu amrywiaeth ac ehangu cynhwysiant
YoFMCA4 Ymwybodol o'r argyfwng hinsawdd a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig Gweithredu fel dinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu â gwahaniaethau diwylliannol a'u gwerthfawrogi trwy brofiad ymarferol o wledydd eraill.
YoFMCA5 Cofio am yr argyfwng hinsawdd a nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig
YoFMCA6 Ymddwyn fel dinasyddion byd-eang, gan ymgysylltu a gwerthfawrogi gwahaniaethau diwylliannol trwy gael profiad ymarferol mewn gwledydd eraill.
Meddwl yn Annibynnol a Beirniadol (MAB)
MAB1 Adnabod, diffinio a dadansoddi materion a syniadau cymhleth gan feddwl yn feirniadol i werthuso ffynonellau gwybodaeth.
MAB2 Dangos chwilfrydedd deallusol a mynd ar drywydd gwybodaeth a dealltwriaeth newydd. Ymchwilio i broblemau a chynnig atebion effeithiol, gan fyfyrio ar lwyddiannau a methiannau a dysgu ohonynt.
MAB3 Ymchwilio i broblemau a chynnig datrysiadau effeithiol, myfyrio a dysgu o lwyddiannau a methiannau.

Bod yn Arloesol, Mentrus a Masnachol Ymwybodol (AMMY)
AMMY1 Creu syniadau gwreiddiol a defnyddio dull creadigol, llawn dychymyg a dyfeisgar o feddwl wrth ymateb i anghenion a phroblemau.
AMMY2 Cymryd yr awenau a chymryd camau gan ddilyn eu syniadau eu hunain a syniadau pobl eraill, cydbwyso’r risgiau a’r canlyniadau posibl a gwneud i bethau ddigwydd.
AMMY3 Bod yn hyderus wrth ddilyn llwybr gyrfa hyfyw a gwobrwyol mewn entrepreneuriaeth.
AMMY4 Deall sefydliadau, eu rhanddeiliaid a’u heffaith ar yr economi.

Myfyriol a Gwydn (MG)
MG1 Mynd ati’n bwrpasol i fyfyrio ar eu hastudiaethau, eu cyflawniadau a’u hunaniaeth.
MG2 Dangos gwydnwch, hyblygrwydd a chreadigrwydd i ddelio â heriau, ac yn barod i dderbyn newid. Adnabod a chyfleu eu sgiliau a’u dealltwriaeth, yn ogystal â’r wybodaeth sydd ganddynt, mewn ffordd hyderus ac mewn amryw o gyd-destunau.
MG3 Ystyried syniadau, cyfleoedd a thechnolegau newydd, adeiladu ar wybodaeth a phrofiad i wneud penderfyniadau gwybodus am eu dyfodol eu hunain.
MG4 Gosod nodau uchelgeisiol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, cynllunio’n effeithiol ac ymroi i ddysgu gydol oes.
MG5 Gosod nodau uchelgeisiol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol parhaus, cynllunio’n effeithiol ac ymroi i ddysgu gydol oes.

Pam mae Priodoleddau Graddedigion yn Bwysig?
Mae recriwtwyr graddedigion yn nodi bod gan fyfyrwyr yn aml gyfoeth o gyflawniadau a phrofiadau na allant eu mynegi yn eu cais nac yn ystod cyfweliad.
Mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi dangos bod ceisio rhagweld y dyfodol yn fusnes llawn risg. Yr hyn y gallwn ei ddweud gyda pheth sicrwydd yw bod dilyn gradd prifysgol yn ddi-os yn helpu graddedigion i ddatblygu sgiliau hanfodol a fydd yn eu paratoi ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae’r her yn aml yn ymwneud â’r myfyrwyr yn cydnabod ac yn mynegi eu sgiliau, a dyna lle mae echdynnu ac amlygu gwerth cyflogadwyedd graddau, asesiadau dilys sy’n adlewyrchu byd gwaith a chyfleoedd i ryngweithio â chyflogwyr (naill ai profiad gwaith allgyrsiol neu wedi’u gwreiddio yn y cwricwlwm), yn gallu helpu”. (What do Graduates Do?, 2023)
Mae gwreiddio’r Priodoleddau Graddedigion ym mhrofiad y myfyriwr yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu a gwella’r sgiliau a’r priodoleddau angenrheidiol y mae cyflogwyr yn gofyn yn fawr amdanynt. Bydd Wynebu Priodoleddau Graddedigion yn galluogi’r myfyriwr i nodi, cymhwyso a thrafod y rhain yn fwy hyderus yn ystod y broses recriwtio.
Bydd y Priodoleddau Graddedigion hefyd yn helpu i gyflawni un o’n blaenoriaethau strategol ‘Cyd-greu dyfodol’, lle mae’r Brifysgol yn ymrwymo i gynnig:
‘dysgu gydol oes hyblyg, wedi’i deilwra i’n myfyrwyr sy’n rhoi dewisiadau, llais a’r gallu iddyn nhw. Byddwn ni hefyd yn darparu gwybodaeth a sgiliau sy’n addas ar gyfer y dyfodol y gallan nhw eu defnyddio yn y byd go iawn i gyflawni eu dyheadau o ran gyrfa. Bydd ein myfyrwyr yn wydn, yn feirniadol, ac yn datrys problemau. Byddan nhw’n rhoi newid ar waith ac yn gwybod sut i gydweithio mewn byd sy’n ansicr a rhyngddisgyblaethol, sy’n cwmpasu sawl sector, ac sydd wedi’i ddigideiddio’.
Ble Gallaf Ymgorffori Cyfleoedd i Ymgorffori Priodoleddau Graddedigion?
Gan gydnabod bod myfyrwyr yn aml yn cydbwyso ystod o weithgareddau sydd yr un mor bwysig, gan gynnwys astudio, gweithio a chyfrifoldebau gofalu, mae’r Fframwaith Dyfodol Myfyrwyr yn cefnogi dau ddull eang o ymgorffori cyflogadwyedd:
- Trwy weithgareddau cwricwlaidd – cyflwynir y gweithgaredd cyflogadwyedd yn rhan o elfen sy’n cynnig credydau o raglen astudio’r myfyriwr (e.e. gweithgaredd cyflogadwyedd a ddefnyddir fel math o asesiad dilys ar gyfer modiwl, neu leoliad gwaith a wnaed yn rhan o flwyddyn ar leoliad proffesiynol)
- Trwy weithgareddau allgyrsiol – cyflwynir y gweithgaredd cyflogadwyedd y tu allan i’r elfennau sy’n cynnig credydau yn rhaglen astudio’r myfyriwr (e.e. cymryd rhan mewn gweithdy sgiliau, neu fynd i gyflwyniad gan gyflogwr).
Bydd llawer o’r priodoleddau eisoes wedi’u gwreiddio yn eich rhaglenni a’ch modiwlau, y cyfan y mae angen ei wneud yw eu hamlygu’n benodol i fyfyrwyr.
Mae y Map Tiwb Priodoleddau Graddedigion isod yn ganllaw syml sy’n rhestru rhai gweithgareddau cwricwlaidd y gellid eu haddysgu, eu hymarfer a/neu eu hasesu i hwyluso datblygiad pob priodoledd.
Mae Tîm Adnoddau Dysgu Dyfodol Myfyrwyr ar hyn o bryd yn datblygu cyfres o adnoddau ymarferol, gan gynnwys gweithgareddau, cynlluniau gwersi ac astudiaethau achos i gefnogi staff i wreiddio Priodoleddau Graddedigion yn eu dysgu, addysgu ac asesu, a fydd yn cael eu cynnwys yn y Pecyn Cymorth hwn dros y misoedd nesaf. Os ydych eisoes yn cyflwyno gweithgaredd neu asesiad sy’n datblygu un neu fwy o’r Priodoleddau Graddedigion yn llwyddiannus, a byddai gennych ddiddordeb mewn ei arddangos fel astudiaeth achos yn y Pecyn Cymorth hwn, cwblhewch y ffurflen fer hon.
Map Priodoleddau Graddedigion
Er mwyn cefnogi staff i wneud priodoleddau graddedigion a datblygu sgiliau yn fwy amlwg i fyfyrwyr, gall Dyfodol Myfyrwyr weithio gyda thimau rhaglen i ddatblygu Map Priodoleddau Graddedigion sy’n wynebu myfyrwyr. Datblygir y Mapiau hyn ar wefan sydd wedi’i theilwra i’ch rhaglen a’u dylunio i amlygu’n benodol i fyfyrwyr sut y gallant ddatblygu pob priodoledd trwy weithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol.
Cliciwch ar y ddelwedd isod i weld ystod o weithgareddau y gallech eu cynnwys ar gyfer pob un o Rinweddau Graddedigion:

Cewch chi fynediad at y trawsgrifiad o ffeithlun gweithgareddau rhinweddau’r graddedigion yma.
Gofyn am yr wybodaeth mewn fformat hygyrch
Os na all eich meddalwedd gynorthwyol ddarllen y ddogfen hon, gallwch chi ofyn am fersiwn hygyrch drwy e-bostio studentfutures@caerdydd.ac.uk gan grybwyll y Tîm Adnoddau Dysgu. Cofiwch gynnwys yr adnoddau cynorthwyol a ddefnyddiwch chi a’r fformat rydych chi ei eisiau.
Wedi’u hadeiladu ar wefan ffynhonnell agored, gellir defnyddio Mapiau Priodoleddau Graddedigion fel offeryn hyrwyddo i ddarpar fyfyrwyr mewn Diwrnodau Agored a Diwrnodau Cynnig. Gallant fod yn ddefnyddiol i Diwtoriaid Personol sy’n cefnogi trafodaethau sy’n ymwneud â gyrfa ac yn helpu i gyfeirio myfyrwyr at y gwasanaethau mwyaf perthnasol. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol wrth ddangos i randdeiliaid allanol sut mae eich rhaglen yn mynd i’r afael yn rhagweithiol â chyflogadwyedd a galw cyflogwyr, gan ddatblygu myfyrwyr â’r sgiliau a’r priodoleddau i lwyddo yn y byd gwaith.
Map Enghreifftiol o Rinweddau Graddedigion
Yn nodweddiadol, caiff Map Priodoleddau Graddedigion ei greu ar ôl cymeradwyo ac ailddilysu’r rhaglen, ond os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu Map ar gyfer eich rhaglen, cysylltwch â’ch Partner Busnes Coleg.
AHSS Jon Forbes ForbesJ3@cardiff.ac.uk
BLS Joanne Jenkins JenkinsJ6@cardiff.ac.uk
PSE Llinos Carpenter CarpenterL1@cardiff.ac.uk