Skip to main content

Cynaliadwyedd: iechyd meddwl a lles

Yma fe welwch astudiaethau achos yn ymwneud â Iechyd Meddwl a Lles gan Brifysgol Caerdydd.

Beth yw Therapi Derbyn ac Ymrwymo?
Mae therapi derbyn ac ymrwymo'n ddull gweithredu ymddygiadol sy'n seiliedig ar theori fframwaith perthynol. Mae'n pwysleisio derbyn profiadau mewnol, gwasgaru gwybyddol (pellhau oddi wrth feddyliau), egluro gwerthoedd, a gweithredu ymroddedig. Yn hytrach na cheisio rheoli, rhwystro neu ddileu meddyliau ac emosiynau gofidus, mae therapi derbyn ac ymrwymo’n hyrwyddo hyblygrwydd seicolegol - y gallu i weithredu'n unol â gwerthoedd rhywun er gwaethaf presenoldeb cyflyrau mewnol anodd. Y nod yw helpu unigolion i ddod yn fwy hyblyg yn eu ffordd o feddwl ac ymateb, er mwyn gallu ymdopi’n fwy effeithiol â heriau, a chymryd camau sy'n adlewyrchu'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw ac sy'n cyd-fynd â'u gwerthoedd craidd.

Pam fod sgiliau therapi derbyn ac ymrwymo yn bwysig i Fyfyrwyr Meddygol
I fyfyrwyr meddygol sy'n aml yn wynebu gofynion gwybyddol ac emosiynol uchel, mae therapi derbyn ac ymrwymo'n cynnig strategaethau'n seiliedig ar dystiolaeth i ymdrin â meddyliau ac emosiynau gofidus heb gael eu dal ynddyn nhw. Gall datblygu hyblygrwydd seicolegol leihau effaith gorbryder, hunanfeirniadaeth a straen yn gysylltiedig â pherfformiad drwy hyrwyddo ymatebion ymaddasol i heriau mewnol. Mae technegau sy'n seiliedig ar dderbyn yn cefnogi datblygiad personol cynaliadwy, ac yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer atal lludded a meithrin gwydnwch hirdymor mewn amgylcheddau pwysau uchel.

Astudiaeth achos
Gwahoddir pob myfyriwr sydd wedi cofrestru gyda My Medic i gymryd rhan yn y cwrs sgiliau therapi derbyn ac ymrwymo.

Ceir pedwar modiwl yn y cwrs, wedi'u cynllunio i gyflwyno chwe egwyddor graidd therapi derbyn ac ymrwymo. Cyflwynir y modiwlau ar-lein mewn grwpiau bach gyda dau diwtor, gydag un ohonyn nhw'n Seicolegydd Galwedigaethol. Mae llyfr gwaith yn cefnogi pob modiwl, sy'n helpu myfyrwyr i gofnodi eu myfyrdodau ar gynnwys y modiwl a chwblhau ymarferion unigol sydd wedi'u cynllunio i atgyfnerthu'r sgiliau, mewn ffordd bersonol.

Er nad darparu therapi yw bwriad y cwrs, mae'n cynnig offer ymarferol yn seiliedig ar therapi derbyn ac ymrwymo y gall myfyrwyr eu defnyddio'n annibynnol i feithrin set gynaliadwy o sgiliau ar gyfer trin heriau gwybyddol ac emosiynol, yn enwedig o fewn lleoliadau academaidd a chlinigol.

Cyflwyno'r cwrs:

  • Pedwar modiwl, a gyflwynir dros bedair wythnos, ar ddyddiadau a ddewiswyd i osgoi asesiadau academaidd.
  • Fe'i cyflwynir ar-lein, sy'n caniatáu mynediad i fyfyrwyr ar leoliad ledled Cymru ac ar draws grwpiau blwyddyn.
  • Cedwir maint y grwpiau'n fach (fel arfer 3–7 o fyfyrwyr) i annog trafodaeth a chreu amgylchedd dysgu cefnogol.

Gwerthuso ac Adborth: Gwahoddir myfyrwyr sy'n cofrestru ar y cwrs hefyd i gymryd rhan mewn astudiaeth werthuso sy'n defnyddio pedwar offeryn arolwg clinigol dilys i asesu effaith y rhaglen hyfforddi. Cesglir data cyn ac ar ôl y cwrs i werthuso canlyniadau a llywio gwelliannau yn y dyfodol, a cheir grŵp ffocws sy'n cynnig lle i gyd-fyfyrio. Mae arolwg dilynol ar ôl 12 wythnos yn helpu i asesu effeithiau tymor hwy.

Mae cymryd rhan yn y cwrs a'r astudiaeth yn gwbl wirfoddol, gyda myfyrwyr yn rhydd i dynnu'n ôl ar unrhyw adeg.

Adborth Myfyrwyr: Mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol. Mae myfyrwyr yn nodi ymwybyddiaeth gynyddol o batrymau meddwl annifyr a phrofiadau cadarnhaol wrth ddefnyddio sgiliau therapi derbyn ac ymrwymo i reoli sefyllfaoedd anodd. Byddai pob cyfranogwr yn argymell y cwrs i'w cyfoedion.

Rhannwyd y astudiaeth achos hon gan Liz Forty, Darllenydd mewn Addysg Feddygol.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen hyfforddi therapi derbyn ac ymrwymo neu ganlyniadau'r gwerthusiad cysylltwch â MyMedicLDU@caerdydd.ac.uk

Cefndir a Nod

Nod y Pasbort Iechyd yw galluogi myfyrwyr meddygol i gael sgyrsiau gydag unigolion allweddol yn y Brifysgol a'r GIG am eu hanghenion iechyd/anabledd ac addasiadau, yn enwedig yng nghyd-destun anghenion dysgu.

Gall dechrau sgyrsiau o'r fath fod yn anodd i fyfyrwyr ac mae'r Pasbort Iechyd wedi'i gynllunio i hwyluso'r sgyrsiau hyn. Mae'r pasbort Iechyd yn rhoi cofnod cyfredol i fyfyrwyr o'u haddasiadau ac unrhyw anghenion cymorth a allai fod ganddyn nhw. Mae'r pasbort yn lleihau'r angen i fyfyrwyr ailadrodd manylion eu cyflwr iechyd/anabledd a sut y gall effeithio arnyn nhw yn yr amgylchedd dysgu.

Beth yw'r Pasbort Iechyd?

Mae'r Pasbort Iechyd wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â chyflwr iechyd hirdymor a allai, ar ryw adeg yn ystod eu hastudiaethau, effeithio ar eu gallu i ddysgu ac astudio'n effeithiol.  Y ffocws yw grymuso myfyrwyr i'w helpu i reoli eu cyflwr eu hunain a rhannu gwybodaeth gyda phobl a allai fod angen gwybod amdano. Gyda'u Pasbort Iechyd gall myfyrwyr drafod gyda phwy bynnag maen nhw'n ei ddewis, er enghraifft timau israddedig, goruchwylwyr addysgol, tiwtoriaid/aseswyr, darlithwyr, tiwtoriaid sgiliau clinigol, hwyluswyr CBL, cyfarwyddwyr blwyddyn.

Cynlluniwyd y Pasbort Iechyd a'i gefnogi gan bobl sydd â chyflyrau hirdymor, myfyrwyr, addysgwyr, y Cyngor Meddygol Cyffredinol a'r Cyngor Ysgolion Meddygaeth. Y nod yw gwaredu neu leihau rhwystrau a galluogi dysgu mwy effeithiol i'n myfyrwyr.

Diben y Pasbort Iechyd yw:

  • disgrifio cyflwr y myfyriwr a'i effaith bosibl ar eu dysgu.
  • manylu ar addasiadau rhesymol y cytunwyd arnynt ar y cyd, boed yn y tymor byr neu'n hirdymor, a fydd yn caniatáu i'r myfyriwr ddysgu'n effeithiol.
  • disgrifio'r hyn y dylai tiwtoriaid/addysgwyr ei wneud os yw myfyriwr yn cael pwl o'r cyflwr, neu os yw’r cyflwr yn gwaethygu/heb ei reoli.
  • nodi'r bobl eraill y gallai fod angen cysylltu â nhw os bydd eu cyflwr yn newid.

Sut y cyflwynwyd y Pasbort Iechyd yn Ysgol Feddygol Caerdydd

Yn 2024/25, cyflwynwyd Pasbort Iechyd electronig sydd ar gael ar Pebble Pad i bob myfyriwr MBBCh sydd ag Addasiadau Rhesymol trwy Wasanaeth Anabledd Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

Mae pob myfyriwr sydd ag Addasiadau Rhesymol yn cael gwybod am y Pasbort Iechyd a sut i gwblhau a chael gafael ar eu Pasbort Iechyd.

Caiff y Pasbort Iechyd ei greu a'i gytuno ar y cyd gan y myfyriwr a'u cynghorydd yn Uned Datblygu Dysgu My Medic. Mae'r cynghorydd a'r myfyriwr yn cyfarfod i gael trafodaeth gyfrinachol a gwybodus. Dim ond gwybodaeth y mae myfyrwyr yn dymuno ei chynnwys sydd yn y Pasbort Iechyd, a'r myfyrwyr sy'n penderfynu gyda phwy maen nhw'n rhannu'r Pasbort Iechyd. Gall myfyrwyr ddiweddaru eu Pasbort Iechyd yn ôl yr angen gyda chefnogaeth eu Cynghorydd My Medic. Gall myfyrwyr rannu eu pasbort iechyd ar Pebble Pad naill ai drwy ddangos y pasbort iechyd i aelod o staff ar eu dyfais neu drwy anfon copi o'r ffurflen electronig drwy Pebble Pad/ebost at yr aelod o staff (e.e. staff y Brifysgol a/neu'r GIG).

Mae gwybodaeth am addasiadau rhesymol myfyrwyr yn dal i gael ei rhannu â'r brifysgol a'r timau lleoliadau perthnasol drwy'r broses arferol. Mae'r Pasbort Iechyd yn ffordd ychwanegol y gall myfyrwyr rannu'r wybodaeth. Mae'r Pasbort Iechyd hefyd yn galluogi myfyrwyr i ddarparu unrhyw wybodaeth gyd-destunol ychwanegol a allai fod yn ddefnyddiol i staff sy'n eu cefnogi fod yn ymwybodol ohoni.

Mae adborth y myfyrwyr wedi bod yn gadarnhaol. I ddechrau, doedd myfyrwyr ddim yn siŵr sut i rannu eu pasbort iechyd gyda staff, felly rydyn ni wedi darparu gwybodaeth ychwanegol am yr agwedd hon ar y broses i helpu myfyrwyr i deimlo'n fwy hyderus wrth rannu eu pasbort iechyd.

Rhannwyd y astudiaeth achos hon gan Liz Forty, Darllenydd mewn Addysg Feddygol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Pasbort Iechyd a'i werthusiad, cysylltwch â HealthPassportMedic@caerdydd.ac.uk

 

Cynnwys:

Mae cyfraddau problemau iechyd meddwl ymysg myfyrwyr yn parhau i gynyddu gyda niferoedd sylweddol o bobl ifanc yn y DU yn marw drwy hunanladdiad. Mae'r hyfforddiant hwn yn dechrau o'r safbwynt nad yw hunanladdiad yn anochel a bod modd ei atal gydag ymyrraeth amserol.

Mae 'Cadw’n Ddiogel: Ymwybyddiaeth o Hunanladdiad a Sgiliau Diogelwch' yn weithdy untro â'r nod o addysgu myfyrwyr meddygol blwyddyn gyntaf am y pethau a allai arwain at hunanladdiad, ac effeithiau hunanladdiad.  Mae hefyd yn dysgu dulliau ymarferol iddyn nhw allu cefnogi ei gilydd a chodi pryderon.  Nid yw hyn yn rhan o'r hyfforddiant clinigol, y bwriad yw darparu strategaethau a sgiliau a fydd o gymorth yn eu bywyd fel myfyrwyr.

Rhoddir arweiniad ar sut i sylwi ar arwyddion o afiechyd meddwl ynddyn nhw eu hunain a'u cyfoedion, a sgiliau sylfaenol ar gyfer helpu rhywun a allai fod yn profi meddyliau hunanladdol, o gychwyn sgwrs gyda'r person hwnnw, i ofyn yn uniongyrchol am feddyliau hunanladdol posibl, i'w cysylltu â chymorth priodol yn y brifysgol a chymorth meddygol.

Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu'r pynciau canlynol:

  • Mythau a ffeithiau ynghylch hunanladdiad
  • Gwydnwch emosiynol fel amddiffyniad yn erbyn problemau iechyd meddwl
  • Rhesymau a all achosi i fyfyriwr fod yn hunanladdol
  • Rhwystrau sy'n atal myfyriwr rhag cael yr help sydd ei angen
  • Ofnau sy'n atal pobl rhag helpu rhywun mewn perygl
  • Sut i gyflawni'r model EDRYCH - GWRANDO - CYSYLLTU
  • Deall yr arwyddion sy'n rhybuddio y gallai rhywun fod mewn perygl a difrifoldeb y risg
  • Sgiliau gwrando gweithredol
  • Cynnal hunanofal wrth gefnogi eraill

Cyflwyno ac Addysgeg:

Daw'r hyfforddiant o raglen seiliedig ar dystiolaeth a ddatblygwyd yn wreiddiol gan PIPS, elusen Atal Hunanladdiad yn Iwerddon, a chaiff ei gyflwyno i staff a myfyrwyr gan Ganolfan Bywyd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd.  Mae'r hyfforddiant wedi'i deilwra ar gyfer carfan o fyfyrwyr meddygol ac wedi'i gynnwys yn elfen graidd o gwricwlwm blwyddyn 1 ers 2022/23. Mae'r hyfforddiant yn cynnwys gweithgareddau grŵp a chwisiau, fideos, ystadegau a gwybodaeth gyfarwyddol glir mewn gweithdy hyfforddi dwy awr wyneb yn wyneb.  Caiff yr holl weithdai eu cyflwyno gan ddau hyfforddwr, gan sicrhau bod cefnogaeth ar gael i fyfyrwyr fel bo angen. Gallai myfyrwyr ddewis peidio â dilyn yr hyfforddiant am resymau personol. Dilynodd dros 90% o'r myfyrwyr yr hyfforddiant.

Roedd 100% o'r myfyrwyr yn teimlo bod yr hyfforddiant yn dysgu sgiliau defnyddiol ar gyfer cefnogi person sydd mewn perygl posibl o hunanladdiad
Roedd 100% o'r myfyrwyr yn teimlo eu bod wedi dysgu am yr opsiynau cymorth sydd ar gael i berson sydd â risg bosibl o hunanladdiad
Roedd 92% o'r myfyrwyr yn teimlo y gallen nhw gysylltu person sydd â risg bosibl o hunanladdiad â chefnogaeth yn dilyn yr hyfforddiant hwn
Dywedodd 94% o fyfyrwyr y bydden nhw'n argymell yr hyfforddiant i fyfyrwyr eraill

Rhannwyd y astudiaeth achos hon gan Liz Forty, Darllenydd mewn Addysg Feddygol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr astudiaeth achos, cysylltwch â MyMedicLDU@caerdydd.ac.uk