Beth a olygwn wrth gynaliadwyedd?

Tudalen thema Cynaliadwyedd
Wrth egluro ein ffordd o ymdrin â thema Cynaliadwyedd yn y Pecyn Cymorth hwn, mae angen i ni edrych ar rai diffiniadau.
Cynaliadwyedd
Gellir deall cynaliadwyedd mewn nifer o ffyrdd.
- Yng nghyd-destun cul dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Caerdydd, gallwn edrych i weld a allwn gynnal, neu reoli, arferion presennol, neu brosiectau newydd, e.e. A allwn ddarparu cymorth digonol i fyfyrwyr ddod o hyd i leoliadau gwaith? A allwn gynnal y broses o ddarparu adborth ystyrlon ac ymarferol ar asesiadau ffurfiannol i garfannau mawr?
- Gan gyfeirio at bryderon amgylcheddol: a ydym yn modelu arfer da sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol trwy gyfyngu ar faint yr ydym yn argraffu, neu drwy feicio i'r gwaith? A ydym yn annog ein myfyrwyr i ystyried y pryderon hyn?
- Yng nghyd-destun mwy cyfannol cynnal cydbwysedd rhwng systemau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol dros amser, deallwn fod cynaliadwyedd yn cyfeirio at ddyfodol ein planed a'n cymdeithasau. Gweler Tair Carreg Sylfaen Cynaliadwyedd isod.
Tair Carreg Sylfaen Cynaliadwyedd

Cyfeirir yn aml at ‘Dair Carreg Sylfaen Cynaliadwyedd':
1. Mae stiwardiaeth amgylcheddol yn cyfeirio at ein hamgylchedd ffisegol – y biosffer. Mae hyn yn cynnwys dŵr, ansawdd yr aer, ffrwythlondeb y pridd, ffynonellau bwyd a natur. Mae'n ystyried yr ecosystemau sy'n bytholi ein hamgylchedd ffisegol.
2. Mae effeithlonrwydd economaidd yn cyfeirio at safon byw pob system. Mae hyn yn cynnwys ystyried yn ofalus unrhyw gyfaddawdu amgylcheddol niweidiol a allai effeithio ar genedlaethau’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys arbed ynni, lleihau olion traed carbon a lleihau gwastraff. Y prif gysyniad ar gyfer cynaliadwyedd economaidd yw gwrthod prosesau byrdymor ac ystyried lles hirdymor y blaned.
3. Mae cyfrifoldeb cymdeithasol yn cyfeirio at drin pawb yn deg trwy sicrhau amhleidgarwch. Mae hyn hefyd yn cysylltu â chyfiawnder cymdeithasol, sy'n ystyried y modd y mae strwythurau cymdeithas yn cefnogi systemau cymdeithasol teg ac yn targedu materion sy'n rhwystro hyn. Mae hyn hefyd yn cynnwys cynnal iechyd a lles pobl a chymunedau.
Datblygu Cynaliadwy
Mae polisïau rhyngwladol a chenedlaethol o ddiwedd y 1980au wedi symud y ffocws oddi ar fudiad amgylcheddol a phryderon llygredd y 1970au, lle mai'r prif nod oedd gwarchod yr amgylchedd naturiol, tuag at 'ddatblygu cynaliadwy'.
Daw diffiniad a ddyfynnir yn aml o 'ddatblygu cynaliadwy' o adroddiad 1987 Comisiwn y Byd ar yr Amgylchedd a Datblygu (WCED), a elwir fel arfer yn Adroddiad Brundtland.
'Datblygiad cynaliadwy yw datblygiad sy'n diwallu anghenion y presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.'
Gweler Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig neu'r dudalen Pam Cynaliadwyedd? i gael gwybod rhagor am hyn.
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ADC)

Mae 'Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy' (ADC) wedi cymryd lle addysg amgylcheddol draddodiadol i raddau helaeth mewn polisïau a thrafodaethau academaidd.
Yn wahanol i addysg amgylcheddol, sy'n canolbwyntio mwy ar natur ac ecosystemau (ecocentrig), mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ESD) yn cymryd dull holistaidd sy'n canolbwyntio ar les dynol, gan gynnwys materion fel tlodi ac anghydraddoldeb cymdeithasol.
Mae ADC yn rhyngddisgyblaethol, sy'n golygu ei bod yn tynnu o feysydd astudio amryfal, ac yn pwysleisio sgiliau addysgu a meddwl yn feirniadol i helpu unigolion i gymryd camau ystyrlon tuag at greu cymdeithas fwy cynaliadwy.
Mae hefyd yn gofyn am ddehongli goddrychol, ac mae'n golygu llunio barn ar werth, gan ei bod yn delio â materion cymhleth a dadleuol yn aml.
Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ESD) yn cyd-fynd â golwg ar wybodaeth fel rhywbeth amlweddog, sy'n gweld gwybodaeth yn esblygu drwy ryngweithiadau ac yn cael ei siapio gan ein byd sy'n newid yn barhaus.
Gweler Canllawiau Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd/Advance HE, neu'r dudalen Pam Cynaliadwyedd? i gael gwybod rhagor am hyn.
Archwilio’n ddyfnach
Cyfeiriadau a Deunydd Darllen Pellach
Centre for Sustainable Futures (2008) ‘Sowing Seeds: How to make your modules a bit more sustainability orientated: A help guide to writing and modifying modules to incorporate sustainability principles’. Centre for Sustainable Futures, Prifysgol Plymouth. Ar gael yn: SowingSeeds20June2008.pdf (plymouth.ac.uk)
QAA Advance HE (2021) ‘Education for Sustainable Development Guidance: Executive Summary’ [ar-lein] The Quality Assurance Agency for Higher Education ac Advance HE 2021
QAA Advance HE (2021) ‘Education for Sustainable Development Guidance’ [ar-lein] The Quality Assurance Agency for Higher Education ac Advance HE 2021. Ar gael yn: Education for Sustainable Development Guidance (qaa.ac.uk) [Cyrchwyd ar 12/09/22]
Katja, B., Barth, M., Cebrián Gisela, Cohen, M., Diaz, L., Doucette-Remington, S., Weston, D., Geoffrey, H., Harré Niki, Meghann, J., Kealalokahi, L., Michel, J., Yoko, M., Rieckmann, M., Roderic, P., Walker, P. a Michaela, Z. 2021, ‘Key competencies in sustainability in higher education—toward an agreed-upon reference framework’, Sustainability Science, cyf. 16, rhif 1, tt. 13-29. Ar gael yn: Key competencies in sustainability in higher education—toward an agreed-upon reference framework – ProQuest
UNESCO (2017) ‘Education for Sustainable Development Goals: Learning objectives’. UNESCO. Paris, Ffrainc: UNESCO. Ar gael yn: Education for Sustainable Development Goals: learning objectives – UNESCO Digital Library [Cyrchwyd 12/09/22]
Wiek, A., Withycombe, L. a Redman, C.L. (2011) ‘Key competencies in sustainability: a reference framework for academic program development’. Sustain Sci 6, 203–218. Ar gael o: https://doi.org/10.1007/s11625-011-0132-6
Sobe, N. W. (2021) ‘Reworking Four Pillars of Education to Sustain the Commons’. UNESCO Futures of Education Ideas LAB. Ar gael yn: https://www.unesco.org/en/articles/reworking-four-pillars-education-sustain-commons
Sterling, S (2012) ‘The Future Fit Framework: An introductory guide for teaching and learning for sustainability in HE’. Centre for Sustainable Futures, Teaching and Learning Directorate, Prifysgol Plymouth. Cyhoeddiad yr Academi Addysg Uwch: Efrog. Ar gael o : future_fit_270412_1435_1568036756.pdf
Rhannwch eich adborth
Ble nesaf?
Rydych chi ar dudalen 1 o 4 ar y thema Cynaliadwyedd. Archwiliwch y lleill yma:
Gwreiddio Cynaliadwyedd mewn dysgu ac addysgu
Neu beth am thema arall?