Skip to main content

Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd

Croeso i’r brif dudalen ar gyfer Cynwysoldeb.

Croeso i’r brif dudalen ar gyfer Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd. Gallwch ddefnyddio’r saeth yn ôl i ddychwelyd i’r brif ddewislen ar unrhyw adeg.

Cynwysoldeb yn y Pecyn Cymorth hwn

Awgrym Cynwysoldeb

Cadwch lygad am ein nodiadau gwybodaeth am gynwysoldeb mewn mannau eraill yn y pecyn cymorth. Mae'r rhain yn rhoi awgrymiadau ymarferol ar gynwysoldeb. Dyma sut y bydd yr awgrym yn edrych !

Dylunio Tudalennau Cynwysoldeb

Mae'r holl dudalennau Cynwysoldeb wedi'u cynllunio gan ddilyn egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Fe welwch gyfuniad o destun, fideo a delweddau, ynghyd â rhai pwyntiau ar gyfer myfyrio, enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos.

Gallwch ddewis darllen y testun, neu gael mynediad at fideo o'r un deunydd. Mae'r recordiad ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd fynychu gweithdy ar y pwnc: i gael gwybod mwy gweler y blwch DPP ar waelod y dudalen hon.


 Beth yw Addysg Gynhwysol?

Mae Prifysgol Caerdydd yn cydnabod diffiniad Hockings’ (2010, t1) o addysg gynhwysol sy’n ‘cyfeirio at y ffyrdd y mae addysgeg, cwricwla ac asesu yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno i ennyn diddordeb myfyrwyr mewn dysgu sy’n ystyrlon, yn berthnasol ac yn hygyrch i bawb. Mae’n cefnogi gweld yr unigolyn a gwahaniaeth unigol yn ffynhonnell o amrywiaeth a all gyfoethogi bywydau a dysgu pobl eraill.’

Mae Addysg Gynhwysol yn broses ddeinamig sy’n gofyn am ymrwymiad ar draws y sefydliad i drawsnewid diwylliant, prosesau ac arferion y brifysgol yn systematig, er mwyn goresgyn rhwystrau i bresenoldeb, cyfranogiad, cyflawniad a phrofiad pob myfyriwr, ac i gyfrif am a dathlu amrywiaeth gyfoethog y gymuned ddysgu.

I gael gwybod am ein fframwaith addysg gynhwysol ewch i dudalen Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol.

Map o bynciau

Isod mae map o’r pecyn cymorth a phynciau’r gweithdai, i’ch cynorthwyo i lywio. Bydd y rhain yn cael eu datblygu ac ychwanegu atynt mewn iteriadau o’r pecyn cymorth hwn yn y dyfodol:

 

 


Archwilio’n Ddyfnach

Good, C. Rattan, A. a Dweck, C.S. 2012. Pam bod merched yn optio allan? Ymdeimlad o Berthyn a Chynrychiolaeth Merched mewn Mathemateg. Journal of Personality and Social Psychology 102, 4 (2012), 700.
Hockings, C. 2010. Inclusive Learning and Teaching in Higher Education: A Synthesis of Research. York: Higher Education Academy. Ar Gael Ar-lein
Stentford, L. a Koutsouris, G. 2021. Beth yw addysgeg gynhwysol mewn addysg uwch? Adolygiad cwmpasu systematig, Studies in Higher Education, 46:11, 2245-2261 Ar gael ar-lein [dolen: https://librarysearch.cardiff.ac.uk/permalink/44WHELF_CAR/b7291a/cdi_informaworld_taylorfrancis_310_1080_03075079_2020_1716322]

Y Cynnig DPP Addysg Gynhwysol

Pecyn cymorth

Gallwch nawr fynd ymlaen i ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol trwy gyrchu'r tudalennau cysylltiedig ar bynciau penodol, a amlinellir yn y map isod, sy'n ymwneud â'r Fframwaith Addysg Gynhwysol. Ar ôl cyrchu'r dudalen hon, rydym yn argymell eich bod yn symud i'r dudalen Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol.

Gweithdai

Gallwch hefyd ddatblygu eich dealltwriaeth o Addysg Gynhwysol drwy fynychu sesiynau gweithdy sy'n ymwneud â phob pwnc. Gellir cymryd y gweithdai hyn drwy sesiwn wyneb yn wyneb fyw, os yw'n well gennych ddysgu rhyngweithiol cymdeithasol gyda'ch cyfoedion, neu gellir eu cwblhau yn eich amser eich hun, os yw hynny’n well gennych. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am weithdai, a'r ddolen i archebu yma.

Darpariaeth Ysgol Bwrpasol

Rydym yn cynnig cefnogaeth bwrpasol i Ysgolion ar Addysg Gynhwysol, drwy'r gwasanaeth Datblygu Addysg. Gall hyn fod yn ddefnyddiol i fynd i'r afael â phryderon lleol penodol, i uwchsgilio timau cyfan, neu i gefnogi'r broses cymeradwyo ac ailddilysu rhaglenni. Cysylltwch â Thîm Datblygu Addysg eich Ysgol am ragor o wybodaeth.

Isod mae map o'r pecyn cymorth a phynciau'r gweithdy, i'ch cynorthwyo. Bydd y rhain yn cael eu datblygu a'u hychwanegu atynt mewn iteriadau o'r pecyn cymorth hwn yn y dyfodol:

Rydych chi ar dudalen 1 o 9 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:

2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu 
7. Hygyrchedd Digidol

8. Anabledd a Dyslecsia

9. Myfyrwyr Rhyngwladd

Neu beth am thema arall?
Cyflogadwyedd
Cynaliadwyedd

Darllen Allweddol ar gyfer y dudalen hon

Hockings, C. 2010. Inclusive Learning and Teaching in Higher Education: A Synthesis of Research. York: Higher Education Academy. Ar gael ar-lein

 


Recordiad o’r dudalen hon (yn Saesneg yn unig):