Skip to main content

Pwy yw ein myfyrwyr

Dylunio Tudalennau Cynwysoldeb

Mae'r holl dudalennau Cynwysoldeb wedi'u cynllunio gan ddilyn egwyddorion Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu (UDL). Fe welwch gyfuniad o destun, fideo a delweddau, ynghyd â rhai pwyntiau ar gyfer myfyrio, enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos.

Gallwch ddewis darllen y testun, neu gael mynediad at fideo o'r un deunydd. Mae'r recordiad ar waelod y dudalen hon. Gallwch hefyd fynychu gweithdy ar y pwnc: i gael gwybod mwy gweler y blwch DPP ar waelod y dudalen hon.

Globe

Myfyrio

Pam ei bod yn bwysig gwybod nodweddion amrywiol eich carfan o fyfyrwyr?

Mae tirwedd newidiol addysg uwch wedi ei gwneud yn fwy arwyddocaol nag erioed i fyfyrio ar ein harferion er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth myfyrwyr amrywiol (Mathesion 2015). Mae gwybodaeth am hunaniaethau amrywiol, croestoriadol ein myfyrwyr yn hanfodol i’r ffordd yr ydym yn cynllunio, addysgu ac asesu ein cwricwlwm. Wrth gydnabod a deall amrywiaeth ein myfyrwyr a rhagweld y rhwystrau y gall myfyrwyr eu hwynebu tra yn y brifysgol, rydym yn sicrhau ein bod yn darparu cyfleoedd dysgu sy’n ddilys, yn berthnasol ac yn ystyrlon i bawb. 

Thema sydd wedi bod yn sail i ymchwil yw pwysigrwydd deall nodweddion amrywiol eich corff myfyrwyr drwy ymgysylltu â data perthnasol a chyfredol er mwyn mynd i’r afael â’r gwahaniaethau addysgol sy’n bodoli o fewn y sector addysg uwch. 

Mae defnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn seiliedig ar nodweddion amrywiol ein myfyrwyr yn sicrhau ein bod yn cael ein llywio gan ddata cywir yn hytrach na thybiaethau hen ffasiwn sydd gennym o bosibl am ein myfyrwyr, eu cefndiroedd, eu diwylliannau a’u profiadau. Pan fyddwn yn gosod y myfyrwyr yng nghanol y dysgu, rydym yn creu cwricwlwm sy’n cynrychioli, yn ymateb i ac yn adlewyrchu amrywiaeth ein holl fyfyrwyr, nid dim ond rhai grwpiau neu nodweddion. 

Globe

Adnodd

Mae’r Swyddfa Fyfyrwyr wedi creu'r adnodd cynhwysfawr hwn o ddata cydraddoldeb, amrywiaeth a nodweddion myfyrwyr.

https://www.officeforstudents.org.uk/data-and-analysis/student-characteristics-data/

Yn ogystal â deall ac ymateb i bwy yw ein myfyrwyr, mae’n bwysig i ni hefyd ddeall profiadau a chanlyniadau ein corff myfyrwyr amrywiol fel y gallwn gymryd camau i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau sy’n bodoli. Er enghraifft, mae llawer o sylw yn y sector wedi canolbwyntio ar fylchau dyfarnu rhwng gwahanol grwpiau ethnig, gan fod gwahaniaethau parhaus yng nghyfran y myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig sy’n cael graddau cyntaf neu 2:1 o gymharu â myfyrwyr gwyn, ac mae deall y dystiolaeth a dadansoddi’r data yn argymhelliad allweddol o ran cau’r bylchau hyn (UUK, 2019, 2021).   

Rydym felly wedi bod yn gweithio i wella ein hadroddiadau data, i’n helpu i ddeall ein myfyrwyr yn well a llywio ein harferion.  

 I gael gwybod sut i gyrchu a llywio ein data ym Mhrifysgol Caerdydd, cliciwch isod (staff yn unig).  

Globe

Tasg

Dewch o hyd i'ch data nodweddion myfyrwyr a chofnodwch nodweddion amrywiaeth eich myfyrwyr.

Gall staff Prifysgol Caerdydd ddod o hyd i'w data ar fewnrwyd y staff.

Myfyrdodau:

1. Beth mae eich data yn ei ddweud wrthych?

2. A wnaeth unrhyw beth eich synnu?

3. A yw hyn yn cyfateb i'ch gwybodaeth dybiedig o'ch corff myfyrwyr?

4. Beth mae hyn yn ei olygu i’ch addysgu?

Defnyddio personau i ddatblygu eich dealltwriaeth o fyfyrwyr 

An illustrative persona with an image of Tom, a fictional student, alongside his own words, background, motivation, attributes and attitudes.
Ffigur: Persona myfyriwr a ymrwymir wrth ddylunio cyfleoedd dysgu (Lilley, Piper ac Attwood 2015) 

Mae personas yn archdeipiau sy’n nodweddu anghenion, nodau, profiad technegol, gofynion hygyrchedd a nodweddion personol eraill grwpiau mwy o bobl (Lilley, Piper ac Attwood 2015). Er ei fod yn cael ei ddefnyddio’n aml yn flaenorol fel rhan o systemau gwybodaeth a datblygu technoleg dysgu, gall creu proffiliau neu bersonas myfyrwyr cyfoethog, ysbrydoledig, gan staff addysgu roi gwell dealltwriaeth i gydweithwyr o’r boblogaeth myfyrwyr, a nodi nodweddion allweddol i’w hystyried yn ystod cylch bywyd myfyriwr.  Sut allech chi a’ch tîm ddefnyddio personas i ystyried sut y gallech chi chwarae eich rhan wrth wneud addysg a phrofiad y myfyrwyr yn fwy cynhwysol? 

I gael gwybod mwy am bersonas, cyrchwch yr adnodd dysgu Xerte hwn

 


Ble Nesaf?

Addysg Gynhwysol: Mynegai’r Pynciau 

Rydych chi ar dudalen 2 o 9 o’r tudalennauthema Cynwysoldeb. Archwiliwch y lleill yma:

1..Cynwysoldeb a Fframwaith Addysg Gynhwysol Prifysgol Caerdydd

2.Cyflwyniad i Addysg Gynhwysol
3. Meithrin ymdeimlad o berthyn i bob myfyriwr;
4. Grymuso myfyrwyr i gyflawni eu potensial;
5. Datblygu meddylfryd cynhwysol
6. Dylunio Cyffredinol ar gyfer Dysgu 
7. Hygyrchedd Digidol

8. Anabledd a Dyslecsia

9. Myfyrwyr Rhyngwladd