Skip to main content

Symudedd Rhyngwladol

Tudalen Thema Cyflogadwyedd

Dechrau Arni gyda Symudedd Rhyngwladol 

Delwedd addurniadol. Mae myfyriwr benywaidd yn eistedd wedi croesi ei choesau ar graig lwyd gyda'i chefn at y camera. Mae'n syllu allan ar lyn glas heddychlon sy'n ffinio â mynyddoedd garw a choedwigaeth (Seland Newydd

Beth yw Symudedd Rhyngwladol?

Mae symudedd rhyngwladol yn cyfeirio at ble mae myfyrwyr yn gweithio neu’n astudio dramor fel rhan o’u profiad ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae amrywiaeth o ffyrdd y gellir ymgymryd â lleoliadau rhyngwladol a’u datblygu:

  1. Cyfleoedd cwricwlaidd:
    • Semestrau neu flynyddoedd academaidd o astudio dramor mewn prifysgol bartner ryngwladol
    • Blynyddoedd o waith neu ymchwil dramor fel rhan o flwyddyn hyfforddiant proffesiynol / blwyddyn mewn diwydiant
    • Cyfnodau tramor tymor byrrach yn cyfrannu at fodiwl / rhaglen benodol. Mae rhai enghreifftiau o’r rhain yn cynnwys lleoliadau meddygol dewisol dramor; prosiectau mapio haf Gwyddorau’r Ddaear; a theithiau maes rhyngwladol Biowyddorau.
  2. Cyfleoedd allgyrsiol:
    • Mae’r Tîm Cyfleoedd Byd-eang (rhan o’r Tîm Dyfodol Myfyrwyr ehangach) yn datblygu lleoliadau astudio, gwaith neu wirfoddoli allgyrsiol tymor byr. Cynhelir y rhain fel arfer dros fisoedd yr haf ac maent yn agored i bob myfyriwr israddedig.

Pam mae Symudedd Rhyngwladol yn Bwysig?

Yn yr ‘Is-Strategaeth Ryngwladol, Y Ffordd Ymlaen 2018-2023: Wedi’i Hail-lunio yn dilyn COVID-19’, mae’r Brifysgol yn ymrwymo i’r canlynol:

Buddsoddi mewn cyfleoedd byd-eang i’n myfyrwyr.

Parhau i annog pob un o’n myfyrwyr i fod â chysylltiad rhyngwladol trwy ddarparu cyfleoedd a chefnogaeth ragorol ar gyfer astudio, gweithio neu wirfoddoli mewn lleoliad rhyngwladol; yn benodol, bydd o leiaf 20% o’n poblogaeth myfyrwyr israddedig ddomestig wedi astudio, wedi gweithio neu wedi gwirfoddoli dramor am bythefnos o leiaf, neu wedi ennill profiad rhyngwladol sylweddol arall yn ystod eu gradd gyda ni.

Mae’r Brifysgol yn cydnabod manteision niferus ymgymryd â lleoliad rhyngwladol: er enghraifft, o ran gwell canlyniadau cyflogadwyedd; datblygiad personol; cyrhaeddiad academaidd. Fel y crybwyllwyd uchod, gall staff yn y Tîm Cyfleoedd Byd-eang o fewn Dyfodol Myfyrwyr weithio gydag ysgolion i drafod ymgorffori cyfleoedd rhyngwladol yn y cwricwlwm ac mae amrywiaeth o waith papur a chymorth ar gyfer y broses o ymwreiddio ar gael ar y fewnrwyd ac wedi’i chreu gan y Gofrestrfa.


Darparu Cyfleoedd Dramor 

Gweithio gyda staff Cyfleoedd Byd-eang yn Dyfodol Myfyrwyr i Greu Cyfleoedd Dramor 

Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi i ddarparu cyfleoedd symudedd rhyngwladol i’m myfyrwyr?  Gall staff Cyfleoedd Byd-eang ddarparu’r cymorth canlynol:

  1. Cyfleoedd cwricwlaidd:
    • Darparu enghreifftiau o arfer gorau ar draws y sefydliad; archwilio partneriaethau newydd neu bresennol posibl i gefnogi’r rhaglen; darparu gwybodaeth fanwl am y cyllid sydd ar gael i fyfyrwyr; esbonio prosesau ar gyfer hyrwyddo a rheoli’r cyfnod dramor wedi hynny. Sylwer: mae’n hanfodol hefyd ymgysylltu, a cheisio arweiniad, gan aelodau staff y Tîm Ansawdd Academaidd cyn gynted â phosibl wrth ddatblygu cyfleoedd cwricwlaidd dramor.
  2. Cyfleoedd allgyrsiol:
    • Darparu gwybodaeth am gyfleoedd presennol a’u hyrwyddo; darparu arweiniad ar gyllid i gefnogi cyfleoedd allgyrsiol academaidd dramor a arweinir gan ysgolion, gan gynnwys enghreifftiau o arfer gorau.

Polisïau a Gwaith Papur Hanfodol 

Edrychwch yma i weld y gwaith papur a pholisïau ategol ar gyfer Astudio Dramor a Lleoliadau.

Ewch i dudalennau'r Fewnrwyd Astudio Dramor, i ddod o hyd i'r dogfennau polisi a'r gwaith papur a ganlyn:

  • Polisi Astudio Dramor
  • Asesiad Risg o’r Ddarpariaeth ar y Cyd ar gyfer Cyflwyno Astudio Dramor
  • Templed Disgrifiad o Fodiwlau Astudio Dramor
  • Ffurflen Gais Partner Astudio Dramor
  • Cytundeb Dysgu ar gyfer Myfyrwyr Rhaglenni Cyfnewid Rhyngwladol

Ewch i'r tudalennau Mewnrwyd Lleoliadau, i ddod o hyd i'r dogfennau polisi a'r gwaith papur a ganlyn

Mae hyn yn cynnwys dolenni i:

  • Polisi Darpariaeth Gydweithredol
  • Ffurflen Asesu Risg ar gyfer cyflwyno Lleoliadau Lawrlwytho'r ddogfen
  • Canllawiau ar Asesu Risg Lawrlwytho'r ddogfen

Astudiaethau achos

Dyma nifer o enghreifftiau o sut mae symudedd rhyngwladol wedi cael ei gynnig ar draws ysgolion Prifysgol Caerdydd.

Mae'r Ysgol Cerddoriaeth wedi sefydlu Blwyddyn Astudio Dramor ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar raglenni BMus Cerddoriaeth gyda Blwyddyn Dramor a BA Cerddoriaeth gyda Blwyddyn Dramor. Mae myfyrwyr yn astudio cyfwerth â 120 credyd y flwyddyn mewn ystod o sefydliadau partner yn Ewrop, Awstralia, Canada, Hong Kong, Gwlad Thai ac UDA.  Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y myfyrwyr sy'n cymryd rhan yn y rhaglenni hyn wedi cynyddu'n gyson.

Ysgol y Biowyddorau, Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol Dramor

Mae gan Ysgol y Biowyddorau raglen Blwyddyn ar Leoliad Proffesiynol hirsefydlog.  Gall myfyrwyr gwblhau blwyddyn gyfan ar leoliad ymchwil neu ddiwydiant fel rhan o'r rhaglen hon, naill ai mewn sefydliad partner neu mewn sefydliad allanol. Mae'r Ysgol wedi cynllunio cyfres o ddogfennau cadarn i asesu risg a barnu addasrwydd academaidd y lleoliad. Mae’n cynnal cronfa ddata gynhwysfawr o gyrchfannau a gwesteiwyr lleoliadau blaenorol, sy'n golygu bod gan fyfyrwyr fan cychwyn wrth iddynt chwilio am leoliad addas. Mae asesu ar ffurf adroddiad ysgrifenedig ar ffurf papur gwyddonol, cyflwyniad poster wedi'i farcio gan staff academaidd, ac adroddiad gan westeiwr y lleoliad, yn gwerthuso perfformiad y myfyriwr mewn cyd-destun gweithle.

Yr Ysgol Meddygaeth, Lleoliadau Dewisol Dramor

Mae’r Ysgol Meddygaeth yn darparu cyfleoedd i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliadau dewisol ymarferol yn ystod blwyddyn 4 neu flwyddyn 5 dramor. Mae'r Ysgol yn rheoli'r broses ymgeisio a dethol myfyrwyr ac yn darparu arweiniad cynhwysfawr ar asesu risg, yn ogystal â hyfforddiant cyn-gadael i'r holl gyfranogwyr. Arweinir hyn gan aelod o staff academaidd, gyda chymorth gweinyddol yn cael ei ddarparu o fewn yr Ysgol. Mewn blwyddyn academaidd arferol, mae tua 200 o fyfyrwyr yn cymryd rhan.

Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth, Lleoliadau Ymchwil Allgyrsiol

Mae'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliadau tymor byr allgyrsiol mewn cyfleusterau ymchwil yng Nghanada, yr Almaen ac Awstralia. Mae'r cyfleoedd hyn wedi'u datblygu trwy gysylltiadau academaidd presennol.


Archwilio’n Ddyfnach 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Phartner Busnes Dyfodol Myfyrwyr eich coleg:

  • Jon Forbes, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, AHSS
  • Llinos Carpenter, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, PSE
  • Joanne Jenkins, Partner Busnes Dyfodol Myfyrwyr, BLS

Rydych chi ar dudalen 5 o 6 ar y thema Cyflogadwyedd. Archwiliwch y lleill yma:

Prif Dudalen Cyflogadwyedd

Rhinweddau Graddedigion<

Datblygu Gyrfa

Profiad Gwaith, Lleoliadau a Gweithio gyda Chyflogwyr

Menter ac Entrepreneuriaeth

Neu beth am thema arall?

Cynwysoldeb

Cynaliadwyedd