Skip to main content

Pam Cynaliadwyedd?

Tudalen thema Cynaliadwyedd

Bydd y dudalen hon yn rhoi sylw i gyd-destun ein ffordd o ymdrin â Chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Caerdydd trwy edrych ar Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Canllawiau Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (2021) yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd/Advance HE, a ‘Phrifysgol Caerdydd: Ein dyfodol, gyda’n gilydd’, yn ogystal â’r ffyrdd y mae Cynaliadwyedd yn cysylltu â themâu Cynwysoldeb a Chyflogadwyedd.


Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o sicrhau bod Cymru’n dod yn lle mwy cynaliadwy a llewyrchus i fyw, gweithio a chwarae ynddo. Mae’r Ddeddf yn gosod fframwaith ar gyfer creu dyfodol cynaliadwy sy’n ystyried anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus yng Nghymru ystyried yn bwrpasol effaith hirdymor ei benderfyniadau, myfyrio ar y modd y mae’n gweithio gydag amrywiaeth o bobl, a gweithio gyda’i gilydd i fynd ati i atal problemau cyson megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a’r newid yn yr hinsawdd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn amlygu saith nod llesiant a fydd yn cefnogi’r cynnydd tuag at Gymru fwy cynaliadwy.

Image of Wales in a circle of the seven key well-being goals. This is then nested in the seventeen UN Sustainable Development Goals.
Image taken from futuregenerations.wales

Ochr yn ochr â’r nodau hyn, mae pum ffordd allweddol o weithio i’n cefnogi i gyrraedd y nodau hyn.

  • Edrych i'r hirdymor
  • Gweithredu mewn modd integredig
  • Cynnwys amrywiaeth o'r boblogaeth
  • Gweithio gydag eraill mewn ffordd gydweithredol
  • Gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, a fabwysiadwyd yn 2015, yn cynnwys 17 o nodau a gynlluniwyd i fynd i'r afael â heriau byd-eang megis tlodi, anghydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, diraddio amgylcheddol, heddwch a chyfiawnder. Mae'r nodau hyn yn rhyng-gysylltiedig ac yn anelu at sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i bawb.

[Development Goals are shown as rainbow-coloured blocks in an infographic. 1) No poverty represented by a thriving family. 2) Zero hunger represented by a steaming bowl of food. 3) Good health and well-being represented by a pulse. 4) Quality Education represented by a book and pen. 5) Gender Equality represented by gender symbols 6)Clean water and sanitation represented by a glass of water. 7) Affordable and clean energy. represented by a sun with a power on logo in the centre. 8) Decent work and economic growth represented by a bar graph. 9) Industry, innovation & infrastructure represented by blocks. 10) Reduced inequalities represented by an equal sign and a spinning circle. 11) Sustainable cities and communities represented by a cityscape. 12) Responsible consumption and production represented by an infinity symbol 13) Climate action represented by an eye with the world as its pupil. 14) Life below water represented by a fish swimming under water. 15) Life on land represented by a tree with birds flying in the distance. 16) Peace, justice and strong institutions represented by a dove on a gavel with an olive branch in its mouth 17) Partnership for the goals represented by interlocking circles.]

Mae'r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn adeiladu ar Nodau Datblygu'r Mileniwm, ac yn anelu at fynd ymhellach er mwyn rhoi diwedd ar bob math o dlodi. Maent yn cydnabod bod yn rhaid i’r gwaith o roi diwedd ar dlodi ac amddifadedd arall fynd law yn llaw â strategaethau sy'n gwella iechyd ac addysg, sy’n lleihau anghydraddoldeb, ac yn sbarduno twf economaidd. Mae’n rhaid i hyn oll ddigwydd ar yr un pryd â’r gwaith o fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd a diogelu ein cefnforoedd a'n coedwigoedd.

Mae gan brifysgolion ran i'w chwarae wrth greu cenhedlaeth o ddinasyddion gwybodus ac ymroddedig sy'n barod i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

Gall prifysgolion:

  • Amlygu arweinyddiaeth mewn cynaliadwyedd trwy fabwysiadu a hyrwyddo Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, a thrwy hynny gyfrannu at drawsnewid cymdeithasol tuag at gynaliadwyedd.
  • Addysgu arweinwyr y dyfodol, gweithwyr proffesiynol, a dinasyddion a fydd yn gweithredu ac yn eiriol dros arferion cynaliadwy.
  • Cynnal ymchwil a all arwain at atebion arloesol ar gyfer datblygu cynaliadwy.
  • Datblygu partneriaethau lleol a byd-eang â llywodraethau, busnesau, a sefydliadau nid-er-elw i roi arferion a pholisïau cynaliadwy ar waith.
  • Modelu cynaliadwyedd trwy eu gweithrediadau, er enghraifft, trwy leihau eu hôl troed carbon, hyrwyddo ailgylchu, a sicrhau arferion cyflogaeth teg.

Dangosir y berthynas rhwng Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a saith nod llesiant allweddol Cymru yn y ddelwedd isod.

A diagram that shows the relationship between the Well-being of Future Generations Act (Welsh Government 2015) and the Sustainable Development Goals (United Nations 2015). The UN goals are shown to lead to a prosperous, resilient, healthier, more equal Wales of cohesive communities.

Image above from Public Health Wales (PhW) (2019)

Wedi'i gyhoeddi ar y cyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ac Advance HE, nod y Canllawiau Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (2021) yw cefnogi sefydliadau addysg uwch i ymgorffori ADC yn eu cwricwla. Cawsant eu datblygu gan grŵp arbenigol o bob rhan o’r sector i helpu myfyrwyr i feithrin yr wybodaeth, y ddealltwriaeth, a’r sgiliau angenrheidiol i gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

Gwyliwch y fideo canlynol gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd i ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy.

[Bydd y fideo yn chwarae yn Saesneg]

Mae'r canllawiau’n pwysleisio'r angen am ymrwymiad strategol ar lefel sefydliadol. Mae hyn yn cynnwys integreiddio amcanion ADC mewn polisïau sefydliadol, prosesau dilysu cyrsiau, rhaglenni cynefino staff, a mecanweithiau sicrhau ansawdd.

Mae’r canllawiau hefyd yn amlygu pwysigrwydd ymgysylltu ag ystod amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys myfyrwyr, cyflogwyr, staff academaidd, ac aelodau’r gymuned, wrth gyd-greu profiadau dysgu sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd.

Yr hyn sydd fwyaf perthnasol i unigolion sy'n ymwneud â gwella eu hymarfer eu hunain yw'r enghreifftiau ymarferol a'r adnoddau yn y canllawiau, sy'n cynnwys astudiaethau achos, dulliau addysgu ac asesu sy'n cefnogi datblygiad cymwyseddau cynaliadwyedd.

Cymwyseddau ar gyfer Cynaliadwyedd:

Mae’r Canllawiau Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy yn rhoi disgrifiad clir o ‘gymwyseddau allweddol’ ar gyfer cynaliadwyedd UNESCO (gweler Rieckmann, UNESCO, 2018, tt.39-60). Crynhoir y rhain ar ein tudalen Ymgorffori Cynaliadwyedd mewn dysgu ac addysgu.

Gyrwyr ADC pellach gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd

Mae hefyd yn bwysig nodi bod holl Ddatganiadau Meincnodi Pynciau diwygiedig yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd bellach yn cynnwys cyfeiriad at Gynaliadwyedd neu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn rhan o Brosiect Gwella Cydweithredol, ‘Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy ac Ansawdd Academaidd’ gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd, i gefnogi’r broses o integreiddio a datblygu Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy gyda Darparwyr Addysg Uwch. Mae’r prosiect yn adeiladu ymhellach ar ganllawiau 2021, ac mae’n arbennig o werth archwilio’r atodiadau i’r adroddiad.

‘Byddwn ni’n gwella ein campysau, eu cynaliadwyedd, a’r profiad y mae pawb yn ei rannu o fod yma. Mae hynny'n golygu cymryd o ddifrif her y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth sy’n lleihau, mynd i'r afael â'n hôl troed carbon, gwella ein seilwaith gwyrdd, ac addasu ein hadeiladau i'n galluogi i weithio'n well gyda'n gilydd.’

Mae strategaeth 'Ein dyfodol, gyda'n gilydd' Prifysgol Caerdydd yn cefnogi Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ADC) yn gryf trwy wreiddio cynaliadwyedd yn ei hymchwil, ei haddysg, ei gweithrediadau, a’i hymgysylltiad cymunedol. Dyma rai o’r ymrwymiadau allweddol sy’n cyd-fynd â’n thema Cynaliadwyedd:

  1. Mynd i’r afael â Heriau Byd-eang

Mae 'Ein dyfodol, gyda'n gilydd' yn pwysleisio cynhyrchu gwybodaeth newydd i fynd i'r afael â heriau byd-eang sylweddol, megis y newid yn yr hinsawdd, colli bioamrywiaeth, cynaliadwyedd, a chyfiawnder cymdeithasol.

  1. Cynaliadwyedd a Dyfalbarhad

Mae'r strategaeth newydd yn integreiddio cynaliadwyedd ar draws y sefydliad, o ran gweithrediadau (e.e. datgarboneiddio a gwella seilwaith gwyrdd) ac addysg. Mae'r Brifysgol yn ymrwymo i feithrin graddedigion beirniadol, â digon o ddyfalbarhad, sy’n gallu datrys problemau, ac sy'n barod i weithio mewn amgylcheddau rhyngddisgyblaethol ac ansicr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws ADC ar ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r gwerthoedd gofynnol ar gyfer datblygu cynaliadwy.

  1. Cydweithio Rhyngddisgyblaethol

Mae Prifysgol Caerdydd yn bwriadu hyrwyddo ffordd ryngddisgyblaethol o weithredu, gan chwalu seilos rhwng disgyblaethau academaidd a meithrin cydweithio ar draws sectorau. Yn yr un modd mae ADC yn rhoi gwerth ar ddysgu rhyngddisgyblaethol er mwyn mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd cymhleth.

  1. Labordy Byw:

Mae 'Ein dyfodol, gyda'n gilydd' yn hyrwyddo'r defnydd o'r Brifysgol fel "labordy byw", er mwyn ymgysylltu â myfyrwyr, staff a phartneriaid i gyd-ddiffinio heriau a datblygu atebion, gan adlewyrchu pwyslais ADC ar ddysgu trwy brofiad, yn y byd go iawn.

  1. Effaith Gymdeithasol ac Ymgysylltiad Byd-eang:

Mae'r strategaeth yn amlinellu nodau ar gyfer symudedd cymdeithasol, ymgysylltu â'r gymuned, a phartneriaethau byd-eang sy'n cyfrannu at ddatblygu cynaliadwy yn lleol ac yn fyd-eang. Mae hyn yn cysylltu â nodau ehangach ADC o feithrin dinasyddiaeth fyd-eang a chyfrannu at ddyfodol cynaliadwy.

‘Mae’r strategaeth hon yn ymgorffori ein hymrwymiad i ddarparu byd gwell ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, sy’n amlygu o’r newydd ein hanes blaengar.’

‘Byddwn yn addysgu ein myfyrwyr mewn ffordd sy’n eu datblygu ymhellach i fod yn wydn, yn feirniadol, ac i allu datrys problemau. Byddant yn rhoi newid ar waith ac yn gwybod sut i gydweithio mewn byd sy’n ansicr ac yn rhyngddisgyblaethol, sy’n cwmpasu sawl sector, ac sydd wedi'i ddigideiddio.'

Sut y mae Cynaliadwyedd yn cyd-fynd â’r themâu allweddol eraill, sef Cynwysoldeb a Chyflogadwyedd?

Awgrym Cynwysoldeb

Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ADC) a chynhwysiant ym maes addysg uwch wedi’u cydgysylltu’n ddwfn, ac mae’r naill a’r llall yn ceisio creu dyfodol mwy teg a chynaliadwy.

Mae ADC yn hyrwyddo ffordd gyfannol o ymdrin ag addysg, sy'n cynnwys dimensiynau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Mae hyn yn cyd-fynd yn naturiol â chynhwysiant, gan ei bod yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried safbwyntiau a phrofiadau amrywiol wrth fynd i’r afael â heriau byd-eang.

Mae ADC yn eirioli dros fynediad teg i gyfleoedd dysgu sy'n grymuso pob unigolyn i gyfrannu at ddatblygu cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael â rhwystrau a wynebir gan grwpiau ymylol, a sicrhau bod cynnwys addysgol yn berthnasol ac yn hygyrch i boblogaethau amrywiol.

Mae ADC yn annog yr arfer o gynnwys safbwyntiau amrywiol yn y cwricwlwm, sy'n hanfodol ar gyfer meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o faterion cynaliadwyedd. Trwy integreiddio lleisiau a phrofiadau gwahanol gymunedau, gall sefydliadau addysg uwch greu amgylchedd dysgu mwy cynhwysol sy’n adlewyrchu natur gydgysylltiedig heriau byd-eang.

Nod ADC a chynhwysiant yw grymuso myfyrwyr trwy ddatblygu eu sgiliau o ran meddwl yn feirniadol, datrys problemau a chydweithio. Mae'r grymuso hwn yn hanfodol er mwyn galluogi myfyrwyr o bob cefndir i gymryd rhan lawn mewn ymdrechion datblygu cynaliadwy a chyfrannu atynt.

Mae ADC yn hyrwyddo dysgu rhyngddisgyblaethol, a all helpu i chwalu seilos ym maes addysg uwch ac annog cydweithredu ar draws gwahanol feysydd astudio. Mae’r dull rhyngddisgyblaethol hwn yn cefnogi cynhwysiant trwy roi gwerth ar ddisgyblaethau a safbwyntiau academaidd amrywiol, gan feithrin profiad addysgol mwy integredig a chynhwysol.

Mae ADC yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu â'r gymuned a phrofiadau dysgu yn y byd go iawn. Trwy gynnwys myfyrwyr mewn prosiectau a phartneriaethau cymunedol, gall sefydliadau addysg uwch hyrwyddo cynhwysiant trwy gysylltu myfyrwyr â chymunedau amrywiol a mynd i'r afael â heriau cynaliadwyedd lleol.

Awgrym Cyflogadwyedd

Mae heriau datblygu cynaliadwy yn gynyddol bwysig i fusnesau, ac mae llawer yn mynd i'r afael â'r materion hyn ar lefel y Bwrdd (Advance HE/Yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd 2021). Mae galw cynyddol am arbenigwyr yn y maes hwn wrth i gwmnïau geisio mynd i’r afael â heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd, ac ymateb iddynt. Ar ben hynny, mae tuedd gynyddol i sefydlu cwmnïau newydd sy’n bodoli’n unswydd i ymdrin â datblygu cynaliadwy, gan bwysleisio atebion cyfannol, hirdymor i broblemau cymhleth.

Mae'r newid hwn yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi bod myfyrwyr yn datblygu cymwyseddau a phriodoleddau Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (ADC). Mae'n gofyn am alluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd ADC trwy brofiadau dysgu dilys, a hwylusir yn aml gan bartneriaethau sy'n ymestyn y tu hwnt i'r sefydliad.

Mae graddedigion sydd â chymwyseddau cynaliadwyedd mewn sefyllfa well i fodloni gofynion esblygol y farchnad swyddi, lle mae cynaliadwyedd yn cael ei werthfawrogi fwyfwy.


Archwilio’n ddyfnach

Dawe, G., Jucker, R., and Martin, S. (2005). Sustainable development in higher education: Current practice and future developments. A report for the Higher Education Academy: York.

Future Generations Wales (2022) ‘Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015’. Future Generations Wales. Available from : https://www.futuregenerations.wales/about-us/future-generations-act/ [Accessed on 28/10/24]

Parkin, S., Johnson, A., Buckland, H. and White, E. (2004), Learning and Skills for Sustainable Development: Developing a Sustainability Literate Society, HEPS, London.

QAA and Advance HE (2021) ‘Education for Sustainable Development Guidance’. [online pdf] The Quality Assurance Agency for Higher Education and Advance HE 2021

Sterling, S (2001).  Sustainable Education.  Devon, England:  Green Books

Tilbury, D. and Wortman, D. (2004) Engaging People in Sustainability, IUCN – The World Conservation Union, Gland, Switzerland.

UNESCO (2020) Education for Sustainable Development: a roadmap. Available from: https://unesdoc.unesco.org/ark:/48223/pf0000374802.locale=en

UNESCO (2022) What you need to know about education for sustainable development | UNESCO

Welsh Government (2009) ‘One Wales: One Planet. The Sustainable Development Scheme of the Welsh Assembly Government’. Welsh Government publication. Available from: https://www.bridgend.gov.uk/media/1505/wd32.pdf [Accessed on 31/08/22]

Welsh Government (2019) ‘Wales and the Sustainable Development Goals: Supplementary Report to the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland Voluntary National Review of progress towards the Sustainable Development Goals 2030’. Welsh Government publication. Available from: https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-07/supplementary-report-to-the-uk-review-of-progress-towards-the-sustainable-development-goals-2030_0.pdf  [Accessed on 31/08/22]

Welsh Government (2021) ‘The Co-operation Agreement’. Welsh Government publication. Available from: The Co-Operation Agreement (gov.wales) [Accessed on 31/08/22]

Rydych chi ar dudalen 2 o 4 ar y thema Cynaliadwyedd. Archwiliwch y lleill yma:

Beth a olygwn wrth gynaliadwyedd?

Gwreiddio Cynaliadwyedd mewn dysgu ac addysgu

Astudiaethau Achos

Neu beth am thema arall?